Welsh Newspapers
Search 15 million Welsh newspaper articles
14 articles on this Page
Advertising
NOW READY OFFICIAL ) LIST OF SUBJECTS NOW READY OFFICIAL LIST OF SUBJECTS Llangollen Royal National Eisteddfod, 1908. Price 6d. ei Post 7\d. EVANS, SONS FOULKES, 1 Don Chambers, 8 Paradise Street, or 356a and 358a Stanley Road CYNRIC, Y TEILIWR IOCYMREIG. 14 SMARTNESS WITH ECONOMY RELIABLE TAILORING. NEWEST PRODUCTIONS IN SUITINGS TROUSERINGS AND RAIN-PROOFS AT REASONABLE PRICES. ø E. C. KenricK, ø62 RENSHAW STREETS o or Crack
TREM ^ J^TRWY Y DRYCH.J
TREM J^TRWY Y DRYCH.J Y Cadfridog Booth. MAE y Drycli yn awr ar un o ddynion rhyfeddaf y ganrif ddiweddaf. Dechreu- odd ei Fyddin lachawdwriaeth yn ddigon syml, a chwarddai y wlad am ei ben. Ond ymddatblygodd William Booth o fod yn joke i gael ei gydnabod fel y berson- oliaeth gyda'r mwyaf tarawgar a dylan- wadol yn yr holl fyd crefyddol. Ar y cyntaf, syml iawn oedd ei drefniant ond yr oedd meddylddrych y Fyddin yn ei ben, cariad at ddynion truenus yn ei galon, a hyder anorthrech yn ei ysbryd. Diau iddo etifeddu ei ysbryd penderfynnol anhyblyg o'i enedigaeth, a bod ynddo gymhwysterau naturiol i'r swydd yr ymgymerodd a hi. Y mae yn ddigon eofn a chraff i wneud Cadfridog," ond y mae yn ddigon dwfn ei gariad i weithio y gyfundrefn sydd dan ei law i'r amcanion dyngarol uchaf, ac er iachawdwriaeth dymhorol ac ysbryd- ol i filoedd. Nid oes dadl na lwyddodd ei gynllun ef, gan nad faint ei ddiffygion, i gyrraedd llu mawr o ddynion colledig iddynt eu hunain a chymdeithas, nas gallasai bloedd o pulpud byth eu dal, ac nad oedd sel genhadol yr eglwysi. yn ddigon i beri mynd ar eu hoi. Clyw- som rai o genhadau y Fyddin ar gonglau'r heolydd yn dweyd pethau digon rhyfedd yn ami, ac yn gyff gwawd i bobl anystyr- iol ond er hynny yr oeddynt ynghanol y gwawd yn dal llusern i ami un cyfeiliorn weld ei ffordd-fel y gwelsom fflam y nwy ar heol dywyll yn dal i ymwingo yn y gwynt. Un o gymeriadau mwyaf gwreidd- iol y pulpud Cymreig a ddywedodd ar gychwyniad y Fyddin Iachawdwriaeth, Waeth gen i pe bai y Nefoedd yn dod i'r byd yma yn swn maen llifo—ei chael hi yma yw y pwnc." Iachawdwriaeth y Fyddin. BWRIWN Drem yn ol i dymor cyntaf y Fyddin, a gwelwn ynddi arwyddion gwendid peryglus. Bu gwisgo'r dillad,, euro'r tabwrdd, a gwaeddi Haleliwia," yn newydd-beth atdyniadol dros amser ond nid ar beth felly y gallasai y symudiad fyw ac ymgryfhau. Gwelodd llygad eryr y Cadfridog y perygl, ac mewn ysgrif ragorol a ddarllenasom arno ef a'i waith yn ddiweddar, gwneid allan yn bur eglur mai iachawdwriaeth y Fyddin fu ei throi i fwy o waith ymarferol. 0 hynny allan, ni foddlonid ar y got, y gan, yr offerynau cerdd,a'r anerchiadau byrion a gwreichion- llyd, ond aed at y gwaith o estyn help ymarferol i drueiniaid, gan gofio fod gan- ddynt bob un gorff yn gystal ag enaid, ac arnynt eisieu cysgod ar y ddaear yn gystal ag wedi mynd ohoni. Bu y sy- mudiad hwn yn anadl einioes o newydd i'r Fyddin, a gwelodd truenusion cym- deithas genhadaeth grefyddol ddaethai ar eu hoi i'w cilfachau duaf, i'w gwarth mwyaf, a llaw dyner yn cynnyg eu hymgeleddu a'u harwain drachefn i lwybr purdeb a chysur. Ac nid oes