Welsh Newspapers
Search 15 million Welsh newspaper articles
12 articles on this Page
Yn Ynys Mon ac Arfon
Yn Ynys Mon ac Arfon [GANBETHMA.] Bangor. DYDD Mercher yr oedd Ysgol Sul Twrgwyn yn cael eu trip blynyddol. Rhosneigr oedd y lie y penderfynwyd arno eleni. Mae y He hwn yn dyfod yn boblogaidd. Yr oedd ftmgylchiadau wedi lluddias y Cynghorydd Wni. Eames i allu myned gyda'r ftren, a phenderfynodd fyned gyda'i ddeurod yn hwyrach ar y dydd, ond mae yn ofid calon gennyf hysbysu iddo gyfarfod a'i- ddiwedd yn y daith. Nid oedd yn gryf ei iechyd er's tro. Disgynnodd oddiar ei ddeurod a bu farw yn y fan, er braw mawr i'w gydym- alth, mab yr Athro J. M. Davies, M.A. Yr oedd Mrs. Eames yn Rhosneigr, a gellir dyehmygu ei theimladau hi a'r aelodau ereill pan wnaed yn hysbys am y digwyddiad prudd. Dygwyd y corff i Fangor, ac yr oedd yr angladd heddyw (Sadwrn), ym myn- Wet Glanadda, pryd y gweinyddid gan y rhai canlynol :—Parchn. Daniel Rowlands, M.A., W. Wynn Davies, Ellis James Jones, M.A., T. J. Wheldon, B.A., a Daniel D. Jones. Angladd i ddynion yn unig ydoedd. Yr oedd Mr. Eames yn ddiacon ffyddlon a defnyddiol yn Twrgwyn, yn aelod o'r Cyngor Dinesig, ac yr oedd aelodau'r Cyngor yn bresennol yn eu gwisgoedd swyddogol. Masnachwr llechi oedd Mr. Eames er's rhai blynyddoedd. Gadawodd briod a phedwar 0 blant ar ei ol, a mawr ydyw eu hiraeth. Mae Mrs. Eames yn chwaer i'r Parch. William Owen, Lerpwl, ac i Mrs. Ellis Jones Griffith. Nid oedd ond 55 mlwydd oed. Yr oedd yn fawr ei barch gan bawb a'i hadwaenai, ac y mae cydymdeimlad mawr a'r teulu oil yn galar.
Gwalchmai.
Gwalchmai. Beth feddyliech chwi oedd yn cymeryd lIe yma bore Mercher ? Yr oedd y lie yn gyffro mawr yn fore, a'r rlieswm am hynny oedd fod y Parch. Rhys Lewis, Salem, Betws Garraon, yn priodi un o foneddigesau y He, sef Miss Sophia Williams, Ty Newydd. fwy fuasai'n meddwl, ynte ? Rhwymwyd y ddau gan y Parchn. Thos. Williams a J. T. Job, Carneddi, a'r Parch. Hugh Jones, Bryndu, Cofrestrydd. Y forwyn oedd Miss Madge Williams, Tý Newydd, a'r gwas oedd y Parch. O. Lloyd Jones, M.A., B.D., Bryix- aerau. Rhoddwyd y wraig ieuanc ymaith gan ei hewythr, Mr. John Williams, Ty Newydd. Wedi disgyn o'r cawodydd nee a'r rhialtwch, a'r saethu mawr, cafwyd gwledd o basgedigion breision yn TyN ewydd, ac anerchiadau doniol a da gan y Parchn. E. E. Hughes, (curad), O. Lloyd Jones, M.A., B.D., Job, Hugh Jones, T. Williams, a Mr. John Williams ac atebwyd yn hyawdl- ddoniol gan yr hynod Rhys Lewis. Y m- adawodd y par ieuanc am yr Ynys Werdd yng nghanol swn ergydion. Yr oedd yr anrhegion yn werthfawr a lliosog iawn a dyma fel y canodd rhai o'r beirdd 'E wrantaf nad rhyw brcntis,o garwr Fu'r gwron Rhys Lewis Ac yn ei fyw—cyn ei fedd- O'r diwedd bu raid dewis. Beauties fu'n gwibio ato-yn eu liwyl, Bron dwli am dano, Deeaf wr ond dacw fo Yn Nhir Hud wedi'i rwydo. A bore heddyw, brudded-yw golwg A galar y merched Ar ei ol ond