Welsh Newspapers
Search 15 million Welsh newspaper articles
10 articles on this Page
Ffetan y Gol. ---
Ffetan y Gol. ■ Blaenoriaid sir Fflint. SYR,-Yn y BRYTHON am yr wythnos ddiweddaf, dywedir fod holl flaenoriaid Methodistaidd sir Fflint yn llwyr-ymwrthod- wyr heb un eithriad." Fe garwn i gael gwybod, syr, beth mae Sir Fflint yn ei gynnwys yn y cysylltiad hwn-ai y rhanniad gwladol cyffredin, ynte y rhaniad Methodist- aidd ? Neu, mewn geiriau ereill, a ydyw y sylw uchod yn cymeryd i mewn flaenoriaid ardaloedd Gwrecsam, Brymbo, a Rhos ? Byddai gair o eglurhad yn ots o dderbyniol. UN AM WYBOD.
Dirwest yn sir Fflint.
Dirwest yn sir Fflint. SYR,—Ni roddodd dim gymaint o fwynhad i mi er's llawer o amser na'r sylw yn eich rhifyn diweddaf am Fethodistiaid Sir Fflint, fod yr holl flaenoriaid yn llwyr-ymwrthod- wyr, heb un eithriad." Fel un fu'n ceisio gwneud ychydig gyda'r achos dirwestol ymhlith Methodistiaid Maelor am rai blyn- yddau (a chwi wyddoch fod Methodistiaid yr ardal boblog hon o sir Ddinbych yn perthyn i Gyfarfod Misol Sir Fflint) yr wyf yn llawen- hau yn dclirfawr fod pethau wedi cyfnewid cymaint er gwell mewn cyn lleied o amser. Pan oeddwn i yno, y rhwystr pennaf ar ffordd dirwest ydoodd blaenoriaid gwlybion yr eglwysi, ac yr oeddwn wedi rhoddi rhai ohonynt i fyny mewn anobaith. Ond y mae y newydd uchod wedi codi fy nghalon, ac nid wyf am anobeithio am adferiad yr un llymeit- iwr byth eto, heb eithrio rhai o flaenoraid Lerpwl. SIRIOL.
Gwyrdd a Glas.
Gwyrdd a Glas. r SYB,—Pwy o ddarllenwyr y BRYTHON all ddweyd ai glas ai gwyrdd ydyw lliw gwellt y ddaear ? Does dim dichon penderfynu'r pwnc oddiwrth y Beibl, oblegid y bydd pob llysieuyn gwyrdd yn fwyd," ebir yn Gen. i. 30 ond A Jacob a gymerth wiail gleision a geir yn Gen. xxx. 37. Y mae grfaswelltyn yn un o hoff a mynych eiriavf yr Ysgrythyrau ond yn Exodus ix. 15, dyma'r ddeuliw wedi eu eyfuno "Ac ni adawyd dim gwyrdd- lesni ar goed nac ar lysiau y maes o fewn holl wlad yr Aifft." Dyna i ni las, gwyrdd, a gwyrddlas. P'run o'r tri sy'n gywir ? Y mae'r un gymysgfa gyda'r Saeson hefyd, oblegid blue sky ebent hwy am yr awyr las, ond green field am gae glas. Diau fod ymysg darllenwyr papur mor orchestol ei Gymraeg rywrai a oleuant ledfegyn ar hyn.—Yr eiddoch, BRYCH Y FUCHES.
