Welsh Newspapers
Search 15 million Welsh newspaper articles
5 articles on this Page
0 BIG Y G'LOMEN. |
0 BIG Y G'LOMEN. | -BADEN-POWELL.-Yr wythnos ddi- woddaf arhosai y Cadfridog Baden-Powell yj* Cregynog, plas Arglwydd Joicey, yn sir a chafodd groeso mawr yn y °bl pan fodurai yno o Drenewydd. Fe gonr rnai cyswynair ei deulu ydyw'r hen yw >?ymraeS Pw.yU' Ptd (perygl) 3k BLAENORIAID GWLYBION.—Y mae y .ydig o flaenoriaid gwlybion i'w cael hyd yn oed heddyw yma a thraw hyd eglwysi yinru ac os bu chwjhi erioed y dylid eu PC10> dyma hwy. Dywedwyd pethau cryf- P*1 yng Nghymanfa Treuddyn (sir Fflint) aydd Iau am fawr rwystr y brodyr hyn i acilos dirwest. «Se EIRCH AIL-LLA W.-Y peth rhyfeddaf c Welodd y G'lomen eto ydoedd llong fawr yn yrraedd Lerpwl y dydd o'r blaen o'r America i llwyth yn eirch ail-llaw. A chlywodd fod yw lane barus yn dweyd fod gwerth banner Urwn o bnnnau o aur yn gorwedd yn nhyllau ^annedd pobl ym mynwentydd y Talaethau c mai rheitiaeh lawer ei godi oddiyno a'i ,Iroi at raid y byw. Creadur caled, di- entiment, ydyw Jonathan. k 1->ANIEL OWEN A DEW I HAF ESP.— dri p Paw^ sydd heddyw'n cofio'r englyn hollol aifyfyr a wnaeth Daniel Owen, y Wyddgrug. Pan glybn'r bore hwnnw am farwolaeth ^ewi Hafesp ;— ■^id dy anglod, wir, ond d'englyn,—gyfaill, Gofir uwch dy ddyffryn Er doe yr ydym bawb—wyr dyn- A 'fory heb 'run dyferyn 8^) YR oE,s YN YMESTYN.—Oherwydd gwell gafael ar ddeddfau iechyd a glanweithtra j) 1Tlae hyd yr oes yn ymestyn, meddir. j ywedir mai cyfartaledd hyd yr oes yn y Sani"if ydoedd 13 mlynedd yn y i8fed (j ac yn y 19eg, 36. Ac er's talm, ystyrid iftae 'len unwaith y croesai 50. Ond v (jj-, 1 ni lawer eto o waith cyrraedd y cyn- pa Uwiaid, nad oeddynt ond rhyw las lanciau yn ganmlwydd oed. LL WM YN DEFFRO.—Y mae SWa^'°r '^re'"l Traliwm wedi penderfynu Ue Fl° ar guide-gooks, &c., i ddwyn y 1 sylw dieithriaid. Y mae'r llannerch i d Yn un o'r rhai harddaf, ac yn agos iawn olld Yryn tlws Meifod a gwlad Ann Griffiths, Qi0 ei k°d hi wedi colli iaith Ann, ac yn canu'r y Song a rhyw sucan crefyddol felly ar 0 f'enaid, gwel addasrwydd Y Person Dwyfol Hwn." C V* Ky)]ItE(J'SAM A '11 D YCIA U. "Y mae Pleidl ■?* Iechy(1 cyngor Tref Gwrecsam wedi cydw6lSi°' c^lwec^ y11 erbyn tri, i beidio sy' eithredu ag awdurdodau sir Ddinbych foder]0yrU'yg darpar sanatoria ar gyfer dar- ^ylw neu drneiniaid y dyciau." fart Edwards-Jones mai dechreu yn y tori^5 ydoedd gwario miloedd ar sana- ca][a,1 dderbyn cleifion o'r dyciau—mai tr\vv lawer dechreu yn y pen dethe, sef llia^rg^rnor°l am garthu'r drains a symud v yn n bethau drygsawr yn y dref a'r wlad oedd nagu'r afiecl'iyd. tl £ vn\WE,ST YN SIR FFLINT.—Yn i'fli^t ac"edd ddirwestol Methodistia.id sir di e a gynhelid yn Nhreuddyn ddydd Tau yn y a^' dywedid fod i'r enwad 70 o eglwysi v/ti'*10 cynnwys 17,000 o ddirwestwyr hob flaenoriaid yn llwyr-ymwrthodwyr, cay 11 eithriad fod saith tafarn wedi eu ya(A., ac nad oedd yr un o'r eglwysi yndefn- hith r gwin meddwol yn y Cymun. A 0 fanri cyffwrdd Lloegr mewn cynnifer sir hon yn un dra dirwesto] r^ai °'^ chwiorydd yng Ngogledd ^wait}i NEFYN.