Welsh Newspapers

Search 15 million Welsh newspaper articles

Hide Articles List

6 articles on this Page

Advertising

Y TREM 1 ^TRWY Y DRYCH. j

News
Cite
Share

Y TREM 1 ^TRWY Y DRYCH. j Cymry Lerpwl." TROWN y Drych am funud ar y Gym- deithas Genedlaethol Gymreig yn Ler- pwl; ond nid yw hi, mwy na chymdeith- asau ereill cyffelyb, yn hawdd ei gweled yn glir yr adeg hon o'r tymor, oherwydd pan., ddelo haf derfydd am y cydym- gynull. Ond dyma un, beth bynnag, o aelodau ffyddlonaf y Gymdeithas Genedlaethol Gymreig yn cofio am dani, ac yn sefyll drosti. Os oes yn Lerpwl unrhyw ddyn byw yn haeddu clod am ffyddlondeb di-dor i'r sefydliad hwn, y mae Mr. W. R. Owen yn un o'r rhai pennaf oil, ac ni fedd neb fwy o hawl nag ef i draethu ei Jen ar y mater. Pe buasai traian aelodau y Gymdeithas yn meddu ei ddihewyd Cymroaidd, heb son dim am ei fedr trefnyddol a'llenyddol, buasai golwg mwy llewyrchus arni. Y mae gwasanaeth helaeth a maith gwyr o'i fath ef a Llew Wynne yn y eylch liwn, fel mewn llawer cylch arall, yn amhrisiadwy l ac yn haeddu clod. Ac wrth ddarllen llythyr Mr. W. n. Owen yn y BRYTHON diweddaf; er ei fod yn lied lawdrwm arnom ni, ystyriem mai o'i sel dros achos agos at ei galon, ac oddiar gymhellion gwladgar, yr ysgrif- c maio Yny goleu hwn, nid ydym yn ol i neb yn ein hedmygedd o'n cyfaill galluog a ffyddlon. Gallem ddweycL yn gyffelyb am liaws ereill fuont ac ydynt yn aelodau a swyddogion o'r Gymdeithas Genedl- aethol hon, o ba rai y cyfyd cenedlaethau o flaen ein meddwl, yn eu plith lawer o oreuon boneddwyr a boneddesau Cymry Lerpwl. Cafwyd o bryd i bryd bapurau a darlithiau yng nghyfarfodydd y Gym- deithas gan rai o lenorion galluocaf ae aeeithwyr hyotlaf y genedl, ac o blitli ccnhedloedd ereill, ac mae y cyfrolau cyhoeddedig o'r cyfryw yn cynnwys tiysorau gwerthfawr. Ac nid ydym heb wybod na chydnabod yr ysbrydiaeth a'r cymorth i ami symudiad gwladgar a dyngar a gafwyd o galon a phen a phwrs y sefydliad hwn. Ein Camwedd. ONU beiddiasom ysgrifeiinu gair neu ddf u anilafriol am y Gymdeithas Genedl- aethol Gymreig, am yr hyn y gelwir ni i gyfrif gan Mr. Owen. Dywed ein bod yn ein sylwadau yn dangos mwy o ddonioldeb nag o wybodaeth. Ond nid liawdd gwneud allan ein safle oddiwrth sylw fel hwn. Pe gwypem faint o ddonioldeb a ganiata Mr. Owen i ni, efallai y gallem ymgysuro yn swm cym- harol ein "hanwybodaeth;" ond fel y gedy y llythyr ni, nis gallwn fod yn sicr. Digon posibl nad yw y donioldeb." ond ychydigyn bach, ac felly mae y wybodaeth ym mhwynt diflanniad. Ond ni ddanghosodd ein cyfaill ein hanwyb- odaeth, ond ceisiodd ddangos ein barn gyfeiliorn. Ond er mwyn y neb all fod heb ddarllen, neu wedi anghoiio, ein sylwadau ar y Gymdeithas Genedlaethol. gosodwn hwynt yma, a cha y neb a fynno farnu oddiwrthynt hwy ein tegwch neu y gwrthwyneb :— YR oedd y Gymdeithas Genedlaethol