Welsh Newspapers
Search 15 million Welsh newspaper articles
16 articles on this Page
Advertising
NOW READY OFFICIAL LIST OF SUBJECTS Llangolien Royal National Eisteddfod, 1908. Price 6d. a Post 7-id. 2 EVANS, SONS 6 FOULKES, 1 Don Chambers, 8 Paradise Street, or 356a and 358a Stanley Road, Liverpool. CYNRIC, Y TEILIWR ø CYMREIG 0 14 S At A H T N K S S WITH E 0 O N O M Y RELIABLE TAILORING. NEWEST PRODUCTIONS IN SUITINGS TROUSERINGS AND RAIN-PROOFS AT REASONABLE PRICES ø E. C. KenricK, ø62 RENSMAW STREETS
_---------------r- TRM ! I…
r- TRM I TRWY Y DRYCH. j Y Gweinidog a Sosialaeth. TSTID ydym yn ol i neb yn ein cydymdeim- lad a, dyrchafiad y werin weithgar, a chredwn fod iddynt eto iawnderau teg i'w hawlio. Dioddefasant yn hir, ac ymladdasant yn ddewr, i sicrhau y di- wygiadau a gawsant eisoes ac nid awr yn rhy fuan fyddai y fory nesaf iddynt gael llawer mwy. Yr un pryd, yr ydym yn teimlo er's tro fod rhai pethau digon dibwynt ac anheg yn cael eu dweyd mewn ffordd o feirniadaeth, yn fynnych condemniad, ar y safle a gymer gweini- dogion yr efengyl gyda golwg ar bleidiau a syniadau neilltuol ynglyn a Llafur a Sosialaeth. Ac ar ddosbarth o'r beirniaid hyn y mae Trem y Drych y munud hwn. Nid ydym am hawlio i weinidog'unrhyw gysegredigrwydd amgen nagl|\inrhyw ddyn neu swyddog cyhoeddus arall, mor bell ag y mae beirniadaeth arno yn unynd. Y' mae yn was cyhoeddus, ac yn agored i farn y cyhoedd ar ei gyflawniadau. A diameu fod lie teg i feirniadu safle gweinidogion, yn gystal ag eglwysi a Christionogion yn gyffredinol, yn eu perthynas a chwestiynau cymdeithasol n, gwleidyddol. Credwn hefyd fod yn ddiweddar liaws mawr o arweinwyr crefyddol ein gwlad wedi eu hargyhoeddi fod yn rhaid i'r eglwysi, i fod yn ffyddlon i'r Efengyl ei hun, weithio allan yn fwy cffeithiol nag y gwnaed hyd yn hyn egwyddorion dysgeidiaeth yr lesu i gwrdd ag anghenion cymdeithas, ac am- gylchiadau cyffredin bywyd. Credwn ni, fel y dysgai Adam Smith, awdwr The Wealth of Nations, fod egwyddorion lesu o Nazareth yn gymhwysiadwy at anghenion y bywyd dynol yn ei holl berthynasau a bod cymdeithas lwydd- iannus yn amhosibl ond i'r graddau y ffurfir ynddi gyfraith Crist, ac y treiddir hi a'i ysbryd. Mor bell ag yr a, Sosial- aeth ddatblygedig o ddysgeidiaeth yr lesu, cyson mewn unrhyw weinidog fyddai ei chefnogi; a bod y ddysgeid- iaeth honno yn gwneud am ryddid a chydraddoldeb cymdeithasol nas ceir mohonynt hyd yn hyn, nid oes 'dim yr ydym yn sicrach yn ein barn ein hun am dano. Ie, cyn y gellir sicrhau yr hawliau hyn, credwn y bydd raid wrth chwyldroad yng nghyfundrefnau presennol cymdeithas, a'r berthynas rhwng Cyfalaf a Llafur.
Cwm Colne.
