Welsh Newspapers
Search 15 million Welsh newspaper articles
9 articles on this Page
Cysgodau y Blynyddoedd Gynt.
Cysgodau y Blynyddoedd Gynt. GAN GWYNETH VAUGHAN. PENNOD XVIII.—Y WELEDIGAETH" CERDDAI Tegwen Rhys tan ganu, a'r gunog laeth ar ei phen o'r fuches, tua'r Llety. Hi oedd yr olaf yn troi adref, aethai y forwyn a dau biser mawr Ilawn o'r Ilefrith cynnes newydd ei odro, un ymhob Ilaw iddi, yn ol i'r ty cyn i Tegwen ddechreu ymweled a'r gwartheg, y naill a'r llall yn eu tro, er mwyn bod yn sicr o gael y llaeth yn lan o bwrs bob un. Ni ymddiriedai Ceridwen Rhys y gor- chwyl hwnnw i un forwyn gyflog; cofiai ryw bryd pan oedd y plant yn fychain, a hithau yn sal yn ei gwely, iddynt golli buwch dda oblegid diofalwch morwyn adawodd i bwrs y fuwch fyned yn ddrwg am na odrwyd hi'n lan. Peth anodd iawn, Ceridwen, ydi esbonio pwysigrwydd pethau o'r fath i enethod penchwiban, ac am wn i na lwyddodd yr un meistr erioed i rwystro gwas i stwffio gormodedd o flawd i geffyl. Mae'r arferiad fel greddf ymhob un welodd 'y llygad i, beth bynnag, er bod nhw'n gwybod yn eitha nad oes dim mor beryglus i fywyd yr anifail," ebe Hywel Rhys wrth ei wraig. Chawn ni mor fuwch yn ei hoi, ond rhaid i ni dreio trw'n gilydd rywsut fod yn ofalus yn hunain ynte." A'r canlyniad fu iddynt-wedi i Tegwen dyfu yn eneth ieuanc tua'r pymtheg oed,— ymddiried y gofal iddi hi, ac er ieuenged oedd ni chollwyd buwch yn y Llety yn amser goruchwyliaeth Tegwen. Ond bu bron iddi golli'r llaeth y nawnddydd hwnnw, er fod cario'r gunog ar ei phen mor gynhefin iddi hi fel y byddai ambell dro yn cerdded o'r fuches bellaf dan wau hosan, er fod y gunog yn llawn o laeth ar ei phen. Dynesai llwydni'r cyflychwyr pan groesai yr eneth y weirglodd olaf cyn iddi gyrraedd y gamdda i'r berllan wrth ochr y ty, ac er ei dychryn gwelai heb fod yn nepell oddi- wrthi yng nghysgod un o furiau adfciliedig yrhenfonachlog, rywun mewn dillad gwynn ion, a thybiai hi fod gwreichion tan i'w gweled o'i ddeutu. Dychrynnodd Tegwen, ond er hynny nis gallai yn ei byw beidio syllu tua'r cwr hwnnw o'r weirglodd, a thybiai ei bod yn gweled symudiadau tebyg i blentyn yn dawnsio. Y tylwyth teg sydd yna, tybed ? Ynte un o'r seintiau ? Eto, beth ar y ddaear sydd ar yr hen seintiau eisio fan yma ? Pabyddion oedd y cwbwl ohonyn nhw," ebe'r eneth wrthi ei hun. Well i mi frysio, os byddai byw ac iach mi ofala i na fyddwn ni ddim mor hwyr yn cychwyn i odro eto, codi'r tatws ne:beidio. Un o blant y mor oedd Tegwen, ac fel holl breswylwyr ynysoedd bychain, glannau'r mor fyddai y rhodfeydd a garai oreu. Siiwyd hi i gysgu yn ei chryd yn swn ei donnau, ei wylain gwynnion oeddynt yr adar a hoffai, ei gregyn amryliw fu teganau ei mebyd, a'i chwedloniaeth swynol oedd llenyddiaeth ei phlentyndod. Bu Tegwen yn eistedd lawer gwaith ar lan y mor yn disgwyl yn ddyfal am weled y forforwyn yn cribo ei gwallt ar frig y don neu gobeithiai gael golwg ar sarff y mor, y creadur hwnnw elwir yn Arglwydd y Mor weithiau, am nas gellir gwybod dim yn ei gylch, ond ei fod yn preswylio 3r dyfnderoedd ac ambell dro yn