Welsh Newspapers
Search 15 million Welsh newspaper articles
6 articles on this Page
Nodion o Fanceinion.
Nodion o Fanceinion. [GAN CYFRIN] Cynhaua Gwobrau. WEDI yr el Eisteddfodau heibio, prinion lawn yw y gwobrau a ddaw i ran ein cenedl yn y dref hon. Dibynwn yn ami ar gor Kieibion Orpheus i gadw ein clod i fyny, ond y mae hwnnw yn bresennol yn rhy brysur yn dysgu darnau cerddorol gogyfer & chystadleuaeth Blackpool i ymgeisio yn unlle arall. Nid diffyg talent ond diffyg ymgais gadwodd Manceinion ar ol yng nghys- tadleuon Awst y tro hwn. Daw rhai o wobrau Eisteddfod Corwen yma bob blwydd- Yn, a llongyfarchaf Miss Rhoda Jones yn ennill eleni. Un o aelodau c6r Mr. Gwilym R. Jones yw hi, ac y mae'n gantores fwyaf gobeithiol ein cyngherddau. Gall ganu am ddim yn gystal a chanu am aur. Yr oedd Mr. Johnson, Booth Street, yn feirniad celf yng Nghorwen hefyd. Enillodd mor ami yno wrth gystadlu fel y gosodwyd ef ar y fainc farnol. Dylai pob un all ennill deir- gWaith yn olynol mewn cyfeiriad neilltuol gael bod yn feirniad am dro wedi hynny mop-bell ag y gellir. Cynhaua Rhoddion. Cwblhawyd casglu y cyfraniadau ac elw y gwerthiant ynglyn a Sale of Work fechan Gore Street. Er na chwysodd neb wrth Weithio, ac nad oedd y nod yn uchel, mae yr elw yn £ 105. Cyrhaeddodd y swm uwchlaw uisgwyliad y mwyaf ffyddiog. Gobaith cryf y Parch. Tryfan Jones kwbiodd y gweith- rediadau mor galonnog. Cynhaua Ffydd. Mae ystafell genhadol newydd i Gymry -cailsworth yn cael ei hagor y Sul olaf o'r Inis, a'r nos Sadwrn blaenorol. Dotiwn glywed am ychwanegiad yn rhif ein synagog- au. Bydd amryw bregethwyr yr Anibynwyr yn gwasanaethu, a chor Cymreig Oldham yn moliannu ar gan. Wlad. Un o ddigwyddiadau mawr yr Hydref *ydd cyfarfodydd dirwestol yr Alliance. Mae yr Anrhydeddus Lloyd George wedi &ddo bod yn bresennol. Dechreua'r Saeson "Vyrymwrthodol gynhyrfu'r d$r yn barod gan chwenych bendith. Gobeithio y ceir ^ipyn o symbyliad i'r cylch Cymreig. Mae gan yr eglwysi eu Band of Hope yn gwneud gwaith da i gynorthwyo meddyliau plant i 8YIweddoli daioni dirwest. Mae Cymdeithas dirwestol y Merched wedi estyn ei changhen- 9-u cysgodlon yma yn hir. Mae cymdeithasau rhrestol ereill wedi mynd a dod droion, a rhai yn wyrdd o hyd. Colled i Gymdeithas Merched Gogledd ^ymru yW ymddiswyddiad Miss M. C. Ellis, "■■A., ar ol chwe blynedd o wasanaeth fel Un o'r ysgrifenyddion. Wrth daflu cipdrem dros orffennol ein symudiadau dirwestol, rhaid