Skip to main content
Hide Articles List

4 articles on this Page

^odion o'r De.

J ^4 0 BIG Y G'LOMEN* | |___t…

News
Cite
Share

J ^4 0 BIG Y G'LOMEN* | |t I CAP A GWN.- Y mae'r merched a efryd ant yng Ngholeg Bangor wedi eu gorchymyn i wisgo'u capiau a'u gynau o hyn allan wrth fynd a dod o'r Coleg. BRO'R MEFUS. Tyfti a hel mefus ydyw un o ffyn cynhaliaeth ardal Holt, ger Gwrec- sam; ond difawyd y cnwd gymaint eleni gan y gwlawogydd a'r oerfel fel y mao r trethgasglydd cynhorthwyol wedi anfon llythyr at Fwrdd y Gwarcheidwaid i ddweyd ei fod yn methu'n lan a chael yr arian i mewn. FYNES CLINTON Yn Eglwys St. Doiniol, Llanuwchllyn, ddydd Mercher, priod- wyd Proff. Fynes Clinton, Coleg Prifysgol Bangor, ag ail ferch y diweddar Barch. William Hughes, ficer Llanuwchllyn. Sais ydyw Clinton, ond y mae wedi meistroli r Gymraeg, ac wedi priodi un o rianod Llan- uwchllyn er mwyn ymberffeithio yn y Gymraeg oreu. 3PI-I TITOTALIAID GORSAF Y RHYL.- O'r 70 gwasanaethyddion sydd ynglyn a Gorsaf Ffordd Haearn y Rhyl, y mae 50 yn llwyr-ymwrthodwyr oddiwrth y diodydd mall a achlysurant gynnifer o ddamweiniau ar dir a mor. Campus, y Rhyl Pe pob gorsaf cyn sobred ei gweithwyr, arbedasid ami i ddamwain. O'R RHYL.-Ddydd Iau diweddaf, bu cryn ffrwgwd rhwng Mr. Goodbody, sy'n arfer cynnal gwasanaeth crefyddol ar y tywod yn y Rhyl, a'r heddgeidwaid, y rhai a alwent arno i symud yr eilineg (harmonium) or lie. Daeth torf ynghyd, ac ymneilltuodd yr hedd- weision, rhag ofn y muscular Christianity a fygythid ei gymhwyso atynt. k 0 GOLWYN BA Y.-Anfonodd y Parch. Thos. Lloyd, ar ran Undeb Anibynwyr Lloegr a Chymru, at Gyngor Colwyn Bay am ganiatad i ddodi van genhadol ar y Promenade, ond ei wrthod a gafodd.Pen- derfynwyd cael bam gwyr cyfarwydd ar y pwnc o ddifa carthion y dref drwy eu llosgi (cremation) yn hytrach na'u dodi'n domen tu allan i'r dref fel ar hyn o bryd. k BWRW'I LID AR Y CEFFYL.-Ddydd Mercher diweddaf, ym Mhwllheli, dirwywyd gwr ty tafarn y New Inn, Llangian, i 10/- a'r costau am feddwi, ac i Y,5 arall a'r costau am greulondeb at geffyl. Aeth at y creadur druan ar y stryd, ac a'i ciciodd nerth ei heglau trymion ugain gwaith. Y ddedfryd decaf a'r fath anghenfil fuasai rhoi'r cyfle i'r ceftyl gael talu un gic iddo yn ei geubal. DR. CLIFFORD.-Teithiodd llawer i Brestatyn ddydd Iau diweddaf i glywed anerchiad Dr. Clifford, ein pen-ymladdwr Ymneilltuol, gerbron yr Eglwysi Rhyddion. Ddechreu'r ganrif ddiweddaf, meddai, rhifai'r Ymneilltuwyr ddim ond 1 o bob 18 o'r bobl- ogaetli erbyn ei diwedd, yr oedd eu rhif yn gyfartal i rif aelodau'r Eglwys Wladol. Y saith Ymneilltuwr mawr a enwodd ydoedd Cromwell, Milton, Wesley, Bunyan, Defoe, Dale, a Spurgeon. SFURGEON.