Welsh Newspapers
Search 15 million Welsh newspaper articles
8 articles on this Page
Ond na ddigalonwn.
Ond na ddigalonwn. Ond er mai cymharu yn anffafriol y mae y pulpud heddyw mewn amrai ystyron a'r hyn a fu, eto meiddiwn ddweyd mai ef ydyw y dylanwad cryfaf yn ein gwlad. Mae pobl- ogrwydd eithriadol yr eisteddfod ar ei brawf, ond mae poblogrwydd sasiynau Cymru wedi bwrw eu prentisiaeth. Yr hyn sydd bwysig ydyw iddo, wrth ymestyn at ragor- iaethau perthynol i'r amseroedd, beidio gollwng gafael o'i addurniadau pennaf yn y gorffennol. Nid newydd i neb ydyw clywed fod ysgol newydd o bregethwyr wedi ym- ddangos yn ein plith, a thuedd rhai ohoni ydyw esgeulnso os nad dirmygu y pethau hynny oeddynt yn elfennau nerth yn ein tadau. Gwendid mawr colegau pregethwr- ol Cymru ydyw nad oes yn yr un ohonynt un ag y gellid ei ystyried yn born preacher. Gwir fod ynddynt ddynion dysgedig, yn bregethwyr llafurus ac egniol, ond heb fod o'r dylanwad a foldia genhedlaeth newydd ar eu delw. Y golled drymaf gafodd ein gwlad ydoedd marwolaeth Thomas Charles Edwards Dyma bregethwr, a buasai wedi shapio llawer ar ei gynllun pe wedi byw. Er y rhaid i'r gwir bregethwr fod wedi dyfod oddiwrth Dduw, eto gallasai cadair mewn coleg a gwr cymwys yn eistedd ynddi helpio llawer i droi allan weinidogion a phregethwyr diamheuol. Peidiwn a digalonni, mae'r Nailer dwyfol wrth ei waith. Amlwg ydyw nas gall codi safonau, estyn hyd tymor prawf, amlhau yr arholiadau, nac ennill teitlau, sicrhau pulpud teilwng i'r ugeinfed ganrif. Mae y gwir bregethwr yn dod o bellach ffordd ac o amgenach lie na'r Cyfarfod Misol a'r Cwrdd Chwarter, a rhaid iddo fod wedi mynd drwy arholiadau yr Ysbryd ac ennill teitl Spurgeon, sef S.S.-Sinner Saved- cyn y medr dynion ddweyd wrth ei wrando Ni a wyddom mai dysgawdwr ydwyt ti, wedi dyfod oddiwrth Dduw." A great orator," meddai Cato, is just a good man skilled in speaking, but especially a good man." Ni bydd holl addurniadau'r pulpud ond blodau'r bedd heb lygad syml a chalon lan a buan y gwel hyd yn oed cynulleidfa ddieithr drwy bob cochl rhagrith a fo'n amddifad o lygad a chalon felly.
Yn Ynys Mon ac Arfon
Yn Ynys Mon ac Arfon [GAN BETHMA.] Pwllheli. GWR ag sydd wedi gwneud llawer gyda dirwest ydyw y Parch. D. E. Davies er's blynyddau, ac yn ddiweddar mae wedi cychwyn cymdeithas yn erbyn ysmocio. Ofnaf na fydd llawer o lwyddiant ar yr achos gan fod rhif yr ysmygwyr mor lliosog. Gwaith annodd fydd cael yr hen rai i'w roddi fyny, ac anhawddach fydd cael rhai ieuainc i beidio dechreu. Beth, tybed, ddywed y rhai sydd yn gwerthu baco'r achos ? Sonir am i bregethwyr a diaconiaid fod yn llwyr-ymwrthodwyr oddiwrth y diodydd meddwol. A ofynnir iddynt hefyd, tybed, i fod yn wrth-ysmygwyr ? Amlwg yw y carai y Parch. D. E. Davies iddynt fod. Ond y peth tebycaf ydyw, pan fydd yn cynnal cyfarfodydd perthynol i'r gymdeithas, y bydd ereill yn ysmocio. Gallwn feddwl fod y Parch. J. Puleston Jones, M.A., yn gefn- ogydd aiddgar i'r gymdeithas. Mae beirdd a llenorion y dref yn teimlo