Welsh Newspapers
Search 15 million Welsh newspaper articles
4 articles on this Page
--Cysgodau y Blynyddoedd Gynt.
Cysgodau y Blynyddoedd Gynt. GAN GWYNETH VAUGHAN. PENNOD XVI.—Y DARGANFYDDIAD AETHAI Capten Gwyn-Munro yn ol i'r gwesty fel dyn wedi hanner gwallgofi. Tybiai ef ei fod yn deall yr oil o'r cynlluniau a ddefnydd- iwyd i'w rwydo gan y Gwynniaid, a thyngai iddo ei hun yr ysgydwai y llwch oddiar ei draed, ac na fyddai iddo mwy a wnelai a hwynt. Gofynnai unwaith ac eilwaith iddo'i hun ai tybed fod Alys yn gyfrannog yn y gwaith o'i dwyllo, ynte ai un arall oedd wedi syrthio i'r un rhwyd oedd hi. Gwyddai fod ei wraig ieuanc yn ei garu, ond pobl wedi cadw eu harfbais yn lan a difrycheulyd oedd y Munros. Er i'w cyfoeth ymadael, meddent hawl i ymfalchïo yng nghymeriadau dilychwin eu meibion a'u merched. Ac os dywedai y dynion hynny y gwirionedd, wele efe-Charlie Munro-y balchaf ohonynt oil, wedi priodi merch gwraig nad oedd ganddi hawl i un enw ond eiddo ei mam hyd nes iddo ef roddi iddi yr enw anrhydeddus Munro. lawn y dywedodd y dyn hwnnw, pwy bynnag oedd, na fuasai holl olud y byd yn ddigon o at-daliad i Capten Munro am briodi gwraig ag un math o anair yn perthyn iddi, er iddi hi, druan, fod yn berffaith ddiniwed. Dyna, yn wir, ydyw hanes gwledydd gwareiddiedig,—y diniwed, fynych- af, sydd yn gorfod dioddef y cam mwyaf. Deallodd Alys ar wynebpryd ei phriod fod rhywbeth y mater arno amgen na da, ac ebe hi Charlie, beth sydd yn bod ? A ydych yn sal ? 0, dywedwch wrthyf. Mae eich gwyneb yn wyn." Peidiwch a chynhyrfu, Alys eisteddwch i lawr. Mae arnaf eisieu siarad a chwi." Ond beth, Charlie- Daeth un o'r gweinidogion i mewn i ddweyd fod y cinio yn barod. Rhegodd y Capten, a dywedodd am iddynt daflu'r cinio ymhell- ach. Hyd bryd, syr ?" gofynnai'r dyn. Hyd hanner nos, o'm rhan i," ebe'r Capten ac edrychai Alys arno yn ddychryn- edigi ei gwedd wedi newid a'i holl gorff yn crynnu fel deilen yn y gwynt. Cauwch y drws yna," llefai'r Capten ar y gwas, a pheidiwch a dyfod yn agos yma eto hyd nes y canaf fi y gloch os mynnwch chwi. Gwnaeth y gwas yr un camgymeriad ag Alys tybiodd y ddau fod Capten Gwyn- Munro wedi meddwi. Nis gallent esbonio ei ymddygiadau rhyfedd mewn un ffordd arall. Ond wedi i'r gwas fyned, daeth y Capten ato ei hun i ryw fesur, a gofynnodd faddeuant ei wraig am ymddwyn mor an- heilwng yn ei phresenoldeb. Nis rhaid i chwi ddychryn, Alys, nid wyf yn feddw, na chwaith yn wallgof, hynny yw, mae fy synhwyrau gennyf ond cefais ergyd o enau rhyw un fu ymron a pheri i mi anghofio fy mod yn foneddwr, erfynniaf eich maddeu- ant. Yn awr, a wnewch chwi ddweyd yr oil a wyddoch o hanes eich ieuenctyd i mi ? Mae'n rhaid i mi gael gwybod y cyfan, felly peidiwch a chelu dim oddiwrthyf. Edrychodd Alys arno yn syn, ond ni ddaeth i galon yr eneth druan i beidio dweyd wrtho yr oil a wyddai hi am ei bywyd hi a'i mam mewn ty bychan, ond lie y ceid pob cysur, am absenoldeb ei thad am wyth- nosau lawer yn fynnych, yna y dyfodiad i Blasllwyd. a'i bywyd yno yn dawel a hapus heb weled neb ond y gweinidogion a Mr. Lloyd y person. 