Welsh Newspapers
Search 15 million Welsh newspaper articles
14 articles on this Page
Advertising
Yr Unig Bapur Cymraeg a Argreffir yn Lerpwl. "Wt VWYN RHIFYN HEDDYW: rJ'rybini'r Esgobion 11 id. 1 Llythyr o Westminster 2 Colofn y Gweithiwr, Hesgin 2 Ymddiddan am Khasia, &c 3 Adolygiad y Parch. O. Eilian Owen.. 4 Trem drwy'r Dryeh 4 WT-U EIN NESAF. Ysgrif Aclolygindol gan "Gwiddon. Coflaid o Lythyrau at y Gol. Ac yn y blaen.
DYDDIADUR.
DYDDIADUR. Yr ydys yn awyddus i gael y Dydd- iadur yn gyflawn; a byddwn yn ddiolchgar am hysbysrwydd dioed o uurhyw gyfarfod a fo'n caelei drefmi. Dodir pob cyhoeddiad yn y Dydd- iadur yn rhad ac am ddim. Lerpwl a'r Cylch. Awst 3-6—Dathlu Seithcant Oed Lerpwl (Pageant) Modi 11 -Cor Piaut Rhyl St (B.) yn Assembly Hall. Marsh Lane Medi 21—Eisteddfod New Brighton Hydief 2—Cyfarfodydd Blynyddol y Feibl Gym. Hyd, 15=16 -Cvfai-fodydd Blynyddol Cymanfa Ddir- westol Gwynedd ao Undeb Dirwestol Merched Gogledd Cymru, yn Princes rd Hyd. 22-Te Parti a Chyngerdd Grove Street Hyd. 29-Cyf. Cystad'.enol Unedig Fitzelarence St, Edge Lane, Douglas Rd., a Newshain Park Hyd. 30—Te a Chyngcrdd Gt, Mersey Street Tach. 5-8.— Ncdachfa Cymru Fydd Anfield ac Everton yn St. George's Hall. Tach. 16-Cyngerdd y Welsh Choral yn y Philhar- monic Hall Tachwedd 24-Cvf. Pregetliu yn Marsh Lane. Tach. 26-Cyf. Cystadleuol Anfieid Hoad. Rhag. 7 a 8-Cyfarfod Pregethu Chatham Street. Rhag. 8-Cyfarfod Pregethu Bedyddwyr Edge Lane Rhag. 15-Elfed y.i Gt. Mersey St. Rhag. 21-Plant y Pentre yn y Central Hall. Rhagfyr 25-Cyngerdd Blynyddol Crosshall Street Rhagfyr 26—Eisteddfod y Temlwyr Da. Rhag. 28—Cyngerdd y Welsh Choral yn y Phil- harmonic Hall 1908 Ion. 14-Parch. F B. Meyer yn Boot' c Chwef.—Bazaar Eglwys Anibynol Martin's Lane, Liscai d. Maw. 2S-Cyngerdd y Welsh Choral yn y Phil- harmonic Hall Manceinion. Medi 14 a 15—Cymanfa Bregethu Booth Street. Medi 20 a 21-Cynhadledd y Bobl leuainc. Hyd. 12—Cym. Garni Methodisti lid yn Moss Side. Cymru. Awst 5—Eisteddfod Corwen. Awst 5—Eisteddfod Newmarket
Glannau'r Mersey I
Glannau'r Mersey I Y Methodistiaid Calfinaidd. PRINCES RD-10, L. Lewis, 6, J. Roberts (Khassia) DAVID ST.-10-30, J. Roberts, 6, L. Lewis FITZCLARENCE ST.—10 a 6, H. Jones DOUGLAS RD.—10 a 6, J. H. Morris CHATHAM ST.