—Llygadog iawn ydoedd gWah pobl Nefyn, sir Gaernarfon, yn ^gor e d Mr. Lloyd George yno'r llynedd i Owr cronfa ddwr, pryd y dywedodd fod e 11 y tuhwnt o iach, ac nad oedd o'r i man y tu yma i'r Ne. Y mae'r 1108 We^ervvydd yn llawn o ddieithriaid a ^gharipiner ddiweddaf cynhelid cyngerdd yng Si!, M.C. y lie o Blaid Cymdeithas HoKtho1 y Bywydfadau. Y Parch. J. b.roddirts, Manchester, oedd yn y gadair h&u1 gan Mrs. Broughton, ^8 y an(-'hestcr a chanodd Cor Nefyn .Y D.D.—Fel y hedai y G'lomen echdoe, clywai drwp o fech- l}yn ar ol dyn a het silc, ac yn llafar- ^^felycaniyn.-— 1 jfwyl 'rwyf er ys blynyddau, bi8 IsgWyl gweld yr adeg gu,- )-awyi gweld fy enw anwyl °ael ei ddilyn gan D.D. PYd I)Yiia synffon yn cynnwys mwy na'm pen. uaci ydwyf yn ddysgedig, Q.Wr^ri nad wyf yn wreiddiol iawn, g dda nad mor, ond llestraid ypnan, bychan, yw fy nawn Onderhynny CrW 11 awyddn am D.D. Y^yn dda fod y mwyafrif Ac pregethwyr na myfi I'vpiii ar eu synhwyrau PYdcl fY ngalw yn D.D. W^di'r cwbl, 'to §a y gynffon hon. Ly Yn awdwr, fe gyhoeddais GWir Yr gafodd gryn fawrhad 0 rflai benthyg oedd ei hanner wduron gwych ein gwlad h ^VdH 1 er hynny Q?y otn ynhelpigaeI LXD-" W0lllen yr uchod ? Fe'i clywes y h0> i)jA^nyddau'n ol, ond y mae slump hedd'1 y dyddiau hynny. B.D. ydyw yw. MAGU BLODAU.-Os gwelwch ddyn yn hoff o arddio ac o dyfu blodau, byth y gwelir hwnnw nac yn Ilofrudd na lleidr a da ydyw gweled yr arddanghosfau blodau yn cynhyddu yng Nghymru. Cynhelid un ym Mhorthaeth- wy ddydd Sadwrn, ac un arall yng Nghaer- gwrle ac yn y ddwy cystadleuai gweithwyr distadlaf yr ardaloedd a mawrion y tir am yr harddaf eu blodau. Gweision y ffyrdd haearn pia hi, fel rheol, am fagu blodau. 15b "DA VIES BRIGHTON'—Y mae'r Parch David Davies, a fugeiliai eglwys y Bedyddwyr yn Brighton er's ugain mlynedd, yn ymad- ael, a'r aelodau wedi amlygu eu parch a'u hiraeth drwy ei anrhegu a chan gini ac anerch- iad eurog, hardd. Efe ysgrifennodd y gyfrol ddiddan Echoes from the Welsh Hills, ac os iawn y cofiaf, onid yn ei gyfarfod sefydlu ef y dywedodd Spurgeon y sylw cofiadwy hwnnw :—" Fe roi Cymro'r byd yn wen- fflam tra b'ai Sais yn chwilio am fatsen." k OLION Y BARDD CWSG.-Y mae'r hen wely lie cysgai Ellis Wynne (y Bardd Cwsg) ar gael hyd heddyw yn ei hen gartref, ffermdy p'lasog y Lasynys, Morfa Harlech a'r hen ffigyswydden ar y buarth yn blodeuo a dwyn ffigys gleision bob blwyddyn, a hithau yno, meddir, o ddyddiau'r bardd hyd heddyw. Ond ychydig wyr, a dim a falia, pobl yr ardal am yr hen Elis a'i lyfr anfarwol a'r rhai sy'n galw heibio'r ffermdy fynychaf ydyw rhai o Gymry gwladgar a dysgedicaf y dydd, ac athrawon Celtig Germani. PRYDER YR AMAETHWR.— Par lleith- ter yr hin fawr bryder i'r amaethwyr druain ac anodd ydyw dal i edrych ddydd 'rol dydd ar y gwair yn pydru a'r yd yn glas-orwedd ar y meusydd. A phe ceid y cnwd oil i ddiddosrwydd, nid oes ormod wrth gefn gan lawer ffermwr o Gymro, can's gwir a ganodd Dewi Wyn :— Gresyn fod gormod o'i gur Er dwyn saig i ddyn segur." k ARABEDD O.M.Dyma ddwy eng- raifft o arabedd parod Mr. O. M. Edwards. Yr oedd rhywun wedi taenu'r chwedl dro'n ol ei fod yn esgeulus o'r capel pan adref yn Llanuwchllyn ac wele ohebydd papur lloel yn troi ato ar lwyfan yr orsaf gyda'r cwestiwn, Ai gwir, Mr. Edwards, y stori na byddweh chwi byth yn twllu capel' rwan ?" Ie," eithaf gwir," oedd yr ateb, fyddai