Welsh Newspapers

Search 15 million Welsh newspaper articles

Hide Articles List

6 articles on this Page

Advertising

Y TREM 1 ^TRWY Y DRYCH. j

GLANNAU'R GLWYD.

News
Cite
Share

GLANNAU'R GLWYD. YR oeddym wedi dechreu ofni fod yr haf am dorri ei gyhoeddiad y flwyddyn hon, a mawr oedd pryder trigolion y dyffryn yma wrth weled y gwlaw yn pistyllio bob dydd. Er fod cnydau o wair na bu eu bath er's blynydd- oedd, gwelid ambell i amaethwr yn edrych yn ddigalon dros y gwrych ac yn ofni mai pydru ar y maes wnai y cnwd toreithiog. Pryderai trigolion y glannau yma wrth weled tymor eu cynhaeaf (sydd yn fyr ar y goreu) yn myned heibio yn brysur. a'r ymwelwyr yn cadw draw. Er i'r haf a'r ymwelwyr dorri eu cyhoeddiad, gwyddent na wnelai gwyr y dreth a'r rhent mo hynny. Ond y mae Tad y gwlaw wedi cymeryd trugaredd arnom, a rhwymo godre y cym- ylau." Y mae y gwres yn llethol orbyn hyn, a phob diogyn yn gorfod chwysu. Gallwn ganu gyda'r hen fardd naturiol, R. J. Derfel Y gawod drom aeth heibio, A cblywir oto'r gan, Mae'r wybren wedi clirio, A daeth yr heulwen lan Mae'r egin man yn tyfu Dan wenu ar bob llaw, A'r adar bach o bobtu Yn canu wedi'r gwlaw. Cymerwn ninnau'r addysg, A gwenwn tan y groes, Daw heddwch wedi'r terfysg Esmwythder wedi'r loes Gan hynny, llawen fyddom, Dan bob ystorom ddaw,— Cawn fyw yn hwy na'r storom A chanu wedi' gwlaw." Dowch yma yn Iluoedd o ddinas y BRYTHON i gyduno a ni yn y gan. •5b Pe buasech yn talu ymweliad a Llys yr Ynadon yn y Rhyl ddydd Mercher diweddaf, buasech yn meddwl fod y J.P.'s yn mynd i agor siop, a gosod yr heddgeidwaid i ofalu am dani, or mwyn iddynt gael rhywbeth i wneud. Ond yn y man dacw Mr. Gamlin, clerc, newydd medrus yr ynadon, yn galw ar Annie Raikes, merch o gymdogaeth Man- chester, i roddi cyfrif o'u goruchwyliaeth. Yr oedd Annie wedi bod yn gwasanaethu fel cook yn y Queen's Hotel am dair wythnos, ac wedi bod yn ddiwyd iawn yn casglu man betheuach (perthynol i'w meistres) i'w boxes. Pe buasai yno am dri mis, buasai wedi celcio yr Hotel. Ymddengys fod Annie a'i meistres wedi cael ffrae fechan, pryd y dywedodd Annie yr elai ymaith. Cafodd gynorthwy y boots i gario ei boxes. Tybiodd hwnnw fod y boxes yn drymach na phan y gwnai yr un gymwynas ar ddyfodiad y cook i'r Hotel, a'r canlyniad fu galw hedd- geidwad i meyn, a darganfyddwyd oddeutu 200 o nwyddau perthynol i'r feistres, yn cynnwys pob math o lestri, te a siwgr, sinsir, sebon, bacon, pineapples, pys, boot-polish, &c., &e. Efallai fod Annie yn bwriadu agor siop gwerthu popeth yn y wlad yn rhywle. Ond y mae y bwriad hwnnw wedi ei ddyrysu, oherwydd trefnodd yr ynadon iddi dreulio 28 niwrnod yn y Ty Mawr yn Rhuthyn. Er i Gyngor y Rhyl wrthod cais Mr. Good- body i roddi ei Gospel Van ar y traeth, y mae y boneddwr hwnnw yn parhau i gynnal cyfarfodydd bob nos. Aflonyddwyd arno ddwywaith yr wythnos ddiweddaf gan y swyddog sydd yn cadw trefn ar y for rodfa, ond bu agos iddo beri anrhefn mawr. Mynnai gymeryd ymaith yr harmonium fechan a ddefnyddir i gynorthwyo'r canu. Gwrth- wynebodd Mr. Goodbody ei rhoddi i fyny I heb wys gyfreithiol yn hawlio hynny, a phe buasai y swyddog wedi arfer trais i gymeryd yr offeryn ymaith, nid yw yn debygol y buasai y boneddwr wedi cael mynd adre'n groeniach, oherwydd yr oedd yno dorf fawr yn barod i gymeryd plaid yr efengylydd. Priodol iawn yw gofalu na bo i bob math gael rhyddid ar y traeth, oherwydd daw personau weithiau yn enw yr