0 dipyn i beth, fel yr elai ymlaen a'r hanes, deallodd y Capten nad oedd a wnelai teuluoedd urddasol y sir a hwy, ac na fu iddi erioed ddeall paham, iddi holi ei thad a'i mam lawer gwaith, ond nad oedd yn ddim doethach oherwydd eu hatebion. Ymhell cyn iddi ddweyd yr hanes yn syml a dirodres yn union fel yr oedd, bu i Capten Gwyn-Munro ddeall nad oedd a wnelai ei wraig ieuanc a dichellion ei thad, a meddai ddigon o garedigrwydd yn ei galon i beidio a'i chlwyfo yn ddidrugaredd. Ond erbyn hyn nid oedd yn waith mor hawdd iddo droi hoibio cwestiynau Alys, canys deallai hithau yn burion nad rhyw greadur mympwyol oedd Charlie, ac fod rhywbeth y tu hwnt i'r cyffredin wedi cynhyrfu y dyn ieuanc a'i yrru i'r fath sefyllfa bron hyd at ymylon gorffwylledd. Ymhen enyd, ebe ef,- Gwell i ni fyned i giniawa, Alys. Y peth cyntaf i'w wneud wedi hynny fydd trefnu y ffordd oreu i gael gweled eich tad. Rhaid i mi gael siarad ag ef, a deall y sefyllfa ar unwaith am byth." "Yr ydym i fod adref ym Mhlasllwyd ymhen yr wythnos, Charlie." Gall llawer o bethau ddigwydd mewn wythnos, Alys. Bum am ychydig funudau yn y Swyddfa Rhyfel heddyw'r bore, ac nid ydynt ond disgwyl ymgyrch yn fuan iawn. Pe felly, rhaid i mi fod yn fy lie fel milwr teilwng pan ddaw'r galw. Gwelwodd wyneb Alys, ond ebe ei phriod— Cofiwch, Alys, fod yn gofyn i wraig milwr fod yn wrol i ddisgwyl adref fel y rhaid iddo ef ei hun fod yn barod ar y maes. Modd bynnag, nis gallaf eich gadael chwi yma eich hunan, felly y peth goreu, onide, ydyw anfon cenadwri i gyrchu eich rhieni yma." 0, Charlie, nid rhyfel yw'r hyn a'ch poena chwi. Dywedwch wrthyf. Fe ddylech ddweyd wrthyf, eich gwraig wyf, p-tham y celwch bethau oddiwrthyf ?" Nid wyf yn deall pethau fy hunan eto, Alys. Paham, ynte, y poenaf chwi ? Ni raid i ni groesi'r bont cyn dyfod ati, beth bynnag." Ond i ba le yr ydych yn myned, Charlie, a'm gadael i ? Onid heddyw yr ysgrifennodd fy nhad am y croeso sydd yn ein disgwyl ym Mro Einion ? Ac yr oeddych yn hoffi'r syniad." Ie, Alys, ond mae pethau wedi newid er hynny." Charlie, mae'n rhaid i mi gael gwybod os oes a wnelo'r amgylchiadau rywbeth a mi." Fory, Alys, fory," ebe'r Capten. r Nage, heno, os nad ydych yn barod i addef na pherthyn i mi wybod. A wyf fi i dreulio noson yn dyfalu ynghylch eich gofid chwi ? Cofiwch fod petrusdod a gofal yn waeth na gwybod y drwg. Chwi wyddoch y ddihareb, Fe gwsg y galarus, ni chwsg y gofalus ddim." Peidiwch a'm beio i, ynte, os wyf yn dywedyd newydd ofnadwy ei erchylldra i chwi. Clywais heddyw mai merch anghyf- reithlon i'ch tad ydych, ac ni fu i un Munro erioed briodi gwraig ag anair arni o'r blaen. Ni feddech hawl i un enw o flaen fy un i." Aeth Alys bron yn ddiymadferth, edrychai ar Capten Munro fel creadures wedi syfrdanu. Yna agorodd ei gwefusau sychion, llosgedig gan ing, ac ebe hi,— Rhaid eich bod yn camgymeryd, Charlie. Oni wyddoch fod fy enw i ar y gweithredoedd a baratowyd cyn ein priodas fel merch ac etifeddes fy nhad ? Alys Gwyn yw'm henw i erioed," ebe hi. Beth oedd Sidi yn feddwl pan yn dweyd am fy mam nad oedd hi ddim gwell na rhywun y soniai hi am danynt ? 