Welsh Newspapers
Search 15 million Welsh newspaper articles
4 articles on this Page
Ffetan y Gol. ----
Ffetan y Gol. Beirniadaethau Barddoniaeth Rydd Eisteddfod Genedlaethol Caernarfon 1906. SYR-Mae Rhan I.o gyfansoddiadau buddugol yr;Eisteddfod uchod ger fy mron. Cynhwysa yr oil o'r cyfansoddiadau barddonol gwobr- wyedig ynghyda'r beirniadaethau arnynt. Nid wyf yn bwriadu yn hyn o ysgrif ddweyd dim am y farddoniaeth gaeth "na'i beirn- iaid ond hyn y mae'r tri beirniad, sef yr Athro J. Mo ris Jones, M.A., Machreth, a Berw wedi bod yn unfryd unfarn bob tro. Yr oeddynt yn cytuno hyd yn oed mewn cys- tadleuaeth mor den a'r un ar yr Hir a Thoddaid i'r Rhaiadr pan y rhanwyd y wobr rhwng Gweledydd (bardd cadeiriol Corwen bythefnos yn ol) a'r Parch Nicholson Jones. Ond beth am y farddoniaeth rydd ? Y beirniaid oedd Elphin, Gwili, a Silyn. Yr wyf yn eu rhoddi mewn trefn ABC-ol, rhag i rywun feddwl fy mod yn rhoi mwy o bwys ar farn un na'r llall. 'Rwy'n credu y bydd yn syn gan y mwyafrif o ddarllenwyr y BRYTHON glywed na ddarfu i'r tri gytuno &'u gilydd ond unwaith. Gofynnid iddynt feirniadau cyfansoddiadau ar y testynau a ganlyn :—Pryddest y Goron, Branwen Ferch Llyr," Pryddest Goffa am Hirlas, Llew Llwyfo, Llawdden, Tafolog, Gwyneddon, a Phencerdd America Caneuon—Cadeirio a Choroni Myfyrdraith, "Yn y Goedwig;" Bugeilgerdd Chwe Telyneg, Bywyd yn y Wlad;" Soned, Dafydd ab Gwilym i Forfydd." Yr unig un o'r saith testyn y caed cydwelediad rhwng y tri ynghylch y gore oedd y Fugeilgerdd cytunai'r tri i roddi'r wobr i Brynfab. Bravo, Brynfab Am bob un o'r lleill yr oedd gwahaniaeth barn. Fel rheol,'ceid Gwili a Silyn yn cytuno ac Elphin yn anghytuno. Ond yng nghys- tadleuaeth y Soned yr oedd pob un o'r tri wedi ffansio un gwahanol i'r llall a bu raid galw i mewn ganolwr i dorri'r ddadl. Nid yn unig anghytunent ynghylch pwy oedd y gore, ond gwahaniaethent yn ddybryd yn eu barn am deilyngdod y goreuon. Nid cwestiwn o gyntaf ac ail oedd hi fel rheol ond ceid Elphin yn tywallt pliiolau ei ddigofaint ar ben ffefryn y lleill, gan ei gyfrif simply not in it. Er rhoi rhyw ddirnadaeth i chwi am sefyllfa pethau, beth pe bawn i yn cymeryd y gwahanol gystadleuon y naill ar ol y llall. 1. Pryddest y Goron, Branwen Ferch Llyr." Buddugol, Mr. H. Emyr Davies, Pwllheli. Ymgeisiodd pump. Dyd Silyn hwy yn y drefn a ganlyn :—1, Gwyn ab Nudd 2, Gwledig 3, Peredur 4, Drudwy 5, Carreg Hilyn Dyd Gwili hwy yn yr un drefn ond daw Elphin ymlaenJa dyma ei drefniad ef :—1, Peredur 2, T Gwyn ab Nudd 3, Gweledig 4, Drudwy 5, Carreg Hilyn. Gwelir fod yr un farna Elphin yn oreu yn cael ei gosod yn drydydd gan y lleill. Dyma i chwi ddyfyniad neu ddau i ddangos beth yw barn y naill am ddewisddyn y llall. Dyma