Welsh Newspapers
Search 15 million Welsh newspaper articles
10 articles on this Page
Advertising
Yr Unig Bapur Cymraeg a Argreffir yn Lerpvvl. WYN Y RHIFYN HWN. Hen Frython a Hesgin yn disgrifio Eisteddfod Abertawe, t.d. 5—7 Ehediadau'r G'lomen 4 Ffetan y Gol. a'i chwynion 2 SK-YN EIN NESAF. Llith ddeng mlwydd ar hugain oed ar Godi Pregethwyr." Gwiddon ar Hiliogaeth Gwiberod." Alafon ar Forusiaid Mon." Hesgin'' ar Feirniadaethau Eistedd- fodol," &c., &c., &c. At ein Gohebwyr. Un o Feib y TVaenfawi-Nis gallwn gyhoeddi eich llythyr ar adrodd Pwll- heli. Y mae'n rhy fileinig a thafotrwg. Alun T. Roberts, Bwlchgwyn.- Yn ein nesaf. Diolch am eich cymorth.
! At Gymry South Affrica.
At Gymry South Affrica. PA un ohonoch all roddi cyfeiriad presennol Mr. John Richard Williams, oedd flwyddyn yn ol yn ysgrifennu i Fangor o General Post Office Johannesburg ? Bwriedir cyhoeddi ei lythyrau yn y BRYTHON os na cheir clywed oddiwrtho cyn pen dau fis. Cyfeirier :— Bangorian, c/o Swyddfa'r BRYTHON.
DYDDIADUR.
DYDDIADUR. Lerpwl a'r Cylch. Medi 11—Cdr Plant Rhyl St (B.) yn Assembly Hall Marsh Lane Medi 21—Eisteddfod New Brighton Medi 22-Cyfarfod Agoriadol Bousfield Street Hydief 2-Cyfarfodvdd Blynyddol y Feibl Gym. Hyd. 15-16-Cyfat-fodydd Blynyddol CymanfaDdir- westol Gwynedd ac Undeb Dirwes tol Merched Gogledd Cymru, yn Princes rd Hyd. 16-Te Parti a Chyngerdd Trinity Road (A) Hyd. 22-Te Parti a Chyngerdd Grove Street Hyd. 29—Cyf. Cystadleuol Unedig Fitzclarence St, Edge Lane, Douglas Rd., a Newsham Park Hyd. 30-TO a Chyngerdd Gt, Mersey Street Tach. 5-8,—Nodachfa Cymru Fydd Anfield ac Everton yn St. George's Hall. Tach. 9-10-C3 farfod Pregethu Bousfield Street Tach. 12-Te Parti a Chyngerdd Bousfield Street Tach. 16—Cyngerdd y Welsh Choral yn y Philhar- monic Hall Tachwedd 21-Cvf. Pregethu yn Marsh Lane. Tach. 26-Cyf. Cystadleuol Anfield Road. Rhag. 7 a 8—Cyfarfod Pregethu Chatham Street. Rhag. 8-Cyfarfod Pregethu Bedyddwyr Edge Lane Rhag. 15-Elfed y.i Gt. Mersey St. Rhag. 16-Cyf. Blvnyddol Ymdrech Grefyddol yn Crosshall Street. Elfed yn annerch, Rhag. 21-Plant y Pentre yn y Central Hall. Rhagfyr 25-Cyngerdd Blynyddol Crosshall Street Nadolig-Eisteddfod Gadeiriol Nantglyn Rhagfyr 26-Eiste(ldfod y Temlwyr Da. Rhag. 28-Cyngerdd y Welsh Choral yn y Phil- harmonic Hall 1908 Ion. 2-Cyf. Cystadleuol Laird Street. Ion. 14—Parch. F. B. Meyer yn Bootle Maw. 5, 6, 7.-Bazaar Eglwys Martin's Lane Maw. 28—Cyngerdd y Welsh Choral yn y Phil- harmonic Hall Ebrill 25-Eisteddfod M.C. Tyldesley. Manceinion. Medi 14 a 15—Cymanfa Bregethu Booth Street. Medi 20 a 21-Cynhadledd y Bobl Ieuainc. Hyd. 12—Oym. Ganu Methodisti lid yn Moss Side. Cymru. 1.908. Mehefin 8-9-Eisteddfod Gadeiriol Mon
