Welsh Newspapers

Search 15 million Welsh newspaper articles

Hide Articles List

12 articles on this Page

Advertising

Family Notices

Advertising

Cymraeg y Pulpud.

News
Cite
Share

Cymraeg y Pulpud. SYR,—-Bum yn meddwl paham yr ydym fel aelodau pwyllgorau eisteddfodol, &c., yn ymboeni ynghylch cadw iaith ein mam yn fyw, pan y mae cynnifer o'n pregethwyr yn ei llurgunio mor echrydus. Digwyddwn fod mewn capel yn Nyffryn Conwy bore Sul cyn y diweddaf,—ie, yn ardal Trebor Mai, Scorpion, Ieuan Glan Geirionydd, a Gwilym Cowlyd ac yr wyf yn sicr y buasent wedi troi yn eu beddau gyda'u gilydd pe clywsent y tiorraeth ddiflas o eiriau Saesneg a arferid gan y pregethwr. Hwyrach, Mr. Golygydd, y byddwch mor garedig a rhoddi y rhestr ganlynol i mewn er mwyn i ddarllenwyr y BKYTHON gael rhyw ddychymyg egwan am y wledd gafn-mochyn a gawsom :— Difyniad o Coleridge :-Genius, talent, nick of the nack, extraordinary, ingredents. Difyniad o Pope :-Unit, to be blessed yn dragywydd (!) design, details, building, fresh, artificial, command, business, ma- jesty, under-current, breakfast, objects, ap- petite, Never is, but always to be," label, distinct, ambiguous, shape, futurity, sproutio, picture, material, turnpike, tramper, chance, job, waste, sap, landio, comical, gloomy, lecio, expensive, landlord, generous, school- master, South. Terfynodd ei bregeth gan obeithio y byddai i'r Hollalluog wneud soil ein natur yn rich i gynhyrchu cropiau o feddyliau." Os ydyw Coleg y Bala yn parhau i anfon pregethwyr fel hyn allan, yr wyf yn meddwl ei bod yn hen bryd ei fwrw i'r llyn, a'i adael yno. Ond yn ol pob golwg, credaf fod gan y rhan fwyaf o'n pregethwyr ieuainc well Cymraeg na llawer o'r tadau pan yn sefyll i fyny yn ddifrifol i ddweyd am Wrthrych y gan bery'n newydd o hyd." Yr eiddoch yn gywir, GLAN FFRYDLAS.

Beirniadu Adrodd ym Mhwllbeli.

At Eisteddfodwyr Maelor.

[No title]

Yn Ynys Mon ac Arfon

o BEIRNIADAETHAU EISTEDDFOD…

Glannau'r Mersey

Ymweliod a Blacpwl.

Advertising