Welsh Newspapers
Search 15 million Welsh newspaper articles
4 articles on this Page
^odion o'r De.
^odion o'r De. [GAN HESGIN.] rIlWeli;ad y Brenin. Hid I°iS, bvrion fydd rhai yr wythnos hon— djg 0"legid diffyg defnydd, ond oblegid ■^renlv amser- Ymweliad y Brenin a'r straiT| 1Ues sydd wedi taflu popeth yn strim- am "^rellach yn y fan yma. 'Does son stand lm arad- Cafodd y Cymrodorion ll°n„ ,ar e" pennau eu hunain yn ymyl y it\yR^ ortli newydd, ac yr oedd Dyfed yn eu ddijj yn ei wisgoedd offeiriadol (feiddia'i (ii ITIA Ysglt'ifennit gorseddol). Yn yr hwyr ilad ener) ar i'wrdd yr iot frenhinol, bu mevv me Hughes-Thpmas a'i Chor Merched bym 8vv'Hg(jedd Cymreig yn cadw cyngerdd. (id0 ,a y Program yn union fel yr awd drwy- n n ^l°n Arranged by Emlyn Evans 'a) Ymdaith Gwyr Harlech." (D) Y Deryn Pur." (c) Yr Haf." (b) "y Deryn Pnr." (e) "Yr Haf." Can The Lady Part Singers. Llam y Cariadau "Hughes. C'ani„- Miss Marianne Squire. glon, (a) "LlwynOn." Cajj The Lady Part Singers. Nos Galan." callig Mr. Trevor Evans. ° °n.. (b) Y Gwenith Gwyn Emlyn (Sn Evans, ecialiy arranged by Prof. D. Evans, Mus. Bac.) O&q i, n The Lady Part Singers. O na byddai'n haf o J iv'd .Davies. Canig.; Miss Maud Parsons. 011 • • (a) The Spinning Chorus Wagner. (b)" Where the bee sucks Bishop. (c) "The Spanish Gipsy girl" Lassen C&n The Lady Part Singers. Gwlad y Delyn." C&n Mr. Trevor Evans. L'ete ..Chaminade. I Canigi Miss Daisy Wyndham. (a) Ar hyd y nos." (b) A'r d'wysog Gwlad y Brynia' The Lady Part Singers IS" Hen Wlad fy Nhadau." "ut 1 ^'r ]-, cyniheru hwn o ran Cymreigrwycld k'a°d ym Mangor, 'sgwn i ? Yn fr^Vor y merched, gwelir fod Mr. |°d Wed ns yn canu yno, a dywedir ei «.pIesi0 y cwmni brenhinol yn ang- bellKrsOddodd Dyfed a Brynfab nifer o lihill. ^Htwp °n ^e'.yn at wasanaeth Eos Dar, y aU n k a 1dorn Davies, y telynwr. Dyma D81ihillion Dyfed yt6 8an deyrrv;isoedd uohel wyr A "lvydda,yr ar orseddau, Ar > °ywir yn ei wres Olid v an0s eu coronau Y-E periad,lr mwy a'i rin reriin Gwlad y Bryniau. YrTf f. ar ei dwr Ar (j yliwr Prydain olau, ]Vj "ria}l r mor a bannau'r tir A,C iWyrir ei fanerau, Ar i uda banl y dydd I)yItVa °lydd heirdd ei hawliau. 0redodaU ° rai Brynfab :— ■^od 0^ yr oesoedd tywyll, Pud rna1^'11 diffodd megis canwyll 11 t)aPoe Vyinru f&ch hyd yma Q 1 l°sgi heb ei difa. •^dgan Dyna ydi'r gwir a'r gwir i £ ,by gyd.» ^laj mae'r byd yn credu "^ydd n artx bytb wna hen iaith Cymru hen „r?f a Lladin wedi llwydo Ac 1 Cymru yn blodeuo. '• y^er ei wrfn &r cwbl> cafodd ein Harglwydd w rriethu yU ^arcb°g ac y mae amryw UK *areho&' a^u Paham na wnelsid hwythau WeHj l?n" Feallai am fod rhai ohonyn yn v yn rby hoff o reidio'r high ^a, §0rffennol. Bhaid i chwi wneud VvTi Petliai?'r wythnos hon, gan obeithio y YlQlos au rywbeth yn agos i'w lIe yr (v §"^rai ie, dylem fod wedi dweyd Jj SMadr? yr Henadur Edward Thomas Uglres gar Cochfarf) ydyw Madame Un o foneddesau mwyaf ^dd '» T T1as yw hi, yn enwedigi "deulu ^Lafurol.