Sophie red Idd ei gôl-hawdd yw gweled. Sophie Williams a'i ffol(ydd,-a Sophie Yn saff a'i cadwynodd A heddyw, Rhys gyhoeddodd Araith Y mae wrth 'y modd lfyd elor, Nef fo'n dilyn,—efo'i thine, Line of thought y ddeuddyn A glaniad y ddau wedyn Mewn Bywyd Gwellmewn Byd Gwyn JOB. Sophie hynaws, hoff feinwen,—a ddenodd Anwyl gyfaill cymhen ■Efo'r eneth fireinwen-(ei ddewis)- Boed i Rys Lewis bedeiroes lawen EIFIONYDD. Yn uwch, yn uwch, pob cwm a nant-oes I Rys Lewis floeddiant [lawen I'w lonni mil englynant-ddedwydd ddau, Heddyw ugeiniau o feirdd a ganant. heddyw lion yw cerdd y Ilwynil-Rhys hoff Yng ngwres serch sy'n llonni ilaf a'i hedd ddymunaf fi-heddyw'r wyl I r ddau anwyl, a hir ddaioni. EILIAN. Yr wyf yn uno gyda hwy i ddymuno P°b bendith i'r ddau.* Yr oeddwn yn ofni line of thought Rhys yn rhedeg i'r cyfeiriad YIlla er's tro. Mae gan yr enwad yn Arfon *yw ereill sydd wedi dal yn hir heb eu 'ftwydo. Bydd gorchfygiad Rhys Lewis yn londid i'r boneddigesau i agoshau at rai °r rhai hynny --0--
Nodion o Fanceinion.
Nodion o Fanceinion. [GAN CYFEIN] YnegfYs yr Oes. j oes yma yn bresennol ond liyli-byl w yr wiiday8. Try pawb eu cefn ar bopeth ond |°baith a phleser. Mae tueddiad yr oes yn ^ynnu mwy o flwyddyn i flwyddyn i gyf- iriad pleserau a chwareuon. Addysg yw y *eswm am hynny, meddai athro wrthyf 1 o'r dyddiau diweddaf. Hefyd, dywedodd addysg yw yr aclios fod twyll masnachol cynhyddu yr un mor gyflym. Yn sicr, _oedd yr hen bobl yn fwy seriws eu v« ° na r presennol. Nid bai i gyd naill ochr na'r llall. Vsf • rnwyn amrywiaeth nodion, dyma oriau am rai o gewri yr Hen Wlad, oeddynt y^ldi yn ol mor anhebgorol i fasnach a ywyd ein tref ag yw nodwydd cwmpawd °rwr. Mae'n syndod mor onest yn eu fcaai3riauh oeddynt, inor gydwybodol eu ham- nlon, ac mor unplyg eu cymeriadau.
Dafis, y Bellhanger.
Dafis, y Bellhanger. A r°dor o Fachynlleth oedd ef, ac a fu yn jn t^)r gyda'r Methodistiaid yn Salford. dorJ3 fryd i fyned i Lunden yn lie dod Y a, ond cyfnewidiodd ei feddwl ar OgriH e* daith. Cyngor Henry Rees iddo 1J0J arn iddo lynnu i ddarllen y Beibl, a (Uaf ffyddlon i Grist, gan gofio fod gan y ol Warehouse yn Llunden." Wedi dechreu sefydlu masnach, daeth i sylw a pharch mawr gan bendefigion y deyrnas, a gweithiodd i dduciaid ac arglwyddi. Un tro gofynwyd ei wasanaeth gan Ffrancwr oedd wedi dysgu tipyn o Saesneg. Wedi cwblhau y gwaith ac anfon y bill, tybiodd y boneddwr fod y pris yn ormod, a gofynnodd i'r archadeiladydd gyrchu Dafydd Dafis i egluro gwerth y swm gofynnol. Daeth yr hen wr yno, a'i ateb oedd, I do my work, and I make my bills with my eye on eternity." Dychrynnodd y Ffrancwr, a dywedodd wrth yr archadeiladydd wrth fynd ymaith, Pay the man, pay the man." Gonestrwydd a didwylledd oedd nod yr hen Gymro, a'r un un ydoedd gyda'i fasnach a chyda chrefydd. Mor orlawn o dwyll yw llawer o weithredoedd masnachoLn awr, o'u cymharu a gweith- redoedd Dafydd Dafis.