dyddordeb yn yr ysgrifennu sydd ar farnu'r adrodd. Bydded iddynt gael doethineb rhag gwneud cyfeiriadau rhy bersonol. Bangor. Bu dadl frwd yn y Cyngor Trefol yr wyth- nos hon. Ymddengys fod angen un i gyn- orthwyo yn ysbyty y ddinas. Amser yn ol rhoddwyd yr awdurdod i ddewis un, pan fyddai lie gwag, i'r brif weinyddes ond yn awr teimla y Cyngor mai hwy ydyw y rhai doethaf i wneud hynny. Nid wyf yn credu mai'r brif weinyddes sydd yn yr ysbyty yw'r gymhwysaf i benodi un i fod yn was yn swyddfa cyfreithiwr, ac nid wyf ychwaith yn tybio mai cyfreithiwr ydyw y goreu i benodi gweinyddes i ysbyty. Parhaodd y ddadl yn hir, a'r diwedd fu penderfynu cymeryd yr awdurdod i'w llaw eu hunain. Am hynny bygythia y brif-weinyddes ym- ddiswyddo. Mae wedi gwasanaethu y Cyng- or am flynyddau yn gymeradwy iawn. Telid teyrnged uchel i'w chymhwysterau yn ystod y ddadl. Llanfair P.G. Adeiledir ty newydd i'r gweinidog, y Parch. W. J. Williams, gan eglwys y M.C. yn y lie hwn. Bwriedir cynnal nodachfa er cael cynhorthwy i dalu am dano. Nos Sadwrn cynhaliwyd prawf-gyngerdd pwysig. Yr oedd y pwyllgor wedi sicrhau yr holl wobr- wyon gan ewyllyswyr da i'r achos. Disgwylid Mr. John Jones, Llwynonn, i lywyddu, ond nis gallodd fod yn bresennol. Hysbysodd y gweinidog ei fod wedi anfon ugain punt at amcan y cyngerdd. Go dda, yn te ? Da gennyf ddeall y cafwyd oddeutu ugain punt arall oddiwrth y te y prydnawn a'r cyngerdd. Unawd i rai dan 20 oed (5 /-).—Goreu, Miss Annie M. Hughes, Llanfair. Ymgeisiodd nifer ar y prif unawd o hen gantorion adna- byddus ac enwog. Yr oedd y wobr a gyn- hygid yn 30 Y goreu oedd Mr. Evan Lewis, Capel Currig, am yr hwn y dywedodd y beirniad, Fod ei lais yn glir fel arian, ac yn loew fel grisial," &c. Rhanwyd y wobr o 30/- am y ddeuawd rhwng Mr. Lewis a'i gyfaill, Mr. R. Radford Jones, Caernarfon a Mrs. Henderson Jones a Mr. A. Henderson, Talsarn. Yr oedd cewri o ddatganwyr yn y ddwy gystadleuaeth. Parti Mr. Will Roberts, Bangor, enillodd y £1 am bedwarawd a pharti Mr. Owen Jones, Llanfair, oedd yn teilyngu y 91 am ddatganu dwy don. Enill- wyd y wobr o 7/6 am adrodd gan Minnie Gould, Felinheli,—geneth fechan 8 oed. Synnai pawb at ei gallu. Glyn Hefin, Waenfawr, oedd y buddugol ar y prif-adrodd- iad, am yr hyn yr oedd 15 o wobr. Yr oedd y canu a'r adroddyn uwchraddol,acnidgwaith hawdd oedd gwahaniaethu rhwng cynnifer Q rai mor wych. Mr. Joseph G. Thomas, G. & L., Cwmyglo, a Deiniol Fychan, oedd y beirniaid-y diweddaf hefyd yn arwain. Mr. J. H. Jones, Llanberis, oedd y cyfeilydd. Nid gwaith rhwydd oedd cyfeilio i unawdau, &c., mor anodd a chlasurol, ond gwnaeth Mr. Jones er boddlonrwydd cyffredinol. Amlwch. Selog a ffyddlon ydyw y Bedyddwyr yma, dan arweiniad y Parch. J. Richards. Nos Fercher ddiweddaf, gwasanaethai Miss Mary King]: Sarah, Miss Ellen Jones, Bangor, Miss Ellen Perry, Bangor, a Mr. Arthur Davies, Cefnmawr, mewn cyngerdd, a'r elw at yr achos. Gyda'r fath dalentau, cafwyd gwledd gerddorol. Addawyd anfon manylion i mi gan na wnaed, na feier fi.
--0--COEDLLAI.
