Welsh Newspapers
Search 15 million Welsh newspaper articles
9 articles on this Page
Advertising
'Phone—017 Central. a W. GRIFFITHS, Tailor, 29 SOUTH JOHN STREET, LIVERPOOL ALSO AT 349 STANLEY ROAD, BOOTLE, 'Phone—27x Bootle. Lunt's Boots are VALUE FOR MONEY. Try Pal r Ladies' and Gent's in great variety. 11 PARADISE STREET, The only address Telephone 51 Y Anfield. JOHN JONES, ø FUNERAL FURNISHER, ,c]Ky Lane. 19 Preston Grove, LIVERPOOL. Style, Quality, Economy, Attention. SUPERIOR WEDDING BROUGHAMS. Estimates including all charges on application. NODER-Nad oes unrhyw gysylltlad rhyngof ag arall o'r un enw.
Family Notices
PRIODI. HUGHES—THOMAS—Awst 7, yng nghapel M.C. Hyfrydle, Caergybi, gan y Parch. J. Williams, John, ail fab y diweddar Hugh Hughes, 8 Market Street, Amlwch, a Mary, trydedd ferch Mrs. Thomas, Strydun, Gwalchmai. LLOYD-WILLIAMS-Awst 8, yng nghapel Mynydd Seion, Princes Avenue, gan y Parchn. J. Felix a Thomas Hughes, Robert Richard, mab Mr. a Mrs. David Lloyd, a Jennie,merch Mr.a Mrs.Edward Williams "'('IIEP.Tr,-DAVI--Es-Ddydd M awrth, Awst 6, yng nghapel y M ethodistiaid Calfinaidd, Garth, gan y Parch. W. Henry, Waterloo, Yn cael ei gynorthwyo gan y Parch. J. Lias Davies, Acrefair, Goronwy Owen, mab y diweddar Mr. John Roberts, Yale Mill, Bryneglwys,a Jane Sydnetta (Nettie),merch Mr. R. M. Davies, Garth, Llangollen. MARW- ONES-—Awst 8, o fewn ychydig i'w deunaw- fed flwydd, Catherine Ann (Kitty), anwyl ferch David a Jane Jones, 55 Faraday St. Claddwyd ym mynwent Anfield, Awst 12.
Advertising
Telephone—261 Bootle. P. LLOYD JONES, Funeral Furnisher, SpeCial attention given to removals to and from Wales YORK BUILDINGS, 362 & 364 Stanley Rd., L'pooi (Near Bankhall). WEDDING EQUIPAGES. SAVE S5 CASH OR HIRE. I). GRIFFITHS & SON, 221 Breck Road, and 103 Wavertree Rd. Liverpool. PIANOS AND ORGANS ''oia 8s. bl* "?,onth V a]1 the «!aklng *a R e r s. "Telepjjojjgs— B*Anfield Breck Rd. fe Royal wavertree. Telephone—157y Birkenhead. ti 'tailder ei gwsmeriaid,—yn siop HUGHES, Pawb gant eu hangenraid Am siwt newydd bydd, heb baid, "rethynwr i Frythoniaid. 0 a 10 JOHN 'HUGHES Tailor (j Draper, TON ROAD, BIRKENHEAD 11. PROCTER, F.B.P.S. .0 I 4, A, The City Phrenologist, Is a Fellow and Councillor of the British Phrenolog- ical Society (Incor- porated). Holds Six Certificates & Six Gold Medals for Pre- ficiency in Phreoolog and Hand-reading. Mr. Procter has had 35 years' Profession- al Experience in Liverpool,and is now giving Consultation PHKBNOLOAY & HANDREADING at 8 Lime St.& 25 Mt. Pleasant
————————— Senedd y Byd a RHIALTWCH…
