Welsh Newspapers
Search 15 million Welsh newspaper articles
3 articles on this Page
O'R DE.
O'R DE. [GAN HESGIN.] Yn Eisteddfod Abertawe. DDYDD lau-dydd y cadeirio—y bum yno. Dynia y bedwaredd Eisteddfod Genedlaethol i mi fod ynddi. Eisteddfod y Rhyl, 1892, oedd y gyntaf, pan ranwyd y goron-neu o leiaf y wobr a'r anrhydedd—rhwng lolo Caernarfon a Ben Davies. Eisteddfod Llan- dudno, 1896, oedd yr ail pan enillodd Cor Llew Buallt y brif gystadleuaeth gorawl, gan wado fel y dywed pobl y De yma, gor Merthyr, dan arweiniad Dan Davies, a chor Dowlais, dan arweiniad Harry Evans. Yr wyf yn credu mai V oedd y cyntaf yn Uythyrdy Llandudno y prydnawn hwnnw yn gyrru pellebyr o'r canlyniad i ffrindiau yng Nghwm Rhondda—yr oeddwn i yn gwybod am holl short cuts y dref. Ond er anfon brysneges iddynt, gwrthododd my nabs a chredu yr hanes-they thought I was having them on-gan mor anisgwyliadwy oedd canlyniad yr ymdrechfa. Eisteddfod Aber- pennar. 1905, oedd y drydedd. Yr oeddwn Wedi myned yno gan feddwl gweled cadeirio ond yn lie hynny, yr hyn gefais i oedd clywed yr Athro J. Morris Jones yn darllen y feirniad- aeth, ac nid wyf yn cofio i mi fwynhau darllen beirniadaeth gystal gynt na chwedyn. Dyna lIe 'roedd J.M.J. gyda'r Ilais mwyn treiddiol y mae'n berchen arno yn dweyd y drefn wrth y cystadleuwyr druain, mewn brawddegau caboledig cyrhaeddgar gynhwysent eiriau oedd yn mynd i'r byw, ac yn clwyfo fel brath cleddyf. Neb yn deilwng oedd y dded- fryd, a chadair wag oedd y canlyniad. Yr oedd ei weled a'i glywed yn dwyn ar got i un eiriau Capten Marryat :—" The mildest mannered man that ever scuttled ship or cut a throat." Ond eu torfynyglu wnaeth o, er hynny. Cyrhaeddais Abertawo mewn pryd i gael golwg ar yr Orsedd ym Mharc Cwmdoncin yn y bore. Yr oedd yr olygfa yn uii i'w chofio. Yr oedd anian ar ei gore i lan ac ar lawr yr haul yn siriol wenu, a'r awel fwyn yn sisial yn y gwyrddlas lwyni, ac yr oedd torf anferth yn amgylchu'r meini. Oddifewn i'r cylch yr oedd y graddedigion yn eu gynau gwynion, glas, a gwyrdd,—yn ol eu graddau. Ond nid arnynt hwy yn neilltuol yr oedd llygaid y dorf, ond ar y cwmni o Lydawiaid oeddynt yn bresennol yn eu gwisgoedd cenedlaethol. Caraswn fod yn feddiannol ar ddigon o allu disgrifiadol i roddi rhyw fath o idea l r boneddigesau am lun a lliw eu dillad, ond rhaid I mi foddloni ar ddweyd fod y rhianedd Llydewig yn eu siacedi wedi eu trimio ag edafedd aur a'u capiau gwynion yn yn bropor anghyffredin. Gwnaeth Dyied, fel Archdderwydd, ei ran yn ddigon dethe- but he doesn't look the part, somehow-y mae yn rhy ifanc yn un peth nid oes dim o fusgrellni patriarchaidd Clwydfardd, nag urddasolrwydd pendefigaidd Hwfa o gwmpas Dyfed. Y mae yn chwim a disymwth yn ei symudiadau, nes gwneud i un feddwl am ring-master mewn circus. Pan oedd yr urddo yn mynd ymlaen, nid oedd yr ymgeiswyr llwyddiannus yn ddigon sionc ar eu traed i'w foddio. Dewch ar unwaith, dewch ar "nwaith," oedd ei orchymyn, nes gwneud i mi ofni bob munud glywed rhai o'r Saeson yn y dyrfa yn gwaeddi Don't you jump, Joey< Yr oedd un peth ynglyn- a'r Orsedd heb fod Wrth fy modd o gwbl-yr oedd yn gylch o arngylch y meini ddwsinau, os nad cannoedd, o reserved chairs. Credaf na ddylid caniatau hynny. Gadawer ini gael o leiaf un man cyfarfod lie nad yw dyfnder pwrs yn hawlio'r blaen. •5E Yn y Babell aeth popeth heibio'n eithaf cyfforddus. Y