farn Silyn am Peredur :— Ond os cyffredin y rhaniadau, mwy cyffredin fyth y canu arnynt. Nid yw Peredur yn gweled nac yn deall lledrith awynol a phell ei destyn. nac ychwaith yn meddu'r ceinder iaith a fedr draethu'n deilwng chwerthin a dagrau'r Mabinogion. Ni cheir nemor o dudalen nad yw'n frith o frychau. Amddifad hollol yw gwaith Peredur o hud a lledrith y Mabinogion ac nid ymddengys oddiwrth y bryddest hon iddo erioed deimlo'u swyn na gweled eu gwir brydferthwch." Ar y mesur byr y mae Gwili yn beirniadu. Dyma ddywed ef am Peredur DYMA ymgais i ganu'r stori, a dim arall. Nid yw'r farddoniaeth ond cymedrol, a phell yw'r iaith a'r gystrawen o foddio. Nis gellir gwadu nad oes yma gryn lawer o fywiogrwydd. Gresyn na fuasai'r byw- iogrwydd hwnnw yn fwy awenyddol." Ond gwrandawer ar Elphin.— O'R diwedd dyma ni wedi cael rhywbeth tebyg i'r hen ramant fyth-newydd ei hun. Cerdd brydferth a swynol yw hon. i$ Mae ef wedi teimlo hudoliaeth y Fabinogi ac yn llwyddo i'w gyflwyno i'r darllennydd. Mae ei fydryddiaeth yn llyfn a'i symudiad- au yn hoew. Nid yw yn hollol lan oddiwrth feiau. Heb os, y mae wedi gwneud mwy o gyfiawnder a'r chwedl na neb ohonynt. Hon yw'r unig un o'r pryddestau a bair imi anghofio beirniadu, a wna imi anwylo coffadwriaeth Branwen Ferch Llyr, ac eneinio ei henw a dagrau tosturi. Ni phetrusaf ddatgan fy marn mai Peredur yw y goreu." Beth am Gwyn ab Nudd ? Dyma ddywed Elphin "YMDDENGYS i mi fod yr awdwr wedi gwneuthur ymgais i drawsblannu i len Cymru ddulliau y dosbarth o feirdd a elwir The Mystic School Yn lie dilyn rhawd y Fabinogi, ni wnaeth ond prin gyffwrdd ei phrif helyntion. Pan fo Gwyn ab Nudd yn canu oreu, teimlwn mai nid i'w destyn y can, ond i rywbeth arall tuhwnt neu tuallan iddo." Ac ar ol tudalen neu ddau o ddyfyniadau, ceir y frawddeg fachog a ganlyn :— YR wyf wedi manylu ar y meflau hyn yng ngwisg y gerdd am mai ei harddull yn hytrach na'i chynnwys sydd yn hawlio sylw." Meddai Silyn :— CEIR yn y bryddest hon lawer o bur farddoniaeth y chwedl, a llawer o wir swyn a hud y Mabinogion. Cys- tadleuaeth sal iawn ydyw cystadleuaeth y Goron eleni. Ac eithrio pryddest Gwyn ab Nudd, ni theimlaf fod neb yn agos i'r safon." Gwili eto :— DYMA bryddest brydferth ar y cyfan. Swynir ni o dudalen i dudalen gan benhill- ion melus a thwf, a daw'r ystori i'r meddwl gyda chymaint o gyfanrwydd feallai ag a ellid. Dyma'r bryddest oreu o ddigon, a gallaf ddweyd ei bod, yn fy marn i, yn deilwng o'r wobr a'r anrhydedd." There you are Yr wyf wedi gadael y dyfyniadau heb italeiddio dim, nac ychwaith hau rhyfeddnodau-gadawaf i'r darllennydd wneud y diffyg i fyny. Gyda chaniatad y Golygydd, dywedaf air ar y cystadleuon ereill yn eu tro. HESGIN.
NOD AC ESBONIAD.