le i amheuaeth nad yn y fan yma y mae cuddiad cryfder y Fyddin. Da y cofiwn un nos Sadwrn gwlyb a gwyntog, yn nyfnder gaeaf, rhwng deg ac un ar ddeg o'r gloch, pan y safem gyferbyn ag un o 3fstefy 11 y Fyddin. Yr oedd y neb oedd ganddynt gartref yn tynnu tuag ato ond yn heolydd y ddinas ceid lliaws yn eu carpiau, yn crynnu gan oerni, yn welw gan angen ac o blith y rhai hynny, fel drychiolaethau syn a mud, arweiniwyd degau i'r ystafell grybwylliedig i gael tamaid o fwyd a chysgod dros y nos. Nis gallem lai na chredu fod caredigrwydd o'r fath, mor bell ag yr ai, yn atebiad pur groew i'r cwestiwn, What would Jesus do ? Mae y Cadfridog Booth erbyn hyn yn hen wr penwyn, ond yn parhau yn ei sel a'i hyder. Gwyr beth yw am- gylchu'r byd ar ran ei genhadaeth, a cheir banerau y Fyddin yn chwyfio yn awelon pob gwlad. Ar hyn o bryd, mae William Booth yn ei fotor ar daith drwy y deyrnas hon, Cymru ymysg mannau creill. Y mae wedi hen gynefino bellach ag ym- ddiddan a brenhinoedd a thywysogion a mawrion y byd, a thelir gwarogaeth iddo gan awdurdodau trefol a gwladol ar ei hynt ddiaros, ac unig berygl ei ddeiliaid yw ei addoli. Wedi'r cyfan, gymaint mwy yw Booth na Napoleon Crefydd mewn Carchar. DYMA y Drych ar fangre y pyrth cedyrn a'r wal ddiadlam." Mae'n debyg nas gellid gwneud heb sefydliadau o'r fath yma ond mae'n bur sicr y gellid diwygio llawer ar rai ohonynt, a dwyn eu cosb yn fwy i amcan ac ysbryd dyngarol. Bu y Gwrthsafiad Goddefol diweddar. yn foddion i ollwng llawer o ddynion llygadog i'r gyfrinach fawr sydd yn gau- edig tufewn i furiau carcharau y wlad. Gwir ddarfod i amryw ohonynt hwy gael lie gweddol gysurus, a thriniaeth bur dyner oblegid mae ceidwaid carcharau hefyd yn gall yn eu cenhadaeth. Ond digwyddodd i rai lithro i fewn yn ddi-lol, a chymeryd eu rhan fel pechaduriaid ereill, yr hyn, o leiaf mewn rhai amgylch- iadau, fu yn foddion datguddiad dyddorol a gwerthfawr iddynt hwy. Bu beth bynnag un gweinidog o Gymro yn ddigon dewr a chyfrwys a chall i fynd i garchar felly, a chafodd yno ddatguddiedigaethau o bwys. Ac un o'r pethau mwyaf gwrth- un ynglyn ag ambell garchar yw, mai y gwr sydd yno yn yr enw o gaplan—fel y gofaler am eneidiau y carcharorion, a thra y traddodir y corff i Satan, y byddo'r ysbryd gadwedig "—mai hwnnw, mewn rhai mannau, yw y bodyn casaf o'r holl swyddogion. Gwyddom o'r goreu am rai caplaniaid ardderchog, o ysbryd dyngar, ac athrylith i ennill dynion i fywyd gwell. Ond beth feddyliwch chwi o gaplan yn sarhau carcharorion, yn eu dirmygu yn eu darostyngiad, ac yn bwrw cawodydd o genllysg diystyrwch arnynt o'i bulpud yn yr enw o bregethu yr efengyl ? Tipyn o beth felly brofodd y gwr parchedig y cyfeiriasom ato. Awgrymodd rhywun y priodoldeb o anfon llythyr at yr Ysgrifennydd Cartrefol. Ond, cliwarae teg i bawb, y mae gan Mr. Gladstone hefyd dipyn o waith y dyddiau hyn ac feallai nad yw mor bybyr fel atebwr llythyrau ag yw Mr. Lloyd George a'r Finsent. Modd bynnag, gyda phob difrifoldeb, trown oddiwrth y rhewynt deifiol ddaw o ogleddbwynt caplaniaeth o'r fath a grybwyllwyd, a dyma awel fwyn y dehau yn anadlu arnom o eiriau yr Un a ddywedodd, VBurri yng ngharchar a daethoch ataf."