Benjamin JenKins.
Benjamin JenKins. Un o sir Aberteifi oedd ef, a daeth .yma tua 50 mlynedd yn ol. Bu yn ddiacon gyda'r Anibynwyr yn Chorlton Road, ac amhosibl cael neb mwy cyson i foddion gras. Nis gallodd anwadalwch tywydd ei luddias ef i wasanaeth crefyddol. Yr oedd ganddo ddywediadau ffraeth a doniol, ac un tro mewn cyfarfod llenyddol dadleuai tros ragoroldeb bywyd dibriod, a dywedodd na fuasai ef yn dweyd dim yn erbyn priodi ond fod gan y merched ormod o lawer o cheek os gwnant damaid o fwyd i ddyn rhaid iddynt gael ei banner, ac os gwna nhw y'clt- gwely chwi, rliaid iddynt gael hanner hwnnw." Gwr yn llawn o natur dda a chalon bur oedd Jenkins, er ei fod yn dra hoff o ysmaldod.
Gruffydd Owen.
Gruffydd Owen. Un o hen flaenoriaid achos cyntaf y Meth- odistiaid oedd ef. Yr oedd deddf ei ddwrn mor gyfleus ganddo a'r ddeddf foesol at yr anuwiol. Ar ddechreuad yr achos yn Pump Street, aflonyddid ar y gwasanaeth Cymreig gan derfysgwyr o Saeson. Un noson yr oedd yn gweithio yn lied hwyr a daeth cennad ato yn hysbysu fod y terfysgwyr yn y cwrdd. Gadawodd ei waitli, fel Pedr ei rwydau, ac ymaith ag ef yn llewis ei grys i r capei, a. gafaelodcl yn yr aflonyddwyr bob yn un, gan eu waldio o'r lie gyda churfa ddidrvigaredd Ni ddychwelasant byth mwy. Gweithiai yn fynnych wrth oleu canhwyllau gwer, ond blinid ef yn barhaus gan rywrai YN lladrata ei ganhwyllau, ac un tro, er mwyn rhoddi gwers i wyr y dwylo blewog, gwthiodd y Cymro welltyn yn llawn o bowdwr i ganoi y canhwyllau. Dychymygwn y canlyniad ar ol eu goleuo. Ni ladratwyd yr un ar ol hynny.
Idris Fychan.
Idris Fychan. Wrtli grybwyll am Gruffudd Owen yn crweithio wrth oleu canwyll, daeth i'm meddwl am Idris pan yn dilyn ei grefft fel crydd ni weithiai ef yr un stroc ar ol iddi hwyrhau; nid oedd waeth faint o waith fyddai ganddo, na faint o grefu arno chwaith, dywedai na feddyliodd y Creawdwr i'r un dyn weithio wrth oleu celf yn y nos, neu buasai ef wedi creu rhyw foddion i gyfarfod hynny. Un rhyfedd oedd y talentog Idris. Pan oedd ei blant un tro yn llefairi crio north eu cegavi am rywbeth, aeth Idris at y ffenestr, agorodd hi, a rhoddodd ei ben allan rhag iddo glywed y nadu.
PULPUDAU MANCHESTER.
PULPUDAU MANCHESTER. SABOTH, AWST 11, 1907. Y Methodistiaid Calfinaidd. Moss SIDE—10-30 a 6-30, D. D. W^ams.. PENDLETON—10-30, W. J. Roberts, 6, R. HEYWOOD ST-I0-30. R. Morris, 6, W. J. Roberts H. ARDWIOK-IO-30 a 6 Y Bedyddwyr. UP. MEDLOCK ST-10-30 a 6, J.H.Hughes LONGSIGHT.-IO-30 a 6, ROBINS LANE, SUTTON—10-30 a 5-30, Yr Anibynwyr. BOOTH ST—10-30, G. Davies, 6-15, R. Griffiths CHORLTON RD-10-30 W. W. Jones 6, R. Roberts SALFORD—10-30, R. Roberts 6, W. W. Jones QUEEN'S RD-10-30 a 6, G. Evans FAILSWORTH—10-30 a 6, EOCLEs-IO-30 a 6, Yr Eglwys Sefydledig DEWI SANT—11 a 6-30, H. R. Hughes --0--
Nodiadau Cerddorol.
