Welsh Newspapers

Search 15 million Welsh newspaper articles

Hide Articles List

8 articles on this Page

Cysgodau y Blynyddoedd Gynt.

News
Cite
Share

Cysgodau y Blynyddoedd Gynt. GAN GWYNETH VAUGHAN. PENNOD XVII.—Y GWARCHAU. TRA y cynhyrfid preswylwyr Bro Einion gan helyntion teulu'r Plasllwyd, cododd Sidi Wood a'i thylwyth eu hychydig fedd- iannau ynghyd ar gefn yr hen greaduriaid ffyddlon oeddynt wedi arfer cario y cyfan er's llawer blwyddyn. Diameu, pe gallasai y ddau geffyl siarad, y buasent yn canmol llawer ar eu hawddfyd tra y trigai eu meistres ym Meudy'r Foel. Pur anaml yr arhpsai Sidi cyhyd yn unman ag yn yr hen feudy tawel, ac nid rhyfedd hynny chwaith, canys ni chaffai hi a'i phobl gystal llonyddwch ymysg preswylwyr nemor i ardal ag oedd yn eiddo iddynt trwy garedigrwydd teulu Llys Gwenllian. Ac nid oeddynt hwythau yn ymddwyn banner cystal mewn ardaloedd ereill, rhaid addef. Y Bedlernod fyddai eu henw yn un man, a gwaeddai'r plant,a rhedent am eu hoedl rhag i'r bobl felynddu eu witshio. Y sipsiwn a theulu Abram, y Iladron digywilydd, y galwai ereill hwynt, a diau eu bod yn haeddu yr enw olaf fel y rhai cyntaf. Ond ni fu i'r un o deulu Sidi feddwl am ladrata eiddo y Llys erioed, ac oblegid y teimladau da fodolai cydrhwng y sipsiwn a Lewis Pennant, arferai yr hen greadures a'i phobl alw heibio i'r Llys pan ar gychwyn i'w siwrnai, i ganu ffarwel, ac i ddiolch am y llety a gawsent ym Meudy'r Foel. Felly, yn ol eu harfer, aethant tuag yno yr adeg yr wyf yn ysgrifennu am dani. Arhosodd yr osgordd yn y ffordd tuallan i lidiart y lawnt, ac aeth Sidi tua'r drws i gyflwyno ei chenadwri. Tra bu hi yn moes- grymu ac yn bendithio, yn ol fel yr arweinid hi gan y planedau, aeth Margaret Pennant i estyn darn o gosyn a hanner torth o fara i gynnal y teithwyr ar eu taith, a phan ddaeth yn ol, a Gwenllian yn rhyw ddawnsio cerdded gyda hi, rhaid oedd diolch a dymuno mil a mwy o ddaioni i'r oil ohonynt. Cyn i Sidi orffen dadlenu dyfodol disglaer y Llys, wele Judy yn gadael ei phobl ac yn rhedeg at y drws yn wylo, ac yn bendithio Missie fach un bob yn ail. Ust, taw, Judy, taw," ebe ei nain. Yn y Plasllwyd mae'r crio i fod. Sut mae'r Sgweiar, tybed, erbyn hyn, Mistres Pennant ?" Mae Judy yn misio gadael Missie fach, nain Sidi. 0, mae Missie fach yn ffeind wrth Judy. 0 0 0 Aeth Gwenllian ati, a sibrydodd yn ei chlust y deuai gwanwyn arall, ac y byddent eto ym Meudy'r Foel, ond anodd oedd per- swadio yr eneth grwydrol fod yn bosibl iddi hi fyw heb weled Missie fach am fisoedd lawer. Camgymeriad ydyw i ni feddwl na fedd y sipsiwn crwydrol galonnau i'w cyff- wrdd. Y gwir yw, ceir fod eu cariad a'u cas yn dueddol i gyrraedd eithafion yn