Skip to main content
Hide Articles List

6 articles on this Page

Advertising

0 r~;—s \ TRWY Y DRYCH. j

Advertising

Y Parch. William Owen.

--0--BWLCHGWYN A'R CYLCH.

Cymry a Moddion Gras.

News
Cite
Share

Cymry a Moddion Gras. i. YR enw cyffredin ar y gwasanaoth cyhoeddus yng Nghymru yw Moddion Gras;" iiiyited i'r moddion yw myned i'r capel neu'r eglwys i addoli ond enw arferol y Saeson ar hyn yw service," gwasanaeth. Y mae priodol- deb mawr yn y ddau enw. Y cyntaf a awgryma yr hyn yw y cyfarfod i ni, sef moddion o ras awgryma yr ail yr hyn yw i Dduw, sef gwasanaeth. Credwn fod sail Ysgrythyrol i'r ddwy agwedd, ac fod y naill mor bwysig a'r llall. Elai y Salmydd i'r cysegr i edrycli ar brydferthwch yr Ar- glwydd, ac i ymofyn yn ei deml." Deuai hefyd o'i flaen Ef a chan, ac i'w gynteddau a mawl." "Rhoddwch i'r Arglwydd," medd- ai, ogoniant ei enw." "Rhoddwch i'r Arglwydd ogoniant a nerth." Y mae der- byn a rhoddi mewn gwir addoliad Yr ydys yn ''derbyn er mwyn "rhoddi.' Y mae adeiladaeth" y saint i fod er gogoniant i Dduw." Prif wasanaeth yr enw moddion gras yw ei fod yn ein hadgofio yn barhaus mai moddion, ac nid amcan, ddyla' ein cyfarfod- ydd crefyddol fod. Ofnwn weithiau fod llwyddiant y cyfarfod fel cyfarfod yn myned yn ddiben ynddo ei hun ond lie bynnag y digwydd hynny, try y cyfarfod o angen- rheidrwydd yn fethiant. Yr unig ffordd i gael cyrddau crefyddol bendithiol ydyw cadw ein llygaid yn gyson ar eu diben, sef adeiladaeth i ddyn a gogoniant i Dduw. Nid yw yn rhyfedd fod moddion gras yn angenrheidiol, oblegid trwy foddion y mae Duw yn gweithio ymhob cylch. Rhaid defnyddio moddion dyna drefn ordeinied- ig Duw. A chan fod moddion yn angen- rheidiol, ymdrechir ymhob cyfeiriad i sicrhau y moddion mwyaf eSeithiol i gyrraedd yr amcan mewn golwg. Y mae amcanion mewn bywyd rywbeth yn debyg o oes i oes. Yn ein moddion, ac nid yn ein dibenion, y mae y gwahaniaeth. Hanes datblygiad cymdeithas yw hanes perffeithiad moddion. Dyna y rheswm paham y gwneir y fath ymdrech i berffeithio moddion addysg, a moddion" adferiad iechyd ac am yr un rheswm dylem ninnau geisio diwygio a pherffeithio moddion gras." Ystyriai yr Apostol Paul y mater hwn yn ddigon pwysig i ysgrifennu yn helaeth arno yn ei epistol cyntaf at y Corinthiaid. Cymer hamdden yng nghanol ei brysurdeb i drafod manylion gweddeidd-dra a threfn fel pethau angenrheidiol er sicrhau adeiladaeth." Gwneler pob peth er adeiladaeth." Deallai Paul yn yr oes fore honno yr hyn nad ydym ni yng Nghymru eto wedi talu ond ychydig o sylw iddo doallai fod gweddeidd-dra ac urddas yn wasanaethgar i adeiladaeth. Fel y dywedwyd, wrth drafod hyn, sonia Paul am fanylion, megis gwisg a phryd- londeb. "Bernwch ynoch eich hunain ai hardd yw i wraig weddio yn bennoetli." Gyda golwg ar Swper yr Arglwydd, ysgrif- enna, Am hynny, fy mrodyr, pan ddeloch i fwyta, arhoswch eicli gilydd (1 Cor. xi. 33). Cred yr Apostol fod cyd-ddechreu a cliyd- ddiweddu yn angenrheidiol er effeithiol- rwydd y gwasanaoth. Condemnia hefyd anrhefn ac