Welsh Newspapers

Search 15 million Welsh newspaper articles

Hide Articles List

10 articles on this Page

Llythyr Gwleidyddol ---

--0--LLANGOLLEN.

ADOLYGIAD.

News
Cite
Share

ADOLYGIAD. DRWYIQIL Y DRWS, gan R. H. JONES. --Cyfrol fechan ddestlus iawn o delynegion tlysion a thyner yw y llyfr hwn. Yr awdwr yw R. H. Jones, ac ychwanegir mai yr un ydyw a chyfieithydd Yr Hen Ddoctor." Dygodd y gorchwyl llwyddiannus hwnnw yr enw i sylw cylc eang o Gymry. A sicr yw y bydd i'r gyfrol newydd hon o delynegion wneud ei enw a'i fri yn fwy hysbys eto. Mae gwerin gwlad, yn hen ac ieuanc, wedi blino ar geisio darllen awdlau a phryddestau meithion. Ond y mae chwaeth at wir farddoniaeth yn llawn yn y galon Gymreig. A meithrinir, ef yn effeithiol gan ganeuon syml a thyner a chrefyddol eu naws fel y rhai geir yn y gyfrol hon. Y mae y delyneg flaenaf yn rhoddi teitl hapus iddi. Drwy gil y drws gwelodd y bardd gipdrem ar dlysni palas y boneddwr ac ar dlysni mwy y bwthyn lie y darllennai hen wraig grefyddol ei Beibl. Ni cheisia'r awdwr wneud dim ond prin dremio drwy gil y drws i fewn i ystorfa tlysni a moes y testyn- au y cana arnynt. Ond yn ddiau y mae ganddo lygad i weled a chalon i deimlo yr hyn sydd dyneraf a phuraf yn y natur ddynol. Cymerwn "Y Cerydd fel un engraifft o lawer Troseddu wnaeth fy mhlentyn hoff, Fe'i cosbais er fy ngwaethaf, Os tost fu'r cerydd iddo ef, Y fi ddioddefodd fwyaf. 0 hyd 'rwy'n torri deddfau'm Tad A'r gosb sydd ar fy ngwarthaf Ai tybed, er fy chwerw lef, Mai Ef sy'n dioddef fwyaf ? Y mae yn yr awdwr ddigon o dynerwch i ddeall calon y fam. Cyffyrddiad o'r fath dyneraf, ond hollol gywir a ffyddlon, yw hwnnw yn nhelyneg "Y fam a'i bachgen Nefoedd wag fydd heb Feurig Gan ei fam. Y mae'r tynerwch addfwyn a mamol yma yn ei alluogi hefyd i fyned yn ddwfn i gyfrinion y galon Ddwyfol. Telyneg dlos iawn yw Gore Duw." Iddo ef mae gore Duw ymlaen o hyd. Mae cynnydd ac awydd am rywbeth gwell i nodweddu bywyd plant Duw yn y nef ei hun 0, ryfedd ore Duw Chaiff plant y nef Ei hoff rai Ef Byth weled gore Duw." Ond nid y moesegydd a'r cyfrinydd yn unig a welir yn- y caneuon hyn. Y mae'r gwir fardd yma hefyd. Darllenner Ystormydd Bywyd," a chanfyddir hyn 'R ol bore teg mi welais gwmwl du Yn teithio'n unig ar y gorwel pell, Rhyw gennad-gwmwl chwim o lys y mellt I weld a oedd uwch bryniau Cymru lan Ddewisol fan i gynnal storom erch," &c. Onid oes yma wir dlysni barddonol yn y pennill canlynol Mae'r cymyl claer ar edyn gwyn Yn gweld eu gwedd mewn llawer llyn Wrth deithio, Ond calon lan yw'r ore un, Mae Duw ei Hun yn gweld ei lun Yn honno." Y mae yma ddefnydd adroddiadau rhagorol i'r Gobeithluoedd. Y mae'r awdwr wedi llwyddo i gyfuno y tlws, y moesol, a'r crefyddol yn hapus dros ben. Haedda gylchrediad eang a llongyfarchwn yr awdwr ar ei feddiant o awen mor bur ac mor dyner ei chyffyrddiadau. Cynnyrch calon lan ac ysbryd addfwyn a llednais a defosiynol ydynt i gyd. Par eu darllen les i galon pob dyn. Cyhoeddir y gyfrol gan Hughes a'i Fab, Gwrecsam. Ei phris yw swllt, a dwy geiniog yn ychwaneg os anfonir hi drwy'r post.-Hawen.

O'R DE. ---.

Y WASG FELEN.

--0--Ffetan y Gol.

-0-NOD AC ESBONIAD.

LLITH OFFA.

--0--GLANNAU'R GLWYD.

Advertising