————————— Senedd y Byd a RHIALTWCH LERPWL. Bu Lerpwl yr wythnos ddiweddaf yn dathlu seithfed can mlwydd ei genedigaeth fel corfforaeth. Ac 0 'r fath hwlibalw sydd Mae'r dref wedi meddwi yn lan ond at un wedd yn unig o'r gorhoian yr wyf fi am alw sylw, sef fod 14 o longau rhyfel Prydain wedi dyfod i'r afon i helpu dathlu yr am- gylchiad. Mae Lerpwl oil, a'i wraig a'i blant, wedi codi allan i edrych arnynt. Mae pob safle sydd yn rhoi golwg ar yr afon yn ddu gan edrychwyr. Cludir ymwelwyr i'r llongau rhyfel hyn gan bob math o lestri am swllt y pen, ac y maent yn rhuthro iddynt ar draws eu gilydd wrth y miloedd. I could not," ebe gwraig wrthyf, let such an opportunity pass without letting my children see our noble ships of war,—the glory of our country it was quite an education for them." Dywedir fod y 14 llong hyn yn unig yn costio i Brydain £ 30,000,000. Pan ddaeth y llongau i'r afon^ddydd Mawrth, y 6ed, aeth y Maer ac urddasolion ereill ar y bwrdd i'w croesawu, a gwnaeth y Prif- lyngesydd Arglwydd Beresford araith ar yr achlysur. Amcan y llynges, meddai, ydoedd nid gwneud rhyfel,ond cadw heddweh, a gofalu, os byddai rhywun yn dangos tuedd i aflonyddu ar yr heddwch hwnnw, fod iddo ar unwaith gael ei ddinystrio. Should be annihilated ydyw geiriau clasurol y Llynges- ydd. Ymddengys ei fod yn hoff o'r gair hwn, oblegid defnyddiodd ef wedi hynny wrth annerch marsiandwyr y dref yn y News Room. Mae ei eiriau yno yn deilwng o sylw, er dangos y syniad sydd gan y gwyr hyn am natur a phwysigrwydd eu gwaith. Yr ydym ni," meddai, sydd yn weision cyf- logedig y bobl, yn cynrychioli y swm yr ydych yn ei dalu am yswirio eich nwyddau ar y mor. Yr ydych, gan hynny, yn cymeryd dyddordeb mawr ynom. Yr ydym yma i gadw heddwch ac i rwystro rhyfel. Gwydd- och mai buddiant pennaf yr Ymherodraeth ydyw Heddweh. Mae y llynges wedi ei threfnu a'i disgyblu i ryfela yn y fath fodd, mewn amser o heddweh, fel, os bydd rhyw genedl yn achosi rhyfel, it should be annihi- lated. Os cedwir ni fel yr wyf wedi nodi, ni fydd dim rhyfel, a chewch chwi ddilyn eich gorchwylion heddychol, a helaethu eich masnach a thrafnidiaeth, y rhai sydd wedi gwneud ein hymherodraeth yr hyn ydyw." Rhyw faldordd chwyddedig fel hyn oedd areithiau Beresford, a gallesid meddwl fod ei syniadau yn cael eu llyncu yn awchus ac yn myned i lawr yn llyfn. Ond y mae yn deilwng o sylw fod ein gwladweinwyr enw- ocaf wedi gweld trwy ffiloreg fel hyn er's talm. Cadw heddweh, wir Yr wyf yn methu credu mai trwy fyned o gwmpas a phastwn yn fy Haw, a herio pawb i gyffwrdd a mi os meiddiant, ydyw'r ffordd oreu i gadw hedd- weh Na, mae ffordd well na hon, a ffordd y carasem weled Senedd y Byd yn fwy aiddgar i'w chario allan, sef y ffordd i bob un daflu y pastwn o'i law. Cadw heddwch yn wir Barn gwladweinwyr enwog o bob plaid, pan heb fod o dan ddylanwad y dosbarth milwrol, ydyw fod helaethu dar- pariadau milwrol bob amser yn peryglu heddweh. Cymharai y diweddar Arglwydd Salisbury hwy i gymylau llawn trydan yn dynesu at eu gilydd, a chyn hir yn sicr o ffrwydro. A dyna oedd barn Gladstone gynt ac nac anghofier mai anghytuno a'r blaid filwrol a barodd iddo roddi arweiniad y Llywodraeth o'i law yn y diwedd, fel y dengys Morley yn hanes ei iywyd. Ac o'm rhan i nid oes gennyf fymryn o barch i'r fath swydd a mwy, nis gallaf yn fy myw edmygu y rhai sydd yn ei gweinyddu mwy nag y gallaf edmygu gweinyddwyr y gosb o ddienyddiad