peth cyntaf wnaf fi bob aniser mewn Eisteddfod fydd rhoddi crap o gyfri ar yr arwyddeiriau. Yr oeddynt yn Abertawe yn Ilu mawr—ond ar ol edrych o gwmpas am dipyn, I found it at last sef un Wedi ei sillebu yn anghywir. Dyna lie 'roedd y frawddeg Dan Nawdd Duw a Dangnef yng nghongl dde y llwyfan, ac o fewn hyd braich i Dafydd Morgannwg u Cafwyd sbri ryfeddol gyda seremoni 1'riodas y Cledd," a chyflwyniad y faner i r Llydawiaid—a banner hardd anghyffredin Ydyw hi hefyd. Pan ddeuwyd at y cadeirio, yr oedd y Pafiliwn eang yn bur agos i lawn. A phan ddarllenwyd y feirniadaeth gan Dyfed gan gyhoeddi Mayflower yn oreu, gwydd- ern fod cadeirio i fod. Rhoddodd y Cardiff Brigade fonllef o lawenydd pan welwyd mai y Parch. T. Davies (Bethel) oedd y buddugol. ^n o'r rhai mwyaf gwylaidd a diymhongar dan haul ydyw Bethel, ac y mae pawb Cymry yng Nghaerdydd yn llawenhau am ei lwydd- iant. Nid yw mewn un'modd yn anadna- byddus fel ymgeisydd Eisteddfodol, y mae wedI ennill bedair gwaith o leiaf ar gywyddau yn yr Eisteddfod Genedlaethol. Pan arwein- id ef i'r llwyfan gan y ddau brifardd, dyna rywun yn gwaeddi o Sir F6n y Babell (fel y "bycjd pobl Ffestiniog yn dweyd), -^wy yw e, Gomer ? (Gomer Lewis oedd Yn arwain). Y Parch. Thomas Davies, gWeillidog y Bedyddwyr yng Nghaerdydd," ebe Gomer, gyda phwyslais ar y Bedyddwyr Pwy yw ?" meddai rhywun o'r ochr arall. Dwed wrthyn nhw, Pennar," ebe Gomer. Thomas Davies, gweinidog yr efengyl yng Nghaerdydd," ebe Pennar gyda phwyslais yr efengyl, nes oedd y dorf yn siglo gan chwerthin wrth weled Gomer yn cael y gwaethaf am unwaith. Y peth mwyaf hyawdl a ddigwyddodd yn ystod y dydd, yn fy marn i, oedd yr olwg ar 5?eth fach—aelod o Gor Plant Panteg. Yt oedd y genethod ereill i gyd mewn gynau S^ynion, ond hithau i gyd yn ei du. Pregeth ^distaw iawn oedd hi, ond fe gyrhaeddodd Salon miloedd yn y lie. Dweyd am amdo g"'Yn 'roedd y gwn du C6r Plant Canton ddylasai fod wedi cael y Wobr gyntaf, ac fe fuasent wedi ei chael Jefyd onibae am Lerpwl Ond hidiwch efo, r,iae Caerdydd wedi cael coflaid led da rhwng popeth. Ond beth ydyw'r mater ar Ogledd Cymru ? eithrio rhyw hanner dwsin o wobrau, yr •^Wntw sydd wedi cipio popeth—am ganu, ^"eithio, traethodi, a barddoni. Lie mae beirdd y Gogledd—Bryfdir, Eifion Wyn, ac ereiU ? Mae'n rhaid i chwi dynnu'r gwinedd 0 r blew ne fe fyddwch ar ei hoi hi'n gyfan- gwbl. A ydych chwi wedi sylwi fod yr oil r coming men ym myd Barddas Cymru yn ft°wthiaid ?—Gwili, Dyfnallt (y bardd coron- °8), Gweledydd, Cenech, Alva, ac ereill. Mae'n dda gennyf allu dweyd mai Eistedd- Abertawe oedd yr Eisteddfod Genedl- e^hol fwyaf Cymreig y bum ynddi. Cym- raeg oedd iaith y llwyfan Cymraeg oedd iaith y rhan fwyaf o'r corau plant Cymraeg oedd iaith y beirniaid (ac eithrio y Saeson). Yr unig beth y carwn gwyno tipyn yn ei gylch oedd y diffyg ystyriaeth ddanghosid tuag at wyr y wasg. Gan nad oedd un o bob deg o'r ymgeiswyr ar y testynau llenyddol yn ateb i'w henwau, byddai yr arweinwyr ymhen rhyw hanner awr wedyn yn dweyd yn ddigon swta, Perchen y ffugenw Hwn-a- Hwn ydyw Mr. So-and-So," gan adael i'r reporters druain chwalu a chwilota ymysg eu notes er gweled beth andros enillodd Hwn-a-Hwn." Dyma awgrym i Eisteddfodwyr Llangollen Dylech apwyntio rhywun yn un swydd i ddarparu rhestr gywir o'r buddugwyr ar gyfer gwyr y wasg ar ddiwedd pob cyfarfod. --0--
Eisteddfod Abertawe.
