Welsh Newspapers

Search 15 million Welsh newspaper articles

Hide Articles List

11 articles on this Page

Cysgodau y Blynyddoedd Gynt.

News
Cite
Share

Cysgodau y Blynyddoedd Gynt. GAN GWYNETH VAUGHAN. PENNOD XXI.—HELYNTION BRO EINION (parhad). "Nag oedd, mae'n siwr," atebai Margaret Pennant, Nid yw'r sgweiar fawr o flaen ei gymydogion tlodion, ac yn wir, Lewis, tipin o golled i ni fel Cymry fydd colli yr hen chwedloniaeth dlos." Beth sydd a wnelo ein chwedloniaeth, Margaret fach, a chred mewn ysprydion pobl wedi marw ? Wei, cymaint a hyn, Lewis, mai'r un rhai yn ein mysg sydd yn credu hen hanesion y tylwyth teg, ac mewn drychiolaethau, a'r gallu i reibio dynion. 0, mi wn i o'r gore fod y cyfan ar yr aden yn cychwyn i ffwrdd, mae'n rhaid i'r cwbwl ein gadael yn fuan fuan, ond mae'n chwith meddwl y bydd y wlad heb ei thylwyth teg, heb yr hen Jac Lantern, y forforwyn, a chysgod y telynor ar y traeth." Gwenodd Lewis Pennant, ac ebe 'Does mor help, Margaret, yn ei flaen y rhaid i'r byd fyn'd, a lie bynnag y treiddia'r goleuni, fe ymlid chwedlau'r gwylnos ymhell oddiwrtho." Gobeithio na fydd i ni fyned yn bobl faterol, galed, yn ceisio yr eiddo ein hunain heb feddwl am arall, ynte Lewis. Byddai'n well i ni aros yn y gwylnos os gwna goleu'r dydd ni yn hunanol." "Un o blant glan yJtmôr ydych chwi, Margaret fach, ac mae "i caledu calonnau plant glan y m6r yn "amhosibl. Mae'r mor a'i donnau yn gofalu am hynny. 'Rwan rhaid i mi droi tua'r dre." Myn'd am dro i'r dre, I aros i'r sucan shiarpio," canai llais clir Gwenllian, a dawnsiai i'r eneth i'r gegin at ei rhieni. Nhad, nhad, ga' i ddwad i'r dre ? Cei, o'm rhan i, Gwenllian, ond beth wnei di yno ?" Dim byd, nhad, ond dwad hefo chi ydi Sara wedi myn'd, mam ? sut yr awn ni, nhad ? Cyn i neb gael siawns i ateb dawnsiodd Gwenllian allan yn ei hoi, a'r foment nesaf dyna gnoc ar y drws a rhywun yn agor y glicied ac yn dweyd Gyda'ch cennad ? Cennad dda i chwi," atebai Margaret Pennant. Hen ddull y Cymry oedd hwnnw o gyfarch eu gilydd, cyn cael na chloch na chnociwr wrth y drysau. Y fi sydd yma," ebe If an Dafydd yr hen bysgotwr o Borth Einion, hwyrach y prynnwch chi bwys ne ddau o'r Macrel yma, Margaret Pennant. Ma nhw newydd 'u dal. Fuo ddim nobliach pysgod yn ych ty chi' 'rioed." Tra y prynnai ei wraig y pysgod, aeth Lewis Pennant allan, ond ymhen munyd neu ddau daeth yn ol a gofynodd Gawsoch chi ryw air ynghylch llong Huw eto, Ifan Dafydd ? "Naddo, naddo, mae'r hen wraig yn para i ddisgwyl, ond mae arnai' ddigon o ofn na chlywith neb byth ddim gair am y llong. Ma' hi'n mhell dros 'i hamser. Ma' hi yn rhwla o hyd,Lewis Pennant, 'does dim i neud ond diodda i ni i gyd yn yn tro. Rhyw fyd digon cynhyrfus ydi'r hen fyd yma, ynte. Mae Betsan Morus y Ship wedi syrthio a thori'i choes y bore yma. 'Roedd arna i ddigon o ofn bod rhywbath yn 'u haros nhw wedi i mi glywed swn y droell yno. Fydd ddim yn dda gin i we I'd na chlywed petha allan o'r cyffredin fy hun. Er dydw i ddim y peth alw'ch chi'n ofergoelus, eto ma dipyn yn well gin i, welwch chi, beidio dwad ar draws y warn ins yma. 'Sgwn i ar groen yr holl ddaear sut ma Betsan Morus yn mynd i aros yn i gwely am fis ne ddau. Ma hi yn un o'r bobl yma, faint bynnag o gwn fyddan nhw'n gadw ma'n rhaid iddyn nhw gael cyfarth 'u hunain gwaetha pawb. Fedr- odd Betsan Morus 'rioed gredu y medra neb ond y hi'i hun neud dim yn iawn yn y ty nag allan." Druan o Betsan," ebe Margaret Pennant, mi fydd yn galed iawn ar ddynes weithgar fel y hi fod yn llonydd, mae'n wir." "Bydd, a chafodd Josh na Gayney raff rydd yn 'u bywyd o'r blaen, dim ond gwneud 'u hordors, wyddoch." Fyddai'n well i mi yrru llwyth o fawn i Catrin Dafydd ? mae'r bechgyn yma yn y fawnog 'rwan bob dydd, mi fydda'n hawdd i mi beri iddyn nhw daflu llwyth i fewn acw, Ifan Dafydd." 