addef mai ychydig iawn yw ffrwyth y cymdeithasau yn ?ln plith. Mae cannoedd o aelodau eglwysig arwyddo yr ardystiad. Tynnu gwaed Pgarreg yw ceisio gan lawer wneud hynny. •^ld yw miri dirwestol dros dymor ond megis ^mdarddach drain. Gydag ambell sym- byliad arbennig, fe geisir palmantu ffordd Newydd, ond buan iawn y tyf chwyn a llysiau yd-ddi, ac ychydig fydd y rhai a barhant dramwyo y ffordd honno, oddigerth y ai'areai(i o'u mebyd. Clywsis hen stori am glychau Gwrecsam, a gall fod, fc1 llawer stori arall, mor wired a Phader swynwr. Rhyw dro yn hanes y ^ychau, fe flinodd un ganu, a chraciodd. anfu'r hen glochydd yr anffod, ac ni wyddai y byd beth i'w wneud y Sul dilynol. "Hioddodd ei feddwl dyfeisgar ar waith, a chan mai crydd oedd, ac yn falch o'i grefft, Penderfynodd wneud cloch ledr, gan dybio k gwnai y tro hyd nes cael un iawn. Gweith- *°dd yn galed hefo'i gyllell, ei fynawyd, a'i ,myn cywarch, gorffennodd y gloch, hongiodd yn ei He, a bore'r Sul dilynol canodd y yphaii rywbeth yn debyg i "ding-dong-fflop.' -pelly yn union y mae gyda Dirwestiaeth cylchoedd Cymreig. Fe ddeil rhai i ?,ariu ymlaen ar hyd y blwyddi, ond mae awer o newydd-ddyfodiaid ar ol ardystio cloflfi eu hunain ac ereill, ac ymhen gronyn a°h ar ol rhyw stir nodedig, bydd y gan yn mynd yn ding-dong-fflop." --0--
PULPUDAU MANCHESTER.
PULPUDAU MANCHESTER. SABOTH, AWST 18, 1907. \r Y Methodistiaid Calfinaidd. S^ss SIDE—10-30 a 6-30, E. Wyn Roberts r«NDLBTON—10-30, E. J. Jones, 6, H. E. Griffith, t, Croesoswallt ST—10-30. H. E Griffith, 6, E. J. Jones, j, Caernarfon Arkwigk—10-30 a 6 j, Y Bedyddwyr. I ftx ^BDLOCK ST—10-30 a 6, J,H.Hughes It GSIGHT.-I0-30 a 6, OBINS LANE, SUTTON—10-30 a 5-30, Yr Anibynwyr. C«OTH ST—10-30, R. Roberts, 6-15, T. J. Rees 84 0 LTO RD—10-30, T. J. Rees, 6, R. Roberts 0^LPORD__10_30 a 6, W. W. Jones RD—10-30 a 6, G. Evans ILS 0 T. -10-30 a 6, UCI^S—i0-30 a 6, j. Yr Eglwys Sefydledig IlJWr SANrr-11 a 6-30, H. R. Hughes
Advertising
CEINION CUDD. Adgofion.. ^iraethog AM,Y PARCH. Michael Roberts, PWLLHELI. 6ch Mewn Llian hardd. Is. 6ch Wedi eu rhanu fel y canlyn y y^iniad. l—Adgofion y Bachgen. 2—Adgofion anc. 3—Yn y Gymdeithasfa, 4—Y Tymor Tywyll. 5—Y JDiwedd. gyiyr?f Chywydd o waith yr awdwr, yn disgriflo'r Efen 'anrwstTIW^n e' 0 fawr yng Nghymdeithasfa oes ond ychydig gopiau ar lawr, a dylai y adymuno gael copi, anfon ar unwaith. Cyhoeddedig gan HUGH EVANS, 356-358a & 444 Stanley Road, V LI^RPOOL.
