Welsh Newspapers
Search 15 million Welsh newspaper articles
7 articles on this Page
Advertising
op Is I aw Yr Unig Bapur Cymraeg a Argreffir yn Lerpwl. I
DYDDIADUK.
DYDDIADUK. Lerpwl a'r Cylch. Awst 16-Cor Plant y Pentre yn Everton Village Medi ll-Côr Plant Rhyl St (B.) yn Assembly Hall Marsh Lane Medi 21-Eisteddfod New Brighton Medi 22-Cyfarfod Agoriadol Bousfleld Street Hydref 2-Cyfarfodydd Blynyddol y Feibl Gym. "i Hyd. 15.16-Cyfarfodydd Blynyddol CymanfaDdir- westol Gwynedd ac Undeb Dirwes tol Merched Gogledd Cymru, yn Princes rd Hyd. 16-Te Parti a Chyngerdd Trinity Road (A) Hyd. 22—Te Parti a Chyngerdd Grove Street Hyd. 29—Cyf. Cystadleuol Unedig Fitzclarence St., Edge Lane, Douglas Rd., a Newsham Park Hyd. 30—TS a Chyngerdd Gt, Mersey Street Tach. 5-8,-Nodachfa Cymru Fydd Anfleld ac Everton yn St. George's Hall. Tach. 9-10—Cyfarfod Pregethu Bousfield Street Tach. 12-Te Parti a Chyngerdd Bousfleld Street Tach. 16-Cyngerdd y Welsh Choral yn y Philhar- monic Hall Tachwedd 21-Cvf. Pregethu yn Marsh Lane. ach. 26-Cyf. Cystadleuol Anfleld Road. hhag. 7 a 8-Cyfarfod Pregethu Chatham Street. Rhag. 8—Cyfarfod Pregethu Bedyddwyr Edge Lane Rhag. 15-Elfed y.1 Gt. Mersey St. Rhag. 16—Cyf. Blynyddol Ymdrech Grefyddol yn Crosshall Street. Elfed yn annerch, Bhag. 21-Plant y Pentre yn y Central Hall. Rhagfyr 25-Cyngerdd Blynyddol Crosshall Street Nadolig-Eibteddfod Gadeiriol Nantglyn Rhagfyr 26-Eisteddfod y Temlwyr Da. Rhag. 28—Cyngerdd y Welsh Choral yn y Phil- harmonic Hall 1908 Ion. 14—Parch. F. B. Meyer yn Bootle Maw. 5, 6, 7.—Bazaar Eglwys Martin's Lane Maw. 28—Cyngerdd y Welsh Choral yn y Phil- harmonic Hall Ebrill 25-Eisteddfod M.C. Tyldesley. Manceinion. Medi 14 a 15—Gymanfa Bregethu Booth Street. Medi 20 a 21—Cynhadledd y Bobl Ieuainc. Hyd. 12—Oym. Ganu Methodisti lid yn Moss Side. Cymru. Awst 20-24-Y:Eisteddfod Genedlaetholyn Abertawe 1908. Mehefin 8-9-Eisteddfod Gadeiriol Môn
Glannau'r Mersey
Glannau'r Mersey Y Methodistiaid Calfinaidd. PRINCES RD—10, J. D. Evans, 6, J. Roberts DAVID ST-10-30, J. Roberts, 6, J. D. Evans FITZCLARENCE ST.—10 a 6, E. J. Evans DOUGLAS RD10 a 6, J. Hughes CHATHAM ST. -10-30 a 6, J. Gwynoro Davies CROSSHALL ST.—10 a 6, J. R. Williams, Pwllheli ANFIELD RD-10-30 a 6, O. Parry, Cemaes NEWSHAM PARK—10 a 6, R. J. Williams BOOTLE—10 a 6, D. Hoskins, Ffestiniog PARKFIELD-IO-30 a 6, R. Roberts, Trefnant SEACOMBE—10-15 a 6, R. P. Jones GARSTON—10-30 a 6, R. Ernest Jones ROOK FERRY—10-30 a 6, O. J. Owen WALTON—10-30 a 6, H. Roberts WATERLOO—10-30 a 6, T. Lloyd, Llanberis PEEL RD—10-30 a 6, O. Pritchard, Nefyn EDGE LANE—10-30 a 6, W. Griffith, Talsarnau WEBSTER RD—10-30 a 6, D. D. Williams, M'ceinion