J ^4 0 BIG Y G'LOMEN* | |___t…
J ^4 0 BIG Y G'LOMEN* | |t I CAP A GWN.- Y mae'r merched a efryd ant yng Ngholeg Bangor wedi eu gorchymyn i wisgo'u capiau a'u gynau o hyn allan wrth fynd a dod o'r Coleg. BRO'R MEFUS. Tyfti a hel mefus ydyw un o ffyn cynhaliaeth ardal Holt, ger Gwrec- sam; ond difawyd y cnwd gymaint eleni gan y gwlawogydd a'r oerfel fel y mao r trethgasglydd cynhorthwyol wedi anfon llythyr at Fwrdd y Gwarcheidwaid i ddweyd ei fod yn methu'n lan a chael yr arian i mewn. FYNES CLINTON Yn Eglwys St. Doiniol, Llanuwchllyn, ddydd Mercher, priod- wyd Proff. Fynes Clinton, Coleg Prifysgol Bangor, ag ail ferch y diweddar Barch. William Hughes, ficer Llanuwchllyn. Sais ydyw Clinton, ond y mae wedi meistroli r Gymraeg, ac wedi priodi un o rianod Llan- uwchllyn er mwyn ymberffeithio yn y Gymraeg oreu. 3PI-I TITOTALIAID GORSAF Y RHYL.- O'r 70 gwasanaethyddion sydd ynglyn a Gorsaf Ffordd Haearn y Rhyl, y mae 50 yn llwyr-ymwrthodwyr oddiwrth y diodydd mall a achlysurant gynnifer o ddamweiniau ar dir a mor. Campus, y Rhyl Pe pob gorsaf cyn sobred ei gweithwyr, arbedasid ami i ddamwain. O'R RHYL.-Ddydd Iau diweddaf, bu cryn ffrwgwd rhwng Mr. Goodbody, sy'n arfer cynnal gwasanaeth crefyddol ar y tywod yn y Rhyl, a'r heddgeidwaid, y rhai a alwent arno i symud yr eilineg (harmonium) or lie. Daeth torf ynghyd, ac ymneilltuodd yr hedd- weision, rhag ofn y muscular Christianity a fygythid ei gymhwyso atynt. k 0 GOLWYN BA Y.-Anfonodd y Parch. Thos. Lloyd, ar ran Undeb Anibynwyr Lloegr a Chymru, at Gyngor Colwyn Bay am ganiatad i ddodi van genhadol ar y Promenade, ond ei wrthod a gafodd.Pen- derfynwyd cael bam gwyr cyfarwydd ar y pwnc o ddifa carthion y dref drwy eu llosgi (cremation) yn hytrach na'u dodi'n domen tu allan i'r dref fel ar hyn o bryd. k BWRW'I LID AR Y CEFFYL.-Ddydd Mercher diweddaf, ym Mhwllheli, dirwywyd gwr ty tafarn y New Inn, Llangian, i 10/- a'r costau am feddwi, ac i Y,5 arall a'r costau am greulondeb at geffyl. Aeth at y creadur druan ar y stryd, ac a'i ciciodd nerth ei heglau trymion ugain gwaith. Y ddedfryd decaf a'r fath anghenfil fuasai rhoi'r cyfle i'r ceftyl gael talu un gic iddo yn ei geubal. DR. CLIFFORD.-Teithiodd llawer i Brestatyn ddydd Iau diweddaf i glywed anerchiad Dr. Clifford, ein pen-ymladdwr Ymneilltuol, gerbron yr Eglwysi Rhyddion. Ddechreu'r ganrif ddiweddaf, meddai, rhifai'r Ymneilltuwyr ddim ond 1 o bob 18 o'r bobl- ogaetli erbyn ei diwedd, yr oedd eu rhif yn gyfartal i rif aelodau'r Eglwys Wladol. Y saith Ymneilltuwr mawr a enwodd ydoedd Cromwell, Milton, Wesley, Bunyan, Defoe, Dale, a Spurgeon. SFURGEON.