IBEIRNIADAETHAIJ.i
BEIRNIADAETHAIJ. Cadair Corwen. Pryddest-" Delw Duw." NID rhaid wrth graffter mawr i weled fod testyn y gadair y tro hwn yn cynnyg cyfle ardderchog i fardd, ond yr un pryd yn gofyn cryn ofal i'w drafod yn farddonol. Mae y meddylfyd Cristnogol a diwinyddol heddyw yn fyw i'r athrawiaeth fawr sydd yn ganol- bwynt y testyn. Gwir nad swydd bardd yw darnodi, ymresymu, neu esbonio athrawiaeth, ond er hynny mae yr athronydd a'r diwinydd yn awgrymu llawer iawn i'r bardd. Ond wedi darllen y cyfansoddiadau a anfonwyd i'r gystadleuaeth, teimlwn fod rhai ymgeiswyr yn fwy o ddiwinyddion nag o feirdd, a'u golygiad o'r testyn yn rhy gyffredinol i gadw yn deg at ei syniad llywodraethol ac arbennig; ond mae ereill wedi dianc yn lied glir rhag y brofedigaeth. Argraff Pwy.-Arddengys yr ymgeisydd hwn gymaint o'r athronydd diwinyddol a neb yn y gystadleuaeth, a mwy o'r esboniwr. Y mae ei olygiad o'i destyn yn eang iawn, a thuedda yn rhannau cyntaf ei bryddest i ganu yn rhy gyffredinol. Dechreua gyda Delw Duw yn y cread, mewn cyfres o ben- hillion o'r fath yma Rhychwant yr eigion, Wawdia ymylon, Gydia eithafion, Sydd Ddelw Duw. Awyr ym mhobman, Heb iddo geulan, Poblle'n ganolfan, Sydd Ddelw Duw. Hefin gawodydd, I balas penaethydd, A bwthyn y mynydd, Sydd Ddelw Duw." Fel hyn yr a ymlaen am tua 70 llinell, nes y teimlir ei fod, rhwng y byrdwn a'r syniadau, yn dra undonog. Gallasai fod yn fwy gofalus yn netholiad rhai geiriau, a synnem gwrdd a'r pennill canlynol "Gorffwysodd Duw mewn Dyndeb, Cyrhaeddodd sedd cymundeb, Fethasai gael mewn deseb Dyna Ddelw Duw." Mae ganddo driniaeth feddylgar ar Ddelw Duw, yn sylfaenedig ar Phil. ii. 6, a Col.i. 18, ond y mae yn rhy ddansoddol a diwinyddol o ran ffurf, yn fwy traethodol na barddonol mewn arddull. Ar adegau, modd bynnag, ym- ryddha y bardd o rwymau y diwinydd, a chymer ei awen ehediadau eryraidd i uchter clir barddoniaeth ei destyn. Y gresyn yw na wnaethai hynny yn amlach. Ceir yma fardd meddylgar dan ormes yr athronydd a'r esboniwr. Dyma fel y terfyna Delw Duwi mi yw caru Os yw arnaf, gallaf ganu Wedi croesi rhyd y dwr, Mwy na'r ddelw-Dacw'r Gwr Onesimus.—Pryddest wedi ei rhannu hyd seithwaith sydd ganddo ef, a darn o Ysgrythyr uwchben pob rhan. Mae hi yn feddylgar a choeth, ac yn llawer mwy syml a gloew ei harddull nag eiddo Argraff Pwy. Nid yw golygiad y bardd o'r testyn yn nodedig o newydd, na'i syniadau yn gyffredinol yn meddu fawr o feiddgarwch a newydd-deb. Gollyngodd o'i law rai Uinellau clogyrnaidd eu mydr, llac eu harddull, a lied amwys eu mynegiad :— Ac angau daear fyddai caniatad I edrych yn ei wyneb." Ond delw y Duw byw yw'r oil i mi." Gwybodaeth heb ei dysgu ydoedd hon, A dderbyniasai ef yn swm o Dduw. Ai tybed y cyfennir