Welsh Newspapers

Search 15 million Welsh newspaper articles

Hide Articles List

6 articles on this Page

Advertising

Advertising

Advertising

Trachwant yr Eglwys.

News
Cite
Share

Trachwant yr Eglwys. YN ddiweddar anfonnodd Mr. McKenna, Gweinidog Addysg, gylchlythyr yn cyn- nwys "Rheolau Newyddion o barthed i Golegau Athrawol (Training Colleges) yr Eglwys Sefydledig. Trefnid fod eu drysau i gael eu taflu yn agored i Ym- neilltuwyr os byddent wedi pasio yr arholiadau, ac yn meddu ar gymhwysterau i fanteisio ar yr addysg a gyfrennid ynddynt. Mewn geiriau ereill, darbodai y Rheolau Newyddion fod y prawflwon (tests) crefyddol ac enwadol i gael eu dileu. Rhaid edrych arnynt o hyn allan nid fel sefydliadau at wasanaeth yr Eglwys Sefydledig ond fel eiddo y cyhoedd, ac o ganlyniad i wasanaethu y rhai sydd yn eu cynnal. Fel gweithwyr Ephesus yn llawn sel dros y dduwies Diana 'gynt pan welsant fod gobaith eu helw hwynt mewn perygl, dyma'r Eglwys yn ymffurfio yn fyddin o ddirprwywyr yn cael eu har- wain i'r gad dan lywyddiaeth Archesgob Caergaint i alw ar y Prifweinidog a McKenna i dynnu'n ol y rheolau, neu ynte ybyddai i'r Eglwys godi mewn gwrthryfel yn erbyn eu hawdurdod Sylwer ar'rai o'r rhesymau a ddefnyddid gan y ddirprwyaeth i geisio cyfiawnhau eu gwrthwynebiad :— Bydd i'r rheolau newyddion ddinystrio cymeriad crefyddol y sefydliadau hyn.- Yr ystyr yw y bydd i'r Ymneilltuwyr a dderbynir iddynt lygru a gwenwyno crefyddolder ysbryd y myfyrwyr Eglwys- ig! Y fath honniad o uwchafiaeth ere-fyddol 1 Y fath sarhauster Pharise- aidd Yn wyneb hanes Colegau Athraw- ol anenwadol yn Lloegr a Chymru, y mae'r awgrym yn brawf o gulni eithafol neu o anwybodaeth anesgusodol, Beth pe cymherid, o ran moesoldeb a chrefydd- older, athrawon Coleg Normalaidd Bangor a'r rhai a addysgwyd yng Ngholegau Athrawol yr Eglwys yng Nghymru Oes rhywun yn ei synnwyr a dybiai am foment fod y rhai a drowyd allan o'r Colegau Anenwadol yn israddol eu buch- edd a'u moes i'r athrawon Eglwysig ? Dylai yr Archesgob wrido am wneud y fath ensyniad enllibus. Yn deilwng ohono'i hun ac o draddodiadau ei deulu, aeth yr Arglwydd Hugh Cecil ymhellach fyth. Barnai ef fod addysg grefyddol anenwadol, neu ddarllen y Beibl a dysgu dim ond y gwirioneddau sydd yn gyffredin i Gristionogion o bob enwad a phlaid, yn niweidiol ac yn wenwyn ysol." Yn ei dyb ef a Lord Halifax, hanfod Crist- ionogaeth yw y gallu a fedd yr offeiriaid i ail eni yn y Bedydd, ac i borthi'r bywyd ysbrydol yn y Cymun! Dywedodd Esgob Manchester, un o wrthwynebwyr casaf y Mesur Addysg diweddaf, ei fod ef yn gwrthdystio yn erbyn gwaith y Llywodraeth yn dangos ffafr i addysg gref- yddol anenwadol. Mor anodd argyhoeddi y clerigwyr hyn mai nid addysg grefyddol anenwadol yw delfryd yr Ymneilltuwyr. Maent yn dysgu eu neilltuolion enwadol. Dysgant athrawiaethau lawer ond cyf- addawd yw addysg anenwadol. Ni fynn- ant i Addysg Enwadol gael ei chyfiwyno ar draul y Wladwriaeth. Ceisiant chwilio am ryw dir cyffredin lie y gall y Pabydd, yr Eglwyswr Seisnig, a'r Ymneilltuwr gydgyfarfod. Ond, hyd yn hyn, nid ydys wedi llwyddo. Ac nid oes un arwydd y gellir llwyddo tra bo clerxg..v v fel Hugh Cecil yn llywio polisi yr Eglwys Wladol. Ac yn wyneb hyn oil, prin y gall neb sydd yn dadleu dros yr egwyddor wirfoddol ynglyn a chynnal crefydd deimlo gofid mawr o achos y methiant. Rhwymir y Weinyddiaeth a'r Senedd i ganfod nad oes dim yn aros ondjysgariad yr Addysg Fydol a'r Addysg Grefyddol. Dy- lai y sefyllfa ddeffroi Cristionogion o bob plaid i ymgymeryd o ddifrif a'r gorchwyl a ymddiriedwyd iddynt gan [Sylfaenydd ein crefydd. Dydd o ofwy blin i Eglwys Loegr fu y dydd y mynasant daflu cyn- haliaeth eu hysgolion elfennol a'u Coleg- au Athrawol ar y trethi cyhoeddus. Rhybuddiwyd hwy gan yr Archesgob Temple, ond ni fynnent wrando. Rhag- welodd ef yn gywir y collent, yn hwyr neu yn hwyrach, lywodraethiad y cyfryw. Yn awr, dyma Mr. McKenna yn trefnu fod i nifer o lywodraethwyr y Colegau Athrawol i gael eu penodi gan y Cyngor Plwy a Bwrdd y Gwareheidwaid! Y fath dro ar fyd! Teflir y cedym, yu yswain ac offeiriad, o'u heisteddfau, a dyrchefir y rhai iselradd i lanw eu seddau O Eglwys Loegr ti a'th ddinystriaist dy hun drwy dy wane aniwall am dra- arglwyddiaeth a gorfaeliaeth, a hynny ar draul y tretlii cyhoeddus. Mor ddall y buost

--0,--Adran Gymreig y Bwrdd…

-0-Llythyr Gwleidyddol ----