fyn- nych. Tynnodd Judy rywbeth o'i mynwes, a gwasgodd ef i law Gwenllian, ac ebe hi,- yn ddistaw "I goflo am dana i, Missie fach, a neb byth medru gneud drwg i Missie fach ond iddi hi gadw hwna." Ac ymaith a'r nain a'r wyres, ac ymhen ychydig funudau collodd Gwenllian hwynt o'r golwg yn y pellter. Agorodd ei dwrn, a gwelai garreg fechan dlos wedi ei gosod mewn aur pur, a dolen yn un gongl iddi. Nis gwyddai Gwenllian ddim am werth gemau, ac ni chyfleai yr aur melyn fawr o syniad i'w meddwl ynghylch anrheg bryd- ferth Judy. Tybiai yr eneth ei fod yn dlws, ac aeth i'w ddangos i'w thad a'i mam. Welwch," ebe hi, gan ei ddal ar gledr ei Haw. 0 b'le cefaist ti hwna, Gwenllian," gofynnai ei thad, ond gafaelodd ei mam ynddo,'ac ebe hi,- "Gwenllian, lie buost ti i gael peth fel hyn ?" "Judy, mam, rhoth o i mi. Y'n dydi o'n glws, a ma eisio peidio i golli o. Judy," ebe Margaret Pennant, beth ellir wneud, Lewis ? Mae'r" gem yma yn werthfawr iawn,-ruby ydyw, yn sicr. 0 ba le y cafodd Judy y fath beth, tybed ? Ni ddylasai roddi y fath anrheg werthfawr heb yn wybod i mi. Ofnaf mai eiddo lladrad yw." Does dim posib, mam. Mi ddeydodd Judy na fedra dim. byd neud dim drwg i mi --y byddai hwn yn hel petha drwg i gyd i ffwrdd. 0, mam, gaf fi bresent Judy ? Fydd petha lladrad yn gneud dim da i bobol." Wedi peth siarad am dano, o'r diwedd cytunwyd fod yn well cadw'r anrheg mewn bocs bychan o dan glo yn ystafell Gwenllian, ac fod yr eneth i gael golwg arno yn awr ac yn y man, yna os byw ac iach a fyddent hyd nes y deuai'r crwydriaid yn ol, yna rhaid holi Judy yn ei gylch. Tybiai Lewis Pennant fod hynny yn well na clieisio chwilio am y sipsiwn, ac feallai dynnu mwy na mwy o ddigllonedd y llwyth ar Judy druan. Hefyd penderfynasant gadw eu clustiau yn agored rhag y byddai i rywun wneud yn hysbys eu bod wedi colli y maen gwerthfawr, neu ei fod wedi ei ladrata. Rhyhuddiwyd Gwen- llian i beidio son un gair am dano wrth neb,C- ni hoffai ei rhieni i'r si fyned allan fod gem gwerthfawr felly yn y ty. Gallasai fod ryw dro yn berygl bywyd iddynt, pan oedd cymaint o ladron yn y wlad i geisio rhyw eiddo a'u cadwai hwy heb weithio fel dynion gonest ereill. Gwyddai Margaret Pennant mai'r unig ffordd ddidrafferth i ddal tafodau pobl ereill ydyw dal ein tafodau ein hunain i ddechreu. Pe gwybuasai undyn am y rhodd ryfedd i'r eneth, ni fuasai Sara fach Ty'r Capel yn hir heb ddyfod i wybod, ac nid oedd hynny amgen na gyrru'r criwr trwy'r dref i ddweyd yr hanes. Chwareu teg i Gwenllian, cadwodd y gyfrinach i ber- ffeithrwydd. Ni wybu neb fod yno drysor cuddiedig yn gorwedd mewn gwely melfedaidd yn ystafell Gwenllian oedd yn fwy ei werth o lawer iawn na'r Llys a'i diroedd eang