Advertising
COFIANT a PHREGETHAU Y DIWEDDAR Barch. ROBERT OWEN (Ty Draw), gan y Parch. JOHN OWEN, Wyddgrug. Telerau arferol i Lyfrwerthivyr. Archebion i'w hanfon i'r A rgraffydd- HUGH EVANS, 856-8a Stanley Road, Neu y Parch. WM. OWEN, 11 Greenbank Road, LIVERPOOL J
CRED A MOES.
CRED A MOES. WEDI gosod i lawr natur crefydd a natur Cristionogaeth, a chan ein bod yn maentumio mai mewn undeb byw a Christ y dichon i ddyn ddod i sefyllfa y gall sylweddoli amcan uchaf Duw yn y byd, naturiol yw disgwyl i ni ddweyd rhywbeth am y person rhyfedd sydd yn ddelfryd eithaf meddwl Duw, ac ar yr un pryd yn ymgorfforiad perffaith o freuddwyd- ion mwyaf beiddgar dyn. Carasem draethu ar y mater yma ar derfyn oes hir, wedi byw mewn cymundeb ag Ef, a chael ein trwytho a'i ysbryd, drwy gyfnod nwydwyllt ieuenctyd ac amser uchelgeisiol canol oed, a siomed igaethau a blinderau hen ddyddiau; ond anghenraid osodwyd arnom i ymdrin a'r mater yn awr. Nid ydym yn gwneud unrhyw ymddiheurad am y cwrs hwn. Gofynnwn yn unig ar ein darllenwyr beidio cymeryd dim a ddywedir gennym yn derfynol, na thybio ein bod yn anffaeledig. Dymunem i'r ysgrifau hyn fod yn agoriad ymdriniaeth, ac nid yn osodiadau dogmataidd i'w credu unwaith ac am byth. Derbyniwn bob beirn- iadaeth yn ddiolchgar, ac na feddylied neb ei fod yn cael ei ddysytyru na'i ddibrisio os bydd i ni fyned heibio i'w lythyr yn ddisylw. Yr unig reswm am hynny fydd nas gwelwn unrhyw oleuni ychwanegol, ac nad ydym yn dewis ymgecru na phentyrru geiriau heb synnwyr.
Cristionogaeth.
Cristionogaeth. Dywedasom fod Cristionogaeth o ran ei hanfod yn gorwedd ar ddwy ffaith, sef fod I eslt Grist yn ddatguddiad perffaith a ther- fynol o Dduw, a'i fod hefyd yn Iachawdwr digonol i ddynion. Fe'n gwthir yn y man i ofyn paham y mae Ef felly, ond ceisir gennym mewn cyfres o fer ysgrifau,cyn myned at y cwestiwn yna, adrodd hanes yr Iesu gan amcanu at gael gafael ar yr egwyddorion oedd yn llywodraethu ei fywyd a'i waith. Nis dichon i neb wadu fod lesu Grist wedi cynhyrchu chwyldroad na fu ei debyg yn hanes y byd erioed, a bod myfyrdod ar y person hwn, pa un bynnag a ydym yn credu ynddo yn yr ystyr a nodir uchod ai peidio, yn deilwng o'r athrylith uchaf.
Hanes yr Iesu.
