Skip to main content
Hide Articles List

4 articles on this Page

I ,"0 somm 0 - 0 0 0 BIG Y…

News
Cite
Share

I 0 somm 0 0 0 0 BIG Y GTOMEN. I a m m hmm* J DYFODOL ABERDARON.-Go sbeitlyd hyd yma y bu'r gweddill o Gymru o Aberdaron a'i bobl, ond proffwydodd un sydd bellach yn ei fedd mai porthladd mawr i agerlongau mawr yr America a fydd y fan yn y dyfodol, a thren drydan hir yn cipio yno ymhen dwyawr o Lunden. "5b DYN A HELPO'R AMAETHWR.-Y •tt&e amaethwyr Cymru yn cwyno'n dost fod yr ymwelwyr yn sathru eu cnydau, ac felly'n pori colled drom iddynt. Y mae llawer o Saeson yn tybied pan ddeuant i Wild Wales y gallant fod can wyllted hithau, a bod popeth ynddi yn eiddo pawb, hyd yn oed ei choed ffrwythau a'i meusydd H. "CODI PREGETH IV Yi?. -Parodd llith ddyddorol Pryfyn yn y BRYTHON di- weddaf i ni gofio awgrym y diweddar Ddr. John Hughes sut i gael gwared o bregethwyr gWaelion. Waeth heb chwilio am gynllun ^w cadw allan—cheir yr un byth. Yr unig oeth i'w wneud ydyw eu gollwng oil i mewn, ac yna saethu'r gwehilion bob tair blynedd.' ^wy mwy cyforiog o ddawn a direidi na Dr. John ? CAMPBELL YM MHENMAENMAWR. Y mae'r Alpha Union—cymdeithas a'i hamcan i ledaenu'r Ddifinyddiaeth Newydd Wedi trefnu cyfres o gyfarfodydd ym Mhenrnaenmawr yr wythnos nesaf. Dech- reuir ddydd Llun, pryd y siaredir y Parch. R. J. Campbell. Mr. J. Allanson Picton fydd y cadeirydd a ddydd Mercher ^oesawir y diwinyddion newydd i gyd yn ei olasdy hardd ym Mhenmaenmawr. k NEWMARKET. — Wrth hedeg dros Dref- l&Wnyd, ond a elwir Newmarket heddyw, g^elai'r G'lomen globen o babell digon eang ddal pymtheg cant at yr Eisteddfod sydd 1 W chynnal yno ddydd Llun nesaf. Y mae yn° gryn ymgiprys corawl i fod deuddeg o feirdd yn ceisio am y gadair a llawer iawn Qymry Lerpwl yn troi tuag yno i gystadlu. mae argoel am well wyl eleni nag erioed. k PYRE CYMBU A'U LLUNIAU.-Ilen ifaririwr ger y Bala, oes neu ddwy yn ol, a Symerodd yn ei ben y gallai wneud trol; gwedi'i gorffen, aeth i'r dref i nol saer i fel ei farn arni. Edrychai'r saer yn go ddi- .fifol ar yr hen gono bob yn ail ag ar y drol" Be'chi'n feddwl ohoni hi, Robert, rwan Wel, wir, fe allai dyn feddwl am drol wrth ^rych arni hi," atebai'r saer. Yr hyn a barodd G'lomen gofio'r sylw ydoedd gwel'd yr edlychod o luniau a argreffir o bersonau ^yhoeddus ym mhapurau Cymru'r dyddiau Jyn. Ac fe allai dyn feddwl am y Parch, ^-a-hwn- ydyw hi efo liwythau. «Sb RYFEDDOD.—Gwelodd y G'lomen dau ryfeddod yr wythnos hon. Y cyntaf Ydoedd clywed ffermwr—un o ffermwyr ydanfrest Llanarmon-yn-Ial—yn teimlo'n diolchgar ac yn c-anmol y Brenin Mawr 10 yr wythnos braf a gawsid efo'r cynhaeaf gWair. A'r ail ryfeddod ydoedd gweld |weinidog yn galw o'r pulpud ar y casglydd y capel fore a hwyr y Saboth, ac yn cyf- rannu i'r blwch fel pobl ereill. Nid yw'r Jo men yn credu fod gweinidogion ddim ^mtachach na'u brodyr y gwyr lleyg ond ater o arferiad ydyw, yn ddiau. Hyn ydd wir, sut bynnag fe ddeffrodd ei weith- d deimladau da yr edrychwyr, fe gyfran- hwythau fwy o'r herwydd, a dywedent ei foll yn pregethu'n rhagorol. n PALPAU'R PAB.—Brydnawn ddydd gWener, x)uces Westminster (a hithau'n .