LAIRD STREET—10-30 a 6, R. Thomas, Bontnewydd WOODOHURCH RD-10-30 a 6, J.O.Williams;(Peclrog) NEW BRIGHTON—10-30 a 6-30, J. H. Williams, Llangefni WEST KIRBY—11 a 6, G. Hughes HUYTON QUARRY—10-30 a 6, SOUTHPORT—10-30 a 6-30, R. Davies WARRINGTON—10-30 a 6, R. Williams, Crewe WILLIAM MOULT ST—6, O. Jones Hughes ELLESMERE'PORT—10 30 a 6-30, J. Evans BANKHALL—6-15, Yr Achosion Seisnig. OAKFIELD RD-10-45 a 6-30, T. G. Owen EVERTON BROW—10-45 a 6-30,W.B.Roberts,C'dydd CATHERINE ST—10-30 a 6-30, Ll. B. Williams, Ferndale EGREMONT—10-30 a 6-30, R. P. Jones WIIJLMER RD-10-45 a 6-30, D. M. Rowlands, Amwythig Yr Anibynwyr. TABERNACL, BELMONT RD—10-45, E. J. Edwards. Brynrhiwgaled, 6-30, O. L. Roberts PARK ROAD—10-30, O. LI. Owen, 6, O. R. Owen GROVE ST-10-30, O. L. Roberts, 6, E. J. Edwards CLIFTON RD-10-30, O. R. Owen, 6, O. LI. Owen GT. MERSEY ST-10-30, J. M.Davies,6,H.Williams, Penygroes MARSH LANE—10-30, E. Pickering, 6, T. Williams, Capel Helyg KENSINGTON—10-30, T. Williams, 6, E. Pickering TRINITY RD-10-30, R. Williams, 6, W. Roberts l JISOARD-lO-45,W. Roberts,6.l5,R. Will iams,Crewe VITTORIA ST—10-30, H. Williams, 6, J M. Davies BALMORAL RD—10-30 a 6, E. J. Owen, Ponciau SOUTHPORT-ll a 6-30, J. Evans PRESCOT—10-30 a 6, R. J. Davies, Manchester Y Wesleaid. OAKFIELD—10-30, H. H. Chambers, 6, T. Hughes HERLOOK ST,-10-30, D. Jones, 6, H. Williams TRINITY RD.—10-30, T. Hughes, 6, R. Lewis "DGE HILL—10-30, R. Lewis, 6, R. J. Williams KSOWSLEY RD—10-30, R. J. Williams, 6, D. Jones MYNYDD SBION-10-30, W. Evans, 6, J. Felix litRKENHBAD—10-30, J. Felix, 6, W. M Jones WIDNES-10-30 a 6, J. E. Wynne GARSTON—2-30, J. Felix, 6, D. Jones EGREMONT-10-30, W. M. Jones, 6, W. Evans ROCK FERRY-2-30 a 6, T. Hughes Y Bedyddwyr WINDSOR ST.—10-30 a 6, 0. M. Owen BOUSFIELD ST.—10-30 a 6,M. Griffith, EDGE LANE—10-30 a 6, T. Salisbury, Llanefydd BALLIOL RD.—10-30 a 6, P. Williams EVERTON VIL.-10-30 a 6, D Powell WOODLANDS—10-30 a 6, J. Davies SEACOMBE-2-30 a 6 A. J. Parry, Rhyl KNOWSLEY RD.-10-30 a 6, L. W. Lewis Eglwys Rydd y Cymry CANNING ST-10-30, D. Davies, 6-30, W O. Jones HIGH PARK ST.-10-30, W. O. Jones, 6, D. Davies BOOTLE-IO-30, 6, HIRKENHEAD-IO-30 a 6, T. Jones GARMOYLE ROAD-IO-SO, W. A. Lewis, 6, E. Evanb DONALDSON ST—10-30, E. Evans, 6, W. A. Lewis EGREMONT-16-45, Henry Jones, 6-30, Yr Eglwys Sefydledig SANT DEWI-10-30 a 6-30, J. Davies t p. NT ASAPH—10-45 a 6-30, E. Williams. FANT DEINIOL-ll a 6-30, J. D. Thomas ST WINJI-REP, B'HBAD— 10-45 a 6-30, J. Hughes
Family Notices
PRIODI. JONES WILLIAMS—Awst 14, yng nghapel y Bedyddwyr, Bousfield Street, gan y Parch. Myles Griffith, Thomas R. Jones a Susannah Williams—y ddau o Liverpool.