-10-30 a 6, W. M. Jones CROSSHALL STREET—10 a 6, T. Phillips, Llan- ymddyfri ANFIELD RD—10-30 a 6, O. Owens NBWSHAM PARK-10 a 6, J. Hughes BOOTLE-10 a 6, J. Williams, Brynsiencyn P ARKFIELD-IO-30 a 6, H. H. Hughes, Croesoswallt SEACOMBE-10-15 a 6, J. E Hughes, Brynmenai GARSTON—10-30 a 6, R. Aethwy Jones ROOK FERRY-10-30 a 6, J. Roberts WALTON—10-30 a 6, O. J. Owen WATERLOO—10-30 a 6, R. Humphreys PEEL RD-10-30 a 6, R. W. Roberts EpGE LANE-10-30 a 6, D Jones WEBSTER ROAD-10-30 a 6, W. Owen LAIRD STREET—10-30 a 6, T. J. James, Penmachno WOODCHURCH RD-10-30 a 6,E.J.Jones,LlangernyW NEW BRIGHTON—10-30 a 6-30, Griffith Hughes WEST KmBY-ll a 6, J, J. Roberts, Portmadoc IIUYTON QUARRY—10-30 a 6, J. Williams SoUTiirouT—10-30 a 6-30, R. C Owen WARRINGTON—10-80 a 6. WILLIAM MOULT ST-6, Cyfarfod Gweddi KLLESMERE PORT—10 30 a 6-30, IIANKH ALL—6-15, Yr Achosion Seisnig. OAKFIELD RD-10-45 a 6-30, T. G. Owen VVERTON BROW—10-45 a 6-30, D. W. Morgan CATHERINE ST—10-30 a 6-30, J. D. Evans I'GREMONT-10-30 a 6;30, R. G. Jones WILLMER RD—10-45 a 6-30, R. Ernest Jones Yr Anibynwyr. T.VBEKKAOL, BELMONT RD-10-45, G. J. Williams, 6-30, O. L. Roberts P VRK ROAD—10-30, W. W. Roberts, 6, O. R. Owen GROVE ST—10-30, J. L Williams, 6, D. Adams CLIFTON RD—10-30, J. O. Williams, 6, O. LI. Owen GT. MERSEY ST-10-30, D. Adams, 6, J. L. Williams MARSH LANE—10-30, I. Griffiths, 6, E. G. Davies, Abertridwr KENSINGTON—10-30, O. LI. Owen, 6, J. 0. Williams TJUHITY RD-10-30, O. R. Owen, 6, W. W. Roberts, Llanddulas LISOARD-10-45, E. G, Davies, 6-15, 1. Griffiths, Llanfaircaereinion VITTORIA ST—10-30,0. L. Roberts,6,G.J. Williams BALMORAL RD-10-30 a 6, E. Evans, Llanegryn SOOTHPORT-ll a 6-30, J.'Evans PRESCOT—10-30 a 6, David Jones, Crewe Y Wesleaid. MYNYDD SEION—10-30, W. M. Jones, 6, J. Felix BIRKENHEAD—10-30, J Felix, 6, E. Humphreys NVIDNES-10-30 a 6. A Owen GARSTON-2-30, J Felix, 6, 11. Davies IGREMONT-IO-30, E. Humphreys, 6, W. M. Jones ROCK FERRY 2-30, E. Humphreys, 6, J. E. Wynne OAKFIELD—10-30, H. Williams, 6, Ef. o Headingley SHERLOCK ST,-10-30, D. Jones, 6, H H.Chambers TRINITY RD.-10-30, Ef. o Headingley,6,J.D.Owen EDGE HILL—10-30, Cyfarfod Gweddi, 6. D. Jones KXOWSLEY RD-10-30, J. D. Owen, 6, H. Williams Y Bedyddwyr WINDSOR ST.-10-30 a 6, O. M Owen EOCSPOLD ST.—10-30 a 6, M. Griffith EDCB LANE—10-30 a 6, H. R. Roberts BALLIOL RD.-10-30 a 6, P. Williams EVERTON VIL.-10-30 a 6, D. Powell WOODLANDS—10-30 a 6, J. Davies SKA COMBE—2-30 a 6, K:OV.SLEY RD.—10-30 a 6, L. W. Lewis Eglwys Rydd y Cymry CANMSG ST-10-30, W. A. Lewis, 6-30, W. 0. Jones HIGr: PARK ST.—10-30, R. T. Roberts, 6,D.Da vies BoO'! LE-IO-30, D. Davies, 6, BIREYNHEAD-IO-30, E. Evans, 6, T. Jones GARGOYLE ROAD -10-30, T. Jones, 6, E. Evam, DONALDSON ST-; 0-30, W. O. Jones, 6, W. A. Lewis EG R,E MONT—10-45, 6-30, R. T. Roberts Yr Eglwys Sefydlcdig SANT DEWI—10-30 a 6-30, J. Dalies SANT AsApfi-10-45 a 6-30, E. Williams. SANT DEINIOL—ll'a 6-30, J. D. Thomas ST V iMERBD, WlTlMA } 6-30, J. Hughes
EBION.
