Welsh Newspapers

Search 15 million Welsh newspaper articles

Hide Articles List

5 articles on this Page

Advertising

Advertising

Advertising

Blinfyd yr Esgobion.

News
Cite
Share

Blinfyd yr Esgobion. CYMHARA Plato yr enaid dynol i yriedydd gyda dau farch gwahanol eu tueddiadau yn tynnu y cerbyd. Un, sef Nwyd, am ei dynnu tua'r ddaear; a'r llall, sef Rheswm, am ei dynnu ar i fyny tua'r nef. Rhwng y ddau, blin oedd llafur y gyried- ydd. Cyffelyb yw anhawster yr Arch- esgob, prif yriedydd cerbyd yr Eglwys Sefydledig. Rhwng y Blaid Efengylaidd geisiant dynnu cerbyd y Sefydliad ar linellau Protestaniaeth, a'r Blaid Uchel- eglwysig fynnant lusgo Eglwys Loegr i gyfeiriad Pabyddiaeth, y mae'n wirion- eddol galed ar y gyriedydd. Synnem ni ddim nad y geiriau awgrymir fynychaf i feddwl yr Archesgob yw y rhai hynny "Nis gall neb wasanaethu dau Arglwydd." Sonir yn fynnych am ryw graig a throbwll mewn culfor ym Mor y Canoldir sydd yn peri fod hwylio drwyddo yn beryglus anarferol. Dyma dynged llong yr Eglwys Wladol yn barhaus. Daw penbleth y Capten a'i is-swyddogion i'r golwg yn amlwg y dyddiau hyn. Y mae llythyr Esgob Rhydychen at yr Archesgob yn fath o rocket yn arwyddo perygl. Apwyntiesid Dirprwyaeth i wneud ym- chwiliad ac i ddwyn adroddiad i'r Con- vocasiwn o barthed i'r mesur ddygir gerbron y Senedd i geisio cadw y clerigwyr o fewn terfynau Protestaniaeth. Ond, hyd yn hyn, nid oes neb wedi llwyddo. Y mae ymddygiadau y Clerigwyr Defodol yn ein hatgofio yn barhaus o'r disgrifiad roddir i ni o'r dyn hwnnw oedd a'i drigfan ynghell y beddau, Oherwydd ei rwymo ef yn fynnych a llyfetheiriau ac a chadwynau, a darnio ohono'r cadwynau, a dryllio'r llyfetheiriau, ac ni allai neb ei ddofi ef." Ar lawer golwg, nid yw yn syndod yn y byd fod ar yr Esgobion ofn y math yma o greadur sydd mor amharch- us o bob cyfyngiad roddir arno. Fel asyn gwyllt Job, efe a chwardd am ben lliaws tref o esgobion, ac ni wrendy ar lais unrhyw gonvocasiwn o ddeoniaid ymyrgar Dyma'r hyn ddychrynodd Esgob Rhyd- ychen. Taenir y chwedl fod adroddiad y Ddirprwyaeth yn condemnio syniad yr Uchel Eglwyswyr o barthed i bresen- oldeb gwirioneddol Crist yn y Cymun Os yw hyn yn wir, medd y Defodwyr, yr Eglwys Babaidd yw'r unig un sydd yn dilyn traddodiad ac yn diogelu parhad syniadaeth ac arferion yr Eglwysi Cyntef- ig! Ystyr cwyn Riley a'i frodyr defodol yw hyn: Os yw adroddiad y ddirprwy- ) aeth yn mynd i gondem nioathrawiaeth y Real Presence, fel y'i gelwir, yr ydym ni, y Sacramentariaid Defodol, yn myned drosodd at yr Eglwys Babaidd. Gwarchod pawb Dyma aflwydd a dinystr Gwareded nef a daear ni rhag y fath drychineb, medd yr Esgob, bron ar golli ei anadl, a'i ruddiau'n welwon. Nid ydym ni, anwyl gariadus frodyr, yn meddwl am gondemnio yr athrawiaeth, er fod y Blaid Efengylaidd yn ei sel ddallbleidiol yn haeru mai cyfeiliornad Pabaidd yw y cyfryw Yr oil a ddymunwn ni ei argymell i chwi yw peidio dyrchafu yr elfennau, y bara a'r gwin, pan yn gweinyddu yr Ordinhad. Os gwnewch hyn, daw pawb i wybod eich bod yn dal, nid yn unig fod yr el- fennau wedi cael eu troi'n wyrthiol i fod yn gorff a gwaed yr Iesu, ond hefyd eich bod yn ail actio y Croeshoeliad a'r Iesu yn ail gyflwyno ei Hun yn Aberth. Cedwch yr athrawiaeth yn nirgelfa eich argyhoeddiad personol. Ond na fyddwch anoethed a chyhoeddi hynny yn nefod y Mass, a bydd popeth yn dda. Hyn, ni a dybiwn, yw cnewyllyn dysgeidiaeth Esgob Rhydychen i'w Arch- esgob er mwyn cadw Riley, Arglwydd Halifax, Arglwydd Hugh Cecil, a'i can- lynwyr