---.-0 Canada.
0 Canada. At Gymry BirKenhead, a'm cydnabod ymhobman. SHON 'Y MRAWD,—Os gwnei di ail wampio'r llythyr hwn fel y gwnest y llall, druan, o'i flaen, fe garwn gael gofod i ddweyd wrth Gymry Birkenhead wlad mor braf a thoreith- iog sydd yn y rhan bell yma o'r byd. Gwlad bell, mae'n wir, ac ynddi laweroedd o foch, ond nid ar gibau y'u porthir hwy na'u perchen ond ar drwyth y buasai'n dda gan filoedd o dlodion y'ch gwlad a'ch trefi chi yna gael eu gwala o'i gystal. Y mae yma hin gymedrol a gwastad, ac nid sypyn o samplau fel a gewch chwi. 'Dyw hi byth yn rhuthro o'r eithaf oer i'r eithaf poeth ychydig iawn o eira a gaed yma'r gaeaf diweddaf, cbe'r settlers, ond digon o rew sych, iach a'r rheswm, ebre nhw, fod y tywydd mor iach a hyfryd, ydyw fod y wlad yn gorwedd rhwng deulyn-Lakc St. Glair ar un tu, a Lake Erie ar y llall-yr Erie o'r hwn y caiff y Niagaraeiraiadr enbyd. Yn wir, mor hardd ac mor ddymunol yw'r rhan yma fel y'i gelwir The Garden of Canada. A gardd ardderchog ydyw, a phob rhyw bren yn tyfu ynddi--hyd at bren gwybodacth da a drwg. Am y fferiiiydd--wel; y fferuiwyr eu hunain bia'r tir a'r stoc, a 'does yma 'run Syr Watcyn nac Arglwydd Penrhyn, heb son am y c-iwdod llai a gwaeth, i gael yr hyfrydwch o roi rhybudd i 'madael i neb. Chwi ellwch deithio cannoedd a miloedd o filitiroedd heb fyth daro'cli pen yn erbyn post oer y Tres- passers will be prosecuted. Y mae'r ffermydd yn bur fawr o'u cymharu a rhai Cymru, yn fychain o'u cymharu a ranches anferth y Gorllewin, ond yn fwy cynhyrchiol lawer na'r naill na'r llall, acr am acr. Corn a dyfir yma'n bennaf, a does mo'i well i borthi creaduriaid o bob rhywogaeth,—ie, pobloedd, os mynnwch. Mae'r ieir a'r moch a'r gwarth- eg yn rhemp am dano a golygfa gyffredin yma-ag y buasai yn amheuthyn i ami ddarllenydd y BJIYTHON gael syllu arni- ydyw gweled deucant neu dri o ffowls yn clowca ar ol y bwydwr aiff efo'i ganiad corn ar hyd y buarth. A her i fachgen cyflyma'ch ysgolion gyfri sawl yden a biga'r iaren mewn munud o amser. Chwe milltir oddiyma y ceir fferm fwya'r cwmpasoedd yma, a honno'n eiddo Cymry, sef yr Holts, a ddaethant yma o odreu sir Fflint rhyw saith mlynedd ar hugain yn ol, ac ydynt bellach yn gefnog ddigon arnynt, ac yn myned a dod yn eu buggy dwt, heb dynnu het i neb ond i'r Goruchaf. Hwy bia bob tywarchen o'r tir y cliwysant wrth ei drin ac 0 mor braf a diflin ydyw chwysu wrth drin y'ch tir y'ch hun Ond er mor gynhyrchiol o angenrheidiau bywyd, y mae yma brinder bendithiol iawn o un peth sydd a milwaith gormod ohono yn Birkenhead a ChymrLi-taf artiau 'Does yr un capel satan o fewn saith milltir i ni a thae hi saith ugeinmil, gore'n y byd gen i. Y gwaethaf ydi fod siop y crydd a'r eilliwr