Gymreig, efo ryw lord neu gilydd yn ben arni, neu gefn iddi, yn burion yn ei ffordd, ond nid y peth i gyfarfod a bechgyn cyffredin John Jones. Nid oedd yr awyrgylch yn ddigon gwerinol. Mae plant yr hen John yn mynd yn fwy anibynol eu hysbryd yn barhaus, ac yn hidio llai o hyd am ymgasglu dan ymbrelo Nawdd estroniaid a lordiaid. Gwell ganddo, a gwell iddo, gael achos bach syml ei hun." Dyna yr ychydig sylwadau ymha rai y bradychasom fwy o ddonioldeb nag o wybodaeth," am yr hyn y galwyd i fyny ysbryd Cynddelw i'n taro. Ein Hamddiffyniad. NID yw Mr. Owen wedi profi ein han- wybodaeth na'n camfarn ar yr un pwynt o'r sylwadau a wnaethom. Onid cywir dweyd i'r Gymdeithas fod, a'i bod eto i raddau, dan nawdd arglwyddi ac estroniaid ? Onid yw yn ffaith fod yr ysbryd gwerinol Cymreig ar gynnydd ? Onid gwir nad oedd awyrgylch y Gym- deithas Genedlaethol yn feithrinol i'r ysbryd hwnnw nac yn atdyniadol i'r cyffredin o fechgyn Cyfnry Lerpwl ? Cipdrem dros restr ei noddwyr a'i haelod- aeth a etyb yn weddol groew. Nid ydym am ddadleu dim gyda golwg ar a ddywed Mr. Owen ynglyn a datblygiad Cymdeith- asau Cymru Fydd, &c., o'r ysbrydiaeth a achoswyd gan y Gymdeithas Genedl- aethol. Caniataer hynny. Ond mae yn ffaith, ynte, i'r Gymdeithas Genedlaethol feithrin ysbryd a deimlodd yr angenrhaid iddo gael corff arall iddo ei hun. Ac nid yw y ffaith fod llu mawr o aelodau blaenaf y Gymdeithas Genedlaethol ymysg cefnogwyr mwyaf selog y Cymdeithasau hynny yn gwrthbrofi i'r gradd jlleiaf yr un gosodiad o'n heiddo ni. Buasai profi fod aelodau cyffredin Cymdeithasau Cymru Fydd yn aelodau o'r Gymdeithas Genedlaethol yn nes i'r nod. Gair Terfynol. Ni fu yn ein meddwl o gwbl y syniad o anghefnogi y Gymdeithas Genedlaethol yn ei chylch arbennig ei hun. Y cwbl a wnaethom oedd beiddio dweyd nad oedd hi, yn ei ffurf bresennol, yn effeithiol i ennill y Cymry cyffredin i'w haelodaeth, ac mai angenrhaid fu sefydlu Cymdeith- asau ereill. Credwn fod i'r hen Gym- deithas ei chyleh neilltuol, ac y gellir ei gwneud yn fwy grymus ac effeithiol nag erioed. Pe buasai y rhelyw o'r swyddogion a'r aelodau ohoni mor ym- roddgar a Mr. W. li. Owen ac ereill, gellid yn fuan ei gosod i fynd gyda nerth ac effeithiolrwydd mawr, a byddai meith- rin mwy o gydymdeimlad rhyngddi hi a'r Cymdeithasau ieuengach yn foddion i gryfhau ac uno yr ysbryd cenedlaethol Cymreig yn y ddinas, Cydnabyddwn yn rhwydd fod yn perthyn i'r Gymdeithas Genedlaethol lu o Gymry mwyaf diwyll- iedig, dylanwadol, a gwladgar y,cylch a'r genedl; ond y mae angen eu cymorth ymhob modd i arwain y to o Gymry ieuainc, cyffredin eu hamgylchiadau, ac ar gychwyn gyrfa bywyd,llawer o ba rai ydynt hefyd yn ddysgedig a llengar, ac yn llosgi o sel dros bopeth Cymreig a chenedl- aethol. Diolchwn i Mr. Owen am ei sylw o'n nodyn ni, ac am y cyfle hwn i egluro yn helaethach, o leiaf