Nodiadau Cerddorol. [GAN HU GADARN]. DOH E I: r, Idi :t 11 :s If :M Ir } :F I" :R |D L_ |]
Dirywiad Cerddorol yr Eisteddfod.
Dirywiad Cerddorol yr Eisteddfod. LLAWER a ddywedwyd o dro i dro ar y cwestiwn o ddiwygio yr Eisteddfod, fel ag i ddwyn gwell ffrwyth nag a gafwyd yn y gorffennol: cwestiwn anodd i'w ymdrin ydyw, a mwy anodd i'w benderfynu mewn ffordd foddhaol i bawb. Mor bell ag y gellir darllen rhwng y llinellau, y gwyn fawr ydyw fod llawer o ddarnau a roddir yn destynau cystadleuol yn ein Heisteddfodau yn hen ddarnau, a'r rhai y mae ein corau yn dra chydnabyddus, ac felly yn fyr o roddi symbyliad I r corau at weith- garweh a dyfalbarhad. Am yr Eisteddfod Genedlaethol, ni ellir dwyn y cyhuddiad hwn yn erbyn ei phwyllgorau, gan y ceir yn ddieithriad ddarnau newyddion yn y prif gvstadleuon corawl. Baich y g*yn hefyd ydyw nad yw ein corau wedi eu sef- ydlu i'r amcanion goreu, ac mai ail raddol yw y prif gystadleuon hyn, ac nad yw y clod a berthyn i'r buddugwyr ond ffug o'i gymharu a llafurio gyda chyfan-weithiau. F, Mor bell ag y gallaf ddeall rhediad pethau, ac yn wyneb amgylchiadan, nis gellir rhagori ar y dull arferol o ddewis darnau, gan y caitt y cyfansoddwr Cymreig sylw arbennig na warafunir iddo gan neb. Arno ef, i fesur helaetli, y gorffwys y cyfrifoldeb fod y cyn- hyrchion a rydd o flaen y cyhoedd Yn Gyfansoddiadau Teilwng, yn gyfryw ag a fyddant yn werth i'n cym- deithasau corawl roddi eu harnser i'w meistr- oli. ° Yr ydys yn teimlo fod angen diwygxad mewn llawer cyfeiriad ynglyn a'r Eisteddfod yn yr adran gerddorol, ac y mae r syniad o gael cyfarfod yn Abertawe i drafod y mater yn rhwym o roddi goleu nad oeddym yn feddiannol arno o'r blaen ar faterion cysyllt- iedig a'r sefydliad hwn o eiddo y werin- y sefydliad anwylaf gan bob Cymro cenedl- garol. Cofus gennym am ymgais i sefydlu Cymdeithasau Cerddorol tuag at hy- rwyddo cerddoriaeth a chaniadaeth yng Nghymru fwy nag unwaith ond ni fuont o hir-barhad. Gwnaethpwyd byr waith o un ymgais tra gyda'r gwaith o fedyddio y gym- deithas. Yn yr ail ymgais, buwyd yn fwy llwyddiannus, a pharhaodd. am ysbaid o amser, ond daeth y diwedd gyda'r cynnyg hwnnw, ac ar hyn o bryd nid oes gennym gymdeithas oddigerth y Gymdeithas Solffa, ac ni ellir dweyd i sicrwydd fod hon yn ateb y diben ymhob modd, gan ei bod yn unochrog i fesur. Y mae ei henw yn arwyddocaol. Nid wyf yn tybio y gellir dweyd fod cym- deithas unrhyw nodiant neilltuol yn cyflenwi yr angen. Nid oes gennym, wrth ddweyd hyn, ond y dymuniadau goreu oil, gan fod lie ddigon, a gwaith arbennig i'w wneud mewn gwahanol gyfeiriadau. Y mae y cwestiwn o ddarpar llawlyfrau yng ngwahanol ganghennau cerddoriaeth yn yr iaith Gymraeg yn rhwym o fod yn bwysig, a dylai gael sylw arbennig. Yn y cyfeiriad hwn nis gellir dweyd ein bod yn gyfoethog. Rhaid i'n hefrydwyr Cymreig un-ieithog wneud gyda'r hyn sydd eisoes wedi ei gy- hoeddi yn Gymraeg, neu ddefnyddio llyfrau Seisnig, nad oes ganddynt ddirnadaeth eglur o'r modd y traethant ar wahanol bvne- iau cerddorol. Y mae lie i Gymdeithas Gerddorol, pe ond i ddarpar ar gyfer yr efryd- wyr hyn. Yn wir, gellir torri cryn lawer o waith a esgeulusir ar hyn o bryd. Gwnaed ychydig eisoes gan bersonau unigol, oddiar yr ymdeimlad fod angen dirfawr am lyfrau Cymraeg, ond teimlir fod eisieu ychwaneg. --0--
GLANNAU'R GLWYD.
