Welsh Newspapers

Search 15 million Welsh newspaper articles

Hide Articles List

14 articles on this Page

Advertising

DYDDIADUR.

Glannau'r Mersey I

EBION.

News
Cite
Share

EBION. Y mae Mr. Hugh Evans, un o athrawon Ysgol y Cyngor yn] Cathcart St., Birkenhead, wedi myned drwy arholiad B.A. Prifysgol Cymru yn llwyddiannus. Brodor ydyw ef o Lan Ffestiniog, ac yn aelod dichlyn gyda'r Ani- bynwyr yn Clifton Road. Hwi Huff Ddydd Llun diweddaf, aeth aelodau Ysgol Saboth Parkfield i Barnston Dale am eu hafdaith blynyddol. Yn sgil y cyfarfod gweddio a gawsid y nos Lun cynt, caed tywydd sych a dymunol, a mwynhaidd y 160 ddaeth ynghyd eu hunain yn gampus. Yr oedd yr arlwy fwyd yn rhagorol, ac yn boddhau hyd yn oed y rhai mwyaf misi ac yn nwylo'r ddau arolygwr, Mr. Thos. Jones, (Shaw Street), a Mr. Gomer D. Roberts, aeth popeth heibio yn drefnus a dibrofedigaeth. Chwerthin yn eu llewis yr oedd rhai o Gymry uniongred Lerpwl yr wythnos ddi- weddaf am ben y cyfarfodydd gweddiau a gyn- haliwyd i ofyn am newid yn y tywydd ond chwedl Shakespeare, He laughs best who laughs last," ac y mae'r bobl fu mor hen ffasiwn a gweddio ar y Goruchaf am droi'r hin, yn won i gyd yr wythnos hon wrth weled yr haul wedi chwalu'r cymyl, ac yn canu gyda Huw Morus Tynera'r lun tan warant, Ceir yd a llaoth a llwyddiant, Pob genau, pawb a ganant." K Yfory (ddydd Gwenor) bydd y Parch. H. Barrow Williams, Llandudno gynt, yn hwylio o Lerpwl gyda'r Virginian am Montreal, He y mae iddo ddau fab ac oddiyno aiff am daith ddarlithio a phregethu draw ac ar hyd y Talaethau. Yn Llandegla-yn-Ial y treulia efe a'i briod eu hegwyl ha' bob blwyddyn ac yno eleni, yng nghanol y grug tlws sydd mor drwchus hyd fit clogwyni'r fro, y gwelsom ef yr wythnos ddiweddaf yn nyddu'r sylwadau byw sydd i gadw'r Iancwys ar ddihun y misoedd nesaf.' Rhwydd hynt iddo—ar yr amod y daw'n ol. Da gennym glywed am lwyddiant Mr. W. J. Jones, Waterloo, yn ennill ei F.C.I.S., sef Fellow of the Chartered Institute of Secretaries. Ym Manceinion y bu'r arholiad, Mehefin 3 a 4, a dyma'r testynau Mercantile Law, Company Law, Accountancy, Precis Writing, Reports, Minutes, Procedure at Public Meetings, Higher Arithmetic, Corres- pondence, &c. Efe ydyw arolygwr Ysgol y Plant yn Waterloo, ac y mae yn un o Gymry Fydd effro Anfield. r Y mae ei frawd, hefyd, Mr, R. H. Jones, wedi pasio arholiad Intermediate y Chartered Accountants. Y mae efe yn articled a Mr. S. S. Dawson, F.C.A., a benodwyd yn ddiweddar yn Professor in the Faculty of Commerce ym Mhrifysgol Birmingham. Rhwydd hynt i'r ddau a lie bynnag y bo Cymro'n dod ymlaen, dyweder wrth y BRYTIION, ac fe glyw pawb gwedyn. Yn hanes cyfarfod sefydlu y Parch. W. Roberts yn weinidog eglwys Anibynol Trinity Road, Bootle, 91,200, ac nid £ 200, a ddylesid ddweyd ydoedd wedi eu casglu ganddo at ddileu'r ddyled ynglyn a'i eglwys flaenorol yn Golborne. Caed cyfarfod Jiwbili i ddathlu marwolaeth y ddyled yno yn ddiweddar. Yn y cyfarfod-sefydlu yn Bootle hefyd, caed englynion iddo gan Mr. H. Lloyd Jones, Anfield. Ddydd Sadwrn diweddaf, aeth Cyfrinfa Temlwyr Da Goronwy (Anfield Road) a rnintai o Gyfrinfa Disgwylfa, Garston, am hynt i West Kirby, lie y caed ymborth da, pryd- nawn difyr, a llun y parti yn cael ei dynnu cyn dychwelyd i'w gadw'n atco o'r'amgylch- ild. Da gennym ddeall am lwyddiant Cyfrinfa Goronwy y dirprwywr ydyw Mr. J. E. Williams, Breckfield Road.

Advertising

--0--Rhyddfrydwyr Mon.

Mawredd ym Miwmaris

----o - Efengyljar dywod y…

-.---..0-'---Galwadau.

--0---Y Meddyg-Genhadwr Davies.

Advertising

TECWYN.I

--0----Pwy bia'r Mynyddoedd.

EBION.