EBION. Y mae Mr. Hugh Evans, un o athrawon Ysgol y Cyngor yn] Cathcart St., Birkenhead, wedi myned drwy arholiad B.A. Prifysgol Cymru yn llwyddiannus. Brodor ydyw ef o Lan Ffestiniog, ac yn aelod dichlyn gyda'r Ani- bynwyr yn Clifton Road. Hwi Huff Ddydd Llun diweddaf, aeth aelodau Ysgol Saboth Parkfield i Barnston Dale am eu hafdaith blynyddol. Yn sgil y cyfarfod gweddio a gawsid y nos Lun cynt, caed tywydd sych a dymunol, a mwynhaidd y 160 ddaeth ynghyd eu hunain yn gampus. Yr oedd yr arlwy fwyd yn rhagorol, ac yn boddhau hyd yn oed y rhai mwyaf misi ac yn nwylo'r ddau arolygwr, Mr. Thos. Jones, (Shaw Street), a Mr. Gomer D. Roberts, aeth popeth heibio yn drefnus a dibrofedigaeth. Chwerthin yn eu llewis yr oedd rhai o Gymry uniongred Lerpwl yr wythnos ddi- weddaf am ben y cyfarfodydd gweddiau a gyn- haliwyd i ofyn am newid yn y tywydd ond chwedl Shakespeare, He laughs best who laughs last," ac y mae'r bobl fu mor hen ffasiwn a gweddio ar y Goruchaf am droi'r hin, yn won i gyd yr wythnos hon wrth weled yr haul wedi chwalu'r cymyl, ac yn canu gyda Huw Morus Tynera'r lun tan warant, Ceir yd a llaoth a llwyddiant, Pob genau, pawb a ganant." K Yfory (ddydd Gwenor) bydd y Parch. H. Barrow Williams, Llandudno gynt, yn hwylio o Lerpwl gyda'r Virginian am Montreal, He y mae iddo ddau fab ac oddiyno aiff am daith ddarlithio a phregethu draw ac ar hyd y Talaethau. Yn Llandegla-yn-Ial y treulia efe a'i briod eu hegwyl ha' bob blwyddyn ac yno eleni, yng nghanol y grug tlws sydd mor drwchus hyd fit clogwyni'r fro, y gwelsom ef yr wythnos ddiweddaf yn nyddu'r sylwadau byw sydd i gadw'r Iancwys ar ddihun y misoedd nesaf.' Rhwydd hynt iddo—ar yr amod y daw'n ol. Da gennym glywed am lwyddiant Mr. W. J. Jones, Waterloo, yn ennill ei F.C.I.S., sef Fellow of the Chartered Institute of Secretaries. Ym Manceinion y bu'r arholiad, Mehefin 3 a 4, a dyma'r testynau Mercantile Law, Company Law, Accountancy, Precis Writing, Reports, Minutes, Procedure at Public Meetings, Higher Arithmetic, Corres- pondence, &c. Efe ydyw arolygwr Ysgol y Plant yn Waterloo, ac y mae yn un o Gymry Fydd effro Anfield. r Y mae ei frawd, hefyd, Mr, R. H. Jones, wedi pasio arholiad Intermediate y Chartered Accountants. Y mae efe yn articled a Mr. S. S. Dawson, F.C.A., a benodwyd yn ddiweddar yn Professor in the Faculty of Commerce ym Mhrifysgol Birmingham. Rhwydd hynt i'r ddau a lie bynnag y bo Cymro'n dod ymlaen, dyweder wrth y BRYTIION, ac fe glyw pawb gwedyn. Yn hanes cyfarfod sefydlu y Parch. W. Roberts yn weinidog eglwys Anibynol Trinity Road, Bootle, 91,200, ac nid £ 200, a ddylesid ddweyd ydoedd wedi eu casglu ganddo at ddileu'r ddyled ynglyn a'i eglwys flaenorol yn Golborne. Caed cyfarfod Jiwbili i ddathlu marwolaeth y ddyled yno yn ddiweddar. Yn y cyfarfod-sefydlu yn Bootle hefyd, caed englynion iddo gan Mr. H. Lloyd Jones, Anfield. Ddydd Sadwrn diweddaf, aeth Cyfrinfa Temlwyr Da Goronwy (Anfield Road) a rnintai o Gyfrinfa Disgwylfa, Garston, am hynt i West Kirby, lie y caed ymborth da, pryd- nawn difyr, a llun y parti yn cael ei dynnu cyn dychwelyd i'w gadw'n atco o'r'amgylch- ild. Da gennym ddeall am lwyddiant Cyfrinfa Goronwy y dirprwywr ydyw Mr. J. E. Williams, Breckfield Road.
