Welsh Newspapers

Search 15 million Welsh newspaper articles

Hide Articles List

8 articles on this Page

Cysgodau y Blynyddoedd Gynt.

News
Cite
Share

Cysgodau y Blynyddoedd Gynt. GAN GWYNETH VAUGHAN. PEN NOD XVIII.—Y WELEDIGAETH (Parhad). CLYWCDD C'eridwen'Rhvs'ryw swn yn siarnber ei merch, a gwaeddodd enw Tegwen ddwy waith neu dair, ond heb gael un ateb. Tyb- iodd fod rhywbeth o le, a goleuodd ei chanwyll frwyn, a ffwrdd a hi tuag yno. Er ei dychryn gwelai yr eneth yn gorwedd ar lawr yn ymyl y ffenestr ar ryw hanner ymddiosg. Aeth ei mam ati, a chododd hi yn ei breichiau, yna rhoddodd hi i orwedd ar ei gwely. Gwel- odd ei bod yn fyw, beth bynnag, i ddechreu felly gadawodd hi am foment ac aeth i alw ar Hywel Rhys. Ac yn fuan iawn yr oedd yntau hefyd yn y siamber fechan. Gan nad oedd yr un meddyg yn hen Ynys y Seintiau, meddai y gwragedd gryn lawer o gyfTyria.11 cartrefol, a chwareu teg iddynt, gwvddent yn lied dda hefyd sut i'w defnyddio. Ond rhywbeth newydd oedd gweled neb mewn llewyg yn Ynys Enlli. Er fod fmntio yn ffasiyriol iawn yrnysg merched o radd uchcl yr adeg honno, nis gwyddai merchod ffermydd Cymru ddim am y fath arferiad drwy dru- garecld, felly nid rhyfedd i Ceridwen Rhys ddychryn wrth weled ei mercli yn ddiym- adferth. Dychrynodd Hywel Rhys yn fwy fytli, ac ebe ef,- 'Roedd rhywbeth yn y mhricio i nad oedd Tegwen fel arfer pan oedd hi'n troi o gwmpas amscr swper. Rhaid i rhybuddio hi i beidio cario'r llaeth ar 'i phen o hyn allan. Weles i 'rioed fel mae plant yn rhoi gormod o bwysa ar 'n cyrff gwaetha dyn yn 'i ddannedd." Hist ebe ei wraig, mae hi'n agor 'i llygaid estynnwch y diferyn yna i mi, Hywel." Ychydig o win yr ysgaw neu rider, fel ei gelwid gan wragedd y ffermydd, oedd y diferyn y gofynnai Ceridwen Rhys am dano, a rhoddodd ychydig ar lwy do amryw weithiau ohono i'w merch. Edrychodd Tegwen o'i chwrnpas yn wyllt, fel pe yn chwilio am rywbeth nas gwelai, ac yna gofynnodd,— Lie mae'r tan a'r cwbwl, mam ? Aethon nhw i gyd i ffwrdd ? Oes yna ganu eto ?" Gan iia ddeallai Ceridwen 11a Hywel Rhys ddim yrighylch gweledigaeth Tegwen, tybias- ant yn naturiol iawn ei bod yn ddyryslyd ei synhwyrau, a cheisiasant ei thawelu goreti y gallent. Tynnodd ei thad y lien dros y ffenestr, gan yr ymddanghosai yr eneth yn syllu tua'r fan honno. Erbyn hyn codasai Elin y forwyn, wedi clywed y myned a'r dyfod o gwmpas y ty ac ymhen tipyn o amser daeth Tegwen yn weddol ati ei hun, cydrhwng effeithiau elder ei mam a'r teimlad o ddi- ogelwch roddai eu cwmni iddi. Rhaid i ti beidio cario'r gunog ar dy ben eto, Tegwen. Mi fyddai'n llai o lafur i bob un ohonoch chi o gryn lawer pe tae rhywun yn nol y gwartheg i'r fuches ucha yma, yn lie cario'r llaeth o'r fuches isa i fyny. Mi fydda'n fil amgenach. Mi fydda'n burion i chi drefnu felly, ddyliwn i." "Yn wir, Mistar, ynghred i ydi fod y lie yma wedi ei reibio byth er pan gollwyd y llong yma. Fuo dim sut 'run fath ar ddim. Mae pawb yn deyd fod yma ryw gatals o gwmpas o hyd. Dwn i ddim beth ydyn nhw, ond ma pobol yn meddwl bod nhw'n gwbod." Ddoi di byth i ben os ei di i wrando ar straeon pobol, Elin bach. Y peth gora i ni rwan wedi i Tegwen ddod ati hun ydi mynd i dreio cysgu tipyn eto. Well i ti [1,ros yn gwmpeini i Tegwen heno, Elin wedyn mi gei godi meistres pe tae hi yn cael rhyw d'rawiad tebyg eto, ynte ?" Ac felly fu. Ond ni chysgodd Elin yr un llygedyn, ebe hi dranoeth; Mynnai Tegwen roddi'r dillad dros ei phen, ac yna geisio hymian canu rhyw bennill nas gallai Elin wneud synnwyr ar y ddaear ohoni, ebe hi,- Rhyw godl am y trai a'r llanw a'r frenhines, a phetha felly. 