^otestant, fel tae) a Mr. Harold Edwards Esgob Llanelwy, ac Eglwyswr fel tae), jJ .°ymeryd rhan amlwg a chyhoeddus yn I ""IldY Pantasaph,-y Dduces yn cyf- ia^n°'r 8w°brwyon i. ysgolheigion llwydd- 11118 yf ysgol eilraddol sydd ynglyn a'r vdliad, ac ymhellach yn gosod carreg yifaen aaeilad newydd sydd i'w ychwanegu Vn,yr ysgol fel helaethiad a mab yr Esgob Y tau yn dweyd pethau inwyn a melus am an ^y^dion. Anrhegwyd y Dduces ag rxerchiad euredig hardd, a dywedwyd wrthi teulu bendigedig ydoedd teulu Eaton l mae Lleiandy Pantasaph, a'r lliaws t'nk au cysylltiol ag ef, wedi costio i'r g yddi°n £ 25,000 o'r dechreu a bwriedir ario £ 2,500 yn rhagor ar yr ychwanegiad 1 esennol is OASTELL YIPENRHYN.-Fel y gwydd- rrtae'r fangre hardd hon ar osod, a dyma Can at gyfieithu'r hysbysiad Ar Werth pastell y Penrhyn, ger Bangor, trigjan J diweddar Wir Anrhyd. Argl. Penrhyn.— ai* y drigfan enwog hon mewn pare o j?°ed tewfrig, ac fe'i hamgylchir gan rod- ydd hyfryd, a choetir a ymestyn i '.° erwau agos y mae ar le tlws, ac ohoni lr golygfeydd arddunol yn f6r a mynydd, (jC y mae'n drigfan addas ymhob modd i o gyfoeth ac uchel dras cynhwysa rh6F ° ys^efyW tan gamp at groesawu, arrT11^ '^0 a 70 o ystefyll cysgu ac ymwisgo, y^ ymolchfau ac amrywiol hwylus- a^au ac angenrheidiau teuluaidd ystabl- v 1 ddeg ceffyl ar hugain, bythynod, ac 0 i'r marchweision, &c. 20,000 erw dirlf sae^lu> a chyfartaledd da ohono yn dir ynoca tua 2,000 o erwau o fynydd- ac ynddo bob amrywiaeth o helwriaeth eOg Inlog ryw bedair milltir o le pysgota an^ a brithyll dwr croew ac o'r mor yarcw {yacht) ac ymdrochle dwr Preifat yn gyf^gos i'r plas." i pwy a'i pryn WDINBYGH A'l THEILWRIA.ID.-Ai gwir fod Pageant-(chawsom ni byth mo'n boddloni am air Cymraeg am yr ysbleddach hwn)—tref Dinbych wedi ei oedi'n amhenodol oherwydd i'r teilwriaid fynd ar streic, ac felly y dilladau llac a llaes heb eu paratoi ? k LLYMEITIAN AR Y MOR.Y mae cymdeithasau dirwestol sir Gaernarfon wedi penderfynu cadw gwyliadwriaeth fanol ar yr ymyfed enbyd y dywedir aiff ymlaen ar yr agerlongau a deithiant rhwng Cymru a Lerpwl a mannau ereill ar y Saboth. k YR ALWEDIGAETH LITH-[?]G.-Y mae Mr. William Pierce Roberts, cyfreith- iwr, LIanrwst (partner gynt a Mr. David Jones, a yrrwyd yn 1903 i 4-1 blynedd o benyd-wasanaeth) wedi ei atal rhag gallu dilyn ei alwedigaeth fel twrne am ddwy flynedd, a'i alw i dalu traul yr ymchwiliad i'r achos, am dwyll-ddefnyddio amryw symiau o arian a ymddiriedasid iddo. 0 LANRWST.—Yn ffair Llanrwst, rhoes prynwr ceffyl o Loegr ei law yng ngheg ceffyl o Ysbyty Ifan er mwyn cael gwybod faint o ddannedd oedd ganddo, ac fe gauodd y ceffyl ei geg ar law y Sais er mwyn cael gwybod nifer ei fysedd yntau. 'Chafodd yr un o'r ddau eu llwyr foddloni. k Y PAB.-Taenodd rhywun y si fod y Pab yn wael, ac yn y fan dechreuodd y benbleth pwy a geid i gymeryd ei le. Peidied neb a phryderu gallent gael, a chroeso, hanner dwsin yng Nghymru a wnaent 'gystal pab a'r un eisteddodd erioed yng nghadair Pedr Sant. Protestaniaid, mae'n wir, ond pabau bychain del a phengryf dros ben. •5b HELIWR YR ANIBYNWYR.