byth yn twllu unlle 'raf, ond yn gwneud fy ngoreu i'w oleuo." Digwyddodd yr engraifft arall y dydd o'r blaen yng Nghaerdydd, lie y tybiodd rhywun oddiwrth ei daldra a'i ddiwyg mai efe ydoedd yr offeiriad Pabaidd O'Hara. Are you Father O',ffara ?" ebe'r dyn. No," ebr O.M., but I am Father o' Haj." Haf ydyw enw merch Mr. Edwards. III. .)1( CY MRY. A' I THRAMP A RS-Mewn cyn- hadledd ddiweddar ym Merthyr, o weinydd- wyr Cyfraith y Tlodion, dywedai Sais o Lunden fod Cymru yn fagwrfa i dlodion,a'n bod ni'r Cymry yn haws gennym fynd i bwyso ar y plwy nag odid i neb. Ond dengys Cem- lyn yn y Western Mail mai palu enllib yr oedd y scogyn a rhydd rif. a chennad y crwydriaid a gynorthwywyd yn Nhloty Caerfyrddin am y chwe mis diweddaf :— Saeson, 913; Gwyddelod, 291 Yscotiaid, 73 tramoriaid, 37 a Chymry, 365. Gwar- iwyd ar y crwydriaid dieithr jE21 18/- yn y chwe mis, a £6 /8 ar y Cymry, sef dim ond un ran o dair. Ac felly, fel y sylwa Cem- lyn," leied fuasai traul Cymru pe mabwys- iadid y cynllun fod pob cenedl i ddwyn traul ei thrampars ei hun. RH Y WBETH NE W YDD, MWYN D YN. —Daeth 25,000 o Gymry'r America ynghyd i eisteddfoda yn Luna Park, Scranton, Gorff. 27. Cyrchent yno o bellafoedd y Talaethau, a National Welsh Day y gelwid dydd yr wyl gan bapurau'r wlad honno. Arweinid gan Cynonfardd a dengys y rhaglen fod mawr awydd yno, fel sydd yma, i ffowla rhywbeth newydd o hyd, o hyd. Un o'r cystadleuon ydoedd canu ton gynulleidfaol i ferched tros 50 oed; ac wedi eu gwobrwyo hwy, daeth pedwar o ddynion tros yr hanner cant ymlaen i gystadlu canu. Cystadleuaeth urddasol ydoedd honno am y teulu lliosocaf, yr hon a enillwyd gan David Rowlands-efe a'i briod a'u tri phlentyn ar ddeg yn ymddangos ar y llwyfan. GWYRTHIAU TREFFYNNON.-Dyma yr adeg ar y flwyddyn y bydd Pabyddion hygoelus Lerpwl a threfi mawrion ereill Lloegr yn heidio i Dreffynnon at Ddwr Gwenfrewi ac fe'u gwelir yno'r wythnos hon yn gloffion, deillion, ungoes, unllygeidiog, anafus, a phob rhyw anhwyldeb a diffyg corfforol. Dywedir i un ferch o Seacombe—r Miss Hanlon-gael adferiad golwg yno yr wythnos ddiweddaf, gwedi wyth mlynedd o ddallineb, drwy fwydo ei llygaid yn y dwr bob dydd am rai dyddiau. Ond nid rhinwedd y dwr gaiff y clod, ond fod yr offeiriad wedi ei fendithio a'i gysegru. Gwelir y boblach hyn yn dychwelyd gartref oddiyno pob un a'i botel yn llawn o ddwfr y ffynnon ond er cymaint eu ffydd ynddo, bydd ami un ohonyn yn diferu tipyn o chwisgi am ei ben i'w berffeithio ar ol cyrraedd gartref. FFERM Y COLEG.-Ddydd Llun, gwa- hoddodd y Proff. J. Winter, athro amaeth Prifysgol Bangor, liaws o ffermwyr a chyng- horwyr sirol i Aber i weled Madryn-fferm y Coleg, lie y megir ac y meithrinir anifeiliaid trwyadl Gymreig. Y mae ar y fferm o 80 i 100 o geffylau-rai ohonynt wedi cipio'r gwobrwyon yn yr Arddanghosfa Frenhinol, &c., ac o seithc-ant i wyth o famogiaid- defaid mynydd. Eglurodd y Proffeswr sut eu megid, a sut y plennid tatws a llysau ereill yn y ffordd fwyaf cynhyrchiol. Yr oedd y gwahoddedigion wedi synnu at berffeithrwydd y ffermio sydd ar dir Madryn, ac yn mawr edmygu yr olwg borthiannus oedd ar yr anifeiliaid. Y mae defaid fferm y Coleg, meddir, yn brefu yn Lladin, a'r meirch yn gweryru yn Groeg.
