Welsh Newspapers

Search 15 million Welsh newspaper articles

Hide Articles List

8 articles on this Page

Cysgodau y Blynyddoedd Gynt.

0 Colofn y Beirdd

AWELON BOREU'R HAFDDYDD.

----TYNNU'N GROES.

. RHUAD Y MOR.

Y CORWYNT

--0--Senedd y Byd.

News
Cite
Share

--0-- Senedd y Byd. V.—Cam Ymlaen. MAE un cam bychan wedi ei gymeryd yn yr Hague o'r diwedd, mewn cyfeiriad mwy gobeithiol na'r camrau a gymerwyd eisioes. Ymddengys fod Syr Edward Fry, cynrychiol- ydd Prydain, wedi bod yn ymddiddan a M.^de Nelidoff, y llywydd, ac wedi hysbysu bwriad y dirprwywyr Prydeinig i ddwyn i mewn i'r Gynhadledd benderfyniad gyda golwg ar leihad arfau rhyfel, a chyflwynodd iddo ffurf y penderfyniad hwnnw, ac y mae M. de Nelidoff wedi hysbysu y ffaith i gyn- rychiolwyr y Galluoedd mawrion. Dywed yr hysbysiad hwnnw fod y rhai sydd yn cyn- rychioli Prydain wedi cael gorchymyn i ddwyn y cwestiwn pwysig hwn o flaen y Gynhadledd os na wneid hynny gyntaf gan un o'r Galluoedd ereill. Ond dywedir nad oes dim tebygolrwydd y gwneir hynny gan un Gallu arall, a bydd Prydain gan hynny yn dwyn y mater hwn i sylw. Bydd y cynhygiad Prydeinig yn gofyn i'r Gynhadledd basio ei bod yn cadarnhau y penderfyniad y daeth- pwyd iddo yn y Gynhadledd gyntaf. Fe gofia y darllennydd yn ddiau mai sylwedd y penderfyniad hwnnw ydoedd fod lleihad mewn darpariadau milwrol gan y gwahanol wledydd yn beth y dylid amcanu ato, a bod y modd i wneud hynny i gael ei ystyried gan y gwahanol Alluoedd ac i fod dan sylw yn y Gynhadledd nesaf, sef hon. Dywed Prydain yn y penderfyniad a gynhygir fod y mater yn gofyn am sylw buan arno. Gyda chydsyniad Syr Edward Fry, y mae M. de Nelidoff wedi hysbysu geiriad y penderfyniad a gynhygir i'r dirprwywyr ereill er mwyn 3 dynt gael amser i ymgynghori a'u llywodr- aethau gartref. Wel, dyma, meddaf, gam yn yr iawn gyfeiriad, ac mor bell a hynny y mae y Llywodraeth Brydeinig wedi cyflawni yr addewid a wnaed gan C.B." Ond beth fydd y canlyniad ? Dywedir fod Barwn Marschall yn deall nad oedd Germani yn gweled fod dim yn galw am benderfyniad buan ar y ewestiwn, ac ystyried y sefyllfa boliticaidd presennol. Credir hefyd y bydd Itali yn cydolygu a Germani ac Awstria. Dywedir fod M. Bourgois yn bersonol yn ffafriol i gynhygiad Prydain, ond er hynny yr edrychai Ffrainc ar y cwestiwn fel un purion fel pwnc i'w ddadleu, ond nid yn un i'w gario allan ar hyn o bryd. A bod Rwsia yr un modd yn teimlo, ar ol y rhyfel rhyngddi a Japan, nad oedd yn barod i gymeryd un cam ymarferol. Rhyfedd, onide, fel y mae pechod yn dinystrio synnwyr moesol pobl. Am yr Unol Dalaethau, dywedir na fydd iddi wrthwynebu cynhygiad Prydain. Dy- wedir mai barn aelodau y Gynhadledd yw y pesir rhyw fath o gynhygiad, ond y bydd i'r perwyl fod y Gynhadledd yn gofidio nad yw yr amser wedi dod eto i wneud mwy na datgan fod y peth yn ddymunol. Wel, os na cheir ond hyn, na ddigalonner. Mae pob symudiad mawr yn cymeryd amser. Mae yr ymdrechfa fawr rhwng achos Rhyfel a Heddwch yn myned ymlaen, ac ond i gyfeillion Heddwch fod o ddifrif, gallant ennill y dydd yn gynt nag a feddylir. Eto, nid rhyw obeithiol iawn oedd geiriau ein Prifweinidog ni y dydd o'r blaen, pan aeth yr Aelodau Seneddol, pleidiol i heddwch, ato i gwyno am nad oedd Prydain yn symud ymlaen yn fwy cyflym gyda'r achos yn yr Hague. Dywedai Syr H. Campbell-Banner- man fod presenoldeb cynrychiolwyr nifer mor fawr o deyrnasoedd yn ei wneud yn anodd symud yn gyflym iawn. Yr oedd yr anhawsterau yn yr amgylchiadau yn hytrach nag yn y mater ei hun, a dywedai ymhellach y dichon mai y cwbl a wneid fyddai ail gadarnhau penderfyniad y Gynhadledd gyntaf Wel, os felly, meddaf eto na ddigalonwn. Mae yr had da a hauwyd yn sicr o ddwyn ffrwyth. Cafodd H. Richard ac ereill drafferth fawr i gael y penderfyniad o blaid Cyflafar- eddiadjyn y cytundeb a wnaed ar ol rhyfel fawr y Crimea, a phan geisiwyd ei gadarnhau yn Berlin ar ol rhyfel Ffrainc a Germani, ni wnaed dim ond cadarnhau yr un blaenorol, ac nid heb drafferth y caed hynny. Os nad ellir cymeryd cam effeithiol ymlaen y mae yn dda fod byddin Heddweh yn gallu dal ei thir. Y pwnc mawr, wedi y cyfan, fel y sylwodd Syr Edward Grey wrth siarad ar ol y Prifweinidog, ydyw addfedu barn y lliaws a pharatoi y ffordd i gael safle mwy diogel yn y Gynhadledd nesaf. Ie, argyhoeddi y bobloedd ydyw y peth mawr. Yr oeddwn yn darllen un o areithiau John Bright y dydd o'r blaen, yn rhoi hanes y rhyfeloedd yr oedd efe yn eu cofio, a theimlwn pe deallai y bobl mor ddiachos a diles, ie, a drygionus oedd y rhyfeloedd hynny, y codent yn eu nerth ac yr ysgubent ymaith yn bur fuan y giwed ddrygionus sydd dda ganddynt ryfel." Mae y rhai hyn, fel y tlodion, gyda ni bob amser. 0 ran hynny, yr aristocrats sydd yn byw ar ein darpariadau milwrol ydyw y rhai y mae yn llawn bryd eu troi i ennill eu bara mewn ryw ffordd well nag y maent yn awr. ELEAZAR ROBERTS.

Advertising