--0-- COEDLLAI. CYNHALIWYD cyfarfod cyhoeddus Undeb Eglwysi Rhyddion Coedllai a'r cylch nos Fercher, Medi 4, yng nghapel y Wesleaid Cymreig. Mae ymgais wedi ei wneud i gynnal cyfarfod cyffelyb yn rheolaidd ar y nos Fercher cyntaf ymhob mis, ond oherwydd amgylchiadau nad oedd gan Gyngor yr Eglwysi Rhyddion lywodraeth arnynt, meth- wyd cario hynny allani ond yn achlysurol. Cafwyd amryw gyfarfodydd llwyddiannus, ac nid oedd y cyfarfod hwn yn ol iddynt yn hytrach, rhagorai arnynt mewn rhai pethau. Yr oedd yn fwy poblogaidd, gwres- og, ac amrywiol. Llywyddid gan Mr. David Jones, Harts- heath Gardens yr hwn sydd yn llywydd y Cyngor y flwyddyn hon. Gan fod y Parch. David Morris o Fagillt wedi dyfod i'r cylch, cymerwyd y cyfleustra i'w groesawu ef a Mrs. Morris i'n plith. Yr oedd yn Ilawen gan bawb eu gweled yn bresennol yr oedd eu clodydd wedi dyfod o'u blaen. Anerchwyd y cyfarfod gan Mri. David Jones (A.), T. G. Jones (B.), Thomas Jones (W.), a William Roberts (W.), yr hwn sydd yn un o swyddogion hynaf, os nad yr hynaf, eglwys y Wesleaid yn y lie. Hefyd y Parchn. I. Ivor Jones (M.C.), E. Bithel (M.C.), a darllennodd y Ilywydd lythyr dymunol oddiwrth y Parch. Thos, Jones, (M.C.), Coedllai, yn datgan ei ofid oherwydd nas gallai fod yn bresennol, gan fod iddo ymrwymiad blaenorol. Amlygodd yr oil o'r brodyr hyn eu Ilawenydd o gael Mr. Morris i'r cylch, a chredent y gwnai waith mawr i Grist, ac y byddai o fendith yn yr ardal. Yr oedd hefyd yn bresennol swyddogion* ac aelodau Cymdeithas Ddirwestol y Chwiorydd, Dywedwyd gair ar ran y Gymdeithas gan Mrs. D. Jones, Hartsheath Gardens Mrs. Hop- L wood, Wylfa a Mrs. E. Bithel,—yr oil yn datgan eu Ilawenydd o gaol Mrs. Morris i Goedllai credent y byddai yn fantais fawr i achos sobrwydd, ac y byddai Mrs. Morris yn gynhorthwy arbennig i'r Gymdeithas. Rhoddodd y llywydd ddeheulaw cymdeithas i Mr. a Mrs. Morris yn enw Eglwysi Rhyddion Coedllai a'r Cylch, gan ddymuno pob bendith iddynt hwy a'u teulu, ac ar iddynt gael eu gwneud yn fendith i eneidiau lawer. Atebwyd mewn modd tyner gan Mr. Morris, gan gyfeirio yn neilltuol at gared- igrwydd Cymdeithas y Chwiorydd yn estyn iddynt y fath groeso. Teimlai eisoes fel wedi cael cartref, er mewn lie dieithr. Yna cafwyd anerchiad gwresog gan y Parch. D. Morris. Diolchai o galon am y croesawiad ydoedd ef a'i deulu wedi ei gael. Yr oedd wedi dyfod yma i weithio, yn bartner yn y concern, yr oedd yn awyddus i wneud yr oil a allai er llwyddo teyrnas Iesu Grist. Nid oedd wedi dyfod yma i broselytio byddai yn dda gan ei galon weled pob un oeddynt yn myned i unrhyw le arall. Nid oedd ef yn dymuno gweled yn ei eglwys neb oedd wedi digio wrth eglwys arall roddai ef ddim croeso i'r cyfryw. Nid oedd chwaith eisieu gweled yr un o'r rhai hynny a ffoent rhag disgyblaeth. Yr oedd achos cwyno yng Nghymru oherwydd parodrwydd eglwysi i dderbyn y cyfryw. Datganwyd yn ystod y cyfarfod gan* Mr. A. Ll. Evans a'i barti Mr. R. Prydderch a'i barti Miss Davies, Council Schools, gyda chor o blant bach tlysion a glan Mr. W. Jones, Pontybodcin a Master Glyn Wilcock. Cafwyd cyfarfod rhagorol ymhob ystyr. Disgwylir yn fawr y caiff Cyngor yr Eglwysi Rhyddion fwy o gefnogaeth yn y dyfodol, ac y bydd dyfodiad Mr.Morris i'n plith yn rhoddi ysbrydiaeth newydd ynom fel gweith- wyr dros Grist. Da gennym weled y brawd Mr.R.Prydderch (W.) yn gafael yn ei waith o ddifrif fel ysgrif- ennydd y Cyngor. Terfynwyd y cyfarfodTtrwy weddi gan y Parch. D. Morris.-Gohebydd.
NOD AC ESBONIAD.