—Son am Spurgeon a bar i ni gofio y byddai'r Parch, Newman Hall yn dweyd fod Mr. Spurgeon yn arfer cadw^dwy fuwch, yr elw oddiwrth laeth y ddwy yn mynd i gadw dwy wraig, na wyddent tu yma i lidiart y mynydd o b'le roedd y cheques yn dyfod bob mis. Charles Haddon Spurgeon, Cowkeeper," oedd ar ei drol laeth. Hwyrach na wyr pawb dclim i Spurgeon roddi 5 yr wythnos tra y bu byw i weddw Christmas Evans. SIR DDINBYCH A'R D YCI-A U. -Mewri cyfarfod yn y Rhyl, ddydd Iau diweddaf, a elwid ynghyd gan Col. Cornwallis West i drafod y pwnc o gael sanatorium i sir Ddin- byeh, tystiodd Mr. Stanley Weyman, ynofel- ydd Seisnig adnabyddus sydd wedi ymgar- itrefu er's blynyddau vng nghymdogaeth Rhu- thyn,ei fod ef,18 mlynedd yn ol,yn dioddef gan y darfodedigaeth yn ei ffurfiau decbreuol ond drwy gael ei ddanfon ar led yn ddioedi, fe'i llwyr wellhawyd. Ac fe allesid achub llawer o gleifion a welsai efe yn Rhuthyn pe buasai sanatorium, i'w danfon iddi mewn prycl. Dr. Lloyd Roberts a dybiai fod yn nwyreinbarth sir Ddinbych ar hyn o bryd 400 neu 500 o ddarfodedigion (consumpt- ives). YR HAF GWLA WOO.-YR oed Ileithter-yr hin, er's cyhyd o wythnosau bellach, yn atgofio'r G'lomen fel y canodd y diweddar William Jones (Ehedydd Ial) I flwyddyn wlawog 1891 Ni gawsom dywydd gwlawog y flwyddyn ninety one 'Roedd breichiau'r gwynt yn eyffio wrth gario'i watering pan Rhyw un o deulu'r Werddon a dystiodd wrth Parnell Fod 'sgwyddau rhai o'r hwyaid yn cario yrn- barel. Y pysgod yn yr afon sy'n canu yn eu cyrn, Rhag iddynt golli'u gilydd yng nghanol cenllif chwyrn; A'r llyffant sydd yn cwynfan, mewn ffwdan yn y ffos, Am na chai hin i wisgo ei siaced felen, dlos. Bu'n anhawdd sychu dillad, na chario yd na gwair, Bu'n anhawdd mynd i Gapel, i Eglwys nac i Ffair • m Ond hyn sydd yn rhyfeddod, medd Ffrederick Aberffraw,— Na chai bregethwyr sychion eu gwlychu yn y gwlaw. Cadd llawer un ei siomi wrth ddisgwyl tywydd braf, 'Rol prynnu dillad ysgeifn i'w gwisgo yn yr haf < Buasai'n llawer callach ar forwyn Plas y Ddol Roi pres am ymbarelo na phrynnu parasol. TEULU'R MILISYN.-Y mae Gwar- cheidwaid Treffynnon wedi penderfynu gofyn i Mri. Herbert Lewis a Howell Idris alw sylw'r Senedd at achos milisyn o dre Fflint sydd wedi myned i'w bum wythnos o draining yn Beaumaris, gan adael ei wraig a'i blant at drugaredd y plwy. Swyddog cardod y plwy a ddywedai ei fod ef yn rhoi 6/- yn yr wythnos i'r wraig, ac fod ei gwr yn anfon 5 /6 yn yr wythnos o'r 1 y dydd a gaffai'n gyflog. Y Cadeirydd.—Cywilydd o beth fod dyn fel hyn yn cael ei gymeryd oddiwrth ei waith i drainio'r efo'r milisia, a gadael ei deulu'n bwys ar y trothdalwyr. k CL WY' R BRENIN.-Nid yr hen afiechyd cas sy'n creithio ambell fab a merch a olygwn, ond y byd sydd gan rai-yn enwedig ar ol yr ymweliad diweddar a Bangor, Beaumaris, &e. ,-eisieu cael Preswyl Frenhinol yng Nghymru, fel a geir yn yr Alban, &c. Dyna Bias Penrhyn yn wag, meddant, a dim golwg y bydd digon o lewyrch ar y Douglas-Pennants i'w eisio byth mwy ac fe wnai blasdy brenin tan gamp. Byddai hynny yn gyd- nabyddiaeth o safle Cymru, ac yn foddion gwario cryn arian yn y parthau hynny. Ie, ond y Sowth-cofiwch y Sowth. k Y SABOTH YN MYND.