yr hen rwyg ? A ddaw y teulu eto i'r hen ddrych ? Yn y mesur di-odl y canwyd y bryddest hon agos i gyd, fond gwelir nad yw rheolau y mesur hwnnw yn cael eu cadw yn y dyfyniad- au blaenorol. Eto, ar y cyfan, cyfansoddiad da yw hwn Cwrddwn ynddo ag ami linnell lawn o feddwl barddonol, ac ar y testyn. Nodweddir ef gan gywirdeb ac urddas,. ac y mae cyd-ddilyniad cyson yn ei syniadau, a'i amrywiol rannau yn ymuno mewn cyfan- waith cymesur a theg. Ei ddiffyg pennaf yw newydd-deb ac eneiniad awenyddol. Addolwr ar ei Ddeulin.-Byr yw ei gyfan- soddiad ef, a lied anghymesur gyda hynny- tua 170 llinell ar Ddelw Duw yn y greadig- aeth, tua 100 ar Ddelw Duw mewn dyn, a thua 70 ar Ddelw Duw yng Nghrist. Cana mewn hwyl awenyddol a defosiynol ar hyd y ffordd. Gallasai fod yn fwy newydd a graenus mewn mannau. TueKId at arddull rhigwm sydd mewn darn fel hwn, er cystal ei ddefosiwn Drwy'r olygfa fendigedig Methaf sefyll ger ei fron, Rhaid ymgrymu'n ostyngedig I'w addoli'r funud hon." Mae ganddo ddarn cryf ar y Cread, ond prin y ceidw ei olwg yn ddigon clir ar arbemgrwydd y testyn. Rhy amherthynasol, ac anheilwng o'r rhannau helaethaf o'r gerdd, yw y pennill canlynol Tremiaf dros y moroedd mawrion Sydd yn berwi i'w dyfnderau, Ond er maint eu tonnau creulon Trengant oil ar fin y glannau Ac yn nhranc y tonnau gwylltion Gwelaf fod goruwchnaturiol Yn ymddangos ar yr eigion Yn ei allu rheoleiddiol." Cana yn dda ar Ddelw Duw mewn dyn, ac yn y Crist, mor bell ag yr ä. Teimlwn ei fod yn helaeth lie y galtasai gwtogi, ac yn brin lie y dylasai fod yn helaethaf. Ym- ddengys y gwaith fel cynnyrch calon awen- yddol ac addolgar, ac un yn canu allan o gyflawnder ei brofiad, ond heb gymeryd fawr o bwyll i ystyried mai ar gyfer cystadl- euaeth eisteddfodol y cyfansoddai. An- fynnych y ceir yma ddim amwyster, ond y syniadau, er nad yn newydd na beiddgar, yn loew fel grisial. PEDITO(X, BERW. (I barhau).
Cadair N ewmarket.
Cadair N ewmarket. Pryddest-" Ni lefarodd dyn erioed fel y dyn hwn." RHAID addef yn onest mai cystadleuaeth siom- edig yw hon. Rywfodd, nid yw yftestyn fel pe wedi gafaelyd yn y cystadleuwyr. Paham, methwn ddeall. Tybiem ei fod yn destyn da i ennill yr awen i hwyl canu. Awn drostynt o un i un. Yr Eurych.-Y mae y bryddest yn!llawn o d6r-mesur. A fu yn darllen yn uchel linellau fel hyn ?- Ofn yr Iddewon felly heddyw sydd Yn rhwystro gwyr i iawn gydnabod Llais y Meistr. Rhyw gariad at y byd," &c. "I'w perchenogion,—ofn y llafur hefyd Sydd ynglyn wrth ddilyn Crist, sy'n llenu Llygaid llawer i'r goron gyd a'r groes." Os na ddywed ei glust wrtho nad oes mydr mewn llinellau o'r fath, y mae yn anobeithiol fel bardd. Albert.