Welsh Newspapers

Search 15 million Welsh newspaper articles

Hide Articles List

11 articles on this Page

NOD AC ESBONIAD.

Mynegair i Salmau Can EdmwndI…

--u--Argyfwng y Glo.

CRED A MOES.

Natur a'r Natur Ddynol.

News
Cite
Share

Natur a'r Natur Ddynol. Mae dyn gwareiddiedig yn sefyll ar un llaw yn nes at natur ac ar y llaw arall ymhellach oddiwrthi nag oedd Ewropead yn sefyll yn y canol oesoedd. Ar un llaw, y mae yn llai darostyngedig i natur, llai yn greadur ei nwydau, llai yn ilport galluoedd natur, llai yn ysglyfaeth dychmygion cymysgedig ynghylch natur, yn awr nag yn y canol oes- oedd. Mae dyn yn ein dyddiau ni wedi dysgu dar- ostwng a llywodraethu natur. Mae yn teimlo ei hun oherwydd ei fedrusrwydd arbennig yn feistr ami. Ond ar y llaw arall, mae yn meddu ymwybyddiaeth gliriach o'r cortynau lliosog sydd yn ei gylymu a natur. Mae dyn yn ymwybodol o drefn ac unoliaeth gyfundrefnol natur na wyddai Ewropead y canol oesoedd ddim am dano, Mae dyn yn ein dyddiau ni, gan hynny, yn teimlo fod yn rhaid iddo ddod i delerau a natur. Rhaid i natur ddarparu ar gyfer datblygiad yr enaid. Rhaid i'r bywyd ysbrydol dyfu allan o'r naturiol. Ymddengys nas dichon fod unrhyw ymrafael anghymodlon rhyngddynt. Os nad ellir eysoni natur ag ysbryd, yna nid oes na chartref na sylfaen gweithrediad i ysbryd yn ein byd ni. Ac eto, mor bell y mae natur a'r natur ddynol o ddatguddio i'r meddwl gwyddonol amcan terfynol mewn cyd- weithrediad dedwydd, fel ag i beri arweinydd enwog mewn gwyddoniaeth natur- iol ddatgan fod gwrth-ymdrech hanfodol cydrhwng tueddiadau a chyfeiriada.u natur ag agweddau moesol a chymdeithasol neilltuol bywyd dynol. Beth sydd gan yr lesu i'w ddweyd ar y mater yrria ? Mae, ar yr olwg gyntaf, fel pe ba'i yn tueddu at gadarnhau difrawder y drefn naturiol i ystyriaethau moesol, canys y mae efe yn peri i'r haul godi ar y drwg a'r da, ac yn gwlawio ar y cyfiawn a'r anghyfiawn (Matthew v. 45). Ond, mewn gwirionedd, mae'r dywediad hwn yn datgan syniad am natur fel datguddiad o ddaioni dwyfol sydd yn sefyll ymhell uwchlaw moesoldeb deddfol cyffredin. Am fod Duw yn cyfrannu o'i roddion gyda llawnder digyffelyb, y mae'r haul yn tywynnu ar y drwg fel ar y da, a'r gwlaw yn disgyn yn gyfartal ar y cyfiawn a'r anghyfiawn. Nid yw natur yn ol dysg- eidiaeth yr lesu yn wrthwynebol i'r natur ddynol.

Bywyd yr Unigolyn.

Bywyd Cymdeithasol.

Pistol Saethu Blaenoriaid,

* Y Wadd a'r Hedydd.

Advertising

-0-Llythyr Gwleidyddol ----