— Ym Machyn- lleth, nos Fercher ddiweddaf, cynhaliwyd cyfarfod cyhoeddus i wrthdystio yn erbyn bwriad Cwmni'r Cambrian i redeg tripiau rhad ar y linell gul o'r dref honno i Gorris. Siaradwyd yn gryf ar y pwnc gan y Ficer (Parch. T. LI. Williams) a'r Parch. G. O. Roberts (W.). Os oedd y tadau yn rhy gyfyng eu syniad pan yn credu fod y sawl a wisgai giw pi ar ei wallt neu a chwib- anai un o'r hen alawon Cymreig ar y Saboth-yn myned i uffern heb os nac onibai, y mae y genhedlaeth bresennol yn ddiau, yn rhy lac ei syniad, ac yn bygwth diddymu'r Saboth tawel, hamddenol, oedd yn un o nodweddion goreu Cymru. k, ENWADAETH YM MANGOR. Tri phrif afiechyd Cymru canser, darfodedig- aeth, enwadaeth,-y tri hyn, a'r mwyaf o'r rhai hyn, enwadaeth. Dywed Miss Davies, ysgrifennydd Cyngraii- Eglwysi Rhyddion Bangor, bethau heilltion 'yn ei hadroddiad blynyddol am ddifrawder y gweinidogion, blaenoriaid, a'r aelodau a berthynant i'r Cyngrair hwnnw. Siarad ar goedd yn unig a wneid, a gadewid i bob cydymdrech o blaid y Dispensary, y Gymanfa Ganu, ac yn y blaen, syrthio i'r llawr. Yr hyn sydd arnom eisieu, ebe Miss Davies, ydyw meibion a merched boddlon i wneud y gwaith caib a rbaw-Y gwaith diswyn ac anghyhoedd, ac nid yn unig codi hwyl mewn cyfarfodydd cyhoeddus a chymell clap wrth draethu ar nerth Ymneilltuaeth. MARWOLAETHAU PLANT. Mewn cyfarfod cyhoeddus yng Ngwrecsam, nos Wener, y Maer yn llywyddu, pasiwyd pen- derfyniad cryf ynglyn a lhosogrwydd enbyd y marwolaethau oedd ymysg plant y dref, ac ymffurfiwyd yn gymdeithas i hy- rwyddo moddion i'w leihau. Sylwai Dr. Williams mai un achos mawr o'r marwoldeb ydoedd gwaith y mamau yn bwydo ou rhai bach ar geriach, yn lie rhoddi iddynt laeth y fron.—Yr Henadur Williams a ddywedai fod lliaws mawr o ferched y dref yn rhai chwil ac fod y pwnc yn un cenedlaethol, canys dibyi-inai fiertli y wlad ymhen 25 mlynedd eto ar nerth y babanod a enid eleni a'r flwyddyn nesaf. *5? SORECHIAN.Nos Sadwrn, bu Miss Annie Kenney, un o flaenoriaid Sgrech y Bais, neu'r Suffragettes, yn traethu yn Llan- gollen ar etholfraint y merched. Broliai iddi gael ei char char u eisoes ddwy waith, a dyrnai'r bwrdd yn debyg i fel y gwnai y diweddar Robert Jones, Llanllyfni, pan wedi twymno ymhlaid Datgysylltiad. Pan alwodd gwr neilltuol heibio cyfaill iddo y nos o'r blaen,fe'i cafodd yn y gegin gefn yn gol- chi y llestri. "Be chi'n neud fan yma ?" "0, y wraig sy allan yn y Guild Hall yn darlithio ar Ddyledswyddau Merched gartref,' ebe'r golchwr, druan. 