Welsh Newspapers

Search 15 million Welsh newspaper articles

Hide Articles List

12 articles on this Page

Advertising

Family Notices

Advertising

Cymraeg y Pulpud.

Beirniadu Adrodd ym Mhwllbeli.

At Eisteddfodwyr Maelor.

[No title]

Yn Ynys Mon ac Arfon

o BEIRNIADAETHAU EISTEDDFOD…

Glannau'r Mersey

News
Cite
Share

Glannau'r Mersey (Gwel hefyd tudal 8). Mrs. Jane Rogers, Miranda Road. Bu farw y chwaer rinweddol a duwiol uchod Awst 25, yn ei 80ain oed. Y hi oedd aelod hynaf eglwys Anibynol Great Mersey Street. Hebryngwyd hi i dy ei hir gartref ym myn- went Longmoor Lane Awst 29, pryd y gwein- yddwyd yn ddoeth a phwrpasol gan y Parch. J. L. Williams, M.A., B.Sc., y gweinidog. Nodweddid yr hen chwaer anwyl gan amryw ragoriaethau. Yr ydoedd yn neilltuol o ffyddlon i'r capel, ac er ei hoedran, mynychai y moddion hyd bythefnos i'w marwolaeth. Cyfarfu a llawer o brofedigaethau, ond dioddefodd yr oil yn dawel. Yn ei dyddiau olaf murmurai yr adnod honno yn ami, Canys byw i mi yw Crist, a marw sydd elw." A diameu fod marw wedi troi yn dragwyddol elw iddi am ei bod wedi byw Crist." "Yno y gorffwys y rhai lluddiedig." Caffed liithau hun dawel ei holl lafur.-J. W. Plant y Pentre yn diolch. Diolch yn fawr i bobl Lerpwl am eu dymun- iadau galonnog, a'u cynhorthwy amserol. Nid ydym yn cofio myned i unrhyw gysfcadl- euaeth gyda chymaint o ewyllys da oddiwrth ein cyfeillion. Diolch yn faivr i'r Wasg, Gymraeg a Saesneg—mae'r pyre Saesneg wedi deffro o'r diwedd. Ond yn bennaf oil diolch yn fawr iawn i bobl y De am y croeso a gawsom. Nis gallwn byth obeithio talu yn ol am y caredigrwydd a ddanghoswyd i ni oil yn Abertawe. Pawb yn gwenu arnom, pawb yn gwneud eu goreu i'n gwneud yn esmwyth a chyfforddus. Arhosai rhai o'r plant yng nghartrefi lie yr oedd y plant yn aelodau o gorau a gystadleuent i'n herbyn ond lwc dda oddiwrth bob un. Da iawn, Cymry Abertawe nis anghofiwn mo'ch caredigrwydd tra bom. --0--

Ymweliod a Blacpwl.

Advertising