Historical Exhibition of Liverpool…
Historical Exhibition of Liverpool Antiquities, 1907, a Chymru. SYB,—Un o arddanghosiadau mwyaf dy- ddorol helynt diweddar Lerpwl ydoedd yr uchod, a da i'r rhan hon ag oedd yn llawer llai trystiog na'r rhelyw gael cefnogaeth tyrfa liosog o boblogaeth y ddinas a'r cylch. Ni welir y fath gasgliad gwerthfawr eto yn Lerpwl am amser hir. Gobeithiaf i lawer o ddarllenwyr y BRYTHON, fel minnau, gael golwg am unwaith fel hyn ar drysorau hen ein dinas fabwysiedig. Gofid calon i mi, er hynny, oedd methu canfod bron ddim o olion Cymro na Chymraeg yn yr hanes, a gresyn i'r cyfle fyned heibio heb i'r Sais di- enwaededig gael ei atgofio o'r rhan a fu gan y Cymro yng nghodiad y dref. Blin yw cyfar- fod llawer o'r fath bobl y rhai na fynnant gredu dim arall am danom ond mai cymyn- wyr coed a fuom yn wastad, hyd amser dyrchafiad y llwyth a las-enwyd ganddynt yn "Adeiladwyr Jerry." Anwybodaeth y cyfryw sydd druenus, yn wir. Ni welais ond un peth yn holl brogram yr Arddanghosfa i ddweyd dim fod Cymry wedi bod yn byw yma yn yr oesau fu,—a phiser pridd oedd hwnnw, dan yr enw 368.-Jug-white pottery. Painted Arms of the Cambrian Society, with motto Success to the Cambrian Society and The Town and Trade of Liverpool." In the other a well-painted bunch of flowers. Under spout H.R. 1813. Im- pressed on base W.D. 12t in. Formerly belonging to the Liverpool Cambrian Society. Llawenhais yn ddirfawr weled y piser hwn, ac y mae i'w weled i'r neb a fynno eto yn y Mayer Museum. Y mae yn llestr prydferth iawn, ac arno y mae llun y bardd a'r delyn a'r cenin. Ac yr oedd yn Lerpwl Gymdeithas Gym- reig yn 1813 Mewn llyfr a gyhoeddwyd yn breifat amser yn ol dan y teitl Chester Cambrian Societies, dywed yr awdwr ei fod wedi bod yn holi gyda dau aelod blaenllaw o'r Welsh National Society bresennol am ryw Gymdeithas Gymreig a dybiai ef oedd mewn bod yn Lerpwl yn 1822, ond dywed na wyddai yr aelodau hyn ddim am y fath Gymdeithas Dylasent wybod yn amgen, gan fod y Gwlad- yarwr yn rhoddi hanes rhai o gyfarfodydd y cyfryw. Y mae rhaglen Ugeinfed Cylchwyl Gymdeithas y Cynfrydeiniaid yn Lerpwl am y laf o Fawrth, 1838, o fy mlaen yn awr. Gwelir felly fod y Gymdeithas hon wedi cychwyn yn 1819. Ohd beth am y Gym- deithas oedd mewn bod, yn ol y Transfer Print, yn 1813 ? Pwy o ddarllenwyr y BRYTHON all roddi rhywfaint o'i hanes ? Pwynt fy llythyr, ar ol y cwbl, yw galw sylw at ein marweidd-dra Cymreig presennol yn gadael i'r Arddanghosfa ddiweddaf hon fyned heibio mor ddisylw. Ymha le yr oedd ein Cynghorwyr Dinesig Cymreig heb ofalu fod rhywrai a wyddai rywbeth am Gymru, Cymro, a Chymraeg, yn cael eu penodi ar y Pwyllgor ? Y mhlith yr Awrleisiau nid oedd un o wf»«uthuriad Cymro, er y credaf fod Cymro wedi bod yn gwneud awrleisiau enwog ac oriaduron yn ardal Paul's Square yn gynnar yn y ganrif ddiweddaf. Ac ymhlith y Newyddiaduron, nid oedd un cynrychiolydd Cymraeg. Dylasai rhifyn cyntaf yr Amserau, yr hwn sydd ar gael, fod yno ar bob cyfrif. Nid oedd yno un o'r llyfrau Cymraeg gyhoeddwyd gan T. Thomas yn Tithebarn Street, na chan Robert Morris yn yr un heol, na chan John Jones yn Castle Street, na chan John Lloyd yn St. Anne Street ie, ac yn hynotach na'r cwbl, nid oedd yno gynnifer ag un o lyfrau Llyfrbryf, amryw o'r rhai a gyfrifir yn dra gwerthfawr mewn Llenyddiaeth Gymreig. Gobeithiaf na chollwn y fath gyfle a hwn eto i godi ein gwlad a'n pobl i sylw.—Yr eiddoch, HUGH LLOYD.