yn ol cyfraith Prydain. Er engraifft, gall fod gwaith y llynges Ffrengig yn tanbelenu pentrefi y dydd o'r blaen yn helynt Casa Blanca yn eithaf unol a dialedd teg (?) mewn rhyfel o ran dim a wn i, ond y mae tanbelenu dinasoedd yn ddirybudd, ac, fel y dywed y Daily News, Iladd o angen- rheidrwydd wragedd a phlant, ac feallai y cleifion a'r hen bobl," yn beth echrydus i feddwl am dano. Byddaf yn synnu weithiau fod cynnifer o'r ystlen deg yn anghofio y gweithredoedd hyn yn eu hedmygedd o gyrff lluniaidd a gwisgoedd prydferth y gwyr ieuainc hardd sydd o dan orfodaeth eu cyflawni. Mwy o feddylgarwch a barai fod ias o anhygarwch yn lie edmygedd yn treiddio fel trydan trwy eu cyfansoddiad yn yr olwg arnynt. 0 ran hynny, parai gwg yr ystlen deg fwy o wywdra yn y gyfundrefn filwrol na nemor ddim arall. Ond, ysywaeth, y mae eu gwenau yn y rhialtwch yn Lerpwl yr wythnos ddi- weddaf, a'r gorhoian a'r gwleddoedd i wýr y dinystr-longau yn y Mersey, wedi peri gofid i lawer dyn ar y tir na fuasai wedi ymuno a'r llynges pan yn ieuanc. Ie, dyna'r modd yr ennynnir ysbryd rhyfel yn y gwledydd. Mae gwaith mawr yr Hague eto o'i blaen. ELEAZAR ROBERTS/ o
0 GYRRAU MAELOR.
0 GYRRAU MAELOR. YCHYDIG o bobl y cyrrau oedd yn gwarchod gartref ddydd gwyl y banc. Yr oedd bron bawb a'u bryd ar y mor neu'r mynydd, a'u tuedd at gampau neu E isteddfod, a'u hawydd am bleser neu awyr iach. Yng ngorsafau y dre codwyd mwy na phedair mil o docynau gwib, ac nid oes gyfrif o'r llwythau oedd yn pentyrru tram y Rhos, a cheir meirch y cyrrau ereill. Yn y ceir modur a gyniweir- iant yn ol a blaen i Frymbo, Bwlchgwyn, a Nantyffrith yr oedd y llab-hongwyr, neu y strap-hangers, yn lliosog a gweddol dda eu hwyl. Cafwyd tywydd dymunol, ac ni chlywais am nemor anffodion. k Bu merched a meibion cerdd y cyrrau yn lied lwyddiannus yn Eisteddfodau y dydd, ond yr oedd y beirdd a'r llenorion naill ai yn hepian neu wedi taro ar eu gwell. Mae plant Jerusalem, y Rhos, a'u Hosanna yn llawn swyn, a chafwyd prawf yng Nghorwen eu bod yn parhau yn ddiguro. Prin y buasid yn disgwyl i Gorwen, bro y gwlan a'r defaid, adael y wobr am Bais Wlanen Gymreig ddod i bentre Brychton-ond fellu y bu. Tueddwyd aelodau Clwb Rhyddfrydol a Llafur Gwrecsam i fyned i Gaergwrle i bic- nicio, ae i fwynhau cymdeithas ac hyawdledd eu cynrychiolydd Soneddol,-Clem Edwards. Rheolid y gweithrediadau a chynheuid yr hwyl gan y Cynghorydd R. Sauvage, ac nid oes amheuaeth na fu y cyfarfod yn foddion i gryfhau y dwylaw a laesasant. Codwyd y fath yni a brwdfrydedd nes y bu raid rhoddi gollyngdod iddynt trwy gystadlu rhedeg a neidio a gwrthdynnu a rhaff. Yng ngorwest y gwrthdynnu, ymddengys mai y Ward Orllewinol a orfu. Ifc Mae yn y cyrrau gymdeithasau a elwir yn Ymdrechwyr Cristnogol, a dydd Gwyl y Banc cymerodd Ymdrechwyr Gwrecsam, Gwersyllt, a Choedpoeth, wib i Brestatyn, ac yno ymunwyd a hwy gan- ymdrechwyr amrai fannau ereill. Ymgynullasant ar y traeth i annog eu gilydd i weithredoedd da, ac i ochel diogi mewn gwneuthur daioni. IpjDydd Sadwrn y darparwyl, ymgynhullodd Undebwyr y eyrrau yng Ngresford i hwylio cerddediad Syr Foster Cuncliffe fel ymgeisydd Seneddol Toriaidd yn Nwyreinbarth Dinbych. Ma# Syr Foster yn dechreu ei yrfa boliticaidd gyda'r un broffes a daliadau ag y terfynnodd ei dad ei yrfa. Pwy wyr na newidia y mab hefyd ei gredo ?