Advertising
Neuadd y Twr, New Brighton* CYNHELTR Y S KITH FED EISTEDDFOD GERDDOROL FLYNYDDOL, Ddydd Sadwrn, Medi 21, 1907. Beirniaul Ccrddorol :— > HENRY COWARD,Ysw.,Mus.Doc.(Oxon.), DAN PRICE, Ysw.(Llundai a HARRI EVANS, Ysw. Rliaglcn gyllawn i'w chael ond anion stamp i'r Ysgrifennydd- J LLEW WYNNE. I Hamilton Square, Birlienhead- Cymdeithas Cymru Fydd Anfield ac Everton- NODACHFA GYMRElO YI1 ST. GEORGE'S HALL, LERPWL, Tachwedd 5ed, 6ed, 7fed, a'r 8fed, 1907. MANYLION I DDILYN. Amcan Dileu y ddyled ar yr adeilad newydd, 102 Belmont Roa^^ Beibl Gymdeithas Gymreig LIVERPOOL. Cynhelir Cyfarfod Blynyddol y Gymdeithas, yn HOPL UALL, LIVERPOOL Nos Fercher, Hyd. 2il, 1907. MANYLION ETO.
--0--Rhyddfrydwyr Mon.
--0-- Rhyddfrydwyr Mon. Yn ei balas: Penrhos, ger Caergybi, ddydd Mawrth, croesawid 500 o Ryddfrydwyr Mon a'u gwragedd, &c., gan Arglwydd Stanley o Alderley. Yr oedd yr aelod tros y sir (Mr. E. J. Griffith) i siarad, ond cymerwyd ef yn wael, ac yn nhy ei gyfaill, Mr. T. R. Evans, Rhosygaer, y gorwedd ar hyn o bryd. Un o bethau dyddorol y cyfarfod brwd ydoedd clywed y Parch. Thos. Charles Williams, Porthaethwy, yn traddodi ei araith gyntaf erioed oddiar lwyfan wleidyddol; a Lloyd George, gwylied arno'i hun, ebe'r dorf ar ei diwedd. PQ Coffa Humphreys-Owen. Y mae E4,50 wedi ei gasglu a threfniadau wedi eu cwblhau i sefydlu ysgoloriaeth E20 yn y flwyddyn yng Ngholeg Aberystwyth i goffa'r diweddar Mr. Humphreys-Owen, A.S., Maldwyn.
Mawredd ym Miwmaris
Mawredd ym Miwmaris Y Teulu Brcnhinol yn dal i ymwoled a Mon a ddydd Mawrth diweddaf, yr oedd ei Fawrhydi y Due Connaught yn Beaumaris yn edrych ar y Royal Anglesey Militia yn myned drwy'u gorchostion. Ar ol iddynt orffen, ac iddo yntau eu pratio a'u canmol, aeth drwy'r dref ym motor Syr R. Willianis- 1 iulkeloy, ac yna i dreulio'r prydnawn gyda'r Syr yn Baron Hill, gan ymado banner nos am y Werddon.
----o - Efengyljar dywod y…
-o Efengyljar dywod y Rhyl GWETHOD symud eu hofferyn oddiar y tywod y mae Mr. Goodbody a'i gynorthwywyr sy'n trefnu cyfarfodydd efengylaidd ar draeth y Rhyl, ac yn horio yr heddgeidwaid i ddod a'r achos i lys barn.
-.---..0-'---Galwadau.
-0- Galwadau. 'Y MAE Mr. W. J. Williams, Porthmadog— efrydydd o Goleg Caerfyrddin, wedi derbyn galwad i fugeilio eglwys Anibynol Car way, ger Llanelli. Nos Lun, sefydlid y Parch. E. Elli, Jones, Bangor, un o efrydwyr Coleg y Bala, yn fugail eglwys M.C. Seisnig Porthmadog.
--0---Y Meddyg-Genhadwr Davies.
