Welsh Newspapers
Search 15 million Welsh newspaper articles
10 articles on this Page
Llythyr Gwleidyddol ---
Llythyr Gwleidyddol [GAN Y GWYLIWR]. O'r Twr, Westminster, Nos Fawrth, Gorff. 30, 1907. Yr "Aelod Newydd." Y DYDDIAU diweddaf, yn y Lobby islaw, telid gryn sylw i symudiadau yr aelod ieuengaf o Dy y Cyffredin. Nid yw y dyddordeb a deimlir mewn aelod newydd yn parhau yn hir yn Westminster, ac yn ami iawn fe dderfydd am byth gyda thraddodiad ei araith gyntaf Anodd proffwydo pa fath ddyfodol sydd yn aros y diweddaraf o'r newydd-ddyfodiaid, Mr. Victor Grayson, Gwr dewisedig dosbarth-nid y mwyafrif- o etholwyr Colne Valley yw efe. Dywedir nad ydyw eto yn llawn pump ar hugain oed, ond y mae mor ddidaro a Mr. Keir Hardie, ac mor tunan-ddigonol a Mr. Edward Hemmerde. Socialist o'r dosbarth eithafol ydyw fe ddigiai wrthyf os na chaniatawn ei fod felly. Clywais ddweyd mai yn Ancoats, Manchester, y ganwyd ef, ac y mae hynny, meddai fy liysbysydd, yn ddigon i gyfrif am holl syniadau gwyrdroawl ei feddwl a'i fywyd. Gan nad beth am wir- ionedd y sylw, y mae rhyw hynodrwydd yn perthyn i Mr. Victor Grayson, a synnwn i ronyn na bydd ei enw ar dafod y werin ac ar binnau yr ysgrifenyddion am ysbaid i ddyfod. Ondo'mcuddfa yn y Twr, yr wyf o dro idro wedi gweled ami i greadur hynod yn cael ei foldio gan Dy y Cyffredin a'i amgylchedd i'r un ffurf a'r chwe chan wr cyffredin a eisteddant o'i gwmpas ar y gwyrdd-feinciau ddiwrnod ei ddyfodiad. A ydyw yr aelod newydd diweddaraf o stamp wahanol, amser yn unig a ddengys. Dadsefydliad. IE, Dadsefydliad Y mae y cwestiwn yn parhau i aros er naa ymdrinir ag ef. Gan gofio, y mae'r Comisiwn yn fyw, er nad ydyw yn eistedd. Ni dderbynir tystiolaethau am ddeufis eto, y diwrnod cyntaf o Hydref yn wir yw yr adeg benodedig. Bwriada'r Arglwydd Farnwr Vaughan Williams ail agor y Comisiwn y dydd hwnnw, ac eistedd am bythefnos gyfan. Yna bydd y Llysoedd Cyfreithiol yn agor, a gelwir y Barnwr i gymeryd rhan yng ngwaith Llys Apel, ond disgwylia y bydd yn bosibl rhoddi pob yn ail wythnos at waith y Comisiwn hyd nes y deuir i ben a'r tystiolaethau. Nid wyf yn gwybod yn sicr, ond fe ddywedir fod rhyw led-addewid y penoda'r cadeirydd ddir- prwy ar y dyddiau hynny y bydd ef ei hun yn analluog i fod yn bresennol. Os digwydd hynny, bydd yn hawdd dwyn y gwaith i derfyn rhesymol o hyn i ddiwedd y flwyddyn. k Mr. Ellis Griffith. 'RWy'N ofni i ryw siawns ymadrodd o'm heiddo ychydig amser yn ol berswadio Mr. Ellis Griffith i ddal ati gyda'r cynhygiad Quixotaidd o ofyn i'r Blaid Gymreig fyned yr eildro at y Prifweinidog i erfyn am addewid gyflawnach ynghylch Mesur Datgysylltiad yr Eglwys yng Nghymru. Dywedwyd mewn pryd nad ydoedd ei waith yn ddim amgen na churo pen yn erbyn y mur. Modd bynnag, curo ei ben a fynnai Mr. Griffith, ac nid ydwyf yn sicr fod yn edifar ganddo eto. Yng nghyfarfod y Blaid Gymreig ddydd Iau di- weddaf, ail gynhygiodd eu bod yn myned at Syr Henry Campbell Bannerman i ofyn am addewid bendant y dygid y Mesur i mewn yn y pedwerydd Senedd-dymor, h.y., yn 1909. Yr oedd Mr. Clement Edwards wedi myned drwy y seremoni o eilio'r cynhygiad mewn cyfarfod blaenorol, ond nid oedd yno y tro hwn i ategu. Felly, pan alwyd am vote-ac yr oedd y mwyafrif yn fwy parod i bleidleisio nag i siarad-un llaw—a honno yn llaw y cynhygydd ei hun-a godwyd dros y cynhygiad. Gwaeth na hynny, pan awgrym- oedd Mr. Griffith y gellid hwyrach ofyn i Syr Alfred Thomas dros y blaid ddatgan gobaith y gwelai Syr Henry ei ffordd yn glir i drin Dadsefydliad yn y pedwerydd tymor, nid oedd neb yn barod i'w eilio—ac yn y fan yna y gadawyd y mater. Yn awr am y Gwrthryfel
--0--LLANGOLLEN.
