Welsh Newspapers
Search 15 million Welsh newspaper articles
11 articles on this Page
Cysgodau y Blynyddoedd Gynt.
Cysgodau y Blynyddoedd Gynt. GAN GWYNETH VAUGHAN. PENNOD XXI.—HELYNTION BRO EINION (parhad). "Nag oedd, mae'n siwr," atebai Margaret Pennant, Nid yw'r sgweiar fawr o flaen ei gymydogion tlodion, ac yn wir, Lewis, tipin o golled i ni fel Cymry fydd colli yr hen chwedloniaeth dlos." Beth sydd a wnelo ein chwedloniaeth, Margaret fach, a chred mewn ysprydion pobl wedi marw ? Wei, cymaint a hyn, Lewis, mai'r un rhai yn ein mysg sydd yn credu hen hanesion y tylwyth teg, ac mewn drychiolaethau, a'r gallu i reibio dynion. 0, mi wn i o'r gore fod y cyfan ar yr aden yn cychwyn i ffwrdd, mae'n rhaid i'r cwbwl ein gadael yn fuan fuan, ond mae'n chwith meddwl y bydd y wlad heb ei thylwyth teg, heb yr hen Jac Lantern, y forforwyn, a chysgod y telynor ar y traeth." Gwenodd Lewis Pennant, ac ebe 'Does mor help, Margaret, yn ei flaen y rhaid i'r byd fyn'd, a lie bynnag y treiddia'r goleuni, fe ymlid chwedlau'r gwylnos ymhell oddiwrtho." Gobeithio na fydd i ni fyned yn bobl faterol, galed, yn ceisio yr eiddo ein hunain heb feddwl am arall, ynte Lewis. Byddai'n well i ni aros yn y gwylnos os gwna goleu'r dydd ni yn hunanol." "Un o blant glan yJtmôr ydych chwi, Margaret fach, ac mae "i caledu calonnau plant glan y m6r yn "amhosibl. Mae'r mor a'i donnau yn gofalu am hynny. 'Rwan rhaid i mi droi tua'r dre." Myn'd am dro i'r dre, I aros i'r sucan shiarpio," canai llais clir Gwenllian, a dawnsiai i'r eneth i'r gegin at ei rhieni. Nhad, nhad, ga' i ddwad i'r dre ? Cei, o'm rhan i, Gwenllian, ond beth wnei di yno ?" Dim byd, nhad, ond dwad hefo chi ydi Sara wedi myn'd, mam ? sut yr awn ni, nhad ? Cyn i neb gael siawns i ateb dawnsiodd Gwenllian allan yn ei hoi, a'r foment nesaf dyna gnoc ar y drws a rhywun yn agor y glicied ac yn dweyd Gyda'ch cennad ? Cennad dda i chwi," atebai Margaret Pennant. Hen ddull y Cymry oedd hwnnw o gyfarch eu gilydd, cyn cael na chloch na chnociwr wrth y drysau. Y fi sydd yma," ebe If an Dafydd yr hen bysgotwr o Borth Einion, hwyrach y prynnwch chi bwys ne ddau o'r Macrel yma, Margaret Pennant. Ma nhw newydd 'u dal. Fuo ddim nobliach pysgod yn ych ty chi' 'rioed." Tra y prynnai ei wraig y pysgod, aeth Lewis Pennant allan, ond ymhen munyd neu ddau daeth yn ol a gofynodd Gawsoch chi ryw air ynghylch llong Huw eto, Ifan Dafydd ? "Naddo, naddo, mae'r hen wraig yn para i ddisgwyl, ond mae arnai' ddigon o ofn na chlywith neb byth ddim gair am y llong. Ma' hi'n mhell dros 'i hamser. Ma' hi yn rhwla o hyd,Lewis Pennant, 'does dim i neud ond diodda i ni i gyd yn yn tro. Rhyw fyd digon cynhyrfus ydi'r hen fyd yma, ynte. Mae Betsan Morus y Ship wedi syrthio a thori'i choes y bore yma. 