dangos rhyw gipdrem ohono ei hun fel drychiolaeth yng nghanol y cefnfor mawr, nes peri dychryn a braw ym mynwesau dynion. Nis gwyddai Tegwen ar y ddaear beth oedd y tan na'r wisg wen oedd yng nghysgod yrhen furiau,—feallai y disgwyliem ni yn yr oes faterol hon i'r eneth fyned tuag yno, ac archwilio y lie yn drwyadl. Ond nid oedd adeg yr hen ramantau drosodd yn nyddiau ieuenctyd Tegwen, a phob llances neu lane yn ymffrostio yn eu hanghredin- iaeth yn yr oil, ond a all eu hymenydd gwan hwy eu hamgyffred. Druain ohonynt; nid yw eu haddysg a'u graddau wedi rhoddi iddynt ond prin chwar- ter gronyn o'r gwybodaethau sydd yn ami fel tywod y mor yn ei greadigaeth fawr Ef. Pe yn gwybod ychydig yn rhagor, gallasent feallai amgyffred eu hanwybodaeth eu hun- ain ryw gymaint yn well. A phwy *yr na fuasai eu tipyn athroniaeth yn dysgu iddynt nad dysgeidiaeth ydyw ymryson a Duw ? Ond nid un o'r rhai anghrediniol oedd Tegwen ieuanc, a dyna paham nas bu iddi son wedi myned i'r ty am yr olygfa a'i dychrynnodd. Tybiai Tegwen fod rhyw reswra dros ymweliad y tylwyth teg, ac ofnai eu tramgwyddo, a thrwy hynny beri niwed i'w theulu, os tynnai wg y creaduriaid bychain arni ei hun. Pur anaml, yn ol y traddodiadau y gwyddai Tegwen am danynt, fyddai eu hymweliadau a'r ynys a beth pe un o'r hen seintiau oedd yno, buasai yn waeth fyth aflonyddu arnynt hwy. Yna cofiodd Tegwen iddi glywed rhai o'r cym- dogion yn dweyd fod yna ddrychiolaethau yn ymddangos yn yr ynys byth er pan gollwyd y Ilong fawr honno yn y dymestl. Bu ymron a myned i ddweyd wrth ei thad, ond ofnai mai ychydig o gydymdeimlad oedd i'w ddisgwyl. Ni feddai y Brenin fawr o ofergoeledd yr hen ddyddiau. Dyn diwyd, gonest, ei ddyddiau ei hun yn Ilawn o waith, ac heb nemor o amser i freuddwydio, oedd Hywel Rhys. Dyn yn tybied nad oedd a wnelai dyn yn proffesu crefydd a hen hanes- ion. Dynion da fel efe fu yn achlysur i ni golli cymaint o'n hen chwedloniaeth Gymreig, megis ag y collasom fiwsig y delyn a'r crwth o fysg y bobl. Hawdd yw beio ein hynafiaid, ond erys yn syndod i'n hysbryd ni paham y bu iddynt fod mor gryf yn erbyn y miwsig a'r ddawns, a goddef yr ymyfed hyd yn oed i broffeswyr crefydd. Gwrthod chwedlon- ia th eu gwlad eu hunain, a derbyn un y dwyrain gyda breichiau agored. Anodd iawn yw cysoni na deall ymddygiadau Cymry crefyddol yn nechreu y bedwaredd ganrif ar byaitheg. Pob camp Gymreig yn cael ei hystyried yn bechadurus, a phlant Cymru yn gorfod dioddef bias y wialen os meiddient ganu hen benhillion, neu siarad yn eu hiaith eu hunain yng nghlyw rhyw hen filwr o ysgolfeistr na fyddai yn meddu un cymhwys- ter i fod yn ddysgawdwr chwaith na'i fod wedi colli coes neu fraich mewn rhyw ryfel neu gilydd, ac yn medru rhyw fath o Saesneg. Digon tebyg in' hanes ni ydyw hanes uchel- diroedd yr Alban, ac fel ninnau bu eu collod- ion yn anadferadwy. Gwnaed masnachwyr da ohonynt hwy a ninnau, ond collasom brydferthweh yr hen ddelfrydau cyntefig, hen ddoethineb y dewrion gynt ddaethant drosodd i'r ynys hon pan oedd y byd yn ieuanc. Nid gwaith hawdd ydyw agor ein calonnau i