0, mama, mama, pam mae pobl yn dweyd anwireddau ?" Druan o Alys. Daeth i wybod yn fuan nad anwireddau oeddynt, ond fod ei bywyd hi wedi ei andwyo oblegid pecliod ei rhieni. Bu'r helynt yn fawr pan ddaeth Rhydderch Gwyn a'i wraig yno. Nid oedd modd perswadio Capten Gwyn-Munro i fyned gyda hwynt i'r Plasllwyd. Erfyniai y Sgweiar arno ymbwyllo er mwyn Alys, ond nis gellid cael ganddo "na thywys n\. thyn." Y cam cyntaf oedd wedi benderfynu arno oedd myned i ymgynghori a'i fam a'i frawd, yna myned i faes y rhyfel i geisio marw yn anrhydeddus os gomeddid iddo fyw felly," ebe ef. A dyna'r paham y gorfu i'r gwledd- oedd a'r croeso fod heb bresenoldeb y priodfab ym Mro Einion. (I barhau).
--0---Colofn y Beirdd
--0- Colofn y Beirdd [Y cynhyrchion gogyfer a'r golofn hon, i'w cyf- eirio :—PEDROG, 30 Stanley Street, Fairfield.] Nodiad.-Mae amryw ohebwyr yn parhau i geisio gennyf gywiro gwallau," a gwneud y llinellau yn gymwys i ymddangos yn y BRYTHON," &C. Gwnaf fy ngoreu, o fewn y gofod penodedig, i sylwi ar y cyfansodd- iadau a anfonnir i mi, a pheth bychan yw symud ambell frycheuyn ond mae cyfnewid rhai cyfansoddiadau yn amhosibl heb eu creu o'r newydd braidd i gyd ac nis gallaf wneud hynny oherwydd dau reswm-nid oes gennyf amser, ac ni fyddai o fawr fudd i'r awdwyr eu hunain. Os gallaf yn y golofn hon wneud ryw sylw fydd o gymorth i oheb- wyr ieuainc, llawen fyddaf am hynny. Gwraidd y budd fydd iddynt hwy eu hunain ddysgu y gelfyddyd. Gallaf yn onest ddweyd, gyda golwg ar y tipyn rhigymau a genais i yn fy oes, na roddais drwy wybod i mi linell o waith neb arall ynddo, ac na ofynnais i neb erioed berffeithio fy aflerwaith fy hun. Nid rhyfedd, gan hynny, fod yr eiddof mor amherffaith, ond, wedi'r cyfan, y mae yn eiddo im' fy hun-" of my own composin" I I fel tae Anfonned beirdd ieuainc eu cyn- hyrchion i fewn, a chant sylw caredig yma. Diolch am y geiriau calonogol a dderbyniwyd oddiwrth lawer un. Erfyniad y Dychwelydd.-Llinellau a naws emynol dwys iddynt. Cyhoeddir yn ddioed. Goreu Canwyll Pwyll i Ddyn.—Can dda, a phwynt yn taro i bob pennill. Y Big Felen.-Englyn cryf a chymer- adwy. Awelon Boreu'r Hafddydd.-Swynol a chymeradwy. Y Pulpud a'r Myglys.-Dau englyn da. Nis gwn beth wnaeth i'r bardd feddwl am y Pulpud a'r Myglys mor agos i'w gilydd. Dywedir ddarfod i'r Parch. Isaac Harris, Wyddgrug, farw yn sydyn, pan ar ganol myglysu a'i gyfaill, Hiraethog, yn llawn o arabedd fel arfer, a sylwodd yn ei gofiant iddo yn y Dysgedydd, na fu erioed yn nes i fwg tybaco fynd i'r nefoedd na phan fu farw Isaac Harris Wel, fe ga y Pulpud a'r Myglys le yn y BRYTHON. Mai Anwadal.