Eisteddfod Abertawe. [Gan HEN FRYTHON.J MR. GOL.Gymaint y bias a gawswn ar fy ymweliadau ag Eisteddfodau diweddar, fel y penderfynais dderbyn y gwahoddiad taer oddiwrth y teulu brenhinol, sef yw hynny Gorsedd y Boirdd, i fynd mor bell ag Aber- tawe. Yr oedd y sylw mawr a dynnais at yr Eisteddfodau ereill y bum ynddynt, a'r fantais fu hynny i'w llwyddiant, wedi agor llygaid yr awdurdodau goruchel i'r budd iddynt wneud yr un peth a mi drachefn. Minnau, yn barod i wneud unrhyw beth er lies ereill, a aethum, heb ystyried dim o'r drafferth a'r perygl a olygai hynny i hen wr fel y fi. Cefais dipyn o siom yn yr orsaf yn Lime Street, oherwydd nas gwelwn yno undyn byw a adwaenwn i fel eisteddfodwr neu fardd a gwaeth na hynny fu i ryw bobl oedd yn ymwthio am le yn y tren fy ngwasgu, nos y teimlwn fel math o dawdd- gyrch cadwynog," yn methu'n glir las a mynd yn ol nac ymlaen. Yr oedd llawer ohonynt yn mynd i Landrindod, yn eu plith ami hen fab a hen ferch a'u ham can hwy yn y ffynhonau nid rhaid ei ddweyd. Beth bynnag, cefais gongl o le yn y cerbyd, ac yno y bum hyd nes cyrraedd Abertawe. Fel yr aem drwy y Mwythig a Craven Arms a Llandrindod, gwelwn ambell wyneb eis- teddfodol yn brathu ei hun i fewn am le yn y tren, ac erbyn pen y daith yr oedd yn eglur fod amryw o'r ffyddloniaid wedi dod i'r wyl mor gynnar a nos Lun. Yr oedd amryw o dywysogion yr Orsedd yn fy nisgwyl yn yr orsaf, ac yn eu plith nid amgen Cadvan a Machreth. Yr oedd lliw gwallt y ddau fardd hyglod pan yn ieuanc yn goch, ond mae eiddo y cyntaf erbyn hyn yn gwynnu, a buasai gwallt Machreth felly hefyd tasa fo heb ei golli. Waeth yn y byd, dau o fechgyn clenia 'rioed y cefais i nhw, a chymer- asant ofal caredig ohonof rhag i geir try dan 'Bertawe redeg drosof. Y Beirdd. Gan i mi gael y beirdd mor ffeind arfy nyfodiad i'r dref, penderfynais lynnu wrthynt ar hyd yr Eisteddfod, ac i dalu iddynt, i ryw fesur, am eu ffeindrwydd, mi eis a nhw,—yn wir, yr Archdderwydd, hefyd, a chymaint o'r beirdd a ddaethant i'r dref nos Lun-i fwynhau o'r wledd fawr a ddarparasai y Maer haelionus ar fy nghyfer yn y Guild Hall. Daeth yno dyrfa fawr o foneddigion a bon- eddigesau, i fy helpu i a'r beirdd i wneud cyfiawnder a'r danteithion," a mwynhau y canu ar dafod ac ar dant. Gyda llaw, mi welais yno Mr. a Mrs. John Davies, Lerpwl,' wedi dod i lawr o Landrindod, a 'doedd yn yr holl le ddim cwpl yn edrych yn fwy hoew a siriol na nhw. Byddwn yn cael ambell gipdrem ar Dr. Dan Protheroe, ond byddai yn fynnych yn diflannu. Mae ei debygrwydd ef, fel amryw ereill o'r frawdoliaeth eistedd- fodol, i Zaccheus, yn anfantais fawr mewn tyrfa. Chwaneg am y beirdd ymlaen. Llety Cysurus. Ni fum erioed mewn llety mwy cysurus, naddo yn sicr ddigon. Digon o le, digon o ddanteithion, digon o groeso, a digon o bob peth i'n gwneud yn gysurus. Cefais hefyd ganiatad i gymeryd gyda mi warchodlu o feirdd, neb amgen Cadvan, Machreth, Llew Tegid (a Mrs. Tegid) a Bethel—yr hwn, fel arwydd o'm ffafr iddo am ei wasanaeth, a wnaethum yn Fardd Cadeiriol Ac mae hyn yn fwy peth o lawer na'r teitl talcen slip o Syr roir i ambell un dan gledd y Brenin. Wyddoch chwi