bobl nas gallant gydymdeimlo a'n syniadau, felly nid rhyfedd i Tegwen gadw cyfrinach ei gweledigaeth iddi ei hun y noson honno ac oblegid hynny meddyliai lawer mwy am y peth. Tra'n hidlo'r llaeth, un ran ohono i'r pot llaeth cadw ar gyfer y corddi, a'r llall i'r dysglau bychain yn barod i'w ddefnyddio at y gwahanol brydiau bwyd, am y dillad gwynnion a'r gwreichion tanllyd y synfyfyriai Tegwen, a lluniai ryw esgus neu gilydd i fyned tua'r drws, gan obeithio gweled rhyw argoel fod yr ymwelwyr, pwy bynnag oeddynt, heb ymadael. Nis gallai am foment gredu mai ysbrydion y bobl a foddwyd oedd yn aflon- yddu tybiai yr eneth ei bod yn rhy gynnar yn y gwyllnos iddynt hwy. Paham y rhes- ymai felly, nis gwn, os oedd rhyddid i'r hen seintiau, yn ol ei barn hi, fod o gwmpas mor gynnar. Feallai ei bod yn meddwl y gwyddai yr hen fynachod fwy o hanes yr ynys na'r dieithriaid, ac felly yn deall oriau gorffwyso'r trigolion. Bore-godi gyda'r wawr, a myned i gysgu ymron yr un amser a'r ieir, oedd arfer yr ynyswyr hyd y gallent. Wedi myned i'w siamber fechan i'w chadw dros y nos, tynnodd Tegwen y lien oddiar ei ffenestr, a bu yno yn gwylio yn hir. Cododd y lleuad yn y ffurfafen, a gwelai yr eneth y mor aflon- ydd yn Iluchio ei donnau at y lan, ond gwel- odd rywbeth arall cydrhyngddi hi a'r dyfr- oedd yn gwibio yn ol ac ymlaen, yn codi breichiau i fyny, tybiai Tegwen, ac yn sicr erbyn hynny yr oedd goleuni arall amgen na goleuni'r Uoer yn tywynnu o gwmpas y bod byw a ymsymudai. Dechreuodd Teg- wen ofni a chrynnu, eto ni feiddiai fyned o'i hystafell ei hun i godi'r teulu i edrych ar yr olygfa. Sibrydai rhywbeth ym mynwes y ferch, pe deuent yno nas byddai dim i'w weled iddynt hwy. Clywsai Tegwen ryw dro mai i un yn unig y darganfyddai y tylwyth teg ei hunan ar unwaitll. Dechreuodd ym- ddiosg o'i dillad, ond yr oedd yr atdyniad at y ffenestr yn parhau, a'r goleuni o gylch y muriau yn myned yn fwy fwy bob moment, ac yn sicr deuai yr awel deneu a'r swn canu mwyaf peraidd a glywsai Tegwen yn ei holl oes. Clustfeiniodd yn ymyl y cwareli gwydr bychain, ei henaid wedi ei gynhyrfu gymaint nes i'w holl ofnau gilio. Rhoddai ei llaw ar ei chalon fel pe yn ceisio rheoli y curiadau cyflym. 0," ebe hi wrthi ei hun, na fyddai bosibLi mi glywed eu can yn nes ataf. Ond mae'r ffenestr yn rhy fechan i mi gripio allan trwy'r latis yma, a wiw i mi feddwl am fynd allan trwy'r drws mae mam yn clywed pob smic, p'run bynnag a fydd hi'n cysgu ne beidio. 0-" a gwrandawai yn ddistaw am enyd, yna clywai eiriau yn dod ati ar adenydd y gwynt Canwn hefo'r llanw, Canwn hefo'r trai, I frenin y dydd a brenhines y nos, Haul y bore, a'r lleuad dlos, Canwn hefo'r trai, Canwn hefo'r llanw." Pwysai Tegwen ei phen ar y gwydr, melod- edd y gan wedi swyno ei henaid. Diau pe Pabyddes fuasai, mai y cam cyntaf iddi hi fuasai croesi ei hun rhag i gyfaredd gwlad hud ei denu, ond ni ddaeth hynny i galon Tegwen. Syllai yn syn ar yr olygfa ryfedd, y foment nesaf gorweddai mewn hanner llewyg ar lawr y siamber, a phelydrai dau lygad arni o'r tu allan i'r cwareli gwydr. (I barhau).