Hanes yr Iesu. Gellir ymdrin a bywyd Crist mewn dwy ffordd. Gellir cjmieryd yr hanes yn allanol gan ddilyn y ffeithiau o un i un, a dangos pa fodd yr oedd Crist yn cyfarfod y gwa- hanol amgylchiadaa oedd yn ei oddiweddyd. Os edrychir ar yr hanes fel hyn, fe ddichon mai rhanniad tobyg i'r isod fyddai decaf (1) Pethau Arweiniol (2) Dyddiau Boreu (3) Gweinidogaeth Gyhocddus (4) Dyddiau Olaf (5) O'i Adgyfodiad hyd ei Esgyniad. Teimlwn, pa. fodd bynnag, mai ffordd ar wynebol o ymwneud a bywyd yr Iesu yw yr uchod. Argyhoeddir ni yn fwy bob dydd fod yna ochr fewnol i fywyd Crist,—ochr nad yw yn derbyn ei hystyr oddiwrth ddigwyddiad allanol. Credwn nad yw'r amgylchiadau hanesyddol ond plisgyn damweiniol, ac y buasai bywyd Crist o ran ei hanfod yr un pe buasai yr amgylchiadau yn wahanol. Nid yw ymddygiad byd tuag ato yn penderfynu dim ar natur y datguddiad a geir ynddo, nac yn ymyraeth o gwbl a chnewyllyn y gwaith a wnaed ganddo. Amcan yr efengyl- wyr yw darlunio bywyd Iesu Grist fel y mae yn cynnwys Datguddiad o Dduw ar ei eithaf yn perffeithio person yn gyfrwng digymar i ddwyn ymlaen deyrnas Dduw ar y ddaear. Gwir y ceir goleuni helaeth ar Natur Duw, a ar lu aneirif o bynciau athronyddol a diwinyddol, yng nghwrs y Datguddiad yma, ond pethau damweiniol ydynt, ac y mae dilynwyr Crist wedi bod yn fradwyr ymar- ferol, er yn ddiarwybod, wrth iddynt godi y pethau hyn i'r eisteddleoedd blaenaf, pan y dylesid dweyd wrthynt Eisteddwch chwi yma islaw fy ystol droed i." Mae'r amgylchiadau allanol wedi rhoddi ffurf ar- bennig ar ddysgeidiaeth Crist, ac y mae ambell i ddisgybl, wrth honni anffaeledig- rwydd ffurf, wedi rhwystro cymaint ar rai bychain yng Nghrist fel mai da fuasai iddo roddi maen melin am ei wddf a'i foddi yn eigion y mor. Mae'n bosibl i'r ffurf fod yn amherffaith. Yn wir, dywedwn fod yn rhaid i'r ffurf fod yn amherffaith, neu i'r datguddiad fod yn amherffaith. Mae'n amhosibl i ddyn amherffaith. a phechadurus adrodd hanes person perffaith a dibechod heb fethu a chamgymeryd.
Hanes Enaid Crist.
Hanes Enaid Crist. Peth anodd ydyw gosod ein hunain megis oddimewn i enaid yr Efengylwyr sy'n adrodd hanes yr lesu, ac edrych ar yr Iesu fel yr edrychid arno ganddynt hwy. Peth mwy anodd o lawer, drwy eu cyfrwng hwy, yw myned oddimewn i enaid y person hwnnw ei hun, fel ag i weled amcanion ei fywyd a gwir natur ei genadwri, yn well hyd yn oed na'r efengylwyr. Ac eto, y mae hyn yn bosibl, neu rhaid i ni wneud Crist,, ei hun yn gelwyddog, gan iddo ddweyd llawer o bethau nad allai y disgyblion mo'u dwyn tra yr oedd Efe ar y ddaear, ond yr anfonai Efe y Di- ddanydd arall i gymeryd o'i eiriau Ef, a'u hegluro iddynt a'u harwain i bob gwirionedcl. Ein hamcan yn y gyfres fer hon o ysgrifau ydyw myned yn addolgar o'r tu mown i'r lien, gan sylweddoli bwriadau Duw yng Nghrist fel y sylweddolid hwy gan y Gwared- wr ei hun. Mewn canlyniad, dymunem awgrymu rhanniad arall ar fywyd lesu Grist: (1) Cyfnod y Paratoi (2) Arbrawf Crist arno ei hun (3) Gogoniant ac Urddas Dyn (4) Anhawsterau ar ffordd Cadwedigaeth dyn (5) Crist mewn Cyfyng-gyngor (6) Crist mown Neilltuaeth; (7) Glyn Cysgod Angau (8) Buddugoliaeth. Nid ydym yn haeru fod y rhaniadau hyn yn berffaith. Nid oes neb yn teimlo eu hamherffeithrwydd mwy na ni ein hunain, ond gwnaent y tro fel cerrig milltir i fyned heibio iddynt.
