Skip to main content
Hide Articles List

9 articles on this Page

Cysgodau y Blynyddoedd Gynt.

News
Cite
Share

Cysgodau y Blynyddoedd Gynt. GAN GWYNETH VAUGHAN. PENNOD XVIII.—Y WELEDIGAETH" CERDDAI Tegwen Rhys tan ganu, a'r gunog laeth ar ei phen o'r fuches, tua'r Llety. Hi oedd yr olaf yn troi adref, aethai y forwyn a dau biser mawr Ilawn o'r Ilefrith cynnes newydd ei odro, un ymhob Ilaw iddi, yn ol i'r ty cyn i Tegwen ddechreu ymweled a'r gwartheg, y naill a'r llall yn eu tro, er mwyn bod yn sicr o gael y llaeth yn lan o bwrs bob un. Ni ymddiriedai Ceridwen Rhys y gor- chwyl hwnnw i un forwyn gyflog; cofiai ryw bryd pan oedd y plant yn fychain, a hithau yn sal yn ei gwely, iddynt golli buwch dda oblegid diofalwch morwyn adawodd i bwrs y fuwch fyned yn ddrwg am na odrwyd hi'n lan. Peth anodd iawn, Ceridwen, ydi esbonio pwysigrwydd pethau o'r fath i enethod penchwiban, ac am wn i na lwyddodd yr un meistr erioed i rwystro gwas i stwffio gormodedd o flawd i geffyl. Mae'r arferiad fel greddf ymhob un welodd 'y llygad i, beth bynnag, er bod nhw'n gwybod yn eitha nad oes dim mor beryglus i fywyd yr anifail," ebe Hywel Rhys wrth ei wraig. Chawn ni mor fuwch yn ei hoi, ond rhaid i ni dreio trw'n gilydd rywsut fod yn ofalus yn hunain ynte." A'r canlyniad fu iddynt-wedi i Tegwen dyfu yn eneth ieuanc tua'r pymtheg oed,— ymddiried y gofal iddi hi, ac er ieuenged oedd ni chollwyd buwch yn y Llety yn amser goruchwyliaeth Tegwen. Ond bu bron iddi golli'r llaeth y nawnddydd hwnnw, er fod cario'r gunog ar ei phen mor gynhefin iddi hi fel y byddai ambell dro yn cerdded o'r fuches bellaf dan wau hosan, er fod y gunog yn llawn o laeth ar ei phen. Dynesai llwydni'r cyflychwyr pan groesai yr eneth y weirglodd olaf cyn iddi gyrraedd y gamdda i'r berllan wrth ochr y ty, ac er ei dychryn gwelai heb fod yn nepell oddi- wrthi yng nghysgod un o furiau adfciliedig yrhenfonachlog, rywun mewn dillad gwynn ion, a thybiai hi fod gwreichion tan i'w gweled o'i ddeutu. Dychrynnodd Tegwen, ond er hynny nis gallai yn ei byw beidio syllu tua'r cwr hwnnw o'r weirglodd, a thybiai ei bod yn gweled symudiadau tebyg i blentyn yn dawnsio. Y tylwyth teg sydd yna, tybed ? Ynte un o'r seintiau ? Eto, beth ar y ddaear sydd ar yr hen seintiau eisio fan yma ? Pabyddion oedd y cwbwl ohonyn nhw," ebe'r eneth wrthi ei hun. Well i mi frysio, os byddai byw ac iach mi ofala i na fyddwn ni ddim mor hwyr yn cychwyn i odro eto, codi'r tatws ne:beidio. Un o blant y mor oedd Tegwen, ac fel holl breswylwyr ynysoedd bychain, glannau'r mor fyddai y rhodfeydd a garai oreu. Siiwyd hi i gysgu yn ei chryd yn swn ei donnau, ei wylain gwynnion oeddynt yr adar a hoffai, ei gregyn amryliw fu teganau ei mebyd, a'i chwedloniaeth swynol oedd llenyddiaeth ei phlentyndod. Bu Tegwen yn eistedd lawer gwaith ar lan y mor yn disgwyl yn ddyfal am weled y forforwyn yn cribo ei gwallt ar frig y don neu gobeithiai gael golwg ar sarff y mor, y creadur hwnnw elwir yn Arglwydd y Mor weithiau, am nas gellir gwybod dim yn ei gylch, ond ei fod yn preswylio 3r dyfnderoedd ac ambell dro yn dangos rhyw gipdrem ohono ei hun fel drychiolaeth