-Mae yr un mor wir am ei frodyr Mehefin a Gorffennaf, hyd yn hyn a'r gwir hwnnw yn cael ei ganu yn awenyddol a chelfydd. Cyflwyno Darlun, &c.—Cymeradwy, fel arfer. WRTH WRANDO'R BIGFELEN. RHY fawl brwd ar dirfiol bren-hedd odlig Ddyhidla'r Big Felen Diolch mae—deil uwch mhen-wers ddyddiol O'r fro gerddorol ar frigau'r dderwen. Pwllheli. MAWDDACH JONES. Y PULPUD. Y FAN uchaf fynychai—sang ei was Yng nghysegr Jehofah I ddyn dwg Newyddion da Claf Wron Pen Calfaria. Y MYGLYS. YSMICIAN wnant wrth 'smocio—y myglys, Ond maglau sydd ynddo Er eu dwyn o'u cwyn i'w co', 'R tebycaf yw'r tybaco. J. DAVYS-THOMAS. St. DeinioVs, Lerpwl. GOREU CANWYLL PWYLL I DDYN (Buddugol). GOREU canwyll pwyll i ddyn,— Y mae nos mewn bywyd, A thywyllwch fyth ynglyn A boreuau hawddfyd Ond pan deithiwn yn ddigwyn Drwy y blin ystormydd, Fe oleua pwyll yn fwyn Hyd nes tyr y wawrddydd. Goreu canwyll pwyll i ddyn,— Paid a cholli'th dymer, Dengys pwyll ryw lwybr cun Drwy anialwch pryder Gad i wawd a dichell fynd Heibio ar eu hymdaith Oan, yng ngoleu pwyll, fy ffrynd, Ber emynau gobaith. Goreu canwyll pwyll i ddyn,— At ei llewyrch siriol, Daw tangnefedd Duw ei Hun A'i fwynderau nefol; Yng ngoleuni pwyll a ffydd Rhodiwn ffordd dyledswydd, Ac fel Job cawn doriad dydd,- Dydd o wen yr Arglwydd. Amlwch. R. R. THOMAS. ERFYNIAD Y DYCHWELYDD. Y GWAED, y gwaed, y Dwyfol waed. Dywalltwyd droswy'n Hi, Dod gymorth im, drugarog Dad, I gofio Calfari. I'm gqlchi'n lan, cymhwysa hwn At f'enaid egwan i, A llanw'm calon a dy ras I gofio am danat Ti. 0 dena'm holl sercliiadau'n lan, Fel nad anghofiwyf mwy, Hen iachawdwriaeth rad fy Nuw A'i Ddwyfol farwol glwy'. Ac wedi dod o'm dyddiau i ben, Caiff f'enaid esgyn fry, I'r Nefoedd at yr Iesu fyth, I'w foli gyda'r llu. Ithos. GLYNWR. CYFLWYNO DARLUN Dr. Abel J. Parry i Athrofa Bangor, Mehefin 20fed, 1907. O'i roi ef i'r Athrofa—ym Mangor Ei mhewngell oleua', Rhoi nerth i'w myfyrwyr wna-ar bared. Brawd yw o'i weled a'u hysbrydola. Dymuno'i well ni ellir—o'r awen Mae'n bortread cywir Drwy ei wedd, merch Pedr Hir, O'i weled anfarwolir. Llun Abel yn llawn wybu-ei 11a w wen, Lliw ei wyneb ganfu Bu'n llunio'i ben llawn,—a bu Iddi Iwydd i'w ddelweddu. Y wyneb a adwaenir—oherwydd Abel Parry welir Yn y llun—ac fe'i llonir- Mae fel yn fyw, ydyw wir Trwy ei oes gwyr pawb nad rhyw—hunanol Ddyn enwad mo 'r cyfryw Un a'i barch yn nyfn serch byw Ei wiad a'i genedl ydyw. MADRYN. MAI ANWADAL. MA WR ofid ddwg Mai amryfal,—rhy wan Yw'r einioes i'w gynnal Dyma nod Mai anwadal- Denu'n serch a'n gwneud ni'n sal. Echdoe arwyddai wychder—a'i foreu Oedd ddifyrus dyner Deuai nawn, ond na enwer Y brawd hyll 'rol boreu ter. 'Roedd boreu ddoe brudd ei wedd,—a'i flaen Fel yn Ilawn cynddaredd [Ilym Ond ei nawn a daenai hedd I weled haul hudolwedd. I heddyw, gofid ddug afiach—gaddug, Ond nid gweddus grwgnach Rhydd awel hwyr eiddil iach Bore fory braf hwyrach. GWILYM DEUDRAETH. o
Nodiadou Cerddorol.
