Skip to main content
Hide Articles List

16 articles on this Page

Advertising

Family Notices

Advertising

Eisteddfod Abertawe.

Cyfarfod y Prydnawn.

News
Cite
Share

Cyfarfod y Prydnawn. Cadeirydd, Mr. J. Jay Williams. Hwn ydoedd y cyfarfod lie bu'r ddamwain trwy i ran o'r pafiliwn yn y cefn roddi ffordd, ac i ychydig gael eu hanafu, ac i lawer gael braw. Y Brif Gystadleuaeth Gorawl. Lleisiau 175 i 200, am ganu See what love a The Nations are now the Lord's (allan o Ora- torio St. Paul). Canwyd yn y drefn a gan- lyn Cwmafon Choral Society (arweinyad, Evan Thomas). Llanelli Choral Society (J. Thomas). Cardiff Harmonic Society (Roderick Will- iams). Newport Choral Society (A. E. Sims). Rhymney Gwent Choral Society (Daniel Owen), Pontypridd Musical Society (W. M. Thomp- son). St. Paul's (Swansea) United Choir (Henry Williams). Morriston and District Choral Society (T. D. Jones). Brynaman Choral Society (E. Evans). Rhymney United Choir (J. Price). Y beirniaid oedd Dr. Cowen, Dr. Walford Davies, Dr. Dan Protheroe (America), Mr. Harry Evans (Lerpwl), a Mr. Rhys Thomas. Dyfarnwyd y wobr gyntaf o Y,150 i Gor Caerdydd a'r ail, £50, i Brynaman. Yng nghyngerdd yr hwyr, caed caneuon yn yr adran gyntaf gan Miss Maggie Davies a Mr. David Hughes ac yn yr ail ran, aed trwy y gantata Llyn y Fan," a gyfansodd- wyd yn arbennig ar gyfer yr Eisteddfod gan Mr. David Thomas, B.A., Mus. Bac. (Oxon), a Gwili'n awdwr y geiriau. Cymdeithas y Cymrodorion Mr. J. H. Davies a Llyfryddiaeth Gymreig. Fore ddydd Mercher cynhullodd y Cymro- dorion, pryd y darllennodd Mr. J. H. Davies, M.A., cofrestrydd Coleg Aberystwyth, bapur galluog ar Lyfryddiaeth Gymreig a'i Hamcanion." Dywedodd mai prif amcan y cyfarfod oedd cychwyn cymdeithas, a thynnu allan ei rheolau, er mwyn gwneud gwaith da gyda Llyfryddiaeth yng Nghymru. Cyfeiriodd at waith Gwilym Lleyn, fel y gof- golofn oreu allai dyn godi iddo'i hun. Yr oedd Mr. Ballinger, Caerdydd, gyda Llyfr- yddiaeth Ficer Pritchard, a'i waith diwedd- arach ar y Beibl Cymreig, wedi rhoddi esiampl ardderchog o'r hyn ellid wneud. Gellid cael allan hanes ambell i wasg, oedd mor ddyddorol a hanes llyfr. Gellid hefyd gael casgliad o hymn-lyfrau y cyfnod cyn 1800, a buasai yn ddyddorol dros ben, gan fod yr emynau mor dda yn y cyfnod hwnnw. Galwodd y darlithydd sylw at amryw o ganghenau ereill, ac ar ol hynny, cafwyd sylwadau gan amryw o lenorion a llyfr- bryfed mwyaf Cymru. Yng nghyfarfod dilynol y Gymdeithas Lyfryddol Gymreig, dewiswyd Syr John Williams yn llywydd, Mr. John Ballinger yn drysorydd, a Mr. D. Rhys Phillips, Abertawe, yn ysgrifennydd, gyda phwyllgor cryf a dylanwadol, a gellir disgwyl bellach i rywbeth gael ei wneud.

DYDD IAU.

COrall Plant.,

DYDD GWENER.

-DYDD SADWRN.

I b'le 'raeth y Gwobrwyon.

% Yr elw dros £ 1300.

BWLCHGWYN A'R CYLCH.

Advertising

LLANGOLLEN.

Glannou'r Mersey

Advertising