—Son am Spurgeon a bar i ni gofio y byddai'r Parch, Newman Hall yn dweyd fod Mr. Spurgeon yn arfer cadw^dwy fuwch, yr elw oddiwrth laeth y ddwy yn mynd i gadw dwy wraig, na wyddent tu yma i lidiart y mynydd o b'le roedd y cheques yn dyfod bob mis. Charles Haddon Spurgeon, Cowkeeper," oedd ar ei drol laeth. Hwyrach na wyr pawb dclim i Spurgeon roddi 5 yr wythnos tra y bu byw i weddw Christmas Evans. SIR DDINBYCH A'R D YCI-A U. -Mewri cyfarfod yn y Rhyl, ddydd Iau diweddaf, a elwid ynghyd gan Col. Cornwallis West i drafod y pwnc o gael sanatorium i sir Ddin- byeh, tystiodd Mr. Stanley Weyman, ynofel- ydd Seisnig adnabyddus sydd wedi ymgar- itrefu er's blynyddau vng nghymdogaeth Rhu- thyn,ei fod ef,18 mlynedd yn ol,yn dioddef gan y darfodedigaeth yn ei ffurfiau decbreuol ond drwy gael ei ddanfon ar led yn ddioedi, fe'i llwyr wellhawyd. Ac fe allesid achub llawer o gleifion a welsai efe yn Rhuthyn pe buasai sanatorium, i'w danfon iddi mewn prycl. Dr. Lloyd Roberts a dybiai fod yn nwyreinbarth sir Ddinbych ar hyn o bryd 400 neu 500 o ddarfodedigion (consumpt- ives). YR HAF GWLA WOO.-YR oed Ileithter-yr hin, er's cyhyd o wythnosau bellach, yn atgofio'r G'lomen fel y canodd y diweddar William Jones (Ehedydd Ial) I flwyddyn wlawog 1891 Ni gawsom dywydd gwlawog y flwyddyn ninety one 'Roedd breichiau'r gwynt yn eyffio wrth gario'i watering pan Rhyw un o deulu'r Werddon a dystiodd wrth Parnell Fod 'sgwyddau rhai o'r hwyaid yn cario yrn- barel. Y pysgod yn yr afon sy'n canu yn eu cyrn, Rhag iddynt golli'u gilydd yng nghanol cenllif chwyrn; A'r llyffant sydd yn cwynfan, mewn ffwdan yn y ffos, Am na chai hin i wisgo ei siaced felen, dlos. Bu'n anhawdd sychu dillad, na chario yd na gwair, Bu'n anhawdd mynd i Gapel, i Eglwys nac i Ffair • m Ond hyn sydd yn rhyfeddod, medd Ffrederick Aberffraw,— Na chai bregethwyr sychion eu gwlychu yn y gwlaw. Cadd llawer un ei siomi wrth ddisgwyl tywydd braf, 'Rol prynnu dillad ysgeifn i'w gwisgo yn yr haf < Buasai'n llawer callach ar forwyn Plas y Ddol Roi pres am ymbarelo na phrynnu parasol. TEULU'R MILISYN.-Y mae Gwar- cheidwaid Treffynnon wedi penderfynu gofyn i Mri. Herbert Lewis a Howell Idris alw sylw'r Senedd at achos milisyn o dre Fflint sydd wedi myned i'w bum wythnos o draining yn Beaumaris, gan adael ei wraig a'i blant at drugaredd y plwy. Swyddog cardod y plwy a ddywedai ei fod ef yn rhoi 6/- yn yr wythnos i'r wraig, ac fod ei gwr yn anfon 5 /6 yn yr wythnos o'r 1 y dydd a gaffai'n gyflog. Y Cadeirydd.—Cywilydd o beth fod dyn fel hyn yn cael ei gymeryd oddiwrth ei waith i drainio'r efo'r milisia, a gadael ei deulu'n bwys ar y trothdalwyr. k CL WY' R BRENIN.-Nid yr hen afiechyd cas sy'n creithio ambell fab a merch a olygwn, ond y byd sydd gan rai-yn enwedig ar ol yr ymweliad diweddar a Bangor, Beaumaris, &e. ,-eisieu cael Preswyl Frenhinol yng Nghymru, fel a geir yn yr Alban, &c. Dyna Bias Penrhyn yn wag, meddant, a dim golwg y bydd digon o lewyrch ar y Douglas-Pennants i'w eisio byth mwy ac fe wnai blasdy brenin tan gamp. Byddai hynny yn gyd- nabyddiaeth o safle Cymru, ac yn foddion gwario cryn arian yn y parthau hynny. Ie, ond y Sowth-cofiwch y Sowth. k Y SABOTH YN MYND.