Cwm Colne. BYDD cystal i ni droi y Drycli ar Gwm Colne am eiliad. Yno yr oedd Rhydd- frydwr (Mr. Bright), a Sosialydd (Mr. Grayson) yn wrth-ymgeiswyr a'r olaf a orfu. Dywedir, i'w glod, fod Mr. Grayson drwy yr lioll ymgyrch wedi datgan yn ddifloesgni ei fod yn Sosialydd drwodd a thro. Gonestrwydd cadarn ynddo oedd hynny. Bu yn gywir i'w argyhoeddiadau. Ond yn y BRYTHON diweddaf dyfynnid o lythyr a ymddang- hosodd yn y Labour Leader wedi etholiad Colne, gan Weinidog," yn ceisio egluro absenoldeb corff mawr y gweinidogion Ymneilltuol o rengau [Plaid Llafur a Sosialaeth ac ymddengys i ni mai sylwedd yr esboniad yw hwn llwfrdra y gweinidogion a gormes yr eglwysi Ymneilltuol. Prin y credwn fod yr esboniad yn deg, o leiaf yn y mwyafrif mawr o achosion. 'Beth bynnag, dylai y fath haeriad gael ei gadarnhau a phrof- ion pur gedyrn. Paham nas gellir can- iatau i weinidogion eu bod yn methu gweled eu ffordd yn glir i ymuno a Phlaid Anibynol Llafur a Sosialwyr, fel y cyfryw, oddiar argyhoeddiadau dyfnion a chymhellion uniawn ? Yr ydym ninnau yn adnabod llawer o weini- dogion mwyaf blaenllaw y gwahanol eglwysi Ymneilltuol Cymreig, ac yr ydym yn bur sicr na fuont, ac nad ydynt, yn ddiwybod na difraw gyda golwg ar iawnderau y bobl a hawliau Llafur. Maent wedi bod yn arwain y gad, rai ohonynt am genedlaethau, yn erbyn trais gwladol a chrefyddol, ac fel rheol ni fyddai gweinidogion ac eglwysi yn fwy unol mewn dim nag yn yr ym- gyrchoedd hynny. Gwelsom yn ddi- weddar mewn capel Ymneilltuol yng Nghymru, ac yng nghefn y pulpud, gofeb anrhydeddus i nifer o ddewrion o'r ardal a gollasant eu cartrefi yn hytrach na bradychu eu cydwybodau i'r gorth- rymwr. Llawer tro gwael a brwnt a wnaeth eglwysi o dro i dro a gweinidog- ion, yn gystal a gweinidogion ag eglwysi ond mewn pwynt o ormes, o gyfeiriadau ereill yr estynnid y crafangau arthaidd at y gweinidog Y mneilltuol-oddiwrth y tir-feddiannwr, yr offeiriad, y Tori. A blin yw adrodd dioddefaint y tadau yn nyddiau drycinog Cymru, a chyn yr hindda y mae y genhedlaeth bresennol ynddi.
Safle Cristion.
Safle Cristion. CYN tynnu y Drych oddiar etholiad Colne, nis gallwn lai na chredu fod y rhai ydynt mor barod i gondemnio gweinidogion am na ymdaflant i'r ym- gyrch fel y dygir hi ymlaen ar hyn o bryd gan Sosialwyr, yn anghofio eu rhwymedigaeth Gristnogol. Onid yw yn ffaith fod gan y Sosialwyr ddaliadau ag y mae yn amhosibl i weinidog Cristnogol eu hanwybyddu ? Onid yw yn wir fod dosbarth go liosog o'r Sosialwyr yn coleddu a dysgu syniadau ant dan sail y syniad Cristnogol am ddyn ac am gymdeithas, am Dduw ac am Grist ? Ac nid yn unig mae y syniadau hyn yn cael eu dal gan bersonau sy'n Sosialwyr, ond y maent i fesur yn rhan o'u Sosial- aeth. Gan hynny, onid yw yn ddigon naturiol i unrhyw weinidog sydd yn credu yr efengyl, ac yn teimlo ei rwymedigaeth i Grist, heb son am yr eglwysi, deimlo anhawster cydwybod i ymuno a Phlaid Anibynol Llafur, heb fod angen o gwbl briodoli iddo ef lwfrdra nac i'r eglwysi ormes ? Yr ym ni o'r farn mai gofid i lawer gweinidog a Christion yw nas gallant ymdaflu yn ddirwystr i'r yin- drech mewn undeb 11 awn a'r undebau a wnant i fyny amrywiol bleidiau Llafur ond os ydynt yn methu argyhoeddi eu hunain i wneud felly, paham y condemnir hwynt ? Pa anghysondeb oedd mewn weinidog gefnogi Bright, y Rhyddfrydwr, mwy na Grayson, y Sosialydd ? Ym- ddengys i ni fod rhai, a llawer, o'r Llafur- wyr a'r Sosialwyr yn tueddu i fod mor ormesol yn eu ffordd a neb pwy bynnag, ac y gall y werin, yn ogystal a'r aristo- cratiaid, orthrymu ar ryddid barn eu brodyr.