Cor Caergybi.I
Cor Caergybi. SYR,-Mewn perthynas i sylwadau Beth- ma yn rhifyn Awst 17, a llythyr byr Hen Aelod yn y rhifyn diweddaf, parthed yr uchod, dymunaf ddweyd ar y dechreu, er dangos fod yr hyn ddywedaf yn hollol ddi- duedd a diragfarn, nad wyf yn trigo ym Mon, ac nad oes cysylltiad na pherthynas rhyngof a neb sydd ym myd y gan yn yr Hen Sir ysgrifennaf yn unig mewn eiddigedd dros Ganu Corawl Gogledd Cymru. Y mae amgylchiadau cerddorol Caergybi, a bron pob ardal yn y Gogledd, yn wybyddus i mi o ganlyniad, fe allai y rhoddwch ychydig o'ch gofod i'r Ilinellau hyn. Yr wyf yn cymeryd yn ganiataol mai at ffurfio cor i'r Brif Gystadleuaeth y mae Bethma a Hen Aelod yn cyfeirio yn eu sylwadau. Nis gellir ffurfio cor teilwng o Brif Gystadlouaeth yr Eisteddfod Genedl- aethol yng Nghaergybi. Yr oedd rhan helaeth o'r cor fu yn Eisteddfod Caernarfon wedi ei lusgo o Fangor a phe buasai anrhydedd y lie, ac enw da Canu Corawl y Gogledd wedi cael ystyriaeth yn lie hunan-glod a hunan- gais personau neilltuol, buasai wedi aros gartref,—yr oedd yn warth i'r dref ac yn ddiystyrwch ar y gystadleuaeth. Os nad ellir ffurfio cor o'r dref ei hun, poidier a ffurfio yr un o gwbl. Y mae yng Nghaergybi ddefnyddiau cor i Ail Gystadleuaeth yr Eisteddfod Gonedl- aetholy ac y mae cor felly mewn bod yno yn awr cor sydd wedi cystadlu llawer ac wedi gwneud gwaith teilwng bob tro. Clywais ef yn canu yn Eisteddfod Mon, a bu yn llwyddiannus yno, a chafodd yr arweinydd gompliments y beirniaid, fel esiampl o ar- weinydd ac un yn gwybod beth i'w wneud a'i faton,-nid gwr yn curo awyr o fiaen ei gor ydyw am hynny, rhodder pob rhwydd- ineb i'r cor a'r arweinydd hwn i baratoi ar gyfer yr Ail Gystadleuaeth yn Eisteddfod Llangollen, a meiddiaf ddweyd, os na chaiff y llawryf, y bydd yn anrhydedd i'r dref ac i ganu y Gogledd. Cladder pob cenfigen, malais, ac anghariad, er mwyn enw da yr Hen Sir a Cherddoriaetn Gymreig. Am ba hyd y rhaid i Gerddoriaeth Gvmreig ddioddef oddiwrth y pethau a enwyd ? CRWYDRYN.
Beirniadu Adrodd ym Mhwllheli.
Beirniadu Adrodd ym Mhwllheli. SYR,-Yn y BRYTHON Awst 15, ymddang- hosodd ysgrif o dan y penawd uchod gan "Hen Eisteddfodwr." Os mai amcan y brawd yw cael diwygiad cyffredinol fel yr honna, methwn a gweled paham yr oedd yn rhaid iddo wneud ymosodiad mor bersonol, a cheisio taflu ei lysnafedd at y ddau foneddwr oedd yn beirniadu yr Adrodd ym Mhwllheli yn arbennig. Na, na, mae ei ysgrif yn debycach i ymfflamychiad un o'r colled- igion nag i ymgais deg at wella y byd Eis- teddfodol. Mae y ffaith fod cynnifer a 42 o adroddwyr yn meddu ymddiriedaeth yng ngallu a gonest- rwydd y beirniaid, yn brotest digonol yn erbyn "ensyniadau Hen Eisteddfodwr." Ac onid oedd yntau yn un o'r lliaws hyn ? A faidd "Hen Eisteddfodwr" ddweyd na wyddai beirniaid Pwllheli y gwahaniaeth rhwng adroddwr cywir ac un anghywir, rhwng ymadroddwr rhwydd ac un afrwydd, rhwng y chwaethus