---GlannauV Mersey
GlannauV Mersey Y diweddar Mr. Richard Price, Preston Grove. Colled fawr i Wesleaid Cymreig Lerpwl a fu marwolaeth y gwrda uchod, yr hwn c gleddid ddydd Sadwrn diweddaf ym mynwent Anfield. Cyn mynd i'r fynwent, caed gwasanaeth yng nghapel Oakfield Road, pryc, y caed anerchiadau gan y Parchn. Rober; Lewis, J. Felix, Evan Jones (Abergele) R. Lloyd Jones, Dinbych (a adwaenai'j ymadawedig er's 30 neu 40 mlynedd), ac yr Saesneg gan y Parch. Thomas Hughes, gar. sylwi yn neilltuol ar ei ostyngeiddrwydd, e' ffyddlondeb, ei rodiad gwastad, a'i werti: fel blaenor ac ymddiriedolwr. Daeth lliaw. o'r gweinidogion i'r angladd o Gymru yi gwbl wirfoddol, ac ymysg ereill oedd yr brescnnol, ceid Mrs. Price (gweddw), Mri Chas. T. Price, Arthur Price, Herbert P.. Price, a Frank J. Price (meibion), a Williar, Price (brawd), Mrs. Davies (Llunden), i Mrs. Davies (Ffestiniog), chwiorydd Mes dames C. J. Price, A. R. Price, a T. H. Pric (merched-yng-nghyfraith) Master R. H. Price (wyr) y Parch. F. E. Jones, Mri. Charbs E. Price, M.A., (Edinburgh), George Price, a T. E. Davies (neiod) Miss Davie, (nitli),Capten a Mrs. T. Hall, Mrs. Hughes, Mri.Hugh Evans-Cowley,Ellis Jones, E. Owen, Heber Chambers, Owen Williams. Parchn. E. Humphreys a A. H. Walker, M.A. Capten E. Parry, Mri. J. W. Pierce, T. W. Price, 11. Tudor, W. Davies, E. Williams, Hugh Hughes, H. Williams, 1. Parry, Hugh Fraser, J. Williams, J. Lewis Jones, E. C. Jones, Robert Roberts, Griffith Roberts, E. E. Penny, R. Bellis, O. Tudor Jones, Ellis Owen, A. H. Chambers, R. Williams, R. Jones, G. C. Owen, J. Edwards, C. E. Cowley, J. W. Jones, Hugh Jones (New Brighton), Job Jones (Bootle), G. Evans, J. E. Simon, W. J. Parry, "Evan Hughes, Llew Jones, R. E. Ingman, W. Jones, H. Griffiths, J. W. Fraser, W. Owen, W. Smith, W.fOlive, John Hivey, E. E. Jones, E. Owens, &c. Bu Mr. Price farw Awst 20, yn ei 69ain flwydd, wedi wythnos yn unig o orwedd, er iddo nychu'n hir. Brodor ydoedd o Gefn- blodwel, cylchdaith Llanrhaiadr, a daeth i Lerpwl 44 mlynedd yn ol. Fe'i gwnaed yn flaenor yn eglwys Shaw Street yn ystod gweinidogaeth yr hyglod Vulcan, ac ymrodd- odd i'w swydd yn ddidor am ddeng mlynedd ar hugain. Efe ydoedd clerk of ivories y deml newydd yn Oakfield Road. Bu dymor hir yng ngwasanaeth yj^ Mersey Docks and Harbour Board, ond yr oedd bellach wedi ymneilltuo er's blynyddau. Gwr o dueddfryd encilgar ydoedd,dichlyn ei fuchedd, ac yn dwyn mawr sel tros yr Ysgol Sabothol. Yn ychwanegol at y weddw_alarus, gadaw- odd bump o feibion—Mri. Arthur R.jPrice (yr hwn sydd yn un o arweinwyr yr achos yn Oakfield), Herbert Price (blaenor yn eglwys Wesleaidd Seisnig Anfield), Thomas Price (yn San