NOD AC ESBONIAD. Pob gohebiaeth ynglyn a'r golofn hou i'w danfoa i'r Parch. O. EILTAN OWEN, 16 Argyle Road, Anfield Road, Liverpool]. Mynegair i Salmau Can Edmwnd Prys, 1621. ARGLWYDD (parhad). Derchefwch yr Arglwydd ein Daw 995 I'r Arglwydd cenwch lafar glod. 1001 Gwybyddwch mai'r Arglwydd sydd Dduw 1003 Cans da yw'r Arglwydd, awdur hedd.1005 i'r Arglwydd cadarn canaf 100t 0 Arglwydd, erglyw fy ngweddi 102t ond tydi Dduw, fy Arglwydd da 1021 f Yr Arglwydd Dduw a ofnant ..1021, '*? Pan weler gwaith yr Arglwydd ne' 1021' yr Arglwydd, iw wasnaethu lliTithau Arglwydd, yr vn wyt ti 102M & Fy enaid n'ad fawl f'Arglwydd nef 1037 jf Bendithiwch chwi yr Arglwydd ner 103-° Bendithiwch chwi yr Arglwydd Ion 10321 f Bendithiwch chwi yr Arglwydd nef 10322 O f'enaid m.iwl di'r Arglwydd 10322 f Preniau'r Arglwydd o sugn llawn 10416 Clodfored pawb yr Arglwydd nef 1052 Molwch yr Arglwydd, cans da yw 106 it Yr Arglwydd pwy all draethu ei nerth If O Arglwydd, cofia fi dy was 1061 Ac Aron Sant yr Arglwydd 1061(! Fal hyn digiasant f'Arglwydd 0 Arglwydd Dduw, cymell ni'n gu 106<7 11 Molwch yr Arglwydd, cans da yw 107 f. Faint yw daioni f'Arglwydd yn' 107 ls i Mawl ytty f Arglwydd, pan ddefrof 108* "« Yr Arglwydd gyfion farnwr.1091 Cymorth di ft Arglwydd fy N uw 1092c Dwedai'r Arglwydd wrth f'Arglwydd mau.110' 'R Arglwydd denfyn ffrewyll dy nerth ..110J Yr Arglwydd tyngodd ac ni wad HO* Yr Arglwydd ar dy ddehau law 110* a'r Arglwydd a'i derchafa.1107 Clodforaf fi fy Arglwydd Ion 1H Yr Arglwydd a wnaeth ei goffau HI4 Cans Arglwydd nawddfawr yw i ni Ill4 i bawb yw ofn yr Arglwydd Ill10 Y sawl a of na'r Arglwydd 1121 a sail ddofn yn yr Arglwydd H27 Nid ini, Arglwydd nid i ni 1151 ar yr Arglwydd dy hollfryd 1153, 10 Rhai a ofnwch yr Arglwydd Ion 115u .Yr Arglwydd nef canmolan 1151,3 Yr Arglwydd arnoch, arnoch chwi gan y gwir Arglwydd cyfiawn 115 0 Pwy a folant yr Arglwydd ? Pwy ? 115 7 fyth, fyth fendithio'r Molwch yr Arglwydd yn vn wedd Da gennif wrando' o'r Arglwydd nef 116 Am i'r Arglwydd fod i ti'n dda H67 ar enw yr Arglwydd bennaeth 116 3 I'r Arglwydd talaf yn foreu H6i7 Enw'r Arglwydd nid a o'm 116 7 I'r Arglwydd bellach tala'n frau 116 8 0 Cenwch fawl i'r Arglwydd nef 117_ 1m hing gelwais ar f Arglwydd cu.118" Yr Arglwydd llawn trugaredd 1172 Yr Arglwydd sydd i'm gyda mi 1181, Yr Arglwydd sydd ynghyd a mi II87 Ond yn enw y gwir Arglwydd Naf 1181" ond yn enw'r gwir Arglwydd Naf 11811 Yn enw yr Arglwydd yr wyf fi Mai'r Arglwydd Dduw a'i law ddehau 118 Deheulaw'r Arglwydd drwy ei nawdd.' 11810 A deheu law yr Arglwydd ner 118lb mynegaf waith yr Arglwydd 11817 Porth yr Arglwydd fal dyma fo 11820 O'r Arglwydd Dduw y tyfodd hyn 1182S Yr Arglwydd a'i gwnaeth, dyma'r dydd 118 Attolwg Arglwydd y pryd hyn 1182» Adolwyn Arglwydd Dduw par' yn' 118^ Yn Enw yr vchel Arglwydd 118-<G Yr Arglwydd sydd yn Dduw i ni H8-7_ ynghyfraith lan yr Arglwydd H9 0 Arglwydd bendigaid wyt ti 119^ Glynais wrth dy air o]Arglwydd 119 51 Arglwydd dod dy drugaredd ym 11911 Ti Arglwydd wyt i mi yn rb an 119.7 Arglwydd gwnaethost yn dda a'th was yn dy lan gyfraith o Arglwydd cair fi'n ddiddig.119,31 Pa bryd (o Arglwydd, dwedais i) 11982 Mor gu (o Arglwydd gennyf ft 11937 0 Arglwydd a'th orchmynion di 119 04 Cystuddiwyd ft'n fawr, Arglwydd da 119 "7 Bodloner di o Arglwydd mau 109 os 0 cynnal fi, fy Arglwydd Naf 119 17 Sethraist no Arglwydd, yr holl rai 119 '8 0 Arglwydd Dduw rhag ofn dy ddig.119130 0 Arglwydd, dysg ddaioni i'th