mor bell 'Dyw fawr o bwys, ran hynny, am y sgidiau, achos yr un hen ffaga sgen i er pan ddeuthum yma, heb neb i edrych arnynt ond Martha fy chwaer, a'r anifeiliaid. A 'does gynon nhw ddim byd i ddweyd- fyddan nhw byth yn newid eu sgidiau. Ond gan na fedraf eillio ffi ff'hun, yr ydwyf wedi tyfu cloben o farf laes, drwchus, urddas- 01, ac onibae fod y pethau ereill rheitiach ar ol, mi wnaethum flaenor shou mewn congl set fawr. Wel, chwi rieni Cymreig Birkenhead, 'does gen i ddim eisie pluo'ch aelwydydd o'ch plant, na phluo'r eglwysi o'u hegin mwyaf gobeithiol; ond byth o'r fan yma, dyma'r lie i dyfu genethod a bechgyn talgryf, iach. Mae hogyn wyth oed yma yn dalach a chryfach na'ch crwtyn deuddeg oed chwi yna, a'i ddannedd yn crensian drwy'r crystiau, ac yn ddigon sad eu bon i dynnu giau'r eidion gwytnaf yn g'reiau. Dyma'r lie i fagu mer ac asgwrn, clampiau o gluniau a bochau, a brestiau fel megin gefail. Paham y byddwch ffoled a danfon y'ch hiliogaeth, druain, i swyddfau a seleri afiach a mwll eu sawr, lie y dihoena ac y gwelwa ami i lane a lodes o eisieu awyr bur, ac y tyfant yn sbarblis pesychlyd, ac mor ddiafiaeth a diwaed na fuasai'n werth gan yr un o fleidd- iaid y diffaethwch yma droi llathen o'i ffordd i sipian yr un ohonynt. Y mae gen ti, onid oes, Mr. Gol., ddau lencyn felly, ynt can d'neued a llwyted a'u tad. Da chdi, pacia hwy yma, ac mi ro ngair y bydd y ddau, cyn pen dwy flynedd, yn batrwm o iechyd a hoen, a'u palfau'n ddigon caled a chryfion i dorri pedol stalwyn yn ddwy. Cwyna'r ffermwyr yma am brinder dynion, ac y maent yn talu yn awr chwephunt y mis a'u bwyd i weithwyr da. Gwyn fyd na fuasai'm coes a'm braich yn iach a di-barlys— buan iawn y buaswn yn troi heibio ddigon o sofrins i logi cloben o agerlong i gludo llwyth o Gymry Birkenhead yma, er mwyn i ni gael tipyn mwy o efengyl a chwarfod gweddi a Chymraeg-tripheth prinna'r Cyf- andir di-ben-draw yma 0 diolch Yn lIe bustachu fel y byddwn ar hyd heolydd Birkenhead, efo'r hen gwd llian a'i drymlwyth o bapurau a bil W. H. Smith & Son (yr hen fwgan cebyst !) yn galw heibio bob wythnos, wele fi bellach a'm traed yn gwbl rydd," ac yn cerdded yn hamddenol o gwmpas y fferam, gan siarad yn ddiddan a Thango'r ci a phan y daw eisio cinio, dim ond sisial Dos am bry' Tango," a ldvrria gwningen neu yscyfarnog yn eithaf llonydd wrth fy nhraed cyn pen y deng munud neu ynte mi biciaf i'r ty i nol y gwn, a dyma hwyaden wyllt i lawr yn glau o'r entrych, heb dal yn y byd am dani ond ei pbluo.'pEithaf cyffredin yma ydyw gweled haidjFaneirif o hwyaid gwylltion yn hedfan trosom nes bo'r wlad yn dywyll am rai munudau, ac mor drwchus yr haid na raid nelli-diln"oiid gollwng tuag i fyny, 'does mo'r He i ergyd fynd