anweddaidd-dra yn y dull o ddwyn y gwasanaeth ymlaen, yn enwedig o berthynas i ddawn y tafodau a'r proffwydo. Siaradai mwy nag un yn ami ar unwaith llefarent y naill ar draws y llall, yr hyn nid oedd weddus nac adeiladol. Gan hynny, os daw yr eglwys oil ynghyd i'r un lie, a llefaru o bawb A, tliafodau dieitlir, a dyfod o rai anysgedig neu ddigred i mewn, oni ddy- wedant eich bod yn ynfydu ?" Prin y buasai yr Apostol yn. ffafrio yr hyn a welwyd weithiau yn adeg y diwygiad, sef degau yn eydweddyo ac yn cydorfoleddu yn gyhoeddus. Ofnwn mai y geiriau hyn ddywedasai wrth lawer o'r cyfryw Tydi yn ddiau ydwyt yn, diolch yn dda, ond y llall nid yw yn cael ei adeiladu (1 Cor. xiv. 17). "A llefared y proffwydi ddau neu dri, a barned y lleill. Ac os datguddir dim i un arall a fo yn eistedd yno, tawed y cyntaf (adn. 29-30). Felly yr ysgrifennodd Paul at y Corinth- iaid, ac y mae angen dysgu yr un pethau eto yng Nghymru. Pwy a wad nad oes anrhefn ac anweddeidd-dra yn y gwasanaeth, ac fod amhrydlondeb a diffyg parchedigaeth yn anurddo yr addoliad mewn llawer eglwys ? Y cwestiwn y dymunwn geisio ei ateb yw Pa fodd y sicrheir gweddeidd-dra a defosiwn— defosiwn o'r iawn ryw, cymeradwy gerbron Duw a gweddaidd yng ngolwg dyn ? Ychydig o ffydd sydd gennym mewn man reolau caethion, er mai priodol yw rhoddi i'r ieuanc awgrymiadau yng ngoleuni profiad y gorffennol. Perygl gor-bwyslais ar fan reolau yw arwain i ddefodaeth a thynnu sylw oddiwrth yr ysbrydol at y materol. Rhaid i wir ddefosiwn godi o'r ysbryd, oddiar barchedig ofn," ac ymdeimlad fod y lie y byddwn ynddo yn lie cysegredig, a'r pethau yr ymnweir a hwy yn bethau cyesgredig. 1. Y mae gwir ddefosiwn yn codi oddiar ymdeimlad o gysegredigrwydd y lie. Yn ddiddadl, y mae associations crefyddol a lie neilltuol yn help i addoli. Credwn yn ddiysgog y dylai hyn fod ynglyn a'n haddoliad Hawdd fydd i rai waeddi Defodaeth," Pabyddiaeth," yn wyneb haeriad fel hwn ond credwn, er hynny, ei fod i'w gyfreith- loni. Creadur amser a lie yw dyn y mae o angenrheidrwydd o dan awdurdod deddfau lie ac amser. Y mae pob gweithred o'i eiddo yn gysylltiedig a lie ac amser. Perthyn associations neilltuol i lea dydd, ac nis gellir eu gwahanu y naill oddwrth y Ilall a'r associations hynny benderfynant ddylanwad y lle ar ein meddwl a'n calon. I ddangos hyn, cymerwn engraifft. "Hawdd i ni feddwl am ddyn fu unwaith yn gaethwas i'r ddiod feddwol, ond a adferwyd i bwyll a hunan- lywodraeth drwy adael ei hen ardal, a symud i ganol cyfeillion pur a dyrchafol. Yn yr awyrgylch newydd, ni theimla'r dyn unrhyw -anhawster i fyw yn sobr. Ond ymhen blynyddoedd gwelwn ef yn myned yn ol i'w ardal enedigol, ac y mae golwg ar ei hen gyfeillion,ac yn arbennig ar fan y' gyfeddach gynt, yn deffro yn ei fynwes y blys a'r chwant am y ddiod ac feallai y syrth yntau eto yn aberth i'w hen elyn. Digwydd peth fel hyn yn ami, ac nis gellir gwadu mai dylan- wad lie a'i associations sydd i raddau helaeth yn cyfrif am dano. Nid yw hyn i ryfeddu ato, oblegid y mae dyn wrth natur