3k GAIR 0 GYSUR,Gair cysurus iawn a ddywedodd Mr. W. Y. Craig, cyn-A.S. tros ogledd Staffordshire, a'r glo-berchennog hys- bys o AIsager (sir Gaer) a'r Waen (sir Ddin- bych). Ddydd Sadwrn, anrhegid ef gan ei weithwyr yng nglofa Bryncinallt a llestri arian ar achlysur ei briodas arian. Y mae'r -ffirm hon a'i gweithwyr ar delerau hynod gariadus y naill a'r llall, ac wrth gydnabod eu caredigrwydd, sicrhaodd Mr. Craig hwy ei fod wedi penderfynu gwario E60,000 ar agora he laethu glofeydd ychwanegol. Bwr- iedir agor glofa yn Preesgweene, lie y byddai gwaith i fil o ddynion un arall hefyd yn If ton o'r un faintioli. Dywedai gwyr cyf- arwydd fod yng nghrombil y ddaear yn ardal y Waen ddigonedd o 'r glo goreu yn y byd ac fe fyddai iddo ef gael gwaith i dair mil o ddynion am drigain mlynedd o leiaf. C YHOEDDIADA U.—Yng Nghymdeith- asfa M.C. Llanerchymedd, y dydd o'r blaen, bu cryn drafod a chwyno am roddi cyhoedd- iadau pell ymlaen i'r pregethwyr poblogaidd, &c. yr hyn a bar i ni gofio am un o weini- dogion mwyaf arabus Cymru, pan ddaeth i wneud ei ewyllys, a rannodd ei eiddo a'i arian rhwng ei wraig a'i ferched tra i'w unig fab, oedd bregethwr ond heb lygedyn o athrylith ei dad, gadawodd y patriarch ei lyfr cyhoeddiadau, yn cynnwys cyhoedd- iadau am ddeng mlynedd ymlaen—" achos 'dyw ddim yn debyg y cei di 'run, druan." Y mae cyhoeddiadau, fel Eisteddfod, Gorsedd, &c., heb air cyfystyr iddo yn y Saesneg a gwell fyddai ei arfer yn Gymraeg na dweyd publications, fel y gwneir ar hyn o bryd. Will you please publish me in your chapel ?" ebe tei-gwyn ifanc y dydd o'r blaen. O'R RHOS.-Ddydd Llun, yn Rhosllan- erchrugog, buwyd yn neilltuo'r van genhadol, a elwir yn John Williams Missionary Van," yr hon a gyflwynid yn rhodd i Gymdeithas Genhadol Llunden gan Anibynwyr yr ardal fel offrwm diolch am y llwyddiant a fu ar yr Arddanghosfa Genhadol a gaed yng Ngwrecsam y Nadolig diweddaf. Caed pre- geth gan y Parch. T. E. Thomas, Coedpoeth, ac anerchiad cyflwyniadol gan y Parch. R. Peris Williams. Bwriedir y van at waith efengylaidd yng Ngogledd Cymru ac ar hyd y Goror. »5e YR lAS DDWYN-Cafodd George Harris, Lerpwl, ei anfon i bythefnos o garchar gan ynadon Gwrecsam ddydd Llun am ladrata par o esgidiau a hongient tuallan i siop Scales & Sons, High Street. Ond y mae hanner y bai ar y siopwyr hyn ac ereill yn gosod temtasiwn mor gyfleus yn y ffordd y crogant eu nwyddau. Ac y mae dull y merched o gario'u pocedau a'u pyrsau yn magu lladron wrth y lluoedd; a thra bo hi, hoeden falch, yn estyn ei chorn i edrych ar wych-ddillad ffenestr y siop, dacw'r lleidr ysgafn ei fysedd yntau yn cipio'i phwrs sy'n drymach o'r hanner na'i phen. LLURGUNIO'RIGYMII,AEG.-Y -iiiae'r pyre Soisnig yn bur ofalus i argraffu pob gair Ffrengig, Ellmynig, Lladin, neu arall yn gywir, ond ni waeth ganddynt pa mor anghywir y bo'r Gymraeg a ddyfynnant o orfod weithiau. Dyma engraifft o gybolfa debyg a welir yn awr ac eilwaith o law'r Philistiaid, a gyhoeddwyd ynglyn a hanes Eisteddfod :— Chorus.