--0-- LLANGOLLEN. DDYDD Iau diweddaf, yr oedd treat blynyddol Ysgolion Sul yr Ymneilltuwyr Arferai yr holl eglwysi uno mewn gwibdaith bob blwydd- yn, ond am fod masnach mor isel, ac am- gylchiadau y Llan mor dlawd, penderfynwyd eleni i uno mewn te gartref. Cyfarfu'r holl eglwysi yn eu haddbldai eu hunain am 3 o'r gloch ac wedi gwneud cyfiawnder a'r te, &c., cyfarfu yr oil yn y Smithfield am 5 o'r gloch, yna gorymdeithiwyd drwy y dref, yn cael eu blaenori gan seindorf bechgyn yr Indefa- tigable i gae perthynol i Mr. Frank Jones, Penddol. Yno mwynhaodd y plant eu hun- ain mewn rhedeg, cerdded, a hobneidio am y goreu. Gofalwyd am y rhaglen gan Mr. J. W. Kyffinr yr ysgrifennydd, ac am, gyf- iawnder i'r plant gan y Mri. E. M. Parry, P. Lloyd Humphreys, a R. H. Jones, ynghyda a Mr. R. Jones Williams yn gofalu am y merched. Er mai gwlyb a bygythiol oedd y tywydd yn y bore. Trodd allan yn hynod ffafriol at y prydnawn, a mwynhaodd pawb eu hunain yn gampus. Y r dy:dd o'r blaen cyfeiriwyd llythyr gan loan Eifion o Benygroes, Caernarfon, i Mr. Thomas Owen, Ty Capel yr Anibynwyr yma, fel y canlyn Yn hoew at Thomas Owen—cipia I'r Ty Capel addien, Ger addoldy Hwfa hen- 117AYn lion gall yn Llangollen." Sieryd hyn yn uchel am swyddogion ein llythyrdai eu bod yn deall ac yn gallu darllen yr iaith Gymraeg. r
ADOLYGIAD.
ADOLYGIAD. DRWYIQIL Y DRWS, gan R. H. JONES. --Cyfrol fechan ddestlus iawn o delynegion tlysion a thyner yw y llyfr hwn. Yr awdwr yw R. H. Jones, ac ychwanegir mai yr un ydyw a chyfieithydd Yr Hen Ddoctor." Dygodd y gorchwyl llwyddiannus hwnnw yr enw i sylw cylc eang o Gymry. A sicr yw y bydd i'r gyfrol newydd hon o delynegion wneud ei enw a'i fri yn fwy hysbys eto. Mae gwerin gwlad, yn hen ac ieuanc, wedi blino ar geisio darllen awdlau a phryddestau meithion. Ond y mae chwaeth at wir farddoniaeth yn llawn yn y galon Gymreig. A meithrinir, ef yn effeithiol gan ganeuon syml a thyner a chrefyddol eu naws fel y rhai geir yn y gyfrol hon. Y mae y delyneg flaenaf yn rhoddi teitl hapus iddi. Drwy gil y drws gwelodd y bardd gipdrem ar dlysni palas y boneddwr ac ar dlysni mwy y bwthyn lie y darllennai hen wraig grefyddol ei Beibl. Ni cheisia'r awdwr wneud dim ond prin dremio drwy gil y drws i fewn i ystorfa tlysni a moes y testyn- au y cana arnynt. Ond yn ddiau y mae ganddo lygad i weled a chalon i deimlo yr hyn sydd dyneraf a phuraf yn y natur ddynol. Cymerwn "Y Cerydd fel un engraifft o lawer Troseddu wnaeth fy mhlentyn hoff, Fe'i cosbais er fy ngwaethaf, Os tost fu'r cerydd iddo ef, Y fi ddioddefodd fwyaf. 0 hyd 'rwy'n torri deddfau'm Tad A'r gosb sydd ar fy ngwarthaf Ai tybed, er fy chwerw lef, Mai Ef sy'n dioddef fwyaf ? Y mae yn yr awdwr ddigon o dynerwch i ddeall calon y fam. Cyffyrddiad o'r fath dyneraf, ond hollol gywir a ffyddlon, yw hwnnw yn nhelyneg "Y fam a'i bachgen Nefoedd wag fydd heb Feurig Gan ei fam. Y mae'r tynerwch addfwyn a mamol yma yn ei alluogi hefyd i fyned yn ddwfn i gyfrinion y galon Ddwyfol. Telyneg dlos iawn yw Gore Duw." Iddo ef mae gore Duw ymlaen o hyd. Mae cynnydd ac awydd am rywbeth gwell i nodweddu bywyd plant Duw yn y nef ei hun 0, ryfedd ore Duw Chaiff plant y nef Ei hoff rai Ef Byth weled gore Duw." Ond nid y moesegydd a'r cyfrinydd yn unig a welir yn- y caneuon hyn. Y mae'r gwir fardd yma hefyd. Darllenner Ystormydd Bywyd," a