beth, mae y prydyddion yma yn rhai garw hefyd 'Doedd dim modd eu cael i'w gwelyau y nos, nac ohonynt y bore. Welais i iiio'r Llew yn yr Orsedd yn ei briodol urddwisg yr un waith, a hynny am na fedrai o ddim dod dros yr erchwyn mewn pryd. Ac mae amheuaeth am wisgoedd y beirdd ereill, oblegid y mae yn ffaith i ryw ddyn ddweyd, pan welodd liwynt, Cato pawb Mae y boys hyn wedi dyfod allan yn eu crysau nos Ond yn son am fy llety yr oeddwn. Beth pe clywsech chwi y bechgyn barddonol a enwais yn trin eu gilydd Waeth yn y byd, 'doeddwn i ddim yn dwrdio dim arnynt am hynny, ond yn mwynhau eu gwrando. Brawd dymunol a diymhongar dros ben yw Bethel, ac yr oedd y cigar roes i mi am ei deitlo yn un dda iawn. Gyda llaw, yr wyf yn dweyd yn y fan hon na welais erioed, mewn unrhyw Eisteddfod, lai o arwyddion crogbris am ymborth na llety. Yr oedd Abertawe yn hyn o beth yn gerydd llym ar rai trefi. Ond, fel yr awgrymais, cefais i a'm cyfeillion lety wrth ein bodd-" yn rhad ac am ddim." Yr Orsedd. Fel yn Llangollen, felly hefyd yn 'Bertawe, cymerodd yr Archdderwydd fi o dan ei ofal, a chefais yr anrhydedd o'i ddilyn ef a'r beirdd i'r Orsedd. Gorsedd well nis gwelais yn fy oes. Yr oedd Natur wedi tyfu cylch o good heirdd am y llecyn lie y cynhelid hi, yr haul yn tywynnu yn ei oreu, a'r adar yn canu Cymraeg dilediaith ar y cangau. Ond y peth a'm llonnodd yn fwy na dim oedd gweld yno gor lliosog o blant bychain, mewn gwisgoedd gwynion, ac yn canu alawon Cymreig mor ber a, chan angelion. O y pethau anwyl Fe neidiodd dagrau i'm llygaid gan mor ddedwydd y teimlwn. Dyma hi," meddwn. Bydd yr Eisteddfod yn sicr o dyfu wedi ei phlannu fel hyn yng nghalon a chan y plant. Rhaid mai wedi darllen yn y BRYTHON fy nghanmoliaeth i beth cyffelyb ynglyn a Chyhoeddiad Llangoll- en yr oedd y Pwyllgor. Wel, 'does dim yn rhoi mwy o fwynhad i mi na gweld fod fy nrychfeddyliau, o'r diwedd, yn cael eu gwerth- fawrogi. Erbyn mynd i'r Orsedd, gwelais yno lu mawr o feirdd, hen a newydd, dot a gwyllt, ac yn eu plith y cawraidd Bedr Hir, Madryn, Gwynedd, Eifionydd, Arlunydd Penygarn, Gwynfe, Ben Davies, Mafonwy, Gwili, a llu mawr nad oes le i'w henwi yma. Cofiwch nad wyf yn cysyltu yr ansoddair cawraidd yma a neb ond Pedr Hir, oblegid nid golwg felly gefais i ar neb arall o'r beirdd a enwyd. Ac am Eifionydd, wel, yr oedd yn ymyl ambell fardd Gorsedd yn debyg iawn i ddisgrifiad Goronwy Owen ohono ei hunan bach yn dilyn y person mawr hwnnw: "Mal bad ar ol Hong." Gwnaeth yr Archdderwydd ei waith, fel arfer, yn ddigwmpas ac urddasol, gydag ambell fflach o arabedd tarawgar. Mwynheais yr Orsedd yn fawr, a gwelais bethau digrif iawn ynddi. Ac ni waeth i mi addef na pheidio, mae rhyw hen greadur yn byw yn fy natur yn rhywle, a bydd ar adegau fel pe yn mynnu mynd drwy ei gampau. Methwn yn glir a'i gadw o fewn rheolaeth, ac mewn sobrwydd teilwng o Orsedd y Beirdd. Yr oedd ei lygad ar ryw ddigrifwch neu gilydd o hyd. Yr oedd yn dda iawn gennyf weled Hawen hefyd yn ei urddwisg, ac yr oedd o'n edrych mor dda ynddi ag undyn o'r brodyr- er fod lie i gryn lawer o larger self lanw y wisg. Dylesid canu y pennill canlynol oddiar y Maen Llog, ac nid ei sibrwd o glust i glust :— Pvhyfedd gweled Dyfed ddiddan, Ben, Mafonwy, gyda Chadvan, Ond Hawen yn ei wisg ddefodol Oedd rhyfeddod fwya'r bobol 0, mor hardd oedd eu gwedd Y Twrch Trwyth." Un garw ydyw Pedr Hir, ie, cyn sicred a mod i. 