'Roedd arna i ddigon o ofn bod rhywbath yn 'u haros nhw wedi i mi glywed swn y droell yno. Fydd ddim yn dda gin i we I'd na chlywed petha allan o'r cyffredin fy hun. Er dydw i ddim y peth alw'ch chi'n ofergoelus, eto ma dipyn yn well gin i, welwch chi, beidio dwad ar draws y warn ins yma. 'Sgwn i ar groen yr holl ddaear sut ma Betsan Morus yn mynd i aros yn i gwely am fis ne ddau. Ma hi yn un o'r bobl yma, faint bynnag o gwn fyddan nhw'n gadw ma'n rhaid iddyn nhw gael cyfarth 'u hunain gwaetha pawb. Fedr- odd Betsan Morus 'rioed gredu y medra neb ond y hi'i hun neud dim yn iawn yn y ty nag allan." Druan o Betsan," ebe Margaret Pennant, mi fydd yn galed iawn ar ddynes weithgar fel y hi fod yn llonydd, mae'n wir." "Bydd, a chafodd Josh na Gayney raff rydd yn 'u bywyd o'r blaen, dim ond gwneud 'u hordors, wyddoch." Fyddai'n well i mi yrru llwyth o fawn i Catrin Dafydd ? mae'r bechgyn yma yn y fawnog 'rwan bob dydd, mi fydda'n hawdd i mi beri iddyn nhw daflu llwyth i fewn acw, Ifan Dafydd." 'Rydw i yn ddiolchgar dros ben i chwi, Lewis Pennant; mi fyddan yn gymyrath fawr i ni, byddan yn wir. Mi barodd y llall gawsom ni llynedd nes oedd hi'n tynnu at y gwainiwn." Y gwainiwn oedd y gwanwyn i Ifan Dafydd tra bu byw, er ei fod wedi gadael y rhan o'r wlad lie y dywedid y gair felly er's bl wyddau maith. Oes arnoch chi ddim eisio mynd tua Chaer Saint yna cyn hir, Lewis Pennant ? Mor hy a gofyn i chi, felly, ond 'rydw i yn rhyw ama basa yno well siawns i mi gael tipyn o sicrwydd am long Huw tasa modd i rywun fynd i'r fan honno i holi tipyn. Yno ma'r onors a'r capten yn byw, hynny ydi, yno ma'i gartra fo, a ma gwell siawns bod nhw'n symol nes i'w lie na ni yn y Porth acw. A mi rydach chi ar ych arfer yn gneud cym- wynas i rywun. Glywsoch chi bod y presiwr o gwmpas yma yn chwilio am soldiars ? Ma'n gofyn i'r bechgyn yma fod o gwmpas 'u pethe, neu fydd o fawr o dro yn 'u bachu nhw." Ac aeth yr hen bysgotwr ymaith tuag adref, gan gwbl gredu fod rhyw obaith cael gair o hanes y mab oedd a'i waith ar y dyfroedd mawrion wedi i Lewis Pennant roddi addewid iddo y gwnai efe ei oreu i gael hynny o wybodaeth a ellid fod yng Nghaer Saint. Druan ohono," ebe Margaret Pennant, ymddengys i mi mai y disgwyl yma, a'r ansicrwydd ynghylch tynged eu perthynasau, sydd yn gyfrifol am gymaint o'r lleddf ag syddfyngnghymeriadau trigolion glan y m6r. Ie, Margaret, yn ddios, druain ohonynt. Gobeithio y caiff Huw ddyfod unwaith eto i dir sych. Ie, yn wir efe yw'r unig un o blant yr hen bobol sydd wedi ei adael, os ydyw heb ei golli. Hidiwn i ddim nad awn i am dro i weld Catrin Dafydd, os ydi Gwenllian a chitha am fynd i'r Dre. Mi gewch warchod heno, a mi af finna i'r Porth gyda'r nos." Ac felly fu. Pan aeth Margaret Pennant i mewn i fwthyn y pysgotwr, canfu yr hen wraig yn eistedd wrth y tan yn gwau hosan. Wel, waeth i mi bryd i droi mewn, Catrin Dafydd, diwyd wrth y'ch gwaith