Welsh Newspapers

Search 15 million Welsh newspaper articles

Hide Articles List

10 articles on this Page

---Belfast.

Y Glowyr.

General Booth a gweithwyr.

Advertising

Beirniadu'r Adrodd ym Mhwllheli,

Beirniadu'r Corau yn Newmarket.

GLANNAU'R GLWYD.

News
Cite
Share

GLANNAU'R GLWYD. Pandy Williams. Y NEWYDD prudd a gai fwyaf o sylw yn y Rhyl nos Sadwrn ydoedd marwolaeth y Parch. J. Pandy Williams. Ni chafodd ond ychydig ddyddiau o gystudd, ac ni wyddid fod perygl-hyd fore Sadwrn. Gwelwyd ef allan yng *nghwmni ei frawd, y Parch. Rhondda Williams, ddydd Mercher, ac ym- ddanghosai yn ei gynhefin iechyd. Pan ddaeth y newydd, yr oedd yr anodd sylwedd- oli farw un oedd mor fyw yn y dref. Er na bu yn y dref ond ychydig dros ddwy flynedd, gwnaeth waith mawr. Daeth i fugeilio eglwys oedd ar fin tranc, a'i haelodau, lu mawr ohonynt, wedi gwasgaru megis defaid wedi eu tarfu. Dechreuodd weithio o ddifrif ar unwaith, a thrwy y swyn naturiol oedd yn ei draddodiad hyawdl, a'r newydd-deb a'r bywyd ddygodd i'r gwasan- aeth, tynnodd y gwasgaredigion yn ol, adeiladodd yr eglwys, ac yr oedd cynulliadau mawrion yn gwrando bob Sul. Bwriadai wneud gwaith mawr yn ystod y gaeaf nesaf, yr oedd ganddo gynlluniau lawer. Ond bu farw yn eu canol, noswyliodd yng nghanol prysurdeb yr haf. Y tro diweddaf y gwelsom ef,gofidiai am nas gallai gydsynio a'r mynnych alwadau i fyned oddicartref a dderbyniai. The old trumpet must stay at home," meddai. Ond daeth galwad nas gallai wrthod, ac er prysured oedd, yr oedd amser i farw. Mor dlws y dywed Elfed Ond rhaid marw ddydd cynhaeaf, A rhoi'r cryman lawr Rhaid i ddyn pan fo brysuraf Gwrdd a'i awr. Rhaid i'r beddrod gael ei ddiwrnod Yn wythnosau'r byd Fe geir awr gyfleus i drallod Unrhyw bryd. Erys, er i'r gweithiwr farw, Ei lafurwaith ef Son am dano mae pob erw Wrth y nef. Aed ei elor heibio'n araf Dan yr amwisg ddu, Ond fe ddywed ei gynhaeaf,— Gweithiwr fu." Y ddimau i Dduw. Priodol iawn y geilw rhywun sylw at y nifer o ddimeuai a cheiniogau a roddir yn y casgl- iad yn addoldai y dref. Yr oedd Eglwys St. Thomas yn llawn yr wythnos i'r diweddaf, ac yr oedd hanner y gynulleidfa yn ymwelwyr, a chyfrifwyd 659 o ddimeuau a cheiniogau yn y casgliad. Yr un dydd, yn addoldy y Wesleaid Seisnig, yr oedd cynulleidfa drws- iadus o oddeutu 900 a gadawsant yn y casgl- iad 424 o ddarnau o bres, a 152 o dair ceiniog- au. Mae yn debyg mai yr un yw hanes casgliad pob addoldy arall yn y dref. Y mae gweled boneddiges sidanog a gemog, neu foneddwr modrwyog, yn rhoddi offrwm ceiniog neu ddimai yn peri i ni feddwl am Ffug-foneddwr Glanffrwd, ac Yswain Dime Mynyddog. Dyma y dosbarth an- hawddaf eu boddhau yn y bregeth yn fynnych Cwynai boneddiges yn ddiweddar wrth ddychwelyd o'r capel fore Sul mai pregeth wael ryfeddol gafwyd y bore hwnnw, pryd y dywedodd crwt oedd wrth ei hochr, Beth oeddech chi yn ddisgwyl gael am geiniog, modryb ?" Ofnwn fod llawer o waith diwygio ar y byd cyn y gellir cynnal achos gyda rhoddion gwirfoddol, oherwydd y mae yn ein plith lawer o deulu y wraig y clywsom am dani yn ddiweddar. Pan ofynnodd ei gwr iddi pa faint oedd i roi yn y casgliad, dywedodd, Os bydd Mrs. Jones yr Hafod yn edrach, rhowch chwe cheiniog, ond os na fydd, bydd ceiniog yn ddigon. Y mae yn dda gennym gael llongyfarch Miss Elsa Richards, merch ieuengaf y Parch. Robert Richards, Rhyl, ar ei llwyddiant yn pasio y Trinity College of Music, London, Examination ar chwarae y berdoneg. yn ddiweddar. Nid yw Elsa ond 10 oed, ac y mae wedi llafurio o dan anfanteision mawr oherwydd anhwyldeb ar ei llygaid. Gyda Miss Richards, Private School, Porthmadog, y bu'n bupil, ac y mae ei llwyddiant yn glod mawr i'r foneddiges honno. Bedyddio AKawehweh. Dydd Sadwrn wythnos i'r diweddaf, cymerodd bedydd a dynnai lawer o sylw le yn eglwys St. Thomas. Plentyn i bennaeth y Dahomey Warriors, sydd yn chwarae yn Ffair y Byd, oedd y baban. Yr oedd yr holl dylwyth du yno yn eu gwisgoedd brodorol. Yr enw a roddwyd yn faich ar y bychan du oedd Marcus Kitoie Akawehweh. Os bydd rhai o ddarllenwyr y BRYTHON eisieu enw persain i'w plant, dyma fo i'r dim. Y Parch. Thos. Lloyd (y ficer) a weinyddodd ar yr achlysur dyddorol. Yn y prydnawn cyn- haliodd y rhieni neithior yn y Ffair, ac aed trwy amryw arferion brodorol. Nid wyf yn siwr a gafodd y Dyn Gwyllt," y dyn sydd yn bwyta tan, a'r dyn sy'n bwyta hoelion a parafin oil wahoddiad i'r wledd ai peidio. Bu y Teachers' Nature Study Club ar wibdaith ddyddorol ddydd Sadwrn, Gorff. 30, yng nghymdogaeth Trelawnyd (New- market), o dan arweiniad Mr. Jones, Wynne's School, yn archwilio y Gop, a elwir weithiau Copa'r Leni (Cop y Goleuni), ogofau y gym- dogaeth, Ffynnon Wen, Eglwys a Mynwent Newmarket, a Ffynnon Asaph. Rhoddwyd anerchiad ar Henafiaethau y Fro gan Pedr Mostyn. Llongyfarchwn Mr. David Owen, Dinbych, ar ei lwyddiant yn Eisteddfod Llansannan. Nid oherwydd iddo ennill y gadair-oherwydd nid yw hynny nac yma nac acw i Dafydd —ond oherwydd teilyngdod eithriadol ei bryddest i'r Gwlith." Y mae mor loew a'r testyn.

LLENYDDOL.

NOD AC ESBONIAD.

Advertising