'Roedd ei anerchiad oddiar y Maen Llog yn werth mynd o Lerpwl i 'Bertawe i'w glywed. 'Roedd ei ergydion ar y Twrch Trwyth, yn y ffurf o freuddwyd rhamantus, yn un o'r pethau mwyaf cellweir-gnoawl ar Ddic-Shon-Dafyddiaeth—maddeued yr Athro o Fangor i mi am ddefnyddio gair mor anghlasurol a hwnyna ar y cymeriad a duch- enid Dywedai Dyfed mai Pedr oedd y bardd agosaf i'r nefoedd o neb oedd yno, ac yr oedd pawb yn gweled hynny ar unwaith. Yr oedd yr hogyn direidus hwnnw fydd yn chwarae yn Cadvan ar adegau fel hyn wrthi yn brysur yn Abertawe, ac fe wnaeth englyn tarawgar i'r Twrch Trwyth." Dyma fe :— Deled y bardd a'i dylwyth-a mawredd Gomeria ddi-adwyth Cadwn gref fonllef unllwyth At erchi tranc y Twrch Trwyth." Peth a'm tarawodd yn fawr hefyd oedd cwpled a adroddwyd oddiar y Maen gan ddyn o faintioli go fawr, a llais has dwfn ganddo, gyda'r amcan o godi gwerth y Deheu- wr rhagor y Gogleddwr yno yn ol y cyn- aniad roddodd efe i'r odl, yr oedd yn dda gennyf mai Northman oeddwn. Ebai y bardd Nerth mul sydd yn y Northman, A seithmul yn y Southman." Ond feallai mai ar y ffordd i'r Orsedd y cymerai y pethau digrifaf le. Gwelais un brawd nodedig o ddyddorol. Yr oedd newydd dderbyn urdd, ac yn ei urddwisg am y waith gyntaf erioed. Eisteddai wrth ochr y gyriedydd, ac yr oedd yr olwg arno yn destyn ymddiddan eyffredinol,-ei gap ar ei goryn, ei wydrau ar ei lygaid, a chanddo farf fel barf Aaron gynt. 'Rwyf braidd a chredu mai un o boetau Lerpwl a wnaeth y sylwadau canlynol arno Pwy yw'r gwr a'r cap ar ei goryn,—fel Pe'n fardd neu ynfytyn ? 'Rwy'n dal mai cyfran y dyn Yw crawciadau criciedyn. Barf ir i buraf wron-sy addurn Gorseddol teg ddigon Ond 0 'r taid, i'r llygaid lion, Y glasses sydd yn glysion." Welwch chi fel yr oedd y gweilch yn trin eu gilydd. Yn wir, 'roedd arnaf ofn gwneud dim trwstan yn eu mysg, rhag i minnau gael englyn. Ni chafodd hyd yn oed Cofiadur yr Orsedd ddianc yn ddianaf. Nid oedd yn euog.o ddim gwaeth na gwisgo het lwyd go fawr, a rhimyn du am dani ond bu raid anfon yr englyn canlynol allan i'w daith anorffen Het lydan fel het ladi,—rhimyn du'n Rhwymyn del am dani,— Het lwyd yn herio tlodi, A dyn od o dani hi." Ond, er hyn oil, yr oedd yn yr Orsedd lawer iawn o bethau da yn cael eu traethu, ac mae hi'n gwella bob blwyddyn. Newid Cyfansoddiad yr Orsedd. Cyfarfod doniol oedd hwn, a bu ynddo ddadl frwd ar y cynhygion i newid rheolau yr Orsedd. Ond profwyd yn bur eglur fod cydymdeimlad cryf o blaid cadw nodweddion henafiaethol yr hen sefydliad i fyny. Bu raid gohirio ail ddarlleniad y cynllun newydd, ac, i ddweyd y gwir, yr oedd hynny yn fy mhlesio i'r dim. Yr oedd y darlun a dynnodd Mafonwy o hen gastell, a'r ynfydrwydd o'i ddioss o'i iorwg, a'i wyngalchu a'i baentio a'i dwtio, yn hytrach na gadael iddo yn ei swyn henafol, yn un o'r pethau goreu o'r fath a glybum er's tro, ac fe ddywedodd ar y cwrdd. Y fo oedd