Cyfnod y Paratoi.
Cyfnod y Paratoi. .Ifai-c i., 1--13 LUG i.—iv., 13 Matheio i.iv., 11. loan i.-v. Mae dau both bob amser yn angenrheidiol mewn pob symudiad newydd os disgwylir iddo ddal ei dir ac ennill dylanwad ar fyd. Y poth cyntaf yw fod yna berthynas rhyng- ddo a'r gorffennol. A'r ail yw fod ynddo ddigon o rym i fod yn gychwyniad newydd mewn cymdeithas. Ceir y ddau beth yna yn Efengyl lesu Grist. Nid Efengyl yw heb wreiddiau iddi yn y gorffennol, ond eto tyf i fyny yn bren hollol newydd. Heb Iddew- iaeth buasai Cristionogaeth yn amhosibl. Heb hanes y byd o'i flaen, buasai yn syrthio yn erthyl i'r ddaear. Er hynny, nid ffrwyth datblygiad yw. Mae yn cychwyn symudiad hollol newydd na wybu y byd yn flaenorol ddim am dano. Mae yn allu hollol newydd mewn cymdeithas. Crist yw'r agoriad sydd yn datgan cloiadau dyrus y gorffennol. Efe yw canolbwynt hanes y byd. Os am ddeall Crist rhaid deall hanes y byd cyn ei ddyfodiad. Dyna paham y cyfiawnheir efrydiaeth ddyfal o'r Hen Destament, a'r amser a dreulir ar hen gredoau a hen grefydd- au daear, a'r sel a ddanghosir i ddarllen hen lechfeini byd.
Iddew a Chenedl=ddyn.
Iddew a Chenedl=ddyn. Aeth miloedd lawer o flwyddi heibio cyd- rhwng cwymp Adda ac iachawdwriaeth dyn yng Nghrist, ond ni adawyd y byd yn ddidyst. Yr oedd y byd yn cael ei baratoi ar gyfer dyfodiad Crist. Dygwyd y gwaith hwn ymlaen yn y byd cenhedlig. Mae'n wir fod y byd cenhedlig yn mynd yn waeth waeth, ond yn gyfochrog a"r dirywiad hwn ceid datblygiad, a rhedai y datblygiad hwnnw i gyfeiriad datguddiad Duw mown dyn. Paratowyd y byd Iddowig yn neilltuol drwy sefydlu Eglwys gyfamodol, ac yn yr eglwys honno ceid datguddiad helaethach o bechod nac a ddysgwyd gan y gydwybod.
loan Fedyddiwr.
loan Fedyddiwr. Tra yr oedd yr amser yn agoshau, anfon- wyd loan Fedyddiwr i estyn ei fys ymlaen at y Ceidwad oedd i ddyfod a chan roddi pwys ar y gwirionedd fod angen am fedydd edifoirwch er maddeuant pechodau, neu fedydd yr Ysbryd Glan, mae yn deffro ystyr- iaeth y bobl at eu cyflwr ysbrydol. Cyn belled a hyn, arwyddluniol ydoedd bywyd loan ond y mae loan yn meddu ar genadwri ei hunan,—cenadwri y danghoswyd ei hystyr ac y cydnabyddwyd ei grym yn y bedydd, a dyna paham y daeth Crist i gymeryd ei fedyddio ganddo.