GLANNAU'R GLWYD. UN o hen drigolion y Rhyl, wedi bod yn absennol am rai blynyddoedd, a ddaeth i'r dref nos lau diweddaf, ac wrth weled y bobl yn dylifo i gapel Clwyd Street, ac heb wybod beth oedd yn bod, a aeth i mewn, gan ddis- gwyl, o bosibl, gael clywed y Parch. S. T. Jones. Ond nid oedd y pregethwr poblog- aidd hwnnw i'w weled yn unman, ac yr oedd y gymysgfa ryfeddaf yn y set fawr--pob rhywogaeth-y peth tebycaf fu erioed i'r lien Ilian honno a welodd Pedr gynt. Ai tybed," meddai, fod pobl Clwyd Street wedi symud eu synagog ? Wela i yr un o'r brodyr. Cyfarfod ynglyn a'r 'Inglis Cos ydi o, hwyrach. Saeson wela i fwya yma. Na, 'does bosib, oherwydd dacw y Parch. Lewis Ellis yn eiste'n hamddenol yng nghanol y gynulleidfa. Church Defence Meeting ydi o reit siwr,—dacw Mr. Tilby ffraeth, un o arwyr yr achos, yn eiste o dan y pulpud, a hanner dwsin o ffyddloniaid yr eglwys o'i gwmpas. Na, 'toes yma ddim un person na churad i'w weled, a dacw Dr. Townsend yn y set fawr, yn ddigon o brawf nad dyna yw. Oes rhywbeth a wnelo y licensed victuallers a'r cyfarfod, tybed ? Mae yna dri neu bedwar o ddynion mawr y fasnach o dan y pulpud. Na, fasa yr hen Ddr. a Mr. J. D. Jones a Mr. David Owen y Band ddim yn amlwg mewn cyfarfod felly." Ond pan oedd yr hen wr yn y benbleth fwyaf yn ceisio deall beth oedd y cyfarfod, gwelai y Parch. Robert Richards, Mr. Jones, Ithelfryn, a Mr. Daniel Evans yn rhodio 61 a blaen, yn gosod pobol yn y seti ac yn barod i weini ar bawb, a thawelodd meddwl yr hen wr wedi cael prawf digonol nad oedd dim drwg yn bod. Disgwyl i General Booth ddod i mewn yr oedd y gynulleidfa. Yr oedd y bobl o bob lliw, o bob llun, ac o bob lle" wedi dod i roddi croeso ac i dalu gwarogaeth i Wr Duw. Ac wrth weled yr amrywiaeth, crwydrai ein meddwl yn naturiol at ddarluniad Esaiah o'r Oes Euraidd pan fydd y blaidd a'r oen," &c., yn trigo ynghyd. Aelodau Cyngor y Dref sydd wedi cymeryd lie diaconiaid Clwyd Street am y tro. Er fod y seddau wedi eu gorchuddio a chlustogau esmwyth, nid oedd ambell un yn ymddangos yn gomfforddus iawn. Dacw yr hen General yn dod i mewn, a golwg urddasol arno. Saith de a naw o flynyddoedd wedi crymu ychydig ar ei gorff, tal. Gwallt a barf laes mor wyn a'r eir yn Ionawr yn goron i'w ben. Rhedai ein meddwl ar unwaith at eiriau Solomon, Coron anrhydeddus yw penllwydni oa bydd mewn ffordd cyfiawnder." Darllennodd Mr. Arthur Rowlands, y town clerk, anerchiad oddiwrth y Cyngor i'r General, yn cynnwys, mewn geiriau dethol- edig, groesawiad iddo i'r dref, a chydnabydd- iaeth o'r gwaith da a gyflawnir ganddo. Cyflwynwyd yr anerchiad i General Booth gan Mr. J. D. Jones, Y.H., yr hwn. yn rhin- wedd ei swydd fel cadeirydd y Cyngor, a lywyddai y cyfarfod. Traddododd Mr. Jones anerchiad byr a chynhwysfawr, ac yr oedd yr hanes a roddodd