yn iawn, yn reit siwr hefyd. Unwaith y troir yr Orsedd yn ddim ond Pwyllgor, eyll ei swyn i'r werin, a der- fydd am ei gwerth hanesyddol a hysbysiadol i'r Eisteddfod. Ond un o felltithion yr ysfa bwyllgorawl anfarddonawl sydd ymhob cylch, yn ymyryd lie nas dylai, yw y cais i ddiwygio i ffwrdd arbenigion yr Orsedd. Dyna fy marn i ar y mater, a da gennyf weled mai dyna hefyd farn mwyafrif y beirdd, Da oedd gennyf weled yr Hybarch Gwynedd yn edrych ar y mater fel peth o'r difrifoldeb mwyaf, ac yn tarro y bwrdd gyda grym i selio hynny. Yr unig beth y gofidiwn o'i herwydd oedd na fuasai yr ergyd yn hytrach ar goryn Gwynfe neu Machreth, oherwydd eu hanystyriaeth dybryd. Yn y Dyrfa. Ni welais erioed y fath dorfeydd o bobl mewn Eisteddfod.' Yr oedd y babell rai dyddiau yn orlawn, ac agos lonaid y maes mawr tu allan. Bum lawer gwaith wedi fy nghau i fyny yn eu canol, ac annodd wedi colli un oedd dod o hyd iddo eilwaith ond yr oedd nifer ohonom wedi cynllunio yn hapus ar gyfer yr anhawster. Gan fod Pedr Hir yn hawdd i'w weled dros bennau pobl, cytunasom i gadw llygad arno ef, i alw heibio iddo yn awr ac yn y man, ac felly yr oeddym yn dod o hyd i'n gilydd yn rhwydd. Gwyr Mr. Evans y BRYTHON a Llew Wynne fy mod yn dweyd y gwir, achos yr oedd y ddau yn cymeryd rhan yn y cynllun, a da fu iddynt wrtho. Holi am y Gol. Bu llawer yn fy holi am 01. y BRYTHON, ac yn gofidio na fuasai yn wyddfoddol yn yr Eisteddfod. Braidd nad oeddym yn dis- gwyl i ambell un estyn hapur pumpunt i mi i'w drosglwyddo iddo am gyhoeddi ysgrifau mor iach ar amryfal gwestiynau y dydd. Ond mi welais un dipyn yn wahanol, ac yn gofyn pam na chyhoeddwyd penhillion marwnadol a wnaethai ar ol rhyw ddyn a gaw- sai godwm marwol oddiar ben llwyth gwair. Addewais er mwyn dianc ohonof yn fyw ar y pryd, y buaswn yn gofyn i chwi gyhoeddi darn o'r farwnad, a'dyma'r darn I'r bedd mae dyn yn mynd, Jac, A'i duedd at y gro Mae yma am ychydig, ac I lawr a fo." Wel, gobeithio y ceir heddwch wedi hyn buasai cyhoeddi ychwaneg o farddoniaeth mor destynol a hon yn sicr o beri tranc y BRYTHON hefyd. Cadair a Choron- Ni welais neb nad oedd ganddynt air da i'r beirdd gafodd y Gadair a'r Goron, ond yr oedd pawb yn falch o'u llwydd. Ond ymhell y bo y rhigymau dienaid a gafwyd gan rai ar y seremoni yn y ddau achlysur. Dylai y neb a elwir i annerch ar ddefod y Gadair a'r Goron fod yn amgen na beirdd talcen slip. Yr wyf yn galw holl ddarllenwyr y BRYTHON yn dystion i mi wrthdystio yng Nghorwen yn erbyn y ffwlbri o son am "godi'r brawd i gadair bren," ond bu raid i rywun gael gwneud hynny wrth gadeirio Bardd Abertawe. Gwelaf na wna gorchymyn y tro, ac am hynny, os caf fyw i fod ar lwyfan adeg cadeirio eto, a chlywed unrhyw un yn son am ei gadair bren," yr wyf yn ei rybuddio i bydd i mi osod cauad pren ar ei safn, neu ynte wthio Eifionydd yn dopyn iddi, modd nas gallo warthruddo crebwyll a dawn y bardd byth ond hynny. 