—Yn niffyg hynny rhaid gofyn, Pa hyd, ynfydion, y cerwch ynfyd- rwydd ? Yn ddiweddar bu eglwys Anibynol Queen Street yn dewis diaconiaid, a daeth padwar o dan y coelbren Mri. John Davies a Robert Roberts, Bersham Road, J. P. Davies, Talbot Road, a Joseph E vans, Ruabon Road. Y Saboth diweddaf cynhaliwyd cyfarfod arbennig i'w sefydlu yn y swydd traddododd y gweinidog-y Parch. Peris Williams- bregeth gyfaddas i'r amgylchiad, a rhoddodd ddeheulaw cymdeithas i'r brodyr dewisedig. Wedi hynny cafwyd adroddiad o deimladau, pryderon, a gobeithion y pedwar a etholesid, ac o adgofion, profiad, a dymuniadau da y pedwar oedd eisoes yn y swydd. Fe welir fod yn yr eglwys seithwyr da eu gair," ac un dros ben. Ni themtir hwy mwyach i chwennych swydd diacon, ac ni raid iddynt wrth nod uwch na dilyn 61 traed y pedwar oedd wedi eu rhagflaenu. Un o'r rhai hynny yw Mr. Thomas Jones, fu yn llenwi cadair y Maer, ac sydd eto ar y fainc ynadol ac yn Gynghorydd Trefol a Sirol. Gwisga ei an- rhydedd heb godi ei ffroen, a dug ei feichiau o ofalon heb amharu ei wen. Un arall yw Mr. Joseph Edwards,ac mae yntau yn gyfoeth- og o dalentau naturiol, a'i arabedd wedi ei dymherutâg hynawsedd, ac ni cheir ef heb fod yn llawen yn wastadol. 15? Bore dydd Mercher, cyn y cynddydd, deffrowyd y dref gan yr alarwm fod y Public Hall ar dan. Yr oedd cwmwl mwg a cholofn o dan yn dyrchafu uwchben canol y dref, ac arogl llosg yn trwytho yr awyr. 0 dan yr unto a'r Hall yr oedd amrai farch- nadau a swyddfeydd, ynghydag ystorfa ymrwymol (bonded stores) ei Fawrhydi, yn yr hon yr oedd casgenau anferth o wirodydd, ac yn y cyffiniau mae tair o farchnadoedd cyhoeddus. Yr hyn a fawr ofnid oedd i'r tan ddod i gyffyrddiad a'r gwirodydd a pheri ffrwydriad fuasai yn lledaenu yr alanastr ac yn peryglu bywydau. Llwyddwyd i atal hynny, ond aeth yr Hall a thri neu bedwar o'r ystorfeydd yn aberth i'r tan, a chyfrifir y golled yn fwy na deng mil o bunnau. Rhoddir canmoliaeth uchel i ddewrder a medr y tan-ddiffoddwyr.
Advertising
General Printing of every kind, Commercial and Artistic, at Evans, Sons, & Foulkes, Brython Office, 1 Don Chambers, 8 Paradise Street (Telephone 1112 Central), and 356A & 358A Stanley Road, Liverpool (Tele phone 591 Bootle)- COLEG Y BRIFYSGOL, ABERYSTWYTH. (Un o'r Colegau ym Mhrifysgol Cymru). PRIFATHRO T. F. ROBERTS, M.A., LL.D. DJICHREUA'R tymor nesaf ar ddydd Mawrth, Hydref laf, 1907. Paratoir yn arbennig ar gyfer arholiadau Prifysgol Cymru, ond rhoddir cynorthwy hefyd i efrydwyr weithio am raddau prifysgolion ereill. Cynhygir dros ugain o ysgoloriaethau (amryw ohonynt yn gyfyngedig i Gymry), i'r efrydwyr sydd fwyaf llwyddiannus yn yr arholiad a gynhelir