y gwela i chi bob amser." Dowch ymlaen, Margaret Pennant, yr ydw i'n nabod y'ch llais chi. Ma'n dda gin i glywed o hefyd, mi fu amser y gwelsom i chi, end 'rydw i wedi efio fy ngolwg i gyd i ffwrdd, fel y gwyddoch chi. A dyma fi rwan a'm calon yn y ngwddw ynghylch Huw bach yto. Ami i gnoc a dyr y gareg,' a fedra i ddal fawr fwy. Ond fydda i ddim yn yr hen fyd yma yn hir iawn, ran hynny, ar y ngora." Edrychai Margaret Pennant ar fasgedaid o ddillad glan mewn cornel o'r ystafell fechan, ac ebe hi Yn siwr, Catrin Dafydd, mae'n syndod i mi bod chi yn medru golchi fel hyn. Sut y gwyddoch chi lie mae fwyaf o waith golchi ar y dillad, ac heb fod yn gweld ?" Gwybod lie byddai'r baw stalwm rydw i, a rhwbio fan honno, wyddoch. Mi fydd Ifan yn deyd mod i'n golchi'n lan, hefyd," ebe'r hen wreigan ddall yn ei dull syml. Arhosodd Margaret Pennant i ymddiddan gyda hi am ennyd, yna tynnodd bwys o ymenyn o'i basged, ac ebe hi Mi neith y menyn dipyn o bleser i chi, Catrin Dafydd, mae o newydd i gorddi, rhaid i mi gychwyn tua'r Llys acw, mae'r nos wedi fy nal fel y mae hi." Mae hi'n ddigon anifyr i neb fod hyd y ffyrdd yma yn y nos rwan, yn wir. Mae yma fil a mwy o ryw straeonjgwirjne gelwydd; ond dyna, fedra i weld dim, a llawer ddeydais i na choeliwn i fawr ond y peth welwn i. Nos dda, a diolch yn fawr i chi am gofio am dana i." Cychwynodd Margaret Pennant tua'r Llys, ac yn lie cymeryd y ffordd fawr aeth ar draws y meusydd, ac ar hyd y llwybrau am eu bod gymaint yng nghynt. Noson loergan Ileuad hyfryd oedd, ac nid oedd neb i'w weled yn unman. Ond yn sydyn, yn union wrth ei phen, dybiai hi, clywai Margaret Pennant y canu mwyaf ardderchog, megis miloedd o leisiau gorfoleddus yn uno mewn cydgan. Safodd ac edrychodd o'i deutu. Nid oedd goleu i'w weled mewn capel nac eglwys. Teyrnasai tawelwch perffaith ymhob cwr, ond clywai y lleisiau peraidd yn canu ymlaen, a'r miwsig yn llenwi'r fro. Ni chlywsai Margaret Pennant erioed ei debyg, ac yn swn y gydgan cyrhaeddodd y Llys. (I'w barhau). o
Bara Brith.
Bara Brith. Lie gwell na'r Nefoedd. Ni chlywais ond am ddau le diogel iawn erioed-y nefoedd a'r llwch ac o'r ddau, braiddna feddyliwn mai y llwch yw y mwyaf diogel. Clywais am rai wedi syrthio o'r nefoedd, ond ni chlywais am neb a syrthiodd erioed o'r llwch."—Morgan Howells. Geiriau Olaf Enwogion. ANGHOFIAIS ychwanegu un at restr Geiriau Olaf Enwogion oedd yn y BRYTHON di- weddaf. Nid yw lawn mor urddasol a'r rheiny, ond y mae lawn mor naturiol a gwir. Yng nghefn Lon Fangor," fel y geilw pobl Caernarfon Bangor Street, y mae'r ffordd haearn ac y mae'r dyfnder o fondo to'r tai i'r relwe yn gryn ddeg llath ar hugain. Un.tro, tra'r oedd Wil Cap yn ei Law yn adgyweirio to un o'r tai, pryd y collodd ei droed ac y llithrodd o'r crib i lawr, a phan ar ddiflannu tros y bondo i lawr i'r dyfnder angeuol islaw, 'Rwan am goblyn o godwm ebe Wil-a dim chwaneg. Bwyd i bawb. Be gymrwch chi ?" ebe'r waiter. Y Goleuad," ebe'r Methodist. Y Seren," ebe'r Bedyddiwr. Y Tyst," ebe'r Anibyn- wr. "Y Gwyliedydd," ebe'r Weslead. Y Llan," ebe'r Eglwyswr. Ond y BRYTHON i mi," ebe'r genedl. Profiad y deg a thrigain. Diau irder ei bedwar deg-i ddyn A ddaw fel ar redeg Unwaith y daw y saith deg, Ofer chwennych fawr chwaneg.