--0--Colofn y Beirdd
--0-- Colofn y Beirdd [Y cynhyrchion gogyfer a'r golofn hon, i'w cyf- eino :—PEDROG, 30 Stanley Street, Fairfield.] Y Dillad yw'r Dyn.-Cyrliaeddgar iawn. Ond feallai-yn yr oes ymholgar hon-y bydd rhywrai yn gofyn-: Os y dillad yw'r dyn, paham y dywedir fod eisieu naw bethma i wneud un dyn ? Rhyngoch chwi a'ch gilydd. Henaint.-Englyn cryf a newydd. Ym- ddengys braidd yn eithafol yn ei gondemniad o Henaint, ond gwfllir y naturioldeb a theimlir grym ergyd yr englyn pan ddarllennir y ddwy linell olaf Trwy'r holl wladni ad o'i ol Un forwyn yn anfarwol." Dyna ffordd ddeheuig a barddonol o osod y syniad allan. Mewn Album.-Llinellau o arddull yr hen feirdd cynghaneddol, gyda rhai llinellau campus. Mae'n debyg y bydd raid i ambell ddarllennydd droi i eiriadur gydag ambell air. Mynd a Dod.—Ni ddarllenais benhillion mwy eneiniedig o hiraeth a serch er's llawer dydd, a chant eu cyhoeddi ar fyrder. A gefaist ti olwg, &c.—Mae y fydryddiaeth yn weddol, ond nid mor gelfydd ag y gall yr awdwr ei gwneud wedi ychwaneg o ymarfer- iad y syniadau yn briodol, ac ysbryd rhaff- orol yn anadlu drwy yr oil. Gydag ychydig gyffyrddiadau yn ei diwyg, gwnai gan dda. Ond mae hi yn rhy faith i ofod y BRYTHON- deuddeg pennill wyth linell yr un. NODIAD :— Lliaws ereill yn aros eu tro, Peidied un byrbwyll a myned o'i go
MYND A DOD.
MYND A DOD. o DAW y Gwanwyn yn ei bryd, Dyfod mae i fynd o hyd Ar y gangen sydd mor werdd, Blagur gaf, ac adar cerdd Deg friallen ger fy mron, Adnod gynnar gwanwyn lion Mynd a dod y gwanwyn gaf, Gwelaf dranc y ddeilen glaf,— Mynd a dod yn hoyw'i gam, Mynd i beidio dod wnaeth mam. Mynd a dod mae miri iach, Ac ysmaldod adar bach Chwery'r dail dan esmwyth blu Bronfraith fwyn a'i miwsig cu Deunod hen y gwcw gaf Ar fy nghlyw'n efengyl haf Ha mae'r gwew wedi mynd, Mynd i ddod fel llawer ffrynd Daw ei chan it llwyn di-nod, Mynd wnaeth mam i beidio dod. Rhosyn coch-mor hael ei swyn, Wynned yw y lili fwyn Mwyn yw hlin y falmaidd chwa Ar ei mynwes-dlws yr ha' Cochni'r rhosyn sy'n ddistaen, Bron y lili sydd heb ddraen Edwi wna—gogwydda'i phen, Ond daw'n ol yr un mor wen Mynd i ddod mae'r haf heb nam, Mynd i beidio dod wnaeth mam. Mynd a dod—per ffrwythau'r haf Yn gorlwytho'r cangau gaf Dlysed ynt ar gangen las, Ac mor beraidd yw eu bias Ond o'm blaen mae tymor blin,- Tymor noethni'r gangen grin Mynd a dod—yn ol fel hyn Daw grawnsypiau'r hafddydd gwyn Ni ofynnaf fi paham, Mynd i beidio dod wnaeth maIIl. Mynd a dod mae wyneb oen, Na wyr beth yw teimlo poen Ar ol-colli'r wyn o'r ddol, Ereill wyn a ddaw yn ol Treio wna y lasdon lefn, Ond i ddod i'r traeth drachefn Gyda'r wawr machluda'r ser, Gyda'r hwyr i'w rhodau ter, Daw pob un fel bywiol fflain,- Mynd i beidio dod wnaeth mam. Cemaes, Mon. AP Huwco.