0 Lannau'r Comwy.
0 Lannau'r Comwy. ER fod cryn dafliad o ddinas y BRYTHON i'r Wladfa Gymreig, nid yw'n ormod gan eich newyddyr i ymweled a ni yn wythnosol gyson o'r cychwyn, a hir y parhao ei oes a'i waith, canys cyhoeddiad o'r iawn ryw ydyw, a chanddo neges a chenadwri gwerth ei gwrando'n wir. Yn awr gan mai Brythoniaid ydym ninnau megis chwithau, a'n dawr yn fawr yn hanes a thwf ein cydgenedl, gartref ac ar wasgar ym mhedwar ban y byd, synio a wnawn nad anyddorol na difudd i'ch darllenwyr fyddai ambell ysgrif oddiyma fo'n mynegi iddynt pa fodd yr ymdery eu pedair mil cymrodyr Patagoniaidd yn nhaith yr anial- wch. Ymlaenaf oil, dymunwn ddweyd fod sef- yllfa bresennol y Wladfa yn un o lwyddiant a chysur i'w phreswylwyr. Gwelsom ami a blin gystuddiau yn adeg y gorlifoedd dinystriol a gymerasant le yma yn ystod y blynyddoedd 1899, 1900, '02 a '04 ond erbyn hyn y mae'r cymyl duon wedi cilio a'r haul yn gwenu, a phawb yn foddlon ac yn canmol ei fyd. Bu adeg pan oeddym neilltuedig a didoledig oddiwrth y byd mawr, llydan, o'n cwmpas (eithr nid oddiwrth bechaduriaid, mwy na chwithau !). Yr adeg honno nid oedd ond cymundeb anaml rhyngddom a Buenos Aires-prifddinas y Weriniaeth Ar- ianin, rhan o ba weriniaeth ydyw ein tiriog- aeth ni a'r adeg honno peth digon cyffredin yn ein hanes ydoedd bod am dri neu bedwar mis heb na llythyr na newyddyr o unlle, ond erbyn hyn y mae'r cyfnod hwnnw ymhlith y pethau a fu, a ninnau yn gallu ymffrostio y meddwn gyfleusterau trafnidiol cyson a rheolaidd, a'n bod yn gylymedig wrth y rhelyw o'r byd a gwifren feinhir y pellebyr, ac yn lie gorfod byw ar drugaredd hen hwyl- longau bregus ac aniben, y'n gwasanaethir yn awr gan dri chwmni agerawl,—yr Ham- burg American," y Transportes Nacion- ales," a'r "Pacific Steam Navigation Co, y ddau gwmni blaenaf yn rhedeg eu llongau o Buenos Aires i lawr yr arfordir hyd Cape Horn yn eithaf y De, a'r Pacific o Lerpwl yna i Chili yn y Tawelfor, yr oil yn galw yn fisol wrth fynd a dod ym Mhorth Madryn- un o'r porthladdoedd naturiol goreu yn yr holl fyd, ac un sydd a dyfodol ardderchog yn ei aros yn y dyfodol agos a hwn yw porthladd y Wladfa. Y pellter o Madryn i Drelew ydyw 47 milltir, a rhwng y ddau y rhed rheilffordd y F.C.C.C. (Rheilffordd Ganolog y Camwy). Y mae gwaith y Pacific Co. yn galw yma wedi bod o les mawr i'r Wladfa a'r diriogaeth yn gyffredinol-yn ogystal a bod yn ffynhonell o elw iddo yntau, oblegid y mae'r fasnach a wneir rhwng yma a Phryd- ain-yn awr wedi mwy na dyblu yr hyn ydoedd yn flaenorol. Y prif gwmni masnachol yn y Wladfa ydyw y Chubut Mercantile Co. mwyafrif rhanddalwyr yr hwn ydynt Gymry glan gloew. Yr arolygydd ydyw E. M. Morgan, Ysw.,—boneddwr o anianawd, add- ysg, a dygiad i fyny masnachol prif ysgrif- ennydd y cwmni ydyw Joseph Jones, Ysw., mab hynaf y Parch. Robert Jones (Tryddyn gynt), a brawd y Parch. R. J. Jones, gweini- dog ieuanc newydd-ddewisedig un o eglwysi Manchester,—yr hwn a ddechreuodd ei yrfa ddisglaer yma yn y Wladfa, ac