a'r gwrthun, rhwng lliwiad a gorliwiad, rhwng y naturiol a'r anaturiol, rhwng yr effeithiol a'r aneffeithiol, &c. Buasech yn casglu oddiwrth ei lith na fu yr un o'r ddau yn efrydu dim erioed yn y cyfeiriad hwn. Yn eich rhifyn diweddef dywed un Wedi Laru ei fod yn cydsynio yn hollol a Hen Eisteddfodwr gyda golwg ar yr angen am gael beirniaid adrodd yn gwybod rhywbeth am eu gwaith. Yna, ar ol cydsynio fel hyn, aiff i geryddu ei gymydog am ei rwgnach- i rwydd,—" os oedd yn ymgeisydd ym Mhwll- hel1." Ond rhyngddynt hwy a'u gilydd am hynny. Gan fod y ddau yn tybied eu bod yn abl i lathenu beirniaid ereill, carwn ofyn iddynt— A oes rhywun heblaw hwy yn gymwys i feirniadu adrodd ? Ymha goleg y graddias- ant hwy yn y gelf hon, neu dan ba athro y buont yn astudio traetheg (elocution) ? Byddai cael gwybod hyn yn fantais i'r byd ac yn gynhorthwy i'r pwyllgorau," druain, wneud dewisiad doeth yn y dyfodol. EISTEDDFODWR ARALL. MR. GOL.Yn eno'r tad, beth ydyw y twrw a'r ysgrifennu sydd eto yn eich papur ar y mater hwn ? Nid oes fawr o amser er pan y bu ysgrifennu o'r blaen. Feallai y bydd yn newydcl i Hen Eisteddfodwr ddeall fod ein cyd-drefwr Mr. Samuel Williams yn hen law gyda'r gwaith. Mae wedi bod er's blynyddau yn un ag sydd yn talu sylw i adrodd, ac wedi bod wrth y gwaith o feirniadu. Ac mae y bobl sydd yn gwybod mwy am dano na Hen Eisteddfodwr bob amser yn ei gydnabod yn safon ac yn awdurdod uchel ar adrodd. Posibl ydyw y gall roddi gwersi i Hen, Eisteddfodwr unrhyw ddiwrnod. Mae Treflawnyd" yn awgrymu y priodoldeb i benodi rhai yn feirniaid sydd wedi ennill deirgwaith yn olynol. Atolwg, pa gymhwyster sydd yn y mwyafrif o'r rhai hynny ? Rhai wedi eu dysgu gan ereill ydynt. Nid ydyw y rhan liosocaf ohonynt ond megis parrots. Nid ydyw yn debyg yr enillent unwaith pe'r ymddibynent arnynt eu hunain, heb son am ennill deir- gwaith yn olynol." Yr uhig gymhwyster mewn beirniaid a foddlona H.E. & Co. ydyw iddo roddi y wobr iddynt hwy. Nid am fod y naill na'r llall ohonynt yn awyddus i wella safon beirniadaeth yr yagrifenant, ond am eu bod yn awyddus i gael y wobr. A ydyw yn debyg y buasai H.E." wedi ysgrifennu pe buasai yn fuddugol ym Mhwll- heli? Mae y Pwyllgor yn bwriadu cyfarfod yn fuan i ddewis testynau at yr Eisteddfod nesaf, a cha "H.E." wybod pa ddarnau fyddis wedi eu dewis fel ag y gallo- gael digon o amser i'w dysgu a'u meistroli. CARREG YR IMBILL.
Advertising
DYFYNIADAU LLEN CYM,RU.-Can y Parch. DJD. Williams, Manchester. Budd- ugol yn Eisteddfod Caernarfon, 1906. Ar- graffwyd yn Swyddfa r BBYTHON tros Gym- deithas yr Eisteddfod Genedlaethol. Pris 1
IL19'% NOD AC ESBONIAD.