— Ym Machyn- lleth, nos Fercher ddiweddaf, cynhaliwyd cyfarfod cyhoeddus i wrthdystio yn erbyn bwriad Cwmni'r Cambrian i redeg tripiau rhad ar y linell gul o'r dref honno i Gorris. Siaradwyd yn gryf ar y pwnc gan y Ficer (Parch. T. LI. Williams) a'r Parch. G. O. Roberts (W.). Os oedd y tadau yn rhy gyfyng eu syniad pan yn credu fod y sawl a wisgai giw pi ar ei wallt neu a chwib- anai un o'r hen alawon Cymreig ar y Saboth-yn myned i uffern heb os nac onibai, y mae y genhedlaeth bresennol yn ddiau, yn rhy lac ei syniad, ac yn bygwth diddymu'r Saboth tawel, hamddenol, oedd yn un o nodweddion goreu Cymru. k, ENWADAETH YM MANGOR. Tri phrif afiechyd Cymru canser, darfodedig- aeth, enwadaeth,-y tri hyn, a'r mwyaf o'r rhai hyn, enwadaeth. Dywed Miss Davies, ysgrifennydd Cyngraii- Eglwysi Rhyddion Bangor, bethau heilltion 'yn ei hadroddiad blynyddol am ddifrawder y gweinidogion, blaenoriaid, a'r aelodau a berthynant i'r Cyngrair hwnnw. Siarad ar goedd yn unig a wneid, a gadewid i bob cydymdrech o blaid y Dispensary, y Gymanfa Ganu, ac yn y blaen, syrthio i'r llawr. Yr hyn sydd arnom eisieu, ebe Miss Davies, ydyw meibion a merched boddlon i wneud y gwaith caib a rbaw-Y gwaith diswyn ac anghyhoedd, ac nid yn unig codi hwyl mewn cyfarfodydd cyhoeddus a chymell clap wrth draethu ar nerth Ymneilltuaeth. MARWOLAETHAU PLANT. Mewn cyfarfod cyhoeddus yng Ngwrecsam, nos Wener, y Maer yn llywyddu, pasiwyd pen- derfyniad cryf ynglyn a lhosogrwydd enbyd y marwolaethau oedd ymysg plant y dref, ac ymffurfiwyd yn gymdeithas i hy- rwyddo moddion i'w leihau. Sylwai Dr. Williams mai un achos mawr o'r marwoldeb ydoedd gwaith y mamau yn bwydo ou rhai bach ar geriach, yn lie rhoddi iddynt laeth y fron.—Yr Henadur Williams a ddywedai fod lliaws mawr o ferched y dref yn rhai chwil ac fod y pwnc yn un cenedlaethol, canys dibyi-inai fiertli y wlad ymhen 25 mlynedd eto ar nerth y babanod a enid eleni a'r flwyddyn nesaf. *5? SORECHIAN.Nos Sadwrn, bu Miss Annie Kenney, un o flaenoriaid Sgrech y Bais, neu'r Suffragettes, yn traethu yn Llan- gollen ar etholfraint y merched. Broliai iddi gael ei char char u eisoes ddwy waith, a dyrnai'r bwrdd yn debyg i fel y gwnai y diweddar Robert Jones, Llanllyfni, pan wedi twymno ymhlaid Datgysylltiad. Pan alwodd gwr neilltuol heibio cyfaill iddo y nos o'r blaen,fe'i cafodd yn y gegin gefn yn gol- chi y llestri. "Be chi'n neud fan yma ?" "0, y wraig sy allan yn y Guild Hall yn darlithio ar Ddyledswyddau Merched gartref,' ebe'r golchwr, druan. 3k GAIR 0 GYSUR,Gair cysurus iawn a ddywedodd Mr. W. Y. Craig, cyn-A.S. tros ogledd Staffordshire, a'r glo-berchennog hys- bys o AIsager (sir Gaer) a'r Waen (sir Ddin- bych). Ddydd Sadwrn, anrhegid ef gan ei weithwyr yng nglofa Bryncinallt a llestri arian ar achlysur ei briodas arian. Y mae'r -ffirm hon a'i gweithwyr ar delerau hynod gariadus y naill a'r llall, ac wrth gydnabod eu caredigrwydd, sicrhaodd Mr. Craig hwy ei fod wedi penderfynu gwario E60,000 ar agora he laethu glofeydd ychwanegol. Bwr- iedir agor glofa yn Preesgweene, lie y byddai gwaith i fil o ddynion un arall hefyd yn If ton o'r un faintioli. Dywedai gwyr cyf- arwydd fod yng nghrombil y ddaear yn ardal y Waen ddigonedd o 'r glo goreu yn y byd ac fe fyddai iddo ef gael gwaith i dair mil o ddynion am drigain mlynedd o leiaf. C YHOEDDIADA U.