was.119122 Madws it (Arglwydd) roddi barn. 11912G Cyfiawn ydwyt (o Arglwydd Dduw) H f ■■|7 Tithau bydd agos, Arglwydd Dduw Dy drugaredd Arglwydd, ami yw Hoffaisdy ddeddf, bywha fi' Arglwydd 119 ^0 Gwiliais Arglwydd wrth dy iechyd. O'th flaen Arglwydd nessaed fy nghri 1 Von 1 I'm ing y gelwais ar f'Arglwydd 120 Yr Arglwydd rhydd i'm gymmorth gref 1212 yr Arglwydd yw dy geidwad 121-1 Yr Arglwydd fydd dy geidwad.1;H 1 Dy'r Arglwydd (pan ddwedent) awn.1 .:21 yn vnfryd, Ilwythau'r Arglwydd 1 "24 Ac er mwyn ty'r Arglwydd ein Duw 1 Dy nawdd Arglwydd, dy nawdd yn rhodd 123-' Yr Arglwydd nef oni bai ei fod 12 !1 Sy'n nerth yt Arglwydd howddgar I'i48 Felly yr Arglwydd yn gaer sydd 1252 0 Arglwydd Dduw yn brysur gwna 1254 Felly f'Arglwydd dan droi y byd.1266 hiliogaeth yn i'r Arglwydd 1273 A ofno'r Arglwydd gwyn ei fyd 128 A ofno'r Arglwydd Dduw yn ddwys 1284 neu'r Arglwydd a'ch bendithio 129* 0 Arglwydd tirion gostwng 1301 Disgwyliaisjf'Arglwydd wrth fy rhaid 130> Ac am yr Arglwydd gwilio y bydd 1303 Yn ddirgel am yr Arglwydd 1307 Cans mae nawdd gyda'r Arglwydd nef 1307 o Arglwydd na dim tynder 131 Sef wrth yr Arglwydd o'r pryd hyn 1314 1 Arglwydd grymus Iaco 132" F'Arglwydd, cyfod i'th esmwyth lys 132? Cans fy Arglwydd, o serch a bodd 1321:! flodeuo medd yr Arglwydd 1321** Wele, holl weision Arglwydd nef 1341 yr Arglwydd yn gyfannedd 1342 Yr Arglwydd, a'i ddeheulaw gref 1343 0 Molwch enw'r Arglwydd nef 135J Molwch yr Arglwydd, cans da yw 147 Oblegid yr Arglwydd a'i nawdd 1354 Cans mawr yw'r Arglwydd yn ei lys 1355 mae'r Arglwydd glan a'i allu 135° Dy Enw (o Arglwydd) a'th nerth cry' '13513 yr Arglwydd cadarn cyfion 135 l-i I'r rhai'n ddim, end i'r Arglwydd nef 13520 Molwch yr Arglwydd, cans da yw 136 ac Arglwydd yr Molwch Arglwydd yr arglwyddi 13627 Yn ffyrdd yr Arglwydd yr vn wedd.1385 Yr Arglwydd a gyflowna a mi 138* Arglwydd, manwl y chwiliaist fi 139 Y rhai am danad f'Arglwydd cu 13920 Dwedais wrth fy Arglwydd fy Nuw wyd .140<j 0 gwrando'n fuan f'Arglwydd nef 140'> Fy Arglwydd yw fy nerth i gyd.1407 Da y gwn y rhydd yr Arglwydd dal 1401'2 0 Brysia Arglwydd, clyw ,fy llais 1411 0 Arglwydd gosod, rhag gair ffraeth 1413 Cadw fi Arglwydd, rhag y rhwyd 1419 Rhois weddi ar yr Arglwydd nef. 1421 0 ystyr Arglwydd, faint fy nghri 142<> Erglyw fy arch, o Arglwydd mad.1431 o Arglwydd, pallodd fy' yspryd i 143J Bendigaid fo'r Arglwydd fy nerth 1441 Gostwng y nefoedd, Arglwydd da.1445 a'r Arglwydd yn Dduw iddynt 1441* YrJArglwydd sydd glodfawr heb wedd 1453 Da yw yr Arglwydd i bob dyn 1459 o Arglwydd a'th glodforant.14510 Yr Arglwydd cynnal ef yn lion. ..14514 yn disgwyl wrthyd Arglwydd 1451s Holl ffyrdd yr Arglwydd cyfion ynt 14517 Pob dyn a garo'r Arglwydd nef 14520 a mawl yr Arglwydd nef 14521 Fy enaid mola'r Arglwydd nef 1461 Yr Arglwydd egyr lygaid dall 1468 Yr Arglwydd yn teyrnasu a fydd 14610 Molwch yr Arglwydd tirion 14610 Yr Arglwydd syddjiw darpar 1472 Yr vnic Arglwydd sy'n iachau 1473 Yr Arglwydd rhwym' eu briwiau'n iawn 1473 Yr Arglwydd sydd yn rhifo'r ser 1474 Yr Arglwydd vnic sydd yn dal 1476 Cenwch i'r Arglwydd mal y gwedd 1477 Yr Arglwydd rhoes ei serch ar ddyn 14711 molianna'r Arglwydd eiddod 147 Herwydd yr Arglwydd a'i fawr wyrth 147x3 ni wyddent farnau'r Arglwydd nef 147a0 0 Molwch yr Arglwydd o'r nef 148L Moliannant enw'r Arglwydd nef 14S » Molwch yr Arglwydd o'r ddaiar 1487 Cenwch i'r Arglwydd ac iawn fydd 1491 Clodforwch oil yr Arglwydd nef 149^
YMPRYDIWR LLANDUDNO.