am y tro y bu yn Igwrando ar General Booth yn Jerusalem yn ddyddorol iawn. Siaradodd y General am dros awr, a chafodd wrandawiadastud. Rhoddodd hanes y gwaith mawr y mae Byddin yr lachawdwriaeth wedi ei wneudl yng nghanol gwledydd y byd. A I Parai i'r gynulleidfa wylo a chwerthin bob yn ail. Ar derfyn ei araith, aeth Mr. W. J. P. Storey yn hollol ddirodres i'r pulpud i gynnyg diolchgarwch i General Booth am ei anerchiad Yr oedd ein syniad am Mr. Storey yn uchel o'r blaen, ond y mae yn llawer uwch wedi clywed ei eiriau doeth ar yr achlysur hwn siaradai yn ysbryd yr araith y diolchai am dani. Cefnogwyd gan Mr. Lewis Jones, cyfreithiwr. Bore dranoeth, panymadawai General Booth o'r dref, yr oedd yr heolydd wedi eu hymylu gan gannoedd o edrychwyr a pha ryfedd onid oedd un o weision ffyddlonaf lesu o Nazareth yn mynd heibio ? Y mae Mr. Gabriel Hughes, Rhyl, wedi dechreu cyhoeddi cyfres o ysgrifau ar Enwau Lleoedd yn Ysbryd yr Oes. Y maent yn ddyddorol iawn, ac yn dangos 61 llawer o chwilio. Y mae Mr. Hughes y llyfr- bryf mwyaf dygn a diwyd ar lan y Glwyd, a'i gyfrolau yn cynnwys llawer o hen lyfrau prin a gwerthfawr. Ond y mae yn rliy duedd- 01 i guddio ei hun. Bu Mr. W. O. Jones, y canwr penhillion poblogaidd, yn canu yn y Rhyl nos Sul, ar ei ffordd i Eisteddfod Newmarket, a chafodd hwyl anarferol.
Advertising
IF YOU WANT SEASONED Oak, Mahogany, Birch, Black Walnut. Ash. White Wood, Pitchpine, Yellow Pine, Doors or Mouldings WRITE LEWIS ROBERTS, 19 STANLEY ROAD, LIVERPOOL. Undeb Ysgolion M.C. CARDIAL SAfONAU, RHAGBAROTOAWL HYD SAFON Y 9fed, I'w rhoddi yn nwylaw y plant, yn dangos iddynt y Maes Llafur, Darllen a Dysgu Allan am y flwyddyn. Pris (assorted) 3/6 y Cant. I'w cael gan HUGH EVANS, 444 Stanley Road, Liverpool. Maes Llafur Undeb; Ysgolion M.C I rai dros 21 oed Llawlyfr or £fengy!. \t.tt. -15 gan y Parch.W. Williams, Hirwaen. Pris, 1/3 I rai dan 21 oed-Gwerslyfr ar Efengyl Matt., 1-15. gan y Parch. W. Williams, Rhostryfan. Pris, 2c. Ar werth gaL HUGH EVANS, Llyfrwerthwr. 444 Stanley Road, ESTABLISHED 1876. WILLIAMS & HUGHES, LADIES' & GENTS' TAILORS, 21 Brunswick Road, Tel. 0778 Royal. LIVERPOOL. Vs'es. OWENS & CO., Vo'^RoT.i Office C4 Shop Fitters. DECORATING, PLUMBING, GASFITTING, &c And all kinds of Jobbing, 24 Hart St., London Road, LIVERPOOL. _m_ @ V VD v s? 4) P. Neil Campbell, 84 DURNING RD. (yu agos i G,)I(-g Hyffordduldol Kde Hill), LIVERPOOL. TYNNU DANNEDD YN DDii>OEN. A.u llenwi ag Aur. Arlan as yn y blaen. Rhoddir Cyfnrv yddydL a phruiam yn rljUuL Orlau: 9 y bore hyd 8 yrbwyw Oweinyddc* at Foncddigesam* Pallulnyr t 445 1\07al. Y DULL AJVlfcttlCANAIDD 0 Goroni a Phontio Dannedd. Jones* Hotel (Established over 100 years). Suffolk St., Pall Mall, London, (Adjoining Trafalgar Square.) Successors to Mr. Roberts, Thanet Place. Telegraphic Address—' Pleasant,' London. Proprietor-H. R. JONES. The Well=Known Remedy 41 from Wales for 0 RHEUMATISM, LUMBAGO, S31 ATI C A BACK-ACHE, WEAK CHEST, SORE THROAT, BURNS, CUTS, BRUISES, &c., is MORRIS EVANS' HOUSEHOLD OIL. Sold in Bottles, 1/li, & 2/6, by Grocers and Chemists, or from tne undermentioned Lancashire Representative- EDWARD R. HUGHES. 