NOD AC ESBONIAD. [Pob gohebiaeth ynglyn a'r golofn hon i'w danfon i'r Parch. O. EILIAN OWEN, 16 Argyle Road, Anfield Road, Liverpool] Mynegair i Salmau Can Edmwnd Prys, 1621. ANAF. hwy a ddisgwylian f'anaf 7110 ANAML. pan oedd yn anaml iawn eu plaid. 10512 ANAWDD. Duw am gwrandawsai'n anawdd 6618 ANED. sef, Hwn a aned yno 876 ANFAD. ni thrig i'th olwg anfad 54 a chospi falais anfad 1011 a holent ym' beth anfad 3511 i'th elyn oerfraw anfad 663 a rhag pob ei\wg anfad. 1217 ANFEIDROL. yn dy anfeidrol fowredd 77l9 AN'FEILIAID. An'feiliaid ac ymlusgiaid maes 14810 ANFERTH. I lawerjdyn bum anferth iawn. 717 y Lefiathan anferth 7414 ANFFYDDLON. vn amser yn anffyddlon 4417 a dyfais dyn anffyddlon 13515 ANFON. ae anfon gymmorth ymmy 7112 anfon i lawr dy gymmod 8412 ANFONI. Cans ti (Arglwydd), anfoni wlith 512 ANFONODD. Anfonodd o'r vchelder. 181(J anfonodd ddrwg angylion 7840 Yntau anfonodd bla'n eu mysg 10629 Anfonodd gymmorth i'w bobl ef 1119 ANHY. wyf anhy ac anhyfryd 1027 ANHYFRYD. a rhag diwedd anhyfryd 303 wyf anhy ac anhyfryd 1027 ANIAL. drwy anial ddrysni efrydd 7720 Fel yn nydd prawf, mewn anial dir 958 a mynd i for mawr anial 1399 ANIALFAN. foi twysawdd drwy'r anialfan. 7852 ANIALWCH. drwy holl anialwch Cades 298 hyd yr anialwch cyrredd 729 anialwehanghyfanedd. 7318 yn yr anialwch digient Dduw 7817 wrth fyned trwy'r anialwch 7840 fel vn o'r anialwch lIe y trig 1026 yn nyrys yr anialwch 106l4 iw ewympiaw drwy'r anialweh 10626 Drwy yr anialweh,wyrdraws hynt 1074 Troes yr anialwch yn Ilyn glas 10735 ANIAN. Ac anian esgud yw eu traed 145 i'r enwir gwammal anian 918 o anian ei drugaredd 13613 drwy wledydd dyrys anian 1361(J ANIFAIL. a dderfydd fal anifail 4912 dan nawdd anifail creulon 74*9 Pob anifail a phob rhyw beth 10428 Hwn i'r anifail ar y bryn 1479 ANIFEILIAID. Anifeiliaid a'r llysiau 10414 ANIFEIRI. lor anifeiri' y lluoedd 467 lor anifeiri y lluoedd 4611 ANNEDWYDD. ni ochel daith annedwydd 364 ANNEDD. 1 arall gad ei annedd 4910 a'r pysg sy' mewn ei annedd 9611 yn ei gyssegrlan annedd 1342 ANNEDDLE. a Juda wen f'anneddle. 607 AN-NHYCCIANNYS. rhoes an-nhyceiannys aflwydd 10615 ANNIBEN. Hwyr ac anniben yw i ddig 1453 ANNIDDANWCH. y ddaiar anniddanweh 468 ANNIDDOS. mewn gwal anniddos foddfa 66 ANNOETHEDD. Pechod, camwedd, ac annoethedd 1066 ANNULWION. yn vlw, y llu annulwion 10613 ANNUW. Yr enwir annuw lledfrom 10*3 ANNUWIOL. wrth yr annuwiol ar bob tro 711 ae oni thry'r annuwiol cAs 712 a'r annuwiol a wnaethai'r rhwyd 9*6 Yr annuwiol i uffern aed 917 Yr annuwiol ni chais Dduw ner 1Q1 Tor ymaith yr annuwiol rym 10*5 Wele'r annuwiol a'i bwau 112 Rhag yr annuwiol a'i mawr bwys 179 Cas gennif bob annuwiol rith' 26s Ond i'r annuwiol gwarth a wedd 3119 Wrth gamwedd dyn annuwiol 361 na gwaith, na 11aw'r annuwiol. 3611 yw trowsedd yr annuwiol 3714 tyr freichiau'r rhai annuwiol 3717 Y dyn annuwiol He y bo 392 y rhai annuwiol aent ar gam 583 a'r dyn annuwiol dihir. 733 na, phlasau yr annuwiol 8410 Yr annuwiol a dawdd fel hyn 11210 y rhai annuwiol creulon 1295 na leddid yr annuwiol 13919 Oes ffordd annuwiol genny 13924 i'r dyn annuwiol, Duw, na Ad 1408 ynghyd-bleth a'r annuwiol 1414 Teml yr annuwiol, hoenyn main 1419 ANNUWIOLIAID. y dorf fawr annuwioliaid 1476 ANNUWIOLIA WN. Torraf gyrn yr annuwioliawn. 759 ANNUWIOLION. er maint yr annuwiolion 37 Ond had yr annuwiolion 3728 Wrth annuwiolion poethion chwyrn 754 Holl annuwiolion fy ngwlad faith 1019 cans genau'r annuwiolion 1092 r annuwiolion i'r ffordd fau 119110 bleth-didau'r annuwiolionj 1294 ANNUWOLION. dan ddwylo'r annuwolion 283 Caiff annuwolion, a wnant gam 3211 yngwaed yr annuwolion 5810 a maint yr annuwoiion. 