Welsh Newspapers

Search 15 million Welsh newspaper articles

Hide Articles List

6 articles on this Page

Advertising

0 r~;—s \ TRWY Y DRYCH. j

Advertising

Y Parch. William Owen.

News
Cite
Share

Y Parch. William Owen. DYMA'R Drych ar y Parch, William Owen, Webster Road, ac mae golwg bur dda arno newydd ddychwelyd yn Lion o'r Gorllewin araul, Ty'r hwyr, lie lletya'r haul "— ys canodd Nicander. Mae ein cydwlad- wyr y tu hwnt i'r mor yn dra hoff o groesawu ymwelydd o fath Mr. Owen, a theimlant fel pe byddai yn cludo yr Hen Wlad yn un pwn ar eu cyfer, i'w rhannu rhyngddynt. I ysgrifennu dipyn yn gallach, byddant yn disgwyl ganddo newyddion fyrdd a mwy, a phrin y gall fynd i unrhyw gapel na thy Cymreig na fydd ynddynt rywrai yn holi gydag awch, Ydach chi'n nabod V Bydd dyn yn dechreu synnu fod cynnifer o Gymry yn Lerpwl, heb son am Gymru, pan dynnir ef drwy arholiad y cyfeillion croesawus yng ngwlad Jonathan. Bydd hefyd yn bur debyg o gyfarfod ag ami hen gyfaill a adwaenai gynt, ond a gollasai o gymdeithas, ac feallai o gof, er's blyn- yddoedd. Mae yn America gewri o Gymry mewn gallu meddyliol a diwyll- iant, dewr o fryd, a disglaer eu cymeriad- au. Tra y mae'n wir ddarfod i rai gwaolion ffoi yno o bryd i bryd, y mae'n ffaith hefyd ddarfod i rai o ragorolion ein cenedl gefnu ar eu gwlad eu hunain am eu bod dan grafangau gorthrwm, ac yn rhy anibynol i'w oddef yn hwy. Anodd dweyd y da a wneir gan ymwelwyr pregethwrol. Da gan Lerpwl a Chymru am ddychweliad y pregethwr— bu agos i ni ddweyd poblogaidd," ond mae y gair hwnnw bellach wedi mynd yn chwerthinbeth cenedlaethol. Ond nid oes eisieu ansoddeiriau at ein brawd gwyr y neb a'i clywodd ei fod yn bregethwr. Coffa Gwraig Dda. GWRAIG nodedig oedd Mrs. Catherine Williams, gweddw y diweddar Mr. Wm. Williams, a mam Mr. Thomas Williams, Y.H., Llewesog Hall, Dinbych. Yr oedd hi yn wraig a gafodd gyfle i ddylanwadu ar nifer go fawr o fechgyn a ddeuent o Gymru i wasanaeth y teulu parchus yn eu masnachdai yng Nghaer a Lerpwl. Byddai rhai ohonynt yn lletya gyda'r teulu, a bu ei gofal hi a'i phriod drostynt o fantais anrhaethol iddynt ar adeg bwysig yn eu bywyd, ac mewn amgylch- oedd llawer o demtasiynau. Bu cystal a mam i lawer dyn ieuanc oddicartref. A gellir dweyd, i glod y teulu llwydd- iannus hwn, iddynt bob amser greu awyrgylch moesol a chrefyddol pur i'w gwasanaethyddion, ac yn eu masnach yn gyffredinol. Gwyr llawer o'n dar- llenwyr i'r diweddar Mr. William Williams -sylfaenycld y masnachdy helaeth yn Button Street, Lerpwl-fod yn flaenor yn eglwys Parkfield (M.C.), Birkenheadv ac iddo ar briodas ei fab symud i dreulio gweddill ei oes yn Llewesog Hall, lie y bu farw. Meddai Mrs. Williams ar feddwl cryf, a chafodd fyw i gyrraedd yr oedran addfed o 90 mlwydd. Cadw- odd ei chynheddfau yn fywiog i'r diwedd, gyda'r eithriad o'i chlyw. Cofiai ymhell iawn yn ol, a chanddi ystorfa helaeth o hanesion difyr. Cofiai iddi, y Sul cyn- taf wedi claddu perthynas agos, fynd gyda'r teulu a phenlinio o gwmpas y bedd i gyd-adrodd Gweddi'r Arglwydd— yn ol arferiad a ffynnai ar y pryd, yr hon, feallai, oedd yn weddillyn o weddi a offrymid unwaith dros y meirw. Mae'n hysbys fod y mab, Mr. Thomas Williams, Y.H., wedi bod yn Uchel Sirydd sir Ddinbych, a dyddorol gennym ddeall fod ei fab hynaf yntau yn dra addawol fel ysgolhaig, a newydd raddio gydag anrhydedd ym Mhrifysgol Caergrawnt.

--0--BWLCHGWYN A'R CYLCH.

Cymry a Moddion Gras.