Y FUN A'R GWALLT 0 FANAUR."
Y FUN A'R GWALLT 0 FANAUR." (Ysgrifenwyd yn Album Miss Jenney Cadwaladr, Bryngwran). JENNEY claer dlysni'r lasnef, Pe'n wir, lliw asur net Yw Uiw eigion ei llygaid- Lliw tes Mai fywioga'i haid. Rhudd-ros, ac eira gorwyn, Ar ei boch yn goch a gwyn. Haf fynnodd hefo'i hinon Dywallt ei wawl hyd wallt hon. Penna' rhodd pen o ruddaur, A gorlwysiad o gyrls aur. Dra chu geinder uwch gwyndal, Ni rof werth ar aur y Vaal. Oreuwawr loerwen riain A'i hud a'i gwawl yn gyd-gain. ISANDER.
Y DILLAD YW'R DYN.
Y DILLAD YW'R DYN. YMWISGA os am esgyn,—na hidia Am nodwedd dy goryn Myn y wisg,—ar y plisgyn A'i liwiau del sylwa dyn. N'ad i loddest dy luddio,—na dyled I dailiwr dy flino Fe aeth cefnder llawer 116 'N dywysgelwr wedi wisgo. GWAENFAB.
--r-HENAINT.
--r- HENAINT. Du fradwr hyf, difrodol,—yw Henaint, Anhoenus deyrn oesol Trwy'r holl wlad, ni ad o'i ol Un forwyn yn anfarwol. Penmaenmawr. PEDR CENIN JONES*
MWY 0 NODAU MAI ANWADAL.*
MWY 0 NODAU MAI ANWADAL.* (Englyn a gyfansoddwyd wrth weled copa y Manod Mawr dan gap o eira trwm ar fore y cyntaf o Fai, 1907. MAI oer, a mwy o eira—o'i wybren Nag Ebrill, mi wela' Ai y ddryghin ddug hindda ? Holir o hyd,—Welir Ha' ?
ENGLYN
ENGLYN a wnaed ar ystorm fawr o wynt a gwlaw a llifeiriant pan ar daith drwy Gwm Pen- machno, ar un o foreuau drybhinog Mai diweddaf, yng nghwmni cyfaill o'r enw Rhys. RHYS anwyl, aros enyd,—ystyria Mae'n ystorom enbyd Ni bydd hir yn boddi'r byd A chronlli mor ddychrynllyd. Penmachno. OWAIN MACHNO. (* Gwel englynion Gwilym Deudraeth,— BRYTHON, Gorff. 18fed).
Advertising
..COLEG Y GOGLEDD, BANGOR (Un o'r Colegau ym Mhrifysgol Cymru). PRIFATHRAW H. R. REICHEL, M.A., LL.D. Dechreua'r tymor nesaf Hydref 1, 1907. Paratoir ar gyfer Arholiadau Prifysgol Cymru, rhai o eiddo Prifysgol Llundain, y Cwrs Meddygol ym Mhrif- ysgolion Llundain, Edinburgh a Glasgow, ac arhol- iadau ereill. Rhoir addysg arbennig mewn Amaethyddiaeth (yn cynnwys triniaeth coed) ac Electrical Engineering. Mae yn y Coleg adran normalaidd i Athrawon elfennol a chanolraddol. Cynhygir dros 20 o Ysgoloriaethau, yn amrywio mewn gwerth o i 910 y flwyddyn, yn nechreu'r tymor nesaf. Mae Ysgoloriaothau Tate yn gyfyng- gedig i Gymry. Ysgoloriaethau John Hughes yn gyfyngedig i fechgynaned yn sir Fon neu sir Gaer- narfon, ac Ysgoloriaetbau Richard Hughes i drigolion Mon. Dechreua'r arholiad am danynt Medi 17. Ceir pob manylion gan J. E. LLOYD, M.A., Ysgrifennydd a Ghofrestrydd. CEINION CUDD. r Adgofion.. Hiraethog AM Y PARCH. Michael Roberts, PWLLHELI. « Is. 6ch Mewn Llian hardd. Is. 6ch Wedi eu rhanu fel y canlyn Arweiniad. l-Adgofion y Bachgen. 2-Adgofion y LIane. 3-Yn y Gymdeithasfa. 4-Y Tymor Tywyll. 