Goddefgarwch.
Goddefgarwch. MAE y Drych yn awr ar fath o gyfa'rfod brodyr "—begio'ch pardwn brawd- oliaeth dyn ddylasern ddweyd. Yr ydym yn credu mewn peth o'r fath, ond aid yn yr ysbryd y ceisir ei sefydlu a'i ddwyn ymlaen gan lawer, heb eithrio rhai Cristnogion mewn enw. Mae gormod o ysbryd rhagfarnllyd, anoddefus, ac erlid- D'ar, mewn byd ac eglwys. Y fraint y I mae gan bob dyn hawl naturiol a Christ- logol iddi yw rhyddid i feddwl. Meith- iner meddylgarwcb a chydwybodol- rwydd, a chydoddefer hyd yn oed pan yn gwalianiaetliu mewn barn, ac na cheisier gorfodi neb i gefnogi na syniad na chym- deithas yn groes i'w farn a'i gydwybod. Na feier, beth bynnag, y gweinidog a faidd fod yn deyrngarol i'r Hwn y mae yn ei bregethu, er iddo yn hynny fethu ymuno yn galonnog a'r pleidiau a gyn- rychiolir gan y Labour Leader a'r Clarion. t,
Cymdeithas Lyfryddol Cymru.
Cymdeithas Lyfryddol Cymru. 0 DAN ysbrydiaeth newydd sydd wedi dod i anadlu bywyd oddimewn i esgyrn sychion llenyddiaeth ein gwlad, fe ffurfiwyd cym- deithas newydd spon ond pwysig anarferol ynglyn ag Eisteddfod Caernarfon y llynedd, sef Cymdeithas Lyfryddol Cymru. Deallwn y cynhelir cyfarfod o'r Gymdeithas dan nawdd y Cymrodorion yn Abertawe, yn ysgol- dy capel St. Paul, wrth faes yr Eisteddfod ar fore Morcher, yr unfed ar hugain o'r mis hwn. Darllennir papur y pryd hwnnw gan Mr. J. H. Davies, M.A., cadeirydd y Pwyllgor Llyfryddol, ar Lyfryddiaeth Gymreig a'i hamcanion." Ni raid i Mr. Davies wrth lythyrau canmoliaeth oddiwrthym ni na, neb arall, gan fod Cymru benbaladr yn gwybod erbyn hyn mai efe ydyw un o'r awdurdodau uchaf, os nad yr uchaf oil, ar y mater dan sylw. Wedi hynny ceir cyfarfod er gosod y gymdeithas newydd ar ei thraed mewn ystyr ariannol, ethol swyddogion, a phasio cynllun rheolau a dynnwyd allan yn ystod y flwyddyn gan y Pwyllgor Llyfryddol. Ni fu cymdeithas erioed mor deilwng o bob cefnogaeth, a gobeitliio y bydd pob llyfrbryf a charwr lien yn estyn ei nodded iddi. Bydd yn dda gan yr ysgrifennydd medrus, Mr. D. Rhys Phillips, Uyfrgellydd Cymreig Aber- tawe, roddi unrhyw hysbysrwydd pellach i bwy bynnag a'i myn, a hyderwn y ceir cynhulliad llwyddiannus. --0-
Ffetan y Gol. --__-
Ffetan y Gol. Cynideithas Lyfryddol Cymru. ANWYL SYR,Byddaf yn ddiolchgar am led bys o'ch gofod i hysbysu caredigion Cymdeithas Lyfryddol Cymru, yr hon a gychwynwyd yn Eisteddfod Caernarfon, 1906, y cynhelir cyfarfod o'r gymdeithas dan nawdd y Cymrodorion yn Abertawe. [yn ysgoldy capel St. Paul, wrth faes yr Eisteddfod] ar fore Mercher, Awst 21, 1907. Bydd Mr. J. H. Davies, M.A., cadeirydd y Pwyllgor Llyfryddol, yn darllen papur ar Lyfryddiaeth Gymreig a'i hamcanion," ac wedi hynny ceir cwrdd busnes er gosod y gymdeithas newydd ar ei thraed mewn ystyr ariannol, ethol swyddogion,- a phasio'r cynllun rheolau a dynwyd allan yn ystod y flwyddyn gan y Pwyllgor Llyfryddol. Gellir cael many lion pellach oddiwrth yr ysgrif- ennydd. D. RHYS PHILLIPS, Llyfrgellydd Cymreig, Abertawe o
LLANGOLLEN.