ar y 17eg o fis Medi, 1907. Am fanylion pellach ymofynner A- J. H. DAVIES, M.A., Oofrestrydd. ..COLEG Y GOGLEDD, BANGOR (Un o'r Colegau ym Mhrifysgol Cymru). PRIFATHRAW H. R. REICHEL, M.A., LL.D. Dechreua'r tymor nesaf Hydref 1,1907. Paratoo ar gyfer Arholiadau Prifysgol Cymru, rbai o eidd- Prifysgol Llundain, y Cwrs Meddygol ym Mhrif. ysgolion Llundain, Edinburgh a Glasgow, ac arhol iadau ereill. Rhoir addysg arbennig mewn Amaethyddiaeth (yn cynnwys triniaeth coed) ac Electrical Engineering. Mae yn y Coleg adran normalaidd i Athrawon elfennol a chanolraddol. Cynhygir dros 20 o Ysgoloriaethau, yn amrywio mewn gwerth o X40 i 910 y flwyddyn, yn nechreu'r tymor nesaf. Mae Ysgoloriaethau Tate yn gyfyng- gedig i Gymry. Ysgoloriaethau John Hughes yn gyfyngedig i fechgyn aned yn sir Fon neu sir Gaer- narfon, ac Ysgoloriaethau Richard Hughes i drigolion Mon. Dechreua'r arholiad am danynt Medi 17. Ceir pob manylion gan J. E. LLOYD, M.A., Yggrifennydd a Chofrestrydd. OR A. Greenman's COMPLETE HOUSE FURN ISHERS, Credit-Without Hire Agree ment—at Cash Prices. 491 RICE LANE, WALTON & 72 AlttBURTH ROAD, LIVERPOOL Tei. 6y Walto- 31 v Lark Lane. The Eye Reviver Newydd da i ral a Llygald Gweiniaid. Bydd offeryn at eich gwasanaeth yn fuan, gan y dyfeisydd gwreiddiol, am bris y gall pawb ei gyrraedd.
Glannau V Mersey
Glannau V Mersey (Gwel hefyd tudal 8). Yn hytrach na phwdu oherwydd na chawsant eu haeddiant yn Eisteddfod New- market, y mae cor cymysg Birkenhead eisioes yn ymarfogi at gystadleuaeth Eistedd- fod Temlwyr Da Lerpwl dranoeth i'r Nadolig. 15b Y mae pwyllgor Eisteddfod Gadeiriol Mon yn cynnyg 925 i'r gore a gyfieitho Unoliaeth y Beibl y diweddar Ddr. John Hughes, ac y mae llyfrwerthwyr Cymreig Lerpwl yn methu'n lan a chael coplau i'r ymgeiswyr lliosog sy'n 'mofyn y gyfrol. k Yr oedd Cymry liaws ymysg cantorion cor Pageant mawr Lerpwl yr wythnos ddiweddaf, a hawdd ydoedd adnabod eu lleisiau, er fod y cor yn gannoedd. Dywed un brawd y gall adnabod bassiaid Eryri, a Thenoriaid Caernarfon a Ffestiniog, o fysg mil. «5b Y mae Lloffion Grawnwin-sef Cyfrol Goffa y Parch. O. L. Roberts i chwe gweinidog ymadawedig Anibynwyr Lerpwl a'r Cylch— yn gwerthu'n gyflym, ac eisoes fwy na hanner yr argraffiad wedi ei hysbyddu. Rhagorol, i gyfrol ddaeth allan ganol yr ha'. lolo Caernarfon a bregethai fore a hwyr y Saboth diweddaf yng nghapel Stanley Road a'r Parch. J. Roberts, B.A., David Street, yr un dydd ym Mharkfield, Birkenhead. Ac ebe un o galifantiaid crefyddol y cylch Mi af i Birkenhead y bore, i wrando'r mab ac i Bootle yr hwyr i wrando'r tad. A ph'run oreu—dyfnderau'r naill, ynte uchelderau'r llall, wir, wn i ddim gogyfuwch nt, goeliaf fi." Ac ebe fe ymhellach, Meddyliwn y bore am y geiriau hynny Purdeb iaith a dyfnder meddwl, Grym athrylith, sobrwydd barn, Roisant o'u cymeriad hysbys Nodau dilys ar bob darn.' A'r nos am y rhai'n Sieryd mewn brawddegau byrion, Megis gwr yn cuddio'i nerth Ond mae'r acen drom, grynedig, I bob gair yn gwasgu gwerth.' Mawr