Welsh Newspapers

Search 15 million Welsh newspaper articles

Hide Articles List

7 articles on this Page

Advertising

Advertising

Advertising

CENEDLYDDIAETH.

Cydwaedoliaeth.

News
Cite
Share

Cydwaedoliaeth. 1.- Pa beth ydyw cenedl-pa betli sydd yn ei chyfansoddi-pa beth ydyw y darnodiad cywir ohoni ? Cyn y gellir penderfynu y pwnc yn foddhaol, rhaid cymeryd i ystyriaeth amryw elfennau. Un (1) ydyw cyd-darddiad neu gyd- waedoliaeth, wrth yr hyn y golygir fod y miliynau o bobl sydd yn gwneud i fyny genedl yn hannu o'r un cyff, ac felly yn gallu edrych yn ol gyda mwy neu lai o barch at yr un patriarchiaid, ac ym- ffrostio yn yr un gwroniaid. Cydnebydd pawb fod hyn, ymha le bynnag y mae, yn rhwym o effeithio yn rymus ar-yn wir, o gyfrif am-ffurfiad a thyfiant cenedl. Ond a ydyw yn ffaith yn rhyw- le ? Ymddengys ei fod i fesur mawr ymysg anwariaid y byd. Ychydig o gyfathrach—yn arbennig o'r fath gyf- atlirach garuaidd ag a arweiniai i briod- asau, ac i gyfnewidiadau ar raddfa helaeth yn eu gwaedoliaeth-sydd rhwng y llwythau paganaidd. Ni theimlant hwy nemor oddiwrth y peth a elwir yn cross- breeding, yr hyn sydd wedi profi ar hyd yr oesoedd mor ddistrywiol i hen genhedl- oedd, ac yn gymaint o feithriniad i genhedloedd newyddion. Ni cheir y tuallan iddynt hwy, os nad yw yr hen Iddewon yn eithriad, waed pur, neu ddi- gymysg, yn un man. Gwneir pob cenedl yn Ewrop i fyny o dylwythau gwahanol, o linachau amrywiol, ac o nifer o fan genhedloedd. Effeithia hynny yn ddwys ar eu cymeriad ac ar eu hanes, ac y mae yr effaith o fewn rhyw derfynau yn fanteisiol. Lie nad yw y gwahaniaeth rhwng y pleidiau sydd yn priodi eu gilydd yn fawr, y mae y canlyniadau, fel yn achos Saeson a Germaniaid yn America, yn fendithiol. Os bydd pellter eang rhwng y pleidiau, y mae y canlyniadau yn brofedigaethus cawn, er esiampl, fod epil Saeson a Negroaid, yn feddyliol a moesol, yn rhai isel iawn. Gan fod llwythau anwaraidd yn rhywogaethau pur, ainlygant ar liyd y canrifoedd un- rhywiaeth rhyfeddol mewn greddfau a thymherau ac arferion; a chan fod cenhedloedd gwar yn gasgliad o liaws 0 linachau, amlygant hwythau amryw- iaeth rhyfeddol mewn nodweddion, tal- entau, ac ymddygiadau. Yr un pryd, y mae rhywfaint o gydwaedoliaeth yng nghyfansoddiad pob cenedl; os nad yw y nifer lliosocaf, y mae nifer liosog o aelodau pob un yn hannu o ryw un cyff. Cynhydda y cydwaedoliaeth yma ymhob un o oes i oes oblegid hynny, er fod trigolion America yn gydgrynhoad o bobl o bob gwlad, nid yw y genedl Americanaidd yn ymadrodd cwbl am- ddifad o arwyddocad. Cymer cydym- doddiad graddol le ymhob cenedl, a di- lynir hynny gan fwy o gydnawsedd a chyd- ymdeimlad, a mwy o gyd-ddealltwriaeth a chydweithrediad. Daw ei chymeriad drwy hynny yn fwy unffurf a sefydlog.

Cydfrodoriaeth.

Unrhywiaeth Ymadrodd.