rhwng yr un dau o'r adar blasus. A braf ydyw edrych ar y caeau yma, a gweled y pys, y ff j, y tatws, y llysau cochion (" caraits," chwedl pobl Mon, mor hyll), y bresych, a phob rhyw ffrwyth y ddaear yn pincian allan gan ddywedyd, "Dyma ni iti, heb ddegwm na threth na rhent i lyfu'r hufen na thynnu'r glesni tlws oddiarnom. Hwde ni." Ac wrth y llidiart gerllaw, dacw Gweno'r fuwch yn brefu o eisio'i godro, y 110 yn llempian y llith,'yr ebol yn mynd drwy ei geometries ar y maes, a'r hen gaseg yn rhyw ddoeth asurbwch-sbyoarno,acmegis yn sych-fwmian ynddi'i hun, Ie, ie, ngwesyn melyn i, gwna'n fawr o'th ieuenctyd, mi ddaw dyddiau'r llwyth a'r gee-up a'r drot i Detroit ar hyd y geillt yn y man." Oddidraw clywaf y defaid a'u hwyn, ac o'r caeau gerllaw dyna'r moch, ac mor fodlon ag y dywedai'r hen William Ellis, Maentwrog, y byddai'r saint yn y nefoedd, ni wichiant yn eu byw am ragor am fod eu cafnau'n llawn." Mi glywaf denyn y Gol. yn plwcian, ac yn cil-awgrymu nad ydyw'r BRYTHON ddim helaethed a Chanada, ac yn peri i mi ddweyd mwy a siarad llai y tro nesaf. Felly, fy llaw a'm calon ichwi, ffrindie anwyl, hyd nes y caf eich gweled chwi yma— byth y gwelwch fi yna. Tyd, caria'r pry' yma, Tango." MORGAN JONES. Ffridd Wen, No. 2, Gottam, Essex County, Ontario, Canada, Gorffennaf 15, 1907. --o Dyma fel y cyfieithiwyd un o ganeuon Mr. g. H. Jones-; yn Drwy Gil y Drws, gan y Parch. T. R. Davies, Burnley, y dydd o'r blaen :— FROM HIGH HIRAETHOG HILL. I saw the river Clwyd Start on its journey well, From far Hiraethog Hill, And to the plain it fell It sang and sang the live-long day As o'er the stones it sped away. It seemed in such a haste, Methought it would nob rest, Nor tarry till it found The object of its quest As children for their mothers run, And find the errands full of fun. Alas I saw the stream Down in the Vale one day A weary, aimless thing, That scarce could get away 'Twas sad to see it drag along Without a smile or merry song. It seemed too weak and faint To reach the journey's end The tide a long way came Its kind, kind help to lend Together tide and river flow, Nor linger more, but homeward go. From far Hiraethog Hill A lad went on his way, But slow his step and fear Hath filled his heart to-day,— Thou Sea Divine, send forth thy tide, A long, long way to be my guide. Dyma fraslun o gyfres darlithiau sydd i'w traddodi yn ystod y tymor dyfodol gan y Parch. D. Adams, B.A., tan nawdd Undeb Ysgolion Sabobhol Anibynwyr Lerpwl a'r Cylch I.Plant.Eu nodweddion, y ffordd oreu i sicrhau eu sylw, y modd effeith- iolaf i ddeffro eu natur foesol. IX.—Addysg (Education) a chyfrannu gwyb- odaeth. Gwahanol gynlluniau i'w mabwysiadu (a) Trwy ddarluniau i'r plant. (b) Trwy fywgraffiadau i'r bobl ieuainc. (c) Trwy gymhwyso egwyddorion at fywyd ymarferol. Ill.Y modd goreu i ofyn ewestiynatt.