Skip to main content
Hide Articles List

4 articles on this Page

I ,"0 somm 0 - 0 0 0 BIG Y…

Cip ar yr America

News
Cite
Share

Cip ar yr America Anfonais air o'r blaen yngliylch y daith i America, dichon nad anyddorol gan liaws o ddarllenwyr y BRYTHON fyddai gair eto am yr hyn a brofwyd ac a welwyd yno ac ar y ffordd adref. Goddefer i mi ddweyd, ymlaenaf peth, ddarfod i mi dderbyn caredigrwydd di- derfyn oddiar law fy nghydgenedl drwy yr holl wlad. Yr oeddwn wedi clywed am eu dawn i groesawu pregethwr o'r Hen Wlad cyn myned yno. Ond fy mhrofiad wedi bod yno ydyw na fynegwyd i mi yr hanner cyn cychwyn. Wrth gwrs, mae llawer o hyn yn codi oddiar yr anwyldeb sydd yn eu mynwes- au at yr Hen Wlad fel gwlad. Nid yw pawb mor barod a Mr. Aked i ddylorni y wlad a'u magodd ac a'u meithrinodd. Na, mae Cymru yn anwyl odiaeth gan Gymry America, yn enwedig y rhai sydd wedi ymfudo oddiyma yno. Nid yw hyn yn bod i'r fath raddau yn hanes y Cymry sydd wedi eu magu yn America. Ac eto, mae llawer o'r rheiny yn teimlo agosrwydd mawr at Gymru, yn herwydd eu cysylltiadau perthynasol. Ond am y rhai fagwyd yma, ac a ymfudasant yno, mae newyddion o'r Hen Wlad fel dyfroedd oerion i enaid sychedig. Ac nid rhyfedd, gan hynny, fod yr hwn sydd yn eu cludo iddynt yn cael croeso ganddynt. Mae y cwestiwn wedi ei ofyn i mi eisoes fwy nac unwaith-ac yn enwedig fe'i gof- ynnid yn ami gan bobl yr America eu hunain -sef, Beth ydych yn ei feddwl o'r wlad ?" ac "A fuasech chwi yn caru byw yma ? Wrth gwrs, gwelais ddigon ar y wlad a'i phobl yn fuan i ddeall nad diogel fuasai dweyd gair anffafriol am dani, gan nad beth fuasai dyn yn ei feddwl. Un o nodweddion y wlad ydyw, fod pawb o'i phobl yn meddwl yn uchel ohoni, ac yn deyrngarol i'w llyw- odraeth. Diameu fod a wnelo yr addysg a dderbyniant yn yr ysgolion dyddiol lawer a hyn. Yr un pryd, yr oedd yn dda gennyf fedru ateb y cwestiwn, a hynny yn onest a chydwybodol, trwy ddweyd mai gwlad ardderchog iawn ydyw Mae ei maintioli, fel y gwyr pawb, bron yn ddiderfyn a'i hadnoddau yn ddihysbydd. Gyda golwg ar y cwestiwn arall "A fuaswn i yn hoffi byw yno ? nid wyf yn gallu rhoddi ateb mor ddiamwys. Er cystal gwlad ydyw, mae yno amryw bethau ag y cymerai gryn amser i gymodi un sydd wedi byw dros hanner cant o flynyddoedd yn y wlad hon a hwy. Os myn un wreiddio a chartrefu yno, angenrhaid yw iddo (yn fy marn i) fyned yno yn lied gynnar mewn bywyd. Mae dullwedd ac arferion bywyd mor wahanol fel mae nid hawdd ydyw newid o'r naill i'r Hall. Credaf fod yno well lie i fyw, mor bell ag y mae y byd hwn yn y cwestiwn, nag sydd yma. Mae hyn yn wir, yn arbennig am yr amaeth- wyr a'r gweithwyr. Mor bell ag y gwelais i, y rheol ydyw fod yr amaethwyr yn byw ar eu tir eu hunain. Mewn amser cymharol fyr maent yn llwyddo i gasglu digon o ffrwyth i'w galluogi i ymneilltuo o'r fferm, a myned i fyw mewn tawelwch i'r trefi cyfagos. Gad- ewir y fferm i rai o'r plant neu ynte gosodir tir, neu gwerthir tir, i ereill. Rhyfedd oedd gennyf weled llawer o ddynion cymharol ieuanc wedi retirio o'u ffermydd ac yn byw yn y dref. Nid daioni digymysg yw hyn yn sicr. Un rheswm am hyn, ac o