YMPRYDIWR LLANDUDNO. Sacco yr ymprydiwr ydoedd atdyniad mawr i liaws ehudogion Llandudno yn ddi- weddar. Yr oedd wedi ymddiofrydu 'yr ymprydiai heb damaid o fwyd am naw niwrnod a deugain, sef tri diwrnod yn hwy nag yr ymprydiodd o'r blaen, meddai ef. Daeth yr ympryd i ben yr wythnos ddiweddaf a nos Sadwrn aeth lluoedd i'w weled, gan dalu tair ceiniog y pen am yr uchel fraint. Ellmynwr ydyw Sacco," ac yn ennill ei damaid drwy fyw hebddo fel hyn am ysbeid- iau, a gwadd ffyliaid yno i'w edrych gwedi y gorffenno.
--0--Y Parch. T. J. WHELDON,…
--0-- Y Parch. T. J. WHELDON, B.A. DRWG gennym glywed i'r gwr parchedig uchod gael ei daro'n bur wael yn ystod y gwasanaeth ym mhulpud Llanfairfechan y Saboth diweddaf. Cludwyd ef gartref i Fangor, a'n newydd olaf am dano wrth fynd i'r wasg ydyw ei fod beth yn well.
Advertising
BEAUMARIS Grammar & County School BOARDERS RECEIVED AT SCHOOL HOUSE. Preparation for Civil Seryice, Universities, Professions, Commercial and Business Careers. INDIVIDUAL ATTENTION, HIGHLY QUAL- IFIED STAFF, NEW & SPACIOUS BUILD- INGS. INSPECTION INVITED. For terms and List of Successes apply Headmaster. CLASSES ei PRIVATE TUITION for Matriculation, Professional Preliminaries, Oxford and Cambridge Locals, College of Preceptors, Preliminary Certificate, &c. School of Shorthand 6 Typewriting which gives a thorough and efficient training in in these and all other business subjects. References given. N.B.—Intending Students or their Parents or Guardians should, before enrolling anywhere obtain refer- ences from Past and Present Pupils. I. W. BROWN, B.A., 5,6, 7,8, Don Chambers 8 Paradise Street. LIVERPOOL. COLEG Y BRlfYSGOL, ABERYSTWYTH. (Un o'r Colegau ym Mhrifysgol Cymru). PRIFATHRO T. F. ROBERTS, M.A., LL.D. DECHREUA'R tymor nesaf ar ddydd Mawrth, Hydref laf, 1907. Paratoir yn arbennig ar gyfer arholiadau Prifysgol Cymru, ond rhoddir cynorthwy hefyd i efrydwyr weithio am raddau prifysgolion ereill. Cynhygir dros ugain o ysgoloriaethau (amryw ohonynt yn gyfyngedig i Gymry), i'r efrydwyr sydd fwyaf llwyddiannus yn yr arholiad a gynhelir ar y 17eg o fis Medi, 1907. Am fanylion pellach ymofynner a— J. H. DAVIES, M.A., Cofrestrydd ..COLEG Y GOGLEDD, BANGOR (Un o'r Colegau ym Mhrifysgol Cymru). Prifathraw H. H. REICHEL, M.A., LL.D. Dechreua'r tymor nesaf Hydref 1, 1907. Paratoi, ar gyfer Arholiadau Prifysgol Cymru, rhai o eiddo Prifysgol LIundain, y Cwrs Meddygol ym Mhrif- ysgol. ion Llundain, Edinburgh a Glasgow, acarholi iadiu ereill. Rhoir addysg arbennig mewn Amaethyddiaeth (yn cynnwys triniaeth coed) ac Electrical Engineering. Mae yn y Coleg adran normalaidd i Athrawon elfennol a chanolraddol. Cynhygir dros 20 o Ysgoloriaethau, yn amrywio mewn gwerth o 940 i £10 y flwyddyn, yn nechreu'r tymor nesaf. Mae Ysgoloriaethau Tate yn gyfyng- gedig i Gymry. Ysgoloriaethau John Hughes yn gyfyngedig i fechgynaned yn sir Fon neu sir Gaer- narfon, ac Ysgoloriaethau Richard Hughes i drigolion Mon. Dechreua'r arholiad am danynt Medi 17. Ceir pob manylion gan J. E. LLCyfD, M.A., Ysgrifennydd a Chofrestrydd. AT Y CANTORION. DWY GAN NEWYDD RAGOROL "Y MAB AFRADLON" (The Prodigal Son). OSBORNE ROBERTS, (Llandudno) A TELYNAU R SAINT (" The Harps of gold.") Gan W. O..JONES, A.U.C.W. (Ffestiniog). Geiriau Cymraeg Bryfdir' (Seisnig Glanceri.') SOL=FFA A HEN NOD- pr|c 1 IANT AR YR UN COPI xi~ (Sylwer fod y ddwy gan mewn- Cyweirnodau cyfaddas i bawb-SOPRANOS, TENORS, CONTRALTOS, BARITONE. Cofiwch enwi y llais wrth anfon am danynt. POST FREE Catalogue Pianos &c., (51 PAGES) I'w chael oddiwrth D. R. JONES (Alaw Madog), 103 HAMPSTEAD ROAD, LIVERPOOL. WALTER E. ROBERTS. R. HUMPHREY JONES Walter Roberts & Co., COAL PROPRIETORS, TIMBER MERCHANTS, G SHIP OWNERS. ø 4 Oldhall St., Liverpool. Telegrams: INQUIRE,' L'pool. Tel.: 5581 Central Coal Exporters.