9420 ni bydd mwy annuwolion 10435 ANOETH. y ffol a'r anoeth vnwedd 4910 ANRHEG. rhydd cedyrn anrheg yty 6829 doe bawb a'i anrheg reiol 7210 rhowch anrheg i'r ofnadwy 7611 ANRHEGION. am roi anrhegion hefyd 4512 ANRHYDEDD. lle'r ery' dy anrhydedd 263 anrhydedd llawn fydd iddi 45*3 Dyn mewn anrhydedd heb ddeall 49*9 ymwisgi ag anrhydedd. 104* ANSEFYDLOG. mor ansefydlog yw fy* stad 10923 A ANT. Rhai a ant i'r llwch gar ei fron 2229 canant yt' fawl, ae ant hyd lawr 664 nid ant yn ol fy nghyfraith 8930 y drwg flagur uehel yr ant 927 y trawsion oil o'r tir ant hwy 10435 Y rhai Out mewn Hougau i'r don 10723 Nl'r rhai a &nt i'r bedd yu rhwydd 11517 ant iddo'r rhai cyflownaf 11820 Ei drugareddau ant ar lied 1307 ANT. Ant rhagddynt bawb o nerth i nerth 847 Crynant, trengant, ac ant iw llwch 10429 ANUFYDD. ni chyfyd rhai anufydd 667 yn gyndyn ac anufydd. 788 yn gyndyn groch anufydd 1067 ANUFYDD-DOD. mewn anufydd-dod eithaf 10711 ANWADAL. anwadal fydd ei helynt 14 ANWASTAD. dyn llawn siarad sydd anwastad 14011 ANWIR (gwel Enwir). Yr anwir, edrych, flromma o ddig Disgwyl fyjlladd mae'r anwir sur 111995
Adolygiad.
Adolygiad. ryWYGIADAU GREFYDDOL CYMRU L-J I gan y Parch. Henry Hughes, Bryncir. [GAN GLASWELLTYN]. NID dyma'r waith gyntaf i Mr. Hughes ddod gerbron y cyhoedd fel awdwr, ac os yr arlwya cystal bord y tro nesaf ag a wnaeth y tro hwn, caiff groeso mawr. Wedi delio mewn pwysau man y mae hyd yn hyn ond men- trodd gyfrol o'r diwedd o gryn bwysau mewn mwy nag un ystyr. Wrth gymeryd meitli- ter y cyfnod, cyfoeth ei gynnwys, na chwyner fod y gyfrol wedi rhedeg i bum can dalen namyn un. Gan gychwyn o'r diwygiad cyntaf yn nyddiau Enos, olrheinia bob di- wygiad o bwys drwy'r oesoedd mewn gwa- hanol wledydd hyd at ddiwygiad Evan Roberts, Mae mor lawn o ysbryd ei fater, fel y gwel ddiwygiad hyd yn oed yn y canol- oesoedd. Ei gynllun ydyw dilyn yr Adfyw- iadau yn ol trefn amser, gan ymlwybro ymlaen o flwyddyn i flwyddyn, fel y gellir ystyried ei waith yn llawlyfr hylaw ar hanos crefydd drwy'r canrifoedd. Disgwylia pawb sydd yn gyfarwydd a gweithiau blaenorol yr awdwr am ddwy elfen arbennig, sef cywirdeb a naturioldeo'. dau gonglfaen ei holl adeiladau llenyddol. Gesyd line o'r naill gonglfaen i'r llall, a rhaid i bob maen gaiff fynd i'r adeilad gyfateb i'r conglfeini a nodwyd. Gwaith anodd ydoedd sicrhau y nodweddion hyn mewn gorcliwyl fel hwn, gan fod y ffeithiau mor amrywiol a'u hamseriad mor ansicr. Gwyddom drwy brofiad am ddygnwch diderfyn Mr. Hughes i gael allan y lie, y modd, a'r pryd y cymerodd y digwyddiad hwn a'r ffaith arall le. Cwyno sydd ynglyn a llyfrau ereill ar yr un mater, mai ychydig ellir ddibynu ar eu cywirdeb ond prin y gellir ameu dilysrwydd ffeithiau y llyfr hwn ond ynglyn a'r rhai hynny ag y mae yr awdwr yn nodi petruster yn eu cylch. Prin y gellir safoni y gyfrol hon ymhlith ceinion llenyddiaeth Gymreig. Gwir ei fod yn hyn yn llawn gwell na'r Tadau Method- istaidd, ond ymhell ar ol i awdwr y gyfrol ar Ddiwygiad Dafydd Morgan. Dechreua naw o frawddegau yn olynol yn y dull ysgaprwth yr oedd," a hynny o fewn gofod banner tudalen. Da fyddai iddo feddu mwy o feistrolaeth ar y berfau, a thrwy hynny rymuso ei ymadroddion. Gresyn na byddai llyfr sydd yn fwy na bod yn dda, ac yn ymyl bod yn un mawr, gael ei droi allan mewn gwisg mwy diddos a dillyn. Fel y dywed y diweddar Barch. 