—HANE LAAD VU NAHDA. Glaad, glaad, playdiol ooiv im glaad, Tra more un veir eir beir hoff baaih, 0 buthed eir hane yaith baraaih." Yr hyn sydd mor wrthun a phe bae'r Cymry'n canu'r corus Saesneg fel hyn WMs, Wels, mei mydyr's swet hom is in Wels, Tul deth bi past mei lyf shall last, Mei longin, mei hiraeth, ffor Wels." k LIME STREET, LERPWL.—Hen wr o'r wlad, ar ymweliad a, Lerpwl, a gymerid o gwmpas gan ei berthynasau i weled rhyfedd- odau'r ddinas, ac wrth weled Lime Street, cofiodd am ddisgrifiad y Bardd Cwsg o Stryt Balchter :— GWELWN ami i Goegen gorniog fel llong ar lawn hwyl, yn rhodio megis mewn ffram, a chryn siop pedler o'i chwmpas, ac wrth ei chlustiau werth tyddyn da o berlau a rhai oedd yn canu i ganmol eu llais, rhai'n dawnsio i ddangos eu llun, ereill oedd yn paentio i wellau eu lliw; ereill wrth y drych er's teirawr yn ym- bincio, yn dysgu gwenu, yn symud pinneu, yn gwneud munudie ac ystumieu. Llawer mursen oedd yno, na wyddai sut i agor ei gwefusau i siarad, chwaethach i fwyta, na pha fodd i roddi defosiwn i edrych tan ei throed; a llawer yscowl garpiog a fynnai daeru ei bod hi cystal merch fon- heddig a'r oreu yn y Stryd a llawer ysgorgyn rhygynog a allai ridyllu ffa wrth wynt ei gynffon. CH WITHIG.-Dyna ddigwydd ad rhyfodd a fu yn Llunden ddydd Sadwrn diweddaf. Tra'r oedd un o weithwyr yr East End Brewery-ac yntau'n llwyr-ymwrthodwr er's blynyddau-wrth ei orchwyl o gadw i lawr y ffroth ar wyneb padell enfawr o stowt, collodd y fantol, a chwympodd i'r brag berwedig, ac yn ddiweddaraeh y gwelodd rhywun ei gorff yn nofio ynddo. O'r her- wydd, y mae cynnwys y vat i'w gollwng i redeg ym mhresenoldeb awdurdodau'r Excise, a golyga golled i'r Cwmni Brag o £600. SHYHW-Pâr son am ddirwest i'r G'lomen golio dameg y Crefyddwr Ungoes, a draethid gydag arddeliad lawer tro gan y diweddar Dr. Arthur Jones, Bangor. Siarad yr ydoedd yn Pall Mall, Lerpwl, ar ei hoff bwnc, ac iiie(idai "RvDwi wedi dod yma i ddeyd wrtho chi mai crefyddwyr ungoes ydyw crefydd- wyr heb fod yn didotals, ac i waeddi Shyhw arnyn nliw. Crefyddwyr un- -,goes,' meddai rhywun, 'beth ydy'ch meddwl chi, Dr. Jones ?' Wel, hyn Roedd gwr bonheddig wedi gwadd cyfaill ato i swpor, ac ordro i wydd gael ei choginio ar eu cyfer. Dyna lle'r oedd yr wydd wedi rhostio o flaen tan yn y gegin, a John y gwas yn hiraethu am dam aid amheuthyn o'r gweddillion pan ddeuent yn ol o'r parlwr. Gan fod y gloch mor hir yn canu am y swper, both ddarfu'r creadur barus ond lielpio ei hun at un o'r coesau a phan alwyd am yr wydd o'r diwedd i'r bwrdd, fe welodd y gwr bonheddig a'i ffrynd nad oedd gan yr wydd honno ond un goes, er y gwyddent o'r gore fod gan bob gwydd dwy goes ond ddwedodd yr un o'r ddau yr un gair. Bore dranoeth, dyma'r meistr yn mynd i'r buarth, ar yn galw ar y gwas, John, by be wnest ti i'r wydd neithiwr ?' 'Be oedd y mater arni hi, syr ?' 