Skip to main content
Hide Articles List

5 articles on this Page

CODI PREGETHWYR. -----

^ Pa fodd i wella ?

-__---wmmmmmm • emammssma…

News
Cite
Share

wmmmmmm • emammssma « MME • I >4OBIG Y G'LOMEN. I I I BEDD Y RHAI BYW.-Dyna ddywedai bardd y dydd o'r blaen wrth basio gwallgofdy Dinbych. R. J. CAMPBELL.—Y mae gweinidog y City Temple wedi addo y daw i Wrecsam i siarad ar Addysg fis Medi nesaf. 0 DRA WSFYNYDD.-Y mae Gwesty'r Highgate, Trawsfynydd, y gwrthodwyd trwy- dded iddo'r Sesiwn diweddaf, wedi ei phrynnu gan Gymdeithas Ddirwestol Meirionydd a'r bwriad ydyw ffurfio cwmni i'w agor fel gwesty dirwestol. 0' R W YDDGRUG. Marwolaeth ddam- weiniol ydoedd y ddedfryd mewn trengliol- iad ddydd Llun ar gorff John Morris, (joam oed, porter yng ngorsaf y Wyddgrug, y rhed- wyd trosto gan un o'r motor engines. ¡!t;j( SO SI A LAE TH YN Y DE.-Celt, Llunden —papur bach pybyr Cymry r Brifddinas- a ddywed fod cynnydd Sosialaeth y fath yn Neheudir Cvmru nes bod sicrwydd y ceir ymgeiswyr aeneddol Sosialaidd yng Nghaer- dydd, Casnewydd, ac yn Nwyrain a Chanol- barth Morgannwg yr etholiad nesaf. NOFEL I NOFEL I 1-0 Lyfrgell Gy- hoeddus Barry, Caerdydd, rhoed 4,531 o eyfrolau allan y mis diweddaf, 2,909 o'r cyfryw yn nofelau. A thebyg, laecldir, ydyw'r cyfartaledd yn nhrefi ereill Cymru. Gorfod ail rwymo'r nofelau merfedd bob ban- ner bl wyddyn oherwydd y draul ar eu cloriau tra'r hen glasuron tan eu llwch. YNADON NEWYDDION SIR FFLINT. -Y mae'r personau a ganlyn wedi eu codi'n ynadon dros swydd Fflint :-Mr. W. Conwy- Bell, Bodrhyddan, Rhuddlan Mr. W. Y. Hargreave, Llanycefn, Ellesmere Dr. J- O. Jones, Treffynnon Mr. T. W. Jon03' Church Street, Rhyl a Mr. J. Peters, Bodoffa, Bwcle. 8% O'R BERMO.-Ddydd Llun, fel ye oedd Capten Edward Lewis, is-gadeirydd Bwrdd Ymddiriedol Porthladd yr Abermaw, ■ r fin evehwyn o'i dy, cafodd lewygfa, a bu farw yn v fan. Yr oedd yn flaenor yng nghapcl Caersalem, ac yn rhyfedd iawn, ^narw ii ddisvfvd fel hyn a wnaeth ei frawd, y diwedd- ar Mr. L. Lewis, Y.H., yn llys heddgeidwaid y Bermo, rhyw ddeufis yn ol. 3Pc RHEITHOR FFLINT.—Oherwydd fod caredigion addysg Unitaraidd Ffiint yn symud i logi ysgoldy un o'r capoli i aros codi ysgol newydd, aeth y Rheithor nos Sul ddiweddaf i bregethu ar y mater, gan gwyno fod rhai na fyddant byth yn blir;o yn aflonyddu heddweh y dref. Yr oedd amryw Ymnenl- tuwyr diragfarn a gonest ar ei ochr ef, meddai, yn y pwnc hwn. Dyma'r tro cyntaf i ni glywed fod y Parch. T. Nicholas yn addef fod y fath beth ag Ymneilltuwr diragfarn a gonest. NA LADD.—Yr oedd lorwerth Glan Aled wedi cyhoeddi penhilliori yn anog plant i beidio lladd unrhyw greaduriaid egwyddor y cruelty to animals, ac fe gyhoeddodd 1. ap Gwilym ateb iddynt yn y Cronicl Bach yn dechreu fel hyn 0, blentyn, ystyria, tra yma isnen, Na ladd y man bryfed sy'n nythu n dy ben, O ai'bed y malwod, y cliwilod, a r chwam A drigant yn gydradd yn neuadd dy nam. «52 VWAPTHION LLOEGR.