am yr hwn y mae ein gofal yn gymaint am ei gysur a'i ddiddanwch nes yr ydym am ganiatau iddo y fendith o gael un o rianod y lie yma i fyned drosodd ato i Fanceinion i fod yn ymgeledd gymwys iddo yn y ddinas fywiog a phwysig honno Disgwylir y Duendes, perthynol i Gwmni y Pacific, i Madryn un o'r dyddiau nesaf yma, ar ei mordaith am Lerpwl, ac y mae llu o'r gwladfawyr yn bwriadu myned gyda hi am wibdaith i Gymru, ac yn eu mysg Mrs. Griffiths, priod y bardd a'r lienor clodwiw Gutyn Ebrill; David G. Jones a'i briod; John J. Edwards a'i fab John G. Jones a'i briod ac amryw ereill. Tua Phorth- madog a Ffestiniog y bwriada Mrs. Griffiths dreulio y rhan fwyaf o'i hamser yna D. G. Jones a'i wyneb am y sir enwocaf yn y byd am godi offeiriaid a gwau hosanau J. J. Edwards a'i dynfa i'r hen gartref—Cae'r Merched, Penrhyndeudraeth a J. G. Jones a hiraetha am gael treulio ychydig fisoedd tua Chaerfyrddin. Eiddunwn iddynt fordaith gysurus, mwynhad digymysg tra oddi- cartref, a dychweliad diogel yn ol. Ymadawiad E. J. Williams, Ysw. Ar ol gwasanaethu y Wladfa gyda medr a ffyddlondeb dihafal, y mae'r boneddwr uchod yn torri ei gysylltiad a hi am ysbaid. Ganwyd a magwyd Mr. Williams ym Mostyn, a daeth allan yma gyda'i dad a'i fam a'i chwiorydd yn nechreu 1881, yn llane ieuanc newydd orffen ei brentisiaeth fel tirfesurydd a pheirianydd yno, a bu ei ddyfodiad yn ddechreu cyfnod newydd yn hanes y sefydliad. Rhaid a osodir arnom yma i ddyfrhau pob llathen o dir amaeth oherwydd sychter yr hinsawdd, a bu i'r gwladfawyr golledion lawer yn ystod y blynyddoedd cyntaf am na feddent gamlesi wedi eu lefelu a'u lleoli yn briodol at gario y dwfr o'r afon i'r tiroedd ond ar ol cyrhaeddiad Mr. Williams gyda'i offerynau a'i wybodaeth, dechreuodd pethau ddod i drefn, ac erbyn heddyw y mae gennym gyfundrefn ddyfrhaol gwerth ymffrostio ynddi. Efe hefyd fu a'r Haw bennaf yng ngweith- iad y rheilffordd haearn o Fadryn i Drelew, ac uched oedd meddwl y ewmni hwnnw ohono fel y penodwyd ef ganddynt yn Rheolydd Cyffredinol yn y flwyddyn 1890-swydd a lanwodd gydag anrhydedd hyd yn bresennol ac yn awr, pan y mae'r ewmni am estyn y rheilffordd o Drelew i'r Andes-400 milltir o ffordd-y maent wedi dyrchafu y gwas da a ffyddlon i fod yn gyfarwyddwr ar- bennig yn y brif swyddfa yn Llunden. Heblaw enwogi ei hunan fel peiriannydd ac arolygydd y rheilffordd, enillodd Mr. Williams iddo ei hunan le uchel—yr uchaf, ym marn a chalon y Wladfa-fel boneddwr a Christion. Bu yn gadeirydd y Lleodraeth am flynyddau, ac ar fwy nag un achlysur gofynwyd iddo gan y gwladfawyr fyned yn gynrychiolydd drostynt at yr Arlywydd yn Buenos Aires, ac nis gellid ei gyffelyb yma at orchwyl o'r fath, oblegid medda ar ystor ddihysbydd o bwyll a gochelgarwch, gwediad clir a phen- derfyniad didroi'n ol, ac hefyd y mae yn feistr hylithr ar iaith y swyddogaeth yno, sef yr Hyspaeneg. Bu hefyd am dymor hir yn olygydd Y Drafod-cin newyddyr wythnosol yma a mantais fawr iddo yn y cyswllt hwnnw ydoedd y ffaith