Efengyl heb amcan yn y byd ganddynt mwy na hel pres. Can' crooso i'r Cyngor wrthwynebu y person- au hynny. Ond ni ddylent ar un cyfrif arfer yr un moddion at foneddwr fel Mr. Goodbody, sydd yn y drof er's blynyddoedd- nid yn casglu, ond yn gwasgaru pres mewn clusenai-i lawer, ac ar ei oreu yn gwneud daioni. Ond arfer y byd yw,os bydd rhyw Goodbody yn ymdrechu gwella dynoliaeth, bydd Bad- bodies yn ceisio ei rwystro. Ymddanghosodd hanes ymdrech aflwydd- iannus y Cyngor i symud sign-board Mr. Cheetham dro yn ol yn y BRYTHON. Wedi methu yn wyneb haul, llwyddodd un o swyddogion y Cyngor a nifer o weithwyr yn eu hamcan rhwng 3 a 4 o'r gloch un bore. Os oedd case y Cyngor yn dda, paham y gweithredwyd dan gysgodion nos ? Lladron ac ysbeilwyr fydd yn arfer manteisio ar y nos i gyflawni eu bwriadan. Y mae y Parch. Gomer Evans, gweinidog gweithgar y Bedyddwyr Cymreig. Rhyl, newydd ddychwelyd o'r Unol Dalaethau, lie y bu yn treulio ei wyliau haf. Y mae ei eglwys wedi cael coiled fawr yn ymadawiad Mr. Robert Jones, Hope Place,am yr America. Yr oedd Mr. Jones yn un o aelodau mwyaf diwyd a defnyddiol yr eglwys, yn ganwr rhagorol a pharod iawn i wasanaethu pob achos da. Anrhegwyd ef a phwrs o aur. a Beibl gan aelodau yr eglwys ar ei ymadaw- iad. Bu dadleu brwd yng Nghyngor Abergele yr wythnos ddiweddaf, pan geisid pender- fynu ar fan cyfarfod yr efengylwyr a'r niggers., Y gwahariiaeth ftnawr rhwng y Cyngor hwnnw a'r eiddoTy Rliyl yw fod nifer fawr o Gynghorwyr 'fA bergele mewn cydymdeimlad a'r cyfarfodydd crefyddol. Rhodder pob cliwarae teg i'r niggers, ar bob cyfrif,—y mae'n rhaid eu cael i'r ymdroch- leoedd, mae'n debyg. Yrngasgla miloedd o blant (mawr a bach) i wrando arnynt. Ond ymddengys mai syniad yr awdurdodau mewn ami fan yw mai rhywbeth i'w arfer gartref yw crefydd, a bod ymwelwyr ddeuant i lan y mor i dreulio eu gwyliau haf yn gadael ou crefydd hyd nes y dychwelant. Na, chwarae teg i'r ymwelwyr, y mae llawer ohonynt yn cario eu crefydd gyda hwy i bob man, fel y gwna y blodeuyn ei berarogl, a phan ddeuant ar eu gwyliau, da ganddynt gael rhywbeth amgenach na lolyddiaeth y niggers, acjy mae yn deg i ni ddarparu ar eu cyfer. Aeth llawer o lannau y Glwyd i Fangor i weled y Brenin a pha ryfedd ?—os bl1 Brenin erioed yn werth myned dipyn o ffordd i'w weled, y mae Iorwerth Dda felly. Dy- wedir fod gafr y Gatrawd Gymreig a rag- flaenai yr orymdaith yn edrych yn dda. Ys gwn i a ddarfu i rywun wneud eamgyIll- eriad fel yr eiddo llanc o gymdogaeth Beth" esda er's llawer dydd ? Pan oedd ein di- weddar Frenhines ar ymweliad a Bangor flynyddoedd lawer yn ol, aeth y llanc yflo i'w gweled. Yr oedd yr afr yn amlwg Jfn yr orymdaith y pryd hwnnw. Ar ei ydy chweliad, gofynnodd mam y bachgen iddo, A welaist ti y Frenhines, John ? mam," meddai, a'r peth tebycaf i fwcfi gafr a welis i erioed oedd." Ychydig o gysgu fu ar lannau y Gl^yd nos Sul. Nid oes yng nghdf neb o'r trigoh011 ystorom mor drom o fellt a tharanau a gwIaW' Ofnem i'n tai ddod yn garnedd ar ein pennal1, ac yr oedd llawer bron gwallgofi gan fraW, a rhoddai anil un ei hun yng ngofal yr ttfl sy'n gwneud ffordd i fellt a tharanal1, ac yn trigo yn nirgelfa y daran." Ofnenj glywed am ddifrod mawr dranoeth. On hyd yn hyn ni chlywsom ond am un ty yn 7 Rhyl y drylliwyd ychydig ar ei do, ychydlg o ddefaid a laddwyd yn Talardy, Llanel^y.' ac ambell i bren a wnaed yn ddellt.

--0--Nodion o'r De»

GwilL a-A y»

Advertising