Welsh Newspapers

Search 15 million Welsh newspaper articles

Hide Articles List

16 articles on this Page

Advertising

Family Notices

Advertising

Eisteddfod Abertawe.

News
Cite
Share

Eisteddfod Abertawe. (Parhad o tudal 5). Plant y Pentre. Da mhlant i! Yn wir, chwi gansoch yn dda. Yn ol beirniadaeth Mr. Harry Evans, nid oedd ond ychydigyn bach rhyngddynt a chael yr holl wobr. Mawr oedd eu dewrder yn canu yng Nghymraeg. Y maent yn glod i Lerpwl. Urddau'r Orsedd. Urddwyd cryn nifer, fel arfer, ond cafwyd rhai personau wrth y Maen Llog oeddynt o anrhydedd i'r Orsedd a'r genedl, ac felly y cydnebydd pawb fod y seryddwr enwog, Syr Norman Lockyer, a Miss A. J. Williams (Eurgain), y gerddores dalentog o Beaumaris. Llwyddiant Mawr. Cafwyd tywydd teg wedi'r cwbl, a thyrfa- oedd afrifed ymron. Ni welais neb mwy gofalus na Mr. Alban Morris am Feirdd yr Orsedd, a mynnai iddynt eu lie bob cynnyg. Ac yr oedd y ddwy seren honno sydd yn wyneb Mr. Vaughan Edwards yn adlewyrchu y craffter a'r penderfyniad sydd yn ei feddwl byw. Mown gair, gwnaeth swyddogion y Pwyllgor Lleol eu gwaith yn frydd Ion a medrus. Gallwn yn hawdd gydymdeimlo ag un ohonynt a glywais yn dweyd gair go boefch am frawd a wrthododd wneud dim ynglyn a'r Pwyllgor, ond a ymwthiai i'r amlwg lie y gallai gael cyfle i ddangos ei hun yn yr Orsedd, &c. Amhosibl oedd i'r fath wythnos eisteddfodol gael ei gweithio allan heb beth gwrthdarawiad yn awr ac yn y man, rhwng hwn a'r Hall; ond dylai mawredd y llwydd foddi pob drwgdeimlad ac achwyn. Wel, dyna fy sylwadau i ar Eisteddfod Fawr Abertawe, a phiged y darllennydd ei ddewis ohonynt. Bras=Hanes o weith= rediadau'r Eisteddfod. Am y gweithrediadau a'r dyfamiadau hyd nos Fawrth, gweler ein rhifyn diweddaf. DYDD MERCHER. Llywydd cyfarfod y bore ydoedd Syr John T. D. Llewelyn. Agorwyd gyda detholiad o hen alawon Cymru gan Seindorf Heddgeid- waid Abertawe, a dilynwyd gyda Chan yr awe, Eisteddfod, Rhyfelgyrch Cadben Morgan gan Mr. David Evans, Llunden, yr hwn a gafodd fawr hwyl, yn enwedig gyda'r pennill a ganlyn :— Hen wlad fy nhadau, gwlad y Dwyfol air, Gwlad cymanfaoedd ynddi gair, Hen wlad pregethu, gwlad pregethwyr gwiw, Gwlad sydd a'i deiliaid yn ofni Duw Gwlad y delyn, gwlad y gerdd a'r gan, Hen wlad ardderchog yw Cymru lan Swn ei moliant esgyn hyd y nef, Bloeddio wnant Hosanna iddo Ef.'

Cyfarfod y Prydnawn.

DYDD IAU.

COrall Plant.,

DYDD GWENER.

-DYDD SADWRN.

I b'le 'raeth y Gwobrwyon.

% Yr elw dros £ 1300.

BWLCHGWYN A'R CYLCH.

Advertising

LLANGOLLEN.

Glannou'r Mersey

Advertising