Nodiadou Cerddorol. [GAN HU GADARN]. DOH E Cerddoriaeth 'Steddfod Llangollen. Y MAE Rhaglen Eisteddfod 1908 o fy mlaen, yn cynnwys yr holl destynau ac o gywrein- rwydd, wrth daflu golwg ar y rhan lenyddol ohoni, deuwn ar draws rhai testynau godidog, ond nis gellir rhoddi cyfrif am gymaint o destynau ar enwogion Cymreig, a'r rhai hyn yn cynnwys y prif destynau. Y mae pob un o'r enwogion yn dra haeddiannol o'r anrhydedd a roddir arnynt drwy hyn. Dyna Awdl y Gadair, Ceiriog Pryddest, Owain Glyndwr Myfyrdraith, Gerallt Gymro Cywydd, Morgan Llwyd." Onid gwell fuasai traethodau beirniadol arnynt na barddoniaeth yn y mesurau caethion, na fyddant yn ddim amgen na chaneuon mol- awd, ac na chymerir yr hyn a draethir ar gan bob amser, ond gyda gradd fechan o ddifrif- wch. Nid oes lie i draethu yn y golofn hon yn y cyfeiriad hwn, ond rhwng cromfachau daeth y mater i'm sylw. Yn yr adran gerddorol (cyfansoddiadau) sylwn fod £ 20 yn cael ei gynnyg am yr opera oreu, testyn Myfanwy Fychan." Ni ddywedir pwy yw'r awdwr, ond rhaid cymeryd yn ganiataol mai eiddo Ceiriog yw, gan y cynhygir gwobr o £ 10 yn adran y eyfieithiadau am y Saesneg goreu o Myf- anwy Fychan yn y mesur gwreiddiol. 'Rwyf yn ofni fod yna gamgymeriad wedi digwydd yn rhywle, gan nad yw y gan, fel y mae yn wreiddiol, yn gyfaddas i opera, a chan na roddir ychwaneg o fanylion yn y rhaglen, bydd y eystadleuwyr yn rhwym o gael ychwaneg o oleuni ar y testyn cyn dechreu ysgrifennu. Gwelir hefyd fod cantawd i S.S.A. at was- anaeth plant ysgol ar unrhyw wrthrych hanesyddol Cymreig. Ni nodir geiriau,- y cyfansoddwr, o ganlyniad, i fod yn gyfrifol am danynt. Gwell fuasai paratoi geiriau ar gyfer testynau o'r fath, a'u hargraffu yn y rhaglenni, yn hytrach na gadael y testyn yn ben agored. Gwelliant hefyd fuasai nodi yr amser a gymer y dernyn i'w ber- fformio. Byddaf bob amser yn teimlo nas gellir bod yn rhy fanwl gyda chyfarwyddiadau a thelerau cystadleuaeth, a dylai testynau gael eu pwyso a'u mesur o ran eu gwerth, fel na ddaw dim o flaen y cyhoedd ond a fyddo yn debyg o greu chwilfrydedd ar gyfrif rhagoroleb a newydd-deb y testyn, neu ein hoffter ohono. Y testyn nesaf sydd yn dwyn fy sylw ydyw y" casgliad goreu o alawon Gwerin Cymru heb eu cyhoeddi." Y mae ynglyn a'r gystadleuaetli hon nifer o amodau fel cyfarwyddyd i'r ymgeisydd, un o ba rai ydyw y rhaid i'r alawon fod yn gyfryw na chyhoeddwyd yn flaenorol, neu amryw- iadau o alawon cyhoeddedig. Prif amcan y gystadleuaeth hon yw cael casgliad o'r alawon ynghyd, nis gellir gweled y priod- oldeb o ofyn am amrywiadau i alawon cyhoeddedig, gan y teimlir y buasai hwn ar ben ei hun yn gwneud testyn cystadleu- aeth arbennig. Heblaw hyn ceir amod nad oes cyfeiliant i fod gyda'r alaw o ganlyniad, teimlir mai lied undonog fuasai amrywiadau heb gyfeiliant. Fel un wedi cael cryn Jjrofiad ar bwyll- gorau yr Eisteddfod Genedlaethol, ac yn gwybod am yr anhawsterau a ddeilliant yn ami o gynnyg testynau, &c., i sylw, y mae pwyll- gor Llangollen i'w llongyfarch. Nid oes ar y rhaglen ddim nad yw yn unol a chwaeth ddiwylliedig, ac os oes gwahaniaeth barn gyda golwg ar eiriad rhai testynau, posibl y gellid dod a rhesymau dros yr hyn a gyn- hygir, a'r modd y lhoddir cyhoeddusrwydd iddynt. Bydd gennym air ar y cystadleuon lleisiol y tro iiesaf.