'Roedd gen i englyn da bur fy hun, ond ches i mo'i ddweyd o, ac yr oedd fy ngofid yn fwy achos mai Madryn oedd wedi ei wneud i mi :— Dyfnallt welir yn gwirio-yn deilwng Y dalent roed iddo A buan iawn bo'i ben o O'i hat mewn coron eto." Mai a'i awel fo'n mywyd-Bethel hoff, Bythol hedd a gwynfyd Fo'i ran ef,—byw byth hefyd Fo'i gan i Bunyan y byd.Cadvait. Y blodeuyn bywiol-dyner,—wele ef Dan wlith i'r uchelder, Ym mhrydferth ardd hardd sy'n ber Mae hoff liwiau Mayflower. Llunio Eden yn llawn hyder-y bu Y beirdd fisoedd lawer Ond i saith fu'n gweld y ser Dyma godwm o gader.Elfyn. Bethel mai cerub weithian-a i'w sedd Heibio saith, fe'i hunan Yw'r gwr a freuddwydiai'r gan Bennaf i Freuddwyd Bunyan. Machreth. Priodi'r Deuddarn Cleddyf. Dyna y seremoni a gymerodd oreu o nemor ddim. Tarawgar iawn oedd y modd yr unai y Llydawiaid a'r Cymry y ddau ddarn- Gwynedd a'r gwr o Lydaw yn cofleidio eu gilydd oedd yn dda bur. Cusanent eu gilydd ddwywaith, ac os felly y bydd Gwynedd yn gwneud yn gyffredin, rhaid cydnabod ei fod yn nodedig o urddasol a naturiol, a beiddiaf ddweyd nad oedd yn bosibl iddo gyrraedd y fath berffeithrwydd heb lawer o ymarferiad. Ond yr oedd difrifwch o dan y ddefod oddeu- tu, ac aeth calon y dorf fawr yn ffagl ar unwaith, yn enwedig ar waith yr Archdder- wydd yn rhwymo y ruban glas am y cledd unedig. Do, yn sicr, cafodd rhywbeth dwfn a da yn y dorf ei gyffwrdd gan y weithred semi hon. Arweinwyr. Mae pawb yn barod i gydnabod fod Llew Tegid wedi sefydlu ei le ymysg arweinyddion eisteddfodau goreu y genedl ac ar rai ystyron, efe, yn ddiau, yw y goreu oil y tu yma i'r moroedd. Mae ei graffter, ei fyw- iogrwydd, ei barabl clir a'i lais treiddgar, ynghyda'i chwaeth dda a'i arabedd, a'i hylithredd yn y ddwy iaith, yn ei wneud y telpyn o ddyn mwyaf pwrpasol i amcan llwyfan y gellir taro morthwyl ar ei goryn yn un man. Ac yr oedd doniolwch dihys- bydd Gomer yn adnabyddus o'i- blaen, a'i galon fawr yn hysbys i bawb. Dyma y tro cyntaf i Penar, ond ni chlywais ond clod iddo am brofi ei fod yn hollol gymwys i'w waith, ac i'r Eisteddfod ennill arweinydd rhagorol arall i'w llwyfan. Eto, mae yn hen bryd i bob Eisteddfod Genedlaethol gredu mewn cael rheolwr (manager) ar lwyfan, a gadael i'r arweinwyr chwarae teg wyneb yn wyneb a'r dorf, ac nid gorfod chwilio am hwn a'e Ilall at eu gwaith. Cyfarfod a gofir yn hir oedd hwnnw, pryd y caed dirprwywyr dros Aberystwyth, Caerfyrddin, Llandrindod, a Llunden. Ni chlywais erioed fwy, os cymaint, o ffraeth- ineb, na mwy o allu dadleuol ar y fath destyn- au. Yr oeddynt yn wir dda, ond rhaid i mi arbed gofod, onide gallaswn yn hawdd ddang- os i'r filfed ran o drwch asgell gwybedyn deilyngdod cymharol pob siaradwr. Ond i Lunden yr a yr Eisteddfod yn 1909. Da gennyf weled fod Syr Marchant a Vinsent yn parhau yn ffyddlon i'r Eisteddfod a thra y byddont hwy byw, bydd y berthynas rhwng yr Orsedd a Chymdeithas yr Eisteddfod —fel yr amlygid yn y cyfarfod hwn-yn bopeth ellid ddymuno. Nid wyf yn sicr a at i Lunden. Mae'n bur debyg y bydd y Brenin Iorwerth yn taenu ei nawdd yn bur glyd dros yr Eisteddfod yno ac felly gwastraff fyddai i minnau hefyd helcyd mor bell. Beth bynnag, yr oedd Machreth yn falch iawn o'i fuddugoliaeth, a gwelais ef yn sychu ei ben chwys wrth fynd allan-i gael fresh hair, yn ol fel y dywedodd rhyw walch oedd yn ymyl. (Rhagor ar tudal 7.)