LLANGOLLEN. LLAWENYDD mawr sydd yn gordoi ein dyffryn yn herwydd penodiad Mr. R. Emlyn Davies, A.R.C.M., ein datganwr poblogaidd. i arwain Cymanfa Ganu Undebol Bedyddwyr Deheudir Cymru, yr hon y bwriedir ei chynnal ym Mhafiliwn Eisteddfod Genedlaethol Aber- tawe, Medi 2, 1907. Hysbysir ni fod y bon- eddwr uchod wedi myned am fordaith i ymbaratoi gogyfer a'r gorchwyl, am y credai y bydd i hynny fod yn foddion i gryfhau ei iechyd, pa un sydd heb fod yr hyn ddymunai er's tro bellach. Hyderwn wedi'r cyfryw y teimla yn ddigon cryf i ymgymeryd a'r gwaith pwysig ac anrhydeddus hwn. Niraid i'r brawd wrth lythyrau cymeradwyaeth am ei fod cyn hyn wedi profi ei hun tuhwnt i bob amheuaeth yn feistr ar ei waith. k Fel y gwyr pawb fod Llangollen wedi enwogi ei hun fel cyrchfan dieithriaid, ond gresyn meddwl fod tref brydferth a henafol Llangollen wedi gwneud camgymeriad mawr y Sul diweddaf trwy ganiatau trip i'r lie ar y dydd sanctaidd. Unwaith y cyll gwlad neu dref barch i'r Saboth, nid oes ond dirywiad i'w ddisgwyl, a hyderwn y deffry eglwysi y dref a gosod eu hwyneb fel callestr yn erbyn y cyfryw beth vn y dyfodol. Prydnawn dydd lau, yn Ysgol y Cyngor, Garth, ger Llangollen, cynhaliwyd cwest ar gorff David Williams,' Llwyn Onn, Garth, yr hwn a gafwyd yn hongian yn y wash- house y dydd blaenorol. Ymddengys nad oedd y trancedig a'i wraig ar delerau da a'u gilydd, ac yr oedd yntau wedi bod yn yfed yn lied drwm yn ddiweddar. Rhoddwyd tystiol- aeth ar hyn gan ei wraig, Mrs. Elizabeth Williams, ac mewn atebiad i gwestiwn, dywedodd fod ei dad a'i ewythr wedi rhoddi terfyn ar eu bywyd yr un inodd. Wedi i amryw ereill dystio i'r un perwyl, dychwelwyd rheithftyn o "Hunanladdiad tra allan o bwyll," a dychwelwyd pleidlais a'r teulu yn eu profedigaeth. --0--
Yswain Penarlag
Yswain Penarlag UN o brif bethau blynyddol godreu swydd Fflint a Dinbych ydyw arddanghosfa flodau Penarddlag ac yn honno byddai'r patriarch W. E. Gladstone yn arfer dweyd ei bethau da a doeth wrth bobl y gerddi a'r fferm. Da gweled fod ei wyr, yswain presennol Penarddlag, yn efelychu ei daid ac yn y shou ddydd Llun diweddaf, sylwai ein bod ni Brydeinwyr yn talu Y,7,098,000, am wyau tramor a gresyn, os gellid hynny heb godi'r prisiau, na' fuasai'r swm anferth hwn yn cael ei dalu am wyau ein heir ni yn y wlad hon.' Dadleuai tros ddwyn ymlaen fasnach y poultry ar yr egwyddor gydweithredol (co- operative), a phe gwneid hynny, y caem y blaen'ar bob cystadleuaeth dramor.