Advertising
Telephone 1157 Royal. Established 1856 ROBERT ROBERTS, ESTATE AGENT, 33 Netherfield Road South, Has Property to Let in various parts of the town. Mortgages arranged. Valuations made. THOMAS H. OWEN, ESTATE AGENT & ACCOUNTANT, 2a Foley Street, Kirkdale Rd., Liverpool. Property bought and sold, and Estates economically managed. Telephone, No. 1779. HENRY JONES, Estate Agent, Valuer 6 Property Auctioneer, 5 COOK STREET, LIVERPOOL. Rents Collected. Valuations made. Property sold by Public Auction or Contract. Telephone No. 7909. J. LEWIS JONES, ESTATE AGENT & VALUER, 60 Victoria St., Liverpool. Properties carefully managed. Rents personally collected. Purchases and Sales negotiated. Mortgages arranged and Insurances effected. THOMAS 6 JONES, ESTATE AGENTS & VALUERS, INVESTMENT BUILDINGS, 67 Lord Street, Liverpool. Telephone No.-5586 Central. Properties Bought and Sold. Mortgages arranged. Valuations made. Rents Collected. TEL. 42Y ANFIELD. ESTABLISHED 1872. STEPHEN ROBERTS & SON, ESTATE AGENTS &■ VALUERS, 137 Everton Road, Liverpool (Late 2 Stanfield Road). Properties carefully Managed. Rents personally Collected. Purchases and Sales Negotiated. Mortgages arranged and Insurances effected. ROBERT ROBERTS, ESTATE AGENT AND VALUER, 30 Hamilton St., Birkenhead. RENTS COLLECTIMD. VALUATIONS MADE. PROPERTIES BOUGHT & SOLD. Telephone—223. R. E. HUGHES, Estate Agent, Surveyor Cf Valuer, Charing Cross, Birkenhead. Telephone No.—56 B'head, Has Houses to Let, and for Sale, in varions parts of the Town and out districts. Also Land to be Sold for Building purposes. Advances made to Builders. Estates laid out. Rents Collected, and Property carefully managed. Telephone 034 Central. WILLIAM WILLIAMS, LAND AND ESTATE AGENT, VALUER AND PROPERTY SALESMAN, 20 NORTH JOHN ST., Liverpool. GRIFFITH THOMAS, PAINTER, DECORATOR & PAPERHANGER. II 192 Beacon Lane, II All orders promptly attended to. Estimates Free Telephone-BootIe 143. R. W. SMALLWOOD& CO., CONTRACTORS FOR REPAIRS AND DECORATIONS TO PROPERTY. 240 Westminster Rd., L'pool. (Office & Works-Back Westminster Rd.) I make Boots That's my business. You buy Boots: That's your business. If you place any value on your feet, Come and let me build you a pair, don' orget. An easy Shoe is equivalent to an easy conscience GUTTERIDGE, —BESPOKE BOOT MAKER,- 291 West Derby Rd. (My Only Address Marwolaeth y Saint: Offrwm cof am y diweddar Feddyg Hugh Williams ac eraill o saint Fitzolarence Street. Gan y Parch. J. Hughes, M.A. Llian 2s HUGH EVANS, 356-8a Stanley Rd., Liverpool. T. WOOSNAM ROBERTS, Bootle Estate Office, 52 STANLEY RD., ROOTLEt (2 DOORS FROM BEDFORD RD.), Has for Sale Semi-detached Residence, Bootle.