chanfyddir hyn 'R ol bore teg mi welais gwmwl du Yn teithio'n unig ar y gorwel pell, Rhyw gennad-gwmwl chwim o lys y mellt I weld a oedd uwch bryniau Cymru lan Ddewisol fan i gynnal storom erch," &c. Onid oes yma wir dlysni barddonol yn y pennill canlynol Mae'r cymyl claer ar edyn gwyn Yn gweld eu gwedd mewn llawer llyn Wrth deithio, Ond calon lan yw'r ore un, Mae Duw ei Hun yn gweld ei lun Yn honno." Y mae yma ddefnydd adroddiadau rhagorol i'r Gobeithluoedd. Y mae'r awdwr wedi llwyddo i gyfuno y tlws, y moesol, a'r crefyddol yn hapus dros ben. Haedda gylchrediad eang a llongyfarchwn yr awdwr ar ei feddiant o awen mor bur ac mor dyner ei chyffyrddiadau. Cynnyrch calon lan ac ysbryd addfwyn a llednais a defosiynol ydynt i gyd. Par eu darllen les i galon pob dyn. Cyhoeddir y gyfrol gan Hughes a'i Fab, Gwrecsam. Ei phris yw swllt, a dwy geiniog yn ychwaneg os anfonir hi drwy'r post.-Hawen.
O'R DE. ---.
O'R DE. [GAN HESGIN.] Alva." ENILLWYD cadair Eisteddfod Clydach, ger Abertawe (a gynhaliwyd ddydd Sadwrn diweddaf) gan Mr. W. Alva Richards. Dyma y bedwaredd gadair ar hugain iddo ennill. A feder yntau ddim eistedd mewn mwy nag un ar unwaith pe dae yn treio. 'Does bosibl na rydd o heibio gystadlu am fan wobrwyon bellach. Llai o gadeiriau a mwy o feirdd ydyw angen Cymru. Lloyd George a'r Parch.H. M. Hughes Y nos Sul ar ol iddo fod yn areithio ym Mhontypridd, ymwelodd Lloyd-George ag Ebenezer, Caerdydd, lie y mae y Parch. H. M. Hughes yn gweinidogaethu. Fel y gwyddoch, nid rhyw hywaeth iawn ydyw Mr. Hughes wedi bod yn ddiweddar am fod y Llywodraeth yn anwybyddu Datgysylltiad, ac wrth gwrs 'doedd dim byd mwy naturiol nag i Lloyd George fynd i edrych am dano, a thynnu ei law dros ei ben o, megis. Dywed yn deg wrth y ci a fratho," meddai'r hen ddihareb. R. J. Campbell a Chaerdydd. Cyn y bydd y llinellau hyn mewn argraff, bydd ymweliad y gwr parchedig uchod a Chaerdydd i draddodi darlith ar The Child and the State wedi myned heibio. Ni buaswn yn cyfeirio ato yr wythnos hon onibae i'r South Wales Daily News ychydig ddyddiau yn ol gyhoeddi ar goedd y byd fod Plaid Anibynol Llafur Caerdydd (o dan nawdd pa un y darlithiai) wedi penderfynu gofyn iddo sefyll fel ymgeisydd Llafur a Sosialaidd dros Gaerdydd yn yr etholiad nesaf. Fel un sydd mewn sefyllfa i wybod i'r blewyn beth y mae Plaid Anibynol Llafur Caerdydd wedi ac yn ei wneud, gallaf ddweyd yn ddibetrus nad oes, hyd yma o leiaf, air o wir yn y stori Mae'n ddigon tebyg y bydd ymgeisydd Llafur ar y maes-ond pwy a fydd 'does neb wyr. A pheidiwch chwi a synnu na fydd etholiad yng Nghaerdydd yn gynt nag a feddylir. Mae gennyf fi hefyd amcan go lew pwy fydd ymgeiswyr y Toriaid a'r Rhyddfrydwyr. Yr ymgeisydd Torlaidd fydd Lord Ninian Stuart, brawd Ardalydd Bute, ac ymgeisydd y Rhyddfrydwyr fydd Capt. Frederick Guest, brawd yr aelod presennol. Mae Frederick wedi cael ei guro deirgwaith yn barod mewn gwahanol fannau, ac wedi colli dwy sedd i'r Rhyddfrydwyr yn y fargen. Caerdydd fydd y drydedd, mae'ri debyg. [Will the Cardiff papers please contradict the ab.ovo Corau Eisteddfod Abertawe. Dyma nifer y corau sydd wedi gyrru eu henwau i mewn ar gyfer Eisteddfod Aber- tawe :—Y Brif Gystadleuaeth Gorawl, 11 yr ail Gystadleuaeth Gorawl, 11 Cor Meib- ion, 13; Cor Plant, 26; Bechgyn, 8; Merched, 7 Seindorf Bres (a), 9 Eto (b) 7.