Fancisco), a Charles a Frank Price, a'r rhai y mae cydymdeimlad dyfnaf Wesleaid y cylch a'u cydnabod ereill. --0-- I Arweinydd Plant y Pentre." I Agos i ddau can milltir yn y tren—wyth awr ar y daith-ewsg anesmwyth-26 o gorau yn eu herbyn-ac eto mae Plant y Pentre heb eu gorchfygu Terfyn teilwng iawn i'w hanes rhyfedd a di-ail. Tarawodd Mr. Harry Evans gyweirnod addysg y Cor pan y dywedai yn ei feirniad- aeth yn Abertawe y dylid dysgu plant i gadw eu lleisiau erbyn y deuent yn ddynion a merched, ac hefyd y dylent ganu fel plant, gyda'r symlrwydd hwnnw sydd mor swynol i'r glust. Hawdd gweled fod Plant y Pentre wedi cael eu haddysgu i wneuthur hyn, ac yn ddi-os dyna sydd yn cyfrif am y rhestr faith o fuddugoliaethau y cor. Ffurnwyd y Cor yn 1899, ynglyn a Gobeith- lu Everton Village, er mwyn cystadlu yng nghyfarfod y Gobeithluoedd yn Lerpwl. Enillasant y wobr, nid yn unig y tro hwnnw, ond ddwywaith wedi hynny, yn yr un cyfar- fodydd. Yr ymgais nesaf oedd yn New Brighton yn 1903. Buddugoliaeth yma eto, a hefyd yn yr un Eisteddfod yn 1903, yn 1904 a 1905. Dilynwyd yr orchest hon gan dair buddugoliaeth yn yr Eisteddfod Genedlaethol —Rhyl, Caernarfon, ac Abertawe. Allan o 21 o gystadleuon, dygasant adref 19 o wobr- wyon cyntaf. Carem glywed am unrhyw gor a'i hanes cystal. Ac nid ydynt wedi cyfyngu eu hunain i ennill arian. Yn ystod y tair blynedd diweddaf maent wedi rhoddi dros £ 50 tuag at sefydliadau crefyddol a dyngarol, heblaw rhoddi eu gwasanaeth yn rhad i lawer achos haeddiannus. Pan y cofier mai Cor Plant ydyw, amhosibl yw peidio edmygu y CQr a'r rhai sy'n gweithio ag ef,—yn bennaf oil yr arweinydd. Arweinydd y Cor ydyw Mr. R. T. Edwards -dyn ieuane 28 oed. Mab yw i deulu parch- us perthynol i'r Bedyddwyr yn Everton Village. Mynycha ef yr un addoldy,ac edmyg- ir ef gan bawb am ei ffyddlondeb i'w broffes a'i barodrwydd bob amser i wneud yr hyn a all dros unrhyw achos da. Nid oedd yn 21 pan gychwynai y cor, ac y mae wedi gweithio yn ddibaid er hynny. Nid yw wedi elwa dim ceiniog oddiwrth y cor er y dechreu. Yn hytrach, gwyr yr ysgrifennydd ei fod bunnoedd yn ei golled. Ymgymerodd a'r gwaith yn unig am ei fod yn yn ei garu, ac yn teimlo nad oedd y plant yn cael chwarae teg i ddangos yr hyn a aliant wneud tan ddisgyblaeth dda, ac amynedd di- ddiwedd. Mae Mr. Edwards wedi rhoddi y Cor o flaen popeth ond ei grefydd, ac y mae yn haeddu y clod mwyaf am ei waith dirfawr, a'r llongyfarchiad mwyaf calonnog ar y safle uchel y mae ei gor wedi ei gyrraedd. Doallwn fod Eisteddfod Abertawe wedi terfynu gtrfa gystadleuol, y cor a bwriadant ymgadw bellach i waith gwahanol. Nid oes amheuaeth na fydd hwn eto yn un mor berffaith a'u gwaith yn y gorffennol, os