Advertising
Testynau Eisteddfod Llangollen. RHESTR GYFLAWN Y TESTYNAU YN AWR YN BAROD, AC I'W CHAEL, PRIS 6ch., DRWy'R POST 71c., GAN EVANS, SONS & FOXXLKES, SWYDDJA'B "BBYTHON."
Cymry a'r Weddi Gyhoedd II.…
Cymry a'r Weddi Gyhoedd II. • CYTUNIR yn lied gyffredinol mai y rhan fwyaf ddiafael a dienaid o'r gwasanaeth cyhoeddus yw y weddi, Y mae ein canu cynulleidfaol wedi gwella yn fawr yn ddi- weddar, a chydnabyddir gan bawb fod pregethu Cymru gyda'r goreu yn holl wled- ydd cred. Diwygiwyd y naill a pherffeith- iwyd y llall drwy ymdrech a llafur diflino y tadau, nes fod gan y Cymro erbyn hyn syniad uchel am yr hyn ^Jdylai canu a phregethu fod. Ond ychydig o sylw a roddwyd i'r weddi gyhoeddus, ac fel yr awgrymwyd yr wythnos ddiweddaf, y mae llawer hyd yn oed o bregethwyr yn gwynebu y rhan hon o'r gwasanaeth yn hollol ddi- baratoad. Y canlyniad yw fod y weddi yn ami yn ddilewyrch odiaeth, ac yn hynod o aneffeithiol. Cwyna'r pregetliwr yn ami fod y weddi yn galed, tra y mae pregethu yn waith rhwydd ganddo, ac ymddengys fel pe yn anghofio mai yn ei baratoad ef ar gyfer y naill a'r llall y mae achos y gwahan- iaeth. Efe ei hun sydd yn gyfrifol fod y gweddio yn waith mor galed iddo, ac yn foddion nid i gynliesu, ond i oeri a chaledu y gynulleidfa. Nid gwell, ond yn hytracli gwaeth, yw sefyllfa pethau yn y cyfarfod gweddi. Dilyn- ir esiampl y pregethwyr yn fanwl, yn ar- bennig yn eu pwyntiau gwannaf, nes fod y gweddïan yn ami yn boon ac yn flinder i'r rhai a'u clywant. Nid rhyfedd, gan hynny, fod cannoedd o'n dynion ieuainc mwyaf diwylliedig yn cadw draw o'r cwrdd gweddi. Ar sail cliffygion art-ilwg y weddi gyhoedd, ant i eithafion yn eu gwrthwynebiad i un o gyfarfodydd mwyaf bendithiol yr eglwys, ond iddo gael ei lywodraethu gan ras a synnwyr cyffredin. Ni raid dweyd fod y ffeithiau hyn yn galw am ein sylw mwyaf difrifol. Gweddi yw enaid yr addoliad, ac os yw y weddi mor aneffeithiol a diflas, golyga hynny fod ein gwasanaeth yn aneffeithiol yn yr elfen bwys- icaf a berthyn iddi. Pan eir i chwilio i mewn i'r cwynion yn erbyn y weddi gyhoedd, gwelir eu bod yn gorffwys ar amrywiol soiliau ac yn dyfod o wahanol gyfeiriadau. Cwyna rhai ohor- wydd diffyg chwaeth mewn iaith a theimlad dywedant fod y geiriau yn sathredig a'r syniadau yn anaddfed ac ystrydebol. Cwyn ereill yw culni yr erfyniadau ya maent yn erfyniadau personol, ac nid cynulleidfaol bradychant ddiffyg meddylgarwch ar ran y gwedd'iwr, a diffyg cydymdeimlad a'i gyd- ddynion yn eu hamrywiol anghenion. Clyw- ir hefyd o bob cyfeiriad gwyn gyffredinol fod y gweddïau lawer yn rhy faith. Yn wyneb yr anhawsterau hyn, beth sydd i'w wneud ?
