Skip to main content
Hide Articles List

7 articles on this Page

Cysgodau y Blynyddoedd Gynt.

News
Cite
Share

Cysgodau y Blynyddoedd Gynt. GAN GWYNETH VAUGHAN. PENNOD XXI.-HEL YNTION BRO EINION. Ni fu Sara Jones, Ty'r Capel, fawr brysurach yn ei hoes nag yn ystod yr wythnosau hynny yn Nhre Einion, a rheswm da paham onid oedd rhyw newydd i'w glywed yn barhaus, ac eisieu ei gludo o'r nail] dy i'r llall er mwyn goleuo trigolion y Fro ynghylch yr amgylch- iadau rhyfedd a ganlynent eu gilydd mor gyflym yn yr ardal. Pwy end Sara ddeallai helynt priodas merch y Plasllwyd ac fe gariodd y fran hanes troell y Ship and Castle i Dy'r Capel ben bore dranoeth. Gwyddai yr hen ferch ofjflaen undyn fod Tegwen Rhys, merch brenin yr Ynys, wedi dyfod i siop y sadler i newid awyr dipyn er mwyn ei hiechyd, a'i bod yn gwisgo modrwy aur, nad oedd ei gwerthfawrocach yn yr holl wlad, ac nad oedd eiawns i neb gael gan Tegwen ei thynnu oddi am ei bys i'w dangos i undyn. Rywfodd neu gilydd, daeth Sara i wybod fod yr hen feddyg wedi rhybuddio teulu'r sadler nad oeddynt i son am yr addurniadau euraidd a wisgai Tegwen Rhys, ac fod meddwl y ferch ieuanc ymhell o fod yn ei dawelwch arferol, a hynny oblegid y gadwyn aur a'r fodrwy. Tybiai pawb o'r bron trwy y gymdogaeth fod a wnelai y tylwyth teg a'r ymweliadau ag Ynys Enlli; ond awgrymai rhai mai yr Un Drwg oedd wrth wraidd y cwbl, a dyna ddywedai Sara T £ 'r Capel pan yn Llys Gwenllian yn gofyn am dipyn o laeth enwyn y dydd y derbyniodd Lewis Pennant lythyr Laird Munro. Yn sicr i ti, Sara," ebe Margaret Pen- ant, nid oes a wnelo'r Un Drwg a theulu'r Llety mae'n ddigon tebyg y ceir esboniad ar bopeth yn y man, ond mae'n drueni mawr fod yr eneth druan wedi cael y fath ddychryn- dod." Faswn i'n synnu dim tasa hi byth yn dwad ati i hun, y fi, na faswn, yn wir, druan biti, geneth ddel hefyd.. Mae Mrs. Gwyn wedi bod droia yn edrach am dani hi, ac mae gwraig yr Inn yn meddwl bod y Doctor yn foddlon iddi hi fynd i'r Ty Gwyn i aros. Mi wyddoch, wrth gwrs, bod rhyw dipyn i ddweyd wrthi hi gin Mrs. Derfel druan. A dyna helynt sydd yn y Ship ym Mhorth Einion, ynte ? Pawb ofn 'i gysgod yno ar ol y noson buo'r droell yn nyddu. A phawb yn y Porth ofn bob munud clywan nhw fod y Hong yma ne'r llong arall wedi colli. Roedd Ifan Dafydd yn deyd, medda nhw, na chlyw- odd o 'rioed son am y droell yn nyddu fel yna na fydda rhyw ots o helynt yn yr ardal, a'r helynt mwya yn yr ardal yma ar lan y mor fel hyn ydi colli'r llonga, ynte ? Ond ran hynny, dydi hi yn helynt yma er's hyd o hydion. Dyna firi'r Plasllwyd yna mi fasa'n well gen i fod yn hen ferch fel rydw i, nag yn wraig i neb fasa yn y ngadael i fel yna, beth bynnag. A ma nhw'n deyd na ddaw'r Capten yna byth yn ol." Gwenodd Margaret Pennant tra y tywallt- ai Sara ei hyawdledd. Yr oedd yn gynhefin iawn a'i chlywed yn traethu