IL 19'% NOD AC ESBONIAD. Pob gohebiaeth ynglyn a'r golofn hon i'w danfon i'r Parch. O. EILIAN OWEN, 16 Argyle Road, Anfield Road, Liverpool] Mynegair i Salmau Can Edmwnd Prys, 1621. ANWIREDD (gwel Enwiredd). na'r rhai a wnaen anwiredd •> £ Derfid anwiredd y rhai drwg da ganthyn drin anwiredd 128 addefais fy anwiredd 32* ei gas wyd, a'i anwiredd 362 lie y pechais mewn anwiredd 414 Pan fo anwiredd wedi cau 495 a'm brwnt anwiredd yssig 513 na dim anwiredd hefyd 92^ yn erbyn llu anwiredd 9*J' anwiredd na ddoed arnaf 10lrr gyda gweithwyr anwiredd 12-j0 os creffi ar anwiredd 1 5) > ANWIREBDATJ. Fy anwireddau tyn eu lliw 519 ANWIREDDWYB. yr anwiredd wyr b'ado vn 14110 ANWYD. fo anwyd liawer ynthi ANWYI) 875 ANWYL. Na'th anwyl sanet (drwy naws y bedd) 1610 Cadw fl'n anwyl rhag eu twyll. y F'anwyl gyfaill rhwym y'm wrth gred 41» bob rhai o'th anwyl ddynion 108° A'i orchymynion anwyl ynt 11^ mor anwyl yw dy feddyliau ym 13J ANWYLACH. a gerais i'n anwylach 119u9 ANWYLFRAINT. o ddoniau ac anwylfraint • • 84 ANYNAD. rl-toeiit ddillts scii aiiynad 1<19;) Aplaf nag mewn vn dyn o'r aplaf •• 1188 ApPLA, a'r bobloedd appla o olud. 4512 ARABIA. 0 Seba ac Arabia deg ■ 7210 ARAF. ar Ian clwfr gloywlas antf 2,¡2 ARAITH. Am geiriau 1 (fel araith ffol) • 50'7 Pan glybu Duw yr araith hon 78^ ARALL, I arall lie cuddiasant rwyd 915 ac estyn dwylo'i arall • 4420 i arall g&d ei annedd 49 o fel y doe ar ddyn arall 735 Na fid ynot arall yn Dduw 819 a'i swydd arall i'w chymryd 1098 a neb rhyw nassiwn arall.. 14720 ARCH. Yr Arglwydd elybu ef fy arch 69 Gwrendy ei arch, gyrr iddo rym 206 Un arch a erchais ar Dduw nftf • • 274 Ei arch a sail a'i air a fydd 339 Er mwyn fy mrodyr mae'r arch hon 1228 a'th arch o rymmus fowredd 1328 ARCHAF. a hynny a archaf etto 27<J byth archaf ei nawdd imi.. • • 116'" o achos hyn yr archaf fi • 122J ARCHAWDD. cans archawdd i'w Angylion 91" ARCHIAD. wrth archiad Duw y lluoedd 10634 ARCHODD. Archodd hyn bo i'w enw fawl 1119 ARCHOLLION. Gwnaethym arnynt archollion hyll 1838 yn ddyfn archollion gwaedlyd 647 Yn nydd ei ddig gwna'n archollion 110° ARDDENT. Yr arddwyr arddent y cefn mau 1293 ARDDERCHOWGRWYDD. mewn arddercliowgrwydd gwisgodd 93^ Dymma'r glan ardderchowgrwydd sydd 1499 ARDDWYR. Yr arddwyr arddent y cefn mau. 1293 ARENNAU. F'arennau hefyd ddydd a nos 167 a phrawf f'arennau hefyd. 262 f'arennau aTfeddiennaist • • 139 3 ARFAETH. Dy fwriad iach a'th arfaeth tau 204 ARFAU. sef arfau angau at y nod 713 Ag arfau angau o bob tu 185 Yn nyft'ryn cysgod angau. •• 234 yn nydd yr arfau gloywon 1407 ARFER. maent hwy'yn arfer gyda'r hwyr 59(3,14 ARFOD. nid fel gwr cryf ei arfod 226 a'i arfod gyda nyni 1241 ARFOG. yn arfog lym er saethu 780 ARGAUA. Argaua ar y rhai sy ar gam 353 ARGLWYDD. ar dcleddf yr Arglwydcl vchod 12 Canys yr Arglwydd Dduw, fel hyn It- Yr Arglwydd nef a wel eu bar 24 hon gan yr Arglwydd clywais 27 Gwasanaethwch chwi yr Arglwydd nef.. 211 0 Arglwydd,amled ydyw'r gwyr. 31 Tithau o Arglwydd ymhob man 33 Ar Dduw yr Arglwydd a'm holl lais 34 Canys yr Arglwydd oedd i'm dal. 35 Cyfod ti Arglwydd, achub fi 37 I'r Arglwydd byth o achos hyn 38 0 Arglwydd, dercha d'wyneb pryd 46 Cans ti Arglwydd o'th vnic air 48 Arglwydd clyw' ngweddi yn ddiball 51 Cans ti (Arglwydd) anfoni wlith. 