—Ebe Mr. Mc MlttrT/W^gor Trefol Llandudno- ddydd Mercher diweddaf -1. DYWEDiB i dair mil o ddieithnaid gyr- raedd yma efo'r agerlongau y baboth diweddaf, ac 'roedd y dref yn agos i r piar yr un ffunud ag uffern. Yr wyf yn rhoi rhvbudd y byddaf yn cynnyg yn y cyfarfod nesaf fod gofyn i'r ynadon y flwyddyn nesaf drwyddedu'r tafarnau am chwe diwrnod CafoddTsylw Clywch, "Syn cTyinm ojo ysgartluon Lloegr. FIGER GWRECSAM.-Y Parch. Daniel Davies M.A., Rheithor a Deon g^edig Dhibvc'li sydd wedi ei benodi gan Lsgob LtaSwy yn fioer Gwreosam.i oliannui y Canon E„, ,y« wodi myned ficoriaolth Sarchwiei. V.n» benodiad a r;y<IdJ od,lion- rwydd cyffredinol,. oherwydd y p<; Davies yn bregethwr Cymraeg a ^acsnea Sol ac wedi ennill iddo'i hun enw da elTweitWwr di-ildio v,i wr cymdogol a goddefgar Brodoi i yn w .y & Caf0dd ei addysg yng ydyw o Goredi^ion cymerodd Ngholeg St. loan, y 1WJ, anr)iydodd ffghonwy, yna vnTs""arth yn gSrad i Brifoglwya Bangov »c ymlien y flwyddyn a^hjn Prifeglwys Ltan0lwy- ™'™d™'g j dd STANLEY CONDOR.-Y i-tiae'r pyre yn cael mawr ddefnydd copi o ystunnan v llencyn Stanley Condor—brodor o Sea combe, ger Birkenhead, a hynododd ei hu arn ymguddio mewn tryciau, ac weithiau o Tn y tryciau, a theithio felly'n ddidal J fannau pellenig o Loegr, ac a aeth ^aifc v woilsi i r America 5 oncl sycia. bellach wedi ei gaethiwo ar fwrdd hyffocdd- tog y CUo ar fber y Fenai Y .nac, wed. j* ^r. rirldivno fwy nag unwaith, ac felly y srwnaeth ddydd Sadwm diweddaf, pryd y daliwydef ar « Sordd i Qaernarfon chwjho am long yn hwylio i Canada, ebai ef. gwaethaf ydyw fod mwy o nwvfus fel Condor nag ar fechgyn llai riiaman us ond sydd yn dilyn eu gwaith yn ddiwyd, heb wneud dim i godi eu henwau i'r papurau. 0 GORWEN.-Y mae Mrs. Roberts, Bronygraig, wedi amlygu ei bwriad i gyf- rannu S500 at godi ty gweinidog ynglyn a Chapel M. C. Corwen, ac y mae Mr. T. Lloyd Jones hefyd wedi addo'r tir i godi'r ty arno, ynghyda thanysgrifiad at draul yr adeiladau. .)Q EISTEDDFOD Y SAETHCJ.—Yn Eis- teddfod Saethu flynyddol Bisley, a derfynai ddydd Sadwrn diweddaf, gwael iawn y gwnaeth y Gwirfoddolwyr Cymreig eleni, a llwm iawn fuont o gael na gwobr nac anrhyd- edd rhagor ag a gaed droion yn ol. PQ LLANDRINDQD.—" Cremorne Cymru y galwodd rhyw frawd sur y lie hwn, a hynny, mae'n ddiau, am nas gallai fforddio mynd yno ei hun. Aiff rhai yno am eu bod mown gwirionedd eisieu'r dwr, ereill am eu bod eisieu gwraig, a'r gweddill am fod pobl ereill yn myned yno. Y clrindod y mae'n Llan iddo felly ydyw dwr, gwraig, ffasiwn. MELLT A Til A RAN A U.—Y Saboth diweddaf, bu ystorin enbyd o fellt a tharanau drwy rannau helaeth o Gymru a Lloegr ac fe sylwodd rhywun mai ar y Sul y mae hi'n storm o fellt a tharanau amlaf yn ddi- weddar, a hynny, yn ol ei dyb ef, am fod y nefoedd yn ffromi gweld cynnifer o'r trigol- ion yn sarnu'r Saboth mewn modur a char, ac fod y wlad yn cael oi baeddu gan ysgubion y trefi. J2 TRUENFR DE. I'wnc mawr y De'r dyddiau hyn yw ysgrifavi Mr. G. R. Sims yn y WeHern Mail ar y trueni sydd yn nhrefi mawrion Deheudir Cymru oherwydd y slums. Y Parch. J. P. Kane, gweinidog Unitaraidd Dowlais, wrth bregethu ar y datguddiadau erchyll y Saboth, a ddywedai fod awgrym wedi ei roddi am i'r eglwysi gymeryd y pwnc i fyny. Os mai ystyr hynny ydyw fod perchen- ogion y shims, sy'n aelodau eglwysig, i gael eu diarddel, 'roedd rhyw werth yn yr awgrym," ebai. Pe gwneid hynny, byddai lie ami flaenor yn y set fawr yn wag. *§3 YR IAS .YSGRIFENNU.