Y WASG FELEN.
Y WASG FELEN. DYWED Mri. Jas. Watson a'i Feibion, y sebon-wneuthurwyr o Leeds, fod perchen- ogion y Daily Mail a'r cyd-bapurau wedi cydnabod eu cam yn cyhoeddi'r athrod am y ffirm honno ac wedi cytuno i dalu yr iawn trwm a hawlid. Rhwng yr iawn a dalwyd i Mri. Lever Bros. a'r Watsons, a chostau anferth y gyfraith, bydd y Wasg Felen yn llai melyn o gryn ddau can mil o sofrins. A 'does ungwr a gar wasg lan yn gofidio dim tros y faeden fudr. Gwir a ddywedodd Bardd yn ei Awen yn y BRYTHON di- weddaf Fu 'rioed fath rwb mewn llys o'r blaen, Am na fu neb mor ddwfn ei staen, 'Roedd 'sgrafell Gwir yn brifo'n arw, A'r Daily Mail yn gwaeddi' Wchw
--0--Ffetan y Gol.
--0-- Ffetan y Gol. "Lien a Chan." ANWYL OLYGYDD,—Caniatewch air ar adolygiad Alafon ar lyfr Myrddin. Gofynna onid oes berthynas rhwng bragaldio a to brag crimpen" a crimp rhwng hornio" a horn? Heb aros am ateb Myrddin, beiddiaf faentumio fod cysylltiad agos rhyngddynt. Y mae y geiriaduron Seisnig sydd gennyf fi yn deillio brag o'r ieithoedd Celtig, a crimp o'r Gymraeg crimpio." Gyda golwg ar hornio," ty- bygaf mai dull ar y gair cornio ydyw ef, a horn yn ffurf arall o corn. Horn y geilw y Seison gorn buwch, ond corn am gorn ar droed. Cornucopia (gair Lladin yn ei gryn- swth) y galwant y peth a eglurir ganddynt yn horn of plenty." Cymharer hefyd cornet, cornetcy, corner, cornicle, Cornwall, capricorn ac unicorn, yr oil, gyda'r gair Cymraeg cornel," mi dybiaf, a chysyllt- iad agos rhyngddynt a'r gair Lladin cornu a'r Cymraeg corn." Goddefer i mi sylwi hefyd fod tuedd ormod- olynom ni y Cymry, pan fo gair Cymraeg yn debyg i air Saesneg, i neidio i'r casgliad mai benthyg o'r iaith honno ydyw. Nid felly y mae bob amser, ond fel arall yn:aml. Y mae geiriaduron Seisnig yn hoff iawn o olrhain tras eu geiriau i'r Ffrancaeg tra y byddai'n well iddynt chwilio am gyff yn nes adref, e.g., dyma un ohonynt yn dodi (Fr.) ar ol y gair bran, ond edrychaf i eiriadur Ffrengig a gesyd hwnnw (Gael) ar ei ol. Dyna hwynt wedi croesi dau for pan fuasai croesi'r Hafren yn ddigon. Gyda Haw, y mae gennyf ddiolch yn fawr i chwi am N6d ac Esboniad" Eilian, a'r Cymraeg Cymreig geir yn eich papur drwyddo draw.—Yr eiddoch, JOHN MILES. (Athro Cymraeg yn Ysgol Isathrawon Caerdydd)
-0-NOD AC ESBONIAD.