parha Cymry Lerpwl i'w cefnogi. Un amcan y cor yn awr yw codi safon canu corawl i blant, ac er hyrwyddo yr amcan mae y cor wedi cymeryd Oak Hall, Oakfield Road (hen gartref Cymru Fydd Anfield). Dyma hefyd swyddfa y Liverpool Musical Festival for Children. Sefydliad yw hwn wedi ei gychwyn gan Blant y Pentre," a chyda chynhorthwy Cymry Lerpwl fe wnaiff fwy dros ganu plant na dim sefydliad yn y gor- ffennol yn Lerpwl na Chymru. Aed Plant y Pentre ymlaen gyda eu jlafur, ac yn sicr fe ddymuna pob gwir Gymro Dduw yn rhwydd iddynt.—Llwyd. --0-- Un byw a phybyr ydyw Mr. R. Saunders Jones, ysgrifennydd Cangen Lerpwl o Gym- deithas y Beiblau,Ta dyma'r enwogion y cafas efe addewidtganddynt y deuant i annnerch y cyfarfod blynyddol sydd i'w gynnal yn Hope Hall, Hydref 2 nesaf Parchn. Evan Jones ac Owen Davies, D.D., Caernarfon E. Keri Evans, M.A., Caerfyrdd- in; a D. Gwynfryn Jones, Llandudno. --0-- Yr oedd Pedrog a Hawen ymysg prif feirniaid barddoniaeth Eisteddfod Abertawe, a Mr. Harry Evans yn un o feirniaid y canu. Y maent ill tri yn gryg oherwydd mawredd y babell a dwndwr y dorf.
EBION LERPWL.
EBION LERPWL. Yn Princes Road y bore, a David Street hwyr y Saboth diweddaf, pregethai y Parch. D. D. Williams, Manchester, sef y gwr a enillodd y E30 yn Eisteddfod Abertawe am yr efrydiaeth gymharol o Gymraeg y Testa- ment Newydd. Efe hefyd ydyw awdwr Dyfyniadau Llen Cymru, am yr hwn yr enill- odd £ 10 yn Eisteddfod Caernarfon y llynedd, ac sydd newydd ei gyhoeddi yn Swyddfa'r BRYTHON tros Gymdeithas yr Eisteddfod Genedlaethol. Pris 1 *b Un o bennaf feddygon Lerpwl yw Dr. Bickersteth a'r lie iachaf tu yma i Wynfa yn ei dyb ef ydyw Llandegfan, Mon. Mawr y dyddordeb sydd iddo yn y pentref a'r ardal, ac efe a agorai arddanghosfa flodau yno y Sadwrn diweddaf. Mawr yr arddeliad a gaiff y Parch. Edmund Griffith gyda'i ddarlith ar Happy Ned," neu y Cabmen's Bishop," fel y gelwid y diweddar Edward Sunners, a fu'n ben llymeitiwr a phen ymladdwr Lerpwl ym more'i oes, ond a gafodd dro o'r iawn ryw, ac a fu'n genhadwr trefol dihafal yn y ddinas ddeugain mlynedd. Un tro llogodd boneddiges gab o Orsaf Lime Street i'r Landing Stage, ac ar ben y daith estynnodd 1/6. Ond na," ebe'r gyrrwr gonest, swllt ydi'r ffar yn ol y gyfraith." Synnodd y wreigan glywed cabby yn siarad felly, ac erbyn ymholi, unodroed- igion Ned Sunners ydoedd y dyn. Pa uwch Jystiolaeth allesid gael i nerth efengyl- ydd ? Nid darlith gaeaf yn unig hon, ond darlith haf hefyd. Traddodai Mr. Griffith hi yn Llanfyllin nos Sadwrn cyn y ddiweddaf, a chaed 912 o elw at yr achos oddiwrtho. Ymhlaid achosion cenhadol a gweiniaid y teithir yn bennaf gyda hi ac felly y byddant hwy yn canu am dani :— Mae son am danat ti'n mhob man Yn codi'r gwan i fyny." It Dyma Gymro arall, ac un trwm o gorff a meddwl, wedi ei godi i fainc ynadol Lerpwl, sef Mr. Josiah Thomas. Mab ydyw ef, fel y gwyddis, i'r diweddar Ddoctor John Thomas, ac y mae'n flaenor yn. eglwys y Tabernacl er ys llawn ddeugain mlynedd. k Diau mai efe ydyw lleygwr amlycaf oil Anibynwyr Cymru. 