-Y mae hwn yn gwybod yifwell beth yw hawliau mesur. Ond y mae ei iaith yn dra chymysglyd. Beth olyga^wrth ddweyd :— Nid y llewyreh tanbaid Dysgeidiaeth nefol yn cael dyfnder daear.' Nid oes gennym un syniad beth yw ystyr geiriau fel hyn Ac mae ynddi saint yn bod Hen golofnau ei phabellau Sydd yn byw i gynnal clod Gwirioneddau'r arfaeth foreu." Dysgu symlrwydd yw gorchwyl cyntaf y cystadleuydd hwn. Addolwr.-Rhaid fod hwn wedi gwneud rhyw gamsyniad. 60 llinell yw'r oil sydd ganddo. Un o'r Wlad.-Nid yw yntau'n sicr a- ei fesur. Ond mae yn gwella wrth fyned ymlaen. Lied gyffredin yw ei bryddest o ran arddull a syniadau. Oswald Wyn.-Dechreua'n rhyddieithol iawn. Methwn weled un amcan o gwbl fynd a ni yn ol i'r Aifft at Pharaoh, pan y mae'r testyn ynddo'i hun mor gyfoethog. Pan ddaw at ei destyn, cana'n glir a deall- adwy, ond heb fawr o awen. Ymgeisydd.-Os oes raid i neb ysgrifennu Cymraeg o'r fath yma,- Cyn briodas tragwyddoldeb Y cyd sylwedd wnaed yn Air, Duw o Dduw-gwir lun ei Berson 'Nol ei briod ffurf ar liniau Mair "— paham na yrrid esboniad, i rywun wrth ddarllen gael rhyw amcan beth yw'r ystyr ? Nid yw gwneud yn Air yn Feibl na di- winyddiaeth. Nis gwn chwaith beth yw ystyr hyn :— Rhyw un gadwen faith o reidrwydd Achyddol oedd ei eiriau i gyd." Na hyn:— 'Doedd geiriau Crist ond megis ami ddyferion Hyawdledd i ddistawrwydd draethai stor i galon." Clywedydd.-Dyma ni eto wedi cael o leiaf rywbeth dealladwy. Y mae ganddo bryddest glir, a lied ddifrychau. Nid yw yn hedfan yn uchel, ond y mae, beth bynnag, yn gadael y llawr. Wrth Dy Draed-Pe buasai'r bryddest hon yn hanner yr hyd ydyw,—neu'n well fyth, yn hanner hynny drachefn,—buasai yn fwy ei gwerth o lawer. Fel y mae, casglwyd iddi o bob man, nes yw'r testyn yn fynnych wedi ei lwyr orchuddio, a'r darllen yn flinder. Y mae 21 tudalen o linellau meithion yn ormod os na fydd awen fyw ynddynt. Y mae yma gryn lawer o feddwl ac ysbryd yr awen, a phe crynhoid ei grym i lai o bwrpas, gallasai fod wedi llwyddo'n llawer gwell. Yn y Dyrfa.-Y mae swn bardd yng ngwaith hwn. Ond rhaid iddo fod yn fwy gofalus am bris ac ystyr geiriau fel derch," ysplandra," "merth." Tuedda'r arddull i fod yn rhodresgar, ac nid yw hynny yn gweddu testyn fel hwn. Gyda'r Ltanw.-Mae gan hwn eto ambell dor mesur, ac nid yw ei iaith yn hollol ddi- frychau, yn enwedig blinir ef gan y llythyren h." Ond torrodd lwybr mwy newydd nag un o'r Ueill iddo'i hun, a daeth o hyd i fwy o gyfoeth ei destyn. Gallwn ddilyn ei ystyr bob cam, a theimlo ei fod yn cael hwyl wrth ganu. Credadyn.-Pryddest lithrig, o ran amser ac odl yn lanwaith, ac o ran iaith yn eglur a naturiol. Nid oes lawn cymaint o gyfoeth y testyn ganddo a chan ei ragflaenydd, er fod y ddau yn lied agos yn hyn. Y mae ei odlau yn ei faglu, yn enwedig yn y rhai gyntaf. Er engraifft A gwae a feiddiai godi cri Am fri eu twyll a'u brad." 