Athrawiaeth yr Ymwaghad
Athrawiaeth yr Ymwaghad Mae yna anhawster dwbl yn perthyn i fedydd Crist sydd yn cael ei ddatguddio mewn dau gwestiwn a ofynnir Paham, ac yntau yn ddyn sanctaidd, yr oedd angen arno am ei fedyddio a bedydd edifeirweh loan ? A liefyd: Paham,ac yntau yn Dduw, yr oedd angen am iddo gael ei fedyddio a'r Ysbryd Glan ? Mao ateb y ddau gwestiwn yma yn tybied ein bod ar un llaw yn deall cyfrinion dyfnaf person y Duw-ddyn, ac ar y llaw arall ein bod yn dirnad yn drwyadl natur bedydd loan Fedyddiwr. Mae natur Person y Duw-ddyn yn astudiactli ac yn fyfyrdod dwfn prif feddylwyr y byd Crist- ionogol yn ein dyddiau ni, a hwyrach y ceir yn y man ryw oleuni. Fel y mae pethau heddyw, cyn belled ag y gwelwn, y mae esboniad ar y dirgelwch hwn i'w gael yng nghyfeiriad athrawiaeth yr Ymwaghad mewn rhyw wedd neu gilydd ami, sef fod yr Iesu wedi rhoddi heibio ei briodoleddau Dwyfol, neu o leiaf yr ymwybyddiaeth ohonynt, a bod angen am yr Ysbryd Glan arno i weled yn glir amcan ei fywyd ac i ganfod y moddion mwyaf cymwys i gyrraedd yr amcan hwnnw. yn gystal a derbyn nerth i ddefnyddio'r moddion cymwys i hynny er sicrhau cyr- haeddiad yramcan yn y ffordd oreu.
Cywiro Syniadau.
Cywiro Syniadau. Os na raid ini yn wir roddi heibio am byth yr hen syniad am ddwy natur mewn un person, a cheisio esboniad ar berson Crist mewn rhyw gyfeiriad arall, nid yw'r ffaith fod yr eglwys wedi datgan ar y mater o angen- rheidrwydd yn penderfynu y mater am byth. Fe ddichon mai dyna'r unig ddatganiad posibl o dan yr amgylchiadau ac ym meddiant y wybodaeth gyrhaeddadwy ar y pryd, ond y mae meddyleg wecli cymeryd camrau breis- ion yn y blynyddoedd diweddaraf hyn, ac yn debyg o greu chwyldroad yn ein syniadau am natur personoliaeth a phynciau cyd- berthynasol. O'n rhan ein hunain, yr ydym yn argyhoeddedig er's blynyddoedd mai Apollinaris o Laodicea oedd agosaf i'w le yn yr Eglwys Foreuol. Ond yr ydym yn awr yn ymwneud a damcaniaethau tra yr ydym yn y gyfres hon am geisio cadw mor agos at ffeithiau ac esboniad arnynt ag y medrwn. Ymdrechir y tro nesaf ddangos ystyr bedydd loan a themtiad Crist. ■^urxddUrvL.
Yn Ynys Mon ac Arfon
Yn Ynys Mon ac Arfon [GAN BETHMA.] Bangor. Nos lau llanwyd y Penrhyn Hall gan gynull- eidfa barchus i ddangos eu cefnogaeth i'r Cor Merched ac i ddymuno yn dda iddynt yn Abertawe. Bydd eu tynged hwy ac ereill wedi ei phenderfynu cyn y daw y Ilinellau hyn allan. Yr oedd y cyngerdd dan lywydd- iaeth Llew Tegicl. Efe ydyw llywydd y cor. Canodd y cor amryw weithiau yn rhagorol iawn, ac ail-alwyd hwy bron bob tro. Mae yr arweinydd, Mr. Thomas Thomas, A.C., i'w ganmol am ei sel a'i ffyddlondeb. Cymerwyd rhan hefyd gan Miss Jennie Williams, Miss Ellen Parry, Miss Ellen Jones, Mri. D. Felix Davies ac Andrew Jones. Rhodd- odd Mr. W. R. Watson unawd ar y crwth, a Mr. VV. J. Walford adroddiad campus o Yn yr ystorm." Cyfeilydd y cor ydyw Miss M. L. Eardley (Pencerddes Arfon) ac ni bydd yr un cyngerdd bron yn gyflawn heb gael ganddi