- Engreifftiau o wahanol ddulliau. Yr Athraw yn ei berthynas (a) A'r wers. (b) Ag aelodau unigol y dosbarth. XV.—Meithrin Cymeriad.-lawn ddefnyddio a cham ddefnyddio'r Beibl. Dull (a) Y Proffwydi. (b) Yr Apostolion. (e) Yr lesu. Cynllun rhagorol, dybiem ni, ac fe'i dodjr yma er mwyn i ereill gael awgrymiadau ynddo. Da gennym glywed fod y Parch. Robert Thomas, Glandwr-gynt weinidog eglwys y Tabernacl, Lerpwl, ac yn awr Llywydd Undeb Anibynwyr Cymru-yn gwella o'i anhwyldeb peryglus, r ol bod tan gyllell y meddyg. --0--
Diweddaraf.
Diweddaraf. Y Cofnodydd E. J. Griffith A.S. CRYN syndod i liaws ydoedd agor eu papurau heddyw'r bore, a deall fod Mr. Ellis Jones Griffith wedi cydsynio i dderbyn swydd Cofnodydd (Recorder) Birkenhead—swydd ddigon bechan ei chydnabyddiaeth ariannol, a awchid yn fawr gan lawer o wyr y gyfraith, ond na thybiasem fod ynddi nemor swyn i wr o allu ac adnoddau yr aelod tros Fon. Da ydyw meddwl nad yw'r penodiad yn galw arno i ymneilltuo o'r Senedd ac er y rhaid mynd drwy ddefod ddianghenraid yr ail- etholiad, nid oes ddim sicrach nag yr ail- etholir Mr. Griffith gyda mwyafrif uwch nag o'r blaen, os ceir hyd i rywun a ddewisa wario'i arian i'w wrthwynebu. Bu iddo yrfa ddisglaer hynod yng Nghaer- grawnt, lie yr ydoedd yn gyntaf oil ar restr y first-class honours yn y Law Tripos, a lie y bu yn Llywydd yr Union. Bu ei yrfa Seneddol ac fel bargyfreithiwr hefyd yn un o'r rhai disgleiriaf a diau ei fod yn un o siaradwyr mwyaf arabus, cyrbaeddgar, a sylweddol Ty'r Cyffredin. A phan yn llawenhau am y penodiad presennol, gwell gennym fydd clywed yn y man ei fod wedi cael swydd fwy teilwng o'i alluoedd ac o'i wasanaeth, ac o'r hyn y gall ei gyflawni eto tros Gymru. Y mae'n siaradwr rhwydd a chyrhaeddgar, ac heb amgenach pwywr yn Nhy'r Cyffredin pan fo'n hynny eisieu. Da y cofir ei bwyth ynglyn a'r Kynoch Contracts adeg rhyfel De Affrica "While empires expand, Cham- berlains contract," I Gynrychioli Mon. BWRIAD Mr. Griffith, meddir, ydyw cynrych- ioli Mon fel cynt, os dyna ewyllys yr ethol- wyr a hynny'n ddiau a fydd ond pe buasai yn dewis ymneilltuo, yr enwau a sibrydid- fel ymgeiswyr tebygol ydoedd Mr. J. R. Davies, y Parch. John Williams (Brynsiencyn) a Mr. R. J. Thoinas (y llong-berchennog adnabyddus o Lerpwl). Proff. Newydd. Y PARCH. Morris Brynllwyn Owen, B.A., B.D. brodor o Abererch, ger Pwllheli, a gweinidog gyda'r Bedyddwyr, sydd wedi ei ddewis yn Athro Athroniaeth yng Ngholeg Presby- teraidd Caerfyrddin, yn lie yr Athro Keri Evans, yr hwn a ymddiswyddodd er mwyn rhoi ei holl amser i fynd drwy'r wlad fel pregethwr diwygiadol.