y medr siarad ac ysgrifennu y Gymraeg, Saesneg, a'r Hyspaeneg heb na llediaith na mursendod, Gallesid tybio oddiwrth a fynegwyd mai prin y gellid disgwyl i wr o'i fath ef gael hamdden i wneud odid ddim gyda chrefydd a chapel, ond camgymeriad dybryd fuasai hynny, gan na fu neb a'i ysgwydd yn dynnach o dan yr arch nag ef, a cholled anaele i eglwys a chymilleidfa Trelew fydd ei ymadawiad oddiwrthynt-colled am athro a blaenor nas ceir ond yn anfynnych ei gyffelyb. Nos Wener, Mehefin 28ain, cynhelid cyfar- fod i ffarwelio a Mr. Williams a'i deulu, a chymerwyd rhan gan bob gradd a dosbarth, o'r Rhaglaw i lawr at eich gohebydd. Cad- eirid gan E. M. Morgan, Ysw, Rheolydd y Cwmni Masnachol ac arweinid gan W. H. Hughes (Caeron). Cyflwynwyd anerchiad goreuredig i'r gwr a anrhydeddid, gan Gutyn Ebrill, yn enw ac ar ran y Wladfa yn gyffred- inol, ac yn arwyddedig gan ugeiniau o ewyll- yswyr da ac edmygwyr y gwrthrych o fysg pob plaid a chenedl yn y sefydliad. Rhaid oedd ei anrhydeddu." Marwolaeth Mrs. Williams, Druggist Gorchwyl galarus i ni ydyw gorfod cofnodi marwolaeth yr uchod, yr hyn a gymerodd le riawn Saboth, y 9fed o Fehefin diweddaf. Yr oedd yr ymadawedig yn adnabyddus iawn yn y Bala a'r amgylchoedd flynyddau yn ol. Merch ydoedd i'r diweddar Mr. David Will- iams, Ty Coch, Trefnant, ger Dinbych, ac yn y cyffiniau hyny y treuliodd y rhan gyntaf o'i hoes. Yn 1871 ymbriododd a Mr. Edwin Williams, fferyllydd, Bala, ac oddiyno y daeth y teulu i'r Wladfa yn 1881. Yr oedd y chwaer ymadawedig yn gymeriad a fawr hoffid gan bawb a'i hadwaenai erioed ni fu gwell priod, mam, a chymdoges na hi. Yr oedd yn un o'r gwragedd mwyaf cymwynas- gar yn y byd, ac yn dwyn mawr sel dros yr achos goreu bob amser, a bu yn nodded a swcwr da i'r eglwys ymgynulledig yn Eben- ezer. Y mae yr hen frawd ei phriod wedi ei adael ar ei hoi—yn fethedig, trwm ei glyw, ac agos yn ddall y plant hynaf wedi hedeg dros y nyth, a'r ddau ieuengaf,Ifor a Blodwen, adref gydag ef yn cadw y cartref i fyny. Carai yr hen bererin yn fawr gael gwybod un ai drwy lythyr neu drwy gyfrwng y BRYTHON, pa un a ydyw ei frodyr, John a Robert, yn fyw ai peidio, a'r un modd ei chefnder, mab y diweddar Mrs, Jones, Manchester House, Bala, oedd yn preswylio ym Manceinion flynyddau yn ol. Od oes ymysg eich darllenwyr rywun a allai hysbysu yr hen frawd Mr. Williams parthed y personau a nodwyd, teimlem yn dra diolchgar drosto, a dymunir ar i Y Seren (Bala) gyhoeddi yr ddigwydd ymholi am berthynasau neu gyf- hanes hwn. GorfJ. 13, 1907. TRYFAN. (Gwel y nodiad tan y pen At ein Goheb- wyr," tudal 8.) -0-
Ffetan y Gol. ----