5-Y Diwedd. Gyda Chywydd o waith yr awdwr, yn disgrifio'r Efen gylydd mwyn yn ei odfa fawr yng Nghymdeithasfa Llanrwst. Nid oes ond ychydig gopiau ar lawr, a dylai y rhai ddymuno gael copi, anfon ar unwaith. Cyhoeddedig gan HUGH EVANS, 356-358a & 444 Stanley Road, LIVERPOOL. I Telephone 1157 Royal. Established 1856 ROBERT ROBERTS, ESTATE AGENT, 33 Netherfield Road South, Has Property to Let in various parts of the town. Mortgages arranged. Valuations made. THOMAS H. OWEN, ESTATE AGENT & ACCOUNTANT, 2a Foley Street, Kirkdale Rd., Liverpool. Property bought and sold, and Estates economically managed. Telephone, No. 1779. HENRY JONES, Estate Agent, Valuer 6 Property Auctioneer, 5 COOK STREET, LIVERPOOL. Rents Collected. Valuations made. Property sold by Public Auction or Contract. Telephone No. 7909. J. LEWIS JONES, ESTATE AGENT & VALUER, 60 Victoria St., Liverpool. Properties carefully managed. Rents personally collected. Purchases and Sales negotiated. Mortgages arranged and Insurances effected. THOMAS 6 JONES, ESTATE AGENTS & VALUERS, INVESTMENT BUILDINGS. 67 Lord Street, Liverpool. Telephone No.-5586 Central. Properties Bought and Sold. Mortgages arranged, Valuations made. Rents Colleoted. TBL. 42Y ANFIELD. ESTABLISHED 1872. STEPHEN ROBERTS & SON, ESTATE AGENTS & VALUERS, 137 Everton Road, Liverpool (Late 2 Stanfield Road). Properties carefully Managed. Rents personally Collected. Purchases and Sales Negotiated. Mortgages arranged and Insurances effected. ROBERT ROBERTS, ESTATE AGENT AND VALUER, 30 Hamilton St., Birkenhead. RBNTS COLLECTED. VALUATIONS MADE. PROPERTIES BOUGHT & SOLD. Telephone-223. R, E. HUGHES, Estate Agent, Surveyor & Valuer, Charing Cross, Birkenhead. Telephone No.—56 B'head, Has Houses to Let, and for Sale, in varions parts of the Town and out districts. Also Land to be Sold for Building purposes. Advances made to Builders. Estates laid out. Rents Collected, and Property carefully managed. Telephone 034 Central. WILLIAM WILLIAMS, LAND AND ESTATE AGENT, VALUER AND PROPERTY SALESMAN, 20 NORTH JOHN ST., Liverpool. YN AWR YN BAROD. LLOFFION GRA WNWIN. SEF Cyfrol Goffa y Parchn. WILLIAM ROBERTS, Lerpwl; WILLIAM NICHOL- SON; D. M. JENKINS; H. PARRY THOMAS,eto; HUGH JONES,Birkenhead; a DAVID JOHN, Manchester. Cynwysa y gyfrol ysgrif fywgraffyddol ar bob uu o'r brodyr hyn, ynghyda phregeth gan bob un a darluniau rhagorol, dan olygiaeth y Parch O. L. ROBERTS, Lerpwl. Pris 2s., trwy y post 2s. 3c. Yr elw arferol i ddosbarthwyr. Pob archebion i'w hanfon i'r awdwr 7 Hampstead Road, Liverpool. Anfoner yr archebion ar unwaith, gan y cyhoeddir rhestr awn o'r Tanysgrifwyr ar ddiwedd y gyfrol. IF YOU HAVE A TALKING MACHINE, Then you want Recordsfor same. We stock all the Latest and most Up-to-date Titles. Hear DAVID BRAZELL sing Ar hyd y nos," Nos Calan," etc., etc. We have also Records by the following Artistes :— Edward Davies, Gwladys Roberts, Henry Drew, Tom Owen, Ted and May Hopkins, and the Welsh Choir. If you have not got a Talking Machine, write us for Lists, etc. of Graphophones, Edison Phono- graphs, and all the Latest Machines. DIBBS, LTD- 7 RANELAGH PLACE, 4 doors from Lewis's. LIVERPOOL. T. WOOSNAM ROBERTS, Bootle Estate Office, 52 STANLEY RD., BOOTLE. (2 DOORS FROM BEDFORD RD.), Has for Sale Semi-detached Residence, Morningside-road, Bootle.—Derby Lease. Ground rent, Y,5 10s. per annum. The house containsOn ground floor, 2 entertaining rooms, kitchen, scullery, pantry. On first floor, four bed- rooms, dressing and bath rooms, 2 bed- rooms, and boxroom above. Good cellars. 