—Yng Nghymdeith- asfa M.C. Llanerchymedd, y dydd o'r blaen, bu cryn drafod a chwyno am roddi cyhoedd- iadau pell ymlaen i'r pregethwyr poblogaidd, &c. yr hyn a bar i ni gofio am un o weini- dogion mwyaf arabus Cymru, pan ddaeth i wneud ei ewyllys, a rannodd ei eiddo a'i arian rhwng ei wraig a'i ferched tra i'w unig fab, oedd bregethwr ond heb lygedyn o athrylith ei dad, gadawodd y patriarch ei lyfr cyhoeddiadau, yn cynnwys cyhoedd- iadau am ddeng mlynedd ymlaen—" achos 'dyw ddim yn debyg y cei di 'run, druan." Y mae cyhoeddiadau, fel Eisteddfod, Gorsedd, &c., heb air cyfystyr iddo yn y Saesneg a gwell fyddai ei arfer yn Gymraeg na dweyd publications, fel y gwneir ar hyn o bryd. Will you please publish me in your chapel ?" ebe tei-gwyn ifanc y dydd o'r blaen. O'R RHOS.-Ddydd Llun, yn Rhosllan- erchrugog, buwyd yn neilltuo'r van genhadol, a elwir yn John Williams Missionary Van," yr hon a gyflwynid yn rhodd i Gymdeithas Genhadol Llunden gan Anibynwyr yr ardal fel offrwm diolch am y llwyddiant a fu ar yr Arddanghosfa Genhadol a gaed yng Ngwrecsam y Nadolig diweddaf. Caed pre- geth gan y Parch. T. E. Thomas, Coedpoeth, ac anerchiad cyflwyniadol gan y Parch. R. Peris Williams. Bwriedir y van at waith efengylaidd yng Ngogledd Cymru ac ar hyd y Goror. »5e YR lAS DDWYN-Cafodd George Harris, Lerpwl, ei anfon i bythefnos o garchar gan ynadon Gwrecsam ddydd Llun am ladrata par o esgidiau a hongient tuallan i siop Scales & Sons, High Street. Ond y mae hanner y bai ar y siopwyr hyn ac ereill yn gosod temtasiwn mor gyfleus yn y ffordd y crogant eu nwyddau. Ac y mae dull y merched o gario'u pocedau a'u pyrsau yn magu lladron wrth y lluoedd; a thra bo hi, hoeden falch, yn estyn ei chorn i edrych ar wych-ddillad ffenestr y siop, dacw'r lleidr ysgafn ei fysedd yntau yn cipio'i phwrs sy'n drymach o'r hanner na'i phen. LLURGUNIO'RIGYMII,AEG.-Y -iiiae'r pyre Soisnig yn bur ofalus i argraffu pob gair Ffrengig, Ellmynig, Lladin, neu arall yn gywir, ond ni waeth ganddynt pa mor anghywir y bo'r Gymraeg a ddyfynnant o orfod weithiau. Dyma engraifft o gybolfa debyg a welir yn awr ac eilwaith o law'r Philistiaid, a gyhoeddwyd ynglyn a hanes Eisteddfod :— Chorus.—HANE LAAD VU NAHDA. Glaad, glaad, playdiol ooiv im glaad, Tra more un veir eir beir hoff baaih, 0 buthed eir hane yaith baraaih." Yr hyn sydd mor wrthun a phe bae'r Cymry'n canu'r corus Saesneg fel hyn WMs, Wels, mei mydyr's swet hom is in Wels, Tul deth bi past mei lyf shall last, Mei longin, mei hiraeth, ffor Wels." k LIME STREET, LERPWL.—Hen wr o'r wlad, ar ymweliad a, Lerpwl, a gymerid o gwmpas gan ei berthynasau i weled rhyfedd- odau'r ddinas, ac wrth weled Lime Street, cofiodd am ddisgrifiad y Bardd Cwsg o Stryt Balchter :— GWELWN ami i Goegen gorniog fel llong ar lawn hwyl, yn rhodio megis mewn ffram, a chryn siop pedler o'i chwmpas, ac wrth ei chlustiau werth tyddyn da o berlau a rhai oedd yn canu i ganmol eu llais, rhai'n dawnsio i ddangos eu llun, ereill oedd yn paentio i wellau eu lliw; ereill wrth y drych er's teirawr yn ym- bincio, yn dysgu gwenu, yn symud pinneu, yn gwneud munudie ac ystumieu. Llawer mursen oedd yno, na wyddai sut i agor ei gwefusau i siarad, chwaethach i fwyta, na pha fodd i roddi defosiwn i edrych tan ei throed; a llawer yscowl garpiog a fynnai daeru ei bod hi cystal merch fon- heddig a'r oreu yn y Stryd a llawer ysgorgyn rhygynog a allai ridyllu ffa wrth wynt ei gynffon. CH WITHIG.