-0- NOD AC ESBONIAD. [Pob gohebiaethynglyn a'r golofn hon i'w danfon i'r Parch. O. EILIAN OWEN, 16 Argyle Road, Anfield Road, Liverpool]. Mynegair i Salmau Can Edmwnd Prys, 1621. AIPHT. Y pendeilgion o'r Aipht draw 6831 Tn nhir yr Aipht: ym maes Zoan 7812 Rlioesai'n yr Aipht arwydd o'i ras 784-1 Rhoes Duw yngwlad yr Aipht iw plaa 78i. Tn nhir yr Aipht a phebyll Cam 7851 Dugost o'r Aipht winwydden ir 803 Yr Aipht, fal gwas ltuddedig 8910 Daeth Israe! i'r Aipht, tir Oham 10523 o'r Aipht pan gad eu gwared 10538 YngwIM yr Aipht wrth y mor coch 1067 Y deifr a guddiodd yr Aipht ryw 10611 Yngwlad yr Aipht.22 Mor Coch, tir Ham 10621 Pan ddaeth Israel o'r Aipht faith 1141 Yn nhir yr Aipht, dynion, a da 1359 I'th ganol di, o Aipht greulon 1359 'Rhwn a drawodd yr Aipht iw ddig 13610 AIPHTIR. o'r Aiphtir caddug allan 8110 AIPHT WYE. pan ddaeth o fysg yr Aiphtwyr 81-' AIR. > Cans ti Arglwydd o'th vnic air 48 Ti Arglwydd, yn ol dy air di 127 drwy d'air a'th amlwg cyngor 174 a'i air ef sydd buredig 1830 Er nad oes ganthynt air nac iaith 193 Am mai vnion ydyw ei air 334 Eijarch a saif, a'i air a fydd 339 Heb ddwedyd vnwaith air o'm pen 381 Mi a bregethais dy air cu 4012 Dy iownder, iechyd, a'th air gwir 4018 Yn oes oesoedd a thrwy air Hen 4113 Ac ni buom i'th air (0 Ner) 4417 Marchog ar air y gwir yn rhwydd 454 O'm genau daw doethair didwyll 493 Fel i'th gyflowner yn ol d'air 514 Ac a gwblhaf ei air yn iawn 572 Telir iddynt ni ront air teg 5912 I faneru drwy dy air gwir 60i Yna y molaf dy air am hyn 71t2 A ddarfu byth ei nawdd a'i air 778 A gogoneddus air yt' sydd 873 Ac ni newidiaf air o'm llw 8934 Diddymaist di dy air i'th was 8939 ei air ef heddyw'n gyflym 957 ei air, a'i rwym ammodau 1058 a'i air a gaid yn gyhoedd 10514 nes ilair Duw amseru 10519 Daeth ar ei air wybed a llau 10531 a hyn drwy air Duw ddofydd 105311 Cofio a wnaeth ei air a'i rAs 10542 Er cadw ei air a'i gyfraith ef 10545 Yna y credent i'w air ef 10012 Heb sefyll wrth air vn Duw lor 10613 ac iw air gwir ni chredent 10624 0 oes i oes (drwy air Duw Ion) 10631 Gan gofio'i air troi nawdd a wnaeth 10043 Gan yru ei air i'w iachau 10720 A hwynt l'i air tynnu a waaeth 10720 A'i air cyffroe dymestloedd gwynt 10725 A'i air mewn pwyll a barn a rydd 1123 A'i air ef fydd yn parhau byth 1172 ond cadw dy air (a erchaist ynn) 1194 Wrth ymgadw yn ol dy air 1199 I'm calon cuddiais dy air eu 11911 Dy gyfiawn feirn a'r gwir air tau 11913 Mor ddigrif ymy yw dy air 11916 a'th air a gadwa'n berffaith 11917 o'th air gwna fl'n fyw eilwaith 11921) Par i mi ddeall ffordd dy air 11927 a'th air gwnai'n hawdd fl'n bybyr 11928 Glynais wrth dy air, 0 Arglwydd 11931 Cyflowna d'air a mi dy was 11938 Drwy gredu yn d'air rhof atteb crwn 11942 O'm genau na ddwg dy air gwir 11943 yn d'air, yr hwn a hoffais 11947 Cofia i'th was dy air a'th raith 11949 Yn d'air mae nghysur i gyd 11950 ar d'air mae f'amcan innau 11957 Dysg i'm ddeall d'air yn iawn 11966 Dy air er beilch yn clyttio ffug 119(0 0 par i'm ddeall dy air di 11973 Am fod fy ngobaith yii dy air 11974 Yn gwilled beunydd wrth dy air 11981 Byth yn y nef y pery d'air 11989 Rhag dryg-Iwbr, fel y cadwn d'air 119101 Dy air i'm traed i llusern yw 119105 wrth dy air y disgwyliais 119114 Cynnal fi a'th air, a byw a wnaf 119116 Egoriad d'air yn olau y caid 11911,30 Yn ol d'air cyfarwydda 'nhroed 119*33 Fyserch i'th air a'mdifaodd 119139 wrth dy air yn vfudd gwyliais 119147 o achos d'air a hoffais 119148 Dechrau dy air gwirionedd yw iiotrlo oblegid d'air wyf lawen yw 119162 Y sawl a gar dy air cant hedd 119165 Datgan fy nhafod d'air yn rhwyJ I 119172 Rhois fy holl obaith yn ei air 1305 a'th air difeth wirionedd 1382 Nid oes air nas gwyddost ei fod 1394 o'i ddown fawr air cymhesur 14715 Wrth ei air eilwaith ar ei hynt 14718 Grym ei air, a'i ddeheu-law gref 14719 hwynt a'i air ef a wnaethbwyd 1485
LLITH OFFA.