yn greadur "lie," ac nis gall beidio cysylltu ynei feddwl bethau neilltuol a mannau neilltuol. Cymer y diafol fantais helaeth ar y ffaith naturiol hon. Llwydda i ddwyn ei cleyrna3 ymlaen drwy wyrdroi greddfau naturiol dyn a'u defnyddio i amcanion anaturiol. Paha111 na chawn ninnau ddefnyddio yr un greddfa11 i amcanion ysbrydol ? Megis y mae golwg ) ar y dafarn yn deffro blys y meddwyn, pahaIn, na ddylai golwg ar addoldy fod yn help f ddeffro ysbryd addolgar mewn dyn ? Dylal hyd yn oed ein dynesiad at y capel fod yn foddion i ddwyn Duw a'r byd ysbrydol yn fyw o flaen ein meddwl. Rhaid cael hyn er mwyn sicrhau gweddeidd-dra a defosiwn cyson a pharhaus. I'r diben hwnnw, cadwer pob associate011 arall oddiwrth ein haddoldai. Y mae yn hen bryd rhoddi terfyn ar gynnal cyfarfodydd politicaidd yn ein capelau. Yn sicr, nid yw berw etholiad a chwerwder ysbryd plaId, chwiban a chrechwen a churo traed, weddus yng nghysegr y Goruchaf. Diau fod agwedd gysegredig ar bolitics, ac. fod egwydd- orion pwysig weithiau yn y glorian ond eye y mae yn briodol cynnal cyfarfod gwleidyddol mewn addoldy, rhaid wrth rywbeth invy nag egwyddor neu ddwy o bwys i ddadle^ o'u plaid. Dylid dadleu gydag o bresenoldeb Duw ac o gysegredigrwydd Y lie, a gwneud hynny oddiar y dibenioj1 uchaf, ac nid er mwyn gwneud fine speech a chracio jokes yn unig er ennill cymerad- wyaeth y lliaws. Ychydig iawn, os dim, yn well, yw ej^ cyfarfodydd llenyddol, er eu bod gwneud gwasanaeth rhagorol i'r wlad mewn amser a fu. Dewisir yn arweinydd y cyfaf' fod yn ami, nid y dyn goreu, ond rhyw fr»w ffraeth a doniol, oblegid ni chyfrifid cyfaff0 o'r fath yn llwyddiant heb fod ynddo rhy^ gymaint o ch wer thin—boed gall, boed angl)a Er eu holl rinweddau, gwnaeth y cyrdda^ hyn eu rhan yn dda i ladd defosiwrn crefyddo yn ein gwlad, ac i fagu hyfdra a diffyg Parj*T edigaeth yn yr addoliad. Trwy drugareddi cynhelir hwy erbyn hyn yn yr ysgoldaj* Felly, gwella y mae pethau yn y cyfeiria hwn ond eto y mae lie. Ni chawn yr ieuenctyd i ymddwyn yn briodol-yn wed- aidd ac mewn trefn "—hyd nes y cyfyOg1?' yr addoldy yn unig i wasanaeth crefydd0 ac y megir ynddynt ymdeimlad o gysegr- edigrwydd lie addoliad. 2. Y mae gwir ddefosiwn yn codi oddiar ymdeimlad o gysegredigrwydd y gwasanaetl" Ni raid dweyd ond gair ar hyn. Pe yn deilwng am natur addoliad, ni cymaint o gysgu a lled-orwedd diogljd; Yn yr addoliad bydd Duw yn ymwneud d dyn, a dyn yn ymwneud a Duw. Byd buddiannau ysbrydol yn y fantol, a phendei" fynir materion mawrion yr enaid. Y ystyriaeth briodol o bwysigrwydd y gwa1^ a chysegredigrwydd y gwasanaeth yn hanf° £ 01 i sicrhau gwyleidd-dra ysbryd a phai'Ci*' edigaeth. 