0. Jones, B.A., yn ei Ragair i'r Tri Aderyn, mai cam a phendefig o feddwl yw ei wisgo a charpiau cardotyn. Gesyd hyn y gwirionedd mewn anfantais o gael derbyniad ac eisteddiad yn ystafell y coeth a'r diwylliedig. Nid gwir gan bawb bob amser ydyw mai y dillad ydyw y dyn, a'r dyn y truan." Haeddai popeth da gael ei ddweyd a'i ysgrifennu'n dda. Pe byddai Mr Hughes mor fedrus gyda'i ysgrifelF ag yw o gywir gyda'i ffeithiau, agorai llu o ddrysau ohonynt eu hunain i'w gyfrol werthfawr. Diolchwn iddo am liaws o luniau-o Howell Harris hyd at y gwr ieuanc o Gas- llwchwr; ao am ei haelfrydedd yn eu pigo o bob enwad; ond mae eu lleoliad yn hollol anghysylltiol, a'u dodiad i mewn yn agored i fwy nag un esboniad. Prin y crybwylla yr hyn a adnabyddir ar lafar gwlad yn Ddi- wygiad Richard Owen, ac ni cheir cymaint a darlun o'r Parch. J. Rd. Hughes. Credwn y gallasem wneud ar lai o bennod neu ddwy ar y Diwygiad Methodistaidd, ac a mwy na hanner -tudalen ar y Diwygiad diweddaf, gan ei fod wedi croesi terfyngylch ei nerth cyn i'r awdwr ollwng ei gyfrol o'i law. Wrth ddod ar draws gair yma ac acw drwy'r pen- odau am y Diwygiad diweddaf, addawem i ni ein hunain bryd o fwyd blasus arno cyn y terfynai y llyfr, ond gollwng yr ysgrifennydd ni ymaith ar ein cythlwng. Ond o ran hynny, rhaid rnaddeu, gan fod Mr.» Hughes yn edrych ar bob peth gyda llygad hynaf- iaethydd, yr hen ydyw y newydd ganddo ef, a'r diweddar ydyw ei ddiweddaraf. Ysgoa ail adroddiad beichus sydd yn an- urddo gweithiau cyffelyb; nid rnor hawdd hyn ag yr ymddengys, yn enwedig gyda mater mor unrhywiol. Nid yw wedi ei swyn-gyfareddu chwaith gan dric y beirdd, a rhai diwinyddion sydd lawn cynddrwg, sef chwarae yn gywreinllyd ar eiriau a thermau. Llwydda'r rhai drwy hyn i chwyddo'r mater, nes peri i'r ehud gamgymeryd hyn am helaeth- rwydd doniau. Y llyn cliriaf ydyw y llyn dyfnaf. Maentumia mai Adfywiad ydyw y gair cywiraf, gan nodi mai effaith hyn ydyw Diwygiad, mai ffrwyth bywhad mewnol ydyw pob gwelliant allanol, ac felly fod gair y Saeson-Revival-yn nes i'w le wrth ddynodi cyfnod newydd yn hanes ysbrydol unrhyw berson unigol. Rhaid i bawb gytuno mai hyn sydd gywir, a siarad yn fanwl; ond paham y gwna yr awdwr eithriad gyda'r Diwygiad Protestanaidd sydd gwestiwn. Haera mai Diwygiad ydoedd hwnnw yn gyntaf, ac wedi hynny Adfyiviad. Ceisia gysoni ei hun drwy ddweyd mai ymosod ar lygredigaeth yr oes a wnaeth Luther, tanbelennu at bechodau rhyfygus oddiallan, ac felly fod y Diwygiad Protestanaidd yn gwahaniaethu yn ei ddechreuad oddiwrth ei flaenoriaid a'i olafiaid. Os ydyw Mr. Hughes yn dysgu rhywbeth, yn sicr gesyd y ffaith hon uwch law amheuaeth, mai dyma nodwedd perthynol i bob diwygiad. I raddau mwy neu lai, mae pob diwygiwr wedi ei ffrufio ar gynllun loan Fedyddiwr- ergydio yn ddiarbed at bechodau yr oes, oblegid y mae y gair diwygiad yn rhagdybio hyn, sef glanhad oddiwrthynt. Haedda Mr. Hughes deyrnged o barch am yr ysbryd rhydd a dibartiol o edrych ar ei fater, ac o'i drafod yn ei holl gysylltiadau. Yn yr ystyr o gyfleustra yn unig y defnyddia yr ymadrodd y Diwygiad Methodistaidd," ac nid gyda'r bwriad o'i dadogi ar unrhyw enwad pwy bynnag. Er nad oes gan lawer gariad mawr at yr enw, dyma ei gelwir bellach ddyddiau'r ddaear. Mae ei gyfeir- iadau at gyfundebau y tu allan i'w eiddo ei hun yn gwbl barchus, gan briodoli yn ddi-- ragfarn i bob enwad y clod a haeddai. Gormod o ysgrifennu yn y gwrthwyneb roes erfyn miniog yn llaw awdwr honiadol beth amser yn ol, pa un a drochodd at y earn yng ngwaed un o lwythau Israel. Yn wir, el ein gwrthrych bron o'i ffordd i roddi ruban yng nghot yr enwad hwn, a phluen yng