ei hanesion pan ddeuai i'r Llys ar ryw neges, ac mor gynhefin a hynny a'r gwaith o geisio gan yr hen ferch fod yn brinach o'i geiriau ynghylch ei chym- dogion, rhag iddi nid yn unig gludo newydd- ion, ond hefyd fod yn euog o'r pechod gwrthun-derbyn a chludo enllib. Felly nid oedd yn beth newydd i Sara glywed Margaret Pennant yn dechreu ei chywiro Na, Sara, paid a dweyd dim yn ol nac ymlaen ynghylch Capten Gwyn-Munro, feallai y daw yma i'n mysg yng nghynt nag ydym yn feddwl. Gwell i ni beidio ymyraeth a'r mater, beth bynnag sydd yn gyfrifol am siomedigaeth y croeso fwriadem iddo gael yma." Wel, wir, meistres, dydw i erioed wedi deyd dim ond y peth glywais i a'm clustia fy hun ym Mhlasllwyd. 'Does neb yn y Plas yn disgwyl gweld y dyn byth ond hynny, A waeth i ni felly, am wn i, mae yma lawn ddigon o'r hen betha diarth yma yn.medd- iannu pob clwt y fedra nhw." Mae Mrs. Gwyn-Munro wedi ei gwahodd at deulu'r Capten, beth bynnag, Sara, a phe buasai rhyw rwyg cyd-rhyngddynt ni chawsai y fath wahoddiad yn sicr. Yn siwr, Sara, goreu pan leiaf i droi a throsi ar yr hanes yma, fel pob un arall." Wel, meistres, yr ydach chi wedi fy synnu i, ond fum i ddim yn y Plasllwyd er echdoe, ne mi fasa'r housekeeper yn siwr o fod wedi doyd wrtha i," ebe Sara, fel pe yn ceisio rhyw reswm dros ei hanwybodaeth ei hun o'r fath newydd pwysig. Nid heb ei haeddu yr enilloid hi yr enw Y Papur Newydd," a byddai deall fod rhywun arall yn gwybod hanes o'i blaen If; yn groes drom i Sara geisio ei dwyn. Wedi gafael yn y piseraid llaeth, a diolch am dano, dywedodd :— Peth rhyfedd os na neith stori'r droell yna ddrwg i'r ty, ynte ? Ond roedd Betsan Moras mor sionc ag y buo hi rioed neithiwr. Yno bum i yn ol cwrw'r achos y tro yma. Dydi o fawr, ond mi fydda i yn mynd un bob yn ail i'r Inn a'r Ship, fel bydd y blaen- oriaid yn deyd." Mi fydda'n eitha pe bae dim eisio mynd i chwilio am gwrw'r achos i 'run ohonyn nhw, yn wir, Sara," ebe Lewis Pennant, yr hwn oedd newydd ddyfod i fewn, ac wedi clywed geiriau olaf yr hen ferch. Wel, dydi o ddim yn rhyw lawer o sumthin, druaill, iddyn nhw ond mae nhw'n ots o ffond o lymad, wyddoch, Lewis Pennant, wedi iddyn nhw fod yn chwsu ac yn tagu am oriau bwygilydd. A rhyw greadur smala ydi dyn, pregethwr ne beidio, mae o'n aflonydd iawn os na fydd o yn byta ne'n yfed o hyd. Begio'ch pardwn chi, Lewis Pennant, hefyd, ond yn wir mi fyddai'n meddwl na ddysgodd yr un dyn rioed fod yn llonydd, wyddoch. Mae yma lot fawr ohonyn nhw yn cyboli hefo'r hen dybaco yna, a fyddai bob amser yn meddwl mae yr un hen ysfa sydd wrth wraidd hynny,—misio bod yn llonydd." Chwarddodd Lewis Pennant yn galonnog, a dywedodd Hwyrach dy fod ti yn dy le, Sara bach syj inwn i ddim, ond rhaid i ni dreio dysgu bod yn llonydd, yn hytrach na bod yn » hen arferion llygredig." Yn ,wir, Lewis Pennant, mi fydda i yn