LLITH OFFA. Anrhydeddu Gweinidog. WYTHNOS i heno bu eglwys Bethlehem (A), Rhos, yn anrhydeddu eu gweinidog, y Parch. R. Roberts, ar derfyn chwarter canrif o wasanaeth ffyddlon. Cyflwynwyd iddo gan Mr. Isaac Smith, dros yr eglwys, oriawr a chadwen aur, nid er mwyn iddo ddysgu prydlondeb, ond i adgofio fod prydlondeb yn un o elfennau ei fywyd. Hefyd, i Mrs. Roberts, cyflwynwyd cadwen ac addurnglwm aur, a golwgddrychau euredig, gan Mrs. Williams, Maelor House. Cydnabu y Parch. a Mrs. Roberts yr anrhegion mewn geiriau doeth a dewisol. Llywydd y cyfarfod oedd Mr. John Parry, Bank Street, un o'r swydd- ogion ac arweinydd y gan yn ogystal. Daeth llu o weinidogion y cylch i ymuno a'r eglwys i dalu y deyrnged hon o barch, a rhyfedd mor hyawdl yr eir ar achlysur o'r fath. Gwas- anaethodd y cantorion a'r organyddell rhan yn gyflawn a pherffaith. Nid hawdd cyf- arfod yr holl alwadau a wneir ar adnoddau gweinidog mewn ardal boblog am gyfnod mor faith, ond bu Mr. Roberts yn hynod lwydd- iannus ac y mae yn parhau yn serch ac ed- mygedd pobl ei ofal a'r ardal yn gyffredinol. Llwyddiant yr Eisteddfod, Mewn Pwyllgor Cyffredinol, dan lywydd- iaeth y Parch. E. Isfryn Williams, cyflwyn- odd y trysorydd adroddiad ariaimol, ac yr oedd yn medru dweyd gyda sirioldeb fod ganddo dros JE75 wrth gefn. Dechreu go dda, onitefe, Mr. Gol. ? Pleidleisiwyd symiau by chain i'r ysgrifenyddion am eu llafur a diolchwyd i'r Parchn. R. Williams ac Isfryn Williams am eu gwasanaeth ynglyn a'r Eis- teddfod. Cydnabyddwyd gwasanaeth y trys- orydd, Mr. Samuel Jones, a phenodwyd Mri. W. M. Jones ac J. D. Hooson i archwilio'r cyfrifon. Mae rhagolygon am Eisteddfod flynyddol yn y Rhos, ond iddi gael ei chadw mewn dwylaw glan, dan arolygiaeth personau o ymddiriedaeth, rhai sydd yn caru mwy ar ddyrchafiad llenyddiaeth gwlad na'u dyrchafiad eu hunain. Dwr. dwr, dwr, 'Does ddiod gyffelyb i'r dwr. Yn ol adroddiad Dr. D. LI. Williams, arolygydd iechyd y dosbarth, mae ardal boblog y Rhos yn byw ar ddwfr anfoddhaol iawn. Pa bryd y ceir cwmniau cyffelyb i'r rhai hyn sydd yn cyflenwi'r cyhoedd a phethau angenrheidiol bywyd i ystyried eu dyled i'r cyhoedd, ac nid i ofalu yn bennaf am eu dividends ? Yr wyf wedi sylwi ar amryw achosion yn awr wedi eu dwyn i sylw gan Mr. D. Ll. Williams, sydd yn dangos gwrolder a phenderfyniad ynddo i ofalu am fuddianau'r cyhoedd, ac nid i gynffona'n wasaidd i ychydig bendefigion cyfalaf. Cawn weled cyn bo hir beth yw syniad y cwmni hwn am eu rhwymedigaeth i'r cyhoedd yn ardal y Rhos ar ol rhybudd cryf yr arolygydd. Pa le mae y Nyra ? Mae'r amser yn llithro heibio, ac nid oes dim mwy o ragolygon fod y mater hwn yn nesu at ei sylweddoliad. Mae yma lawer yn meirw bron yn hollol oherwydd diffyg nyrsio'r claf fel y dylid. Llawer o blant