—Best House and Steam Coal Coke and Gas Coals. Supply only regular Coal Merchants by Rail and Sea. Also Private parties under certain conditions. Prices and full par- ticulars from Head Office or our N. Wales Agent: Mr. J. E. WILLIAMS, Coal Agent, Penrhyndeudraeth, N.W. Mr. ARTHUR ROBERTS, (BARITONE). At Homes, Concerts, Banquets, éfc., Address-36 Balmoral Road, Liverpool, E. I ^J £ SIWH0Y_ i J YW Y S-Xf- GO REIV < I WARNO ooorrvi t AC I 1 FARGEIIiIO AM okm SToc FAWR, PRtS\At> tSEl, "R-\U XH PNh Ai) TRwY Po-efr ?>0 Low H\v>v C?ooV4 f,38 Russell's Chronograph. Massive 18 carat Keyless Hunter. MAGNIFICENT PRESENTATION WATCH (quite new 6 months ago with proof), in perfect condition This HIGHEST GRADE f pl^e ENGLISH PULL HUNTING HEAVY KEY- LESS CHRONOMETER LEVER, by Thos Russell & Son, Makers to the Queen, Church St. Liverpool, with full compensating gold screv? balance, COMPENSATED TO ALL TEMPER- ATURES, adjusted to all positions, variation within 5 seconds per month, very latest perfected class A movement (JEWELLED OJ* ENDS), 19 FULL VISIBLE SELECTED; RUBIES, PATENT OVERCOIL BREQUEJ SPRING, patent Keyless UNBREAKABLE MAINSPRING, Chronograph Centre Seconds and outside STOP ACTION. A most Scient- ifically accurate instrument,of sensitive chrono metic capacity, suitable for EXPLORING* NAVIGATING AND ASTRONOMICAL OBSERVATIONS, Late property of a marine captain (4oz.) HEAVY SOLID 18ct. ENGLISH HALL MARKED GOLD THROUGHOUJi without mark or scratch. Russell's and our years' guarantee accompanies the above- MONTH'S TRIAL, Security advance given with above of £ 15. Exchanges forwards to any part of the Kingdom. DAVIES' FO^ HIGH-CLASS GOLD HUNTING WATCHf ONE HALF BELOW COST. LOWHILL* LIVERPOOL. Telephone 0777 Royal. Davies's Price £ 16/10/- Watches safely despatched to all parts of the world L21 Gents Gold Keyless Hunter. SECONDHAND Gents Solid 18ct English High-grade Keyless f-plate English High-grade Full Jewelled Chronometer Lever HUNTER, by this noted London maker, with all recent improve- ments, being of the very finest mechanism an workmanship of this reputed maker, too known to need comment Warranted a lifetÍIlle and perfect in all detail. Also one similar by Russell and Son, Church street, Liverpool (Sall" price). New six months ago. Davies's Price, £ 6/18/6^ 10 Guinea Russell's Ladies' Keyless Just like new, very Strong Keyless Lever for lady, full Jewelled Chronometer Balance, Brequet Spring, and latest improvements, only 8 months old heavy Solid Gold thick Cases, damp and dust proof, nioely chased makers and our guarantee for 25 years. Wonderful bargain, call to see it' Month's trial. Cash back if not as represent- ed. Sent on approval. Davies's Price, £ 3/7/6 Every Watch Offered is a Timekeeper, 7 Guinea Gents Russell's Solid Silver English Lever. Very strong, heavy workman's Solid Silver Capped Lever, by Russell and Son, Church-street, Liverpool (makers to the Queen) new this year (prool to show). High Grade full plate Chronometer balance, ruby jewelled, Brequet Spring and latest improvements (the kind that won't get out of order easily. Makers' and our guar- antee, 25 yeav, perfect time-keeper, sound in every respect, month's trial. Also Russell secondhand 7 Guinea Silver Hunter, now 3 or sent on approval; Stamped Solid