y cydymdeimlad sydd a Mr. aJMrs. D. Jones, 55 Faraday St., gan eu lliaws cydnabod yn y ddinas a'r wlad ar farwolaeth eu hanwyl ferch, a gystuddiwyd yn hir gan hen elyn ein hil-y darfodedigaeth, ac a fu farw ddydd Iau diweddaf, ar fin cyrraedd ei deunawfed flwydd. Claddwyd y fun dirion ym mynwent Anfield ddydd Llun, pryd y gwasanaethwyd gan y Parch. E. J. Evans. Gwir y gellid dywedyd am Kitty Yn nhy ei rhieni 'r hunodd, Yn mharlwr ei Phrynwr deffrôdd." Awst 2, yn Derwen, Corwen, bu farw Mr. Evan D. Parry, New Brighton, yn 44ainoed, wedi cystudd caled amTdair blynedd, a chan adael gweddw a dau blentyn. Aelod ydoedd gyda'r Bedyddwyr Seisnig ym Myrtle Street, ond yn bur hoff o achub y cyfle i wrando pigion y pulpud Cymreig. Yr oedd yn ddyn gwir grefyddol, ac yn fawr ei barch gan ei gyd-weithwyr yn Compton House, lie y daliai swydd gyfrifol er's blynyddau. Fe'i cleddid ym mynwent y Pandy, ger Nant- clwyd.—R.J.O. Ddydd Gwener diweddaf, cleddid Mr. Thos. Evan Jones, 75 Chester Road, Birken- head, ym mynwent Flaybrick Hill, y Parch. S. G. Evans, B.A., yn gweinyddu. Brawd tawel, crefyddol ei fryd, yntau yn gadael gweddw a dwy eneth i alaru am dad a'u gadawodd yn 36ain oed. Brodor ydoedd o Dalysarn, a'i bedwar brawd a gludai'r arch at y bedd.-R.J.G. k I Gaergwrle yr aeth aelodau Eglwys Gymraeg Santes Gwenffrwd, Birkenhead, am eu hynt flynyddol ddydd Iau diweddaf a nifer o garedigion o'r tu allan gyda hwy. Caed arlwy gampus ar eu cyfer yn y Castle Dining Rooms (T. Edwards), lie y talwyd diolch gwresog i Mr. Aneurin Owain Roberts (Euston Grove) am ei lafur yn trefnu'r hynt mor llwyddiannus y Parch. Jacob Hughes (periglor) yn eynnyg, a'r Parch. Davys- Thomas, Eglwys Sant Deiniol (Lerpwl) yn cefnogi. Y mae'r BRYTHON a'i lygad yn agored i weled pwy o hiliogaeth Cymry Lerpwl sy'n ennill graddau ac yn dangos arwyddion disgleirio mewn dysg a chyrhaeddiadau. Da ganddo weled fod y pregethwr ieuanc Mr. R. P. Jones, Liscard Road, wedi ennill ei B.A. Prifysgol Cymru, ac fod anrhydedd uwch eto yn debyg o ddisgyn i'w ran. •5b Dyna Miss Grace Pritchard hefyd (merch Mr. William Pritchard, un o flaen- oriaid .Douglas Road), wedi pasio'r 1st Division yn arholiad Marticulation Prif- ysgol Cymru, efo ond hynny ohyfforddiad a gafodd yn syth o Ysgol y Sir, Bethesda. k Un arall ydyw Miss Nellie Williams (merch Mr. R. T. Williams, Rockfield Road)—hithau wedi pasio'r arholiad rhagbaratoawl i Brif- ysgol Lerpwl ac wedi ei hyfforddi yn y Girls' College, Grove Street; a Mr. W. R. Owen (mab Mr. John Owen, Anfield Road) yntau wedi pasio'r un arholiad, er mor ieuanc. k Rhwydd hynt iddynt oil ddal ymlaen, a disgleirio'n uwch eto ac os oes ereill nas clywsom am danynt, da gennym fydd eu crybwyll hwythau. Y mae Cymry'r Glannau yn llawen wrth glywed mai Mr. E. J. Griffith, yr aelod tros Fon, ydyw Recorder newydd Birkenhead ac yn mawr. hyderu y gwelir ac y clywir ef o'r herwydd yn fynnych yn ein plith o hyn allan mewn cysylltiadau cenedlaethol a gwleidyddol.
Plant y Pentre.