bosibl y prif reswm, ydyw prinder llafurwyr. Rhaid i'r amaethwr a'i deulu wneud yr holl waith eu hunain. Mae bron yn amhosibl cael help er talu cyflog mawr am dano. Par hyn i'r amaethwr deimlo bywyd yn faich, ac yn ami try y plant at rywbeth arall yn hytrach na ffarmio, serch fod ffarmio yn talu yn dda, ac er fod eu rhieni wedi gwneud eu ffortiwn. Yr wyf yn ofni fod gogwydd y Cymry yn yr America, fel yn yr Hen Wlad, o'r ardaloedd gwledig i'r trefi. Yn awr, mae yn hawdd canfod y bydd i'r agwedd hon ar fywyd gwledig Cymry America ddylanwadu yn anffafriol ar sefyllfa yr eglwysi yn yr ardaloedd gwledig. Ac felly y mae. A siarad yn gyffredinol, mae golwg dra llewyrchus ar yr Achos Mawr yn y trefi- eglwysi lliosog, cynulleidfaoedd mawrion. Ond eler i'r capelau yn y wlad ni cheir yno ond eglwysi gweiniaid, a chynulleidfaoedd bychain, fel rheol. Pymtheg neu ugain mlynedd yn ol arferai y capeli hyn fod yn llawnion. Pa le maent yn awr ? Wedi ymadael i'r trefi,neu ynte wedi symud ymhell- ach i'r Gorllewin. Ymddengys i mi nad oes gan y Cymry yn America yr un afael yn eu cartrefi ag oedd gan eu hynafiaid yn yr Hen Wlad. Dichon fod Cymry Cymru wedi dioddef mwy nag a ddylasent trwy afaelyd yn rhy dyn yn eu hen ffermydd seilion, a hanner newynu yn hytrach na'u gadael. Dichon fod Cymry America mewn perygl o redeg i'r eithaf cyferbyniol trwy beidio cydio mor dyn ag y dylent mewn ffermydd da. Dyma un o'r rhesymau. yn ddiddadl, sydd yn cyfrif am wedd lwydaidd crefydd yn rhai o'r ardaloedd gwledig. Mae yna un rheswm arall, sef cynnydd yr iaith Saesneg a diflaniad cyfatebol yr iaith Gymraeg. Yr oedd yr ymfudwyr cyntaf o Gymru yn Gymry uniaith o'r bron oll. Yr oedd plant y rhai hynny yn cael eu dwyn i fyny yn Gymry da o ran iaith. Erbyn hyn y mae plant y rhai hynny yn bennau teuluoedd, ac mae'n ofidus gweled fod llu mawr o'r drydedd, ac yn enwedig o'r bedwar- edd, genhedlaeth heb ddeall ond ychydig iawn o Gymraeg. Fel mae yn ddigon natur- iol, wrth gael eu dwyn i fyny yn ysgolion y wlad, mae yr ysbryd Americanaidd yn llethu yr ysbryd Cymroaidd o'u mewn. Y canlyn- iad yw eu bod yn ami yn colli dyddordeb ym mhethau crefydd, ac yn y capel Cymraeg, ac nid ydynt yn ymuno ag eglwysi Saesneg. Wrth gwrs, ceisir cyfarfod hyn trwy gynnal rhyw gymaint o'r gwasanaeth yn Saesneg ar eu cyfer. Ond, fel rheol, gwyddis trwy brofiad yn y wlad hon mai anodd yw cael achosion llewyrchus yn y cyfwng pan y ceisir cyfuno y ddwy elfen y Gymraeg a'r Saesneg ynddynt. Dyma, yn ddiau, un o problems mawr y presennol yn yr America. Un arall o'u hanhawsterau yno ydyw prinder gweinidogion. Mae yno amryw o eglwysi lliosog heb weinidogion. Ac os wyf yn deall yn iawn, maent yn methu cael rhai. Syn i mi yw na ba'i rhai o ddynion ieuainc y wlad hon yn cael ar eu calonnau fyned drosodd yno. Mao yno faes ardderchog i vrfr ieuainc hyddysg yn y ddwy iaith- dynion yn llawn sel a brwdfrydedd ynghyleh iachawdwriaeth eu cyd-ddynion. Nid wyf yn meddwl fod gwell cylch o wasanaeth ar y ddaear heddyw nag sydd yn yr America i ddynion o'r iawn stamp. Yr eiddoch yn gywir, I Webster Road. WILLIAM OWEN.

COLOFN y GWEITHIWR.

Advertising