Advertising
W. & J. VENMORE, Estate Agents & Valuers, 200 SCOTLAND RD. Liverpool. TBLKPHONB No. 1463, Pianos & Organs Cash or Easy Payments. TUNINGS SINGLY OR BY CONTRACT REPAIRS by Expert Workmen. Write or call for ILLUSTRATED CATALOGUE. RICHMOND JONES & SONS, 11 13 BERRY ST. (Top of Bold Si,) Tel 2331 Royal. LIVERPOOL. Telephone 0664 Rcyal. J. OLIVER, TAILOR and HABIT MAKER 126 Upper Hill Street PRINCES ROAD, ,OLIVERPOOL..o Allan Line. Sicrheir y cysur mwyaf sydd bosibl ar Agerlongau Cyflym (Turbine) Y FORDAITH FERAF A RHATAF I Canada a'r Unol Dalaethau. Cyflym, Diogel, Cysurus. Oyfleusterau heb eu hail,y clud- iad rhataf. Yr unig Linell a chanddi Gytundeb a'r Llywod- raeth i gludo Llythyrau Canada. Llawlyfr yn rhad gan Allan T :no 103 LEADEN HALL ST., a J~XIICI.II L,ME, PALLMALL, LONDON 19 JAMES STREET, LIVERPOOL. Telegraphic Address PIPES," Liverpool. ø JOHN EVANS SLATE BRICK, TILE, CEMENT cDc. MERCHANT, Rea Office and Depot: 88 to 92 S0H0 ST., L'POOL. a Branches: Coment Stores- 15 and 16 NOVA SCOTIA, CANNING DOCK Railway Depot— SPEKKLAND WHARF (L. & N.W. Rly.) Edge Hill General Stores- 20 DACRE STREET, Birkenhead. Telephone Numbers: Head Office-No. 102 Royal. Birkenhead—1025. Edge Hill-728Y Royal. Canning Dk—8208 Cen. TheGwalia Hotel, Ltd., LLANDRINDOD WELLS. Telephone 40 P.O. Telegraphic, Gwalia.' Managing Director-EDN. JENKINS. The situation of the GWALIA" is unrivalled Beautiful outlook, commanding the finest views possible; perfect South-west aspect; close to Park. Mineral Springs—Saline, Sulphur, Chaly- beat. Golf Links, and excellent waters for Angling. Heating Apparatus, good supply of Radiators on balconies and corridors. Beds and bedrooms always well aired. Electric Light. Visitors' Lift. Free Billiard Table. Recreation Room.. Lock-up Cycle House. Tariff from £ 2112/6 to £ 311 The Nurses' Co-operation and Medical and Surgical Home, 3 CANNING ST., LIVERPOOL. Fully Trained Nurses sent any distance on the shortest notice. Specially Trained & thoroughly Experienced Nurses for Mental and Nerve Cases. Daily ^Visiting Nurses 6 Masseuse. Medical, Surgical, Maternity, and Nerve Cases received in the Home. Miss GEACH, Lady Superintendent TELEPHONE 1092 ROYAL. BRYSIWCH. I geisio potelaid gan y Fferyllydd nesaf atocbi cyn i'r Anwyd fyned yn waeth. Cofiwch COUGH BRYSIWCH I geisio potelaid gan y Fferyllydd nesaf atocbi cyn i'r Anwyd fyned yn waeth. Cofiwch COUGH MIXTURE HUGH DAVIES, Machynlleth. 1 13bc. a v«. 9c. y hotel. B DAVIES'S COUGH MIXTURE I DAVIES'S COUGH MIXTURE li V DAVIES'S COUGH MIXTURR ■ DAVIES'S COUGH MIXTURE ■ DAVIES'S COUGH MIXTURE DAVIES'S COUGH MIXTURE At Beswch, £ 1 Anwy3, • §5 Asthnva, E§ Bronchitis, B Pas. Crygni, B InYiuenza. p