Gold Chains. FASHIONABLE GOLD STAMPED £ A Graduated Curb Albert and SEAL* ,7_m stamped every link, revolving seaJ» NOW Hall-marked and GOVERNMENT; 3/5/M STAMPED another 4h guinea Grad uated Curb, now £ 2/9f. BIG SEL' ECTION. EVERY CHAIN WAR- RANTED AT SPECIALLY RE" DUCED PRICES. SOLID HEAVY GRADUATED CURB AND SEAL (best value F.5 in the trade). Governmeut- stamped every link, and rked; also Double Curb, it 2/19/6 £ 2/14/; Double Long Link, £ 2/1 also a massive Heavy Dou» Curb £11 now £ 5/12/6. SOLID HEAVY GRADUATED £ 7 CURB ALBERT. Government- TVTfMur stamped every link; also 8-gui1} NOW Double Curb; now> £ 3 8/6, al^ £ 3 5lm Double Open Curb, £ 9, now 10/ Double Fetter Link, reduce from £ 8 81 to £ 3 8/; Massive Graduated Curb, now £ 4 10/- QUINEA QOLD REDDING Il I WIDEST AND HEAVIEST 22-CABAT PURE GOLD REDUCED 7/6 IN TBS POUND. FINGER-SIZE CARD FREJII. ø 27/6 RINGS" 35J- RINGS 45/- NOW NOW NOW 20s. 25s. 355 PRESENT OF SUGAR TONGS AND HALF-DOZEN TEA SPOO* DAVIES'S, on T ow Slrr,' AVIES'S, OU J-JOW
I Manteision gwell: gwaclach…
Mae manteision addysg, amledd a rhadlon- edd llyfrau, gwell esboniadau, datblygiad cyfundrefnau athronyddol, lliosogrwydd ys- colion ac athrofeydd addysg, wedi ennill cydwybod y wlad, cynorthwyon i ddeall y Beibl wedi treblu. Yn awr, a ydyw cyn- nydd y weinidogaeth yn cyfateb i'r manteision-a ydyw y ffrwyth yn gyd- bwys a'r llafur ? Mewn un ystyr, mae ein cyfundrefn ddiweddaraf yn or-lwydd- iannus mewn cynhyrchu rhif, oblegid y maent yn epilio wrth y dwsinau ac aw- gryma un brawd am anfon llonaid Hong ohonynt dros y mor, er mwyn iddi lacio peth yma; a'r gwr arall a ddywed mai eu lladd yn yr egin ydyw y goreu. er cael arbed talu eu llong-log. Mewn ymgom am un o siroedd y De dro yn ol, Ilithrodd yr ymddiddan rhwng y brodyr a'u gilydd ynghylch efleithiolrwydd y weinidogaeth. Haerai un o'r cwmni— ac nid gwr eithafol mohono ef mewn byd nac eglwys-nad oedd nifer pregethwyr da, a nodwedd y weinidogaeth yn y sir honno, i fyny a'r peth ydoedd ddeugain mlynedd yn ol. Yna enwodd ddwsin o bregethwyr a flagurent y pryd hwnnw, gan herio i'r un un ohonynt enwi dwsin o bregethwyr heddyw a safent wrth eu hochr. Ac yn wir, rhaid dweyd mai cymharu yn salw yr oeddynt. A dichon nad oedd y sir honno na'r enwad hwnnw yn eithriad i'r rhelyw. Gwir fod safon y weinidogaeth yn uwch heddyw mewn goleuni, coethter, trefn, amrywiaeth, a gwastadrwydd, nag yn nyddiau'r tadau, ond cyll yn enbyd mewn awdurdod, dyfnder, gwres, ysgrythyroldeb, llais, a dylanwad. Mae y cwrs maith a chaled y rhaid mynd drwyddo yn nychu llawn cymaint ar y corff ag a rymusa ar y meddwl. Byddai y cesyg cryfaf yn ystwytho wrth gludo'r tadau ar eu teithiau pregethwrol, ac ami un o'r tadau yn llond pulpud mewn mwy nag un ystyr. Wrth gymharu darluniau yr hen bregethwyr a'r to presennol, ennyn yr olygfa dosturi ynom, gan ddeisyfu cael dyddiau pell yn ol gerllaw eto. Gwir mai dynion bregus o gorff, tlawd o iechyd, sydd wedi gwneud mwyaf o'u liol ar y byd ond pa faint mwy a gyflawnasent mewn amgylchiad- au mwy manteisiol ? Yn ddiweddar mae y Llywodraeth wedi rhoddi gwerth ar iechyd corff plant ein hysgolion rhaid i'r gwahanol gyfundebau wynebu y cwestiwn hwn yn fuan gyda golwg ar iechyd ymgeiswyr am y weinidogaeth, a threfnu mwy o open-air treatment. Byddai mwy o 61 gwynt y mynydd ac awelon y mor, mwy o arogl y maes ar eu pregethau, nag o 61 llyfrau, y gongl, a'r pentan. Cydnebydd pawb fod ymddang- hosiad corfforol yn elfen bwysig mewn person- oliaeth, ac fod personoliaeth gref yn help i effeithiolrwydd y gwirionedd.