Welsh Newspapers

Search 15 million Welsh newspaper articles

Hide Articles List

11 articles on this Page

NOD AC ESBONIAD.

Mynegair i Salmau Can EdmwndI…

--u--Argyfwng y Glo.

CRED A MOES.

Natur a'r Natur Ddynol.

Bywyd yr Unigolyn.

Bywyd Cymdeithasol.

Detailed Lists, Results and Guides
Cite
Share

Bywyd Cymdeithasol. Ni chawn bellach ond cyfeirio yn unig at un bennod arall o'r llyfr, gan gymell pob un i ddarllen y gweddill drosto ei hun, sef y bennod sy'n ymwneud ag ymddygiad Bywyd Cym- deithasol. 1. Bywyd o wasanaeth ydyw'r bywyd yn y Deyrnas Nefol newydd sydd i wawrio ar fyd. A'r mwyaf ohonoch a fydd yn weinidog i chwi. A phwy bynnag a'i dyrchafo ei hun a ostyngir a phwy bynnag a'i gostyngo ei hun, a ddyrchefir." (Matt. xxiii. 11-12). Canys ni ddaeth Mab y dyn i'w wasanaethu ond i wasanaethu (Marc x. 45). 2. Mae'r gwasanaeth yma i fod, nid yn ol haeddiant, ond yn ol angen. Pan wnelych wledd, galw y tlodion, yr efryddion, y cloffion, y deillion (Luc xiv. 13). "A dyro i bob un a geisio gennyt (Marc vi. 30) cym. Matt. v. 42, xix. 21, &c.). Nid yw'r lesu yn cymell dyngarwch amhenodol, cydym- deimlad cymysg a dynoliaeth sy'n diflannu mewn niwl gan deimlad. Mae yn nodi gwasanaeth penodol i bersonau anghenus penodol. Nid yw ef yn meddwl llawer o frwdfrydedd am droedigaeth paganiaid fil- oedd o filltiroedd draw, tra yn ddall neu yn ddifraw o anghenion neu deimladau trigolion y stryd nesaf, ac yn ddidaro am ddiodd- efiadau a drygau llafur y plant, tai afiach a gorlawn, &c. Ac ar y llaw arall, y mae hanesyn y y Samaritan trugarog a lefarwyd mewn atebiad i'r cwestiwn. Pwy yw fy nghymydog? yn dysgu nid yn unig ein bod yn gweinyddu ar achosion a ddaw yn syth o dan ein sylw. Mae yn golygu hefyd, ymha le bynnag y mae yna angen, fod dyledswydd yn cael ei chreu. 3. Y cymhelliad at roddi gwasanaeth yw cariad personol, hynny yw, parch at a gofal am bob enaid dynol. Car dy gymydog fel-ti dy hun." 4. Tystiolaeth a chanlyniad amlycaf o rym mewnol y cymhelliad yma o gariad ydyw maddeuant diwarafun, teimlad da sy'n gorchfygu ac yn erlid ymaith bob Hid a digofaint, ac nad yw yn cael ei flino a'i arwain gan haeddiant personol. Maddeu hyd ddengwaith a thrigain seithwaitli (Matt. xviii. 22). Cerwch eich gelynion, &c. (Matt. v. 44-45). 5. Bywyd cymdeithasol ydyw'r unig wir fywyd moesol ac ysbrydol. yli Credwn ein bod wedi dyfynnu digon i ddang- os fod y llyfr hwn yn ymwneud a chalon yr efengyl. r.J!

Pistol Saethu Blaenoriaid,

* Y Wadd a'r Hedydd.

Advertising

-0-Llythyr Gwleidyddol ----