Plant y Pentre. Ymysg ein lliaws corau plant Cymreig, saif Plant y Pentre ymysg y goreuon. Mae eu cyngherddau blynyddol, ac ar achlys- uron ereill, yn cael eu cydnabod gan y beirn- laid yn rhai uwchraddol iawn ac y mae'r gwobrau a gipiasant yn Eisteddfodau Cymru a Lloegr yn dystiolaeth uchel. Trwy offeryn- oliaeth eu harweinydd hefyd y sefydlwyd Eisteddfod y Plant fu mor llwyddiannus ddydd Llun y Pasg diweddaf. Bwriadant fyned i Abertawe i'r Eisteddfod Genedlaethol yr wythnos nesaf, ac er eu galluogi i fyned, rhoddant gyngerdd yn addoldy y Bedyddwyr, Everton Village, nos yforu (nos Wener). Prif ran y cyngerdd fydd y gantawd brydferth Plant y Nefoedd,' y geiriau gan Dyfed, a'r gerddoriaeth gan Dr. Dan Protheroe. Agorir gyda dwyawd gorawl brydferth, Y Nefoedd yw ein Car- tref," ymha un y llwydda'r awdwr i ddangos allan yr hapusrwydd hwnnw gyplyswn a'n rhai anwyl sydd wedi croesi'r afon. Dilynir ag unawd gan un o'r plant, a ofynna i'r rhai sydd fry roddi eu hanes tra yma ar y y ddaear. Rhoddir yr hanes mewn dull effeithiol gan bedwarawd, Mary, Eunice, Moses, ac Abram, "Adroddwn ein hanes i chwi." Yna can Abram am addewid y Goruchaf mewn unawd o fawl, a dilynir gan Moses, yn adrodd ei hanes pan yn faban. Ar ol hyn, ceir triawd tlws anghyffredin (triawd yr angelion), Nyni fu'n gweini arno," ac os gellir gwahaniaetliu, mae hwn yr ysbrydiaeth fwyaf hapus mewn gwaith hapus. Rhydd MairTrai o'i hadgofion am Bethlehem, ac amjsHerod a'i fryntni, a dilynir gan gydgan o lawenydd fod ei allu ef wedi ei ddifa., ac fod wylo Rama wedi darfod. Gorffennir y rhan gyntaf gan ddeuawd gorawl: 0, ddedwydd fraint, mor ogoneddus yw, Byth gyda'r saint, yn blant yn nheulu Duw, Mae hyfryd hedd yn awyr bur y wlad, A bythol wledd i ni, yn nhy ein Tad." Cynhwysa yr ail ddarn ddarnau o'r un dyddordeb a'r cyntaf, gan roi eglurhad Dyfed ar y bywyd yn nheyrnas gwynfyd, bywyd o gan a mawl, o gariad diddiwedd a gogoniant tragwyddol. Mae wedi ei ysgrifennu i blant, ac nis gall lai na rhoddi boddhad i'r datgeiniaid a'r gynulleidfa. Cenir darnau ereill swynol a chymwys i blant yn ystod y cyngerdd, ac yn eu mysg y prawf-dda,rn yn Abertawe, Y Nant a'r Blodeuyn (T. Price), a'r geiriau gan Elfed. Bydd y cyngerdd drwyddo yn sicr o fod yn uwchraddol, a gobeithio y cyrhaedda ei amcan yn sylweddol. Mawr fydd yr ymgiprys yn Abertawe, gan fod 31 o gorau yn cystadlu. Lwc dda i chwi, Blant y Pentre," a chwithau Gymry'r Glannau, ewch i'w clywed ar bob cyfrif. 15b
Priodas y Parch. W. Roberts,
Priodas y Parch. W. Roberts, TRINITY ROAD. Dydd Mercher diweddaf, yn Salem, Porth- madog, priodwyd y Parch. W. Roberts, gweinidog yr Anibynwyr Cymreig, Trinity Road (Golborne gynt), a Miss M. E. Newall (Mair Gwynedd), Porthmadog. Gwasanaeth- wyd gan y Parch. W. J. Nicholson a'r Parch. Ross Hughes, Borthygest. Y morwynion oedd Miss Button, Llunden, a Miss Horteuse Newall, Porthmadog a'r gwas ydoedd y Parch. H. R. Williams, Colwyn Bay. Gwas- anaethwyd wrth yr organ gan Miss Maclean. Addurnwyd y capel gan gyfeillesau y briod- ferch a blodau amryliw, rhedyn, &c. Cyn- haliwyd y neithior gan Mrs. Newall (y fam), yn y Sportsman Hotel, pan yr oedd yn bresennol y Parch. W. a Mrs. Roberts, Parchn. W. J. Nicholson, Ross Hughes, J. Foulkes (Tabor), H. R. Williams, Mr. a