'Doedd gan yr wydd neithiwr ond un goes, ac mi wyddost fod gan wyddau ddwy goes, on'd oes ?' Weithiau, syr.' Weithiau be wyt ti'n feddwl hefo dy weithiau ?' Dacw rai yn y fan acw, syr, a dim ond un goes ganddyn nhw,' tan gyfeirio at res oedd yn sefyll ar eu hungoes ar fin y llyn. Syhw ebe'r gwr bonheddig, 'weli di, mae gan bob un o'r gwyddau acw ddwy goes.' Basech chi'n gwaeddi Shyhw ar honno neithiwr, ynte ?' ebe John. Ac yna aeth y doethawr ymlaen ifdynnu addysg oddiwrth ei ddameg, ac i "waeddi Shyhw ar y crefyddwyr ungoes, chwedl yntau, nes oedd pawb wedi ymgolli mewn boddhad, ac ar derfyn y cyfarfod arwyddodd o bymtheg i ugain yr ardystiad dirwestol. Ik W Y mae Ficer Gwrecsam—y Canon Fletcher —wedi ei benodi i fywoliaeth Marehwiel- un o'r rhai brasaf yn Esgobaeth Llanelwy. Mawr y dyfalu pwy a'i holyna yng Ngwrec- sam. Cymro'r waith hon, siawns. •5b Nos Lun,* bit dirprwyaeth o'r Aelodau Cymreig ar ymweliad a Mr. Haldane, pen- naeth Swyddfa Rhyfel, ynglyn a chael adran filwrol i Gymru ar wahan, ac nid ei chyplu'n filwrol a. rhannau o Loegr, fel ar hyn o bryd. Addawodd Mr. Haldane ystyried y cais mewn geiriau lied ffafriol.
Advertising
W. & J. VENMORE, Estate Agents & Valuers, 200 SCOTLAND RD., Liverpool. THLBPHONB No. 1463. Pianos & Organs Cash or Easy Payments. TUNINGS SINGLY OR BY CONTRACT REPAIRS by Expert Worlimen. Write or call for ILLUSTRATED RICHMOND JONES & SONS, 11 & 13 BERRY ST. (Top of Bold Si.) Tel 2331 Royal. LIVERPOOL. Telephone 0664 Rcyal. $ J. OLIVER, TAILOR and HABIT MAKER 126 Upper Hill Street, PRINCES ROAD, ^LIVERPOOL.a Allan Line. Sicrheir y cysur mwyaf sydd bosibl ar Agertongau Cyflym (Turbine). Y FORDAITH FERAF A RHATAF I Canada a'r Unol Dalaethau. Cyflym, I Oyfleusterau heb eu hail,y clud- | iad rhataf. Yr unig Linell a UlOgei, chanddi Gytnndeb a'r Llywod- raeth i gludo Llythyrau i Lysurus. Canada. Llawlyfr yn rhad gan Allan T inp 103 LEADENHALL 8T., a rXllal1 A-'111"» PALL MALL, LONDON 19 JAMES STREET, LIVERPOOL. Telegraphic Address "PIPES," Liverpool. ø JOHN EVANS SLATE BRICK, TILE, 4 CEMENT Gc. MERCHANT, [lea Office and Depot: 88 to 92 SOHO ST., L'POOL. ø Branches Cement Stores- 15 and 16 NOVA SOOTIA, CANNING DOCK. Railway Depôt- SPEKELAND WHARF (L. & N.W. illy.) Kdgo Hill General Stores- 20 DACRE STREET, Birkenhead- Telephone Numbers: Head Office-No. 102 Royal. Birkenhead —1025. Edge Hill—728Y Royal. Canning Dk—820S Cen. The Gwolio Hotel, Ltd., LLANDRINDOD WELLS. Telephone 40 P.O. Telegraphic, Gwalia.' Managing Director-ED PV. JENKINS. The situation of the GWALIA" is unrivalled Beautiful outlook, commanding the finest views possible; perfect South-west aspect; close to Park. Mineral Springs—Saline, Sulphur, Chaly- beat. Golf Links, and excellent waters for Angling. Heating Apparatus, good supply of Radiators on balconies and corridors. Beds and bedrooms always well aired. Electric Light. Visitors' Lift. Free Billiard Table. Recreation Room.. Lock-up Cycle House. Tariff from, £ 211216 to £ 311 Greenman's ^WST COMPLETE HOUSE EIJUN- ISHERS, Credit-Without Hire Agree- ment-at Cash Prices. 