nghap y llall. Difera ei ysgrifbin olew cariad ar hyd y ffordd, yr hyn sydd yn diarfogi pob rhag- farn enwadol a dallbleidiol. Amlwg ydyw fod ei ysbryd wedi ei fwydo yn ysbrydoedd y rhai a ysgrifenna gymaint yn eu cylch. Am gynnwys y llyfr, dilyn yn fwy nac arwain, cofnodi yn fwy na chreu, ydyw ei nodwedd. Mae y cyfarwydd wedi cyfar- fod o'r blaen a thoraeth yr hanesion a gry- bwyllir, ac yn hen gyfeillion a llu o'r cymor- eriadau a ddygir gerbron. Gwyddem fod y brethyn braidd yn hen, ond disgwyliem i'r cut fod o ffasiwn dipyn diweddaraeh. Ond yn hyn nid yw Mr.Hughes yn fwy camweddus na llawer o awdwyr mwy uchelgeisiol sydd wedi bwrw eu crymanau yn yr un maes yn gynaraeh ar y dydd. Fel hwytliau, sylla ar bob diwygiad o dri chyfeiriad,—yn ei wreidd- yn, ei dyfiant, a'i ffrwythau neu mewn geiriau ereill, yn ei achos, ei natur, a'iganlyn- iadau. Wele rai o'r achosion, nen yn well, achlysuron eu torriad allan: cyfyngder amgylchiadol a gwasgfa masnachol, cyfiv.'r isel yr eglwys a rhyfyg a rhysedd pechod y byd, y cholera., pennu dydd ympryd (ym- ostyngiad) ar achos y rhyfel rhwng y wlad hon a Ffrainc, &c. Wedi hynny, edrych yr awdwr ar foddion a chyfryngau dygiad y Diwygiad ymlaen. Nid yw yn eu gadael heb gymeryd hamdden i ddiogelu yn sior effeithiau a ffrwythau pob un ohonynt. Yn eu plith ceir dwyn i'r golwg rhyw atliraw- iaetli newydd a sefydlu dyledswvdd oedd yn cael ei hesgeuluso, ail greu yr eglwys o newydd a'i hangherddoli i wasanaeth Crist, esgor ar fintai o gymdeithasau a chenadaethau bendithiol, codi to o bregethwyr enwog, bugeiliaeth eglwysi, gofal ffyddlonach am y plant a'r bobl ieuainc, adeiladu capelau, &c., heb anghofio, wrth gwrs, mai eoron pob ym- weliad ydyw iachawdwriaeth eneidiau. Gafaela Mr. Hughes yn ddiollwng yn ei bwnc, gan erlyn ei fater i bob cilfach, a'i ddadrys yn glir oddiwrth amgylchiadau cymhleth. Teifl ffrwd o oleuni claer ar fater- ion, sefydliadau, cyfeiliornadau a chwyl- droadau y canrifoedd, megis dyfodiad yr efengyl i Brydain, mynachaeth, cyfieithiadau o'r Beibl, y Puritaniaid, y Ddwy Fil, y Cryn- wyr, dechreuad Wesleaeth yng Nghymru, gan drysori ystorfeydd goludog o hanesion am y tadau Anghydffurfiol a'r gweinidogion Ymneilltuol—y rhai y mae ein mynwes yn ymchwyddo gan lawenydd wrth feddwl am danynt, a'n geneuau yn melysu wrth yngan eu henwau. Fel hyn, gwelir mai nid byw o'r llaw i'r genau a wna yr awdwr ond cawn fod ei lyn yn llawn o ddwfr gloew at alwad pob troad ar olwyn ei felin, gan droi allan sacheidiau o hen yd y wlad i borthi a digoni saint nychlyd os nad hanner newynog. Fr darllennydd sydd yn awyddus am drei-i-L ar ffrwythau yr Ysbryd yn y eyfeiriadau uchod, nid gwyddom am yr un llyfr gwell yng Nghymraeg na Saesneg i'w gynnyg iddo. Diau fod nifer fawr o'n pobl ieuainc nad yw eu hamser iia'tt llogell yn caiiiatait iddynt ym- gydnabyddu a, chynhyrchion mwy safonol ar wahanol ganghenaAi y Diwygiadau amrywiol ond erbyn hyn mae y Parch. Henry Hughes wedi eu gwneud yn gwbl ddiesgus drwy ddod a chyfrol am lai na choron—(swm nad ydyw ddim mwy na cheiniog ar ddiwrnod o holiday) —i'w cyrraedd ar holl ddiwygiadau eu gwlad, yn ogystal a gwledydd ereill. Nid oes eisieu ffydd y canwriad i broffwydo y darllennir y gyfrol hon yn llewyrch diwygiadau y dyfodol, ac o bosibl y bydd i ddarlleniad ohoni fod yn foddion yn llaw Ysbryd Duw i gychwyn diwyg- ia.d nad ydyw y rhai y sonir am danynt yma ond eiliw gwan ohono. Drwy Ddiwygiad 1904, mae eiddo '59 ynn es atom nag erioed, a'r hanes am dano yn fwy hysbys nag yn adeg ei ymdaith drwy y wlad.