9300 Equity in well-built Freehold Property (new) in Church-road, Seaforth. Each house contains Parlour, Kitchen, Scullery, and washhouse, 3 Bedrooms, Bath, Lavatory, and w.c. Detached Residence, corner of Trinity-road and St. Albans-road, Bootle, containing two entertaining rooms, kitchen, scullery, p-try, etc., good cellars, large sunny garden, with side entrance from Trinity-road. Derby Leasehold. Convenient for electric trains and cars Semi-detached Residence, St. Albans-road; Bootle. Derby Leasehold. Five bedrooms, dressing-room, bath, and separate w.c three entertaining rooms, kitchen and scullery on ground floor, washhouse, larder, toolhouse. Coal and wood store outside. Good cellars. Splendid greenhouse. Detached Residence, Hawthorne Road-Leasehold 999 years; ground rent JE17 per annum Ground Floor, 3 entertaining rooms, kitchoilt scullery and pantry first floor 6 bedrooms, bath, lavatory, and w.c. second floor, 4 bedrooms; large garden at rear, 2000 square yards of land, two stall stables at side. Semi-detached Residence in Balliol Road hold for 75 years, 40 unexpired, ground rent 29 per annum; large garden, coach" house and stable, with entrance froul back road. Semi-detached Residence, Hawthorne-road j leasehold for 75 years from 1884; ground rent £ 5 per annum. The house contains bedrooms, bath, lavatory and separate w.o. on 1st. floor, and 8 bedrooms above; large brick built washouse and store at rear on level of kitchen; good cellars garden bacK and front. Bank-road, Bootle; leasehold for 75 years froul 1877 ground rent E4 5s. per annum 50" square yards of land. The house contains drawing and dining-rooms, kitchen an scullery, large washouse. 4 bedrooms, bathroom and separate w-c. Queen's-road; leasehold for 75 years; sitting and dining-rooms, kitchen, scullery, pantry> 6 bedrooms, bath, lavatory and w.c., wasn and coal cellar; close to station. Bootle Estate Off iceg 52 Stanley Road, Bootie. ESTABLISHED 1884. TELEPHONE 205 BOOTLE O. JONES WILLIAMS, ESTATE AGENT & VALUER, 24 SIR THOMAS STREET, LIVERPOOL. Personal supervision in every detail ID general management of all kinds of Rea. Estate, Confidential Reports and Valuation9 for Purchase, Sale, or Mortgage. Est. 1885. Telephone 1903 Centra1 Telephone: 279 Bootle. LINA CK-E BRICK COMPANY 122 Marsh Lane, Bootie. Works: Canal Bank. Branch Offices 38 HAWTHORNE ROAD, ORRELL, BOOTLØ Telephone—216 Bootle. AND 23 OLDHALL STREET, LIVERPOOL Telephone—1554 Central. Houses to Let, ELECTRIC LIGHT THROUGHOUT. RENTS FROM 5/- to 10/- P E R W E E K|. APPLY— WILLIAM JONES, 38 HAWTHORNE ROAD, ORRELL, BOO DAVID EVANS, ParR Road I North Estate BIRKENHEAD. Pellseinyr 391 Birkenhead. TIK A THAI ar werth neii osoljya rhaubarth iachafanw/3, cyfleus y dref. cyfleus y dref. 1 Ardreth o 6/6 yr wythnos i fyny i 5$ 3 5 flwyddyn. Yn gwynebu'r Pare, ac yn ymyl Gorsaf y Trams a Threns bob chwe munudi a gellir cyrraedd lunrhyw un o t Tai hyn:mewn 15 munud neu lai ° Liverpool. fi Contract blwyddyn gyda'r trêD, dim 00 tua 2ic. y dydd. Ymofyner a Mr. David Evans, neu Mr. Wm. Edwards, Estate Agent,Park** Norkh, a ohonglJDuke Street.