--0- Y Meddyg-Genhadwr Davies. Y MAE Dr. Arnold Davies, B.A. (Llnnden). gynt efrydydd yng Ngholeg Bala-Bangor, a mab y Parch. Cynffig Davies, Porthaethwy, wedi ei benodi gan Gymdeithas Genhadol Llunden i olynu Dr. R. C. Benthall fel arol- ygydd y gwaith cenhadol yn Neyoor-y genhadaeth feddygol fwyaf yn yr India. --0-- DDYDD Mawrth, tra yr oedd y 5th Worcester- shire Militia, a wersyllant ar hyn o bryd ger Llangollen, yn mynd trwy ffng-frwydr yn ymyl plas Syr Theodore Martin, bu farw milisyn o'r enw John Perry, brodor o swydd Gaerefrog, yn y [fan. Oedwyd mabolgamp- au'r gatrawd o'r herwydd.
Advertising
Testynau Eisteddfod Llangollen.- Rhestr gyflawn y testynau yn awr yn barod, ac i'w chael, pris 6ch. drwy'r post ic, gan Evans, Sons 0 Foulkes, Swyddfa'r Brython." Anfield and Everton Young Wales Soc SOLID SILVER PRlZffe will be awarded to those who send any &1' which represents the best value for 6^j articles will be retained for sale at the which is to be held in November next. Competitors must send in their articles e 18th October, 1907, together with full name address to Miss ADA M. ROBERT:4, 102 Belmont Road, L ÿ Liverpool & North wales Regular Daily Sailings (Sundays inelided). I From Prince's Landing Stage (weather and 01 cumstances permitting), „ Every day by La Marguerite (Fridays, "St. Tudno"). oI 10-45 a.m., for Llandudno, Beaumaris, and Menai Bridge, allowing 4 „ni. at Llandudno, and due back about JLp. 2-30 p.m. Fridays, Saturdays and M"1' aDJ, Early boat onlMondays, due Liverpool Returning at 2-30 p.m. Anglesey Trips 9-15 a in., Tuesday, <J0tn, ° at Llandudno, due back at 8-15 p.m. *yed- Holyhead Trips at 9-15 a.m., Mondays ana nesdays, allowing 6 hours ashore at Llant due back 8-0 p.m. Through Bookings from Principal Stations. rtii For Fares, &c., apply to the Liverpool ana Wales Steamship Company, Ltd., T- officii Secretary, 40 Chapel Street, Liverpool. Guide, post free 3d. CEINION CUDD. Adgofion.. I Hiraethog AM Y PARCH. Michael Robertst PWLLHELI. 15. 6ch Mewn Llian hanld. Is. 6cb Wedi cu rhanu fel y canlyn Arweiniad. 1—Adgofion y Bachgen. 0i y Llanc. 3 Yn y Gymdeithasfa, 1—Y Tywyll. 5-Y Diwedd. Gyda Cliyvvydd o waith yr awdwr, yn disgrilio r gylydd inwyn yu ei odl'a fawr yng NghyniQc Llanrwst. Nid oos 6nd ychydig gopiau ar lawr, a dyla rhai ddymuno gael copi, anfoiiir unwaith* I Cyhoeddedig gan HUGII KX'AN^' 356-358a & 414 Stardej^^I;. Channel Cruises* e FARE 6d. Two Hours' Channel of The Favourite Saloon Steamer PATHFLNU' J' erg, other Steamers, specially fitted up for PaS^ng tb0 having every convenience on board. ph-oU1?' Prince's Landing-stage [weather and other jflpt- stances permitting] VVeek days 3.15 p v ^bO11 Sunday 11 15 a.m. [short trip], arriving baca- 12.15,3.30, 4.30, 6.o0. and 7.30 p.m. YN EISIEU-Gwr a Gwraig i ofaln gapei M.C. Douglas Road. J r," iadau, wedi eu harwyddo Chapel i'w hanfon erbyn Awst lofed, i Mr. Jones, 27 Priory Road, Anfleld. t1'Ý COMFORTABLY FURNISHED Oonrgø Cottage TO LET in Anglesey- Dining Room, Kitchen, Pantry, Four lovely scenery, bracing. Is. Shops, Post, Station, Church and OhaP Terms moderate.—Apply 25X Br t/lon. T LANRHAIADR-YN-MOCHNANT.—' from September 1st, Modern Farm Furnished, containing large Dining Kitchen, Four Bedrooms, Bathrooffl> tejl &c. Croquet Lawn. Beautifully s Sf Distance 1 mile from Station. Within tance to Lake Vyrnwy Waterworks and Li For terms, apply to J. W. JONES rpool 17 Ballville r Telephone -2270. Richard OweO, PRACTICAL TAILOR and Jt COSTUME MAJ( 152 Dale Stop LIVERPOOL. P optJ- Printed and Published for the pol» etors, EVANS, SONS & FOULKES, Chambers, 8 Paradise Street, ofrv Tel. 1112 Central, by HUGH EVAN, tM 358a Stanley Road, Liverpool* 111 Oo'inty of Lancaster.