'Roedd gobaith eu heneidiau braidd 0 gylch eu gwraidd o hyd. A bod y gwir sy'n harddu'r tir Yn cyrchu at y nod." Beth bynnag, credwn am dano e' fel bardd ei fod yn cyrchu at y n6d," er nad yw wedi cyrraedd eto. Bartimeus.-Pryddest ddirodres a dymunol ond fod ei chynllun yn hynod gymysglyd. Paham yr aeth ar ol yr Hindw, ac yna yn ol at Herod ? Nid yw'r darnau yn cydio wrth eu gilydd yn daclus. Yn awr, pwy sydd gennym yn tynnu at y blaen ? Credwn mai i'r ail ddosbarth y perthyn y chwech uchaf. Y mae gan Credadyn amryw linellau prydferth, ond anaddfed yw yma a thraw. Pe caem ddewis y darnau perthynasol o bryddest "W rth dy Draed," buasai gennym gyimyrch go dda. Nid yw Gyda'r Llanw," fel y aywedwyd, heb ei fan frychau ond hwn sydd wedi cyffwrdd a'n calon fwyaf. Buasai'n dda gennym gael cyfle i ganmol mwy ar yr holl gystadleuaeth, ond rywfodd teimlwn nad yw'r beirdd wedi cael hwyl y tro hwn. Beth bynnag, credwn mai Gyda'r Llanw yn sicr yw y gore, ac iddo ef y dyfernir y wobr. ELFED.
Advertising
Eisteddfod Llangollen- R.hestr gyflawn y testynau yn awr yn barod. ac i'w chael, pris 6ch. drwy'r post 7Jc, gan Evans, Sons & Foulkes, Swyddfa'r Brython." IF YOU WANT SEASONED Oak, Mahogany, Birch, Black Walnut. Ash. White Wood, Pitchpine, Yellow Pine, Doors or Mouldings WRITE LEWIS ROBERTS, 19 STANLEY ROAD, LIVERPOOL. Undeb Ysgolion M.C. CARDIAU SAFONAU, RHAGBAROTOAWL HYD SAFON Y 9fed, I'w rhoddi yn nwylaw y plant, yn dangos iddynt y Maes Llafur, Darllen a Dysgu Allan am y flwyddyn. Pris (assorted) 3/6 y Cant. I'w cael gan HUGH EVANS, 444 Stanley Road, Liverpool. Maes Llafur Undeb Ysgolion M.C I rai dros 21 oed Llawlyfrar Efengy", Matt. —15 gan y Parch.W. Williams, Hirwaen. Pris, 1/3 I rai dan 21 oed-Gwerslyfr ar Efengyl Matt., 1-15. gan y Parch. W. Williams, Rhostryfan. Pris, 2c. Ar worth gau. HUGH EVANS, Llyfrwerthwr, 444 Stanley Road, ESTABMSHED 1876. WILLIAMS & HUGHES, LADIES' & GENTS' TAILORS, 21 Brunswick Road, Tel. 0778 Royal. LIVERPOOL. Ys'is. OWENS & CO., Office & Shop Fitters, DECORATING, PLUMBING, GASFITTING, &c And all kinds of Jobbing, 24 Hart St., London Road, LIVERPOOL. m P. Neil Campbell, 84 DURNING RD. L"tt. (Yn agos i Goleg Hyfforddiadol Edge Hill), -# LIVERPOOL. TYNNU DANNEDD YN qP DDIBOEN. I A'u Ilenwi ag Aur, Arlan u yn y blaen. wjr Rhoddir Cyfarwyddyd a phritiam V, yn rhad. Orlau: 9 y bore hyd 8 yr hwyr. ç,d' Gweinyddes at Foneddigetmu Pellselnyr 445 Royal. Y DULL AMBittlCANAIDD O. ? Goroni a L Phontio Dannedd. Jones' Hotel (Established over 100 years). Suffolk St., Pall Mall, London, (Adjoining Trafalgar Square.) Successors to Mr. Roberts, Thanet Place. Telegraphic Address Pleasant,' London. Proprietor-11. R. JONES. The Well=Known