Welsh Newspapers

Search 15 million Welsh newspaper articles

Hide Articles List

6 articles on this Page

Advertising

Advertising

Advertising

Trachwant yr Eglwys.

--0,--Adran Gymreig y Bwrdd…

News
Cite
Share

--0, Adran Gymreig y Bwrdd Addysg. DA gennyai weled arwyddion fod penodiad Mr. Alfred T. Davies a Mr. O. M. Edwards yn dechreu dylanwadu ar safle yr iaith Gymraeg yn ein hysgolion elfennol, ac yn ein Colegau Athrawol. Mae y Code cyntaf o'u heiddo newydd ymddangos. Ynddi gelwir sylw yr ath- rawon a'r llywodraethwyr at werth y Gymraeg fel moddion diwylliant y plant. Addewir gwneud paratoadau i'w haddysgu yn fwy effeithiol yn y Colegau Athrawol. Gelwir sylw at yr Ysgolion Haf a gynhelir at wasanaeth y rhai sydd yn barod yn athrawon. Ofnwyd yn ddiweddar fod adran Cowper Temple mewn perygl o fyned yn ddirym. Ond ceir yn y Code newydd rybudd fod troseddu yn erbyn yr adran bwysig honno yn peryglu y Grant. Rhwng popeth, dylem longyfarch Mr. McKenna a'r Adran Gymreig am eu bod yn talu cymaint o sylw i hawliau eyfiawn Ymneilltuwyr y deyrnas. Mae'n amlwg na oddefir yn hwy i'r Eglwys Wladol broselytio ein pupil teachers ar draul trethi y deyrnas. Bydded i bawb wneud eu goreu dros eu hegwyddorion ond ar eu traul eu hunain. I lawr a pliob gorfaeliaeth yw arwyddair ein hoes, a diolch am hynny.

-0-Llythyr Gwleidyddol ----