bychain yn colli'r fatal hefo angau oherwydd an- wybodaeth, aflerwch, a ffolineb y mamau yn ceisio'u nyrsio mewn afiechyd Eto clywaf mai'r merched a'r mamau sydd fwyaf gwrtli- wynebol i'r mudiad. Paliam, tybed ? Y Mynydd i ni. Beth mae Cynghorau Plwy a Dosbarth y cylch yn fwriadu wneud i sicrhau hawl y cylioedd i rodfeydd y mynydd, ei awyr iach a'i hyfrydwch digymysg ? Fel y mae pethau yn awr, dyma'r mynydd wedi ei gau i'r cyhoedd. Oni fyddai yn well i'n cynghorydd o'r Rhos yma droi ei law i sicrhau hawliau y mynydd i'r cyhoedd ? Croesawu'r Gweinidog yn ol. Cynhelir cyfarfod heno yn y Capel Mawr i groesawu y Parch. R. Jones yn ol, wedi ymdaith ymhlith Cymry'r Gorllewin. Da gennyf ei weled yn edrych mor dda ar ol ei siwrnai a'i lafur caled. Cafodd groeso cynnes yn America mwynhawyd ei weini- dogaeth yn fawr, gwelodd a theithiodd-lawer yn ystod ei weinidogaeth.
--0--GLANNAU'R GLWYD.
--0-- GLANNAU'R GLWYD. YN Llys Ynadon y Rhyl, ddydd Llun yr wythnos ddiweddaf, cyhuddid geneth o forwyn o fod yn feddw yn Dyserth y Sul. Yr oedd ei chyflwr mor ddrwg fel y bu yn rhaid i'r ynadon logi cerbyd i'w chludo i Rhyl i'w rhoi dan glo. Nid dyma y tro cyntaf iddi fod o "flaen ei gwell," a chostiodd y sport iddi ddau swllt ar bymtheg. Cosbir personau am feddwi ar y Sul yn fynnych, ac onid yw yn rhyfedd na chosbid y sawl a wertha ddiod weithiau V Os yw y bona-fide clause yn eu trwyddedu i roddi diod i grwydrwyr sychedig a gorddant dair milltir i'w geisio, ni rydd hawl iddynt roddi digon i feddwi y cyfryw. Un o'r bendithion pennaf gafodd Cymru gan y Senedd yw Mesur Cau y Tafarnau ar y Sul, a bydd enw Mr. John Roberts yn anwyl yn y wlad tra pery ynddi barch i'r Sul a sobrwydd. Ond gwendid y Mesur yw y bona-fide clause, ond y mae mab tad y mesur wedi ei gymeryd mewn llaw, a disgwyliwn y bydd y Mesur yn gryfach ei esgeiriau wedi i Doctor Herbert roddi ychydig o Bryngwenallt tonic iddo. k Llongyfarchwn Mr. T. D. Jones, Rhyl, ar ei ddyrchafiad i'r Fainc Ynadol. Yr oedd yn J.P. yn rhinwedd ei swydd fel cadeirydd y dref o'r blaen, ond rhyw anrhydedd am flwyddyn yw hwnnw. Y mae bellach ar y Fainc i aros, a dymunwn iddo hir oes i wein- yddu eyfiawnder yn ddiofn. k Ddydd Iau nesaf bydd General Booth yn y Rhyl, ac y mae yr hen batriarch yn sicr o gael derbyniad cynnes fel yr haedda. k Ddydd Sadwrn wythnos i'r diweddaf, priodwyd Mr. Wm. Russell o Manchester a Miss Annie Gwladys Millward, ail ferch Mr. a Mrs. Millward, Rhyl, gyda rhialtwch mawr. Yr oedd y dorf fawr o edrychwyr a nifer yr anrhegion yn brawf amlwg a barch y dref at y briodasferch a'i theulu. Iechyd i galonnau Mr. a Mrs. Millward am gofio am ddeiliaid yr Alexandra Hospital yng nghanol y llawenydd. Anfonasant y blodau i sirioli ychydig ar gyflwr y trueiniaid bychain yno.