'Does fawr er pan ydoedd yn Llywydd yr Undeb, a bu mawr son a mawr ganmol ar ei araith o'r gadair yn Nhredegar ar "Y Llais o'r Dyrfa." Efe hefyd ydyw trysorydd Mudiad Ymosodol neu Forward Movement ei enwad ac nid oes neb a wyr faint ei ymroddiad gyda phob achos yr ymeifl ynddo. «?2 Fel y gweddill o hiliogaeth y Thomasiaid, y mae wedi cadw ei Gymraeg, ac yn dal yn dyn yn nhraddodiadau goreu ei bobl a'i genedl ac fel cyd-olygydd y Dysgedydd a'r Hybarch Ddoctor Owen Evans, daw ffrwyth ei ysgrifell gref a chroew yn fynnych i'r golwg. Bu ei yrfa fasnachol yn dra llwyddiannus, ac o ran profiad o'r byd a gwybodaeth gwnaiff ynad dinam. k Mae buddugoliaeth Plant y Pentre yn Abertawe yn bluen i fedr llaw a phen eu harweinydd, Mr. R. T. Edwards yn 'bluen i ffyddlondeb a dyfalbarhad y plant; ac yn bluen i Gymry Lerpwl fod hiliogaeth mor dalentog yn dod o'u lwynau. 3t Ynglyn a phriodas ddiweddar y Parch. W. Roberts, Trinity Road, Bootle, amhosibl ydoedd i'w gydweithwyr yn ffirm Mri. Peter Williams & Co., Paradise Street, adael i'r amgylchiad fyned heibio heb amlygu eu parch o un ,a safai mor uchel yn eu syniadau. Bu Mr. Roberts mewn cysylltiad a'r masnach- dy am 25 mlynedd, a manteisiwyd ar yr achlysur i gyflwyno iddo gold clock and ornaments hardd, ar y rhai yr oedd yn ysgrifenedig :— Presented to the Rev. William Roberts on the occasion of his marriage, and his completion of 25 years' service at Messrs. "Peter Williams & Co., by his fellow- employees, as a token of friendship, high esteem, and good wishes. Aug. 7th, 1907." *• Y mae rhai enwogion ereill i fod yno, ond y siaradwr goreu yn y cyfarfod Rhyddfrydol mawr sydd i'w gynnal yn Eastham b'nawn Sadwrn nesaf, a fydd ein cydwladwr penddu, llygadlym, yr Aelod tros Arfon-Mr. Wm. Jones. Y mae Cymry Lerpwl yn dweyd P'nawn da a brysiwch yma eto wrth y Parch. Robert Lewis, ar ei ymadawiad o Gylchdaith Wesleaidd Oakfield i Bwllheli. Dywedai ei air ymadawol wrth bobl ei ofal nos Sul ddiweddaf. Yn ei "Atgofion" dyddorol yn y Gwyl- iedydd am Wesleaeth Gymreig Lerpwl, edrydd Mr. J. Williams, Dee View, Corwen, hanes cyfarfod gweddi undebol o bob enwad a gaed yng nghapel Pall Mall flynyddau ar flynyddau'n ol, pryd y cododd rhyw hen wr ar ganol gweddi un arall, gan ledio'r hen bennill a ganlyn :— Mae Duw fy nhad yn Seion, yn cadw ty fy mam =1 Mae Crist fy Mrawd yn Seion,—ni raid im' ofni cam Mae'r Ysbryd Glan yn Seion—cysuron sydd i'w saint, 'Rwyf finnau'n byw yn Seion, a diolch am y fraint." «?