Ffetan y Gol. Cor Caergybi. MR. GOL.Tybiaf fod Bethma yn y rhifyn diweddaf yn annoeth ac yn gyn- amserol yn yr awgrym sydd ganddo ar ffurfio' cor oddiyma i fyned i Langollen. Mae yn ddigon posibl y gwneir hyn pan ddaw yn amser cymeradwy. Nid oes yr un lie yn y Gogledd ag sydd wedi bod mor gefnogol i'r Eisteddfod Genedlaethol ag ydyw ein tref ni, na'r un arweinydd yn y wlad ag sydd wedi aberthu mwy o'i amser na'r cymrawd cerdd- gar, Mr. W S. Owen. Ac yn ddios bydd efe eto yn barod i anturio i'r frwydr, ac yr wyf yn hollol sicr y bydd i'r hen aelodau gasglu o'i gwmpas eto pan fydd ef yn barod i ym- gymeryd a'r gwaith. Ni charem ddweyd dim yn erbyn y dyn ieuanc a enwir gan Bethma," ond teg ac anrhydeddus ydyw i gantorion y dref fod yn ffyddlon i'w hen arweinydd, a rhoddi iddo ef y cynnyg cyntaf. Ond os bydd efe yn gwrthod, yna gofynner i Mr. Hugh Williams, oblegid efe ydyw yr unig un arall sydd'gennym yn alluog i arwain cor teilwng o gystadleuaeth bwysig. HEN AELOD.
Beirniadu Adrodd eto.
Beirniadu Adrodd eto. SYR,-Cydsyniaf yn hollol a Hen Eis- teddfodwr yn eich rhifyn diweddaf gyda golwg ar yr angen am gael beirniaid adrodd yn gwybod rhywbeth am eu gwaith, ac yn cael eu talu mor anrhydeddus ag y telir y beirniaid canu. A diolch am gyfrwng i ddeffro pwyllgorau pendew a chrintach gyda hyn. Dalier ati hyd nes y ceir diwyg- iad. Ond os oedd Hen Eisteddfodwr yn ymgeisydd ei hun ym Mhwllheli, waeth iddo heb gwyno, gan y gwyddai ymlaen llaw pwy a sut feirniaid oedd i selio ei dynged. Chys- tedlais i ddim er's talm, ac ni chystadlaf chwaith, tae bwys am hynny, nes y ceir beirniaid allant feirniadu.—Yr eiddoch, WEDI 'LARU. MR. GOL.Gan fod hanes tair Eisteddfod ym MBYTHON pythefnos yn ol, yr oedd yn FRYTHON wrth fy modd. Yr hyn a'm tarawodd yn syn wrth ddarllen oedd fod y wobr am adrodd yn y tair 'Steddfod wedieu rhannu. Cododd y cwestiwn, Ai cyd- ddamwain hwn ? Neu a oes modd rhoi cyfrif am y ffaith ? Credaf fod. Dyfalaf mai y rheswm fod y beirniaid yn methu cael y goreu yn y tri amgylchiad oedd diffyg astudiaeth ganddynt hwy eu hunain ymlaen llaw „o'r darn, ac felly heb unrhyw ddelfryd o'r hyn a ddisgwylient gael, yr hyn sydd gyfystyr a bod heb safon i farnu wrthi. Os mai gyda meddwl agored fel yna yr eir ati i wrando adroddwyr, nid rhyfedd canfod pan eir i geisio penderfynu ar y goreu nad oes dim syniad pendant ganddynt am adroddiad yr un ond y diweddaf y buwyd yn gwrando arno. Fodd bynnag, rhaid penderfynu ar rhyw ddau i ymddangos. 'Run modd eto ar y llwyfan—wyr y beirniaid adrodd yn ami ddim beth sydd arnynt eisieu, ac wedi cael dau adroddiad, wyddant yn y byd p'run yw y goreu, ac yn hytrach na gwneud un cam mawr, rhannant y cam trwy rannu y wobr, a dweyd y lleiaf ellir wrth ddyfarnu- dim ond rhyw sylwadau cyffredinol" am adrodd, a wnant y tro am byth unwaith y dysgir hwynt. Os na cheir beirniadaeth, ac nid dyfarniad noeth, cystal gennyf fuasai rhoi'r mater i'r dyn wrth y drws i'w ben- derfynu, a llawn tebyced fyddai o wneud cyfiawnder. Beth pe cymerai pwyllgorau Cymru safon Cyfrin yn y BRYTHON diweddaf yn rheol i ddewis beirniaid adrodd ? Dyma ddywed- ai :—" Dylai pob un all ennill deirgwaith yn olynol mewn cyfeiriad neilltuol gael bod yn feirniad am dro." Ymddengys mai yr hyn sydd yn mynd i wneud un yn gymwys i fod yn feirniad adrodd yng Nghymru ar hyn o bryd yw,—Tankiw a tei gwyn. TREFLAWNYD.