— Derlwyn. Eiddigedd y Cantorion. RHAI eiddigus iawn o'u gilydd yw'r cantor- ion, a dyma fel yr ebychodd un lleisiwr gwedi clywed ei frawd yn gwneud ei oreu ar y llwyfan Dywedir fod yr Alarch Yn marw cyn ei dranc Ond marw cyn ei ganu F'ai oreu i ambell lane." Fe ddywedir FOD modd adnabod galwedigaeth dyn oddi- wrth liw ei ruddiau, hone ei gerdded, ton ei lais, a stad ei ddillad ac y deallir enwad y pregethwr oddiwrth y pethau uchod, yng nghyda lediaith ei gyfundeb. FOD dau hen gono yn beirniadu un gweini- dog y dydd o'r blaen, ac yn go llawdrwm, y gweilch. Wrth ddibennu'r ymgom, ebe'r sala o'r ddau Waeth hynny na chwaneg. 0 ddydd Llun i ddydd Sadwrn welwch chi mono fo a dydd Sul ddalltwch chi mono fo." Y mae rhyw gacwn ymhob bys coch, chwedl pobl y wlad. "Hel Yd y Gloch." PWY o'n darllenwyr all ddweyd ystyr yr hen arfer oedd yng Nghymru o drigain i ddeng mlynedd a thrigain yn ol a elwid Hel Yd y Gloch ? Credwn mai rhyw fath o ddeg- wm y clochydd ydoedd. »5b Beth gym'rwch chwi ? Beth rowch chwi ? BYDDAI y diweddar Thomas Jones—Philo- sophar Melin y Wig, fel y'i gelwid yn Lerpwl -yn arfer dweyd fod y dafarn yn tra rhagori mewn un peth ar y capel. Ewch i'r capel a fynnoch," ebai ef, y gair cyntaf a glywch ydyw Beth rowch chi.?' Ond y gair; cyntaf a glyweh mewn tafarn ydyw Be gym'rwch chi ?' Un od, bier, a gwreiddiol oedd yr hen Dom.
Advertising
Testynau Eisteddfod Llangollen.— 1 HESTB GYFLAWN Y TESTYNAU YN AWB ) N BABOD, AO I'W CHAEL, PRIS 6ch., DRWy'R POST 7 £ c., GAN EVANS, SONS & FOTJLKES SWYDDTA'R "BBYTHON."
Colofn y Beirdd
Colofn y Beirdd [Y cynhyrchion gogyfer a'r golofn hon, i'w cyf- eino-PEDROG, 30 Stanley Street, Fairfield.] Y Lugitania. "-Awdl o tua dwy fil o linellau ddylesid ganu i destyn o'r fath yma ond fod llyn y BRYTHON yn rhy gyfyng i long o'r fath hyd. Ond dyma bedwar englyn da. Arferir y gair pwer Cymraeg am power gan rai, ac feallai y dylai bellach gael ei gydnabod felly. Deigryn Hiraeth.-Pan anfonwyd yr englyn i mi y tro cyntaf,sylwais bod gwall cynghanedd yn ei linell olaf. Yn hytrach na thramgwyddo na digalonni, ymgymerodd yr awdwr a di- wygio y llinell, a da gennyf weld iddo ei gwneud yn un o'r llinellau mwyaf penigamp. Feallai mai wyneb," ac nid "gwyneb," sydd gywir, a dyna fel y mae yn y Beibl Cymraeg ond mae awdwyr o fri yn ysgrif- ennu gwyneb ac ond caniatau hynny, beiddiaf ddweyd fod y cwpled canlynol yn wir dda Ni wel neb y gwyneb