—Derby Lease. Ground rent, » QJ per annum. The house contains- ground floor, 2 entertaining rooms, K11 per annum. The house contains- ground floor, 2 entertaining rooms, K11 scullery, pantry. On first floor, i°a* bed- rooms, dressing and bath rooms, i rooms, and boxroom above. Good c$ £ 300 Equity in well-built Freehold (new) in Church-road, Seaforth. Eacn contains Parlour, Kitchen, Sculler?' washhouse, 3 Bedrooms, Bath, and w.c. i Detached Residence, corner of Trinity-r0^ St. Albans-road, Bootle, containiDS^ji entertaining rooms, kitchen, scullery, P etc., good cellars, large sunny garden'perb! side entrance from Trinity-road. Leasehold. Convenient for electric trill cars ro»A Semi-detached Residence, St. AlbaD Bootle. Derby Leasehold. Five bed dressing-room, bath, and separate W.c > o# entertaining rooms, kitchen and scull ground floor, washhouse, larder, Coal and wood store outside. Good Splendid greenhouse. T Detacned Residence, Hawthorne Road— 999 years; ground rent JE17 per. Ground Floor, 3 entertaining rooms, drooØ scullery and pantry first floor 6 be of( bath, lavatory, and w.c. second 11 bedrooms; large garden at rear, 20W yards of land, two stall stables at jg# Semi-detached Residence in Balliol R°a hold for 75 years, 40 unexpired, rent £ 9 per annum; large garden, f{o& house and stable, with entraDC back road. o-r"8 J Semi-detached Residence, Hawthorn leasehold for 75 years from 1884' LjjiS, rent £ 5 per annum. The house co bedrooms, bath, lavatory and sepal8, on 1st. floor, and 8 bedrooms ab°^e ojj brick built washouse and store W level of kitchen; good cellars Sar and front. ft€ Bank-road, Bootle leasehold for 75 y08, IF 1877 ground rent C4 5s. per a,J1)1U 0JltØlPJ square yards of land. The house jff drawing and dining-rooms, kitclMOO^1' scullery, large washouse. 4 be bathroom and separate w-c. Queen's-road; leasehold for 75 years; and dining-rooms, kitchen, scullery' 6 bedrooms, bath, lavatory and and coal cellar; close to station. Bootle Estate 0ff'c^ 52 Stanley Road, Bootie' ESTABLISHED L884^ TELEPHONE 205 BOOT^ O. JONES WILLISI ESTATE AGENT & 24 SIR THOMAS LIVERPOOL. lo jj V Personal supervision in every e f 1te general management of ali kinds flltiOV! Estate, Confidential Reports and Va e for Purchase, Sale, or Mortg&S Est. 1885. Telephone Telephone 279 Bootle. LINACR# BRICK COM PAN* tie, 122 Marsh Lane, 800 Works: Canal Bank. Branch Offices nO^ 38 HAWTHORNE ROAD, ORRELL, P Telephone—216 Bootle. QQU AND 23 OLDHALL STREET, LlVSIt Telephone—1554 Central. t Houses to ELECTRIC LIGHT THROUGHOUT. RENTS FROM 5/- to 10/- PER W E F, K!- ^^WILLIAM 38 HAWTHORNE ROAD, ORRELL^X^ K-*& DAVID EVANS, J Park. Road North Est*! f BIRKENHEAD- J Pellseinyr 391 Birkenbead. eO f TIR A THAI ar oaod yn rhanbirbli eyfleus y dref. j$3* Ardreth o 6/6 yr wythnos i flwyddyn. Yn gwynebu'r Pare, ac yn ymyi Trams a Threns bob fi a gellir cyrraedd "unf j _eu 1* < Tai hynjmewn 15 munuo Liverpool. ? of do Contract blwyddyn gydalrtfd tØ tua 2ic. y dydd. Ymofyner a Mr. David BvaiS' | Mr. Wm. Edwards, Estate AgeD North, a ohongi Duke Street- I A