Mrs. Newall (Central Buildings), Miss Horteuse Newall, Misses Annie a Maud Button (Llun- den), Mr. R. Newall(Chicago), Misses L. ac A. Williams (Chwilan, Tregarth, Bethesda), Mrs. Roberts (Bala), Miss Myfanwy Newall (Croydon), Miss Cooper (Porthmadog), Mrs. E. Williams (eto), Miss Pughe (Penmount), Mrs. O. Jones (Bank Place), Mrs. Nicholson, a Mr. Williams (Bodfan Stores). Gadawodd y par yn gynnar yn y prydnawnram Winder- mere, lie y treulir y mis mel. Derbyniwyd yr anrhegion a ganlyn Bridegroom to Bride, diamond and ruby brooch; Bride to Bridegroom, dressing case; Bride's Mother, feather bed and tablecloth; Mr. & Mrs. Richard Newell, Central Buildings, silver tea pot and silver hot coster jug Miss Horteuse Newell, silver fish carvers Miss A. E. Button, hand painted glass and brass .fire screen Miss C. E. Button, silver jam dish and spoon; Miss Maud Newell Button, hand painted fruit dish in silver stand Mr. & Mrs. Button, London, Dalton tea pot and hot water jug Capt. & Mrs. Jones, 4 Bank Place, silver rose bowl; Mrs. Pughe, Penmount, old fashioned tea pot; Miss M. J. Pughe, Penmount, glass and silver marmalade jar Mrs. Nicholson, half-doz. silver tea spoons Rev. and Mrs. D. J. Williams, Memorial Church, Honiton lace side board cloth; Miss Katie Williams, The Madse, tray cloth Mrs. Maclean and family, Bank Place, 6 embroidered hem-stitched pillow slips Mr. & Mrs. Jas. Jones, rosewood tea tray Miss Lloyd, 120 High Street, flower pot; Miss Hammond, drawn thread afternoon tea cloth Parch. R. R. Parry, Llangollen, silver match stand; Mrs. Roberts, New Shop, fruit dish Mr. & Mrs. Bonner Thomas, tea pot stand; Miss May Jones, Alpha, knitted tea cosy; Miss Morris, Forest Villa, Newtown, travelling rug; Mr. J. Morris, Brownlow Hill, Liverpool, eider down quilt; Mrs. Williams, High Street, sugar and cream stand Mrs Griffith Williams, Portmadoc, old fashioned vase; Mr. J. J. Thomas, Watchmaker, silver sugar bowl and cream jug Misses Blodwen and Dilys Roberts, table cloth Miss Jones, Alexandra Hotel, flower vases Mr. & Mrs. Morris, Berkley Street, Liverpool, silver toast rack Mr W. E. Morris, Chemist, Y Mabinogion Mr. Rees, High Street, silver butter dish; Mr. & Mrs. Roberts, Bodlondeb, Bala, silver fruit dish; Mr. Ellis Roberts, Bodlondeb, Bala, silver salt cellars and spoons; Mr. & Mrs. Newell, Croydon, silver photo frame; Misses Nance and Rose Cooper, worsted china and silver tea caddy Mrs. Llewelyn Davies, tray cloth; Miss Timothy, Porthmadog, hand-worked d'oyleys; Miss Winnie Lloyd, High JStreet, view in frame Miss Paul, silver sugar sifter; Mr. J. Williams, Bodfan Stores, fruit dish in silver stand: Dr. Samuel Griffiths. cheque; Rev. Henry R. Williams, Colwyn Bay, pair of pictures; Mr. and Mrs. Lloyd Williams, Duffws, solid silver tea tray Messrs. Peter Williams & Co., Paradise Street, Liverpool, handsome gold clock and ornaments Misses L. and M. Williams, High Street, old china dishes Mr. and Mrs. J. O. Hughes, leather hand-bag. Ac fel hyn y canodd cyfaill :— Chwi droisoch, frawd, a throi ymysg Cain flodau y ddynoliaeth Eich sylw ddenwyd at ryw un Ganfyddech bron yn berffaith. A minnau, gyda chalon bur, Wyf yn dymuno'ch llwyddiant, I dreulio oes dan wenau'r Nef, A'ch diwedd yn ogoniant.