yng nghanol y cefnfor mawr, nes peri dychryn a braw ym mynwesau dynion. Nis gwyddai Tegwen ar y ddaear beth oedd y tan na'r wisg wen oedd yng nghysgod yrhen furiau,—feallai y disgwyliem ni yn yr oes faterol hon i'r eneth fyned tuag yno, ac archwilio y lie yn drwyadl. Ond nid oedd adeg yr hen ramantau drosodd yn nyddiau ieuenctyd Tegwen, a phob llances neu lane yn ymffrostio yn eu hanghredin- iaeth yn yr oil, ond a all eu hymenydd gwan hwy eu hamgyffred. Druain ohonynt; nid yw eu haddysg a'u graddau wedi rhoddi iddynt ond prin chwar- ter gronyn o'r gwybodaethau sydd yn ami fel tywod y mor yn ei greadigaeth fawr Ef. Pe yn gwybod ychydig yn rhagor, gallasent feallai amgyffred eu hanwybodaeth eu hun- ain ryw gymaint yn well. A phwy *yr na fuasai eu tipyn athroniaeth yn dysgu iddynt nad dysgeidiaeth ydyw ymryson a Duw ? Ond nid un o'r rhai anghrediniol oedd Tegwen ieuanc, a dyna paham nas bu iddi son wedi myned i'r ty am yr olygfa a'i dychrynnodd. Tybiai Tegwen fod rhyw reswra dros ymweliad y tylwyth teg, ac ofnai eu tramgwyddo, a thrwy hynny beri niwed i'w theulu, os tynnai wg y creaduriaid bychain arni ei hun. Pur anaml, yn ol y traddodiadau y gwyddai Tegwen am danynt, fyddai eu hymweliadau a'r ynys a beth pe un o'r hen seintiau oedd yno, buasai yn waeth fyth aflonyddu arnynt hwy. Yna cofiodd Tegwen iddi glywed rhai o'r cym- dogion yn dweyd fod yna ddrychiolaethau yn ymddangos yn yr ynys byth er pan gollwyd y Ilong fawr honno yn y dymestl. Bu ymron a myned i ddweyd wrth ei thad, ond ofnai mai ychydig o gydymdeimlad oedd i'w ddisgwyl. Ni feddai y Brenin fawr o ofergoeledd yr hen ddyddiau. Dyn diwyd, gonest, ei ddyddiau ei hun yn Ilawn o waith, ac heb nemor o amser i freuddwydio, oedd Hywel Rhys. Dyn yn tybied nad oedd a wnelai dyn yn proffesu crefydd a hen hanes- ion. Dynion da fel efe fu yn achlysur i ni golli cymaint o'n hen chwedloniaeth Gymreig, megis ag y collasom fiwsig y delyn a'r crwth o fysg y bobl. Hawdd yw beio ein hynafiaid, ond erys yn syndod i'n hysbryd ni paham y bu iddynt fod mor gryf yn erbyn y miwsig a'r ddawns, a goddef yr ymyfed hyd yn oed i broffeswyr crefydd. Gwrthod chwedlon- ia th eu gwlad eu hunain, a derbyn un y dwyrain gyda breichiau agored. Anodd iawn yw cysoni na deall ymddygiadau Cymry crefyddol yn nechreu y bedwaredd ganrif ar byaitheg. Pob camp Gymreig yn cael ei hystyried yn bechadurus, a phlant Cymru yn gorfod dioddef bias y wialen os meiddient ganu hen benhillion, neu siarad yn eu hiaith eu hunain yng nghlyw rhyw hen filwr o ysgolfeistr na fyddai yn meddu un cymhwys- ter i fod yn ddysgawdwr chwaith na'i fod wedi colli coes neu fraich mewn rhyw ryfel neu gilydd, ac yn medru rhyw fath o Saesneg. Digon tebyg in' hanes ni ydyw hanes uchel- diroedd yr Alban, ac fel ninnau bu eu collod- ion yn anadferadwy. Gwnaed masnachwyr da ohonynt hwy a ninnau, ond collasom brydferthweh yr hen ddelfrydau cyntefig, hen ddoethineb y dewrion gynt ddaethant drosodd i'r ynys hon pan oedd y byd yn ieuanc. Nid gwaith hawdd ydyw agor ein calonnau i bobl nas gallant gydymdeimlo a'n syniadau, felly nid rhyfedd i Tegwen gadw cyfrinach ei gweledigaeth