Advertising
Neuadd y Twr, New Brighton- — — | CYNHELTR Y SEITHFED OK EISTEDDFOD GERDDOROI FLYNYDDOL, Ddydd Sadwrn, Medi 21, 1907. Beirniaid Cerddorol < HENRY COWARD,Ysw.,Mus-Doc.(Oxon.), DAN PRICE, Ysw.(Llundai a HARRI EVANS, Ysw. Rhaglon gvflawn i'w chad ond anfon stamp i'r Ysgrifennydd LLEW WYNNE. 1 Hamilton Square. BirKenhea Cymdeithas Cymru Fydd Anfield ac Everton* NODACHFAGYMREIG i. yn ST. GEORGE'S HALL, LERPWL, Tachwedd 5ed, 6ed, 7fed, a'r 8fed, 1907. MANYLION I DDILYN. ¡ Amcan Dileu y ddyled ar yr adeilad newydd, 102 Belmont Road. Eisteddfod Gadeiriol Nantglyn NADOLIG, 1907. Testyn y Gadair— PRYDDEST Hynt Canrifoedd." Bydd y rhaglentn yn barod dcliwedd Dii-, Awst Pris (trwy y Post) lc. J. M. HUGHES, Y sq., Glasmor, < Nantglyn, Denbigh Channel Cruises. FAKE 6d. Two Hours' Channel Cruise. The Favourite Saloon Steamer i'ATHFINDER or other Steamers, spedally fitted up for Passengers, having every e.onvenii-rice on board. leaving the Prince's Landing-stage [weather and other circum- stances pomLtting] Werfk days 3.15 \I m. prompt; Sunday 11.15 [short trip], arriving back about 2.15,3.30, 1.30, 6.30. and 7.30 p.m. To Advertisers PREPAID ADVERTISEMENTS FOR BIRTHS AND DEATHS, Is per Insertion. MARRIAGES. Is. 6d. per Insertion. SITUATIONS-Wanted & Vacant. APARTMENTS-Furnished and Unfurnished, Is. for One Insertion. 9d. for Three Insertions. ø Rate for Trade Advertisements, Public Meetings etc., may be had on application. Advertisements must be to hand Tuesday Morning to ensure publication in the following issue, All communications re Printing and Advertising, to be directed to the Firm EVANS, SONS & FOULKES, Don Chambers, 8 Paradise Street, L'pool, or 35(>-358a Stanley Road, L'pool. T LANRHAIADR-YN-MOCIINANT.—To Let, from September 1st, Modern Farm House. Furnished, containing large Dining Room, Kitchen, Four Bedrooms, Bathroom, W.C., &c. Croquet Lawn Beautifully situated, Distance 1 mile from Station. Within easy dis- tance to Lake Vyrnwy Waterworks and Llanfyllin For terms, apply to J W. JONES 17 Hallville rd., Liverpool COMFORTABLY FURNISHED Country C Cottage TO LET in Anglesey. Large Dining Room, Kitchen, Pantry, Four Beds, lovely scenery, bracing. Convenient for Shops, Post, Station, Church and Chapels. Terms moderate.