'Roedd hi o betha'r byd fe pe tase hi wedi 'i witshio, a 'doedd arna i ddim llai nag ofn bod hefo hi. "Doedd dim posib i mi na neb arall gysgu yr un chwinciad, beth bynnag." Ac mae'n debyg mai dyna'r rheswm i'r ddwy godi pan ddaeth hi-yn ddydd, er ei bod yn fore iawn. U Gadawodd Tegwen cydrhwng Elin a goleuo y tan a pharatoi ar gyfer gwaith y dydd. Hwyrach y byddai'n fwy tebyg i mi fy hun, Elin, wedi bod allan am dipyn yn awel y bore." Ac ymaith a hi, gan gyfeirio ei chamrau tuag at adfeilion y fonachlog. Chwiliodd yn ddyfal am ryw fath o olion y gyfeddach a'r ddawns fu yno y noswaith gynt, ond ni ddaeth o hyd i un math o esboniad ar y dirgelwch a roddodd y fath fraw iddi, ac eithrio cylch crwn ac amryw gerrig gwynn-ion o'i ddeutu. Ac yng nghanol y cylch, gwelai fod y glaswellt wedi ei losgi hyd at y pridd. Syllai Tegwen arno fel pe o dan ddylanwad swyn gyfaredd a thra hi yn sefyll ac yn edrych ar y cylch crwn, gwelai rywbeth yn disgleirio yng nghysgod un o'r cerrig gwyn- ion. Penliniodd ar lawr, a chododd y garreg, ac er ei syndod gwelai fodrwy euraidd yn disgleirio. Cymerodd hi yn ei llaw,ac edrych- odd lawer arni. Gwelai ei henw ei hun wedi ei gerfio yn brydferth y tu fewn i gylch y fodrwy, ac oddi allan iddi yn berlau drud- fawr. Rhoddodd Tegwen y fodrwy ar ei bys, ac nid cynt y gwnaeth hi hynny nag y clywai sibrwd megis yn ei hymyl :— Eiddo fi ydwyt, Tegwen Rhys, Rhoddaist fy modrwyar dy fy(;" Tegwen, Tegwen, fy ngeneth dlos." Edrychodd Tegwen o'i chwrnpas, ond ni welii neb. Ceisiodd dynnu y fodrwy,Jond er ei braw ni ddeuai oddi am ei bys mor hwylus ag yr aeth am dano, ac er ceisio ei goreu, nid oedd dim yn tycio. Yno yr ymddanghosai y fodrwy wedi penderfynu aros, er yr oil a geisiai Tegwen druan wneud i'w symud. Clywai lais tyner yn chwerthin ac yn dweyd- Pan dynnir y fodrwy oddi am dy fys, Nis gelwir di mwyach yn Degwen Rhys. 0, beth a wnaf ? Beth sydd yn y lie yma Jiw dydd goleu fel hyn ?" ebe'r eneth yn llchel, a rhoddodd ei dwylaw ar ei hwyneb. Tra'r erys y fodrwy ar dy fys, Gwyn fydd dy fywyd di, Tegwen Rhys," ebe'r llais unwaith yn rhagor, ac ebe'r eneth Pwy sydd yna yn gwawdio geneth fel ti1" Y foment riesaf yr oedd rhywun yn ei chofleidio ac yn ei chusanu er ei gwaethaf. Gofynaist am danaf. Tegwen fy merch. A rhoddais it' gusan a ffarwel serch." Rhyddhaodd yr eneth ei hunan o'r breich- iau, oedd am dani a rhedodd tua'r Llety nerth ei thraed. Dydd neu nos, tybiai fod yr un drwg neu rai o'i weision o gwmpas. Ac ofnai droi ei phen yn ol rhag iddihithau, fel gwraig Lot gynt, gael ei throi yn rhyw- beth nas mynnai. Wedi cyrraedd y ty, ceisiai berswadio ei hun mai dychymyg oedd y cyfan, ond yr oedd y fodrwy ar ei 11 aw yn rhywbeth amgen na dychymyg, a chrynnai Tegwen gan ofn. (I barhau). --0--

Senedd y Byd.

Advertising

Colofn y Beirdd

CANt,"It GOGLEDDWYNT.

Y DAFARN.

BREUDDWYD.

Advertising