13 St. Michael's Road, Liverpool, S. Agent LEWIS JOB LEWIS, 20 Verulam St., Lpool. Book of Testimonials, &c., sent Post Free on Application to the Manufacturers- Morris Evans & Co., FESTINIOG, N. WALES Testynau Eisteddfod Llangollen.- RHESTR GYFLAWN Y TESTYNAU YN AWR YN BAROD, AO I'W CHAEL, PRIS 6ch., DRWy'R POST 7 £ c., GAN EVANS, SONS & FOULKES, SWYDDFA'B BBYTHON." CERDDOROL, 6c. The Cambrian School of Music. Liverpool Principal: MR. John Henry Roberts Mus. Bac. (Cantab.), A.R.A.M., F.T.S.C. (London). ASSISTED BY QjUALIFIED 0 PROFESSORS 0 0 The Branches taught include- Pianoforte, Organ, Violin and all Orchestral Instruments. Theory of Music, Harmony, Counterpoint, Fugue, Composition. Solo Singing Voice Production. Students :Specially Prepared for; Local Examinations. POSTAL LESSONS In Harmony, Counterpoint, Fugue, Composition, Accoustics, in all Tonic Sol-Fa College Subjects. MUSICAL COMPOSITIONS REVISED AND CORRECTED. Full Particulart fr&nt,- J. H; ROBERTS. 149GROVE ST., L'POOL: Mr. HARRY EVANS (Fellow of the Royal College of Organists) Conductor of the Liverpool Welsh Choral Union Teacher of Singing ALSO ORGAN 6 PIANOFORTE (ADVANCED). Students prepared for Degrees and Diplomas ADDRESS:: 26 Princes Avenue, LIVERPOOL THE LATEST SUCCESS. ROBERTS' WATCH METRONOME A combined Watch and Metronome. All tempos seen at a glance. No adjustment re- quired. Nothing to get out of order. Every musician, whether Student, Singer, Teacher, Organist or Conductor, should possess one. TESTIMONIALS- "A great acquisition to musicians." Simple: useful, and portable." "Most ingenious and bandy.' Veryjgooaidca, thebestl have seen." "Most useful on account of its simplicity and portability." A most valuable little thing, quite unique, ex- cellent." PRICE 15/- [postage extra] To be had from the inventor and patentee Dr. R. D. GLYN ROBERTS. 0 59 Crawford Avenue, J Iverpoot. 4 OS OES GENNYCH Swllt DaacAnwyd Drwg Gellwch gael ymadael a'r ddau drwy brynnujpotel o Prysor-Jones' LUNG BALSAM, Y Feddyginiaeth at ANWYD, PESWCH CRYGNI, DOLUR GWDDF, &c. Os cymerir dogn gydag ychydig o ddwfr cynnes cyn myned i orffwys, fe gynhesa y frest a sicrheir NOSON DDA. Parotoedig yn unig gan D. PRYSOR. JONES (Olynydd i S. K. Drew), Fferyllydd, 291 Park Road, LIVERPOOL. Moses: O'R CAWELL A'R MOR COCH, Drama Gymraeg at wasanaeth Gobeithluoedd, &c. Gan PEDR HIR. Cyhoeddedig gan HUGH EVANS, Swyddfa'r 11 Brythoot Lerpwl. Ií1 Pris, 3c. 0