gwyl,— Y dasg yw peidio disgwyl." Eun Tour Tan. -Diolch yn fawr am y llinellau hyn yn y Lydaweg. Mae y Llydaw- iaid a'r Cymry ar hyn o bryd mewn yrnserch mawr yn eu gilydd, ac un o'r pethau mwyaf dyddorol yn yr Eisteddfod ddiweddaf oedd yr amlygiad o hynny. Clywais y Lydaweg yn cael ei llefaru yn ei chroewder brodorol yno, a thebyg iawn yw hi i'n hiaith ni. Bydd darllenwyr y BRYTHON yn ddiolchgar iawn cyn hir i Mr. R. M. Pritchard a minnati am yr help hwn i ymgyfarwyddo a'r iaith honno. Heblaw hynny, bydd y llinellau o ddyddordeb i'r Llydawiaid eu hunain, oblegid y mae amryw ohonynt yn derbyn y BRYTHON. Diolch hefyd am y cyfieithiad o'r emyn Cym- raeg i iaith y Ffrancod. Ychwaneg i ddilyn. Yr Orsedd yn Abertawe.-Da iawn gennyf dderbyn yr englynion hyn oddiwrth Gwilym Cadle-un o feirdd rhagorol America. Ond mae fy nghyfaill wedi gosod ei hun yn agored i beryglon dirfawr. Yn ei ffwdan, ysgrif- ennodd safa" yn lie sail oherwydd paham cadwed draw o Fangor, onide bydd yr Athro Cymreig dysgedig sydd yno yn ei war. Ond y rhyfyg mwyaf fu galw yr Archdderwydd yn Evan Ond englynion doniol yw y rhai hyn, a diolch i Cadle am danynt. Y Ddiwinyddiaeth N ewydd.-Mae yn y penhillion hyn lawer o syniadau da; ac amlwg yw fod yr awdures yn deall y pwnc yn bur glir, ac yn teimlo ei bwysigrwydd. Y gresyn yw fod y cyfansoddiad yn rliy draeth- odol, a'r fydryddiaeth heb fod yn rheolaidd.
I'R ORSEDD YN ABERTAWE.
I'R ORSEDD YN ABERTAWE. GWYCH yw golwg iach Gwalia—a'i Gorsedd, Gwersyll hon fyth safa t:.l- Yn glyd gylch ei gweled ga, Ar oer ael yr awr old. Dyfed hoff:a'i dafod tan,—ei araith Sy'n dyferu try dan Mwynhau gwledd y meini glan Sy'n nefoedd yn swyn Evan. Gwiw a rhywiog oreuwin—ei meini Yw mwyniant y werin I'w llys hael i gael ei gwin Daw Yankees i Cwmdonkin. GWILYM CADLE.
EUN TOUR TAN.
EUN TOUR TAN. (Yn y Llydaweg). Vel eun tour tan war bord ar mor A dreuj an defalijen, En oraj hon guir Redemtor A glask, a gundu an den. DISKAN Euz ar Christ ar gwir sklerijen, P'hini a lugern er bed, Entreze bro ar Souveren Hon c'hass-ni mortoloded. Stereden ebet ne sklera Hon mor bras mortolodet, Piou a ziwallo hon bag'ta Enep ar reier kalet. Diskan. En nozion tefal ar vue, Deus Krist d'hon skverijenna Deuz Jesus dre da garante D'hon c'hundui barz er joa. Diskan. Kloc'h Ar Vretoned Seacombe. R.M.P.
ARNAT IESU, &c.
ARNAT IESU, &c. (Yn y Ffrancaeg), A toi, Jesus ma pensee, A toi, Sauveur, mon amour Ton regard, ta voix aimee, A mon coeur parlent toujours. Rien n'egale, rien n'egale 0 mon Sauveur, ton amour." La Cloche D' Alar me. Seacombe. R.M.P.
DEIGRYN HIRAETH
DEIGRYN HIRAETH am George H. Williams, Llunden, (gynt o Salford), yr hwn a fu farw Gorffennaf 22ain, yn 33 oed. DYMA'R fan mae George anwyl-yn gor- A'i geraint mewn arwyl wedd, Ni wel neb y gwyneb gwyl,— Y dasg yw peidio disgwyl. LEINAD.
