Welsh Newspapers

Search 15 million Welsh newspaper articles

Hide Articles List

12 articles on this Page

Cysgodau y Blynyddoedd Gynt.

News
Cite
Share

Cysgodau y Blynyddoedd Gynt. GAN GWYNETH VAUGHAN. PENNOD XXII.—YNG NGWLAD YR AUR. YR oedd hi yn nos yn y dref brydferth a alwyd wedi hynny yn Frenhines y Gorllewin. Uwchben yn y wybren las ddigymylau, tywynnai y lleuad, edrychai mor ddoeth ac mor dawel ar ei gorsedd. Nis gwyddom ni, preswylwyr ynya fechan y Cedyrn, ddim am ogoniant y lleuad yng ngwlad California. Dawnsiai ei llewyrch ar wyneb tonnau'r mor tawelog nes peri iddynt ddangos mor hardd yr olygfa pan welir Y lloer yn ariannu'r lli." Mewn cornel o'r harbwl "-a grewyd yno gan natur o'r dechreuad, ac sydd oblegid hynny yn gymaint harddach-safai dyn ieuanc yn mwynhau yr awel dyner oedd wedi oeri er awr machlud haul, ar ei thaith o'r mynyddoedd i'r mor. Yma ni feddai y lloer neb i gystadlu a hi ond yn y ddinas bu dwylaw halog dynion yn adeiladu eu whisky saloons ymhob heol o'r bron, ac yn eu goleuo gystal ag y gallent yr adeg honno fel yn awr. Gwyddai y llanc ieuanc yn bur dda erbyn hyn am beryglon gwlad yr aur, ynghyda'i themtasiynau; nis hoffai ef y naill na'r Hall. Yr oedd gorfod gweithio yn eu mysg yn groes drom, ac nid rhyfedd felly iddo encilio i'r tawelwch ar ddiwedd y dydd. Ond ni fu ei hunan yn hir. Wele law ar ei ysgwydd, a llais yn siarad yn ei glust. Derfel, paham na ddeuwch i gael golwg ar y bobol ? Mae yma lu wedi dyfod drosodd o'r Hen Wlad. Feallai fod yn eu mysg rai wyddant rywbeth am gyfeillion i chwi fel iminnau. Dowch am dro hefo mi." Ysgydwodd Derfel Gwyn ei ben, ac ebe wrth ei gyfaill Mae Wood yn siwr o wybod y cwbl yng nghynt na neb arall, heblaw hynny gwell i mi gadw o'r golwg. Mae rhai o'r boys wedi gwybod am yr aur gefais i echdoe a gwyddoch, Will, faint yw gwerth bywyd dyn yn y fangre yma. Mae'r hinsawdd yn ardderchog. Ymha le ar y ddaear y ceir y fath leuad ogoneddus ? Yn wir, dyma bias daearol brenines Natur, dybygwn i; ond gwell gennyf fyddai bod yn hen ynys y gwlaw a'r cymylau o gryn lawer, a theimlo fod fy nghroen yn symol diogel bob dydd." Wel, Derfel, digon tebyg yw'm teimladau innau, o ran hynny ond rhaid cydnabod nad ydyw'n rhyfeddod fawr fod yma'r fath le anwaraidd pan ystyriwn gymaint o bob math o wahanol bobl o bob gwlad dan haul sy'n cyrchu yma, a llawer iawn ohonynt yn ddrwgweithredwyr cyn cychwyn oddicar- tref. Dyna pam y tyfodd cyfeillgarwch cydrhyngom ni ein dau, yn te, Derfel?—am ein bod yn bur debyg i'n gilydd mewn dygiad i fyny ac amgylchiadau. Lie mae f'ewyrth Wood heno ?" Dyna fel y gelwid Tasso Wood y sipsiwn gan y ddeuddyn ieuainc, ond nis gwyddent hwy mai sipsiwn oedd tybiai'r ddau ei fod yn hen gapten llong, a'r clefyd aur wedi gafael ynddo. Ond sipsiwn neu beidio, ni chafodd dynion ieuainc erioed well cyfaill na Tasso Wood, neu fel y 'galwai ef ei hun Thomas Wood y Prydeinwr. Onibae am ei ofal ef am Derfel Gwyn, anodd gwybod beth fuasai dyfodol y bachgen yn y wlad bell. heb un math o brofiad ynghylch bywyd ond hynny a gawsai fel aer etifeddiaeth y Plas- Ilwyd ac nid oedd hwnnw o werth yn y byd i fachgen yn gorfod gweithio ei ffordd mewn mwnglawdd fel llafurwr. Pan gyf- arfu William Meredydd a hwy, bachge oedd wedi ei fagu yn ddigon tebyg i Derfel Gwyn,—nid rhyfedd iddynt fyned yn gyfeillion, ac i'w hymdeimlad o'u rhwym- edigaeth iddo beri iddynt fod yn barchus iawn o Thomas Wood, a rhoddi iddo yr enw f'ewyrth, y ddau fel eu gilydd yn ddi- wahaniaeth. Mae f'ewythr yn siwr o fod yn troi a throsi ymysg y dynion. Gwyddoch na fydd byth yn yfed, dim ond cymeryd arno, eto mae'n byw yn yr hen saloons melltigedig yna gyda'r nos, ac mae'n siwr fod hynny'n talu iddo, neu nid aethai yn agos atynt." Dyn hynod iawn ydyw, Derfel, ond y mae wedi bod fel Rhagluniaeth i ni. Dowch, mi awn ni i chwilio am dano. Wn i ddim pam, ond mae arna'i eisieu gweld y tylwyth newydd sydd wedi croesi yma atom ni. 