TECWYN.I
TECWYN. Yn OaRfield Road. ADWAENWN ddau Dccwyn. Y cyntaf, y Parch. G. Tecwyn Parry, Llanberis, awdwr cyfrol werthfawr ar Lewis Edwards y Bala, bardd da a lienor addfed, a phregethwr—pe rhoisid mwy o fri ar faeth a llai ar feluster— a glywsid bob Sulgwyn yng Nghymanfa Methodistiaid Lerpwl. Ni ddacth efe i'w etifeddiaoth o lawer, ac yng ngodreu ei Wyddfa y treuliodd ofe ei alluocdd mown mwv nag un ystvr. ,) K Ond a'r ail Decwyn y mae a wnelof hoddyw —sef y Parch. D. Tecwyn Evans, B.A., Llanddulas, ac un o obeithion anwylaf Wesleaid Cymru. Y niae cartref cyntaf y ddau Decwyn o fewn hwb-cam-a-naid i'w gilydd bron a diolch i'r ddau am anfarwoli plwyf creigiog Llandecwyn drwy ddodi'r hen sant Llydewig rhwng eu henwau. *5.' Yr oedd dwy neu dair blynedd er pan y'i clywswn o'r blaen a phan welais ei fod i gymeryd rhan yng nghyfarfodydd agoriadol capel newydd Oakfield Road, mi af yno," meddwn wrthyf fy hun, i weled os ydyw'n dal i dyfu, ac os ydyw'n aros yr un Tecwyn, hoffus a chwbl naturiol, ag a fyddai cynt, er gwaethaf y galw am dano a'r meddwl sydd gan y cynulleidfaoedd ohono." Ac ni'm siomwyd. Nos Lun, sef yr olaf o'r eyrddau, agoriadol, y cefais gyfle, ac er fod y capel dan ei sang, a minnau'n boeth ac yn llesg gwedi diwrnod hirfaith o weithio, fe'm cadwyd ar ddihun, a chefais bregeth a gofiaf yn hir, ac a bar im' feddwl yn fawr o'm Ceidwad, a mwy nag erioed o'r cennad ieuanc a serchog a ddywedai mor dda am dano. Ei destyn ydoedd Dat. v., 9 :— A hwy a ganasant ganiad newydd, gan ddywedyd, Teilwng xvyt ti i gymeryd y llyfr, ac i agoryd ei seliau ef oblegid ti a ladd- wyd, ac a'n prynnaist ni i Dduw trwy dy waed, allan o bob llwyth, ac iaith, a phobl, a ch,enedl. 'Does mo'r gofod i ddilyn y bregeth, yn unig goddefer rhai o'i brawddegau tlysion a chrvf:— v 1. Yr Oen fel agorydd y Llyfr ydoedd ei rhediad. Y llyfr ydoedd pwrpas Duw. Y gyfrol gyntaf ydoedd Llyfr Natur,-hen lyfr nid chwo mil oed fel y tyhiai'r- hen Usher wrth ddatWr Beibl, ond 'chwe mil o filiynau hwyrach ond llyfr nad oedd yn fel i gyd, ac ambell ddalen ddu, ddyrus, ynddo a'i boen a'i ymdrech—" yn goclij gan ddant ac ewin "—yn anodd eu hesbonio. Ond deddf y Groes, yn y pen draw, ydyw deddf y gread- igaeth ac y mae rhywbeth yn fendigedig o anwyl yn y cread pan gofid mai cysgod meddwl yr Iesu ydoedd. (2) Yn agor Llyfr Rhagluniaeth. Dywed- asai un o wyr mawr y Cyfandir, wrth edrych ar boen bywyd Pe bawn i yn lie Duw, buasai'r boen sydd yn y byd wedi torri nghal- on er's talm." Ond heb ddeall pwrpas Duw yr ydoedd, na gweled fod yr Oen yn agor hefyd Lyfr troiog Rhagluniaeth. Os ydym ni yn dioddef, y mae Duw hefyd yn dioddef yn ein dioddefiadau ni, ac yng Nghrist yn cynieryd pen trymaf y Groes ar ei ysgwydd friw ei hun. Yr oedd nofelwyr arwynebol yn son yn dragywydd am boen y byd ond nid poen, ond pechod, ydoedd problem fwyaf bywyd ac yr oedd awenau'r universe yn nwylo'r Croeshoeliedig Oen,- Oen oedd yn medru sefyll, nid er fod wedi ei ladd, and am ei fod wedi ei ladd. (3) Yn agor Llyfr Iachawdwri(teth.