-Y mae gradd- edigion ieuainc Cymreig yn llawn o'r ias ysgrifennu, ac yn prysur ddod yn awdwyr. Y mae'r Parch. G. H. Havard,B.D.,yn paratoi cyfrol ar Yr Ysbryd Glan," gwahanol i ddim, meddir, a gaed o'r blaen ac y pwnc yn Gymraeg a'r Parch. R. Roberts, B.A., Trefnant (hen eglwys yr anwyl a'r cywir Emrys ap Iwan) yntau yn paratoi Thean- thropia -/neu y Dwyfol a'r Dynol yn y Beibl," tra y mae ei thesis ar y Koran, yn cael ei gyhoeddi yn yr Ellmynaeg. p- YR ACHOSION SEISNIG M.C.— Mewn cynhadledd o'r cyfryw yng Nghaergyhi, ddydd Gwener, dywedid fod 16 o'r eglwysi hyn yng Ngogledd Cymru, 17 o weinidogion, 56 o flaenoriaid, 1299 o gymunwyr, 2705 a wrandawyr ac aelodau, a 1,318 o aelodau r Ysgol Sul. Dywedwyd hefyd fod yr aelodau yn cyfrannu agos gymaint ddwywaith y pen ag a wnai aelodau'r achosion Cymreig. Caed anerchiad gan y Parch. D. S. Jones, Lushai, India a phregeth arbennig gan y Parch. D. J. Williams, Princes Road, Bangor. LLOYD GEORGE YN Y DE.-Nos Sadwrn, bu Llywydd Bwrdd Masnach yn annerch cyfarfod mawr Rhyddfrydol yn Mhontypridd, Syr Alfred Thomas, cadeirydd y Blaid Gymreig" druan oedd hi, yn y gadair. Cyffelybai Dy'r Cyffredin i ysbyty enfawr, ac ynddo liaws o gleifion gan wahanol anhwylderau, a phob un yn clwcian yn bur ddiamynedd am ei dro ef i gael ei drin. Yr oedd ef (Mr. Lloyd George) yno i woled fod y claf Cymreig yn cael cliwarae teg, ac os na chaffai hynny, byddai yno helynt yn yTy. pl, ARHOLIADAU YR ANIBYNWYR.—■ Dyma'r rhai buddugol yn arholiad Ysgolion Sul Anibynwyr Cymru:—Ail ddosbartli, 1, Katie Lloyd, Bethel, Llanddeiniolen 2, Robert Jones, Criccieth 3, Sarah A. Harwin, Pentre Estyll. Trydycld dosbtrth :-1, .John Parry (Bethesda) a Daniel T. J-ones (Capel Isaac) yn gydradd 2, Robert S. Jones, Salem, Rhosllanerchrugog Dosbarth 4ydd 1, W. E. Jones, Salom, Rhos 2, Hugh R. Jones, Bettwsycoed 3. David J. Evans, Bodringallt. Yr oedd 846 o ymgeiswyr yn yr ail ddosbarth, 287 yn y trydydd, a 331 yn ypodworydd. PENDDUYN CAERNARFON.—Y mae i bob tref o'r braidd ei plionddutyii a smotyn duaf a mwyaf ewerylgar tret Caernarfon ydyw James Court, allan o Stryt Llyn. Pan fo'r trigolion yn gwahaniaethu mown barn, eu ffordd gyffredin ydyw dodi eu synradau ar flaen-procer neu efail, a'u gwthio drwy dwll i bennau'r naill a'r Hall. Achos felly oedd gerbron yr ynadon ddydd Llun diweddaf, pryd y c.yhuddid Annie Bathgate gan Walter Roberts, un o'i chymdogion, o agor ei dalcen mewn dau le efo gefail. 3P;Q "ARDAL Y CEWRI.