Advertising
W. & J. VENMORE, Estate Agents & Valuers, 200 SCOTLAND RD. Liverpool. TELEPHONE No. 1463. Pianos & Organs Cash or Easy Payments. TUNINGS SINGLY OR BY CONTRACT REPAIRS by Expert Workmen. Write or call for ILLUSTRATED CATALOGUE RICHMOND JONES & SONS, 11 6 13 BERRY ST. (Top of Bold SJ.) Tel 2331 Royal. LIVERPOOL. Telephone 0664 Rcyal. J. OLIVER, TAILOR and HABIT MAKER 126 Upper Hifl Street PRINCES ROAD, ^LIVERPOOL, a A 11 an Line. SIcrhcir y cysur mwyaf sydd bosibl ar Agerlongau Cyflym (Turbine) Y FORDAITH FERAF A RIJATAF I Canada a'r Unol Dalaethou. Cyflym, Diogel, Cysurus. Oyfleusterau heb eu hail,y clud" iad rhataf. Yr unig Linell a chanddi Gytundeb a'r Llywod- raeth i gludo Llythyrau I Canada. Llawlyfr yn rhad gan Canada. Llawlyfr yn rhad gan Allan T 103 LEADENHALLST., a /ALMU PALL MALL, LONDON 19 JAMES STREET, -LIVERPOOL. Telegraphic Address PIPES," Liverpool. ø JOHN EVANS SLATE BRICK, TILE, CEMENT c. MERCHANT, flea Office and Depot: 88 to 92 SOHO ST., L'POOL. a Branches: Cement Stores- 15 and 16 NOVA SOOTIA, CANNING DOOR Railway Depot— SPEKELAND WHARF (L. & N.W. Rly.) Edge Hill General Stores- 20 DACRE STREET, Birkenbead. Telephone Numbers: Head Office-No. 102 Royal. Birkenbead-1025. Edge Hill-728Y Royal. Canning Dk-8208 Cen. The Gwalia Hotel, Ltd., LLANDRINDOD WELLS. Telephone 40 P.O. Telegraphic, Gwalia.' Managing Director-EDW. JENKINS. The situation of the GWALIA" is unrivalled Beautiful outlook, commanding the finest views possible; perfect South-west aspect; close to Park. Mineral Springs—Saline, Sulphur, Chaly. beat. Golf Links, and excellent waters for Angling. Heating Apparatus, good supply of Radiators on balconies and corridors. Beds and bedrooms always well aired. Electric Light. Visitors' Lift. Free Billiard Table. Recreation Room.. Lock-up Cycle House. Tariff from P,211216 to X311 The Nurses' Co-operation and Medical and Surgical home, 3 CANNING ST., LIVERPOOL. Fully Trained Nurses sent any distance on the shortest notice. Specially Trained & thoroughly Experienced Nurses for Mental and Nerve Cases. Daily Visiting Nurses & Masseuse. Medical, Surgical, Maternity, and Nerve Cases received in the Home. Miss GEACH, Lady Superintendent TELEPHONE 1092 ROYAL. BRYSIWCH P.P I geisio potelaid gan y Fferyllydd nesaf atoch, cyn i'r Anwyd fyned yn waeth. Cofiwch COUGH MIXTURE HUGH DAVIES, Maohynlleth. _h- iSJc. a t,8. 9c. y botel. IDA VIES 5 COUGH MIXTURE DAVIES'S COUGH MIXTURE DAVIES'S COUGH MIXTURE DAVIES'S COUGH MIXTURE DAVIES'S COUGH MIXTURE DAVIES'S COUGH MIXTURE At Beswch, ■ Anwyd, § Asthma, g Bronchitis, g Pas. Crygni, K Influenza. || ENNEL-