'Rydw i yn ddiolchgar dros ben i chwi, Lewis Pennant; mi fyddan yn gymyrath fawr i ni, byddan yn wir. Mi barodd y llall gawsom ni llynedd nes oedd hi'n tynnu at y gwainiwn." Y gwainiwn oedd y gwanwyn i Ifan Dafydd tra bu byw, er ei fod wedi gadael y rhan o'r wlad lie y dywedid y gair felly er's bl wyddau maith. Oes arnoch chi ddim eisio mynd tua Chaer Saint yna cyn hir, Lewis Pennant ? Mor hy a gofyn i chi, felly, ond 'rydw i yn rhyw ama basa yno well siawns i mi gael tipyn o sicrwydd am long Huw tasa modd i rywun fynd i'r fan honno i holi tipyn. Yno ma'r onors a'r capten yn byw, hynny ydi, yno ma'i gartra fo, a ma gwell siawns bod nhw'n symol nes i'w lie na ni yn y Porth acw. A mi rydach chi ar ych arfer yn gneud cym- wynas i rywun. Glywsoch chi bod y presiwr o gwmpas yma yn chwilio am soldiars ? Ma'n gofyn i'r bechgyn yma fod o gwmpas 'u pethe, neu fydd o fawr o dro yn 'u bachu nhw." Ac aeth yr hen bysgotwr ymaith tuag adref, gan gwbl gredu fod rhyw obaith cael gair o hanes y mab oedd a'i waith ar y dyfroedd mawrion wedi i Lewis Pennant roddi addewid iddo y gwnai efe ei oreu i gael hynny o wybodaeth a ellid fod yng Nghaer Saint. Druan ohono," ebe Margaret Pennant, ymddengys i mi mai y disgwyl yma, a'r ansicrwydd ynghylch tynged eu perthynasau, sydd yn gyfrifol am gymaint o'r lleddf ag syddfyngnghymeriadau trigolion glan y m6r. Ie, Margaret, yn ddios, druain ohonynt. Gobeithio y caiff Huw ddyfod unwaith eto i dir sych. Ie, yn wir efe yw'r unig un o blant yr hen bobol sydd wedi ei adael, os ydyw heb ei golli. Hidiwn i ddim nad awn i am dro i weld Catrin Dafydd, os ydi Gwenllian a chitha am fynd i'r Dre. Mi gewch warchod heno, a mi af finna i'r Porth gyda'r nos." Ac felly fu. Pan aeth Margaret Pennant i mewn i fwthyn y pysgotwr, canfu yr hen wraig yn eistedd wrth y tan yn gwau hosan. Wel, waeth i mi bryd i droi mewn, Catrin Dafydd, diwyd wrth y'ch gwaith y gwela i chi bob amser." Dowch ymlaen, Margaret Pennant, yr ydw i'n nabod y'ch llais chi. Ma'n dda gin i glywed o hefyd, mi fu amser y gwelsom i chi, end 'rydw i wedi efio fy ngolwg i gyd i ffwrdd, fel y gwyddoch chi. A dyma fi rwan a'm calon yn y ngwddw ynghylch Huw bach yto. Ami i gnoc a dyr y gareg,' a fedra i ddal fawr fwy. Ond fydda i ddim yn yr hen fyd yma yn hir iawn, ran hynny, ar y ngora." Edrychai Margaret Pennant ar fasgedaid o ddillad glan mewn cornel o'r ystafell fechan, ac ebe hi Yn siwr, Catrin Dafydd, mae'n syndod i mi bod chi yn medru golchi fel hyn. Sut y gwyddoch chi lie mae fwyaf o waith golchi ar y dillad, ac heb fod yn gweld ?" Gwybod lie byddai'r baw stalwm rydw i, a rhwbio fan honno, wyddoch. Mi fydd Ifan yn deyd mod i'n golchi'n lan, hefyd," ebe'r hen wreigan ddall yn ei dull syml. Arhosodd Margaret Pennant i ymddiddan gyda hi am ennyd, yna tynnodd bwys o ymenyn o'i basged, ac ebe hi Mi neith y menyn dipyn o bleser i chi, Catrin Dafydd, mae o newydd i gorddi, rhaid i mi gychwyn tua'r Llys acw, mae'r nos wedi fy nal fel y mae hi." Mae hi'n ddigon anifyr i neb fod hyd y ffyrdd yma yn y nos rwan, yn wir. Mae yma fil a mwy o ryw straeonjgwirjne gelwydd; ond dyna, fedra i weld dim, a llawer ddeydais i na choeliwn i fawr ond y peth welwn i. Nos dda, a diolch yn fawr i chi am gofio am dana i." Cychwynodd Margaret Pennant tua'r Llys, ac yn lie cymeryd y ffordd fawr aeth ar draws y meusydd, ac ar hyd y llwybrau am eu bod gymaint yng nghynt. Noson loergan Ileuad hyfryd oedd, ac nid oedd neb i'w weled yn unman. Ond yn sydyn, yn union wrth ei phen, dybiai hi, clywai Margaret Pennant y canu mwyaf ardderchog, megis miloedd o leisiau gorfoleddus yn uno mewn cydgan. Safodd ac edrychodd o'i deutu. Nid oedd goleu i'w weled mewn capel nac eglwys. Teyrnasai tawelwch perffaith ymhob cwr, ond clywai y lleisiau peraidd yn canu ymlaen, a'r miwsig yn llenwi'r fro. Ni chlywsai Margaret Pennant erioed ei debyg, ac yn swn y gydgan cyrhaeddodd y Llys. (I'w barhau). o

Bara Brith.

Advertising

Colofn y Beirdd

I'R ORSEDD YN ABERTAWE.

EUN TOUR TAN.

ARNAT IESU, &c.

DEIGRYN HIRAETH

YR HENADUR PETER JONES, HELYGAIN

Y LUSITANIA.

Advertising