Welsh Newspapers

Search 15 million Welsh newspaper articles

Hide Articles List

10 articles on this Page

Nodion o Fanceinion.

I MANCHESTER.

Advertising

II Y Bregeth ar y Mynydd."

44 Llwyn Hudol."

Nodiadau Cerddorol.

Cerddoriaeth 'Steddfod Llangollen.…

Canu Penillion gyda'r Tanau.

Y Cystadleuon Offerynol.

News
Cite
Share

Y Cystadleuon Offerynol. Yr hyn sydd yn tynnu ein sylw yn amlwg yn yr adran hon yw amddifadrwydd o ddarnau cystadleuol gan Gymry. Nid oes yma gymaint ag un enw Cymreig ynglyn a'r un o'r cystadleuon, yr hyn aiff ymhell i brofi nad yw yr adran offerynol yn cael sylw na chydymdeimlad gan y cyfansoddwr Cymreig. Cyfynga ei hun i'r gerddoriaeth leisiol bron yn gyfangwbl. Rhydd ei fryd ar berfform- iadau corawl, a darpara ar eu cyfer, ac md yw yn anodd dyfalu pam yr esgeulusir yr adran offerynol. Y prif reswm, yn ddiameu, yw prinder cymdeithasau cerddoriaol yng Nghymru o safle uchel, a theimla nad yw yn werth y drafferth iddo roddi ei amser i feddwl yn y cyfeiriad hwn. A chan y ceir nifer fawr o gymdeithasau corawl a chyich- wyliau corawl ar hyd a lied y wlad, gwell ganddo ddarparu yn yr un cyfeiriad, gan ysgrifennu cyfansoddiadau i leisiau, na cheisio ysgrifennu cerddoriaeth offerynol, na fydd yn sier a gaiff byth ei glywed, ac os caitt, y dichon mai gyda cherddorfa ail-raddol. Ymhelaethwn ar hyn y tro nesaf.

Advertising