Advertising
BEAUMARIS Grammar & County School BOARDERS RECEIVED AT SCHOOL HOUSE. Preparation, for Civil Seryice, Universities, Professions, Commercial and Business Careers. INDIVIDUAL ATTENTION, HIGHLY QUAL- IFIED STAFF, NEW & SPACIOUS BUILD- INGS. INSPECTION INVITED. For terms and List of Successes apply Headmaster. CLASSES 6 PRIVATE TUITION for Matriculation, Professional Preliminaries, Oxford and Cambridge Locals, College of Preceptors, Preliminary Certificate, &(- School of Shorthand 6 Typewriting which gives a thorough and efficient training in in these and all other business subjects. References given. N.B.—Intending Students or their Parents or Guardians should, before enrolling anywhere obtain refer- ences from Past and Present Pupils. I. W. BROWN, B.A., 5, 6, 7, 8, Don Chambers, 8 Paradise Street, LIVERPOOL. COLEG Y BRlfYSGOl, ABERYSTWYTH. (Un, o'r Golcgcnt ym Mhrifysgol Cymru). PIUEATHRO T. F. ROBERTS, M.A., LL.D. DECHREUA'JI tymor nesaf ar ddydd Mawrth, Hydref laf, 1907. Paratoir yn arbennig ar gyfer arholiaclau Prifysgol Cymru, ond rhoddir cynorthwy hefyd i efrydwyr weithio am raddau prifysgolion ereill. Cynhygir dros ugain o ysgoloriaethau (amryw ohonynt yn gyfyngedig i Gymry), i'r efrydwyr sydd fwyaf llwyddiannns yn yr arholiad a gynhelir ar y 17eg o fis Mecli, 1907. Am fanylion pellach ymofynner â- J. H. DAVIES, M.A., Cofrestrydd. ..COLEG Y GOGLEDD^ BANGOR (TTu o'r Colegau ym Mhrifysgol Cymru). PRIFATHRAW H. R. REICHEL, M.A,, LL.D. Dechreua'r tymor nesaf Hydref 1, 1907 Paratoi ar gyfer Arholiadau Prifysgol Cymru, rhai o eiddo Prifysgol Llundain, y Cwrs Meddygol ym Mhrif- ysgolion Llundain, Edinburgh a Glasgow, ac arhol- iadau ereill. Rhoir addysg arbennig mown Amaethyddiaeth (yn cynnwys triniaeth coed) ac Electrical Engineering. Mae yn y Coleg adran normalaidd i Athrawon elfennol a chanolraddol. Cynhygir dros 20 o Y sgoloriaethau, yn amrywio mewn gwerth o C40 i £10 y flwyddvn, yn nechreu'r tymor nesaf. Mae Ysgoloriaethau Tate yn gyfyng- gedig i Gymry. Ysgoloriaethau John Hughes yn gyfyngedig i fechgyn aned yn sir Fon neu sir Gaer- narfon, ac Ysgoloriaethau Richard Hughes i drigolion Mon. Dechreua'r arholiad am danynt Medi 17. Ceir pob manylion gan J. E. LLOYD, M.A., Ysgrifennydd a Chofrestrydd. .EL' ,\t-i" ID sTqACHDY CYMRAEG A (}/J YW y 1-1. f- 0 Rto h I t WAHV0 I ODorTYt AC I IFARGEllito A14 oklA STOC vkwpl VR\S\I\U \S£l, XK ""AD Po ?>OLow vuut- C9ooy L38 Russell's Chronograph. Massive 18 carat Keyless Hunter. MAGNIFICENT PRESENTATION WATCH (quite new 6 months ago with proof), in perfect condition This HIGHEST GRADE f V^e ENGLISH FULL HUNTING HEAVY KB*- x LESS CHRONOMETER LEVER, by ThoS- Russell & Son, Makers to the Queen, Church St. Liverpool, with full compensating gold screw balance, COMPENSATED TO ALL TEMPER- ATURES, adjusted to all positions, variation within 5 seconds per month, very latest perfected class A movement (JEWELLED OJ* ENDS), 19 FULL VISIBLE SELECTED; RUBIES, PATENT OVERCOIL BREQUET SPRING, patent Keyless UNBREAKABL MAINSPRING, Chronograph Centre Seconds and outside STOP