Gweddi Llyfr.
Gweddi Llyfr. Gwel rhai yn hyn reswm dros droi yn ol at ffurf-weddiau. Ceid felly iaith goeth a geiriau dewisedig sydd wedi derbyn sel cymeradwyaeth saint yr oesau. Dadleuai John Henry Newman yn gryf dros ffurf- weddiau, am eu bod yn osgoi yr anhawsterau a deimlir yn awr yn ein plith ni. Yn ei Miscellanies ysgrifenna fel hyn PRAYERS framed at the moment are likely to become irreverent. To avoid the irreverence of many or unfit words, and rude half-religious thoughts, it is necessary to pray from book or memory, and not at random. Forms of prayer are necessary to guard us from the irreverence of wandering thoughts. They are useful in securing us from the irreverence of excited thoughts." Dadl arall sydd ganddo yn erbyn gweddi rydd yw nas gellir cyd-weddio heb gytuno ymlaenllaw am beth ba i weddio, a pha eiriau a ddefnyddir. "To be present at extempore .prayer," meddai, is to hear prayers." Yn ol Newman, y feddyginiaeth i ni rhag peryglu gweddi rydd yw ei rhoddi heibio yn gyfangwbl. Ond nid ydym yn derbyn ei olygiad. Yn hyn cytunwn ag esiampl Cristionogion y tair canrif cyntaf. Gwnaent hwy ddefnydd helaeth o weddi o'r frest," ys dywedai yr hen bobl, fel y profir yn eglur yng ngweithiau Justin Ferthyr a Tertullian. Edrych tua'r nef," ac nid darllen llyfr, wnai y Cristionogion boreuol wrth weddio. Ond er yn anghytuno ag ef, dylem hwyrach ddiolch i Newman am bwyntio allan i ni ein peryglon yn ei ddull dihafal ei hun. Addefwn fod anhaws- terau a pheryglon mawrion ynglyn a gweddi rydd, ond gwell gennym hi, er hynny, na gweddi goeth o lyfr. Credwn fod ein gwrth- wynebwyr, wrth geisio osgoi peryglon gweddi rydd, yn rhedcg i gyfarfod peryglon ereill lawn cymaint, ac ar yr un pryd yn gollwng gafael ar un o arferion mwyaf cyntefig ein ffydd. Nid oes dim, fodd bynnag, yn galw am wyliadwriaeth fanylach na rhyddid, ymha gylch bynnag y caniateir ef, ac nid yw gweddi rydd yn eithriad yn hyn o beth. Y mae arweinwyr crefyddol Cymru a Scotland wedi canfod hyn, ac yn ceisio gwneud a allant i sicrhau iawn a doeth ddefnydd o'r rhyddid hwn. Cyhoeddodd yr Eglwys Rydd yn 1898 A New Directory for Public Wor- ship," yn cynnwys cynorthwyon lawer at wella a dyrchafu y weddi gyhoedd, ac y rna,ent yn awr ar fedi- dwyn allan" Anthology of Prayers for Public Worship. Y mae arnryw hefyd o weinidogion blaenaf Lloegr yn rhoddi sylw neilltuol i'w gweddiau, a rhai ohonynt—Dr. Alexander Maclaren, er engraiff t-yu eu eyhoeddi er budd a hyffordd- iant i ereill. Y mae yn debyg na roddodd gweinidogion Lloegr erioed fwy o sylw i'r rhan hon o'r gwasanaeth nag a roddir yn awr. Argoela hyn yn dda am y dyfodol, a buaii y delo yr un arferiad i fri yng Nghym- ru.
Eistedd yn lie penlinio.