Remedy from Wales for 41 RHEUMATISM, LUMBAGO, SDIATIOA BACK-ACHE, WEAK CHEST, SOBE THROAT, BURNS, CUTS, BRUISES, &c., is MORRIS EVANS' HOUSEHOLD OIL. Sold in Bottles, I/li, & 2/6, by Grocers and Chemists, or from the undermentioned Lancashire Rr-prcsentative- EDWARD R. HUGHES, „ 13 St. Michael's Road, Liverpool, S. Agent- LEWIS JOB LEWIS, 20 Verulam St., Lpool. Book of Testimonials, &c., sent Post Free on Application to the Manufacturers- Morris Evans & Co., FESTINIOG, N. WALES Testynau Eisteddfod Llangollen.- RHESTR GYFLAWN Y TESTYNAU YN AWR YN BAROD, AC I'W CHABL, PRIS 6ch., DRWY'R POST 7 £ c., GAN EVANS, SONS & FOULKES, SWYDDFA'B BRYTHON." CERDDOROL, &c. The Cambrian School of Music, Liverpool Principal MR. John Henry Roberts Mus. Bac. (Cantab.), A.R.A.M., F.T.S.C. (London). ASSISTED BY QjU A L I F I ED a PROFESSORS a do A The Branches taught include- Pianoforte, Organ, Violin and all Orchestral Instruments. Theory of Music, Harmony, Counterpoint, Fugue, Composition. ,a ol Solo Singing 6 Voice Production. Students Specially Prepared for. Local Examinations. POSTAL LESSONS In Harmony, Counterpoint, Fugue, Composition, Accoustim, in all Tonic Sol-Fa College Subjects. MUSICAL COMPOSITIONS REVISED AND CORRECTED. Full Particulars from- J. H ROBERTS, 149GROVE ST., L'POOL; Mr. HARRY EVANS (Fellow of the Royal College of Organists) Conductor of the Liverpool Welsh Choral Union Teacher of Singing ALSO ORGAN 6 PIANOFORTE (ADVANCED). Students prepared for Degrees and Diplomas ADDHJCSS 26 Princes Avenue, LIVERPOOL THE LATEST SUCCESS. ROBERTS' WATCH ME I ROiNOME A combined iVatch and Metronome. All tempos seen at a glance. No adjustment re- quired. Nothing to get out of order. Every musician, whether Student, Singer, Teacher, Organist or Conductor, should possess one. TESTIMONIALS- •'A great acquisition to musicians." "Simple; useful, and portable." "Most ingenious and handy.' Veryfgood idea, the best I have seen." "Most useful on account of its simplicity and portability." A most valuable little thing, quite unique, ex- cellent." PRICE 15/- [postage extra] To be had from the inventor and patentee Dr. R. D. GLYN ROBERTS .4 59 Crawford Avenue, Liverpool. OS OES GENNYCH Swllt DaacAnwyd Drwg Gellwch gael ymadael a'r ddau drwy brynnu potel o Prysor-Jones' lUNG BALSAM, Y Feddyginiaeth at ANWYD, PESWCH CRYGNI, DOLUR GWDDF, &c. Os cymerir dogn gydag ychydig o ddwfr cynnes cyn myned i orffwys, fe gynhesa y frest a sicrheir NOSON DDA. Parotoedig yn unig gan D. PRYSOR-JONES (Olynydd i S. K. Drew), Fferyllydd, 291 Park Road, LIVERPOOL. Moses: O'R CAWELL A'R MOR COCH, Drama Gymraeg at wasanaeth Gobeithluoedd, &c. Gan PEDR HIR. Cyhoeddedig gan HUGH EVANS, Swydd fa'r Brython, Lerpvel. II Pris, 3c. ø