■,} Mawr fa'r canu arno ond sylwa Mr. Williams nas clybu mo'r hen bennill byth mwy o hynny hyd yn awr. Wel, do, fe'i clywyd, sef yn Princes Road (M.C.), noson oedfa fawr orfoleddus Mr. Evan Roberts adeg ei ymweld a, Lerpwl. Fe gofir mai'r noson cynt (nos Wener) y cawsai'r Diwygiwr yr oedfa ddu, ddistaw, honno, yn Chatham Street, a barodd gymaint iffrom i rai gweinidogion a nos dranoeth, yn Princes Road, bu'n ddistaw'r un modd am yn hir. Yn ofni rhag cael siom gyffelyb, cododd llanc ieuanc—un o droedig- ion cynnes y Rhos-a chan gerdded ol a blaen drwy'r llawr, canodd yr hen bennill uchod mewn llais mwyn, treiddgar, nes gyrru'r dorf yn dan, peri i'r Diwygiwr godi ar ei draed, a thraddodi un o'r anerchiadau godidocaf a ddiferodd tros ei fin. Pwy wyr pwy bia'r emyn ?
Advertising
Neuadd y Twr, New Brighton- -> CYNHELTR Y SEITHFED EISTEDDFOD GERDDOROL FLYNYDDOL, Ddydd Sadwrn, Medi 21, 1907. Beirniaid. Cerddorol :— HENRY COWARD,Ysw.,Mus.Doc.(Oxon.), DAN PRICE, Ysw.(Llundaio)' a HARRI EVANS, Ysw. Rhaglen gyfiawn i'w chael ond anfon stamp i'r Ysgrifennydd- LLEW WYNNE. 1 Hamilton Square, Birkenhead. Cymdeithas Cymru Fydd Anfield ac Everton* NODACHF A-GY-MREIG yn ST. GEORGE'S HALL, LERPWL, Tachwedd 5ed, 6ed, 7fed, a'r 8fed, 1907. MANYLION I DDILYN. Amcan: Dileu y ddyled ar yr adeilad newydd, 102 Belmont Road.
LLENYDDOL.
LLENYDDOL. Y Brenin Athelstan a Chilgwri, Y MAE ym mryd Mr. F. W. T. Tudsbery, M.A., Rhydychen (brodor o sir Gaer) gy- hoeddi cyfrol o'i ymchwiliad i hanes y Brenin Athelstan—cyfrol ddyddorol i ni Gymry Glannau'r Mersey oblegid fod a wnelo'r hanes hwnnw lawer â Chilgwri, sef y penrhyn o sir Gaer a elwir bellach Wirral. Yn ol yr awdwr, y mae Cilgwri yn cynnwys y groesffordd o Ystrad Clwyd i'r wlad a alwn ni yn Ogledd Cymru ac mai at y ffordd honno y cyfeirir yn Rhamant y Marchog Gwyrdd pan ddywedir i Gawin groesi i "Wyrale." Croesai'r ffordd, ebai ef, o Gayton i'r He y saif Port Sunlight arno'n awr, a'r rhydau y sonir am danynt yn y Rhamant uchod yw Rhydau'r Ddyfrdwy i Gayton o Dreffynnon. Deil yr awdwr hefyd fod yn Rhamant Castell y Greal gyfeiriad at y goedwig gladdedig ym Meols, ger Hoylake ond prif bwynt y gyfrol ydyw penderfynu man ymladd Brwydr Bramanburh, a ymladdwyd, medd ef, nid yn Bromborough, ond uwchben Storeton a Brimstage. Ond ymladdwyd brwydr arall gyda Chonstantine gerllaw y Mount Wood, ac y mae'r ddwy frwydr wedi eu cymeryd y naill am y llall gan y traddodiadau lleol a chan ysgrifenwyr boreu- ol. Y Brunefeld a grybwyllir gan William o Malmesbury ydyw Thornton Hough, a'r rhan o Brimstage ar y dde i'r