Skip to main content
Hide Articles List

5 articles on this Page

Advertising

DYDDIADUR.

BIRKENHEAD.

News
Cite
Share

BIRKENHEAD. Y mae Cymry Birkenhead wedi ail ddechreu canu, ar ol blynyddau o ddistawrwydd di- ffrwyth. Yn y dyddiau gynt, pan byw y diweddar Wm. Parry a'i gor dihafal y Cambrian yn eu hanterth, yr oedd eu harswyd drwy Loegr a Chymru, ac os clywsid fod yn eu bryd gystadlu yn yr Eisteddfod hon neu arall, "Wel, ahai ebe ami i ar- weinydd, ati o ddifrif nos a dydd, neu waeth i ni heb feddwl esgyn yr un llwyfan a Parry bach Birkenhead.' t- Arweinydd cor ydoedd Parry o'i goryn i'w sawdl, a llwyred ydoedd ei feistrolaeth ar y cor un ac oil fel y tyngai rhai ei fod yn meddu'r ddawn gyfrin o'u mesmereisio. Ac os byddai ambell lane neu lodes, mwy eu hafiaeth na'r gweddill, yn troi pen i sisial neu wag-wenu, caffai wg o lygaid yr arwein- ydd meinglust a'u gyrrai i grynnu fol yr aethnen. Ond cafodd Parry lafur a thrafferth an- hygoel i ddwyn ei g6r i'r safle oedd iddo yn nyddiau ei nerth a phan ffurfiwyd y cor ar y cyntaf, ac y cyfarfyddid yn y Queen's Hall i ymarfer, amrwd a diamcan ryfeddol ydoedd y defnyddiau—yn gymaint felly fel y torrodd yr arweinydd i ledio'r hen bennill er mwyn gollwng ei gynddaredd uwch eu penna-Li Bywyd y meirw, tyrd i'n plith, A thrwy dy ysbryd arnom chwyth Anadla'n rymus ar y glyn, Fel byddo byw yr esgyrn hyn Ond y mae y Cambrians a'u harweinydd wedi mynd i ffordd yr holl ddaear er's llawer dydd bellach ac er i'w fab, Mr D. 0 Parry- sydd bron can wefreiddied arweinydd a'i dad-ddal ati am rai blynyddau, tewi ddarfu'r cor, methiant fu pob ymgais i_ ail-ennyn y ffiam o hynny hyd yn awr a hynny o leisiau unigol gwerth eu cael, wel, fe ymunent a chorau mawrion ac enwog Lerpwl, gan ym- falchio yn enwogrwydd eu harweinydd ac urddas eu cor. •5b Yn ddiweddar, fodd bynnag, y mae yma arwyddion diwygiad ac er ar raddfa fechan, ar hyn o bryd, dymunwn bob llwydd i'r corau a'u harweinyddion. Rhaid wrthgawr o arweinydd i ystwytho cor o Gymry, a rhaid wrth wr o nerth ac awdurdod i gadw'r cantor- ion ieuainc yn swat ac ufudd, a ffyddlon i'r practices gwnaed y brodyr sydd wrthi eu goreu,—cant barch a diolch, ac hwyrach yr ymsefydla rhywun yn y dref toe ac ysbryd William Parry wedi ail-ymgnawdoli ynddo. Look-out, Talke a Manchester Orpheus, a phob cor gwedyn! Ik Y mae yma ddau g6r wrthi'n paratoi at gystadlu yn Eisteddfod Newmarket ddydd Llun nesaf,—cor cymysg, tan arweiniad Mr. Thomas Morris a chor meibion, tan ofal Mr. David Lloyd a nos Iau ddiweddat, ymunodd y ddau i gadw cyngerdd at ddwyn treuliau'r mynd a dod, yn y Queen's Hall a dyrna ddywed un gohebydd am dano Cafwydd cynhulliad rhagorol, a phe bernid y cwrdd oddiwrth nifer yr encores, dyma'r goreu o holl gyngherddau'r tymor, achos yr oedd pawb yn gorfod ail ganu, hyd nes y bu raid cwtogi yn y diwedd. Agorwyd y cwrdd gan y cor meibion gyda chydgan Y Morwyr yn Saesneg, ac ail ganu yn Gymraeg. Can- asant hefyd y darn cystadleuol Teyrnged Cariad," ond yr oeddynt o dan gryn anfantais oherwydd fod amryw o'r tenors yn absennol- yr oedd y bass yn dda iawn. Canodd y c6r cymysg eu darn cystadleuol hwythau, sef Enaid Cu" Isalaw, a bu raid ail ganu, a ihaid i minnau gyfaddef i mi gael fy siomi o'r ochr oreu. Mae cryn wahaniaeth barn ynghylch y dull goreu i ganu y darn tlws yma —gobeithio fod yr arweinydd wedi cael allan syniadau y beirniad. Clywais Miss Mary King Sarah yn Eisteddfod Genedlaethol Caernarfon pan enillodd y ddwy wobr, ond mwynheais hi yn llawer gwell nos Tau, pan ydoedd yn rhydd oddiwrth lyffetheiriau cystadleuol. Ni raid iddi hi nag Eos Mawddach wrth lythyr canmol. Gwnaeth Mr. J. Usher Lloyd ei waith yn gymeradwy gyda'r "Revenge" a'r "Toreador's Song," braidd yn