Eistedd yn lie penlinio. Y mae'n sicr mai bai pennaf gweddiau cyliooddus y Cymry yw eu meithter. Feallai fod a wnelo dawn naturiol y Cymro i lefaru rywbeth a hyn. Hwyrach hefyd fod arferiad gyfforddus y gynulleidfa o eistedd yn ystod y weddi wedi bod yn help i'w hestyn a'i helaethu. Sefyll wnai yr Hebreaid gynt yn y gwasanaeth cyhoeddus, ac mao'n debyg plygu glin yn y dirgel. Y Cristionogion boreuol hwythau hefyd a safent yn ystod weddi gyhoedd. Gwaherddid penlinio ar ddydd yr Arglwydd, am mai sefyll oedd yr ystum fwyaf cyfaddas i bortreadu adgyfodiad Crist o'r bedd. Alewn adegau diweddarach, arferai y gynulleidfa sefyll neu benlinio bob amser tra^-yn. cyfarch gorsedd gras: Yn nyddiau John Knox, er engraifft, penlinio" y bobl hyd yn oed ar y palmant carreg. Y mae awdurdod Y sgrythyr ac esiampl yr oesall o blaid sefyll a phlygu glin. Ond y mae eistedd ar weddi yn anysgrythyrol a gwrth- un, ac hefyd yn gwbl elyniaethus i barched- igaeth, difrifwch, ac egni meddwl ac ysbryd- Daeth yr arferiad i fri mewn oes pan yr elal dynion wrth geisio osgoi defodaeth i eithafioo. cyferbyniol sydd yn llawn mor berygluS a defodaeth ei hun. Y mae gwaith y gyn- ulleidfa yn eistedd yn sicr o fod yn gyro.: helliad i feithter. Goreu po cyntaf i 1'01 terfyn ar hyn, un ai trwy ddwyn yn 01 yr hen arferiad o sefyll gan grymu'r pen, neU drwy wneud y seddau yn ddigon helaetb i'r sawl a fynno benlinio ynddynt Dia" y byddai'r nail' fel y nail yn rryrrdielliad I gwtogi y weddi, gan nas gall neb sefyll 0.9 phenlinio yn hir heb flinder. Credwn hefyd mai meithter y weddi sydd wrth wraidd ei haneffeithiolrwydd. N odWIl rai o'r peryglon sydd ynglyn a gweddi faith.
Y Tri Pherygl.-
Y Tri Pherygl. 1. Y perygi o beri blinder i'r gynulleidfa Nid blinder i'r corff a olygwn, oblegid eist«d« y maent, lawer ohonynt, yn y dull mwya didaro ond blinder i'r meddwl. Cyn X bydd y gweddïwr hirwyntog hanner drwy el weddi, blina'r mwyafrif geisio ei ddilyp, byd y cyd-weddio ar ben. Condeflij11 pregetli faith am ei bod yn blino y wyr, ac am yr un rheswm dylid collfa^, gweddi faith. Gyda'r bregeth a'r wedd» budd y gynulleidfa, ac nid teimlad y Pers0fJ unigol, sydd i benderfynu eu hyd. peth er adeiladaetli yw arwyddair J Apostol Paul, ac yn ei oleuni gwelir anglv reithlondeb gweddi faith. Pa mor a chywir bynnag all y gweddiwr fod, dyJ ddibenu cyn i'r gynulleidfa flino. A buan iawn y maent yn blino. Ychydig iawn 0 ddynion allant sylweddoli yn fyw bresenol- oldeb Duw am fwy nag ychydig gyda'u gilydd, heb fod y meddwl yn dechre crwydro. Gwyddai Aloody hyn yn dda, ac fe pawb gafodd broliad o waith crefyddol wybod. Condemniai Aloody yn ddiarb^ weddi barhai fwy na rhyw bum rauO'V pa mor dda bynnag allai fod. Dy^0^ ddarfod i feddyg unwaith weddio yn URV ,• gyfarfodydd am ugain munud. Pan d bennodd e'r weddi, dywedodd Moody wrthO, Doctor, I prayed with you the first minutes, and the last ten minutes I for you." Y mae gweddi faith yn difeth8,' cyfarfod.
,Nid darlithio.