-Dyma lyfr hyn na Llyfr Natur. Llyfr bwriadau grasol Dnw, yr Hwn oedd wedi meddwl am achub cyn meddwl am greu. Yr onw dyfnaf oil ar ein Hiachawdwr ydyw Oen, nid Llew ac yr oedd yn rhaicJ i'r Oen farw cyn y gallai agor y Llyfr hwn. Pan yn suddo un tro mewn plwc o anobaith, ebe'r pregethwr, fe welais yr Oen yn dringo'r mynydd a baich fy mhechod ar ei gofii, a does gen i .ddim bellach i'w wneud ond mynd o gwmpas i waeddi Teilwng yw'r Oen." •52 Y mae i'r pregethwr wyneb ieuanc, gwridog, di-flew a di ddichell, pryd a gwedd Cymreig drwyddo, llais cloch aidd, hyfryd ac mor hyglyw yn y dechreu ag ydoedd yn y diwedd, yn Ib'i gybydda a'i ollwng yn un wawch gras, syfrdanol, wrth derfynu, megis y mae arfer rhai. Y rnae'n ofalus o'i Gymraeg, megis y gweddai i un a fagwyd yng ngwlad y Bardd Cwsg, Edmwnt Prys, a Wm. Wynn a hir y cadwo ef a'i debyg y nod hwn yn wastad gerbron eu llygaid cael Cymraeg y pulpld mor bur a Chymraeg y Beibl, ac uid ymollwr t; i arfer y glytiaith sydd mor ferwinol i gIn t gyni-ir, Q Y mae'n fachgen (ac yn ddigon clê" i faddeu i mi bob hyfdra) gafodd addysg d L ac y mae'n dilyn pob d-itblygiad o liwy ar feddwl ei ddydd a'i oes ond yn yr hen ddifinyddiaeth yr erys ei gred a'i hyfryd- wch ac wrth esgyn heno i un o'i funmlau hyotlaf wrth son am y Groes a'r M -vw, "diwinyddiaeth I lunden ydoedd y In') a'r label dyner a rocs efe i Gampbelliaetb ydd yn distewi mor gyflym, meddir. Nid pob pregethwr poblogaidd all fnd yn uniongred heb fod na chas na chul, ac wrth weled y mwynhad a gaiff rhai yn pwyo cyfeiliornwr er mwyn cael amen a bendith yr anghyfarwydd—" siarad i'r galeri," chwedl y Saoson-gresyn gweled ambell gennad yn dangos ysbryd anheilwng o'r capi' 1 Y. Ni syrthiwyd i'r demtasiwn honno lieno ond aed ymlaen i dynnu allan galon y tostyn ac i'w gwasgu adref gyda thanbeidrwj dd a difrifwch a argyhoeddai bob calon ac nOlbell i gadwyn o frawddegau hyawdl y brasai'n wiw gan yr Eglwysbach ei hun eu i. iddef a'u harddel. Caffed oes i ymagor ac.addfedu,ac i gyi-edd yr uchelderau mwy sy'n aros ei adnoil lau. Y mae'n Wesleaid cywir, ond yn gashawr scct- yddiaeth o'i galon, a phe clywsai anghenfil hwnnw, buasai'n falch o gael. ei gladdu heb ddimai o fee. H yn t y Seiri. Ddydd Sadwrn diweddaf, aeth aelodau a charedigion Cyfrinfa St. Dewi o Urdd y Seiri Rhyddion ar eu hynt flynyddol. Ymgynhullwyd yn Seacombe, ac er iddi wlawio trwy gydol y bore, cliriodd y eymyl adeg cychwyn, a chaed hindda weddill y daith a'r dydd. Gyrrwyd o Seacombe mewn waggonettes