YR HENADUR PETER JONES, HELYGAIN
YR HENADUR PETER JONES, HELYGAIN DI-DOLC yw'r gwr o Holcyn,—goleudeg Wladwr i'n hamddiffyn Twr iawnder, nas try undyn Dafod gwawd i'w fywyd gwyn. P.
Y LUSITANIA.
Y LUSITANIA. HAWDDAMOR i for-furiau—ein henwog Frenhines y tonnau Dyma gelf wedi amgau Pwer yn y peiriannau. Hi wna'r dyn yn forwr da-a hwylir Heb helynt i'w gylla Uwch y don werdd oni cherdda Ar hyd dec hir i Utica Rhaid bydd y Werydd yn wirion—o'i A gwae yr hen Neifion gweld, Ond daw'r dydd y gwrendy'r d6n Ar roch ager uwch eigion. Yn ei mawredd gorwedda-ar y dwr, A'i dull nid ysgoga Cawn arw wynt cyn yr a Is ton y Lusitania. W.J. (Ap Lleyn).
Advertising
Telephone 1157 Royal. Established 1856 ROBERT ROBERTS, ESTATE AGENT, 33 Netherfield Road South, Has Property to Let in various parts of the town. Mortgages arranged. Valuations made. THOMAS H. OWEN, ESTATE AGENT & ACCOUNTANT, 2a Foley Street, KirKdale Rd., Liverpool. Property bought and sold, and Estates economically managed. Telephone, No. 1779. HENRY JONES, Estate Agent, Valuer 6 Property Auctioneer, 5 COOK STREET, LIVERPOOL. Rents Collected. Valuations made. Property sold by Public Auction or Contract. -"Y:O- Telephone No. 7909. J. LEWIS JONES, ESTATE AGENT & VALUER, 60 Victoria St., Liverpool. Properties carefully managed. Rents personally collected. Purchases and Sales negotiated. Mortgages arranged and ID.Suranc effected. THOMAS 3 JONES, ESTATE AGENTS & VALUERS, INVESTMENT BUILDINGS, 67 Lord Street, Liverpool. Telephone No.—5586 Central. Properties Bought and Sold. Mortgages arranged, Valuations made. Rents Collected. TBL. 42Y ANFIELD. ESTABLISHED 1872. STEPHEN ROBERTS & SON, ESTATE AGENTS clõ VALUERS, 137 Everton Road, Liverpool (Late 2 Stanfield Road). Properties carefully Managed. Rents personally Collected. Purchases and Sales Negotiated. Mortgages arranged and Insurances effected. ROBERT ROBERTS, ESTATE AGENT AND VALUER, 30 Hamilton St., Birkenhead. RENTS COLLECTIMD. VALUATIONS MADE. PROPERTIES BOUGHT & SOLD. Telephone—223. R. E. HUGHES, Estate Agent, Surveyor 6 Valuer, Charing Cross, Birkenhead. Telephone No.—56 B'head, Has Houses to Let, and for Sale, in varions parts of the Town and out districts. Also Land to be Sold for Building purposes. Advances made to Builders. Estates laid out. Rents Collected, and Property carefully managed. Telephone 034 Central. WILLIAM WILLIAMS, LAND AND ESTATE AGENT, VALUER AND PROPERTY SALESMAN, 20 NORTH JOHN ST., Liverpool. Mwy na hanner yr argraffiad eisoes wedi gwerthu allan. LLOFFION GRAWNWIN. SEF Cyfrol Goffa y Parchn. WILLIAM ROBERTS, Lerpwl; WILLIAM NICHOL- SON; D. M. JENKINS; H. PARRY THOMAS,eto; HUGH JONES,Birkenhead; a DAVID JOHN, Manchester. gan y Parch. O. L. ROBERTS. Pris, 2/=. Trwy y Post, 2/3 Yr elw arferol i ddosbarthwyr. Anfoner yr archebion ar unwaith, naill i'r Awdwr, 7 Rampstead Road, Liverpool, neu i Swyddfa'r Brythonf 356-8a Stanley Road, Liverpool. Dim ond ychydig ganoedd ar law. An EDISON /kv '# ml PHONOGRAPH WJ should be in every home • It is Amusing, In- stuetive, 6 Enter= taining, both for young and old. f/s i "Edison Records," Mjjpstj.. „, the finest in the wortd, are now re* \? y duced tol/= each. ^.