i geisio, ein safle ar y mater mewn dadl. A gallwn sicrhau y darllennydd nad oes gennym ninnau ddim is mewn golwg na'r moddion goreu i ddyrehafu Cymru, Cymro, a Chymraeg." Sebon. NID peth i edrych arno o bell drwy y Drych yn unig yw sebon," ond peth y dyUd rhoi pob drych o'r neilltu i'w ddefn- yddio gydag arddeliad. Ond ar hwnnw y mae ein trem y munud hwn. Eto, nid hwnnw chwaith,—nid y sebon a ddefnyddir at grwyn dynol, ond yn hytrach at y Wasg Felen (Yellow Press). Bu y Daily Mail a'r Mirror mewn angen am eu golchi yn dda er's tro, oblegid yr oedd caenenau o fudreddi athrodus ac anwireddus ar eu hwynebau. O'r diwedd, ymgymerodd y Sebonwr galluog o Port Sunlight a'r gorchwyl glanhaol,ac ym Mrawdlys Lerpwl y bu hynny. Bu'n paratoi at y gwaith er's tro bellach, ac ymwingodd y Mail yn echrydus rhag cael ei fwrw i'r olchfa, yn enwedig yn Lerpwl. Beth bynnag, daeth y dydd, ac i fewn a'r Mail gwynebddu i'r dwfr, ac aed ymlaen efo'r gwaith. Trinfa bur arw a gai y truan gan Syr Edward Carson, C.B., ac yn enwedig gan dystiolaeth eglur, ddiamwys, Mr. Lever. Bu yr enwog a'r galluog Mr. Rufus Isaacs yn croesholi yr achwynwr, ac yn ceisio llacio ei afaelion yn y brws ysgrybio, ond yn gwbl ofer. Yr oedd y gwr o Port Sunlight wedi gafael yn y gwalch du a chrafangau dur, a gwelwyd yn fuan nad oedd fodd iddo ddianc heb ei olchi, ac heb dalu am yr oruchwyliaeth fuddioL Y,50,000, &c., &c., a foddlonodd y Mail ei dalu am gael gollyngdod Dyma'r olchfa oreu gafodd y Wasg Felon er's llawer dydd, a dyma'r sebon drutaf iddi hi orfod talu am dano yn unswm braidd erioed. Ond yr oedd arni wir angen y driniaeth, a thybed na fydd y "feudan felen" yn lanach ei hwyneb am beth amser, ac yn llawnach ei phen, os yn ysgafnach ei phoeed ? Ar ei chrwcwd ar lawr, yn bur isel ei gwep, ac yn edrych yn bur ystyrgar a dolurus, y mae hi pan ydym yn tynnu y Drych oddiarni. Bardd yn ei Awen. DYMA'lt Drych ar fod go ryfedd, a chanddo bwyntil plwm yn un Haw, a phapur sgrifennu yn y llall, a golwg oi-ff wyllog arno—yr un fath yn union a bardd, a hwnnw yn ei awen," fol tae. Gwelern ei fod yn gwneucl yn syth am swyddfa'r BRYTHON, ac ofnem ar y cyntaf fod rliywbeth amgen na da rhyng- ddo a'r Gol., nea rai o'r pechaduriaid sydd o'i gwmpas. Beth bynnag, da gennym ddeall na fu niwed yn y byd. Bu y "dyn gwyllt yn y swyddfa, ac wedi taflu papur at y Gol., aeth allan yn ebrwydd, ond nis gwyddom pa un ai i Walton ynte llainhill yr oedd ei gyfoiriad. Dyma gafwyd ar y papur, a barned y darlienwyr beth yw ei feddwl Y DAILY MAIL YN Y TWB GOLOHI Wiw i mi ymddwyn yn ddi-rol, A minna yn y George's Hall, Rhag ofn i ryw fotymog chap Fy nharo yn y cwt yn glap. Ond mae hi'n anodd tewi, ynte, A fedra i ddim—Hwre, Hwre Maddeuwch im, fyddigions ffel, Rhaid i mi waeddi, Wei wol wel Os bachodd Bobi yn fy ngwar, 'Rwy'n awr yn saff ar ben y car Mi