Advertising
•R tNfrr, fD j^SHftCHOV cVMjm f 'tVl Y l.f. GOR!' I YW Y Wl GoRtO | n « WAK\Q ooorrvt • r „ I » AC I FARGEIIiIO AM C stoc VWR, V1\\$\U 1"1\\U ri \\AD Po-srr ^OLOVFH\U CvooVj £38 Russell's Chronograph. Massive 18 carat Keyless Huoter. MAGNIFICENT PRESENTATION WATC# (quite new 6 months ago with proof), in condition This HIGHEST GRADE J # ENGLISH FULL HUNTING HEAVY KB\ LESS CHRONOMETER LEVER, by Thos Russell & Son, Makers to the Queen, Church f Liverpool, with full compensating gold sere balance, COMPENSATED TO ALL ATURES, adjusted to all positions, variati within 5 seconds per month, very latest perfected class A movement (JEWELLED ENDS), 19 FULL VISIBLE SELECW RUBIES, PATENT OVERCOIL BREQUfi^ SPRING, patent Keyless UNBREAKABJ^ MAINSPRING, Chronograph Centre Secpo"' and outside STOP ACTION. A most ScieJ ifically accurate instrument,of sensitive cbxov metic capacity, suitable for EXPLORI^. T' NAVIGATING AND ASTRONOMIC^ OBSERVATIONS, Late property of a TartW captain (4oz.) HEAVY SOLID 18ct. ENGLI^ HALL MARKED GOLD THROUGHOUT; without mark or scratch. Russell's and o«r years' guarantee accompanies the MONTH'S TRIAL, Security advance guaran given with above of £ 15. Exchanges „ to any part of the Kingdom. DAVIES' rU* HIGH-CLASS GOLD HUNTING WATCH^ ONE HALF BELOW COST. LOWHll^' LIVERPOOL. Telephone 0777 Royal. Davies's Price f,161101- D Watches safely despatched to all parts of the f,21 Gents Gold Keyless Hunted SECONDHAND Gents Solid 18ct Eng1 if High-grade Keyless f-plate English Full Jewelled Chronometer Lever HUNTER? this noted London maker, with all recent inipr°Vj ments, being of the very finest mechanism workmanship of this reputed maker, too known to need comment. Warranted a li/e and perfect in all detail. Also one similar J Russell and Son, Church street, Liverpool price). New six months ago. Davies's Price, £ 6/18/6^ 10 Guinea Russell's Ladies' KeYIC55 Just like new, very Strong Keyless Lever for lady, full Jewelled Chronometer BalauOef Brequet Spring, and latest improvements, 01w 8 months old heavy Solid Gold thick Cases, damp and dust proof, nice'J chased makers and our guarantee for years. Wonderful bargain, call to see Month's trial. Cash back if not as represent' ed. Sent on approval. Davies's Price, £ 3/7/6 Every Watch Offered is a Timekeep 7 Guinea Gents Russell's Solid Silver English Lever. £ 1/18/6 Very strong, heavy 60l/,0/u Solid Silver Capped Lever, M Russell and Son, Church-street, Liverpo0. (makers to the Queen) new this year to show). High Grade full plate Chronometer balance, ruby jewelled, Brequet Spring 8,01 latest improvements (the kind that won t £ >e^ out of order easily. Makers' and our Bae,Tl antee, 25 years, perfect time-keeper, s°nB in every respect, month's trial. Also Russell, secondhand 7 Guinea Silver Hunter, now 9 VI sent on approval. Stamped Solid Gold Chains. FASHIONABLE GOLD STAMPED Graduated Curb Albert and SEA^' stamped every link, revolving sejL* NOW Hall-marked and GOVERNMENT, c2/5/- STAMPED; another 4i guinea Oref uated Curb, now £ 2/9f. BIG S-Ej' ECT10N. EVERY CHAIN WAR- RANTED AT SPECIALLY W DUCED PRICES. SOLID HEAVY GRADUATE^ CURB AND SEAL (best VIPU. in the trade). Governmen stamped every link, and NOW marked; also Double Cur' { £ 2/19/6 £ 2/14/; Double Long Link, £ 2 g/ also a massive Heavy fow Curb Yll now 95/1216. SOLID HEAVY GRADUATED C7 CURB ALBERT. Govenune^ 1kT^TTT stamped every link; also 8-g°1? n NOW Double Curb, now, £ 3 8/6, £ 3/5/= Double Open Curb, £ 9, now 1 1 10/ Double Fetter Link,reduce« from £ 8 81 to £ 3 9/; Sing1" Massive Graduated Curb, now 24 10/- QUINEA QOLD REDDING R WIDEST AND HEAVIEST 22-CARAT j PURB GOLD REDUCED 7/6 IN THfl J FOUND. FINGER-SIZE CARD gggS- 27/6 RINGS 35/- RINGS 45/- NOW NOW NOW 20s. 25s. 35s. PRESENT OF SUGAR TONGS AND ^g, HALF-DOZEN TEA SPO*^ DAVIES'S, OA r ow gjft AVIES'S, OU _U0W