3. Rhaid hefyd wrth ymdeimlad o gysegl" edigrwydd fel rhan o'r gwasanaeth. DiffY o hyn yw un achos o'r amhrydlondeb Y cwynir cymaint o'i blegid. Y mae achosioi1 ereill iddo. Dechreuwyd edrych ar amhryd' londeb fel peth dibwys mewn adeg pan y arferid cynnal y gwasanaeth yn amlatl1 ddwy awr, ac weithiau yn hwy na ilynily. Blinai y bobl ar gyfarfodydd ineithion felly' ac aethant yn hwyrfrydig i gychwyn iddynt. Feallai fod meithter y gwasanaeth eto mewn rhai mannau yn achlysuro'r un diffyg' Dylid cofio fod mwyafrif yr Ymneilltuvvy yn mynychu dau neu dri o gyfarfodydd ar Y Saboth. Nid ydynt i'w cymharu yn hyn 0 beth a'r Eglwyswyr, sydd fel rheol yn Y tad foddloni ar un gwasanaeth. Canlyniad hyl yw fod y Saboth yn myned yn feichus yn &n\' ac y mae'r bobl yn anfoddlon i gychwyn y brydlon, yn arbennig os bydd y gwasanae yn debyg o fod yn faith. Credwn ei bod y ffaith mai yn y lleoedd y mae y gwasana-et yn faith y gwelir fwyaf o amhrydlondeb. Ond y mae achos arall o'r diffyg hW11, fel yr awgrymwyd eisoes, sef yr arferiad ,0 ystyried y rhannau dechrenol yn llai pwysg a chysegredig na'r bregeth. I lawer yn 6 cynulleidfaoedd, peth dibwys yw colli 3^ emyn cyntaf, ac yn wir colli y darlleni hefyd. Os cyrhaeddir cyn y weddi, ysty^ hynny yn burion gweddus a respectable. raid dweyd fod dyfodiad y cyfryw rai 1", addoldy yn peri mawr boen i'r rhai ddaw yno yn brydlon. Torrant ar dawelwch f I cysegr, ac yn ami gyrrant y golomen nofo i ffoi. ■ Pa fodd y gwellheir hyn ? Credaf 1J18>1 trwy wneud y rhannau dechreuol mor effei iol a'r rhannau dilynol, trwy baratoi y clar, lleniad a'r weddi mor gydwybodol ag y P & atoir y bregeth. Y mae darlleniad gweddi ystrydebol yn ddigon i argyhoed unrhyw un nad yw y pregethwr ei hun y^ gosod pwys mawr ar y rhannau hyn, ac nl oes bendith i'w chael drwyddynt. Nid folly yr arferai pregethwyr goreu Cymru wne Gwyddom yn dda yr urddas a osodai Hen Rees ar ddarlleniad y gair a'r weddi. som Thomas Charles Edwards yn gwed yn dawel ac yn syml, nes y teimlem m»J weddi oedd y rhan ardderchocaf o'r n wasanaeth. Arferai ymbaratoi ar gyfyt y weddi, ac anogai y myfyrwyr i wneud J un modd. f vier Heblaw ymbaratoad manylach ar g tJ11 y darlleniad a'r weddi, credwn y byddai peth arall yn help i ddyrchafu y rhanO dechreuol. Oni fyddai cael gweddi X j gynarach yn y gwasanaeth yn foddion ddwyn y pregethwr a'r gynulleidfa i addoli, ac oni fyddai hynny yn help i ymdeimlad gysegredigrwydd y daeeg a'r canu ? Hyn oedd arferiad Henry ym mlynyddoedd olaf ei oes, ac y ijg rhyfedd na chafodd esiampl gwr mor mewn duwiolfrydedd a dawn pregethn dilyn yn fwy cyffredinol. Llwyr gr.e -ggo byddai yr arferiad hwn yn foddion i y rhannau cyntaf ag urddas dyladwy, j fagu yn y cynvilleidfaoedd yr ymdei10 fod pob rhan o'r gwasanaeth yr un mor g>'s egredig a'u gilydd. Clywem felly fwy 0 jj am y- "gwasanaeth bendithiol," ac hwyr lai am y bregeth ragorol." Nid ydyn-1 meddwl wrth hyn y byddai y bregeth llai rhagorol, ond yn unig na chai øO bY polisio yr holl sylw, fel y gwna yn, fynnych. Cyfnewidiad er gwell Lfi oblegid nid ar bregethau yn unig y bydd dyn. i rl fod Canlyniad hyn oil fyddai ymdeinnau yr holl wasanaeth yn gysegredig, ac sanctaidd i neb feiddio torri ar ei da^e drwy amhrydlondeb gwirfoddol. Gwneler pob peth yn weddaidd ac jwr trefn." Canys nid yw Duw awdwr 11 bóll hydfod (anrhefn), ond tangnefedd, fel YJ ø. eglwysi y saint."