yn ddiddig a thawel yn Eglwys Loegr! Yn sicr ddigon, y mae'n anodd i'r Protestaniaid yn yr Eglwys ac oddi allan iddi allu cydymdeimlo a phryder yr Esgobion. Anodd cyfrif am y ffaith mai pleidwyr y Sacramentariaid Pabaidd hyn ar y Fainc Esgobol ac ymhlith urddas- olion eglwysig sydd yn cyfansoddi y gallu llywodraethol er's amser hir bellach. Gydag ychydig eithriadau, nid oes amheu- aeth nad yw'r esgobion yn cydymdeimlo'n ddwfn a syniadau y Sacramentariaid a'r Defodwyr. Mae surdoes Pabaidd yn ymweithio yn araf ond yn effeithiol yng nghorff clerigwyr yr Eglwys Wladol, nes ei lefeinio hi ag ysbryd ac egwyddor- ion Eglwys Rhufain. Paham y cwynir yn erbyn hyn ? Paham, meddir, na chaniateir iddynt ryddid i ddala dysgu yr athrawiaethau a gredir ganddynt ? Boed felly yn ol eu dymuniad, ond ar y telerau iddynt wneud hynny ar eu traul eu hunain, ac nid fel swyddogion cyflogedig Llywodr- aeth Brotestanaidd. Pe na baent wedi ymrwymo adeg eu hordeiniad i ddal a dysgu yr athrawiaethau a ystyrir yn Bro- testanaidd, ni allesid edliw iddynt eu hanghysondeb. Ond yn awr, bleiddiaid Pabaidd yng nghrwyn Protestaniaid ydynt Mae hyn yn dwyll rhagrithiol ac yn peryglu moesoldeb a chrefydd yn ein mysg. Y mae'n ymgais i ddyrchafu pwysigrwydd y clerigwr ar draul materoli a dirmygu yr elf en ysbrydol a phersonol ynglyn a'n cadwedigaeth. Yn ol athraw- iaeth y Real Presence, mae yr offeiriad yn wyrthiol yn troi y bara a'r gwin yn wir gorff a gwir waed yr Iesu. Yr ydys, felly, yn llythrennol yn cyfarfod.; telerau bywyd tragwyddol. Yr hwn sydd yn fy mwyta i a fydd byw trwof fi." Mor syml, ond mor faterol! Derbynir y bywyd cadwedigol yn y Bedydd Porth- ir y cyfryw fywyd ysbrydol gan y bara a'r gwin yn y Cymun oherwydd fod Iesu yn wirioneddol a chorfforol bresennol ynddo pan y gweinyddir yr ordinhad gan glerigwr yn y wir olyniaeth apostolaidd A fu erioed y fath wrthun-ddarlun (caricature) o Gristionogaeth ? Pa ryfedd fod hunanbarch pobl yn meddu ar synnwyr cylfredin, heb son am unrhyw fewn- welediad ysbrydol, yn ccfiai ar y cyfryw gyfundrefn ? Ond fe ganfyddir hefyd ei bod yn gyfundrefn rwydd a rliad. Mil mwy dymunol yw bwyta'r Iesu yn y Cymun na chyfranogi drwy ffydd o'i ysbryd a byw ei fywyd sanctaidd a hunan- aberthol. Ond y syndod yw na b'ai y Blaid Efengylaidd a Phrotestanaidd yn galw yn fwy cyffredinol am Ddat- gysylltiad a Dadwaddoliad yr Eglwys. Ar hyn o bryd defnyddir y cysyllt- iad a'r Wladwriaeth gan y Blaid Babaidd^i'w galluogi ynlfwy effeithiol i ddinystrio ein Protestaniaeth. Dyma wendid yr Efengyliaid. Ymddiriedant ormod yn nerth y gallu gwladol, a rhy fach yn nerth y gwirionedd a nerth cariad calonnau Cristionogol. Ond rhagwelant hefyd y bydd i'r Defodwyr alw am Ddat- gysylltiad yn hytrach nag ildio. Hyn yw eu nerth hwy. Y mae'r hyn a bro- ffesant gredu yn argyhoeddiadau cryfion ynddynt. Dylid, wrth gwrs, eu gwasgu i ymddwyn yn gyson a'r Rubric a, dysgu yn gyson a'r deugain erthygl namyn un. Tra yn derbyn tal am hynny, dylid eu gorfodi i gydymffurfio a'r telerau. Ond y mae'n amlwg nas plygant i Esgob na Senedd. Boed felly. Yna nid oes yn aros ond Datgysylltiad. Mae rhesymeg angenrheidrwydd, fel y dywedir, yn gwthio'r Eglwys a'r Senedd i alw am hyn. Allan o'r bwytawr y daeth bwyd, ac o'r cryf y daeth allan feluster." Pleidwyr ffyddlonaf Ymneilltnaetli yw yr Uchel Eglwyswyr. A'r Blaid Efengyl- aidd, er ei holl gri dros wirioneddau Protestaniaeth, fydd yr olaf i ymddiried yng ngallu y cyfryw wirioneddau i lwyddo heb nodded y gallu gwladol.

Advertising