Qfalus ofi* atsen, dyna i chi, am gwrw'r achos. Mi fydd Betsan Morus a gwraig yr Inn yn gwybod na neith dim ond y gora feddan nhw y tro i mi. Tra byddai i yn Nhy'r Capel, mi ellwch benderfynu na ddaw acw ddim diferyn na fydd o'n ffit i roi ar fwrdd y gwr mwya yn y wlad, pwy bynnag ydi o." Diolchodd Sara unwaith (yn rhagor am y llaeth enwyn, ac ymaith a hi. Trodd Lewis Pennant at ei wraig, ac ebe wrthi "Mi fum i yn y Plasllwyd, Margaret, ac fe ddanghosais lythyr brawd y Capten i Sgweiar Gwyn. Ni feddyliais fod y dyn yn meddu cymaint o galon. Yn ddiddadl, mae yn caru ei ferch, ac yr oedd yn crynnu gan lawenydd fod rhyw lygedyn o obaith y gellid cyfanu'r rhwyg cydrhwng ei ferch a'i phriod. Nid oedd y llythyr oddiwrth Mrs. Munro at Alys ond byr, meddai, eto yr oedd yn garedig a chyn- hwysai wahoddiad taer a serchog. Mae eisioes wedi gwneud lies mawr i'r eneth cododd o'i gwely, a bu yn cerdded o gwmpas ei hystafell ac yn siarad a'i mam ynghylch y siwrnai. Dywedais i wrth y Sgweiar, os cymerai fy nghyngor i ar y pwnc, mai anfon Alys at ei theulu-yng-nghyfraith yng ngofal gwas a morwyn fyddai oreu o lawer. Ceiff yr eneth well siawns heb i bresenoldeb ei rhieni gyth- ruddo y Munros. Ac yr oedd y Marchog yn barod i wneud rhywbeth fel yr awgrymwn, am wn i, gan mor ddiolchgar oedd am i mi ysgrifennu at y teulu." Gwnaethoch yn ardderchog, Lewis ond, wrth gwrs, gwyddwn y byddech chwi yn sicir o gael rhyw ben llinyn ar bethau wedi i chwi eu cymeryd mewn llaw. Mae'n dda iawn gennyf, er mwyn yr eneth. Beth ond geneth ydi hi eto ? Ond sut y teimla'r Sgweiar, tybed, orfod derbyn cymwynas mor fawr gennycli ? Rhaid ei bod yn bur galed arno cyn y daethai yma ar eich gofyn. Nid wyf yn meddwl, Margaret bach, fod Rhydderch Gwyn yn cofio dim ond fod ei ferch mewn gofid, ac yntau yn benderfynol o'i chysuro rywfodd, os yn bosibl." Yn wir, mae'r lie fel dan felltith yn union, er na ddylwn ddweyd y fath beth, er pan fu Mrs. Gwyn farw." Wel, Margaret, does dim yn hawdd dis- gwyl daioni wedi gwneud drygau, ai oes ? A beth ond euogrwydd ei galon bar i'r Sgweiar gredu fod ei wraig gyntaf yn ym- rithio o gwmpas y Plasllwyd ? Mynnai gennyf fi gredu heddyw ei bod yn cerdded ar hyd y rhodfeydd er pan ddaeth yn ol y tro yma. Nis gwn i ai ei gydwybod euog ef, ynte rhywtm sydd yn ymbleseru ei ddychryn sydd yn gyfrifol. 'Doedd dim modd ei ddar- bwyllo nas gallai y ddrychiolaeth fod." (I barhau). OL-NODIAD.-Nid ramant byd ond ramantlyd ddylasai y gair fod yn y dernyn o englyn yr wythnos ddiweddaf. Gan fod colofn farddonol Pedrog y drws nesaf i mi yn y BRYTHON, rhaid i mi erfyn ar y cysodwr ofalu fod y llinellau barddonol yn gywir beth bynnag, neu och fi, dyna fel y tynnir creadur tlawd yn bedwar aelod a phen gan y beirdd. G.V. --0--

Colofn y Beirdd

Y MAB AFRADLON.

ING YR ARDD.

EMYN.

CASTELL CAERNARFON.

Advertising