burn (annan) y sonir am dano yn Egil's Saga. Deil Mr. Tudsbery hefyd fod Poulton- Lancelyn yn cynnwys mam-eglwys wreiddiol Lower Bebington fod Lancelyn yn gyfystyr a'n Llansilin ni yng Nghymru a'i fod wedi ei gysylltu yn y 12fed ganrif a'r Marchog Lancelot yn y Rhamant Arthuraidd. Rhai traddodiadau a ddywedant fod Silin yn gefn- der i Canna, yr hon yn ol yr awdwr a sylfaen- odd Landican, mam-eglwys Woodchurch. Datblygir yr uchod a phwyntiau ereill yr hanes yn y gyfrol, yr hon a gyfoethogir a lliaws o ddarluniau, yn neilltuol gyda golwg ar ddinas Caer, a'r Dee-March Gwynedd a Lloegr. --0--
Y Ficer Pritchard. ----
Y Ficer Pritchard. Mawr Golled y Rhos. Y MAE'R Parch. Thomas Pritchard, ficer Rhosllanerchrugog, wedi derbyn bywoliaeth Llanfwrog, Rhuthyn, a gynhygiwyd iddo gan yr Arglwydd Ganghellydd. Dyma'r newydd tristaf a glybu'r Rhos er's blynyddau, oblegid nid oes yno neb a saif yn uwch ei barch gyda'r Ymneilltuwyr yn ogystal a'u brodyr perthynol i'r Eglwys Wladol, na'r Ficer Pritchard. Y mae'r Ficer yn adnabyddus ledled Cymru hefyd fel gwr sydd yn lleddfu, yn hytarch nag angerddoli, pob drwg-deimlad rhwng Cydffurfiwyr ac Anghydffurfwyr; fel gwr eglwysig a wnaeth ei eithaf i ddyrchafu'r glowyr a phobl ereill Maelor, ac i ychwanegu at eu dedwyddwch tymhorol ac ysbrydol. Cymerodd ran axnlwg yn y Diwygiad diweddar, a chydweithredai a phawb a geisient rywfodd ddal y fflam ddwyfol i gynneu. Mawr fydd colled y Rhos, a mawr ennill Llajifwrog.
Advertising
EGLWYS GYMRAEG ST. DEINlOt Upper Parliament Street. Gweinyddir yn yr uchod Sul nesf, am 11 a.m. a 6-30 p,m gan y Parch. Dennis Lloyd James, B.A., Q 0fJeiriad^Neiojjdd St. Deiniov. Undeb Corowl CymreiO LERPWL. Arweinydd—Mr. HARRI EVANS. DECHREUIR Y Rehearsals am y Tyillof NOS FERCHER, MEDI 4,1907, yn Y Small Picton Lecture Hall (Y tu cefn i'r Museum, William Brown Street); Am 7=45 o'r gloch. Y mae lie i ychydig leisiau. Bydd y gor yn cyfarfod yn yr ystafell uchod o Fercher, Awst 28ain, o 7-30 hyd 9 0 gloch, i dderbyn rhai a ddymunont ymuD0, LLEW WYNNE, Ysgrifennydd, d 1 Hamilton Square, Birkenbe^ Liverpool & North wales I Regular Daily Sailings (Sundays included)- j From Prince's Landing Stage (weather and clt cumstances permitting), Every day by La Marguerite (Fridays, St. Tudno "). 10-45 a.m., for Llandudno, Beaumaris, and Menai Bridge, allowing 4 hours aS -j, at Llandudno, and due back about 7-30 P- (Carnarvon connection week-daTP,) tJI. 2-30 p.m. Fri., 30, Sat., 31, & Mon., 2, at 2-15 P- Early boat on Mondays, due Liverpool 10-15 #• EXTRA SAILINGS 9-15 a.m., Anglesey Trips. Sunday, Sept. 1st. » Through Bookings from Principal Stations. For Fares, &c., apply to the Liverpool and 140rtb Wales