ACTION. A most Scient- ifically accurate instrument,of sensitive ohro^f metic capacity, suitable for EXPLORING*' NAVIGATING AND ASTRONOMICAL OBSERVATIONS, Late property of a marine captain (4oz.) HEAVY SOLID 18ct. ENGLISH HALL MARKED GOLD THROUGHOUT/ without mark or scratch. Russell's and our i years' guarantee accompanies the above- MONTH'S TRIAL, Security advance guarant0 given with above of £ 15. Exchanges forwards to any part of the Kingdosn. DAVIES' FO HIGH-CLASS GOLD HUNTING WATCH^ ONE HALF BELOW COST. LOWHII^' LIVERPOOL. Telephone 0777 Royal. Davies's Price f,161101- Watches safely despatched to all parts of the world £21 Gents Gold Keyless Hunter. SECONDHAND Gents Solid 18ct Bngl^ High-grade Keyless 4!-plate English 4 Full Jewelled Chronometer Lever HUNTER, bY this noted London maker, with all recent improv ments, being of the very finest mechanism j workmanship of this reputed maker, too known to need comment. Warranted a lifetial and perfect in all detail. Also one similar > Russell and Son, Church street, Liverpool (sa price). New six months ago. Davies's Price, £6/18/6. 2-L- 10 Guinea Russell's Ladies' Keyless Just like new, very Strong Keyless Lever for lady, full Jewelled Chronometer BaiaiioO, Brequet Spring, and latest improvements, only 8 months old heavy Solid Gold Stamps thick Cases, damp and dust proof, nicely chased makers and our guarantee for 25 years. Wonderful bargain, call to see i • Month's trial. Cash back if not as represen ed. Sent on approval. Davies's Price, £ 3/7/6 Every ( Watch Offered is a Timeke 7 Guinea Gents Russell's Solid Silver Engliipii Lever. CI/iR/fi Very strong, heavy Solid Silver Capped Lever, Russell and Son, Church-street, Liverpo (makers to the Queen) new this year (Pr<? r to show). High Grade full plate Chronorn°t'^ balance, ruby jewelled, Brequet Spring Ll t latest improvements (the kind that won't g. out of order easily. Makers' and our 2>{l& i antee, 25 years, perfect time-keeper, s0tJi>g in every respect, month's trial. Also RusS?q/. secondhand 7 Guinea Silver Hunter, now > sent on approval. Stamped Solid Gold Chains- FASHIONABLE GOLD STAMPED jf A Graduated Curb Albert and i( stamped every link, revolving^ JUrt\. NOW Hall-marked and GOVERNMENT, :c2/5 STAMPED another 4i guinea uated Curb, now £ 2/9/. R- ECTION. EVERY CHAIN WA" RANTED AT SPECIALLY DUCED PRICES. p SOLID HEAVY GRADUATE CURB AND SEAL (best vai CC in the trade). Governm •vr/^wr stamped every link, and b) marked; also Double -g/, 1&2/I9/6 22/14/; Double Long Link, £ wbl0 also a massive Heavy u Curb £ 11; now £ 5/12/6. p SOLID HEAVY GRADLTAT £ 7 CURB ALBERT. Governm« stamped every link; also 8-g ,g0 NOW Double Curb, now, £ 3 8/6> ^3 £ 3/5/= Double Open Curb, £ 9» n° JUOed 10/ Double Fetter g]0 from £ 8 8/ to £ 3 9/; oiOt Massive Graduated Curb? now iC4 10/- 1 QUINEA QOLD WEDDING WIDEST AND HEAVIEST 22-CAKA^ PURE OOI.D REDUCED 7/6 IN POUND. FINGER-SIZE CARD 27/6 RINGS I 35/- RINGS 45/- NOW NOW JV 20s. 25s. PRESENT OF SUGAR TONGS AND o0$$> HALF-DOZEN TEA jii0i' DAVIES'S, OA T 9Sr AVIBS'S, OU -U°W