bras, er lleied peth oedd i edrych arno. Dranoeth wedi ymadawiad y sipsiwn, daeth y Sgweiar Gwyn am dro tua'r Llys, ac ymddanghosai yn llonni pan glywoddeu bod wedi ymadael, ond buan y deallodd Lewis Pennant fod y Marchog mewn gofid blin, er y ceisiai ymddangos fel arfer. O'r diwedd, wedi codi odditsr y gadair, a pharatoi ei hun i gychwyn tuag adref, trodd yn sydyn at Lewis Pennant, ac ebe ef :— "Digon prin yr hidiwch i mi ddeyd, mae'n debyg, mod i bob amser yn meddwl amdanoch chi fel cyfaill i mi, Lewis Pennant, ond felly rydw i, beth bynnag a mi ellwch chitha foddloni i mi ddeyd bod chi wedi arfer fotio i mi er's pan 'rydw'n farchog y sir yma." Mae'n wir, Sgweiar, mod i wedi fotio er mwyn yr egwyddorion a gynrychiolir gennych wedi yr eloch i'r Senedd, mae'n rhaid i mi gydnabod. Ond y gwir gonest yw, wn i ar y ddaear sut i fotio i ddyn sydd yn ymddwyn mor anheilwng yn ei fywyd eto. Mewn gwirionedd, lie mae eich cyd- wybod ? Plygodd y Marchog ei ben. Wel, Lewis Pennant, y peth goreu i mi mi ydyw dweyd y gwir, ynte ? Mae'm cydwybod i er's blynyddau bellaclx o dan draed pethau ereill gwaeth na hi. Peth ofnadwy, Lewis Pennant, ydyw mynnu ein ffordd ein hunain, ynte, ar draws cydwybod a phob peth. Ond mae gweld fy merch yn diodde o achos fy nryga i yn peri i mi regi a phoeni, un bob yn ail." Eisteddodd i lawr drachefn, ac heb gelu dim rhoddodd fraslun i Lewis Pennant o'r hyn fu ei fywyd er's blynyddau. Synnwni ddim nad ydw' i'n ddigon o Jona i sincio memo'' war, Lewis Pennant, ond wyrach medrweh chi roi cyngor i mi sut i geisio troi'r Hi yma ydw i wedi gychwyn yn 'i ol. Rydw i am ofyn i chi eiriol tros Alys hefo'i phriod. Wrendy o ddim gair arna i, ond mae pawb yn gorfod gwrando arnoch chi. Fydd ddim yn 'difar i chi na neb arall, Lewis Pennant, dosturio, os ydych crefydd chi'n iawn. A mae Alys yn ddiniwed. Rydw i am i'r gwr ifanc pen galed yna ddeall y peth gora ar 'i les o a phawb. Os daw o i gartrefu i Blasllwyd heb ryw helynt fawr, fel tae dyn yn gneud melin ac eglwys, rydw i'n barod i fod yn anrhydeddus iawn,*Lewis Pennant." Gallasai y ffarmwr ddweyd wrth y Sgweiar mai gwaith anodd fuasai i'r boneddwr ieuanc gredu mewn anrhydedd dyn oedd wedi ym- ddwyn mor anheilwng, ond ni wnaeth. Yn hytrach, bu iddo addo gwneud yr oil yn ei allu i gyfanu y rhwyg cydrhwng Capten Qwyn-Munro a'i dad yng nghyfraith. Gwen- odd Margaret Pennant yn serchog arno pan ddywedai yr hanes wrthi, ac ebe hi,- Yn wir, Lewis, 'y nghred i ydi y medrech chi gael rhyw esgus dros roddi help Haw i'r gwr drwg pe deuai ar eich gofyn. (I barhau).

0 Colofn y Beirdd

AWELON BOREU'R HAFDDYDD.

----TYNNU'N GROES.

. RHUAD Y MOR.

Y CORWYNT

--0--Senedd y Byd.

Advertising