491 RICE LANE, WALTON & 72 AIGBURTH ROAD, LIVERPOOL Tel. 6y Walton, & 31y Lark Lane. .J3.* COFIANT Y PARCH Edward Morgan, DYFFRYN, GAN Y Parch. GRIFFITH ELLIS, M.A., BOOTLE. Cynhwysa y Cofianc amryw Ddarlujsiau. Wedi ei rwymo mewn llian. PRIST 6S. Cyhoeddedig gan Gee a'i Fab, Cyf., Dinbych. ac i'w gaei gan yr holl Lyfrwertkwyr. BRYSIWCH j I geisio potelaid gan y Fferyllydd nesaf atocb. f cyn i'r Anwyd fyned yn waeth. ft Cofiwch | COUGH I MIXTURE HUGH DAVIES, Machynlleth. | i3Jc. a 28. 9c. y hotel. |t DAVIES'S COUGH MIXTURE At Beswcb, B DAVIES'S COUGH MIXTURE Anwyd. fe DAVIES'S COUGH MIXTURE Asthma, f DAVIES'S COUGH MIXTURE Bronchitis, 1 DAVIES'S COIiGH MIXTURE Pas. C-vgni, if DAVIES'S COUGH MIXTURli Influenza,
adolygiad
evf li8,0 ^dysgol ei fod yn llanw cartrefi bv °6 ri °CaC^ e*n trefydd gyda Philistiaeth ywyd maesdrefol—hyn a mwy fel hyn sydd C gWneud y Die-Shon-Dafydd yn ddyrys- h cenedlaetiiol. Beth a, wneir yn wyneb vm ^ao Hawer o ffyrdd hawdd iawn i Ma Wrik"(' hyn' ydyw aros yn llonydd. dat6 ^'wyd' Pa fodd bynnag, yn golygu iarltys pynciau anodd. Mae nerth cymer- eb oer,lec'^aet'lol yn dibynnu ar y ddoethin- CfiTiV.6 ji1" anoRthinob gyda pha un y cyferfydd hedloedd eu hanhawsterau. Ffordd arall y yw gwylltio yn enbyd. fe ,iinc'derigyH cenedlaetholdeb dwys, ac tiiH' n1011 °yfyng> oedd yn bod yng Nghymru cv r ,.w-yclr'yn 1500 wedi cael ymosod arno svn' yr unfed ganrif ar bymtheg a ha Id n6Wydd a ym°hangodd ac.aymddyfn- „ 0cd' eUir ei grynhoi mewn un gair, mae yw f '^n Perthyn i bethau Seisnig." Anffod tra h yxi%lyn il goruchafiaeth y syniad elli on us hwn i gredo arall gyd-dyfu Had 'Gl hefyd i un frawddeg Ysfa Gaf °^S SWerth o gwbl mewn pethau Cymreig.' ni0l.a^?dd hyn yn nheuluoedd dylanwadol Vn -n yr ystyrid pethau Cymreig nid an dUIllg yn ddiwerth, ond hefyd yn isel. geir °ec* yn y flwyddyn hon (1905) fe tradrf11^- Nghymru liaws o fannau lie mae'r Setli °d'ad yn bodoli yn ei lawn rym. Rha'<V-a^ r" Genedlaetholwyr ei wneud ? yn 1 Gyirvru fynnu na clieir vsgol na choleg Rh ■^ ad rydd unrhyw gefnogaeth i'r epil hyn. i e! i iddynt bwyso'r ffaith fod Hanes Cymru han6 Wneud yn sylfaen pob efrydiaeth hVf,e8ydd°l yn ein gwlad, o'r ysgol elfennol ddil 0t §°leg y Brifysgol, a rhaid iddynt hvf/11,!y- gwaith hwn drwy ddwyn i fewn mew iant mewn Cymraeg, nid yn unig (ja- Ueoedd anhygyrch, ond drwy holl gyb' Slr ar ddeg Cymru, o Chepstow i Gaer- (jeuj' Rhaid gwneud yn amhosibl i unrhyw u fyw yng Nghymru heb sylweddoli °nd f°d pethau Cymreig o werth, drwvl? 8U gwertb yn ca(d eu cydnabod Cr d a ^ed e*n mam w lad. v llvf °*n b°d wedi dyfynnu digon'ar W v r 1 ddangos ei werth, a gobeithio na cheir n y wlad lieb ei brynnu.