drwy Wirral, sef y llain o wlad brydferth a glas a orwedd rhwng y Ferswy o'r Ddyfrdwy a adwaenai yr hen Gymry tan yr enw Cilgwri, ac at yr hon a'i cheirw y cyfeiria Dafydd ab Gwilym :— Cywir fel y carw wyf fi, AnI gariad y' Nghilgwri." I Aed drwy Poulton, Bidston, Upton, Groasby, Frankby, Caldy, West Kirby, Hoylake, Moreton, hyd yn Leasowe, lie y disgynnwyd i gyfranogi o arlwy ragorol a ddarparesid yng ngwesty'r Castle. Llywyddid wrth fwrdd y wledd gan y Cynghorydd Henry Jones, Y.H., Worshipful Master y Gyfrinfa, ac wrth law iddo yr oedd y Brodyr John Jones, P,M. (a weithredai felMaster of Cere- monies), Griff. Jones Roberts (trysorydd), Henry Francis (ysgrifennydd), Harry Lloyd, S.W., Ellis Roberta, J.W,, Charles Williams, S.D., Robert Roberts, Artro Owen, Tom Jones (Stewards). Wm. Jones (Wavertree), Ernest Williams, Ben Charlton, Arthur Foulkes, White Williams, Llew Wynne, ac ereill Seiri, yn rhifo tua 40 rhwng bonedd- igesau a boneddigion. I- Gwedi te, aed ati i ymfwynhau mewn gwahanol ffyrdd-i weled y morglawdd sydd wedi ei godi ar hyd y glannau i arbed y tir rhag crafangau Dafydd Jones a chan gofio, dyma'r traeth, medd hanes, lie y bu ein hen elyn, y Brenin Canute, yn dysgu'r wers dlos i'w wenhieithwyr gyda go Iwg ar orchymyn i donnau'r aig," Hyd yma y dciiwch ac nid ymhellach." A cherllaw eto, ar yr un traeth, gwelir cannoedd o fon- cyffion yr hen goedwig a gyrhaeddai, yn y cyfnod pell, di-hanes, oddiyma ar draws lie y mae aber y Ddyfrdwy heddyw hyd i Brestatyn yng Nghymru. Ac os gwir yr hanes am y Morfa hwn, gellir dweyd am dano fel y dywcdwyd am Gantre'r Gwaelod E gaed, lie bu yd a gwin, Fawr grufiiau o for-gregin." Yn ddiwedd ar y mwynhad, cymerwyd ffoddgraff y parti dedwydd gan y cyfarwydd Llew Wynne ac yna dychwelwyd yn ol gyda'r ceir drwy Wallasey a Liscard. Pawb wedi mawr fwynhau'r daith, y golygfeydd, a'r pethau dyddorol a glywyd a phawb yn canmol y trefniadau rhagorol a wnaethid ar eu cvfer.
--0----Pwy bia'r Mynyddoedd.
--0 Pwy bia'r Mynyddoedd. DYWEDIR fod Cynghorau Plwyf, Dosbarth, &c., ardaloedd y Rhos, Minera, a'r ardaloedd am ymladd ymhellach mewn llys barn i brofi hawl y trigolion i fynd a dod hyd y mynyddoedd. Aeth y ddedfryd y dydd o'r blaen, fel y gwelwyd, ym mhlaid y perchennog Syr Watcyn. Ond nid yw y diwedd eto.
EBION.
Y mae llewyrch da ar Ystafell Genhadol Priory Street,tan arolygiaeth Mr. T.J.Thomas. Aeth 22 o'r plant yn llwyddiannus trwy ar- holiadau yr Undeb Ysgolion ac ar nos Suliau ceir yno wasanaetli byr ac amrywiol, ac nid yw tan y Diwygiad wedi oeri o lawer yma. Nos Sul ddiweddaf yr oedd y lie yn llawn, a chaed anerchiadau byrion gan Mri. G. C. Owen, T. J. Thomas, John Roberts (Northumberland Terrace), a, H. Lloyd Jones, a Mr. Edward Hughes yn dibennu trwy weddi.