drwm oeddynt i'w lais. Am Mr. E. Lloyd Roberts yn canu penhillion, yr oedd ef yn treat. Canodd ar Penrhaw a Llwyn On," ac er ei fod yn gellweirus, yr oedd yn berffaith lan. Gresyn ei bod mor gostus i gael telyn yn y trefi yma, nes mae y pwyll- gorau yn gorfod defnyddio y berdoneg yn ei lie. Yr oedd y trefniadau yng ngofal Mr. W. R. Holland, ysgrifennydd y c6r cymysg, ac mae yn glod iddo fod wedi llwyddo i gael rhaglen mor chwaethus. Gobeithio y bydd elw sylweddol. Yr oedd yno sylwedydd arall yn bresennol, ac obe yntau am y cyngerdd Canodd y c6r meibion Cydgan y Mor- wyr (Dr. Parry), Teyrnged Cariad (Piighe Evans) a Soldiers' Farewell." Yr oedd y tenors braidd yn wan i gyfateb i'r basses, ac felly nid oedd y cydbwysedd cystal ag y buasai'n cldymunol, a'r cydsym- udiad hefyd yn wallus er hynny, rhoisant ddatganiad pur dda o'r darnau a enwyd. Yr oedd gwell cydbwysedd yn y c6r cymysg, ac yr oedd eu'datganiad o'r dernyn cystadl- euol, Enaid £ Cu|" (Isalaw) yn bur ganmol- adwy, er fod y symudiadau araf braidd yn glapiog mewn mannau. O'r ochr arall, canwyd y symudiadau cyflym yn dda iawn yr attack yn fwy unol, a'r cantorion yn amlwg yn fwy yn eu helfen nag yn y rhan gyntaf. Cafodd y ddau gor encore. Carwn awgrymu i arweinydd y c6r cymysg roi ei gyfarwydd- iadau i'r c6r yn ddistawach, yn lie bod pawb yn eu clywed. Prif atdyniad y noson ydoedd Miss M. King Sarah, yr hon, o ran arddull, geirio, brawddegu, a mynegiant, oedd yn profi ei hun yn gantores o'r radd flaenaf. Cafodd dderbyniad brwdfrydig, a gorfu iddi ail ganu. Dipyn yn anwastad oedd Eos Mawddach yn ei wahanol ganeuon y braw- ddegaeth yn anghywir weithiau yn Lead, Kindly Light (Pughe Evans), a thuedd hefyd i forcio ar y nodau uchaf nes bron dorri'r llais. Cafodd yntau ei ail alw felly hefyd Mr. J. U. Lloyd, yr hwn a brofodd nad ydyw wedi colli y gallu i ganu can gyda chymerad- wyaeth. Canwyd penhillion gan Mr. E. Ll. Roberts, a chyfeiliwyd gan Miss Gwladys Jones a Mr. R. Ll. Roberts, y rhai a wnaeth- ant eu rhan yn bur dda, er eu bod yn cael eu gorbwyso gan ofyniadau cyfeiliant rhai or caneuon. Da gennym glywed fod Mr. Thomas Jones, gynt o Lythyrdy Birkenhead, ac un o swyddogion eglwys y Wesleaid yn Claughton Road, ond oedd bellach yn bostfeistr Rhuthin er's blwyddyn neu ddwy, yn hoffi ei le fel pennaeth llythyrdy Machynlleth. Cawsai of ei ffordd, fe aethai'r BRYTHON a phob llythyr Cymraeg trwy'r post yn rhad ac am ddim ond leied ydyw nifer y Cymry a feddyliant lythyru yn yr un iaith ag y siaradant. k Yr oedd ym mryd Mr. David Evans, yr adeiladydd hysbys, alw un o'i heolydd newyddion yn Lloyd George Avenue ond gwrthwynebodd y Gorfforaeth gul ei brest, a bu raid boddloni ar Lloyd Avenue, heb y George. Heol arall gyfagos o'r eiddo ydyw Morley Avenue ac ai gwir fod rhai o rone Geidwadwyr y dref wedi nacau cymryd tai ynddi, a dewis yn hytrach aneddu yn Curzon Avenue gerllaw ? Pa bryd yr ydych am godi heol i Will Crooks, A.S., a Gwiddon," Mr. Evans ? k Dyla Mr. J. T. Williams, Brighton Street, Liscard (ysgrifennydd eglwys Anibynol Mar- tin's Lane) fod yn ddedwydd wrth weled y fath grap cryf at ddysgu sydd yn ei blant. Ddwy flynedd yn ol enillodd ei fab, Willie D. Williams, ysgoloriaeth sirol dair blynedd yn Ysgol Ramadegol Wallasey. Y llynedd, gwedi hynny, cipiodd ei fab arall, Goronwy, ysgoloriaeth sirol bedair blynedd yn yr un ysgol. Ac eleni, dyma'i ferch Olwen yn ennill ysgoloriaeth gyffelyb bedair blynedd yn y Girls' High School, Wallasey. Yroedd y gystadleuaeth am yr yegoloriaethau hyn yn ago red i lioll ranbarth Wallasey, a rhai miloedd o blant yn ciprys am danynt. Oes gennych chwi chwaneg o hiliogaeth i ennill ysgoloriaethau'r flwyddyn nesaf eto, Mr. Williams ?

Advertising

GlannouV Mersey