unawd ar y berdoneg. Yr oedd ei chwareuad o Marwolaeth Nel- son yn y cyngerdd hwn yn alluog, fel arfer. Yr oedd y cyngerdd trwyddo yn uwchraddol. Hei lwc y daw llwyddiant i'r cor y tro hwn,— maent yn ei haeddu. Cemaes. Ddoe (ddydd Gwener) cefais ysgwyd llaw gyda'r Parch. J. Isaac Hughes o'r America. Mae yn aros gyda'i frawd, Mr. Hughes, postfeistr y lie. Yr oedd yn teimlo yn llawen ei fod wedi gallu ymweled a'r Hen Wlad i weled ei frawd a'i chwaer farddonol Mrs. Williams. Mae wedi b yn yr America am dros ugain mlynedd, ac wedi gweinidog- aethu yno yn ffyddlon a chymeradwy. Bwriada aros yng Nghymru am rai misoedd, a diau y ca llawer o'r eglwysi y fraint o'i weled a'i glywed. Yr oedd yn dda gennyf ei weled yn edrych mor dda a chalonnog. Llawenydd. Naturiol oedd i bobl sir Fon, yn arbennig, deimlo yn llawen pan wnaed yn hysbys am ddyrchafiad Mr. Ellis Griffith, A.S., i fod yn brif ustus Birkenhead. Bu y boneddwr yn cyfarfod aelodau Cymdeithas Ryddfrydol Mon yn Llangefni ddydd lau, a llongyfarch- wyd ef ar ran y gymdeithas gan y llywydd, Mr. W. Hughes Jones, Cemaes. Da gennyf ddeall nad oes etholiad i fod. Tebyg ydyw nad ymgeisia Ceidwadwr eto ym Mon yn hanes y byd. Gwyddant yn dda na fydd gobaith iddynt lwyddo. yn y cyfarfod ddydd lau, bu agos i un brawd llengar a chael ei droi allan o'r seiat, am y tybid mai gohebydd ydoedd! Tyswyn, Dyma enw barddol y Parch. Owen Hughes, curad Aberffraw. Mae yn dda gennyf ei fod wedi llwyddo i gael ei benodi yn ficer Llan- ymawddwy, sir Feirionydd. Brawd sydd wedi llafurio yn galed trwy lawer o anfanteis- ion ydyw Tyswyn, a da ydyw gweled yr awdurdodau eglwysig yn cydnabod teilyng- dod. Mae wedi bod yr^ amddiffynydd dewr i'r Eglwys. Dymunaf iddo Iwyddiant a chysuron lawer. Darlithwyr. s Cafodd pobl Brynsiencyn gyfle i glywed y Parch. John Williams yn darlithio ar John Elias yr wythnos ddiweddaf. Nid oes eisieu dweyd iddynt gael gwledd gan fod John y darlithydd a John y testyn yn gewri. Fel y gwyddis, bu amryw o weinidogion o Fon ac Arfon yn ymweled a Chanaan yn ddiweddar, ac mae rhai ohonynt wedi bod yn darlithio ar y daith. Mae y Parch. W. J. Williams, Llanfair P.G.. wedi bod wrthi droion er pan ddychwelodd, ac yn cael hwy! ac arddeliad neilltuol.
o O'R DE. -
o O'R DE. [GAN HESGIN.] Tan ym Muallt- YN blygeiniol ddydd Mercher diweddaf, torrodd tan dinystriol allan yn Builth Wells, pryd y llwyr losgwyd hanner stryd o adeiladau yn cynnwys pum siop. Nid oes tan-frigad yn y dref, felly bu raid gyrru i Landrindod (naw milltir o ffordd). Yr adeiladau a ddin- ystrwyd oedd siopau Wood & Co (grocers), Wyles Bros. (boots and shoes), Mrs. Bergwynne (confectioner), Mr. Thorne (fruiterer), a'r Beehive Clothing Co. (drapei-s) Bu raid hefyd dynnu hanner swyddfa argraffu Mr. Whislay i lawr er mwyn atal lledaeniad y goelcerth. Gwnaed difrod a gostia filoedd o bunnau. Fe fydd fire brigade ym Muallt 'rol hyn, 'does bosib. Toriaid Caerdydd. Cyfarfu Pwyllgor Llywodraethol Toriaid Caerdydd nos lau i'r diben o