Nid darlithio. 2. Y perygl o fod yn aml-eiriog. ClYf, rhai yn ail-adrodd y gweddiau blaerxor j ac weithiau yn ail-adrodd y rhannau o'u gweddiau hwy eu hunain. Llwya ereill i fod yn faith drwy droi i esboWO. darlithio, nes bron anghofio mai Duw aC x dyn a gyferchir ganddynt. Rhoddir esboD^j ar hyn ac arall, a nodir allan i'r Hollwyh0 paham a pha fodd y mae pethau megis aS maent. Bydd y cysyllteiriau canyS, oherwydd," "'oblegid" yn britho'r o'r dechreu i'r diwedd. Da fyddai i'r ry gofio yr adnodau canlynol Na fyd'* j brysur a'th enau, ac na frysied dy Sa%(J draethu Uim ger bron Duw canys Duvv sy yn y nef oedd, a thithau sydd ar y ddae^,> ac am hynny bydded dy eiriau yn ana A phaxx weddioch, na fyddwch fel y cenhedloedd canys § eich Tad pa bethau sydd arnoch eu heis cyn gofyn ohonoch ganddo." d Nid esboniad na darlith ddylai gweddi fod' ond mawl, a diolch, ac erfyniad. gp defnyddio yr iaith symlaf a pharchusati y arfer ychydig eiriau, oblegid fel y by" •> quantity yn cynhyddu, y mae peryg _llg quality waelu. Dyma ddiffyg mwyaf poetill I ein gweddiau cyhoeddus; gellid yn y ddweyd yr un pethau ar lai na haIlneet geiriau a ddefnyddir, a hynny yn ell, mwy effeithiol. Y feddyginiaeth yw PfJlII derfyniad di-ildio i weddio yn fyr trwy ijio ein meddyliau ymlaen Haw, a defny yn unig y geiriau mwyaf cymeradwy i ro mynegiad iddynt.
Os hir weddio, rhitb weddio.…
Os hir weddio, rhitb weddio. jf 3. Y perygl o ragrithio. Os yn faith, gofynnir o angenrheidrwydd dýS lawer o bethau. Y cwestiwn yw, A Y t yn gwir deimlo yr angen am daoy <J Wedi i'r gweddiwr cyntaf mewn cyi^j eii gweddi grybwyll rhai pethau y dyli crybwyll ymhob cyfarfod, dylau y gvv"e c\v dilynol fod yn llai cyffredinol ac yn fy^ o Y ffaith yw mai am rhyw un neu dd» bethau y gallwn ddymuno yn gryf ar y pryd. Rhyw un agwedd neu ddwy Or gwirionedd sydd yn apelio atom ar uri^^jjc ac am rhyw un fendith neu ddwy y &1ji angen nqiiltuol. Gofynwn, yntc, fyo y pethau hynny, ac wedi go 110 am danynt, tewi a ddyiem, ac nid ..Igylc b mor a rnynydd gan grybwyll pawb a peth. Dyma yr unig ffordd i oehel Os cyfyngwn ein hunain ar fyr eiriau i y byddwn fel ffrwyth myfyrdod blae^.jd yn gwir deimlo eu hangen, bydd gonestr a chywirdeb yn ein herfyniadau. liir-weddio a rhith-weddïo yn bertli I I- agos, ac yn gymaint cyfeillion fel m1 0 y gwelir y cyntaf ond yng ngliwmni yr^e(jd Bydded y weddi dirgel yn faith, ond y v gyhoedd yn fer. djet Y mae ymater hwn yn rhy laYS09 I i'w drafod ond yn yr ysbryd careclwaf. cVoS gysegredigrwydd yn ddiau yw yr AC fod cyn lleied o ddysgu arno, ac fod s ddYjo y mwyafrif yn anaddfed am yr gweddi gyhoedd fod. Ond mae yn rhaid Argraffer ar feddwl pob un na ddylai gJ.^ yn gyhoeddus heb baratoad meddwl ac y Dysger yr ieuanc hefyd na ddylai at weddio yn faith. Y mae sefyllfa fgO y weddi gyhoedd yng Nghymru yrnhel^ yn foddhaol. Llwyr gredwn, er hyT^r nid rhoi heibio y weddi rydd yn gyd^ weddi a ddyiem, ond hyfforddi yr °e g\eP yn codi pa fodd i weddio, gan roddi P yf neilltuol ar fod y geiriau yn anaxnl gymeradwy." J*