512 Arglwydd na cherydda fi • • 61 0 Arglwydd dy drugaredd dod 62 0 Arglwydd dyrd, iacha fi'n chwyrn 62 Tithau OJArglwydd, pa ryw hyd. 63 Cans clybu yr Arglwydd fy llais 68 Yr Arglwydd elybu ef fy arch 69 0 Arglwydd Dduw, os gwneuthyin hyn. 73 a barn di finnau Arglwydd 78 0 Arglwydd ein lor ni a'n nerth 8,8 Clodforaf fi fy Arglwydd Ion 91 Ond yr Arglwydd iw nerth a fydd 97 Gwna'r Arglwyddl|hefyd hyn wrth raid.. 99 Cans ni adewaist fArglwydd) neb 910 Molwch chwi'r Arglwydd, yr hwn sydd.. gl1 Dy nawdd, Arglwydd, dydi ym' sydd glg Yr Arglwydd nef fal hyn yn wir. 916 0 cyfod Arglwydd yn dy wyn g19 Gyrr arnynt Arglwydd ofn dy ryrn. 920 Arglwydd pa'm y sefi di I 101 a'r Arglwydd maent iw wrthod 103 Cyfod Arglwydd, dercha dy law, 1012 Yr Arglwydd sydd yn frenin byth 10 Redaf i'r Arglwydd yn ddi-nam. 111 Mae'r Arglwydd yn ei ddinas gref 114 Yr Arglwydd o'i orseddfa fry 114 Mae'c Arglwydd o'r .naturiaeth hon 11° Cans cyfion ydyw'r Arglwydd ner 117 Achub bellach Arglwydd cu 121 Yr Arglwydd torred o'i farn faith 123 a phwy sydd Arglwydd arnom 124 Pur iawn yw geiriau'r Arglwydd. 12(; Ti Arglwydd, yn ol dy air di ■ 127 Pa hyd Arglwydd, Dduw dilyth.. 131 o Arglwydd edrych arnaf fi 13: Gweddio'r Arglwydd hwy ni wnant 148 Oddiwrth yr Arglwydd iddo ■ 140 i'th lys barchedig Arglwydd 151 Yr hwn sy'n ofni'r Arglwydd Dduw 154 Fy Arglwydd wyd: mae dan fy mron 2 18' 162 Ni henwaf chwaith, yr Arglwydd yw 161 o elyw gyflownder Arglwydd mad 171 Cyfod Arglwydd, o'i fiaen ef shf 171;3 Ond yr Arglwydd ef oedd i'm dal 18*8 Yr Arglwydd a'm gobrwya'n ol ■ 1820 Cans ceisiais ffyrdd fy Arglwydd ner 1821 A'r Arglwydd gobrwyodd if'n llawn 1824 y byddi gyndyn Arglwydd • ■ 182G pwy ond yr Arglwydd nefol ■ • 1831 Er galw'r Arglwydd ni ddoe neb 1841 Eithr byw yr Arglwydd ar fy mhlaid 1840 0 Arglwydd Dduw y lluoedd 1849 Dysg yr Arglwydd sydd berffaith ddawn 197 Ofn yr Arglwydd sydd lan, ac byth 199 Barnau'r Arglwydd ynt wir llawn 190 o Arglwydd, fy mhrynwr a'm nerth 1914 Gwrandawed di yr Arglwydd ner 201 Yr Arglwydd o'r uchelder 205 Yr Arglwydd gweryd (felly gwn) 20G Minnau ar enw'r Arglwydd Ddyw 207 Cadw ni Arglwydd a'th law gref 209 0 Arglwydd yn dy nerth a'th rin 211 a'i 'mddiried yn yr Arglwydd • 217 A thydi Arglwydd a'th law lan 218 Yr Arglwydd iw lid a'i difa 219 Ymddercha dithau f'Arglwydd, gun 2113 Ymddiried ynot, Arglwydd hael • • 224 da fuost iddynt, Arglwydd 225 Ar yr Arglwydd rhoes bwys a chred 228 rhai ych yn ofni'r Arglwydd 2223 a geisiai at yr Arglwydd 2226 at yr Arglwydd pan gofiant 2227 Cans yr Arglwydd biau'r dyrnas 2228 A'r rhai'n i'r Arglwydd drwy'r holl dir 2230 Yr Arglwydd yw fy mugail clau. 231 a'm nyth yn nhy yr Arglwydd 236 Yr Arglwydd piau'r ddaear lawr 241 Yr Arglwydd biau yr holl fyd 241 1 gyssegr fry yr Arglwydd 24a Gan yr Arglwydd y caiff hwn wllth 245
Bara Brith.