iddi ei hun y noson honno ac oblegid hynny meddyliai lawer mwy am y peth. Tra'n hidlo'r llaeth, un ran ohono i'r pot llaeth cadw ar gyfer y corddi, a'r llall i'r dysglau bychain yn barod i'w ddefnyddio at y gwahanol brydiau bwyd, am y dillad gwynnion a'r gwreichion tanllyd y synfyfyriai Tegwen, a lluniai ryw esgus neu gilydd i fyned tua'r drws, gan obeithio gweled rhyw argoel fod yr ymwelwyr, pwy bynnag oeddynt, heb ymadael. Nis gallai am foment gredu mai ysbrydion y bobl a foddwyd oedd yn aflon- yddu tybiai yr eneth ei bod yn rhy gynnar yn y gwyllnos iddynt hwy. Paham y rhes- ymai felly, nis gwn, os oedd rhyddid i'r hen seintiau, yn ol ei barn hi, fod o gwmpas mor gynnar. Feallai ei bod yn meddwl y gwyddai yr hen fynachod fwy o hanes yr ynys na'r dieithriaid, ac felly yn deall oriau gorffwyso'r trigolion. Bore-godi gyda'r wawr, a myned i gysgu ymron yr un amser a'r ieir, oedd arfer yr ynyswyr hyd y gallent. Wedi myned i'w siamber fechan i'w chadw dros y nos, tynnodd Tegwen y lien oddiar ei ffenestr, a bu yno yn gwylio yn hir. Cododd y lleuad yn y ffurfafen, a gwelai yr eneth y mor aflon- ydd yn Iluchio ei donnau at y lan, ond gwel- odd rywbeth arall cydrhyngddi hi a'r dyfr- oedd yn gwibio yn ol ac ymlaen, yn codi breichiau i fyny, tybiai Tegwen, ac yn sicr erbyn hynny yr oedd goleuni arall amgen na goleuni'r Uoer yn tywynnu o gwmpas y bod byw a ymsymudai. Dechreuodd Teg- wen ofni a chrynnu, eto ni feiddiai fyned o'i hystafell ei hun i godi'r teulu i edrych ar yr olygfa. Sibrydai rhywbeth ym mynwes y ferch, pe deuent yno nas byddai dim i'w weled iddynt hwy. Clywsai Tegwen ryw dro mai i un yn unig y darganfyddai y tylwyth teg ei hunan ar unwaitll. Dechreuodd ym- ddiosg o'i dillad, ond yr oedd yr atdyniad at y ffenestr yn parhau, a'r goleuni o gylch y muriau yn myned yn fwy fwy bob moment, ac yn sicr deuai yr awel deneu a'r swn canu mwyaf peraidd a glywsai Tegwen yn ei holl oes. Clustfeiniodd yn ymyl y cwareli gwydr bychain, ei henaid wedi ei gynhyrfu gymaint nes i'w holl ofnau gilio. Rhoddai ei llaw ar ei chalon fel pe yn ceisio rheoli y curiadau cyflym. 0," ebe hi wrthi ei hun, na fyddai bosibLi mi glywed eu can yn nes ataf. Ond mae'r ffenestr yn rhy fechan i mi gripio allan trwy'r latis yma, a wiw i mi feddwl am fynd allan trwy'r drws mae mam yn clywed pob smic, p'run bynnag a fydd hi'n cysgu ne beidio. 0-" a gwrandawai yn ddistaw am enyd, yna clywai eiriau yn dod ati ar adenydd y gwynt Canwn hefo'r llanw, Canwn hefo'r trai, I frenin y dydd a brenhines y nos, Haul y bore, a'r lleuad dlos, Canwn hefo'r trai, Canwn hefo'r llanw." Pwysai Tegwen ei phen ar y gwydr, melod- edd y gan wedi swyno ei henaid. Diau pe Pabyddes fuasai, mai y cam cyntaf iddi hi fuasai croesi ei hun rhag i gyfaredd gwlad hud ei denu, ond ni ddaeth hynny i galon Tegwen. Syllai yn syn ar yr olygfa ryfedd, y foment nesaf gorweddai mewn hanner llewyg ar lawr y siamber, a phelydrai dau lygad arni o'r tu allan i'r cwareli gwydr. (I barhau).

--0--Colofn y Beirdd

MYND A DOD.

Y FUN A'R GWALLT 0 FANAUR."

Y DILLAD YW'R DYN.

--r-HENAINT.

MWY 0 NODAU MAI ANWADAL.*

ENGLYN

Advertising