Skip to main content
Hide Articles List

5 articles on this Page

Advertising

pr..., I TREM 1 I TRWY Y DRYCH.…

--0--Ffetan y Gol.

--0--Senedd y Byd.

News
Cite
Share

--0-- Senedd y Byd. Ynfydrwydd cydymgais milwrol. DYWKIHK fod gwahanol aelodau Cynhadledd yr Hague yn ymosod ar eu gwaith fel rhai yn fwy o ddifrif nag oedd aelodau yr un yn 1899. Mae gwawr o oleuni, megis, wedi torri ar eu meddyliau fod yn bosibl, trwy gyfarfod fel hyn, wneud rhywbeth effeithiol wedi'r ewbl. Nid i ddiddymu rhyfel-mae'n wir-nid ydynt wedi codi i dir mor uchel a hyn—ond pwy a wyr, er hynny, trwy gyf- arfod fel hyn droion, na chanfyddir o'r diwedd fod rhyfel ynddi ei hurr yn beth an- waraidd, ac y dylid ei ymlid ymaith o fysg gwledydd gwaraidd y byd ? Rhaid ail ymosod o ddifrif ar y gorchwyl o hau egwydd- orion y Gymdeithas Heddwch ymysg pobl pob gwlad, ac ymysg gwyr hunandybus y Wasg yn arbennig. Pan soniodd rhai o bleidwyr Heddwch y dydd o'r blaen am y posiblrwydd o ffurflo gwledydd Ewrob yn fath o Unol Dalaethau fel rhai America, mor bell ag i wneud rhyfel rhyngddynt yn beth arnhosibl, codai bechgyn y wasg eu ffroenau, a datganent fod y syniad yn un ynfyd. Ni ddywedid pam, digon oedd arfer y gair swyngyfareddol "Utopia." Tybient fod y gair hwn ar unwaith yn lladd y fath freuddwyd ofer. Arfer rhai newydd- iaduron ydyw ysgrifennu i lawr at lefel y syniad cyffredin. Y mae cychwyn a dal i amddiffyn athrawiaeth amhoblogaidd yn beth dieithr iddynt. Tosturiant wrth y neb sydd yn ei awgrymu, a chwarddant ef i ddiddymdra os gallant, Tybed na fyddai yn ddoeth dechreu chwerthin am ben y dull presennol o ychwan egu darpariadau milwrol y naill flwyddyn ar 01 y llall, a'i wawdio fel eithafoedd ynfyd- rwydd ? Argyhoeddiad o'r ynfydrwydd hwn a arweiniodd i'r Gynhadledd yn 1899. Ac eto y mae dylanwad y blaid filwrol ymhob man wedi peri fod ein llywodraethwyr yn myned ymlaen yn eu hynfydrwydd yn fwy, nag erioed. Mae Mr. McDonald, A. S. ,.]n y Contemporary Review am fis Mai yn dangos fod amcangyfrifon y fyddin yn y wlad hon yn fwy o ddeng miliwn nag ydoedd yn 1893-4, a'r llynges yn fwy o ddwy ar bymtheg o filiynau. Ynfydrwydd, yn wir Dyma eith- afoedd ynfydrwydd, gan nad ydym ond yn cyffroi gwledydd ereill i ychwanegu yr un modd. Ac eto y mae dynion i'w cael sydd yn pregethu yn erbyn ceisio rhoddi terfyn ar yr ynfydrwydd hwn, a dywedant mai myned ymlaen yw ein hunig ddiogelwch. A chofier mai nid y costau uniongyrchol hyn yn unig sydd i'w cymeryd i'r cyfrif. Nid yw y miliynau milwyr segur sydd trwy'r byd yn ychwanegu dim at gyfoeth y gwledydd. Difa, ac nid cynhyrchu, y macnt. Onibai y bywydau a aberthid, ni fyddai yn waeth iddynt, o ran y cwestiwn o gost, fod yn rhyfela a'u gilydd yn barhaus. Cedwid hwynt felly rhag treulio eu hamser i ddych- rynnu ein gwrageddos trwy ysgrifennu byth a hefyd am oin cyflwr amharod a pheryglus ped ymosodid arnom. Pe dechreuem wneud lleihad cyfartal, caem flas ond odid ar y gorchwyl, ac aem ymlaen i leihau nes llwyr ddiddymu. Cry- bwyllai Mr. Cobden yn ei araith yn y Senedd yn 1851 ar y cwestiwn hwn, am engraifft dda o'r hyn y gellid ei ddisgwyl. Yr oedd cytundeb yn 1817 rhwng yr Unol Dalaethau a'r wlad hon gyda golwg ar nifer y llongau rhyfel oedd i fod ar y llynnoedd r|L]]. Canada ac America. Yr oedd y Due o ington wedi dadleu yn flaenorol, fel y "J. blaid filwrol bob amser, fod yn rhaid gael gallu llyngesol cryfach er di"ge|;lJ(„gI fordir Canada. Ar ol y rhyfel rhwng ac America, bu y ddwy wlad mor gall a P derfynu ar nifer y llongau ar bob tu. j fu y canlyniad ? Nid yn unig fe lelhad eu nifer, ond yn y diwedd gwnaethp heb un llong rhyfel ar y llynoedd o gw o A geir trafodaeth deg ar y cwesti () leihad cyfartal yn ail Senedd y Byd. ol gawn weld. A beth am gyflafareddi d Yr ydym yn disgwyl yn bryderus. f S. Hoylalce. ELEAZAR ROBERT'

adolygiad