-Dyna ddigwydd ad rhyfodd a fu yn Llunden ddydd Sadwrn diweddaf. Tra'r oedd un o weithwyr yr East End Brewery-ac yntau'n llwyr-ymwrthodwr er's blynyddau-wrth ei orchwyl o gadw i lawr y ffroth ar wyneb padell enfawr o stowt, collodd y fantol, a chwympodd i'r brag berwedig, ac yn ddiweddaraeh y gwelodd rhywun ei gorff yn nofio ynddo. O'r her- wydd, y mae cynnwys y vat i'w gollwng i redeg ym mhresenoldeb awdurdodau'r Excise, a golyga golled i'r Cwmni Brag o £600. SHYHW-Pâr son am ddirwest i'r G'lomen golio dameg y Crefyddwr Ungoes, a draethid gydag arddeliad lawer tro gan y diweddar Dr. Arthur Jones, Bangor. Siarad yr ydoedd yn Pall Mall, Lerpwl, ar ei hoff bwnc, ac iiie(idai "RvDwi wedi dod yma i ddeyd wrtho chi mai crefyddwyr ungoes ydyw crefydd- wyr heb fod yn didotals, ac i waeddi Shyhw arnyn nliw. Crefyddwyr un- -,goes,' meddai rhywun, 'beth ydy'ch meddwl chi, Dr. Jones ?' Wel, hyn Roedd gwr bonheddig wedi gwadd cyfaill ato i swpor, ac ordro i wydd gael ei choginio ar eu cyfer. Dyna lle'r oedd yr wydd wedi rhostio o flaen tan yn y gegin, a John y gwas yn hiraethu am dam aid amheuthyn o'r gweddillion pan ddeuent yn ol o'r parlwr. Gan fod y gloch mor hir yn canu am y swper, both ddarfu'r creadur barus ond lielpio ei hun at un o'r coesau a phan alwyd am yr wydd o'r diwedd i'r bwrdd, fe welodd y gwr bonheddig a'i ffrynd nad oedd gan yr wydd honno ond un goes, er y gwyddent o'r gore fod gan bob gwydd dwy goes ond ddwedodd yr un o'r ddau yr un gair. Bore dranoeth, dyma'r meistr yn mynd i'r buarth, ar yn galw ar y gwas, John, by be wnest ti i'r wydd neithiwr ?' 'Be oedd y mater arni hi, syr ?' 'Doedd gan yr wydd neithiwr ond un goes, ac mi wyddost fod gan wyddau ddwy goes, on'd oes ?' Weithiau, syr.' Weithiau be wyt ti'n feddwl hefo dy weithiau ?' Dacw rai yn y fan acw, syr, a dim ond un goes ganddyn nhw,' tan gyfeirio at res oedd yn sefyll ar eu hungoes ar fin y llyn. Syhw ebe'r gwr bonheddig, 'weli di, mae gan bob un o'r gwyddau acw ddwy goes.' Basech chi'n gwaeddi Shyhw ar honno neithiwr, ynte ?' ebe John. Ac yna aeth y doethawr ymlaen ifdynnu addysg oddiwrth ei ddameg, ac i "waeddi Shyhw ar y crefyddwyr ungoes, chwedl yntau, nes oedd pawb wedi ymgolli mewn boddhad, ac ar derfyn y cyfarfod arwyddodd o bymtheg i ugain yr ardystiad dirwestol. Ik W Y mae Ficer Gwrecsam—y Canon Fletcher —wedi ei benodi i fywoliaeth Marehwiel- un o'r rhai brasaf yn Esgobaeth Llanelwy. Mawr y dyfalu pwy a'i holyna yng Ngwrec- sam. Cymro'r waith hon, siawns. •5b Nos Lun,* bit dirprwyaeth o'r Aelodau Cymreig ar ymweliad a Mr. Haldane, pen- naeth Swyddfa Rhyfel, ynglyn a chael adran filwrol i Gymru ar wahan, ac nid ei chyplu'n filwrol a. rhannau o Loegr, fel ar hyn o bryd. Addawodd Mr. Haldane ystyried y cais mewn geiriau lied ffafriol.

Advertising

adolygiad