'Does berygl yn y byd, Derfel, mynd i ganol y boys, mae pob un ohonynt yn siwr o fod yn gwybod fod yr aur ymhell o fod hefo chwi. Mi fetiwn i mewn munud eu bod yn gwybod yr holl hanes gystal a ninnau. Mae'n syn sut y bydd pob hanes yn y saloons yna." Cymerodd Derfel Gwyn ei berswadio o'r diwedd, ac ymaith a'r ddau o'r gornel neill- tuedig oedd yn wynebu y cefnfor tawelog i ganol berw'r ddinas. Wedi cerdded tipyn yn ol ac ymlaen, troisant i adeilad lie y canfydd- ent lu o ddynion o bob cenedl, yn yfed pob math o wirodydd cymysgedig rhai ohonynt yn chwarae cardiau, ereill yn siarad â'u gilydd yn brysur yn eu gwahanol ieithoedd. Mewn cornel yng nghysgod y drws eisteddai I pedwar o ddynion,—pob un ohonynt yn y blouses cochion a wisgid gan y mwngloddwyr. Safai tri ereill nepell oddiwrthynt yn eu gwylio yn ddyfal. Yn ddiau, Yanci oedd un o'r tri, ac nis gallai neb cyfarwydd gamgym- eryd un arall ohonynt-un o breswylwyr Canada-y Ffrancwr, yr Americaniad, a'r Indiad fel pe wedi eu cyfuno yn ei wyneb a'r llall yn Ysbaenwr o'i goryn i'w sawdl. Syllodd Derfel a'i gyfaill arnynt am ennyd, yna megis mewn ufudd-dod i rywbeth nas gwyddent yn iawn o ba le y deuai y cymhell- iad, aethant allan yn ddistaw. Pe wedi aros munud yn rhagor, gallasent fod wedi deall am bwy yr ymholai y tri dyn oeddynt yn sefyllian ac yn gwylio y cloddwyr. Ond ymaith a hWy ar hyd ystryd arall, nes dyfod hyd at dy digon tebyg yr olwg arno i'r un un oeddynt newydd ei adael, ac yn hwn, er eu syndod, gwelent amryw Indiaid wedi ymwisgo yn dra rhyfedd yn ol dull y trappers, a Thomas Wood y Prydeinwr yn ymddi- ddan a hwy, ac yn ymddangos fel pe yn eu hanrhegu a chyflawnder o ryw fath o ddiod- y dwfr tanllyd bar y fath niwed i hen frodorion paganaidd. Gwelent fod rhyw ym- drafodaeth fasnachol yn myned ymlaen cydrhwng Thomas Wood a'r Indiaid, ac wedi hynny clywent ef yn eu cyfarwyddo tua'r iy yr oedd Derfel a Wil newydd gefnu arno. Wedi i'r Indiaid gychwyn allan, er syndod i'r ddau gyfaill clywent eu hewythr yn dechreu siarad Cymraeg gyda thwr o ddynion oeddynt yn ddiddadl yn newydd-ddyfodiaid i'r wlad euraidd. Holai hwynt i fyny ac i lawr, ac edrychai Derfel yn ddyfal tuag atynt, ond.'nis gwelai un wyneb yn eu mysg y tybiai ef iddo erioed ei weled o'r blaen. Ond dyna ei gyfaill yn gafael yn dyn yn ei fraich, ac yn dweyd yn ddistaw 0, Derfel, dyna ddau ddyn o'm hen gartref i. Yr wyf yn eu hadnabod yn dda. Rhaid i mi gael gair hefo'r dynion," a ffwrdd ag ef tuag atynt, cyn i Derfel allu yngan gair. Neidiodd un o'r dynion ar ei draed, a gwaedd- odd,- Mister William, Mister William, fel 'dwy byw. 0, syr, pwy fasa'n disgwyl y'ch gweld chi fan yma, a phawb yn chwilio am danoch chi ymhob man." Ust, Morgan, peidiwch a dechreu dweyd syr wrtha i nac arall yn y wlad yma. Gwlad y werin ydyw hon, a phawb yn gyd- radd yma. Gweithiwr wyf finnau yma, Morgan. Ond mae'n rhaid i chi fynd adre, Mister Will, gynta medroch chi, 'does dim eisio i chi neud yr un stroc o waith byth, ma' 'wyllys y'ch taid wedi 'i chael, i 'wyllys ola' fo, ac yno ma'ch lie chi, nid fan hyn." Safai Wil Meredydd fel dyn wedi ei syfr- danu, ac heb yngan gair trodd Thomas Wood ei olwg tua'r drws, a gwelodd Derfel. Y foment nesaf yr oedd yn ei ymyl, ac yn ei dynnu allan gydag ef heb ddweyd yr un gair. Ond wedi cyrraedd o dan yr awyr agored, sibrydodd ryw eiriau yn ei glust, ac ymaith a'r ddau nerth eu traed, heb droi ar dde nac ar aswy, nes cerdded tua milltir dda o gyff- iniau y whisky saloons. Aethant i mewn i dy preifat yn y fan honno, ac i fyny'r grisiau i ystafell fechan gysurus. Arhoswch chwi yma at i gyrchu Will," ebe Thomas Wood. (I barhau). --0--

Damwain.

Blodau.

Cyngerdd.

Carnival Gwrecsam.

Cwrdd Ordeinio.

Advertising

Colofn y Beirdd

Y LLYGAID.

MURMUR Y GRAGEN.

KANTIK AR BARADOZ.

Advertising