rowndia'r dre, doed fel y del, I ganu can i'r Daily Mail. Be sy arnai ?" Peidiwch holi'n ffol, Ond fum i yn y George's Hall,— Yn gweld yr olchfa dda ddi-riwl' RoesJDyn y Sop i'r Daily Mule. Os ceisiai'r Mail wneud gonest ddyn Yn fudur fel y fo oi hun, Efe ei hun, i gael y rwb, A fwriwyd i'r ofnadwy dwb. Bu yno olchi mawr ei scop, A phrawf ar rin y Sunleit Sop, Caed Dyn Sir Gaer yn lan ei bryd, A'r Daily Mail yn faw i gyd. Ymwingai'r Mail mown twb di-wall, A'r trochion yn ei wneud yn ddall 'Roedd gwen ar wymad Dyn y Port, A'r burgyn Mail i bawb yn sport. Fu 'rioed fath rwb mewn llys o'r blaen, Am na fu neb mor ddwfn ei staen, Roedd 'sgrafell Gwir yn brifo'n arw, A'r Daily Mail yn gwaeddi, Wchw Ar hyn fe deimlai mab y dom Fod llaw cvfiawnder yn bur drom, Pe golchsid ei holl frynti ffol, Ni f'ai o'r burgyn fawr ar ol. Wel," ebai'r Mail, ni ddalia'n hwy, Rhaid dod o'r twb, 'rwy'n ildio mwy; Gollyngwch fi yn rhydd, yr hounds, Cym'rwch eich fifty thousand pounds." Wel, dyna'r peth oedd ar bapur y bardd, ac a mwy o'i hanes nid oes a wnelom ni. Feallai iddo fynd i Walton neu Rainhill, neu yn fwy tebyg i Port Sunlight. Nid ym yn meddwl iddo fentro yn agos i swyddfa y Daily Mail Eisteddfod Corwen. DACW Bwyllgor Fisteddfod Corwen Ac y mae ei aelodau yn brysur ryfeddol, ac yn ymddangos yn bur hyderus am lwyddiant. Yn wir, maent yn fwy felly hyd yn oed nag arfer, ac fel pe buasent--yn ychwanegol at y talentau cantorol a nifer fawr y corau a'r cystadleuwyr yn gyffredillol--wedi cael dealltwriaeth ddiamheuoi gyda Caw Ceiriog Roedd Derwydd mawr gynt Yn byw ac yn bod, Yn uchel ei glod, Ar fynydd Plimlimon, ar Iwybr y gWynt Ei enw oodd Caw, Ap l'hywbeth heblaw, Ioedd yn cloi, Yn trin ac yn troi Yspigot y gwynt, ac yspigot y gwlaw." Hai lwc, wir Tri chor mawr, naw o gorau meibion, tri o gorau cymysg am yr ail gystadl- euaeth, saith am yr ail gystadleuaeth corau meibion, ac yn goron ar yr oil, saith o gorau plant. Cawsom achlust hefyd fod cystadl- euaeth ragorol am y gadair. Fel y tynnwn Drem y Drych ar draws y dref, gwelwn ddarlun len brydferth hyd y parwydydd, ac mae hi yn werth ei gweled,ac yn newydd- betli a ddengys ddyfais ac antur y Corwen- iaid craff. Mae Ap Rliuddfryn yn ysgrif- onnydd di-ail, a Llifon yn arweinydd heb ei well, ac yn anhebgor y sefydliad orbyn hyn. Diau y bydd gwib lhuver o'r Lerpwliaid i Gorwen Wyl y Bane. NewmarKet a Llansannan. Tynasom y Drych dros y lleoedd hyn hefyd, a gwelsom fod. Pwyllgorau Eisteddfodol y naill a'r llall fel cychod gwenyn o ddiwyd, ond heb arwydd o golynnu chwaith Deallwn eu bod hwythau yn bur hyderus am gyfarfod- ydd llwyddiannus, a'u bod yn clywed swn paratoi ar gyfer ymweled a'r hen ardaloedd gwledig a dyddorol o lawer cyfeiriad. Boed iddynt gael eu dymuniad, a mwy na hynny, os oes modd.

GLANNAU'R GLWYD.

--0--Nodion o'r De»

GwilL a-A y»

Advertising