—Y mae Mr. R. Evans (Cybi) wedi cyhoeddi llyfryn swllt (Richard Jones, Heol Fawr, Pwllheli) ar Ardal y Cewri," sef enwogion plwyf Llan- oybi a'r cylch, ynghydag enwau lleoedd, eu hystyr a'u traddodiadau." Da y gwnaeth. A gwyn, fyd na wneid yn gyffelyb a phob ardal yng Nghymru, a gwneud gwybodaeth am enwogion pob plwyf a rhanbacrth yn rhan o addysg plant ysgol yr ardal honno, yn lie eu beichio a hanes estroniaid na bydd gwy- bodaeth am danynt o werth yn y byd iddynt wedi gado'r ysgol. Dichon nad oes yr un ardal, os nad Llanuwchllyn ar Bala, wedi magu mwy o enwogion nag Eifionydd a'r ffordd debycaf i godi eu tebyg yn y to sy'n codi ac i godi ydyw eu gwneud yn hyddysg fel hyn am y cewri a gododd o'r ardal. FFERMWYR DYFFRYN CLTVYD.- Ddydd Gwener, apeliai Mr. Jas. Cooke, tafarnfy"^Talbot, at ynadon Dinbych am drwydded i werthu diodydd meddwol ar faes yr Arddanghosfa Amaethyddol sydd i'w chynnal yno Awst 8fed. Mr. J. Ll. Williams (ysgrifennydd yr Arddanghosfa) Yn 1905, pan wrthodwyd gwerthu'r diodydd ar y maes, yr oedd y dynion a'r gweision yn dod ag ef yn eu pocedi neu ynte yn ei nol i'r dref, nes oeddynt yn gwbl analluog i wneud eu gwaith. Mr. A. O. Evans (twrne'r apelydd) Caed trwydded bob blwyddyn er's saith mlynedd ac eithrio 1905, ac ni apeliwyd y flwyddyn honno oblegid dymuniad Cyngrair yr Eglwysi Rhyddion; ac os na cheir y drwydded, bydd/aid rhoddi'r arddanghosfa heibio. Y Maer (Mr. Robt. Owen) Y mae'n ddrwg gennyf glywedjy fath beth. Yr oedd yn warth na fedrai amaethwyr Dyffryn Clwyd ddim cynnal shou heb drwydded i worthu'r dioalydd. DynaI felltith y wlad; ac os oedd llwyddiant y shou yn dibynnu ar y drwydded, wel, rhag cywilydd i amaeth- wyr y wlad. Y diwedd fu caniatau'r drwydded. —rs DIOD, MWYN DYN 1—Ddydd Sadwrn, caniataodd ynadon Aberystwyth drwydded i dafarnwr o'r Amwythig werthu diodydd meddwol yng ngwersyll y Midland Church Lads' Brigade, sydd i babollu ar faes cyf agos i'r dref Awst 3ydd hyd y lOfed. Er mwyn y swyddogion, jneddid, yr oedd eisieu'r drwy- dded. Rhad arnynt 1- MON YN LLENWl.Llonwi'n gyflym y mae ioehyd-fannau Mon o ddieithriaid a llawer yn dewis hafota mewn pabell lian ar faes neu ar lan afon. Ac yma y gwelir hwy, yn mwynhau rhyddid y llodrau llac a'r het gwalc-lydan. 0 FRONCYSYLLTE. —Y mae Bedydd- wyr Froncysyllte wedi trefnu i adeiladu capel newvdd, i esiteddu 400, ac i gostio £ 1,200. BACHGEN GWYCH.Y mae Mr. G. W. Woosnam, articled a Mr. Martin Woosnam, cyfreithiwr, Drenewydd, newydd. basio ei arholiad terfynol, ac wedi ei restru'n ail drwy'r lioll deyrnas, ac felly wedi ennill gwobr y Clifford Inn. Cafodd ei addysg at y cyntaf yn Ysgol Sirol y Drenewydd. k BRITHYLLOD GLASLYN-Dywedir fod brithyllod yr afon Glaslyn, yng nghyffiniau Beddgelert, ymron a'u difa drwy ffyrdd ang- hyfreithlon o bysgota, yn enwedig drwy ou lladd efo dynamite, ac y mae perchenogion glannau'r afon a genweirwyr blaenllaw yr ardal yn ymffurfio yn gymdeithas i hyr- wyddo pysgota teg. •5c Y mae'r Parch. Rowland Williams, gweini- dog Bedyddwyr Caerwys, wedi derbyn galwad i fugeilio eglwysi Bagillt a Fflint.

LLANGOLLEN.

Advertising