Skip to main content
Hide Articles List

7 articles on this Page

Llythyr Gwleidyddol¡

News
Cite
Share

Llythyr Gwleidyddol [GAN Y GWYLIWK]. 0'1' Tier, Westminster, Nos Fawr th, Oorff. 16, 1907. Y Cwestiwn Personol. CAMGYMERXAD digon cyffredin. ydyw liwnnw, sef mai gwaith yw'r prif atdyniad i Dy y Cyffredin. Nis gall gwaith, pa mor bwysig bynnag, gystadlu am foment gydag unrhyw gwcstiwn personol. Y mae yr olaf bob amser yn sicr o'i gynhulliad, tra y gadcwir y gwaith gwirioneddol— gofalu am y Llynges, trefnu ffyrdd rna-s- nacli a thrafnidiaeth, gwastadhau llwybr- au cymcleithas, a phethau o'r fath hynny, -i wyliadwriaeth ychydig mewn cym- hariaetli o wyr cydwybodol a gariant gyda hwy ymdeimlad o ddyledswydd, hyd yn oed i'r Senedd Ymherodrol. Y mae digon o'r fath i'w cael yn y Blaid Gymreig: dynion fel Mr. Herbert Roberts, Mr. Herbert Lewis (yr oedd ef yn ffyddlon ymhell cyn iddo gael ei wneud yn swydd- og), Mr. William Jones, Mr. D. A Thomas (bron bob amser ar ben rhestr yr ymran- iadau), ac yn ddiweddarach Mr. Ellis Davies, ac yn bendifaddeu Mr. Lloyd George, i'r hwn y mae gwaith Ty y Cyff redin yn ail natur. Ond pan y bydd rhyw fater personol ar gerddcd y gwelir senedd-dy cynryehiolwyr y werin lawnaf bob amser. Felly yr oedd hi yma ddoe. Yohydig ddyddiau yn ol ysgrifennodd M i Hugh C. Lea, yr aelod dros East tit. i 'a.ncras, un o ranbarthau'r Brifddinas, lythyr i'r Times yn galw sylw at benodiad eyfarwyddwr cwmni a gyhuddid o dwyll masnachol yn farchog, ar gymeradwy- aeth, fel y barnai ef, y Prifweinidog, neu un o aelodau y Cabinet. Y Brenin, wrth gwrs, sy'n penodi marcliogion, ac nid oes rhyddid i Mr. Lea na neb arall i feirniadu ei Fawrhydi mewn materion o'r fath yn Nhy y Cyffredin. Oblegid hynny, fe drodd at y Wasg, ac yn y llythyr dan sylw, ar ol crybwyll y penod- iad y cyfeiriwyd ato, fe aeth ymlaen i ddwoyd fod honours gwleidyddol yn cael eu rhannu yn ol y tal a geir am danynt, a bod aelodau seneddol yn cael eu prynnu gan y naill blaid a'r Hall trwy daliad costau eu hetholiad i'r gronfa a greir trwy werthiant teitlau. Mae'n ddigon tebyg fod rhywfaint o wirionedd yn sylwedd y cyhuddiad, ond ei fod yn cael ei wyrdroi yn y dywediad ohono. Sut bynnag am hynny, cymerodd Lord Robert Cecil, brawd y Lord Hugh Cecil o'r un enw, y mater i fyny, ac fe geisiodd wneud y llythyr yn breach of privilege,-y pechod mwyaf ofnadwy sy'n bosibl yn erbyn Ty y -Cyffredin Yn y fan yr oedd yr aelodau yn llawn cywrein- rwydd, ac mor brysured a chacwn yn ceisio dyfalu beth ddeuai o'r helynt fawr bersonol. Wel, ni ddaeth dim ohono. Mewn materion a berthyn i urddas y Ty, nid oes fawr o wahaniaeth cydrhwng y ddwy fainc flaenaf. Tybiai Syr Henry Campbell Bannerman mai y peth doethaf ydoedd myned ymlaen i drafod the business of the day." Am y tro, cytunai Mr. Balfour a'r arweinydd Rhyddfrydol, a thrwy fwyafrif o 235 yn erbyn 120, eu golygiad hwy a gariodd. Ond nid yw pwnc y taliadau eto wedi ei benderfynu, oblegid neithiwr fe roddodd Mr. Markham, gwr sydd ar y mwyaf yn hoff o gynhennau, rybudd y bydd iddo ef ofyn am ymchwiliad pellach i'r cy- huddiad. Fe all Mr. Markham barliau i ofyn nid yw yn debyg y gwrandewir arno gan y naill blaid na'r Hall. Gwastraffu Amser. Gwastraffwyd y gweddill o'r dydd, oddeutu saith awr, i ddadleu penderfyniad f'fol o eiddo Mr. Alfred Lyttleton, cyn- ysgrifennydd y Trefedigacthau, yn dat- ga.n fod y Ty yn anghymeradwyo gwaith y Weinyddiaeth yn gwrthod gwahoddiad gweinidogion y Trefedigaethau Hunan- Lywodraethol i roddi ystyriaeth i unrhyw ffurf o Colonial Preference. Y rhai y myn y duwiau eu difetha y maent yn eu hynfydu. Nid yn unig fe gollodd Mr. Lyttleton ei gynhygiad, ond fe gafodd ef a Mr. Chaplin, Lord Robert Cecil, a Mr. Balfour, y fath gurfa nad anghofir mohoni am Iiir amser. Wedi eu ffusto yn drwyadl mewn dadl, bu raid iddynt diioddef gweled aelodau Ty y Cyffredin, trwy fwyafrif o 404 yn erbyn 111, yn rhoddi cledfryd ddiamwys o blaid gwein- yddiaeth Ryddfasnachol. Y cyfryw ydoedd eu llwfrdra a'u hanobaith ar ol yr oruchwyliaeth hon fel y gadawsant i gynhygiad Mr. Soares, yn datgan nas gellid sicrhau undeb yr Ymherodraeth drwy gyfundrefn dollawl wedi ei seilio ar drethiant bwyd y werin, fyned heibio yn ddiymraniad. Prif bwynt dyddordeb y ddadl oedd y wawdiaeth ysgafn trwy ba un y Ilwyddodd Mr. Lloyd George^i droi Mr. Arthur Balfour a'i quibbles y tu wyneb allan. Mae Ilawer o amser er pan gafodd y Ty gymaint o ddifyrrwch.

[No title]

Advertising

Lien a Chan.

COLOfN y GWEITHIWR.

[No title]

Advertising