Bara Brith. Fy Nghalon. Y mae 12,000 o bwysi o waed yn myned drwy y galon ddynol bob pedair awr ar hugain neu, mewn geiriau ereill, 24 baril a 4 galwyn, neu 17.712-^ o beintiau. K: Sylfaenydd Owen's College, Cymro o waed oedd y John Owen a sylfaenodd Owen's College. Fe'i ganed yn Nhreffynnon yn 1764; ymfudodd yn ieuanc i Brifddinas y Cotwm, gan briodi Sarah Humphreys. Bu iddynt dri o blant Dafydd a William yn meirw yn eu plentyndod, ,& John yn marw yn 1846 yn 56ain oed. 0 ran enwad, Ani- bynwr selog ydoedd. Rhoes Y,40,000 at wahanol achosion, a chostiodd rhodd y Coleg iddo o fewn dim i £ 100,000. r Cloc Bywyd, III. a IV. tra hoff adeg,—VIII. a IX., j A daeth nos ar redeg Hen awr ddu XI., Ni chawn ond I. ychwanog.—Ceiriog. ")Q Sut i Sycbu. GWJSXNIDOG, gwedi ei ddal ar oi drafel gan gawod o wlaw drom, a droes i ymochel i dy'r capel. Yr wy'n wlyb tat y nghroen, Sian Rhobet." "Wel, piciwch i'r pulpud; fyddwch chi dro a syehu yno," oedd yr ateb crafog. C .)Q Ebe'r Yd. I WAS made to be eaten, and not to be drank To be husked in a barn, not soaked in a tank I come as a blessing when put in the mill— As a blight and a curse when run through a still Make me up into loaves, and your children are fed. But into a drink, I will starve them instead. In bread I'm a servant, the eater shall rule In drink I'm a master, the drinker a fool. Then remember my warning my strength I employ— If eaten, to strengthen if drunk, to destroy.% Pwy o'n darllonwyr dirwestol a gyfieitha'r uchod i'r Gymraeg ? I Robin Goes Bren. YMA rnae'n gorwedd 'rhen Robert gwr Gwen, Yr hwn a fu farw ag un goes bren Ac yn y dydd oia', oni fydd hi'n loes I Robert orfod sefyll ar ddim ond un goes." Dywedir FOD gwir serch yn cryfhau wrth heneiddio ac fod wy hefyd yr un modd. FOD pedair ruiliwn o belennau meddygol yn cael eu llyncu. bob wythnos yn y wlad hon gan bedair miliwn o ffyliaid. FOD dyn yn dalach pan godo yn y bore na phan yr el i gysgu'n lluddedig ;y nos ac os yn bregethwr, ei fod yn dalach noson ei gyfarfod sefydlu nag erioed, gynt na chwedyn. FOD clerc twrne go fain ei gyflog wedi dewis yn arwyddair Y gwas yn dal y ganwyll I'r diawl i wneuthur ei dwyll." Crefydd yn ol Glanygors. YN Seren Tan Gwinqvl-pariff-todyii gwleid- yddol o waith John Jones o Lanygors, a gyhoeddwyd yn Llunden yn 1795—gwelir fod archfaledwr Cymru yn rhywbeth mwy na baledwr. Dyma fel y dywed ar 'Grefydd Enwedigol":—"Os cymerwch chwi farn pob un am ei grefydd ei hun, mae crefydd yn ei lie ond os cymerwch chwi farn y naill grefydd amy llall, nid oes yr un grefydd yn y byd yn ei lie felly, yn ol barn crefyddwyr am danynt eu hunain, mae crefyddau yr holl fyd yn eu lie ac yn ol barn y naill am y llall, nid oes yr un grefydd yn y byd yn ei lie. Ond ymherthynas i grefydd ei hun, a gadael yr henwau o'r neilltu, fel ped f'ai holl deulu dynoliaeth yn hyfforddi eu meddyliau i wrthrych pob addoliad, DYN YN TYWALLT FFRWYTHAU EI GALON 0 FLAEN EI GBEAWDWB ydyw crefydd, ac er eubod yn rhagori fel ffrwythau'r ddaear, gallant i gycl fod yn dder- byniol gan Awdwr y bW.
Advertising
To Advertisers PREPAID ADVERTISEMENTS FOR BIRTHS AND DEATHS, Is. per Insertion. MARRIAGES, Is. 6d. per Insertion. SITUATIONS-Wanted Cd Vacant. APARTMENTS—Furnished and Unfurnished, Is. for One Insertion. 9d. for Three Insertions. a Rate for Trade Advertisements, Public Meetings etc., may be had on application. Advertisements must be to hand Tuesday Morning to ensure publication in the following issue, All communications re Printing and Advertising, to be directed to the Firm EVANS, SONS & FOULKES, Don Chambers, 8 Paradise Street, L'pool, or 355-358a Stanley Road, L'pool. 4 OF v Greenman's COMPLETE HOUSE FURN- ISHERS, Credit-Without Hire Agree- ment-at Cash Prices. 