—Apply 25X Brython. COFIANT a PHREGETHAU Y DIWEDDAR Barch. ROBERT OWEN (Ty Draw), gan y Parch. JOHN OWEN, Wyddgrug. Telcrau arferol i Lyfrwcrthwyr. Archebion i'w hanfon i'r Argmffydd- HUGH EVANS, :?56-8a Stanley Road, Neu y Parch. WM. OWEN, 11 Greenbank Road, 1. LIVERPOOL I make Boots That's my business. You buy Boots That's your business. If yon place any value on your feet Come and let me build you a pair, don' orget. An easy Shoe is equivalent to an easy conscience GUTTERIDGE, -BESPOKE BOOT MAKER,— 291 West Derby Rd. My Only Address Gworth y Gwirfoddolwyr. Nos Fawrth, cynhaliwyd trengholiad yng Nghaernarfon ar gorff Michael Jones, perthyn- ol i'r 3rd Volunteer Battalion R.W.F., yr hwn a fu farw mewn canlyniad i yfed chwisgi o jar a ddygesid gyda'r fataliwn ar eu dych- weliad o wersyllu yn Blackpool. Y Rhingyll Langton oedd yng ngofal y dyiiion ond yr oedd yntau yn chwil, a bu amryw ereill o'r dynion ynlberyglus wael am amser oherwydd y gyfeddach hyll. I" I Y Gwir yn erbyn y Byd." Eisteddfod Frenhinof Genedlaethol Cymru6 Gorsedd Beirdd Ynys Prydain, Abertawe, Awst 20-24, 1901. Gwobrwyon mewn Cerddoriaetb, Barddoniaeth, Rhyddiaeth a Chelf, j DROS 21,200. Ysg. Cerddoi-ol: T. E. POWELL, sea. 68 St. Helen's Rd., Svva.n Pob many lion (a Rhaglen Swyddogol drwy y Post) gan yr Ysg. Cyffrediiiol A. B. DAVIES, 58 Wind Street, Swans^' EGLWYS EVERTON VILLA6E, VILLAGE ST., EVERTON RP. Perfformir 4 Plant y Nefoedd Cantata brydferth Dr. Dan Protheroe, D3 Cyngerdd Amrywiaethol gan I-PI(int y Pentre, NOS WENER, AWST t6eg, 19011 Am 7.45. Drysau yn agor am 7.15, CADKI UYDD WM. JONES, Ysw., Wavertree. TOCYNAU, Is.. a 6ch. Yr elw at ddwyn treuliau y OM Eisteddfod Genedlaethol Abertawe. Liverpool & North "W°ieS j I ded). Regular Daily Sailings (Sundays iaclode From Prince's Landing Stage (weather and cumstances permitting), e" Every day by La Marguerite (Fridays, St. Tudno "). 10-45 a.m., for Llandudno, Beaumaris, and Menai Bridge, allowing 4 hours at Llandudno, and due back about 7- (Carnarvon connection week-days,^ 6t9 2-30 p.m. Mondays, Fridays, Saturdays, Aufc 2-30. 15 11.01 Early boat on Mondays, due Liverpool EXTRA SAILINGS: 9-15 a.m., St. Tudno," Wednesdays, 14th,: bjlo 28th, for Llandudno and Holyhead l1rsdtl1 8 p.m. 9-15 a.m., Aaglesea Trips, f- 29th, Sunday 18th, & Septemb er 1^* Through Bookings from Principal Station • For Fares, &c., apply to the Liverpool Wales Steamship Company, Ltd., T.. QjficI Secretary, 40 Chapel Street, Liverpool. Guide, post free 3d. Telephone—2270. IF Richard Ow^ PRACTICAL TAILOR and £ft COSTUME IdA 152 Dale st" LIVERPOOL. Printed and Published for 1 etors, EVANS, SONS & Chambers, 8 Paradise Street, W. Tel. 1112 Central, by HUOH WFSL T>" 358a Stanley Road, Liverpool County of Lancaster.