ystyried y sefyllfa wleidyddol, ac o unfryd pender- fynasant ofyn i Lord Winian Stuart (brawd Ardalydd Bute) wisgo ei arfogaeth yn barod i ymladd y sedd pan fydd galw. Os ydych chwi yn cofio, fe broffwydais i rhyw dair wythnos yn ol mai felly byddai hi-dya hanner y broffwydoliaeth wedi ei chyfiawrii • fe gyflawnir yr hanner arall (ynglyn a r Liberals) os digwydd i Arglwydd Wimborne fynd i'r nefoedd cyn i oes y Senedd bresenn° ddod i'r terfyn. Haf Gwlyb. Para yn dywydd cyfnewidiol a di-ddal iawn y mac hi ffordd yma o hyd. Nid yw'r cynhaeaf gwair eto agos drosodd—dywedodd ffarmwr o'r Bontfaen (Gowbridje) wrthyf ddydd Sadwrn fod ganddo gae naw acer heb roi pladur ynddo eto. Gobaith gwan sydd am gynhaeaf yd hefyd 'does fawr o addfedu arno yn unman, ac y mae ei n»n hanner ar lawr yn llanast. Y mae si Yllla ac acw am gael dydd o weddi ac ymostyngiadi ac y mae cyfarfodydd gweddi i weddio a111 dywydd braf wedi eu cynnal yn barod yng nghapel y Drindod (M.C.), Abertawe 011 rhyw dipyn yn hwyrfrydig i symud ydYW yr eglwysi, fel rheol. A ydyw cred pobl yn effeithiolrwydd gweddi yn llai nag y ba, tybed ? Darganfyddiad, Wrth dorri sylfaen seler tafarndy yn agoS i fur Castell Caerdydd ychydig ddyddiau Yll ol, dowd o hyd i arfogaeth yng nghladd yn J ddaear. Cynhwysa helm ar lun pwys 0 siwgr, gyda rhwydwaith dur neu haiarn amddiffyri i'r clustiau a'r gwddf, ac yr oeddi^ hefyd wedi gwneud darpariaeth arbenrHo ar gyfer trwyn y gwisgydd. (Ac y rhywbeth yn ? hynny hefyd os sylw'c^ chwi, mae bron bawb wnaeth ei ol ar y by yma wedi bod yn berchen clamp o drwytl. Mae eithriadau, wrth gwrs, ond pur brim0^ ydynt). Yn ychwanegol at yr helm, fe llurig o wneuthuriad ardderchog, yr bOl" ac eithrio tipyn o rwd, sydd fawr gwaeth 11a newydd. Mae ar lun syrcyn gwlanen-^ gydag agoriad ar y frest, a llewis hyd y pen6" ac yn cyrraedd hyd y gliniau. Barn yr hyn0, iaethwyr yw eu bod yn perthyn i farchofc Normanaidd flodeuai rhywbryd rhwng 1^ a 1400, a'i fod yn wr o gryn bwys yn ei ddyd DIWEDDARACH.—Erbyn hyn y mae dirge^ wch yr helm a'r llurig wedi ei ddadry Ymddengys mai gwr ieuanc o'r ddinas y^ ddaeth a'r hen arfogaeth adref o'r Sou tua dwy flynedd yn ol, ac iddynt gael hanghofio a'u claddu ag ysbwriel. What til sell! A beth am ein hynafiaethwyr bondigrybwyll ? Y Llywodraeth ac Addysg. j Anfoddlonrwydd! Dyna'r gair 11lw'jap mild ellir arfer am waith y Llywodraetn gwrthod i Gymru ei chyfan hawliau golwg ar grants addysg. Waeth i Ll Williams heb dreio esbonio pethaU d mae aelodau pwyllgorau addysg y yn gwybod gwell pethau. Ai i hyn yr a ? i'r drafferth i sefydlu Welsh Departs6 It is a beautiful Government this corlcl^0eS its enemies, and insults its friends. A ,e neb o'r Aelodau Cymreig yn dweyd bw n yn erbyn y eamwri Mi glywai Mciv6* -e rywbeth 'nai les iddo pe buasai Keir -H- gartre' Ellis Griffith. Mae yntau wedi cael tamed i ymddis^6 o'r diwedd. Synnwn i ddim na c weled ef o dipyn i beth yn ategu wrth amddiffyn shady work y Weinyd 1 FFABWEL, DDATGYSYLLTIAX)