Steamship Company, Ltd., T. G. vroi Secretary, 40 Chapel Street, Liverpool. Ofli Guide, post free 3d. Channel Cruises. FARE 6d. Two Hours' Channel The Favourite Saloon Steamer PATHFINDER (SL other Steamers, specially fitted up for Passen» having every convenience on board, leavins^jji- Prince'a Landing-stage [weather and other cirnJt>t< stances permitting] Week days 3.15 p.m. Vr0'v,oii( Sunday 11.15 a.m. [short trip], arriving back » 2.,15,3.30, 4.30, 6.30. and 7.30 p.m. ——m,————-—————l COMFORTABLY FURNISHED count Cottage TO LET in Anglesey. Dining Room, Kitchen, Pantry, Four lovely scenery, bracing. Convenient e19. Shops, Post, Station, Church and ChaP Terms moderate.—Apply 25X Brython- Telep I' ne—157Y Birkenhead. Er amlder ei gwsmeriaid,—yn siop HUGHES, Pawb gant eu hangenraid Am siwt newydd bydd, heb baid, Frethynwr i Frythoniaid. ø ø ø JOHN HUGHES Tailor Draper, 24 OXTON ROAD, BTRKENHEAP I malie Boots That's my business. ,90. You buy Boots; That's your bus If you place any value on your feet (1000 Come and let me build you a forget. An easy Shoe is.equivalent to an easy cons GUTTERIDGE, —BESPOKE BOOT MAKERS 291 West Derby Rd. My OnlyA Telephone-2270. Richard OweO, PRACTICAL. TAILOR and Jt COSTUME MA 152 Dale st., LIVERPOOL. Printed and Published for the efi etors, EVANS, SONS & FOULKES, 1 o0l> Chambers, 8 Paradise Street, offif Tel. 1112 Central, by HUGH: EVANS. U* 358a Stanley Road, Liverpool) J1 County of Lancaster.
EBION LERPWL.
Yn y Drych ceir ysgrif o atgofion gan Morien Mon Hughes, am y diweddar Mr Hugh Edwards, prif glerc pwyllgor tan Gorfforaeth Lerpwl, a blaenor yn eglwys Douglas Road. Yn ddiweddar hefyd crog- wyd llun da ohono yn y Municipal Buildings, Dale Street, gan Mr. Pickmere, clerc y ddinas, o barch i un o'r gweision cywiraf a medrus- af, meddai, a fu dan y Gorfforaeth. Ni chaed diwedd O'i hynawsedd A'i hanesion Ni chaed hafal Wr a chystal Ei orchestion." k Bu Alarch Gwyrfai (sef yr Envoy Gwyrfai Hughes, Llanberis) yn Brown Street a'r Lemuel Mission Hall, Bootle, Awst 24-25, yn cynnal cyfarfodydd tan nawdd Byddin yr Iachawdwriaeth a phrofodd ei ymweliad yn fendith i'r achosion gweiniaid hyn ac ereill. Ymwelodd hefyd a'r ddeadell Ani- bynol yn Vittoria Street, Birkenhead. Cymro arall sy'n flaenllaw a defnyddiol gyda'r Fyddin ydyw Mr. Edward H. Roberts, a adwaenir yn well fel- Ted Roberts, y paffiwr gadd ras." Gwnaeth lodes ddeunaw oed am dani'i hun ar Bidston Hill yr wythnos ddiweddaf, am nas gwyr neb paham. Yn y Mersey Tunnel y byddid arfer a chlywed am bethau cyffelyb adeg y steam trains ond er adeg goleuo'r lie efo'r trydan, ni chlybuwyd wedyn am gymaint ag un truan yn cymeryd cam mor wag mewn glyn mor erchyll. --0--