• Send for Lists, Post Free to any address, DIBBS, LTD., 7 Ranelagh Place, LIVERPOOL (4 doors from Lewis's)- T. WOOSNAM ROBERTS, Bootle Estate Office, 52 STANLEY RD., BOOTLE. O. JONES WILLIAMS, ESTATE AGENT & VALUER, 24 SIR. THOMAS STREET, LIVERPOOL. Personal supervision in every detail í general management of all kinds of Rea Estate, Confidential Reports and Valuations for Purchase, Sale, or Mortgage. Est. 1885. Telephone 1903 central Telephone: 279 Bootio. LINACRE BRICK .jl COMPANY 122 Marsh Lane, Bootie. Works: Canal Bank. Branch Offices 38 HAWTHORNE ROAD, ORRELL, BOOTrJ Telephone—216 Bootio. AND 23 OLDHALL STREET, LIVERPOOL Telephone—1554 Central. Houses to Let, ELECTRIC LIGHT THROUGHOUT. RENTS FROM 5/- t o 10/- P E R W E E K|. APPLY— WILLIAM JONES, 38 HAWTHORNE ROAD, ORRELL, BOOT^ DAVID [VANS, Park Road J I& T North Estate BIRKENHEAD. Pellseinyr 391 Birhenhead. TIR A THAI ar werth neU f' 0301 ya rhaabarth. iacixafa livvy3,1- cyfleus y dref. Ardreth o 6/6 yr wythnos i fyny i F,35 y flwyddyn. Yn gwynebu'r Pare, ac yn ymyl Gorsaf y Trams a Threns bob chwe munud. a gellir cyrraedd unrhyw un o'r Tai hyn:mewn 15 munud neu lai o Liverpool. < Contract blwyddyn gyda'r tr6n, dim of tua 21c. y dydd. Ymofyner a Mr. David Evans, neu yntÐ Mr. Wm. Edwards, Estate Agent, Park Ito Norfrh. a ofoongl Duke Stiw-t Mewn Llian Hardd, 414 o Dudalennau. Hanes y DiwygicK" a'r Diwygwyr: .I Yn cynnwys hanes Mr. Evan Roberts* rieni, ei ddygiad i fyny, ei alwad i'r gwalp3) &c., &e., gan y Parch. Thomas Gorseinion. Hanes cychwyniad a lleda iad y Diwygia drwy Gymru, le I ysgrifennu gan lenorion adnabyod Hanes Mr. Dan Roberts a Mr. Sy1 Evans, a ehargliad o farddoniaeth y I iad, y J Cynhwysa y gyfrol liaws o ddarlUIllaagiS rhai a gyhoeddir am y waith gyntaf, 00 ei darluniau o rieni Mr. Evan Roberts, CaP Casllwchwr, ac Ysgoldy Pisgah, &c., &0. PRIS HANNER CORON, nett. E. W. EVANS, Swyddfa'r Goleuad," Dolge Vmneillduaeth [gIWY 0 Loegr, ø yn cynnwys jj, Adolygiad ar y Ddadl rhwng Cano» p iams, B.D., a Glanystwyth ar "Ft Eglwys." Gan y S Parch. THOS. HUG (Lerpwl). Ymdrinir ynddo ag honiadau 1 Eglwyswyr, Pabyddiaeth yn Eg* 1 Loegr, &c., &c., S a cheir ynddo « ttS Restr o Offejriaid Cymreig SÙiotS Aelodau o'r English Church y tgfi* a Chymdeithasau Gwrth=Brote aidd ereill. J10' Anfoner archebion i Swyddfa r 1 Don Chambers, 8 Paradise St., ( Gwalia Home & Registry Welsh Servants, HOPE PLACE, LIVERPOOL. Dan arolygiaeth pwyllgor o gynr^? Cymreig. Lletty cysurus i forwynion y lleoedd,—Ymofyner a Miss j Superintendent.