—Y mae'r Parch. Elias B. Jones, gweinidog eglwys Anibynol Mount Pleasant, Caergybi, wedi cyd- synio a chais pwyllgor Coleg Bala-Bangor i roi ei holl amser yn ystod y ddwy flynedd nesaf i ymweled ag eglwysi'r enwad i gasglu'r £5,000 sy'n angenrheidiol fel trysorfa ar- bennig at dalu am yr arholiadau newyddion. k C'YMDEITHAS YR IAITH GYMRAEG. —Ddydd Llun diweddaf, agorid yr Ysgol Haf ynglyn a'r Iaith Gymraeg yng Ngholeg y Brifysgol, Aberystwyth, ac y mae mwy o efrydwyr ac athrawon ysgol wedi dod eleni nag a fu erioed o'r blaen—agos i ddau gant, a thros drigain o sir Ddinbych yn unig. Cydnabyddir yr ysgol am y waith gyntaf gan Fwrdd Addysg fel yn hawlio grants. Yr darlithwyr ydyw'r Proff. Anwyl, Proff. J. E. Lloyd, Mr. S. J. Evans (Llangefni), a Mr. W. J. Gruffydd (Caerdydd). p CYMBY FEL ■ COMMERCIALS.— Ddydd Sadwrn, cynhaliodd cangen Gogledd Cymru o Gymdeithas y Commercial Travell- ers eu picnic blynyddol yn y Rhyl. Y mae mwy o Gymry yn gommercials yn ol eu nifer nag odid o'r un genedl a'r rlieswm eu b.od mor lwyddiannus yn yr alwedigaeth, meddir, ydyw eu bod yn fwy barddonol eu natur, ac felly yn gallu dychmygu a disgrifio'n well. Erbyn meddwl, mae rlxywbeth yn hynny, hefyd. r, MR. WM. GEORGE WEDI POET HI.— Bu ffrwgwd boeth rhwng Mr. William George a Mr. Greaves y Wern (cadeirydd yr ynadon ar fainc Porthmadog) ddydd Gwener. Dy- wedai'r ynad nad oedd digon o dystiol- aeth i brofi cyhuddiad yn erbyn Elias D. Jones, Gwesty'r Maddocks' Arms, o ganiatau meddwdod yn ei dy ond gwrthdystiai Mr. George, gan haeru fod ymddygiad yr ynadon yn warthus. A helpo'ch manars," ebe Mr. Greaves. "Y mae arnaf eisieu unioni tipyn ar ei chyfiawnder ynadol," atebai Mr. George, yr hwn oedd wedi twymno ac yn siarad yn debycach i'w frawd nag arfer. DWYN A DIANC.-Pan gyrhaeddodd y Cedric (llinell y Seren Wen, Lerpwl) i Queens- town o New York ddydd Gwener diweddaf, cymerwyd Wm. H. Howell, arwerthwr o Ferthyr Tydfil, i'r ddalfa, ar y cyhuddiad o ladrata E50, eiddo David Davies, o'r dref honno. Rhyfedd mor gyflym i adnabod lleidr ydyw'r cudd-blismyn a wyliant y teithwyr yn mynd a dod i'r llongau hyn yn Lerpwl, Queenstown, a mannau ereill. Y peth sy'n bradychu'r lleidr ydyw ei waith yn ceisio edrych fel pe na bae'n lleidr—ar- wyddion a adwaenir yn dda gan wr y gyfraith, ac a bar iddo roi ei balfau oerion yng ngwar y ffowr. «fc Y CAM GW AG.-Ddydd Iau diweddaf, caed Thomas Charles Williams, cigydd, Caernarfon, yn farw yn ei wely, wedi agor ei wddf o glust i glust a'r gyllell dorri cig a gaed a'i llafn yn waed trosto wrth ei ochr. Yn y trengholiad, dywedid mai cwla ydoedd ei iechyd er's amser, fod helyntion masnachol yn ei flino, a'i fod yn cael plyciau o iselder. 'Doedd ond ychydig ddyddiau er pan gymer- sid y cam gwag gan un arall o fasnachwyr y dref-Ensor yr esgidiwr—ac y mae'r gwneud am dano i hun yma yn rhemp o gyffredin yn y blynyddoedd hyn. Prawf fod hunan-feddiant yn lleihau, neu ynte fod y bobl wedi myned i beidio credu'r geiriau hynny "I'd rather bear those ills I have Than fly to others I know not of."

Cip ar yr America

COLOFN y GWEITHIWR.

Advertising