491 RICE LANE, WALTON & 72 AIGBITETH ROAD, LIVERPOOL Tel. 6y Walton & 3lv Lark Lane. OOFIANT Y PAROB. Edward Morgan, DYFFRYN, Z3 GAN Y Parch. GRIFFITH ELLIS, M.A., BOOTLii. Cynhwysa y Coflanfc amryw Ddarlmriau. Wedi ei rwymo mewn lliau. PRIS, 6s. I Cyhoeddedig gan Gee a'i Fab, Cyf., Dinbych, ac i'w gael gan yr holl Lyfrwerthwyr. f fp ? ø t YW Y WS. GOR" < I WAHVQ ACt rARGEiiilo A14 SToc PR\S\AU \S!lf KWAO TRWYX. PO1 LOW )A%tAl- Cpooij 138 Russell's Chronograph. Massive 18 carat Keyless Hunter- MAGNIFICENT PRESENTATION WATCfl (quite new (5 months ago with proof), in peIfef condition This HIGHEST GRADE | plfl0 ENGLISH FULL HUNTING HEAVY Kf1' LESS CHRONOMETER LEVER, by Thoj' Russell & Son, Makers to the Queen, Church P Liverpool, with full compensating gold sere balance, COMPENSATED TO ALL TE.VtP^1' ATURES, adjusted to all positions, variati0^ Vvithin 5 seconds per month, very latest perfected class A movement (JEWELLED UJ- ENDS), 19 FULL VISIBLE SELECW' RUBIES, PATENT OVERCOIL BREQUEl SPRING, patent Keyless i N B RE A KABhf MAINSPRING, Chronograph Centre Secon and outside STOP ACTION. A most ScieO^ ifically accurate instrument,of sensitive chroo metic capacity, suitable for EXPLORl^.r' NAVIGATING AND ASTRONOMIC^ OBSERVATIONS, Late property of a captain (4oz.) HEAVY SOLID 18ct. ENGLlP^ HALL MARKED GOLD THROUGIIOL'^ without mark or scratch. Russell's and °ur years' guarantee accompanies the MONTH'S TRIAL, Security advance g|iaral\e(j given with above of £ 15. Exchanges forward to any part of the Kingdom. DAVIES' HIGH-CLASS GOLD HUNTING WATCB^ ONE HALF BELOW COST. LOWIlH^' LIVERPOOL. Telephone 0777 Royal. Davies's Price £ 16/10/- Watches safely despatched to all parts of theWO^ f,21 Gents Gold Keyless Hunter- SECONDHAND Gents Solid 18ct Ellglife High-grade Keyless |-plate English High-gr8, ? Full Jewelled Chronometer Lever HUNTER; this noted London maker, with all recent impro d ments, being of the very finest meclianisill 11 workmanship of this. reputed maker, too We known to need comment Warranted a li/e and perfect in all detail. Also one siniil<ir Russell and Son, Church street, Liverpool (sa price). New six months ago. Davies's Price, £ 6/18/6^ 10 Guinea Russell's Ladies' KeylesS Just like new, verv Strong Keyless Lever fat lady, full Jewelled Chronometer Balance, Brequet Spring, and latest improvements, 8 months old heavy Solid Gold Stacipj thick Cases, damp and dust proof, ni chased makers and our guarantee f°r years. Wonderful bargain, call to see 1 Month's trial. Cash back if not as represen ed. Sent on approval. Davies's Price, £ 3/7/6 Every Watch Offered is a Timeke 7 Guinea Gents Russell's Soh Silver English Lever. £ I/Ig/6 Ver-v' strong, heavy working IO/U Solid Silver Capped Lever, Russell and Son, Church-street, Liverpo of (makers to tha Queen) new this year (pret to show). High Grade full plate Chronolueter balance, ruby jewelled, Brequet Spring t latest improvements (the kind that won't g out of order easily. Makers' and our antee, '25 years, perfect time-keeper, so _,g in every re-pect, month's trial. Also secondhand 7 Guinea Silver Hunter, noW 3 sent on approval; Stamped Solid Gold Chains- FASHIONABLE GOLD STAM^fu Graduated Curb Albert and ,T„T stamped every link, revolving vf- NOW Hall-marked and G0VERNM^> ;tZ/n/- STAMPED another U. guinea uated Curb, now £ 2/!)/! BIG P.r. ECTIQN. EVERY CHAIN RANTED AT SPECIALLY DUCED PRICES. SOLID HEAVY GRADUNrJllø CURB AND SEAL (best t. £5 in the trade). Governing stamped everv link, and j, marked; also Double it2/l 9/6 X21141; Double Long also a massive Heavy i) Curb £ 11 now £ 5/12/6. SOLID HEAVY OBA DCAJf £ 7 CURB ALBERT.. i»e» TMniu Stamped every link n'a »1$°a Double Curb, now, £ 3 8/6, S3/5/= Double Open Curb, £ n0^llCe^ 1 10/ Double Fetter Link,reu]0 frcra £ 8 8/ to £ 3 • £ \0t Massive Graduated Ouro>, now £ 4 10/- —— Q UINE V QOLD ^TEDDING WIDEST AND HEAVIEST 22-CABAT I riTRK GOLD RK DUCED 7/6 IN | POUNT*. WTNOHTR-STKH CA'RI> 27/6 lUNGS NOW 20s. 35/- TUNGS NOW 25s. so* PRESENT OF SUGAR TONGS ANV OON1" r HALF-DOZEN TEA DivKll; 30 Low